Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Hugh Irving.

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Hugh Irving.

 

 

 

2.

DATGANIAD O FUDDIANNAU

Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiant personol neu niweidiol mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Penderfyniad:

Ni wnaed unrhyw ddatganiad o fuddiannau personol neu ragfarnus.

 

Cofnodion:

Ni ddangoswyd unrhyw ddatganiad budd personol nac un a allai achosi rhagfarn.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid eu hystyried, ym marn y Cadeirydd, fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 167 KB

I dderbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar Hydref 23, 2012 (copi’n amgaeedig). 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2012 fel cofnod cywir a’u llofnodi gan yr Arweinwydd.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2012.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2012 fel cofnod cywir a’u harwyddo gan yr Arweinydd.

 

 

5.

DARPARIAETH UWCHRADD YN SEILIEDIG AR FFYDD pdf eicon PDF 87 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, yr Aelod Arweiniol dros Addysg (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gychwyn ymgynghoriad anffurfiol ar yr achos am newid ar gyfer darpariaeth uwchradd sy’n seiliedig ar ffydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cychwyn ymgynghoriad anffurfiol ym mis Rhagfyr 2012 ar yr achos dros newid ar gyfer Addysg Uwchradd Ffydd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau ymgynghoriad anffurfiol ar y newid mewn darpariaeth addysg uwchradd ar sail ffydd yn y sir.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Williams rywfaint o gefndir y sefyllfa gan gyfeirio at ymrwymiad Sir Ddinbych i gyflenwi gwelliannau sylweddol i ysgolion a chyfleusterau ysgolion er mwyn cefnogi addysg.  Cyfeiriodd at ymagwedd systematig at adolygiadau addysgol o fewn y sir gan amlygu’r rhai a gynhaliwyd yn barod fel rhan o’r broses honno.  O safbwynt datblygu darpariaeth ar sail ffydd, dywedwyd wrth yr aelodau fod yr Awdurdodau Catholig a’r Eglwys yng Nghymru, ynghyd â’r Esgobion ac Ymddiriedolwyr St. Brigid’s wedi gweithio gyda’r Cyngor i ystyried y weledigaeth dymor hir ar gyfer addysg ar sail ffydd a’r potensial i symud tuag at un ysgol a fyddai’n gallu cyflenwi darpariaeth Gatholig ac Anglicanaidd.

 

Y cam nesaf oedd ymgynghori i gael barn rhieni a budd-ddeiliaid am ddarpariaeth y dyfodol ac i sicrhau a oedden nhw o’r un farn y byddai darpariaeth ar y cyd yn atgyfnerthu addysg.

 

Ail-adroddodd y Cynghorydd Hugh Evans bwysigrwydd darparu’r addysg a’r cyfleusterau gorau posibl a gobeithiai y byddai darganfyddiadau’r ymgynghoriad yn esgor ar y deilliant hwnnw.  Nododd y farn y byddai gweithio ar y cyd yn arwain at fuddion addysg clir i ddisgyblion a cheisiodd gadarnhad bod pob parti’n cytuno. Dywedodd y Pennaeth Addysg fod trafodaethau wedi bod ar y gweill gyda’r esgobaethau a’r ysgolion a bod pob partner wedi ymrwymo i gyflenwi’r addysg orau ac yn derbyn yr angen am adolygiad.  Gofynnodd y Cynghorydd Barbara Smith a oedd cynnal ymgynghoriad yn ystod cyfnod y Nadolig yn effeithlon a dywedodd y Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg fod y cyfnod ymgynghori wedi’i ymestyn oherwydd hyn ond y gellid ei ymestyn ymhellach os byddai angen.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Williams yr argymhelliad oedd yn yr adroddiad a –

 

PHENDERFYNWYD  cymeradwyo dechrau’r ymgynghoriad anffurfiol ym mis Rhagfyr 2012 ar yr achos am newid mewn Addysg Uwchraddyn seiliedig ar Ffydd.

 

 

6.

ADOLYGIAD O DDARPARIAETH GYNRADD YN ARDAL RHUTHUN pdf eicon PDF 103 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, yr Aelod Arweiniol dros Addysg (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i adolygiad darpariaeth ysgolion cynradd yn ardal Rhuthun a chychwyn ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo adolygiad o ddarpariaeth gynradd yn ardal Rhuthun a chychwyn ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol ym mis Chwefror 2013.  

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i’r arolwg o ddarpariaeth ysgolion cynradd yn ardal Rhuthun a dechrau ymgynghoriad gwybodaeth.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Williams ei sylwadau blaenorol am adolygiad systematig o ddarpariaeth addysgol o fewn y sir a’r angen am ddarparu’r addysg orau bosibl.  Eglurodd ymhellach rai o’r adolygiadau blaenorol a gynhaliwyd a’r penderfyniadau anodd a wnaed i sicrhau darpariaeth addysg safonol.  Eglurwyd hefyd cyd-destun adolygu ysgolion a darpariaeth addysg ac amlygwyd bod rhai elfennau ariannu yn ddibynnol ar gynghorau’n rheoli’r broses yn effeithiol ac yn mynd i’r afael â phroblemau fel gormod o leoedd.   Roedd manylion y prif broblemau sy’n wynebu ysgolion cynradd yn ardal Rhuthun o fewn yr adroddiad a chynigiwyd y byddai’r adolygiad yn edrych yn fanwl i ddechrau ar un ar ddeg o ysgolion cynradd (rhestr yn yr adroddiad) ac yn ystyried pob opsiwn ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol.  Roedd y Cynghorydd Williams yn awyddus i bwysleisio nad oedd unrhyw benderfyniad nac argymhelliad wedi’i wneud hyd yn hyn heblaw i gymeradwyo dechrau’r broses adolygu ac ymgynghori.

 

Croesawodd Cynghorwyr Rhuthun David Smith a Bobby Feeley yr adolygiad i fynd i’r afael â’r problemau oedd yn wynebu ysgolion Rhuthun ac i sicrhau addysg a chyfleusterau safonol i ddisgyblion.  Trafododd y Cabinet gymhlethdodau’r broses a chyflwynodd y Cynghorydd Williams enghreifftiau o ddatblygiadau a mentrau mewn ysgolion eraill gan amlygu’r ddibyniaeth ar ariannu cyfatebol i barhau â’r gwaith hwnnw a’r pwysau gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phroblemau arbennig er mwyn cael arian.  Manteisiodd y Cabinet ac aelodau lleyg ar y cyfle i godi cwestiynau a thrafod nifer o faterion gyda’r Cynghorydd Williams a’r swyddogion fel a ganlyn -

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Huw Jones, dywedodd y Pennaeth Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg (H:C&ES) am wersi a ddysgwyd o arolygon blaenorol o safbwynt sut cynhaliwyd yr arolwg; ei weithredu a’r deilliannau i ddisgyblion.

·        Cadarnhaodd yr H:C&EC fod ei thîm yn gweithio’n agos gyda swyddogion sy’n gweithio ar y Cynllun Datblygu Lleol er mwyn rhagweld unrhyw dwf yn nifer y disgyblion o ganlyniad i ddatblygiadau tai.

·        Cyfeiriodd y Cynghorydd Cefyn Williams at gau’r ysgol yn dilyn arolwg o ardal Edeyrnion a gofynnodd am sicrwydd mai hyn fyddai’r cam eithaf mewn arolygon y dyfodol, yn arbennig o gofio’r effaith ar gymunedau. Rhoddodd y Cynghorydd Eryl Williams sicrwydd y byddai pob opsiwn yn cael ei ystyried yn ofalus ac eglurodd arolwg Edeyrnion a’r penderfyniad anodd a wnaed i gau’r ysgol er budd darparu’r addysg orau bosibl i’r disgyblion.

·        Mynegodd y Cynghorydd Alice Jones ei phryderon am yr effaith gwael yr oedd cau ysgolion yn ei gael ar gymunedau gwledig a rhybuddiodd yn erbyn canoli ysgolion yn Rhuthun. Yn lle hynny, awgrymodd y gellid cludo disgyblion o Ruthun i ysgolion gwledig.  Awgrymodd fod cynllun ar gael yn barod am gau ysgolion beth bynnag yr ymgynghoriad. Rhoddodd y Cynghorwyr Hugh Evans a Eryl Williams sicrwydd nad oedd unrhyw gynllun wedi’i baratoi ac y byddai’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn hysbysu camau’r dyfodol.  Ychwanegodd y Cynghorydd Williams y byddai’r broses yn dryloyw ac y bydden nhw’n ymateb i bob sylw ac yn gwneud penderfyniad cytbwys.  Nid oedd yr adolygiad yn ymwneud â chau ysgolion ond yn sicrhau’r nifer cywir o ysgolion yn y lle cywir gyda chynaladwyedd ar gyfer y dyfodol.  Ni fyddai’n briodol ymateb i’r sylw am gludo disgyblion oherwydd y gallai ragfarnu argymhelliad posibl.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Williams ei argymhelliad yn unol â’r manylion yn yr adroddiad

  

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r arolwg o ddarpariaeth ysgolion cynradd yn ardal Rhuthun a dechrau ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol ym mis Chwefror 2013.

 

 

7.

DIWEDDARIAD AR GYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 100 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, yr Aelod Arweiniol dros Addysg (copi’n amgaeedig) yn diweddaru’r Cabinet ar y Cynllun Datblygu Lleol ac atebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar safleoedd tai ychwanegol a pholisi drafft o gyflwyno graddol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)        yn cadarnhau’r angen i gael Cynllun Datblygu Lleol diweddar wedi ei fabwysiadu ar gyfer Sir Ddinbych;

 

(b)        yn cefnogi’r polisi fesul cyfnod sydd ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad a’r bwriad i’w ddefnyddio mewn perthynas ag unrhyw safleoedd tai ychwanegol a gyflwynir gan y Cyngor i’r Arolygwyr Cynllunio;

 

(c)        yn cydnabod yr adroddiad a’r sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i ymgynghoriad y Cyngor ar safleoedd tai ychwanegol arfaethedig a’r polisi drafft fesul cyfnod, ac yn argymell eu bod yn cael eu hystyried gan y Cyngor llawn, a

 

(d)        yn cytunio i gynnwys unrhyw sylwadau hwyr ar gyfer ymgynghoriad gan y Cyngor llawn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ar y Cynllun Datblygu Lleol (LDP) gan gynnwys ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar safleoedd tai ychwanegol a’r polisi fesul cam drafft ynghyd ag amlinelliad o’r camau nesaf.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig rhywfaint o hanes cefndir oedd yn arwain at y sefyllfa bresennol gan gynnwys crynodeb o’r prif gamau ers i’r gwaith ddechrau ar yr LDP yn 2006.  Prif ffocws yr adroddiad oedd rhoi adborth ar y broses a’r sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i’r ymgynghoriad ar safleoedd tai ychwanegol arfaethedig a’r polisi fesul cam drafft oedd wedi’i gyflwyno mewn ymateb i ddarganfyddiadau Arolygwyr Cynllunio am yr angen a’r cyflenwad tai a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2012.  Gofynnwyd am gefnogaeth y Cabinet i’r polisi fesul cam drafft ynghyd â’r argymhelliad y byddai’r polisi fesul cam a’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu hystyried gan y Cyngor llawn.   Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill fod sylwadau hwyr hefyd yn cael eu hystyried yn yr achos hwn.   Dywedodd y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (H:P&PP) y byddai’n rhaid cyflwyno derbyn sylwadau hwyr i sylw’r Arolygwyr a hefyd byddai’n rhaid i’r Cyngor llawn benderfynu ar yr angen hwn am dderbyn unrhyw sylwadau hwyr.  Cytunodd y Cabinet y dylai cyflwyniadau hwyr gael eu derbyn yn unol â’r broses y cytunwyd arni ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio.

 

Eglurodd y Cynghorydd y cynnydd gyda’r LDP a dywedodd fod 21 o safleoedd tai ychwanegol posibl wedi’u nodi i’w hystyried gan y Cyngor llawn.  Amlygodd bwysigrwydd sicrhau bod camau diogelu perthnasol ar gael i warantu na fyddai’r polisi fesul cam yn cael ei ystyried heblaw bod y cyflenwad tir ar gyfer tai yn disgyn yn is na 5 mlynedd.  Ychwanegodd ei fod yn teimlo’n drist gan gais yr Arolygwyr am safleoedd ychwanegol i’w cynnwys o fewn y cynllun a’i fod wedi’i adael i lawr gan Aelodau’r Cynulliad y gofynnwyd am eu cefnogaeth i’r ddarpariaeth dai.

 

Trafododd y Cabinet yr adroddiad a mynegodd siom am yr angen am gael hyd i safleoedd tai ychwanegol yng ngoleuni’r broses anferth oedd wedi’i chynnal yn barod.  Roedd gan rai aelodau bryderon am y safleoedd unigol a gynigiwyd a dywedodd yr Arweinydd y dylid codi unrhyw gwestiynau penodol safle yn y Cyngor llawn.  Cadarnhawyd y bydden nhw’n pleidleisio ar bob un o’r 21 safle yn unigol.

 

Manteisiodd yr aelodau ar y cyfle i ofyn cwestiynau a thrafod nifer o broblemau gyda’r Aelod Arweiniol a swyddogion yn codi o’r adroddiad oedd yn ymateb fel a ganlyn -

 

·        Byddai unrhyw safleoedd tai ychwanegol y cytunwyd arnyn nhw gan y Cyngor llawn yn cael eu cyflwyno i’r Arolygwyr ac y byddai sesiynau gwrando’n cael eu cynnal ym mis Ionawr lle byddai gwrthwynebwyr yn cael cyfle i siarad;  byddai gwrthwynebwyr yn cael eu hannog i ethol siaradwr ond roedd ganddyn nhw’r hawl i ymddangos yn unigol.

·        Byddai’r Arolygwyr yn cyhoeddi adroddiad yn dilyn cau’r sesiynau gwrando a byddai’n rhaid i’r Cyngor lynu at eu hargymhellion.

·        Cefnogodd yr Arolygwyr y targed tai newydd o 7500 ond nid oedden nhw’n credu bod digon o dir wedi’i ddarparu i sicrhau’r nifer hwn cyn 2021.  Felly, gofynnodd yr Arolygwyr am fwy o safleoedd i gyfateb i 1000 o dai gael eu cynnwys yn y cynllun; byddai’r 21 safle presennol yn darparu 980 o dai.

·        Roedd y swyddogion yn adrodd ar ystod o ffactorau oedd wedi’u hystyried i gyrraedd y ffigwr o’r angen am 7500 o dai.

·        Credai’r swyddogion y byddai derbyn y polisi fesul cam yn diogelu’r safleoedd hynny oherwydd dim ond mewn amgylchiadau penodol y bydden nhw’n cael eu rhyddhau ar gyfer datblygu.

·        Eglurodd y swyddogion y  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

STRATEGAETH ATAL BAEDDU pdf eicon PDF 89 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, yr Aelod Arweiniol dros Dir y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r Strategaeth Atal Baeddu a’r camau nesaf fel y’u disgrifir yn y Cynllun Gweithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)        yn cymeradwyo’r Strategaeth Atal Baeddu a chytuno'r camau nesaf fel y disgrifiwyd yn y Cynllun Gweithredu (ynghlwm fel Atodiadau 1 a 2 i’r adroddiad, yn eu tro), a

 

(b)        gofyn i swyddogion ymgymryd ag astudiaeth i addasrwydd ac effeithiolrwydd Gorchmynion Rheoli Cŵn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i’r Strategaeth Atal Baeddu a’r camau nesaf fel y’u disgrifir yn y Cynllun Gweithredu.  Roedd y Strategaeth Atal Baeddu (Atodiad 1) a’r Cynllun Gweithredu (Atodiad 2) ynghyd â chwestiynau allweddol yr aelodau (Atodiad 3) oedd yn codi o seminar diweddar, wedi’u hatodi i’r adroddiad.

 

Atgoffwyd yr aelodau fod cŵn yn baeddu’n broblem fawr i drigolion a bod y Strategaeth wedi’i pharatoi mewn ymateb i’r broblem.  Eglurodd y Cynghorydd Smith y tri phrif faes a nodwyd yn y Strategaeth oedd wedi cael Pennaeth Gwasanaeth arbennig -

 

·        Cyfathrebu a Marchnata– Jamie Groves

·        Trefniadau Casglu – Steve Parker

·        Gorfodi – Graham Boase

 

Roedd gan bob maes gynllun gweithredu i sicrhau cyflenwi effeithlon o fewn amserlenni priodol ac y byddai effaith y Strategaeth yn cael ei fesur yn erbyn dangosyddion i werthuso effeithiolrwydd.  Cyfeiriwyd hefyd at XFOR, y cwmni â’r contract i weithredu gorfodaeth amgylcheddol gan gynnwys cwn yn baeddu.

 

Mynegodd y Cynghorydd Bobby Feeley bryder bod gweddillion baw cŵn yn cael eu gadael er gwaethaf gwaredu gofalus a gofynnodd a ellid ystyried gwahardd cŵn o rai mannau penodol fel meysydd chwarae.  Ymatebodd y Cynghorydd David Smith gan ddweud bod Gorchmynion Rheoli Cŵn yn cael eu hystyried fel mater ar wahân i’r Strategaeth.  Nid oedd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yn cefnogi gweithredu mannau rheoli cŵn oherwydd bod gan berchnogion cŵn ddyletswydd i ymarfer eu cŵn ac mai dim ond mewn rhai mannau y gallen nhw wneud hyn yn ddiogel.  Yn ystod trafodaeth fer, dywedodd y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (H:P&P) am gyfreithlondeb Gorchmynion Rheoli Cŵn ac amlygodd yr angen am adolygiad ac ymgynghoriad cynhwysfawr er mwyn penderfynu ar fesurau rheoli o fewn y sir.

 

Croesawodd y Cabinet y Strategaeth fel modd o ddelio â’r broblem o gŵn yn baeddu o fewn y sir a chymeradwyodd y fenter.  Gobeithiai’r Arweinydd am fwy o fanylion penodol o fewn y ddogfen honno a theimlai efallai y byddai seminar arall i aelodau’n ddefnyddiol.  Amlygodd y Cynghorydd Joan Butterfield brif ardaloedd y problemau sef Brickfield Pond a Marine Lake a gofynnodd am sicrhau y byddai XFOR yn canolbwyntio nid yn unig ar dargedau hawdd ond ar fannau problemau anodd.  Adroddodd yr H:P&PP am waith y XFOR wrth fynd i’r afael â’r broblem o gŵn yn baeddu gan gadarnhau eu bod wedi’u cyfarwyddo i fod yn weledol ym mhob cymuned ac nid mewn ardaloedd hawdd yn unig.  Pwysleisiodd y Cynghorydd Arwel Roberts yr angen am orfodi’r Gorchmynion Rheoli Cŵn oedd yn cael eu torri yng Nghaeau Chwarae Rhuddlan.  O safbwynt cyfathrebu, amlygodd y Cynghorydd Roberts yr angen am gyfieithiadau cywir a chyswllt priodol gyda Chynghorau Tref a Chymuned.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Smith i aelodau ei hysbysu am unrhyw ardal broblem arbennig oedd angen ei thargedu.  Cynigiodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad a chynigiodd gwelliant y dylid hefyd cynnal astudiaeth i mewn i Orchmynion Rheoli Cwn.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet 

 

(a)        yn cymeradwyo’r Strategaeth Atal Baeddu ac yn cytuno ar y camau nesaf fel y disgrifiwyd yn y Cynllun Gweithredu (atodedig fel Atodiad 1 a 2 i’r adroddiad), a’u bod yn

 

(b)        gofyn i swyddogion gynnal astudiaeth i addasrwydd ac effeithlonrwydd Gorchmynion Rheoli Cŵn.

 

 

9.

ADRODDIAD CYLLID 2012/13 pdf eicon PDF 321 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau (copi’n amgaeedig) yn nodi’r safle ariannol diweddaraf a chynnydd yn erbyn y strategaeth gyllid a gytunwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cydnabod y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd mewn perthynas â’r strategaeth gyllidebol a gytunwyd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad gyda manylion y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllideb gytunedig.  Rhoddodd grynodeb byr o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn -

 

·        Rhagfynegwyd tanwariant o £210k ar draws cyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol gyda’r rhagfynegiant i ysgolion yn symudiad positif ar falansau o £169k

·        Roedd £2.423m (70%) o’r arbedion y cytunwyd arnyn nhw wedi’u cyflawni gyda £995k (29%) yn cael eu symud ymlaen a £25k (1%), yn ymwneud â rhesymoli argraffwyr, yn cael ei ohirio i’r flwyddyn nesaf

·        Amlygwyd amrywioldebau allweddol o dargedau cyllidebau neu arbedion a manylion gwasanaethau unigol

·        Diweddariad cyffredinol o’r Cynllun Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

Eglurodd y Cynghorydd Thompson-Hill nifer o faterion oedd yn codi o’r adroddiad mewn ymateb i gwestiynau gan yr aelodau.  Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans y byddai’n ddefnyddiol bod adroddiadau’r dyfodol yn nodi canran yr arbedion gwasanaethau er mwyn darparu darlun cliriach o wasanaethau sy’n arbed dyraniadau, er bod arbedion gwasanaethau unigol wedi’u nodi. Dywedodd y Cynghorydd Thompson-Hill y gellid darparu’r canran o arbedion dros y tair blynedd nesaf ar gyfer gwasanaethau unigol ond ei bod yn bwysig darparu rhywfaint o gyd-destun gyda’r ffigyrau hynny.  Nid oedd targedau gwasanaethau penodol wedi’u gosod hyd yn hyn ac roedd methodolegau ar gyfer gosod targedau’r dyfodol yn cael eu hystyried.   Amlygodd y Cynghorydd Bobby Feeley fod Gwasanaethau Oedolion yn statudol a bod angen iddyn nhw ymateb i nifer o bwysau yn y dyfodol gyda goblygiadau cost.  Gofynnodd y Prif Weithredwr am fwy o fanylion y pwysau yn y gyllideb Priffyrdd a’r Seilwaith gael eu darparu’n gyson gyda chyllidebau gwasanaethau eraill.

 

PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllideb y cytunwyd arni.

 

 

10.

BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 42 KB

I dderbyn Blaenraglen Waith y Cabinet sy’n amgaeedig a nodi’r cynnwys. 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cydnabod Blaenraglen Waith y Cabinet. 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans y Flaenraglen Waith y Cabinet I’w hystyried a –

 

PHENDERFYNWYD nodi Blaenraglen Waith y Cabinet.

 

 

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

PENDERFYNWYD o fewn Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972 gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol oherwydd ei fod yn golygu y gellid datgelu gwybodaeth eithriadol fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 14 Rhan 4 Trefnlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

 

 

11.

PENDERFYNIAD DYFARNU AR GYFER CYTUNDEB FFRAMWAITH CYMRU GYFAN AC AGMA I DDARPARU DEFNYDDIAU GOLEUO PRIFFYRDD

I ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd David Smith (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddefnyddio Cytundeb Fframwaith Cymru Gyfan ac AGMA ar gyfer Darpariaeth Defnyddiau Goleuo Priffyrdd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn awdurdodi’r Rheolwr Goleuadau Stryd i ddefnyddio Cytundeb Fframwaith Cymru Gyfan ac AGMA a ddatblygwyd yn ddiweddar, ar gyfer Darparu Defnyddiau Goleuo Priffyrdd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr adroddiad cyfrinachol (dosbarthwyd ynghynt) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddefnyddio Cytundeb Fframwaith Cymru Gyfan a Chymdeithas Awdurdodau Manceinion Fawr (AGMA) a ddatblygwyd yn ddiweddar ar gyfer Darparu Deunyddiau Goleuo Priffyrdd.

 

Talodd y Cynghorydd deyrnged i waith caled Andy Clark, Rheolwr Adran: Goleuo Strydoedd a Stuart Andrews, Uwch Swyddog Caffael wrth ddatblygu’r fframwaith ar y cyd.  Gobeithiai y byddai’r model yn gallu cael ei ailadrodd mewn mannau eraill o fewn yr awdurdodau ar gyfer prosiectau eraill.  Cyfeiriwyd hefyd at lwyddiannau’r Tîm Goleuo Strydoedd oedd yn flaenorol wedi ennill y categori Perfformiwr Gorau Rhwydweithiau Perfformiad yn y wobr Rhagoriaeth Cymdeithas Gwasanaethau Cyhoeddus ac ar y rhestr fer eto ar gyfer gwobr eleni.

 

Cafwyd mwy o fanylion gan y swyddogion am y ddarpariaeth gaffael a’r cytundeb fframwaith ar y cyd ac amlygodd yr arbedion posibl i’r Cyngor a sefydliadau eraill o ganlyniad i’r prosiect.  Mewn ymateb i gwestiynau, dywedodd y Rheolwr Adran: Goleuo Strydoedd ar opsiynau buddsoddi i ddarparu effeithlonrwydd tymor hir a chadarnhaodd bod busnesau lleol yn cael eu defnyddio ar gyfer nwyddau llai pan oedd hynny’n bosibl.  Cydnabu’r aelodau ymroddiad y swyddogion a’r gwaith caled oedd ynghlwm wrth ddatblygu’r cytundeb fframwaith a diolchodd iddyn nhw am eu hymdrechion.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn rhoi awdurdod i’r Rheolwr Goleuo Strydoedd ddefnyddio’r Cytundeb Fframwaith Cymru gyfan ac AGMA a ddatblygwyd yn ddiweddar i ddarparu Deunyddiau Goleuo Priffyrdd.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.45 p.m.