Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Conference Room 1a, County Hall, Ruthin
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Nid oedd yna ymddiheuriadau. |
|
DATGANIAD O FUDDIANNAU Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu niweidiol
mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Gwahoddwyd Aelodau i ddatgan
unrhyw fuddiannau personol neu niweidiol mewn unrhyw fusnes a oedd wedi ei nodi
i’w ystyried yn y cyfarfod. Cofnodion: Gwahoddwyd Aelodau i ddatgan
unrhyw fuddiannau personol neu niweidiol mewn unrhyw fusnes sydd wedi ei nodi
i’w ystyried yn y cyfarfod. PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn nodi nad oedd yna unrhyw ddatganiadau o fuddiant. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried
yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol
1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y
Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4)
Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y
Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4)
Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
I dderbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
Ionawr 15fed, 2013 [copi’n amgaeedig]. Penderfyniad: Cyflwynwyd Cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar Fawrth
20fed 2012. PENDERFYNWYD:- cymeradwyo Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar Ionawr 1tfed
2013 yn gofnod cywir a’u harwyddo gan yr Arweinydd. Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar Fawrth
20fed 2012. PENDERFYNWYD:- cymeradwyo Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar Ionawr 15fed 2013 yn gofnod cywir a’u
harwyddo gan yr Arweinydd. |
|
ADRODDIAD DIWEDDARU ARIANNOL PDF 116 KB I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau (copi’n amgaeedig) yn nodi’r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cyflwynodd y
Cynghorydd J. Thompson Hill yr adroddiad a oedd yn manylu ar gyllideb refeniw a
chynilion y Cyngor fel y’u cytunwyd ar gyfer 2012/13, fel ag ar ddiwedd Ionawr
2013. Roedd yn darparu diweddariad cryno
o’r Cynllun Cyfalaf, safle ariannol
cyfredol y Cyngor a cheisiai gymeradwyaeth i argymhellion a wnaethpwyd gan y Grŵp
Buddsoddi Strategol. PENDERFYNWYD – bod y Cabinet:- (a)
Yn
nodi’r cyllidebau a’r targedau arbedion am y flwyddyn, fel y’u nodir yn yr
adroddiad, a’r cynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd (b)
Yn
cytuno i’r ariannu gwaith dichonolrwydd o ran Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol
Gymunedol Bodnant, Prestatyn hyd y swm o £1.8 miliwn Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd J. Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn manylu ar gyllideb refeniw a
chynilion y Cyngor fel y’u cytunwyd ar gyfer 2012/13, fel ag ar ddiwedd Ionawr
2013. Roedd yn darparu diweddariad cryno
o’r Cynllun Cyfalaf, safle ariannol presennol y Cyngor a cheisiai gymeradwyaeth
i argymhellion a wnaethpwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol. Esboniodd bod rhagolygon diweddaraf y
gyllideb refeniw wedi eu cynnwys fel Atodiad 1 ac roedden nhw’n dynodi
tanwariant ar draws cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol o £631k (£435k y mis diwethaf), sy’n cynrychioli amrywiant o
0.55% ar draws cyfanswm y gyllideb net.
Ynglŷn â safle ysgolion, y rhagolygon ydi symudiad net positif ar
weddillion o £286k ar gyllidebau dirprwyedig a £161k ar gyllidebau ysgol
annirprwyedig. Roedd crynodeb o’r Cyfrif
Refeniw Tai wedi ei gynnwys yn Atodiad 1 er gwybodaeth ond roedd hon yn gronfa
ar wahân ac nid yn rhan o brif gyllideb refeniw’r Cyngor. Roedd Atodiad 2 yn rhoi diweddariad
ar gynnydd yn erbyn yr arbedion a’r pwysau a gytunwyd yn rhan o broses gosod
cyllideb ar gyfer 2012/13. Efo’i gilydd, fe gytunwyd ar arbedion net o
£3.443m ac mae £3.102m (90%) wedi eu cyflawni gyda £316k (9%) wedi ei
ddosbarthu i fod ar y gweill ac roedd £25k (1%) wedi ei ohirio tan y flwyddyn
nesaf. Roedd y gohiriad yn ymwneud ag
arbedion oherwydd rhesymoliad printiwr.
Fe ystyrid fod pob un o’r eitemau
a oedd ar ôl ac a oedd wedi eu dosbarthu i fod ‘ar y gweill’ yn gyraeddadwy,
ond gyda’r rhan fwyaf roedd angen dadansoddiad o weithgaredd blwyddyn gyfan i
asesu’n briodol a oedd y mesur arbed a restrwyd wedi ei gyflawni mewn
gwirionedd. Rhoddodd y Cynghorydd Thompson-Hill grynodeb o’r
Cyllidebau Gwasanaeth canlynol a oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad:- ·
Cynllunio Busnes a Pherfformiad ·
Gwasanaethau Oedolion a Busnes ·
Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylchedd ·
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ·
Cysylltiadau, Marchnata a Hamdden ·
Cymorth Cwsmeriaid ac Addysg ·
Gwella Ysgolion a Chynhwysiant ·
Ysgolion ·
Cyllidebau Corfforaethol Esboniodd bod costau ychwanegol
yr ymateb ar unwaith i ddigwyddiadau’r llifogydd diweddar wedi dod dan
drothwy’r Cynllun Cymorth Ariannol Brys, ac roedd yna dybiaeth y byddai’r
Cyngor yn ariannu’r gost. Cadarnhaodd y
Pennaeth Cyllid ac Asedau fod hawliad am bob costau cymwys wedi ei gyflwyno i
Lywodraeth Cymru ar gyfer cyllid disgresiynol.
Roedd yna gostau cyfredol yn ymwneud ag eithriadau rhag Treth Gyngor ac
roedd pwysau pellach a oedd yn ymddangos wedi codi o ddirwyn y ‘Mutual
Municipal Insurance Company’ i ben yn 1992, gan y byddai Aelodau’r Awdurdod
Lleol yn gyfrifol am atebolrwydd a oedd yn dal i godi o ran digwyddiadau cyn 1992.
Esboniodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau y byddai Sir Ddinbych yn talu
cyfran o’r hawliadau atebolrwydd, yn seiliedig ar ffigurau poblogaeth a
fyddai’n oddeutu 20% o’r costau. Dywedodd wrth Aelodau y byddai cronfa wrth
gefn yn cael ei hadeiladu i mewn i’r gyllideb a byddai manylion y costau’n cael
eu cynnwys yn yr adroddiad cyllid nesaf i’r Cabinet. Roedd yna atebolrwydd potensial o ran cyn
Gyngor Bwrdeistref Rhuddlan, ac roedd atebolrwydd ychwanegol yn awr yn codi o
ran cyn Gyngor Sir Clwyd. Roedd swm
atebolrwydd potensial Clwyd yn ansicr ac roedd cyfanswm amlygiad y Cyngor i
hawliadau Clwyd oddeutu £2.5m, ond roedd yn annhebygol y byddai’r atebolrwydd
yn cael ei sbarduno ar y lefel yma. Roedd cyfraddau casglu Treth Gyngor yn well na’r rhagdybiaethau ac fe dybiwyd y byddai unrhyw fantais yn cael ei ddefnyddio i gyfrannu tuag at ariannu blaenoriaethau buddsoddi strategol y Cyngor yn rhan o’r Cynllun Corfforaethol. Cadarnhaodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill y byddai’r manylion llawn yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad diwedd blwyddyn. Roedd gwariant hyd at ddiwedd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYFRIF REFENIW TAI / CYLLIDEBAU REFENIW A CHYLLIDEBAU CYFALAF 2013/14 PDF 115 KB I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod
Arweiniol dros Gwsmeriaid a Chymunedau (copi’n amgaeedig) ar y Cyfrif Refeniw
Tai Blynyddol a’r Cynnydd yn Rhenti Tai. Penderfyniad: Cyflwynodd y Cynghorydd H.C. Irving yr adroddiad a
oedd yn ceisio cymeradwyaeth i’r Cyllidebau Cyfrif Refeniw Tai a Chyfalaf ar
gyfer 2013/14. PENDERFYNWYD:- (a) Mabwysiadu
Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2013/14, Atodiad 1, a Chynllun Busnes y
Stoc Tai, Atodiad 2. (b) Cynyddu
rhenti aneddiadau’r Cyngor yn unol â’r canllaw Polisi Gosod Rhent gan
Lywodraeth Cymru a hynny’n weithredol o ddydd Llun, Ebrill 1af 2013 (c) Cynyddu
rhenti garejis y Cyngor a Thaliadau Gwresogi’n unol â Rhenti Canllaw a hynny’n
weithredol o ddydd Llun Ebrill 1af 2013. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd H.C. Irving yr adroddiad a
oedd yn ceisio cymeradwyaeth i’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Cyllidebau Cyfalaf ar
gyfer 2013/14. Mynegodd y Cynghorydd M.Ll. Davies
fudd personol gan ei fod yn rhentu garej gan y Cyngor. Cyflwynodd y Cynghorydd Irving yr adroddiad ac
esboniodd y byddai angen sefydlu’r gyllideb ar gyfer 2013/14 i gydymffurfio â’r
Cynllun Busnes Stoc Tai a sefydlwyd pan benderfynodd y Cyngor i gadw ei stoc
tai ac ariannu gwelliannau i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn diwedd 2013
a’i gynnal tan 2014. Roedd y rhagolygon
alldro diweddaraf wedi eu nodi yn
Atodiad 1 ac roedd gweddillion ar ddiwedd blwyddyn wedi eu darogan i fod yn
£857,000, gwelliant o £17k o’i gymharu â
rhagolygon yr alldro ar gyfer Rhagfyr 2012.
Roedd y gyllideb arfaethedig ar gyfer 2013/14 wedi ei nodi yn Atodiad 1. Fe grynhodd y Prif
Gyfrifydd y broses o gyfrifo’r gyllideb, a amlinellwyd yn yr adroddiad, ac
roedd Penderfyniadau Cymhorthdal Terfynol y Cyfrif Refeniw Tai ar
ddigwydd. Roedd y Penderfyniad yn
rheoli’r cymhorthdal negyddol a delid i Lywodraeth Cymru’n flynyddol ac fe
dybiwyd fod yna godi “Rhenti Awgrymedig”, bod costau “Rheoli a Chynnal” yn benodedig
a bod yna ad-dalu cyfalaf â chymorth hŷn.
Roedd cyfrif “tybiannol” y Cyfrif Refeniw Tai a gynhyrchwyd o’r
cyfrifiad â gwarged ac yn cael ei dalu i Lywodraeth Cymru ac yna i’r Trysorlys
fel cymhorthdal negyddol. Roedd yn
annhebygol y byddai yna unrhyw newid arwyddocaol i System Gymorthdaliadau’r
Cyfrif Refeniw Tai tan 2014. Roedd
Llywodraeth Cymru wedi dynodi y byddai’n gohirio’r polisi cydgyfeirio rhenti am
flwyddyn arall ac yn lleihau’r Rhent Awgrymedig i 1% yn uwch na ffigwr
chwyddiant Medi 2012 a chanlyniad hyn oedd yr argymhellion canlynol gan
Lywodraeth Cymru:- ·
Lwfansau
Rheoli a Chynnal i’w codi o 6.6% i £2,610 o’i gymharu â £2,267 yr annedd yn
2012/13. ·
Cynnydd
yn y Rhent Awgrymedig i £69.45 yr annedd yr wythnos sy’n cyfartalu i gynnydd wythnosol
o £3.37 neu 5.18%. ·
Byddai
Rhenti Meincnod (RSL) yn codi i £75.21 o £72.95, cynnydd o £2.26 sy’n cyfartalu
i godiad o 3.10%. Byddai taliad Cymhorthdal amcangyfrifiedig
y Cyfrif Refeniw Tai i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2013/14 yn gyfanswm o £3,243,000,
cynnydd o 5.3% o’i gymharu â 2012/13.
Roedd manylion y gwaith a wnaethpwyd gan y Gwasanaethau Tai ar rychwantu
effaith y diwygio lles a datblygu strategaethau i reoli a lliniaru’r risgiau
sy’n gysylltiedig ag o, wedi eu crynhoi yn yr adroddiad. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Moderneiddio a Lles y byddai pob tenant a oedd wedi ei effeithio’n cael eu
cynorthwyo â chyngor ar opsiynau tai ac roedd y gwasanaeth wedi ei
ailstrwythuro i greu swyddogaeth reoli incwm bwrpasol i ddatblygu dull mwy rhagweithiol
ac ymyraethol o reoli a lliniaru risgiau o ôl-ddyledion cynyddol o ganlyniad i
ddiwygiadau lles ehangach. Fe
gymeradwywyd fod pob tenant yn talu’r Rhent Awgrymedig uwch ar gyfer 2013/14 ac
roedd crynodeb o’r taliadau sy’n cael eu cymhwyso i’r stoc wedi ei roi yn yr
adroddiad. Esboniodd y Rheolwr Tai Cymunedol y byddai
Cynllun Busnes y Stoc Tai’n cael ei fonitro ac y byddid yn cynnal ymarferiad
Diwydrwydd Dyladwy yn flynyddol. Roedd
yr adolygiad diweddaraf yn cadarnhau fod llawer o’r rhagdybiaethau gwreiddiol
yn dal heb eu haltro a’r casgliad oedd bod y Cynllun Busnes yn hyfyw ac yn
gadarn ac y byddai’r cynllun yn hyfyw am y 30 mlynedd nesaf. Esboniodd y Rheolwr Tai Cymunedol bod arolwg cyflwr stoc 2012 wedi nodi angen am wariant ychwanegol sylweddol yn y 30 mlynedd nesaf a hynny’n amrywio o £50miliwn i £33 miliwn. Byddai’r cynllun yn hyfyw dros y cyfnod o 30 mlynedd gyda gweddillion yn codi o £43 miliwn o ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
STRATEGAETH GYFATHREBU PDF 105 KB I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod
Arweiniol dros Gwsmeriaid a Chymunedau (copi’n amgaeedig) yn manylu ar ddull
amcanion cyfathrebu ac egwyddorion y Cyngor yn y tair blynedd i ddod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cyflwynodd y Cynghorydd H.C. Irving yr adroddiad a oedd yn
mynegi amcanion Cyfathrebu’r Awdurdod am y tair blynedd nesaf, gydag adrannau
allweddol yn ymwneud â chysylltiadau ac ymgysylltu mewnol, cysylltiadau
Aelodau, gwella enw da’r Cyngor a gwella’r brand corfforaethol. PENDERFYNWYD:-bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Strategaeth
Gyfathrebu Gorfforaethol a’r Cynllun Gweithredu cysylltiedig ar gyfer 2013. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd H.C. Irving yr adroddiad a oedd yn
mynegi amcanion Cyfathrebu’r Awdurdod am y tair blynedd nesaf, gydag adrannau
allweddol yn ymwneud â chysylltiadau ac ymgysylltu mewnol, cysylltiadau
Aelodau, gwella enw da’r Cyngor a gwella’r brand corfforaethol. Roedd y Cyngor yn
ailstrwythuro ei swyddogaethau Cyfathrebu a Marchnata i fodloni’r gofynion a
ddiffinnir yn y Cynllun Corfforaethol.
Byddai’r Cyngor yn mabwysiadu dull gweithredu rhagweithiol gyda
marchnata a chyfathrebu ac yn parhau ag adolygiadau cyson o’r ffordd y mae’n
cyfathrebu i gyfarfod ag anghenion preswylwyr ac ymwelwyr. Y ffocws allweddol ar gyfer yr adran newydd
fyddai creu Strategaeth Farchnata i Sir Ddinbych, a fyddai’n cydnabod yr angen
am Strategaeth Gyfathrebu Gorfforaethol i danategu pob gweithgaredd cyfathrebu
o fewn yr Awdurdod. Roedd manylion
gyrwyr eraill ar gyfer y Strategaeth wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad ac fe
gyfeiriwyd at:- • Ddogfen
y Prif Weithredwr, ‘Cyngor Ardderchog yn Nes at y Gymuned’ sy’n amlinellu’r
angen i ddod yn nes at y gymuned. • Yr
angen i Aelodau ddod yn genhadon i’r Cyngor. • Y
safle ariannol sydd angen ffordd gallach o gyflenwi a’r angen am gyfathrebu mwy
effeithiol. • Adborth
gan breswylwyr. • Angen
i gryfhau gweithgaredd cyfathrebu mewnol yn fewnol a chyda chynulleidfaoedd
allanol. • Gwella
cysylltiadau â Chynghorau Tref a Chymuned. Byddai Cynllun
Gweithredu cydlynol yn delio â sialensiau cyfathrebu’r Awdurdod yn y
dyfodol. Byddai’n cynnwys marchnata
gwasanaethau’r cyngor, marchnata cyrchfannau, digwyddiadau mawr, cyfryngau
cymdeithasol a datblygu’r we. Mewn
ymateb i gwestiynau gan yr Arweinydd fe gadarnhaodd y Rheolwr Cysylltiadau
Corfforaethol a Marchnata y byddid yn delio â datblygiad polisi’r iaith Gymraeg
a chyflwyniad safonau newydd a osodwyd gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg drwy
ailsefydlu fforymau dwyieithog Aelodau.
Esboniodd y Pennaeth Cymunedau, Marchnata a Hamdden fod Sir Ddinbych
wedi bod yn rhagweithiol yn cyfarfod â gofynion Safonau’r Iaith Gymraeg a oedd
yn ymddangos. Ynglŷn â delio â
Mesurau Llywodraeth Leol o ran cynorthwyo a gwella cysylltiadau Aelodau yn y
gymuned, cyfeiriodd y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden at y gwaith a
wnaethpwyd o fewn y Cynllun Cysylltiadau, Grwpiau Ardal Aelodau, Clystyrau
Trefol, Cymunedol a Strategaeth Gwsmeriaid y Cyngor. Roedd yr adroddiad
yn darparu gwybodaeth ar y ffordd y byddai’r penderfyniad yn cyfrannu tuag at y
Blaenoriaethau Corfforaethol, effaith costau ar wasanaethau eraill, costau’n
codi o weithgareddau cyfathrebu, ymgynghoriadau a gynhelir a risgiau posib a’r
dulliau i'w lleihau. Yn ateb i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd W.L. Cowie ynglŷn ag
amseroedd ymateb Rheolaeth Cysylltiadau Cwsmeriaid, esboniodd y Cynghorydd H.C.
Irving bod y mater yma wedi ei godi â’r Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg,
a chytunodd i gysylltu â’r Cynghorydd Cowie ar y mater yma. Hysbyswyd y Cynghorydd M.Ll. Davies y byddai
cwynion a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu hateb yn Gymraeg. Fe atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid fater a godwyd gan y
cynghorydd B.A. Smith a chytunodd i ddarparu manylion yn ymwneud â’r diffyg
ymateb a gafwyd i Siarter y Cynghorau Tref a Chymuned. Cytunodd Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Moderneiddio a Lles i gyfleu pryderon a fynegwyd gan Aelodau ynglŷn â gweithrediad
i-Pads. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, fe amlinellodd y
Cynghorydd H.C. Irving yr argymhellion
yn yr adroddiad a dywedodd wrth Aelodau y byddai eu pryderon ynglŷn â
Gwasanaethau Cwsmeriaid a Chysylltiadau’n cael eu cyfleu i’r Pennaeth Cwsmeriaid
a Chymorth Addysg. PENDERFYNWYD:-
bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Strategaeth Gyfathrebu Gorfforaethol a’r Cynllun
Gweithredu cysylltiedig ar gyfer 2013. |
|
STRATEGAETH GWYBODAETH AC YMGYNGHORI GOFALWYR GOGLEDD CYMRU PDF 95 KB I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod
Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant (copi’n amgaeedig) ar
weithrediad y Mesur Strategaethau Gofalwyr (Cymru) 2010 newydd fel y’i mynegir yn Strategaeth Gwybodaeth ac Ymgynghori
Gofalwyr 2012 – 2015. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cyflwynodd y Cynghorydd R.L. Feeley yr adroddiad a
oedd yn manylu ar weithrediad Mesur newydd y Strategaethau Gofalwyr (Cymru)
2010 (y Mesur Gofalwyr) fel y’i mynegir yn y Strategaeth Gwybodaeth ac
Ymgynghori ar gyfer Gofalwyr Gogledd Cymru 2012 – 2015. PENDERFYNWYD:- bod y Cabinet yn cymeradwyo Strategaeth
Gwybodaeth ac Ymgynghori ar gyfer Gofalwyr, 2012-2015, a’r dull partneriaeth â
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r trydydd sector o ran ei gweithrediad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
R.L. Feeley yr adroddiad a oedd yn nodi gweithrediad Mesur newydd Strategaethau
Gofalwyr (Cymru) 2010 (y Mesur Gofalwyr) fel y’i mynegir yn Strategaeth
Gwybodaeth ac Ymgynghori Gofalwyr Gogledd Cymru 2012 - 2015. Mae copi o’r Strategaeth Ranbarthol wedi ei
gynnwys fel Atodiad 1 i’r adroddiad. Roedd y Strategaeth Ranbarthol wedi ei chymeradwyo gan
Lywodraeth Cymru ac roedd angen i bob un o’r chwe Awdurdod Lleol yng Ngogledd
Cymru graffu a chymeradwyo’r Strategaeth Ranbarthol. Fe amlinellodd yr adroddiad y ffordd y
byddai’r Strategaeth Ranbarthol yn delio â gofynion y Mesur Gofalwyr ac roedd y
Pwyllgor Craffu Partneriaethau wedi mynegi eu cefnogaeth i weithrediad y
Strategaeth. Roedd y Mesur, y Rheoliadau a’r Cyfarwyddyd ar weithredu’r
Mesur wedi eu rhoi i bob Bwrdd Iechyd Lleol a phob Ymddiriedolaeth, ac i’r
Gwasanaethau Cymdeithasol (yr ‘awdurdodau dynodedig’) yn Ionawr 2012, a dyma’r
tro cyntaf i ddyletswyddau statudol gael eu rhoi ar Awdurdodau Iechyd yng
Nghymru. Roedd y Pwyllgor Craffu Partneriaethau wedi ystyried
adroddiad a oedd yn amlinellu gofynion Mesur Strategaethau Gofalwyr (Cymru)
2010, a’r gofyniad yn arbennig i gyhoeddi a gweithredu Strategaeth Wybodaeth ac
Ymgynghori ranbarthol i Ofalwyr. Fe esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes bod y
Byrddau Iechyd Lleol wedi eu dynodi’n ‘awdurdod arweiniol’ yng ngweithrediad
Rheoliadau’r Mesur Gofalwyr a bod Grŵp Strategol Arweinwyr Gofalwyr
Gogledd Cymru wedi ei sefydlu yn 2011 i ddatblygu’r Strategaeth
Ranbarthol. Yn ogystal, roedd BIPBC wedi
sefydlu Bwrdd Prosiect Mesur Strategaethau Gofalwyr (Cymru) i graffu gwaith
Grŵp Strategol Arweinwyr Gofalwyr Gogledd Cymru a darparu cyngor a
sicrwydd i’r Bwrdd Iechyd ei fod yn cyfarfod â’i gyfrifoldebau o ran y Mesur
Gofalwyr. Roedd Llywodraeth Cymru wedi casglu bod y Strategaeth yn
rhagweithiol ac yn arddangos gweithio cryf mewn partneriaeth rhwng y Bwrdd
Iechyd, y chwe Awdurdod Lleol a sefydliadau’r Trydydd Sector. Roedd rhai meysydd i’w gwella wedi eu nodi ac
roedd y rhain yn cynnwys yr angen am bennod ar wahân ar ofalwyr ifanc, cryfhau
rhai o’r Camau Allweddol ar gyfer Blwyddyn 3, yn enwedig y rheiny ar
hyfforddiant staff a gofalwyr, a mynegi sut y byddai’r Strategaeth yn
berthnasol i gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a grwpiau eraill sydd
â nodweddion a ddiogelir. Roedd angen
cryfhau elfen iechyd meddwl y Strategaeth hefyd ac roedd Llywodraeth Cymru’n
edrych ar ffyrdd o ddarparu cymorth i’r Byrddau Iechyd. Roedd amcanion allweddol y Strategaeth Ranbarthol yn
cynnwys:- o
Bydd holl weithwyr proffesiynol y GIG a’r
awdurdod lleol yn cael eu hysbysu o’u cyfrifoldebau o ran y Mesur Gofalwyr drwy
godi ymwybyddiaeth oportiwnistig a hyfforddiant staff. o
Fe
gaiff gofalwyr eu nodi gyn gynted ag sydd bosib. o
Fe roddir gwybodaeth amserol ddigonol i ofalwyr
yn ôl eu hanghenion. o
Pan
fydd cydsyniad claf yn cael ei atal, fe ddarperir gofalwyr â chymaint o
wybodaeth ag sy’n bosib ei rhannu heb dorri cyfrinachedd y claf, i’w galluogi i
ymgymryd â’u rôl o ofalu’n ddiogel. o
Fe hysbysir pob gofalwr o’u hawl i asesiad
annibynnol o’u hanghenion cymorth fel gofalwr o
Bydd gofalwyr yn cael eu cynnwys yn naturiol yn
yr holl brosesau penderfynu ynghylch rheolaeth gofal. o
Mae staff y GIG yn gallu cyfeirio gofalwyr a
fydd wedi eu nodi at sefydliadau cymorth i ofalwyr. Er mwyn bodloni’r amcanion hyn, mae’r Strategaeth Ranbarthol
yn mynegi’r camau allweddol o ran: o
Nodi a Chyfeirio Gofalwyr o
Asesiadau o Anghenion Gofalwyr o
Darpariaeth gwybodaeth o
Cyfathrebu ac ymgynghori â Gofalwyr o
Hyfforddiant Staff a Hyfforddiant Gofalwyr o
Monitro
effaith y Mesur Gofalwyr Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion y ffordd yr oedd y penderfyniad yn cyfrannu tuag at y Blaenoriaethau Corfforaethol, effaith y costau ar wasanaethau eraill, y costau ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
DIGWYDDIAD SEICLO ETAPE CYMRU 2013 PDF 88 KB I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Jones, Aelod
Arweiniol dros Dwristiaeth, Marchnata a Hamdden (copi’n amgaeedig) yn nodi
digwyddiad seiclo ffyrdd caeedig Etape
Cymru sydd i ddigwydd yn y Sir ym Medi, 2013. Penderfyniad: Cyflwynodd y Cynghorydd H.Ll. Jones yr adroddiad a
oedd yn rhoi manylion ar ddigwyddiad seiclo ffyrdd caeedig Etape Cymru a oedd i
ddigwydd yn y Sir ym Medi, 2013. PENDERFYNWYD – bod y Cabinet (a)
yn
nodi’r trefniadau i ddelio â’r pryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor Craffu
Cymunedau, fel y’u hamlinellir yn 9.1 i 9.9 yn yr adroddiad. (b)
yn
cadarnhau’r cau ffyrdd ac yn cefnogi cynnal y digwyddiad (c)
yn gofyn i’r trefnwyr ddiweddaru Aelodau Lleol ar y cynnydd o ran
y pryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau a’r Grŵp Ymgynghorol
Diogelwch bob tri mis. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd H.Ll. Jones yr adroddiad a
oedd yn darparu manylion digwyddiad seiclo ffyrdd caeedig Etape Cymru sydd i’w gynnal yn y Sir ym Medi, 2013. Roedd y Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi rhoi cefnogaeth
ddiamod i’r digwyddiad yn amodol ar ddelio â rhai pryderon a phenderfyniad gan
y Cabinet ar Orchmynion Cau Ffyrdd arfaethedig.
Roedd manylion digwyddiad Etape Cymru, ei
lwyddiant blaenorol a’r manteision i’r ardal, wedi eu crynhoi yn yr adroddiad. Esboniodd
y Cynghorydd Jones, er nad oedd Sir Ddinbych yn uniongyrchol gysylltiedig â
chynllunio’r digwyddiad, roedd y trefnwyr wedi pwysleisio y byddai’n annhebygol
o fynd yn ei flaen heb gefnogaeth Cynghorau Sir Ddinbych a Wrecsam. Prif swyddogaeth Sir Ddinbych fyddai hwyluso
trafodaethau ynghylch materion priffyrdd a diogelwch. Roedd crynodeb o’r pryderon sy’n ymwneud ag
agweddau arbennig ar y ras wedi eu cynnwys yn adran 9 yr adroddiad, ac roedd y
trefnwyr yn delio â’r rhain. Roedd Sir Ddinbych wedi parhau â’i
chysylltiad rheolaidd â ‘Human Race’, trefnwyr Etape Cymru a Chyngor
Bwrdeistref Sirol Wrecsam ynglŷn â digwyddiad 2012 ac roedd cynlluniau’n
awr ar y gweill ar gyfer digwyddiad 2013.
Roedd y trefnwyr wedi cyfarfod â’r Grŵp Ymgynghorol Diogelwch ac
Aelodau Lleol i adolygu digwyddiad 2012 ac roedden nhw wedi derbyn argymhellion
y Grŵp i osgoi unrhyw broblemau yn 2013. Roedd nifer o’r risgiau a’r pryderon a nodwyd gan y Pwyllgor
Craffu Cymunedau wedi eu crynhoi yn yr adroddiad yn adrannau 9.1 i 9.9, ynghyd
â rhai cynlluniau adferol sydd i’w gweithredu i liniaru’r risgiau wrth symud
ymlaen. Roedd y rhain yn cynnwys:- ·
Cysylltiadau
â phreswylwyr a pherchnogion tir sy’n byw ar hyd lwybr y ras. ·
Atebolrwydd
cyhoeddus. ·
Canlyniadau
unrhyw asesiadau risg a wnaethpwyd o ran materion atebolrwydd cyhoeddus. ·
Stiwardio
annigonol. ·
Dilysrwydd
ffigurau ar fudd economaidd. ·
Dechrau’r
digwyddiad yn gynharach yn y dydd. ·
Ymglymiad
Aelodau yn y Grŵp Ymgynghorol Diogelwch. ·
Fforio
cyfleoedd i farchnata Sir Ddinbych fel cyrchfan. Roedd Sir Ddinbych a threfnwyr y digwyddiad wedi trafod
trefniadau ar gyfer digwyddiad ychwanegol ym Mhafiliwn Llangollen i
gyd-ddigwydd â’r broses gofrestru. Y
Gwasanaethau Hamdden fyddai’n ei drefnu a’i arwain gyda chefnogaeth
cynrychiolwyr y gymuned leol, gyda’r nod o sicrhau cefnogaeth leol i’r ras ac
i’r potensial o fantais economaidd o’r digwyddiad. Roedd y trefnwyr
wedi gweithio efo swyddogion Priffyrdd ac Adfywio i ddelio â phryderon a
fynegwyd gan fusnesau. Roedd deunydd i
hyrwyddo a marchnata Sir Ddinbych fel cyrchfan wedi ymddangos ar wefan Etape
Cymru’, ynghyd â gwybodaeth am westai, canolfannau croeso a thai bwyta
lleol. Byddid yn darparu pecynnau
gwybodaeth yn y pwynt cofrestru a byddai’r Cyngor yn defnyddio pob cyfle i
hyrwyddo’r digwyddiad. Dywedwyd wrth yr
Aelodau fod Sir Ddinbych yn hyderus bod y ffigurau a oedd yn ymwneud â mantais
economaidd digwyddiad 2012 yn ddilys. Esboniodd y Cynghorydd D.I. Smith ei fod yn llwyr gefnogi’r digwyddiad
ond teimlai y dylai’r trefnwyr ddarparu sicrwydd y gellid cyflenwi’r digwyddiad
yn unol ag unrhyw gytundebau ac addewidion a ddarparwyd. Esboniodd yr Arweinydd y cafwyd problemau’n
flaenorol yn y maes yma ac fe gynhaliwyd cyfarfodydd efo’r trefnwyr i ddelio
â’r problemau hyn. Pwysleisiodd
bwysigrwydd ymgysylltu â’r gymuned leol a’r Aelodau Lleol priodol. Roedd y Cabinet yn cefnogi’r farn a fynegwyd
gan y Cynghorydd M.Ll. Davies bod y cytundeb gan y trefnwyr i ddelio â
phryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau, fel y’u hamlinellwyd yn
9.1 i 9.9 yr adroddiad, i’w cynnwys yn y penderfyniad. Dywedodd y Pennaeth Cymunedau, Marchnata a Hamdden wrth y Cabinet fod calendr digwyddiadau wedi ei ddatblygu a byddai hwnnw’n darparu Sir Ddinbych â phroses glir ar gyfer rheoli digwyddiadau a byddai’n atgyfnerthu agwedd uchelgais economaidd y Cyngor. Yn ateb i ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
NEWIDIADAU I DREFNIADAU ARIANNU BYSIAU PDF 120 KB I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, yr Aelod
Arweiniol dros Dir y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) sy’n ceisio cymeradwyaeth i’r
trefniadau rheolaeth diwygiedig sy’n angenrheidiol i gyflenwi’r cynllun ariannu
bysiau newydd drwy TAITH, ac i newid i Gyfansoddiad Taith i ganiatáu cyflenwi’r
cynllun newydd. Penderfyniad: Cyflwynodd y Cynghorydd D.I. Smith yr adroddiad a oedd
yn ceisio cymeradwyaeth i’r trefniadau rheoli diwygiedig sy’n ofynnol i
gyflenwi’r cynllun newydd i ariannu bysiau drwy TAITH, y Consortiwm Cludiant
Rhanbarthol, ac i newid i Gyfansoddiad TAITH i ganiatáu cyflenwi’r cynllun
newydd. PENDERFYNWYD – bod y Cabinet:- (a)
yn
nodi’r trefniadau newydd ar gyfer ariannu bysiau i’w gweithredu o Ebrill 1af 2013 yn dilyn cymeradwyaeth i’r adroddiad ar
ariannu bysiau gan y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau. (b)
yn
cymeradwyo’r diwygiadau arfaethedig i Gyfansoddiad TAITH a fynegir yn Atodiad 1
i’r adroddiad (c)
yn
nodi y byddai gwaith pellach yn cael ei fwrw ymlaen i nodi’r trefniadau rheoli
newydd ar gyfer cyflenwi’r cynllun newydd yn ystod y cyfnod gweithredu cychwynnol
a’r cyfnod trosiannol ar gyfer Grant Gwasanaethau Cludiant Rhanbarthol. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd D.I. Smith yr adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer y trefniadau rheoli diwygiedig a oedd yn ofynnol i
gyflenwi’r cynllun ariannu bysiau newydd drwy TAITH, y Consortiwm Cludiant
Rhanbarthol, ac ar gyfer newid i Gyfansoddiad TAITH i ganiatáu cyflenwad y
cynllun newydd. Cyhoeddodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau ei
fwriad i newid y system grantiau a ddefnyddir i gynorthwyo teithio ar fysiau
yng Nghymru. Roedd yr amrywiadau’n awr
wedi eu terfynu ac roedd yr adroddiad yn nodi’r newidiadau ac yn amlygu eu
hoblygiadau. Roedd Grant y Gweithredwyr
Gwasanaethau Bws a ddarperir yn uniongyrchol i weithredwyr bws gan Lywodraeth
Cymru, a Grant Gwasanaethau Cludiant Lleol, a ddarperir i gynorthwyo
rhwydweithiau bysiau lleol, yn darparu cymorth ar hyn o bryd i wasanaethau
bysiau gan Lywodraeth Cymru. Cyfanswm
gwerth cyfunol y grantiau yn 2011/12 oedd £33 miliwn. Yn Ionawr 2012 cyhoeddodd y Gweinidog dros
Lywodraeth Leol a Chymunedau ostyngiad arfaethedig o 25 i 27% yn y ddau
gynllun. Fe fyddai yna gyfnod ariannu
trosiannol tra byddai’r grant yn cael ei gynnal, yn amodol ar adolygiad o
ariannu gwasanaethau bws yn y dyfodol ledled Cymru. Fe weithredwyd cyfnod cyntaf y gostyngiad o
oddeutu 9.5% o Hydref 1af 2012 gyda gostyngiadau lleol yn y llwybrau
bws a gynhelir wedi eu cytuno gan y Cabinet ym Medi 2012. Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r
trefniadau ariannu bysiau diwygiedig ac yn cadarnhau bod yr adroddiad gan y
Grŵp Llywio, a sefydlwyd gan y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a
Chymunedau, yn awr wedi ei gymeradwyo gan y Gweinidog. Roedd egwyddorion allweddol y trefniadau
newydd a oeddid i’w sefydlu o Ebrill 1af 2013 wedi eu cynnwys yn yr
adroddiad, ynghyd ag amlinelliad o’r gwaith a oedd yn ofynnol i sicrhau bod y
consortia, yr awdurdodau lleol a’r gweithredwyr yn barod i weithredu’r system
newydd erbyn Ebrill 1af.
Roedd cynlluniau ar gyfer rheoli a darparu adnoddau ar gyfer y cyfrifoldebau
newydd yn cael eu datblygu’n lleol gan Grŵp Tasg a Gorffen o Reolwyr
Cludiant Gogledd Cymru. Esboniwyd y byddid yn gweithio i
ddeall lefelau presennol y cymorth Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bws ar gyfer
gwasanaethau masnachol a gwasanaethau a gynorthwyir, i bennu gwir lefelau’r
ariannu ar gyfer elfen milltiredd masnachol y grant newydd a lefelau ariannu
sydd ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer gwasanaethau a gynhelir. Roedd y Gweinidog wedi cytuno i gyflwyniad y
system newydd ddigwydd yn gyfnodol.
Byddai rhanbartholiad y Grantiau Gwasanaethau Cludiant Lleol yn mynd yn
eu blaen fel a gynlluniwyd ar Ebrill 1af 2013 gyda newidiadau i
Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bws i’w cyflwyno dros gyfnod o 12 mis. Cadarnhaodd y Cynghorydd Smith fod yna berygl y gallai’r cynigion newydd
effeithio ar rwydweithiau bws presennol yn ystod cyfnod y trawsnewid ac fe
fyddai yna leihad anochel yn nifer y gwasanaethau masnachol a fyddai’n
gweithredu yng Ngogledd Cymru a hynny’n rhoi pwysau ar y rhwydwaith a gynorthwyir. Byddai lefel yr ariannu heb ei neilltuo a
ddyrennir gan Awdurdodau Lleol yn dod dan bwysau wrth i’r newidiadau a’r
gostyngiad yn y gyllideb effeithio ar rwydweithiau. Esboniwyd y byddai perthynas weithio glos
rhwng TAITH a’r Awdurdodau Lleol yn hanfodol i reoli’r newidiadau potensial. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol wrth Aelodau fod Cyfansoddiad presennol TAITH yn cyfyngu ei swyddogaeth i’r nodau a’r amcanion a fynegir ym mharagraffau 3.1 a 3.2 ei Gyfansoddiad. Cynigiwyd diwygio’r Cyfansoddiad drwy ychwanegu'r amcan ychwanegol isod at baragraff 3.2 y ddogfen. Roedd manylion y diwygiadau arfaethedig wedi eu mynegi’n llawn yn Atodiad 1. Ni chynigiwyd unrhyw newidiadau pellach a byddai unrhyw newidiadau pellach i swyddogaeth TAITH angen cymeradwyaeth bellach yr Awdurdodau ... view the full Cofnodion text for item 10. |
|
BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET PDF 116 KB I dderbyn Blaenralgen Waith y Cabinet sy’n amgaeedig a
nodi’r cynnwys Penderfyniad: Cyflwynodd y Cynghorydd H.H. Evans Flaenraglen Waith y Cabinet. Cytunodd Aelodau i’r diwygiadau
canlynol i’r Flaenraglen Waith o ran eitemau busnes a restrwyd yn y dyfodol:- -
Adroddiad ar Gynllunio mewn Argyfwng i’w gynnwys
i’w ystyried yn y cyfarfod ar Fawrth 19eg, 2013. -
Gohirio’r adroddiad ar Fabwysiad Grŵp
Llywio’r Cynllun Datblygu Lleol o’r cyfarfod ar Fawrth 19eg 2013. -
Adroddiad Cynlluniau Tref ac Ardal i’w haildrefnu
o Fai 14eg 2013 i Ebrill 16eg 2013. -
Trefn rifo’r eitemau agenda ar gyfer y cyfarfod
ym Mehefin 2013 i’w diwygio. PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, bod y Cabinet yn derbyn y Flaenraglen Waith. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd H.H. Evans Flaenraglen Waith y Cabinet. Cadarnhaodd yr Aelodau’r diwygiadau
canlynol i’r Flaenraglen Waith o ran eitemau busnes a oedd wedi eu trefnu ar
gyfer y dyfodol:- -
Adroddiad
ar Gynllunio mewn Argyfwng i’w gynnwys i’w ystyried yn y cyfarfod ar Fawrth 19eg
2013. -
Yr adroddiad ar Fabwysiad Grŵp Llywio’r
Cynllun Datblygu Lleol i’w ohirio o’r cyfarfod ar Fawrth 19eg 2013. -
Adroddiad ar y Cynlluniau Tref ac Ardal i’w
aildrefnu o Fai 14eg 2013 i Ebrill 16eg 2013. -
Rhifau’r eitemau agenda ar gyfer y cyfarfod ym
Mehefin, 2013 i’w diwygio. PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, bod y Cabinet yn derbyn y Flaenraglen Waith. |
|
RHAN II – EITEMAU CYFRINACHOL GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD Cymeradwyir, yn
unol ag Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd
o’r cyfarfod yn ystod yr ystyriaeth o’r eitem fusnes ganlynol gan ei bod yn
debygol y byddai gwybodaeth eithriedig (fel y’i diffinnir ym mharagraffau 13 1
14 Rhan 4 o Atodlen 12A y Ddeddf) yn cael ei datgelu. |
|
CONTRACT PARC AILGYLCHU SIR DDINBYCH I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, Aelod
Arweiniol dros Dir y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) sy’n darparu diweddariad ar
Gontract Parc Ailgylchu Sir Ddinbych. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cyflwynodd y Cynghorydd D.I. Smith yr adroddiad a oedd yn
manylu ar yr amrywiad i Gontract Parc Ailgylchu’r Cyngor
a’i estyniad, gydag Ailgylchu CAD. PENDERFYNWYD:- bod y Cabinet yn cymeradwyo’r amrywiad i gymalau strwythur bonws y
contract o gyfnod o 3 blynedd. Daeth y cyfarfod i ben am 12.50 p.m. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd D.I. Smith yr adroddiad a oedd
yn nodi’r amrywiad i Gontract Parc Ailgylchu’r Cyngor ac estyniad iddo, gyda
CAD Recycling. Yn 2009 fe ddyfarnodd y Cyngor gontract saith mlynedd i CAD Recycling ar gyfer gweithredu Parciau
Ailgylchu’r Cyngor, gydag opsiwn i ymestyn y contract o 3 blynedd pellach. Roedd y contract wedi bod yn eithriadol
lwyddiannus yn cyflawni gwelliannau enfawr yn y safleoedd a hefyd roedd wedi
llwyddo i leihau’n sylweddol swm y gwastraff sy’n mynd i dirlenwi Roedd y strwythur bonws
wedi galluogi’r contractwr i fod yn arloesol yn ei agwedd tuag at ailgylchu, ac
roedd y taliadau bonws a oedd yn ddyledus wedi bod yn uwch nag a ragwelwyd yn
wreiddiol ar ddechrau’r contract. Er
mwyn lleihau costau fe ofynnwyd i’r contractwr ail-drafod y cymalau taliadau
bonws ac roedd wedi cytuno i’r newidiadau arfaethedig i’r strwythur bonws, a
fyddai’n darparu arbedion o £100,000 y flwyddyn tan ddiwedd y contract ym
Mawrth, 2016. Wrth gytuno i’r amrywiad
i’r cymalau taliadau bonws roedd y contractwr wedi gofyn am i’r opsiwn o’r
estyniad o 3 blynedd ddod i rym. O
ystyried perfformiad eithriadol y contractwr hyd yma, ac y byddai’r amrywiad
i’r contract yn parhau i symbylu gwelliant parhaus, cymeradwywyd caniatáu’r
estyniad o 3 blynedd i’r contract. Yn ateb
i gwestiwn gan y Cynghorydd J. Thompson-Hill, teimlwyd y byddai’r amrywiad yn
cyflenwi effeithlonrwydd cost wrth sicrhau y byddai’r contractwr yn dal i gael
ei symbylu i wella gwasanaethau i gwsmeriaid y Parc Ailgylchu. Roedd manylion costau, effeithiau ar
wasanaethau eraill, ymgynghoriadau a gafwyd, unrhyw risgiau posib a’r dulliau
o’u lleihau, wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Roedd prif gasgliadau’r Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb wedi eu
cynnwys yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Cyfeiriodd nifer
o Aelodau at safon uchel y gwasanaeth a ddarparwyd gan Barciau Ailgylchu’r
Cyngor ac effaith positif cynnal trefi glân yn y Sir. PENDERFYNWYD:- bod y Cabinet yn cymeradwyo’r amrywiad i’r cymalau ar strwythur
bonws y contract, ac estyniad y contract o gyfnod o 3 blynedd. Daeth y cyfarfod i ben am 12.50 p.m. |