Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu
ragfarnus mewn unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chyflwynwyd unrhyw fuddiannau personol neu ragfarnus. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol nac o
fuddiant sy’n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18
Rhagfyr 2012 (copi’n amgaeëdig). Penderfyniad: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2012. PENDERFYNWYD cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2012 fel cofnod cywir a’u
llofnodi gan yr Arweinydd. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2012. PENDERFYNWYD cymeradwyo
bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2012 yn gofnod cywir a’u
llofnodi gan yr Arweinydd. |
|
CYFLEUSTERAU ARFORDIROL Y RHYL PDF 167 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac
Aelod Arweiniol Datblygiad Economaidd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Cabinet
gymeradwyo cynigion ar gyfer Cyfleusterau Arfordirol y Rhyl a gwaith brys i’r
Tŵr Awyr. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet - (a) yn
cymeradwyo’r prosiectau arfaethedig mewn egwyddor a datblygiad Cam 2 achos
busnes / cyfiawnhad a ffïoedd Cam 2 hyd at £30,000 i: ·
Symud ymlaen gyda datblygu’r dyluniad ac
astudiaeth ddichonolrwydd ar gyfer y ganolfan ddŵr newydd yn y lleoliad
arfaethedig ger y pwll padlo presennol; ·
Cynnwys ystyriaeth benodol i bwll nofio 50 medr
o fewn yr astudiaeth ddichonolrwydd; ·
Ymgorffori cynaliadwyedd strwythur y Tŵr
Awyr yn y cynlluniau hyn a datblygu cynigion ar gyfer ei ddefnyddio / ei wella
yn y dyfodol; ·
Cydnabod egwyddor dymchwel strwythur presennol
yr Heulfan gan arwain at ddatblygu dyluniadau ac astudiaeth ddichonolrwydd ar
gyfer gwelliannau i Theatr y Pafiliwn; ·
Cytuno datblygu’r pecyn cyfan (fel un prosiect)
i lunio achos busnes manwl; ·
penodi Alliance Leisure Ltd dan delerau’r
cytundeb fframwaith presennol i gynorthwyo gyda datblygu’r prosiect; ·
sicrhau bod yr agwedd yn cael ei datblygu ar y
cyd â chynlluniau ehangach y Rhyl yn Symud Ymlaen a sicrhau effaith y prosiect
ar y cynlluniau hynny; ·
sefydlu Bwrdd Prosiect i fonitro a chyfeirio
cynnydd, a (b) cymeradwyo
gwaith brys i’r Tŵr Awyr i leihau peryglon iechyd a diogelwch presennol a
gwneud y strwythur yn ddiogel – hyd at derfyn uchaf o £35,000. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd
ac Aelod Arwain dros Ddatblygu Economaidd, yr adroddiad yn gofyn i’r Cabinet
gymeradwyo cynigion ar gyfer Cyfleusterau Arfordirol y Rhyl a gwaith brys i’r
Tŵr Awyr. Roedd yr adroddiad yn cynnwys cynlluniau i gyfleusterau
arfordirol y dref, gan edrych ar y cynnig dyfrol yn y dyfodol, yr Heulfan,
Theatr y Pafiliwn a Phentref y Plant. Gwnaethpwyd argymhellion cychwynnol hefyd
ar gyfer dyfodol Canolfan Nova, Prestatyn. Dymunai’r Cynghorydd Evans egluro’r cyfeiriadau
at Clwyd Leisure yn yr adroddiad, gan gynghori bod y Cyngor hefyd yn gyfrifol
am y cynnig hamdden, a soniodd am yr anawsterau o ran cynnal yr Heulfan a
buddsoddi ynddo, am resymau amrywiol. Roedd y cynigion yn arwydd o ddechrau oes
newydd i’r Rhyl gan arwain at gynnig hamdden newydd, creu swyddi newydd ac
ysgogi buddsoddiad preifat pellach yn y dref.
Byddai datblygiad y prosiect yn mynd rhagddo gyda phartner datblygu’r
Cyngor, Alliance Leisure, gyda phecyn cyflawn o brosiectau i ategu ei gilydd ac
a fyddai o fudd i breswylwyr a thwristiaid. Bu Rheolwr y Rhyl yn Symud Ymlaen yn rhoi
cyflwyniad PowerPoint am y cynigion i’w hystyried yn codi o astudiaeth
ddichonolrwydd gychwynnol o’r prosiectau. Ymhelaethodd ar - ·
y cefndir
yn arwain at yr adroddiad cyfredol gan gynnwys cyfeiriad at astudiaethau
blaenorol a newidiadau allweddol ers hynny ·
creu cynnig hamdden ddyfrol blaenllaw newydd
gan gyfeirio at leoliad, dyluniad y cyfleuster, hamdden wlyb (cymysgedd o nofio
ffurfiol a hamdden), ffitrwydd, caffi, dringo ac efallai chwaraeon traeth
ynghyd â darluniadau o’r math o gyfleusterau ac adeiladau a fyddai’n cael eu cynhyrchu
gan y prosiectau ·
gwaith
brys a oedd yn ofynnol i’r Tŵr Awyr ynghyd â dewisiadau’r dyfodol ·
argymhelliad
i ddymchwel yr Heulfan a naill ai tirlunio’r safle, ceisio denu datblygiad
gwesty, neu ddatblygu maes parcio newydd ·
argymhellion
i wella Theatr y Pafiliwn ac ystyried y potensial am dwf busnes gwledda a
chynadledda ·
cau Pwll presennol Canolfan Hamdden y Rhyl
wedyn gyda’r Ganolfan yn gwasanaethu ysgolion/colegau ac anghenion chwaraeon
lleol yn y dyfodol ·
ystyriaethau
ehangach Cynllun y Rhyl yn Symud Ymlaen gan gynnwys: adleoli’r parc sglefrio;
datblygu gwesty newydd; gwella’r maes parcio tanddaearol a buddsoddi ym maes
parcio Crescent Road ynghyd â dull rheoli gweithredol cyffredinol i gydlynu
hamdden ac adfywio, a ·
chynigion
am adolygiad penodol i ystyried dewisiadau’r dyfodol ar gyfer Canolfan Nova na
fyddent yn tanseilio llwyddiant cynnig dyfrol a glan môr newydd y Rhyl. Wrth ddod i ben, dywedodd Rheolwr y Rhyl yn
Symud Ymlaen y gallai cynnig hamdden a dyfrol newydd chwarae rhan hanfodol yn y
gwaith cyffredinol i adfywio’r llain arfordirol a’r Rhyl yn gyrchfan i
ymwelwyr. Yn olaf, soniodd am y camau nesaf pe byddai’r Cabinet yn cymeradwyo’r
argymhellion yn yr adroddiad. Roedd y Cabinet yn croesawu’r adroddiad yn fodd
o drawsnewid y Rhyl drwy becyn cydlynol o brosiectau a fyddai o fudd i
breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Cydnabuwyd y byddai’r cynigion yn hybu
hyder a buddsoddiad y sector preifat, gan greu cyfleoedd busnes a swyddi newydd. Amlygwyd hefyd y posibilrwydd i’r buddsoddiad
hwnnw effeithio’n gadarnhaol ar Ganol Tref y Rhyl. Cyfeiriodd yr Aelodau at eu
hatgofion a’u profiadau eu hunain o’r Rhyl yn gyrchfan glan môr prysur gan
gydnabod bod yr Heulfan a arferai fod yn eiconig wedi gweld dyddiau gwell a bod
angen atyniad newydd sy’n addas i’r 21ain ganrif. Wrth ystyried natur
uchelgeisiol y cynigion, mynegodd yr aelodau eu barn am agweddau amrywiol ar yr
adroddiad a manteisiwyd ar y cyfle i ofyn cwestiynau. Gofynnwyd am sicrhad am
nifer o bethau hefyd fel a ganlyn – - bod yr Heulfan yn dal i weithredu nes bod cyfleuster wedi’i agor yn ei lle ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYFLAWNI CYNLLUNIAU TREF AC ARDAL SIR DDINBYCH PDF 101 KB Ystyried cyd-adroddiad gan y Cynghorwyr Hugh Evans,
Arweinydd ac Aelod Arweiniol Datblygiad Economaidd a Huw Jones, Aelod Arweiniol
Twristiaeth, Hamdden ac Ieuenctid (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Cabinet
gadarnhau’r broses ar gyfer atgyfnerthu ac ehangu’r Cynlluniau Tref a
chymeradwyo dyraniad rhagarweiniol cyllid ar gyfer blaenoriaethau a adnabuwyd
yn 2012/13 a 2013/14. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) datblygu’r
trefniadau a sefydlwyd i gyfnerthu’r Cynlluniau Trefol i’w ehangu yn Gynlluniau
Ardal ehangach yn ymgorffori Hyrwyddwyr Cynlluniau Tref, Grŵp Cydgysylltu
Cynlluniau Tref a chefnogaeth swyddogion cysylltiedig; (b) cadarnhau’r
cyllid sydd ar gael i weithredu’r blaenoriaethau yn y Cynlluniau Tref a
Chynlluniau Ardal ehangach sy’n dod o’r ffynonellau canlynol: ·
cyllid blaenoriaeth gorfforaethol ar gyfer
‘gwella’r economi lleol’ ·
cyllideb refeniw cyllid cymunedol ·
dyraniad cyfalaf cymunedol a chyfalaf cyfatebol (c) cymeradwyo’r argymhellion gan y Tîm
Cydgysylltu Cynlluniau Tref ar ddyraniad rhagarweiniol yn 2012/13 a 2013/14. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans, yr
Arweinydd a’r Aelod Arwain dros Ddatblygu Economaidd, a’r Cynghorydd Huw Jones,
yr Aelod Arwain dros Dwristiaeth, Hamdden ac Ieuenctid, yr adroddiad ar y cyd
yn gofyn i’r Cabinet gadarnhau’r broses ar gyfer cyfuno ac ehangu’r Cynlluniau
Tref a chymeradwyo dyraniad cychwynnol cyllid i flaenoriaethau a nodwyd yn
2012/13 a 2013/14. Roedd yr
adroddiad yn nodi mesurau a gyflwynwyd i
fynd i’r afael ag anghenion a blaenoriaethau cymunedau llai o faint a mwy
gwledig, gan gynnwys ehangu’r Cynlluniau Tref yn Gynlluniau Ardal ehangach (gan
gynnwys penodi Hyrwyddwyr Tref a chymorth swyddog a sefydlu Grŵp Cydlynu
Tref). Bu’r Cynghorydd Huw Jones hefyd yn ymhelaethu ar ei rôl yn gofalu am yr
agwedd datblygu gwledig i sicrhau bod yr anghenion yn yr ardaloedd gwledig
hefyd yn cael sylw, ac ar y gwaith a wnaethpwyd hyd yma er mwyn nodi ardaloedd
â blaenoriaeth yn y cymunedau hynny.
Tynnwyd sylw’r Aelodau i’r cynigion cyllid i weithredu blaenoriaethau a
nodwyd, ynghyd ag argymhellion y Grŵp Cydlynu Cynllun Tref ar ddyraniad
cychwynnol y cyllid fel y’i disgrifir yn yr adroddiad. Wrth ystyried yr adroddiad, pwysleisiodd y
Cabinet mor bwysig oedd cyflwyno dull effeithiol o fynd i’r afael ag anghenion
y cymunedau gwledig a thrafododd y trefniadau llywodraethu wrth ddatblygu’r
cynlluniau tref yn gynlluniau ardal ehangach, gan amlygu buddion y trefniadau
hynny i drefi a chymunedau fel ei gilydd. Soniodd yr Aelodau hefyd am y cynnydd
sy’n cael ei wneud o ran cyflenwi’r cynlluniau tref i’w hardaloedd unigol
drwy’r Grwpiau Ardal Aelod a’u perthynas â’r cymunedau o’u cwmpas. Trafodwyd y
materion canlynol yn fanylach – -
bu’r aelodau’n ystyried a ddylid
categoreiddio Bodelwyddan fel tref yng ngoleuni’r cynigion a nodwyd yn y
Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a’r niferoedd mawr a gyflogir yno. Cydsyniwyd y
dylid ystyried y peth ymhellach ar ôl gwneud penderfyniad terfynol ar
fabwysiadu’r CDLl -
cytunodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol i gylchredeg
rhestr o gymunedau a’r trefi y byddent yn gysylltiedig â hwy -
i roi
sicrhad ynglŷn â chynnydd, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais
Economaidd a Chymunedol y byddai adroddiadau cynnydd am bob tref yn cael eu
llunio -
byddai’r
Arweinydd a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol yn
mynd i bob Grŵp Aelod Ardal i drafod cyflenwi’r cynlluniau -
roedd y
Prif Weithredwr yn teimlo bod angen i’r strwythur cynllun tref cyfredol
esblygu’n ardaloedd mwy rhesymegol i ymdrin â’r sir gyfan ac awgrymodd y dylid
amlygu’r rhain yn y penderfyniad -
roedd y Cynghorydd Eryl Williams yn teimlo y
byddai’n fuddiol sefydlu Grŵp Ardal Wledig, yn ogystal â chynnwys
cymunedau gwledig mewn Cynlluniau Ardal ehangach, er mwyn cynhyrchu syniadau,
arfer da a dysgu am yr hyn sy’n digwydd mewn ardaloedd eraill. Awgrymodd yr
Arweinydd ailsefydlu’r Grŵp Gwledig blaenorol a gofynnodd i’r Cynghorydd
Huw Jones fynd â’r mater yn ei flaen -
nodwyd y
byddai ardaloedd ward penodol sy’n cynnwys cymunedau gwledig yn debygol o gael
eu cysylltu â gwahanol drefi, a allai achosi anhawster ac a amlygwyd yn faes
pryder. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a
Chymunedol fod angen ystyried ffiniau sefydliadol y Cyngor a’r rheini a wneir
gan y cymunedau i sicrhau’r pontio mwyaf priodol o Gynlluniau Tref i Gynlluniau
Ardal -
cytunodd y
Cabinet y bydd adroddiad cynnydd am weithredu’r trefniadau a ddisgrifiwyd yn yr
adroddiad yn cael ei gyflwyno i’w gyfarfod ym mis Mai Cymeradwyodd y Cabinet y cynigion cyllid i weithredu blaenoriaethau ac roedd yn falch o nodi bod cyllid wedi’i atal i fynd i’r afael â blaenoriaethau a nodwyd wedyn yn y cymunedau gwledig. Ychwanegodd y Cynghorydd Joan Butterfield y byddai cyllid ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
COFRESTRU AWTOMATIG AR GYNLLUNIAU PENSIWN (CYFRIFOLDEB CYFLOGWR A GOBLYGIADAU COST) PDF 145 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) yn manylu ymateb
arfaethedig y Cyngor i ofynion Deddf Pensiynau 2008, opsiynau gweithredu ac
argymhellion y gofynnir i’r Cabinet eu cymeradwyo. Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn cymeradwyo’r argymhellion i - (a) ddechrau
cofrestru holl staff newydd neu rai sy’n gymwys, yn awtomatig ar y cynllun
pensiwn perthnasol o 1 Mai 2013; (b) oedi
cofrestru awtomatig staff sydd yn y gorffennol wedi penderfynu peidio ag ymuno
â’r cynllun perthnasol hyd at 1 Hydref 2017, a (c) cydnabod
y goblygiadau cost sy’n gysylltiedig â gweithredu’r rheoliadau newydd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn disgrifio ymateb arfaethedig y Cyngor i ofynion Deddf Pensiynau
2008, dewisiadau gweithredu ac argymhellion y gofynnwyd i’r Cabinet eu
cymeradwyo. Soniwyd wrth yr
Aelodau am ddyletswydd cyflogwyr i gofrestru gweithwyr cymwys yn awtomatig ar
gynllun pensiwn gweithlu sy’n cymhwyso ac am y mesurau sy’n cael eu gweithredu
gan y Cyngor er mwyn bodloni’r gofynion newydd. Roedd yn rhaid i’r Cyngor
ddechrau cofrestru staff yn awtomatig yn effeithiol o 1 Mai 2013 (y “dyddiad
llwyfannu”) er gallai cyflogwyr ddefnyddio gohiriad trosiannol i’r gweithredu
llawn tan 1 Hydref 2017. Ar ôl y dyddiad llwyfannu, byddai cyflogeion cymwys
newydd yn cael eu cofrestru adeg cymhwyster ac ni fyddent yn cael eu gohirio.
Eglurwyd y byddai cofrestru awtomatig yn cyflwyno goblygiadau ariannol i’r
Cyngor a oedd yn anodd eu rhagweld ond y byddai cymhwyso’r gohiriad trosiannol
yn lleihau’r effaith ariannol uniongyrchol. Roedd y rheolau mewn perthynas â
staff wrth gefn ac achlysurol nad ydynt yn addysgu hefyd wedi newid, gan ddod
yn fwy cymhleth, a gallai’r baich gweinyddol sy’n gysylltiedig â’r newidiadau
fod yn sylweddol gyda dewisiadau’n cael eu hystyried i liniaru’r effaith. Yn
olaf, tynnwyd sylw’r aelodau i’r camau a gymerwyd hyd yma i ymateb i’r
rheoliadau newydd ynghyd â dewisiadau gweithredu arfaethedig i’r dyfodol. Bu’r Cynghorydd David Smith yn holi aelodau
etholedig am y sefyllfa a dywedwyd wrtho y gallai cynghorwyr ddewis ymuno â’r
cynllun pensiwn o hyd os ydynt yn gymwys, heblaw bod y ddeddfwriaeth yn newid o
gwbl yn y dyfodol. Gofynnodd y Cynghorydd Meirick Davies am eglurhad o effaith
y newidiadau ar Gynghorau Tref a Chymuned ac amlygodd ei bryderon y gallai fod
yn ataliol o ran cost i’r cynghorau hynny gyflogi clercod o ganlyniad. Dywedodd
y Pennaeth Cyllid ac Asedau fod gan gyflogwyr llai o faint ddyletswydd hefyd
(yn nes ymlaen) i gofrestru cyflogeion os ydynt yn gymwys a’i bod yn debygol y
byddai angen iddynt reoli eu gwasanaethau cyflogres eu hunain yn y dyfodol o
ganlyniad. Byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda Gwasanaeth
Cyflogres y Cyngor ynghylch yr effaith ar sefydliadau eraill sy’n defnyddio’r
gwasanaethau, gan gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned, a sut y byddai’n cael
sylw. PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn
cymeradwyo’r argymhellion – (a) i
ddechrau cofrestru’n awtomatig yr holl staff newydd neu’r rheini sy’n dod yn
gymwys yn y cynllun pensiwn perthnasol o 1 Mai 2013; (b) i
ohirio cofrestru awtomatig i staff a benderfynodd yn flaenorol beidio ag ymuno
â’r cynllun perthnasol tan 1 Hydref 2017, ac (c) i
nodi’r goblygiadau cost sy’n gysylltiedig â gweithredu’r rheoliadau newydd. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) yn manylu’r cynigion
cyllidebol ar gyfer 2013/14 a’r cynnydd
sy’n deillio yn lefel y Dreth Gyngor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet - (a) yn
cefnogi’r cynigion cyllidebol ar gyfer 2013/14 yn yr atodiadau ac yn argymell
hynny i’r Cyngor llawn, a (b) yn
argymell y cynnydd 2.0% sy’n deillio yn lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2013/14
i’r Cyngor llawn. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn disgrifio’r cynigion cyllideb
ar gyfer 2013/14 ac yn arwain at 2% o gynnydd yn lefel y Dreth Gyngor. Roedd
Cynigion Arbed Cyllideb ar gyfer 2013/14 (Atodiad 1); Grantiau a drosglwyddwyd
i’r Setliad Cyffredinol 2013/14 (Atodiad 2), a Chyllideb Sir Ddinbych 2013/14
(Atodiad 3) wedi’u gosod ynghlwm wrth yr adroddiad. Soniwyd wrth yr Aelodau am setliad terfynol is
na’r disgwyl gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn cynnwys toriad mewn cyllid cyfalaf
a oedd yn golled sylweddol. Amlygwyd y goblygiadau ar y Cynllun Ariannol Tymor
Canolig ynghyd â’r arbedion a oedd yn ofynnol dros y tair blynedd nesaf a’r
rhagolygon diweddaraf o ran pwysau a nodwyd yn flaenorol. Cyfeiriwyd hefyd at -
·
ddisgwyliad
Llywodraeth Cymru y byddai Cyllidebau Ysgolion a Gofal Cymdeithasol yn cael eu
gwarchod rhag arbedion a fyddai’n rhoi straen ychwanegol ar wasanaethau eraill
a oedd yn gorfod dod o hyd i arbedion ychwanegol i wneud iawn [ar gyfer 2013/14
roedd tua 56% o’r gyllideb wedi’i neilltuo a’i gwarchod] ·
goblygiadau
ariannol sy’n codi o’r Cynllun Cymorth Treth Gyngor ·
y
diweddaraf am ganlyniadau’r gweithdai cyllideb a gynhaliwyd i aelodau ym mis
Tachwedd a mis Rhagfyr 2012 (ynglŷn ag arbedion, blaenoriaethau a’r dreth
gyngor) ·
yn seiliedig
ar y cynigion cyfredol, roedd y cynnydd canlyniadol yn y Dreth Gyngor yn 2% a’r
dybiaeth sylfaenol ar gyfer blynyddoedd y dyfodol oedd y byddai’r Dreth Gyngor
yn dal i godi tua 2% Wrth ystyried yr adroddiad, roedd yr aelodau’n
falch o nodi’r tryloywder yn y broses gosod cyllideb gyda digonedd o gyfle i’r
aelodau gyfrannu. Canmolwyd hefyd y dull dychmygus o reoli cyllid mewn adegau
ariannol mor heriol. Mewn ymateb i gwestiynau, dywedodd y Cynghorydd
Thompson-Hill a’r Pennaeth Cyllid ac Asedau - -
er gwaethaf gwarchod cyllidebau ysgolion a
gofal cymdeithasol, roedd disgwyl o hyd i’r gwasanaethau hynny wneud arbedion
effeithlonrwydd ond byddent yn cael eu hail-fuddsoddi yn y gwasanaeth hwnnw -
roedd y
rhan fwyaf o arbedion cydweithio wedi’u tynnu allan o’r Cynllun Ariannol Tymor
Canolig am na ellid eu cyflenwi, a oedd yn rhoi pwysau ar arbedion i’w gwneud
yn fewnol -
roedd
goblygiadau enfawr posibl yn codi o’r Bwrdd Iechyd yn ad-drefnu gwasanaethau
iechyd ond nid oedd llawer yn hysbys ar hyn o bryd -
roedd y
cynigion cyllideb cyfredol yn dangos bod yr awdurdod yn buddsoddi yn ei
flaenoriaethau ac yn gwarchod gwasanaethau rheng flaen wrth gadw’r Dreth Gyngor
mor isel â phosibl -
cadarnhawyd bod ardoll y Gwasanaeth Tân yn
£70k islaw’r lefel a gynlluniwyd ond nad oedd praesept yr Heddlu wedi’i osod
eto (dywedodd y Cynghorydd Cowie y byddai Comisiynydd yr Heddlu’n cyflwyno
cynigion cyllideb i’r Panel Trosedd yr wythnos ganlynol) -
byddai
cyfeiriad at yr Eisteddfod Genedlaethol yn y cynigion arbedion yn cael ei ddileu
gan fod y cyllid sylfaenol yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru. Cyfeiriodd y Cynghorydd Eryl Williams at heriau ariannol mwy i’w hwynebu gan awdurdodau lleol yn y dyfodol ac at ansicrwydd ynglŷn â chyllid y dyfodol. Cynigiodd gynyddu lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2013/14 i 2.5% gyda’r refeniw ychwanegol yn cael ei neilltuo mewn Cronfa Gymorth Refeniw a fyddai’n cael ei defnyddio i wneud iawn am anawsterau ariannol a fyddai’n wynebu’r awdurdod yn y dyfodol. Roedd yn teimlo y byddai dull felly’n ddoeth yn yr hinsawdd economaidd gyfredol ac y byddai’n helpu i ddiogelu rhag cynyddu’r Dreth Gyngor yn ddramatig eto yn y dyfodol. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Huw Jones. Wrth ystyried y cynnig, cytunodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau y byddai’r Cyngor yn dal i wynebu heriau ariannol am gryn dipyn eto ond dywedodd fod tybiaethau rhesymol wedi’u ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi i ddilyn) yn manylu’r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllidebol a gytunwyd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD cydnabod y
cyllidebau a’r targedau arbed ar gyfer y flwyddyn a’r cynnydd o gymharu â’r
strategaeth gyllidebol a gytunwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn disgrifio’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd mewn
perthynas â’r strategaeth gyllideb y cytunwyd arni. Rhoes grynodeb byr o
sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn - ·
rhagwelwyd
£453k o danwariant ar draws cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol gyda’r
rhagolwg ar gyfer ysgolion yn symudiad cadarnhaol ar £121k o falansau ·
cyflawnwyd
£2.834m (82%) o arbedion y cytunwyd arnynt, gyda £584k (17%) yn cael ei symud
ymlaen a £25k (1%) yn cael ei ohirio hyd y flwyddyn nesaf ·
amlygwyd
amrywiadau allweddol o dargedau arbedion neu gyllidebau a manylion cyllidebau
gwasanaeth unigol ·
rhoddwyd
yr wybodaeth ddiweddaraf gyffredinol am y Cynllun Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw
Tai. Nodwyd na fu llawer iawn o symudiad ariannol ers yr
adroddiad diwethaf i’r Cabinet, am fod cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd
wedi torri ar draws. PENDERFYNWYD nodi’r targedau cyllidebau ac arbedion ar
gyfer y flwyddyn a’r cynnydd mewn perthynas â’r strategaeth gyllideb y cytunwyd
arni. |
|
BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET PDF 89 KB Derbyn Blaenraglen Waith amgaeëdig y Cabinet a chydnabod y
cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD cydnabod
Blaenraglen Waith y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Flaenraglen
Waith y Cabinet i’w hystyried. PENDERFYNWYD nodi
Blaenraglen Waith y Cabinet. |
|
GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD PENDERFYNWYD dan
Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r
cyfarfod am yr eitemau busnes canlynol ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A
o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
DYFARNU CYTUNDEB FFRAMWAITH AR GYFER DARPARU DYFEISIAU AML-SWYDDOGAETH Ystyried cyd-adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorwyr Barbara
Smith, Aelod Arweiniol Moderneiddio a Pherfformiad a Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Cabinet
gymeradwyo dyfarnu’r Fframwaith Dyfeisiau Aml-swyddogaeth i gyflenwr a enwyd. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn awdurdodi dyfarnu’r fframwaith Dyfais Aml-swyddogaeth i’r cyflenwr a
enwyd yn yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith yr
adroddiad cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu’r Fframwaith
Dyfeisiau Aml-swyddogaeth i gyflenwr a enwyd ar y sail y byddai fframwaith a
ddefnyddir gan gyrff corfforaethol ac ysgolion yn gwneud arbedion sylweddol;
roedd costiadau llawn yn yr adroddiad. Eglurodd fod Dyfeisiau Aml-swyddogaeth
yn ddyfeisiau rhwydwaith mawr a allai argraffu, sganio, llungopïo ac e-bostio
dogfennau ac y gallent felly ymgorffori gofynion llungopïo ac argraffu’r
awdurdod. Roedd y contract am gyfnod o bum mlynedd. Dywedodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles fod rhesymoli argraffwyr yn un o
nifer o brosiectau moderneiddio sydd ar y gweill. Byddai effaith y newid yn
sylweddol i rai gwasanaethau ac amlygodd fod angen hyfforddiant ac arweiniad er
mwyn cefnogi staff. Wrth gefnogi’r argymhelliad, bu’r Cynghorydd Julian
Thompson-Hill yn cymeradwyo’r cydweithio rhwng TGCh a Chaffael. Ychwanegodd y
dylid argymell hefyd fod ysgolion yn defnyddio’r contract yng ngoleuni’r
arbedion i’w gwneud. Roedd y Prif Weithredwr yn credu y dylai fod disgwyliad i
ysgolion ddefnyddio’r contract i arbed effeithlonrwydd. Amlygodd y Cynghorydd
Eryl Williams nad oedd cyllidebau TGCh i ysgolion llai o faint yn caniatáu
iddynt ddatblygu gwasanaethau TG ac na fyddent efallai’n gallu fforddio ymuno
â’r cynllun. Gofynnodd am gael gwybod rhagor am y ffordd y gellid gweithredu’r contract mewn ysgolion. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn awdurdodi dyfarnu’r
fframwaith Dyfeisiadau Aml-swyddogaeth i’r cyflenwr a enwyd yn yr
adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben am 2.05pm. |