Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Ni oedd yna ymddiheuriadau. Cofnodion: Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiant personol neu ragfarnus
mewn unrhyw fusnes sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol neu
niweidiol. Cofnodion: Ni chyflwynwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol neu
ragfarnus. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972. Penderfyniad: Nid oedd yna unrhyw faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20
Tachwedd 2012 (copi’n amgaeëdig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar Dachwedd 20, 2012 i’w cymeradwyo’n gofnod
cywir ac i’w harwyddo gan yr Arweinydd. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2012. PENDERFYNWYD cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2012 fel cofnod cywir a’u
llofnodi gan yr Arweinydd. |
|
CYFLAWNI SAFONAU ANSAWDD TAI CYMRU PDF 83 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod
Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau (copi’n amgaeëdig) yn diweddaru’r Cabinet ar
y cynnydd o ran cyflawni Safonau Ansawdd Tai Cymru. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y cynnydd gyda chyflenwi Safon Ansawdd Tai Cymru i stoc tai rhent
y Cyngor i’w nodi. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Irving yr adroddiad
yn diweddaru’r Cabinet at y cynnydd o ran cyflawni Safonau Ansawdd Tai Cymru.
Hysbyswyd yr Aelodau o’r rhaglen adnewyddu tai ar gyfer Stoc Tai’r Cyngor; y
costau a achoswyd ar gyfer contractau 6, 7 ac 8, a chawsant drosolwg o foddhad
cwsmeriaid a manteision adfywio ehangach o ymgymryd â’r gwaith hwnnw. Roedd
Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn fodlon gyda’r cynnydd hyd yma, a’r
dyddiad cwblhau a ragwelwyd ar gyfer y rhaglen oedd Rhagfyr 2013. Cymerodd yr Aelodau y cyfle i holi’r Pennaeth
Tai a Datblygu Cymunedol, a ymatebodd fel a ganlyn – ·
Roedd
adborth rhagarweiniol o’r arolwg cyflwr stoc yn ddiweddar yn awgrymu y gellid
cynnwys costau yn y tybiaethau gwreiddiol a gynhwyswyd yn y Cynllun Busnes Stoc
Tai ·
Byddai mwy
o hyblygrwydd yn y dyfodol i wneud y mwyaf o gyfleoedd i bobl leol a busnesau
lleol wrth ymgymryd â gwaith ailwampio tai ·
Byddai’r
holl eiddo wedi cyrraedd safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2013 ac eithrio nifer
fechan o dai sydd wedi eu gadael allan gan fod tenantiaid wedi gwrthod mynediad
i wneud y gwaith atgyweirio anghenrheidiol ·
Pwysleisio’r
berthynas gyfreithiol a chytundebol rhwng landlord a thenant o ran mynediad i
eiddo ·
Cadarnhau
bod Sir Ddinbych yn cymharu’n ffafriol ag awdurdodau eraill o ran cydymffurfio
â Safonau Ansawdd Tai Cymru. Roedd
y Cabinet yn falch o nodi llwyddiant y Cyngor o ran cyflawni’r Safonau a bod
contractau wedi eu defnyddio i gefnogi is-gontractwyr lleol a chadwyni cyflenwi
yn Sir Ddinbych. Cymerodd yr Arweinydd y cyfle hefyd i longyfarch y Pennaeth
Tai a Datblygu Cymunedol ar ei benodiad i Dasglu Gweinidogol i gynghori ar
opsiynau i alluogi i awdurdodau eraill Cymru gyflawni’r Safonau Ansawdd Tai
Cymru. PENDERFYNWYD cydnabod y cynnydd o ran cyflawni Safonau Ansawdd Tai Cymru yn stoc tai
ar rent y Cyngor. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod
Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant yn gofyn i’r Cabinet gytuno
newidiadau yn y Strategaeth Cefnogi Pobl a’r Cynllun Gwariant ar gyfer 2013-14. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y
newidiadau i’r Strategaeth Cefnogi Pobl a’r Cynllun Gwariant ar gyfer 2013-14
i’w cadarnhau i’w cyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol a Llywodraeth
Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr
adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gytuno â’r newidiadau yn Strategaeth a Chynllun
Gwario Cefnogi Pobl ar gyfer 2013-14 cyn cyflwyno cynlluniau i’r Pwyllgor
Cydweithredol Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru. Tra bod Llywodraeth Cymru wedi
gofyn am gynllun gwario 3 blynedd, bwriad Sir Ddinbych oedd bod yn glir ar hyn
o bryd ynglŷn â chynllun blwyddyn a dweud bod angen mwy o amser i
ddatblygu cynigion ar gyfer blynyddoedd i ddod. Credid y byddai awdurdodau
eraill Gogledd Cymru yn gwneud yr un peth. Roedd Cefnogi Pobl yn rhaglen arwyddocaol yn
rhoi gwasanaethau cymorth cysylltiedig â thai i ystod eang o grwpiau agored i
niwed. Roedd manylion newid gweinyddiaeth y rhaglen Cefnogi Pobl wedi eu
darparu ynghyd â’r goblygiadau i Sir Ddinbych a’r gostyngiadau sylweddol mewn
cyllid gyda’r effaith debygol ar wasanaethau gofal cymdeithasol oedolion. Roedd
y gostyngiad tebygol yn y grant Cefnogi Pobl dros y pum mlynedd nesaf oddeutu £1.5m. Tynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Moderneiddio a Lles sylw’r aelodau at y newidiadau penodol yn y Strategaeth
Cefnogi Pobl ar gyfer 2013/14 fel y manylwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Ystyriodd
y Cabinet y newidiadau yn y Strategeth Cefnogi Pobl a’r cynigion i reoli’r
gostyngiad yn y cyllid grant. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Moderneiddio a Lles bod y gwasanaeth Cefnogi Pobl yn darparu cymorth tai ac
felly nid oedd yn ffurfio rhan o gyllideb Gwasanaethau Cymdeithasol.
Ymhelaethodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau ar y cronfeydd wrth gefn penodol a
oedd wedi eu neilltuo i liniaru peth o effaith y gostyngiad. Mewn ymateb i
bryderon a fynegwyd gan yr Arweinydd ynglŷn â diffiyg trefniadau
llywodraethu clir, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles
bod y Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol, sy’n gyfrifol am benderfyniadau, hyd
yma wedi gweithredu yn ôl consensws ac felly nid oedd eglurder trefniadau
llywodraethu eto wedi eu profi. Ychwanegodd y Cynghorydd Feeley bod y Pwyllgor
Cydweithredol Rhanbarthol wedi cytuno cyfarfod yn rheolaidd i roddi eglurder
pwrpas ac ystyried sut byddai awdurdodau’n gweithio gyda’i gilydd i gyflwyno’r
rhaglen. PENDERFYNWYD cytuno
gyda’r newidiadau i Strategaeth a Chynllun Gwario Cefnogi Pobl ar gyfer 2013-14
i’w cyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru. |
|
GWASANAETH CAFFAEL CENEDLAETHOL PDF 77 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) yn gofyn am gytundeb y
Cabinet i ymuno â’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol arfaethedig ar gyfer sector
cyhoeddus Cymru gydag ymrwymiad 5 mlynedd i ddechrau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y
Cabinet i gefnogi’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ac aelodaeth Sir Ddinbych
am gyfnod o bum mlynedd yn amodol ar yr amodau a fynegir yn 4.27 yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo ymuno â Gwasanaeth Caffael
Cenedlaethol newydd, yn destun amodau, gydag ymrwymiad pum mlynedd i ddechrau.
Cwblhawyd yr achos busnes i greu Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a gwahoddwyd
holl gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru i ddarparu ymrwymiad ffurfiol i ymuno
â’r gwasanaeth. Roedd copi o’r llythyr a’r ffurflen i’w chwblhau ynghlwm wrth
yr adroddiad. Rhoddwyd hanes cefndir i’r aelodau ar greu
Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i ymgymryd â gwaith caffael ar gyfer rhwng 20%
a 30% o gyfanswm y gwariant yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Roedd manylion
lefel gwariant; buddsoddiad i sefydlu’r gwasanaeth; arbedion tebygol i
lywodraeth leol, a’r sylfaen ar gyfer ymrwymiad i’r gwasanaeth wedi eu rhoi yn
yr adroddiad. Tra’n cefnogi’r achos busnes mewn egwyddor
pwysleisiodd yr aelodau bwysigrwydd cefnogi’r economi lleol a gofyn am sicrhad
na fyddai ymuno â’r Gwasanaeth yn cael effaith negyddol ar funesau lleol.
Ailadroddodd y swyddogion y byddai'r Gwasanaeth ond yn cyfrif am ryw 20% - 30%
o’r gwariant ar gaffael yn cynnwys categorïau penodol a oedd yn addas ar gyfer
caffael cenedlaethol mawr nad oedd y rhan fwyaf o awdurdodau yn ei brynu’n
lleol beth bynnag. Roedd mecanwaith eithrio os nad oedd awdurdod eisiau cymryd
rhan mewn contract penodol oherwydd effeithiau lleol neu os nad oedd y contract
yn rhoi arbedion effeithlonrwydd i’r awdurdod ac y gellid gwneud achos ar sail
hynny. Byddai’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol hefyd yn cymryd i ystyriaeth
Bolisi Caffael Cymru a manteision i’r economi lleol. Trafodwyd materion eraill gyda’r Cynghorydd
Thompson-Hill a’r swyddogion, a ymatebodd fel a ganlyn – ·
Ar ôl
dadansoddiad rhagarweiniol, tybiwyd y byddai arbedion i Sir Ddinbych rhwng
£250k - £750k ·
Roedd
cytundebau fframwaith yn caniatáu i’r awdurdod adael y rhan fwyaf o gontractau
presennol heb gosb i ganiatáu trosglwyddiad llyfn i’r trefniadau newydd ·
Cydnabod y
byddai elfen o dyndra mewn perthynas â rhai contractau gyda threfniadau
cenedlaethol a rhanbarthol ond y byddai’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn
caniatáu cyfleoedd pellach i gael arbedion ·
Gan fod
cytundeb cenedlaethol eisoes yn bodoli ar gyfer goleuadau stryd, ni fyddai
dymuniad i ddyblygu hynny dan y trefniant newydd ·
Roedd
ymrwymiad i’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar y sail y byddai’r gwasanaeth
yn cael ei ariannu’n ganolog gan Lywodraeth Cymru am y ddwy flynedd gyntaf ac
yna rhagwelwyd y byddai’n ariannu ei hun ·
Gellid
ailystyried aelodaeth o’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn y dyfodol os nad
oedd yn cynhyrchu’r arbedion dymunol i Sir Ddinbych ·
Dylai fod
yn bosibl monitro effaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol o ryw chwech i ddeuddeg
mis ymlaen. Roedd y Prif Weithredwr yn cymeradwyo’r
Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a phwysleisiodd bwysigrwydd monitro i asesu ei
effeithiolrwydd a’r manteision i Sir Ddinbych. Roedd lefel uchel o
ymwybyddiaeth o ran cydbwyso cefnogaeth i fusnesau lleol a chael arbedion.
Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
argymhelliad yn yr adroddiad a newid yr adroddiad i ddisodli 4.28 gyda 4.27 ac
fe – BENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn cefnogi’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ac aelodaeth Sir Ddinbych
am gyfnod o bum mlynedd yn ddarostyngedig i’r amodau yn 4.27 yr adroddiad. |
|
ADRODDIAD CYLLID 2012/13 PDF 393 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) yn manylu’r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf ac yn nodi’r cynnydd mewn perthynas â’r strategaeth
gyllidebol a gytunwyd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y safle
ariannol diweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd i’w
nodi. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn manylu’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y
strategaeth gyllidebol a gytunwyd. Darparodd grynodeb byr o sefyllfa ariannol y
Cyngor fel a ganlyn – ·
Rhagwelwyd
tanwariant o £344k ar draws cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol, ac roedd y
rhagolygon i ysgolion yn symudiad cadarnhaol ar falansau o £121k ·
Cyflawnwyd
arbedion a gytunwyd o £2.673m (79%) gyda £702k (21%) ar y gweill a £25k (1%) yn
cael ei ohirio tan y flwyddyn nesaf ·
Pwysleisio’r
prif amrywiadau yn y cyllidebau neu dargedau arbed a manylion cyllidebau
gwasanaeth unigol ·
Diweddariad
cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai. Cyfeiriodd y Cynghorydd Eryl Williams at y
Gyllideb Moderneiddio Addysg a Gofal Cwsmeriaid ac esboniodd bod y tanwariant o
£23k yn ymwneud â’r elfen Gofal Cwsmeriaid. Gan y gellid camddehongli’r data yn
hawdd gofynnodd am fwy o eglurder yn y dyfodol mewn adroddiadau ar feysydd
gwasanaeth unigol. Tynnodd y Cynghorydd Williams sylw'r aelodau hefyd at y
Gyllideb Gwella Ysgolion a Chynhwysiant, ac adroddodd ar y newidiadau
arwyddocaol i fformiwla ariannu ysolion a oedd wedi cael cefnogaeth y Fforwm
Cyllidebau Ysgolion. Roedd y Pwyllgor Craffu Partneriaethau hefyd wedi craffu
ar a derbyn y cynigion. Gobeithiai’r Cynghorydd Arwel Roberts na fyddai unrhyw
ysgol ar ei cholled o ganlyniad i’r fformiwla ariannu newydd ac ymatebodd y
Cynghorydd Williams bod yr ysgolion wedi cytuno â’r newidiadau yn y fformiwla. Cymerodd y Cabinet a’r aelodau lleyg y cyfle i
holi cwestiynau a thrafodwyd nifer o faterion fel a ganlyn - ·
Pwysleisiodd
y Cynghorydd Huw Jones yr anhawster wrth ddehonglu data cyllidebol ar gyfer
prosiectau mawrion yn pontio nifer o flynyddoedd a chytunodd y Pennaeth Cyllid
ac Asedau roddi mwy o eglurder mewn adroddiadau yn y dyfodol ·
Roedd
arbedion cyllidebol adrannol fel canran o gyllidebau net 2010/11 wedi eu
cynnwys yn yr adroddiad (Atodiad 3) ar gais yr Arweinydd, a ysgogodd drafodaeth
ar fethodolegau’r gorffennol ar ddyrannu arbedion effeithlonrwydd ledled yr
awdurdod, a’r angen am ddull gwahanol o ddelio ag effeithlonrwydd yn y dyfodol,
ac i reoli clustnodi ac amddiffyn cyllidebau penodol. ·
Roedd y
gost o ymateb i’r llifogydd yn cael ei weithio allan ar hyn o bryd a byddai
cais yn cael ei wneud i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â hynny. Roed cyllid
o‘r gyllideb wrth gefn yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ac ni fyddai
costau’n cael eu codi ar y gwasanaethau dan sylw. Cydnabuwyd y byddai effaith y
llifogydd yn parhau ac y byddai angen llawer o gefnogaeth yn y dyfodol, a
byddai costau’n cael eu holrhain. ·
Nododd y
Cynghorydd Eryl Williams y twf mewn rhai meysydd gwasanaeth a gostyngiadau mewn
eraill a gofynnodd am sicrhad mewn perthynas â hynny. Ymatebodd y Prif
Weithredwr bod y ffigurau yn rhoi sicrhad bod arbedion wedi eu cyflawni yn y
meysydd priodol a bod twf a gostyngiad mewn meysydd gwasanaeth yn anochel wrth
i flaenoriaethau’r cyngor newid. Pwysleisiodd yr angen am gapasiti i gyflawni’r
cynllun corfforaethol ac i reoli’r newidiadau mawrion a’r prosiectau a fyddai’n
deillio o’r twf yn y meysydd hynny ·
Roedd
effaith y newidiadau i’r Dreth Gyngor wedi ei thrafod mewn gweithdy ar y
gyllideb i aelodau yn ddiweddar, ac roedd elw is wedi ei dybio ar gyfer
blynyddoedd i ddod, ac wedi ei gynnwys yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol ·
Rhoddwyd
esboniad ar gronfa wrth gefn Cefnogi Pobl a oedd wedi ei chronni o danwariant
bwriadol i’w defnyddio mewn blynyddoedd i ddod. Ar ôl y
drafodaeth, cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr argmhelliad ac fe – BENDERFYNWYD
cydnabod y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r
cynnydd mewn perthynas â’r strategaeth gyllidebol a gytunwyd. |
|
BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET PDF 43 KB Derbyn Blaenraglen Waith y Cabinet a chydnabod y cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
Blaenraglen Waith y Cabinet i’w nodi. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Hugh Evans Flaenraglen Waith y Cabinet i’w hystyried. Dywedodd y
Cynghorydd David Smith y byddai adroddiad ar Adolygiad Ysgolion Rhuthun yn cael
ei gyflwyno i’r Cabinet ym Mai 2013. PENDERFYNWYD cydnabod
Blaenraglen Waith y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD dan
Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol oherwydd ei bod yn debygol y
byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu fel y diffinnir ym Mharagraffau
13, 14 a 15 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
DATBLYGIAD OCEAN PLAZA, Y RHYL Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac
Aelod Arweiniol Datblygiad Economaidd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn am
benderfyniad gan y Cabinet ar roddi opsiwn i brynu tir yn Quay Street a
Westbourne Avenue, y Rhyl. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) i ddarparu’r opsiwn i’r datblygwr a enwir
yn yr adroddiad i gaffael y budd rhydd-ddaliad ar gyfer y safleoedd a enwir am
gyfnod cyfyngedig o 18 mis i alluogi’r datblygwr i gyflwyno cais cynllunio
newydd o fewn 6 mis o roi’r opsiwn ac i sicrhau ymrwymiad y deiliad i’r
datblygiad o fewn gweddill y cyfnod sy’n gyfyngedig o ran amser; (b) yn
cymeradwyo penodiad y Prisiwr Dosbarth i gael prisiad o’r safle neu ran ohono
gan adlewyrchu’n llwyr yr holl gyfyngiadau cynllunio a chyfyngiadau ffisegol
presennol a’r dyfodol; (c) bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros
Uchelgais Economaidd a Chymunedol yn cael awdurdod dirprwyedig i ddatblygu
cerrig milltir allweddol efo’r datblygwr penodol i adolygu cynnydd gyda symud y
cynllun ymlaen a hynny i’w adrodd yn ôl i’r Cabinet bob chwe mis. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad
cyfrinachol yn gofyn am benderfyniad gan y Cabinet mewn perthynas ag opsiwn i
brynu tir yn Quay Street a Westbourne Avenue, y Rhyl. Amlygodd newidiadau a
wnaed i’r adroddiad gwreiddiol ar ôl cyfarfod gyda’r datblygwr a enwyd yn ystod
yr wythnos flaenorol a thynnodd sylw’r aelodau at yr opsiynau i’w hystyried a’r
goblygiadau yn deillio ohonynt. Manylodd
y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol y cynnydd a wnaed hyd yma o ran delio â
materion a oedd ar ôl gyda’r datblygiad cymhleth ac ymatebodd i gwestiynau’r
aelodau ar haeddiant rhoi’r opsiwn fel yr argymhellwyd. Gofynnodd y Cynghorydd
Hugh Irving am sicrhad na fyddai rhoi’r opsiwn yn arwain at adael y tir yn
ddiffaith a dywedodd y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol y byddai’r cymal
cyfyngiad amser yn helpu delio gyda hynny a’i fod wedi ei gytuno gyda’r
datblygwr. Hysbyswyd y Cabinet hefyd bod Grŵp Aelodau Ardal y Rhyl wedi
cael trosolwg lefel uchel o’r opsiynau ac yn cefnogi’r argymhellion ar y ffordd
ymlaen. PENDERFYNWYD
bod y Cabinet - (a) yn
rhoi’r opsiwn i’r datblygwr a enwyd yn yr adroddiad i brynu’r buddiant
rhyddfraint ar gyfer y safleoedd a nodwyd am gyfnod cyfyngedig o 18 mis i
alluogi i’r datblygwr gyflwyno cais cynllunio newydd o fewn 6 mis o roddi’r
opsiwn ac i sicrhau ymrwymiad deiliad i’r datblygiad o fewn gweddill y cyfnod
cyfyngiad amser; (b) cymeradwyo
penodi’r Prisiwr Dosbarth i gael pris ar y safle neu rannau ohono yn adlewyrchu
cynlluniau presennol ac i’r dyfodol a chyfyngiadau ffisegol, a (c) bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer
Uchelgais Economaidd a Chymunedol yn cael awdurdod dirprwyedig i ddatblygu
cerrig milltir allweddol gyda’r datblygwyr a enwyd i adolygu cynnydd ar y
cynllun, gan adrodd yn ôl i’r Cabinet bob chwe mis. |
|
GWASANAETHU CYFARPAR NWY STOC TAI’R CYNGOR Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Hugh Irving,
Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Cabinet
gymeradwyo dyfarnu contract newydd gwasanaethu, atgyweirio a chynnal a chadw ar
gyfer Stoc Dai’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD dyfarnu’r
contract tair blynedd (a dwy arall) am wasanaeth, cynnal a thrwsio systemau
gwresogi nwy Cyngor Sir Ddinbych i’r contractwr dewisol fel y’i nodir o fewn yr
adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving yr
adroddiad cyfrinachol yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract
gwasanaethu, trwsio a chynnal a chadw ney newidd ar gyfer Stoc Tai’r Cyngor.
Roedd adroddiad manwl gan ymgynghorwyr arbenigol ynghlwm wrth yr adroddiad. Er mwyn cael contract manyleb uchel,
comisiynwyd ymgynghorydd. Darparwyd manylion y prosiect ymgynghorol yn yr
adroddiad, a oedd yn cynnwys datblygu’r fanyleb, tendro’r contract ac arfarnu
contractau. Roedd y ffactorau gwahaniaethu allweddol a oedd wedi sicrhau’r lle
cyntaf i’r contractwr a ffefrir hefyd wedi eu hamlygu. Ystyriodd
yr aelodau’r adroddiad, gan roddi sylw penodol i arfarniad y tendrau a’r
canlyniadau ac roeddynt yn falch o weld tenantiaid yn cymryd rhan yn y broses
ddethol, gan ddangos gwerth am arian a boddhad cwsmeriaid. Cyfeiriodd y
Cynghorydd Huw Jones at ebost gan y Cynghorydd Martyn Holland ar gyflenwyr nwy
a chadarnhaodd y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol bod y mater yn cael ei drin
yn uniongyrchol gyda’r Cynghorydd Holland y tu allan i’r cyfarfod. Mewn ymateb
i gwestiynau gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies ar faterion yr iaith
Gymraeg, dywedodd y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol y byddai is-gontractwyr lleol
yn cael eu comisiynu i wneud y gwaith, a fyddai’n ffurfio cam nesaf y broses. PENDERFYNWYD
bod y contract tair blynedd (a dwy) ar gyfer
gwasanaethu, trwsio a chynnal a chadw systemau gwresogi nwy Cyngor Sir Ddinbych
yn cael ei ddyfarnu i’r contracwr a ffefrir fel y manylwyd yn yr adroddiad. |
|
CAFFAEL GWAITH ADEILADU YNG NGOGLEDD CYMRU: STRATEGAETH GAFFAEL Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) yn gofyn am
gymeradwyaeth y Cabinet i symud ymlaen â’r prosiect i’r cyfnod gweithredu a
sefydlu fframwaith ar gyfer prosiectau adeiladu yn rhanbarth Gogledd Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r prosiect i fwrw ymlaen i’r
cyfnod gweithredu i sefydlu fframwaith ar gyfer prosiectau sydd dros £4.35m a
gwella arferion caffael adeiladu cyfredol dan y lefel honno ar draws y
rhanbarth Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad cyfrinachol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn am gymeradwyaeth y
Cabinet i symud ymlaen â’r prosiect caffael i’r cyfnod gweithredu a sefydlu
fframwaith ar gyfer prosiectau adeiladu ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru. Roedd
yn amod cyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif bod awdurdodau yn ymuno â’r drefn honno
er mwyn eu galluogi i ddenu cyllid grant. Y nod oedd sefydlu cytundeb fframwaith
rhanbarthol ar gyfer gwaith adeiladu mawr dros drothwy Cyfnodolyn Swyddogol yr
Undeb Ewropeaidd ar gyfer gwaith adeiladu (gwerth dros £4.35m) a gwella
arferion caffael gwaith adeiladu presennol ar gyfer prosiectau islaw’r trothwy
hwnnw. Ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar fanylion y prosiect, agweddau
gweithredol a chyfranogiad asiantaethau eraill sector cyhoeddus ynghyd â’r
amserlen i weithredu hyn. Nododd bod y fframwaith yn anelu at wneud y mwyaf o
fanteison y prosiectau i’r gymuned leol a chynnal datblygiad economaidd, ac
ymhelaethodd ar ystyriaethau allweddol a geisiwyd trwy gynllun manteision
cymunedol a gyflwynwyd gan gontractwyr. Roedd y Cabinet yn falch o nodi’r
manteision i’r gymuned leol a’r ymgynghori helaeth a ymgymerwyd gyda’r
diwydiant adeiladu lleol er mwyn bwydo gwybodaeth i’r strategaeth a gwneud y
mwyaf o gyfleoedd i fusnesau lleol. Cymerodd
y Cynghorydd Thompson-Hill y cyfle i ddiolch i Nina Ruddle, Rheolwr Prosiect a
Sion Evans, Rheolwr Tîm Dylunio ac Adeilad am eu gwaith caled ar y prosiect ac
fe – BENDERFYNWYD cymeradwyo’r
prosiect i fynd ymlaen i’r cam gweithredu i sefydlu fframwaith ar gyfer
prosiectau dros £4.35m a gwella arferion caffael gwaith adeiladu presennol
islaw’r lefel honno ar draws y rhanbarth. |
|
LLETY Â CHYMORTH A LLOCHES NOS TRAWS-FFINIOL Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Bobby
Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant (copi’n
amgaeëdig) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo cyd-gomisiynu gyda Chyngor Sir y
Fflint wasanaeth traws-ffiniol Llety gyda Chymorth a Lloches Nos. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn cymeradwyo estyniad y contract
presennol efo Local Solutions ar gyfer gwasanaeth Llety â Chymorth Sir Ddinbych
tan Fawrth 30, 2013 i ganiatáu amser i ddilyn cyd-gomisiynu’r gwasanaeth efo
Cyngor Sir y Fflint; (b) yn cymeradwyo sefydliad trefniant caffael
ar y cyd rhwng Cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint i gomisiynu gwasanaeth
traws-ffiniol Tai â Chymorth a Lloches dros Nos; (c) yn eithrio’r contract ar y cyd ar gyfer y
gwasanaeth Tai â Chymorth a Lloches Dros Nos rhag y gofyniad i dendro; (d) yn dyfarnu’r contract am y gwasanaeth hwn
i Local Solutions, darparwr presennol gwasanaethau Llety â Chymorth Sir
Ddinbych. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad
cyfrinachol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo
cyd-gomisiynu gyda Chyngor Sir y Fflint wasanaeth traws-ffiniol Llety â
Chymorth a Lloches Nos er mwyn gwella gwerth am arian. Ymhelaethodd
y Cynghorydd Feeley ar y prosiect Llety â Chymorth a’r lloches nos mewn
argyfwng ar gyfer pobl ifanc ddigartref a rhoddodd fanylion pellach ar y
trefniadau cyd-gaffael arfaethedig rhwng Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Rhoddwyd
hefyd y rhesymeg y tu ôl i’r argymhelliad i eithrio’r cyd-gontract o’r gofyniad
i dendro. Dywedodd bod y prosiect i leoli pobl ifanc agored i niwed gyda
theuluoedd er mwyn eu cefnogi yn flaengaredd gan Sir Ddinbych a oedd hefyd wedi
ei mabwysiadu gan Sir y Fflint. Cefnogodd y Cabinet yr agwedd a oedd yn rhoi
cefnogaeth ychwanegol i bob ifanc sy’n cael eu gosod mewn llety argyfwng, ac fe
– BENDERFYNWYD
bod y Cabinet - (a) yn cymeradwyo ymestyn y contract presennol
gyda Local Solutions ar gyfer gwasanaeth Llety â Chymorth Sir Ddinbych hyd at
31ain Mawrth 2013 i roddi amser i gyd-gomisiynu’r gwasanaeth hwn gyda Chyngor
Sir y Fflint; (b) yn cymeradwyo sefydlu trefniadau
cyd-gaffael rhwng Cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint i gomisiynu gwasanaeth
traws-ffiniol Llety â Chymorth a Lloches Nos; (c) yn eithrio’r cyd-gontract ar gyfer y
gwasanaeth Llety â Chymorth a Lloches Nos o’r gofyniad i dendro, a (d) yn dyfarnu’r contract ar gyfer y
gwasanaeth hwn i Local Solutions, darparwr presennol gwasanaeth Llety â
Chymorth Sir Ddinbych. |
|
STRWYTHURAU GWASANAETH: GWASANAETH PRIFFYRDD A SEILWAITH Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd David Smith,
Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Cabinet
gymeradwyo’r opsiwn a ffefrir ar gyfer dyfodol y gwasanaeth Priffyrdd a
Seilwaith yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD rhoi cymeradwyaeth i – (a) fwrw ymlaen â datblygiad Opsiwn 2b –
‘integreiddiad mewnol CSDd gyda pheth cydweithredu ar lefel gwasanaeth
penodedig’; (b) fwrw ymlaen â’r broses o benodi ‘Pennaeth
Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol’ ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych; (c) ymgynghori’n ffurfiol â budd-ddeiliaid ar
y strwythur dangosol ar gyfer Opsiwn 2b. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr adroddiad
cyfrinachol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r
opsiwn a ffefrir ar ddyfodol y gwasanaeth Priffyrdd a Seilwaith yng Nghonwy a
Sir Ddinbych. Roedd yr adroddiad wedi ei gynhyrchu mewn ymateb i benderfyniad y
Cabinet ar 23 Hydref bod angen ystyried cyfleoedd eraill er mwyn rhesymoli
gwaith rheoli, lleihau costau a gwella gwasanaethau. Tynnwyd sylw’r aelodau at yr adolygiad o’r
opsiynau a oedd ar gael, a oedd wedi eu manylu yn yr adroddiad a’u sgorio o
gymharu â meini prawf manteision. Roedd yr argymhellion yn yr adroddiad yn
seiliedig ar y canfyddiadau hynny. Dywedodd y Cynghorydd Smith bod yr adroddiad
wedi ei graffu gan y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a darllennodd allan eu darganfyddiadau
hwy, a oedd wedi eu crybwyll yn yr adroddiad. Wrth ystyried yr adroddiad, ailadroddodd yr
aelodau eu siomedigaeth nad oedd integreiddio llawn wedi bod yn bosibl yn yr
achos hwn, ond derbyniant y byddai cydweithredu yn digwydd ar raddfa is.
Cydnabu bod gwersi wedi eu dysgu o’r broses a fyddai’n galluogi cydweithredu
mwy effeithiol yn y dyfodol. Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod y Cabinet wedi
ymuno â dau brosiect cydweithredol pwysig iawn arall yn ystod cyfarfod heddiw a
bod prosiectau cydweithredu arwyddocaol eraill ar y gweill. Mewn perthynas â
Phriffyrdd a Seilwaith, byddai’r opsiwn a argymhellwyd yn arwain at well
gwasanaeth ac arbedion effeithlonrwydd ac ymhelaethodd y Prif Weithredwr ar y
strwythur dangosol a'r goblygiadau i Sir Ddinbych. Cymerodd
y Cynghorydd David Smith y cyfle i ddiolch i Danielle Edwards, Cyngor
Bwrdeistref Sirol Conwy am ei gwaith caled ac fe – BENDERFYNWYD
rhoi cymeradwyaeth i – (a) symud ymlaen â datblygu Opsiwn 2b –
‘integreiddiad mewnol CSDd gyda pheth cydweithredu ar lefel gwasanaeth
penodol’; (b) symud ymlaen gyda’r broses o benodi
‘Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol’ ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych,
a (c) ymgynghori’n ffurfiol gyda rhanddeiliaid
ar y strwythur dangosol ar gyfer Opsiwn 2b. Yn agos at ddiwedd y cyfarfod, cymerodd y
Cynghorydd Eryl Williams y cyfle i longyfarch Adran Addysg y Cyngor ar y ffaith
bod Sir Ddinbych wedi ei rhestru fel y Cyngor sy’n perfformio orau yng Nghymru
ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4 yn cyflawni trothwy Lefel 2.
Amlygodd hefyd ganlyniadau bandiau ysgol rhagorol Sir Ddinbych gyda’r holl
ysgolion uwchradd wedi gweld gwella neu gynnal eu bandiau. Daeth
y cyfarfod i ben am 12.50 p.m. |