Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd Y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
MUNUD O DAWELWCH Siaradodd yr Arweinydd
am y pedwar a fu farw’n ddiweddar mewn tân tŷ ym
Mhrestatyn, sef Lee-Anne Shiers, ei mab
Charlie, ei nai Bailey
Allen a’i nith Skye
Allen. Roedd
yr Arweinydd am anfon cydymdeimlad at y teulu oll. Cafwyd munud
o dawelwch er parch at y bywydau a gollwyd. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGAN BUDDIANNAU Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw
fuddiant personol na buddiant sy’n
rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn
y cyfarfod fel materion brys dan
Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd
ar ddydd Mawrth, 25ain Medi 2012 [copi ynghlwm]. Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25ain Medi, 2012 fel cofnod cywir a’u
llofnodi gan yr Arweinydd. Cofnodion: Materion yn Codi – Tudalen 7. Nododd y Cynghorydd David
Smith fod dyddiad cyfarfod gyda TAITH am gael ei drefnu ac y byddai’r
Cynghorydd Smith yn rhoi gwybod i’r Cabinet pan fyddai’r dyddiad wedi’i
gadarnhau. PENDERFYNWYD cymeradwyo
bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Medi 2012 yn gofnod cywir a’u
llofnodi gan yr Arweinydd. |
|
CYDWEITHIO RHWNG PRIFFYRDD A SEILWAITH CONWY A SIR DDINBYCH PDF 120 KB Ystyried adroddiad gan Reolwr y Prosiect (copi ynghlwm. Atodiad 1 copi I ddilyn) yn diweddaru’r aelodau ar gynnydd ac yn amlinellu argymhellion i’r Cabinet ar gyfeiriad y cydweithredu yn y dyfodol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno: (i)
oherwydd nad yw'r Achos Busnes
yn gwneud achos clir o blaid
Gwasanaeth Priffyrdd a Seilwaith sydd wedi ei integreiddio’n
llawn, nad yw Conwy a Sir Ddinbych yn symud ymlaen
â’r opsiwn hwn. (ii)
Bod Conwy a Sir Ddinbych yn parhau
i ystyried cyfleoedd pellach i resymoli rheolaeth,
lleihau costau a gwella gwasanaethau i’n trigolion trwy: Ø
Gryfhau’r meysydd is-wasanaeth hynny sydd dan
reolaeth sengl Ø
Ystyried meysydd is-wasanaeth Priffyrdd a Seilwaith lle gallai cydweithredu
ddod â manteision
i’n trigolion Ø
Ystyried cyfleoedd lleol (Awdurdod benodol) i gydweithredu a chael trefniadau cyd-reoli rhwng gwasanaethau presennol Ø
Cynnal a datblygu ein hymrwymiad
i’r datblygiadau rhanbarthol ar gludiant a all, os cânt eu cyflawni
yn dda, sicrhau
manteision ychwanegol. Bydd angen seilio
penderfyniadau ar achos busnes cadarn
dros newid mewn perthynas ag elfennau o’r
fath, a (iii)
Bod y Cyfarwyddwyr Corfforaethol yn adrodd yn
ôl i’r Cabinet ym mis Rhagfyr
2012 ar y gwaith sydd ymhlyg yn
Argymhelliad (ii) Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr adroddiad i’w
ystyried am argymhellion Bwrdd Rhaglen Cydweithio Priffyrdd a Seilwaith Conwy a
Sir Ddinbych ar ôl ystyried “Cyd-wasanaeth Priffyrdd a Seilwaith Cwbl
Integredig CBS Conwy a Chyngor Sir Ddinbych: Adroddiad am y Cynllun Gwasanaeth
Drafft (Medi 2012)’ ar 12 Medi 2012. Bu’r Cynghorydd David Smith yn diolch yn ffurfiol i Danielle
Edwards, y Rheolwr Prosiect Rhanbarthol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, am ei
gwaith caled yn paratoi’r Adroddiad. Cadarnhaodd y Cynghorydd Smith ei fod ef a
Chynghorydd Conwy Mike Priestley wedi cael eu holi ac wedi cael pob gwybodaeth
drwy gydol y prosiect. Roedd Prif Weithredwyr Conwy a Sir Ddinbych wedi comisiynu
gweithgor i ystyried y dewisiadau a oedd ar gael. Roedd y grŵp yn cynnwys
dau Gyfarwyddwr Corfforaethol – Sasha Davies (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) a
Hywyn Williams (Cyngor Sir Ddinbych) gyda chymorth Danielle Edwards (Rheolwr
Prosiect), Swyddogion A151 a Phenaethiaid Gwasanaeth AD. Dyma oedd y dewisiadau
i’w hystyried:- Ø
Arbed yn ariannol i’r ddau gyngor heb golli
gwasanaethau pwysig i’r preswylwyr
Ø
Cryfhau’r
cydweithio y mae’r ddau Awdurdod Lleol wedi ymrwymo iddo ar lefel iswasanaeth,
h.y. cludiant ysgol a goleuadau stryd
Ø
Ystyried dewisiadau rhwng awdurdodau yn ogystal
â dewisiadau mewn awdurdodau ar gyfer modelau darparu gwasanaeth Ø
Sicrhau bod y dewisiadau i’w hystyried yn gyson
â datblygiadau rhanbarthol. Byddai adroddiad y Cyfarwyddwyr Corfforaethol yn cael ei
gyflwyno i’r Cabinet ar 18 Rhagfyr 2012. Bu Danielle
Edwards, Rheolwr y Prosiect, yn cydnabod gwaith ei chydweithwyr yn llunio’r
adroddiad. Am y ddwy flynedd flaenorol, bu tîm prosiect o staff Cyngor
Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych yn gweithio ar y prosiect. Tasg
yr adroddiad oedd astudio un maes cydweithio, sef Priffyrdd a Seilwaith. O ran
yr adroddiad ei hun, cydnabuwyd nad oedd unrhyw weledigaeth glir na set glir o
fuddion. Felly, tua dechrau mis Ebrill, bu Rheolwyr Priffyrdd a Seilwaith yn
gwneud gwaith a gynhyrchodd weledigaeth gyffredin. Gwasanaethau oedd y pethau
cyntaf i’w hastudio. Datblygwyd gweithdy dylunio a oedd yn cynnwys Penaethiaid
Gwasanaeth a chydweithwyr Uwch Dimau Rheoli Conwy a Sir Ddinbych. Aethpwyd â’r
modelau wedyn i’r Rheolwyr Priffyrdd a Seilwaith yng Nghonwy a Sir Ddinbych i
holi eu barn am ba adran o’r model a oedd yn gweithio ai peidio. Ar ôl cytuno
ar sut fyddai’r gwasanaeth yn edrych, ystyriwyd y strwythur staff ac o’r diwedd
ble fyddai’r gwasanaeth yn cael ei leoli. Byddai tri dewis yn cael eu
hystyried:-
Ø
Dewis 1 – Symud staff swyddfa’r Heath i safle
Caledfryn Ø
Dewis 2
- Cadw safleoedd Caledfryn a’r Heath, gan ad-drefnu’r staff yn ôl meysydd
gwasanaeth / iswasanaeth lle’n briodol Ø
Dewis 3 – Gosod staff o’r Heath a Chaledfryn
mewn adeilad a ddefnyddid yn flaenorol yn lle swyddfa (Parc Busnes
Llanelwy). Diystyrwyd symud staff i adeilad yr Heath am fod yr adeilad
yn anaddas. Diystyrwyd adeilad newydd hefyd oherwydd byddai hyn yn afresymol o
ran cost. Byddai symud staff yn cynnwys goblygiadau TGCh. Roedd Adran
10 o’r adroddiad yn cyfeirio at y model ariannol, a oedd yn dangos costau
arfaethedig y 3 dewis. Dyma fyddai’r costau llety ar gyfer pob un o’r tri
dewis:- Ø
Dewis 1 – Byddai mân gostau llety wrth symud i
Galedfryn Ø
Dewis 2 – nid oedd unrhyw gostau ychwanegol
disgwyliedig Ø
Dewis 3 – byddai costau ar gyfer prydlesu
adeilad. Dangoswyd costau colli gwaith ar gyfer blwyddyn 1. Byddai 9
swydd newydd yn cael ei chreu. Roedd y swyddi newydd hyn wedi’u cyfateb i
swyddi cyfredol gan leihau’r swyddi a gollir felly i 8.59 FTE (cyflogaeth amser
llawn). Diolchodd yr Arweinydd hefyd i’r Rheolwr Prosiect am yr adroddiad a soniodd nad oedd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADRODDIAD DIWEDDARU ARIANNOL PDF 366 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi I ddilyn), yn manylu’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd mewn perthynas â’r strategaeth gyllidebol a gytunwyd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod yr Aelodau’n cydnabod
y cyllidebau a’r targedau arbed ar gyfer y flwyddyn
a’r cynnydd mewn perthynas â’r strategaeth gyllidebol a gytunwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr Adroddiad
Cyllid gan roi manylion arbedion a chyllideb refeniw’r Cyngor fel y cytunwyd
arnynt ar gyfer 2012/13 fel ar ddiwedd mis Medi 2012. Roedd yr adroddiad hefyd yn diweddaru’n
gryno’r Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a’r Cynllun Cyfalaf Tai. Cafodd pob eitem a ddosbarthwyd fel un “ar y gweill” ei
hadolygu yn ystod y broses herio gwasanaeth a chadarnhawyd y byddai’r rhain yn
cael eu cyflenwi drwy gydol y flwyddyn ariannol. Roedd ysgolion wedi
dangos tanwariant bach wedi’i ragamcanu. Roedd llawer o waith i’w wneud
ynghylch yr ysgolion hynny mewn anhawster ariannol. Roedd gan yr ysgolion hynny
gynlluniau adfer yn eu lle ac roeddent wrthi’n gweithio tuag at y targedau a
osodwyd yn y cynlluniau hynny. Wrth baratoi
cyllideb 2012/2013, bu’n rhaid gwneud nifer o dybiaethau ynghylch pwysau y
byddai’r Cyngor yn eu hwynebu a rhoddwyd cyllidebau priodol yn eu lle. Dwy
enghraifft o bwysau mawr oedd tebygolrwydd codiad cyflog i staff a chostau
ynni’n cynyddu’n sylweddol. Fel y cyfryw, cyllidodd y Cyngor tua £1.5miliwn i
dalu’r costau hynny. Ni ddigwyddodd y codiad cyflog a gyllidwyd i staff.
Cadarnhawyd bod cyflogau’n cael eu rhewi ar ôl gosod y gyllideb ac felly roedd
gan y Cyngor gyllideb ar gyfer codiad cyflog na fyddai’n digwydd. Cyllidwyd y cynnydd
mewn prisiau ynni yn wreiddiol yn 20% ond roedd yn agosach at 10% ac felly nid
oedd y gyllideb ychwanegol yn ofynnol. Roedd £1.7miliwn o arian ar gael i Gyngor Sir Ddinbych ac,
yng ngoleuni trafodaethau a gafwyd am y Cynllun Corfforaethol newydd ac i
ddarparu ar gyfer blaenoriaethau datblygol, cytunwyd y byddai buddsoddiad mawr
yn digwydd dros y 5/6 mlynedd nesaf. Byddai’r £1.7miliwn yn cael ei drosglwyddo
i gronfeydd wrth gefn. Cymeradwyodd Swyddfa Archwilio Cymru gyfrifon blynyddol y
Cyngor. Bu’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill yn diolch yn ffurfiol i Paul
McGrady, Richard Weigh a’r holl staff a fu’n paratoi’r cyfrifon. Ychwanegwyd cyfalaf wrth gefn at brosiect Pont Cerddwyr a
Beicio Harbwr y Rhyl, ynghyd â chyfraniad pellach o £250,000 gan SUSTRANS. Cafwyd yr wybodaeth
ddiweddaraf am y Rhyl yn Symud Ymlaen. Roedd Caniatâd Ardal Gadwraeth wedi’i
roi gan Lywodraeth Cymru i ddymchwel The Honey Club yn y Rhyl. Fodd bynnag,
roedd gofyn i’r Cyngor ganiatáu ar gyfer chwe wythnos o gyfnod apelio. Roedd y crynodeb o gyllid a ddygwyd ymlaen yn nodi £200,000
a oedd heb ei ddyrannu eto. Y
cydweithwyr a fyddai’n penderfynu ble i roi hwn yn y cronfeydd wrth gefn. Gofynnodd y Cynghorydd Eryl Williams am wybodaeth am y
gwariant ar briffyrdd ar gyfer y flwyddyn hon. Cytunodd y Cydbennaeth Priffyrdd
a Seilwaith i roi’r wybodaeth hon.
Roedd Tŵr Awyr y Rhyl yn ôl o dan reolaeth Cyngor Sir
Ddinbych. Roedd Rheolwr y Rhyl yn Symud Ymlaen a’i dîm yn gweithio ar y
portffolio eiddo a’r costau refeniw. Bu’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Moderneiddio a Lles, yn
rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn fras am Wasanaethau Oedolion. Roedd darn o
waith yn digwydd ar draws Awdurdodau Lleol yn edrych ar gynllun gwariant 3
blynedd. Nid oedd rhagor o fanylion ar gael am y prosiect ar y pryd. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais
Economaidd a Chymunedol, fod trafodaethau helaeth yn digwydd am Gyfnod 3 Gwaith
Amddiffyn yr Arfordir. Cafwyd materion ynghylch llifogydd ac roedd trafodaethau
pellach yn parhau gyda Grŵp Scarborough. Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley wrth yr Aelodau fod llifogydd, yn ôl rhagfynegiadau’r adroddiad newyddion, yn mynd i gynyddu yn y dyfodol. Roedd angen i Awdurdodau Lleol wybod am hyn a derbyn y ffaith y byddai angen cyllid ychwanegol i ymdrin â’r peth. Cadarnhaodd y Cynghorydd David Smith fod cynllun llifogydd ar gael a nododd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
EIDDO REEMA, GALLTMELYD - MODEL CYLLID A DEWISIADAU ADEILADU PDF 96 KB Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd Hugh
Irving, Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau (copi ynghlwm) i’r
Cabinet gymryd penderfyniad
mewn perthynas ag eiddo REEMA yng Ngallt Melyd,
posibiliadau dymchwel a blaenoriaethau adleoli. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno: (i)
Bod y Cyngor yn dymchwel
yr eiddo REEMA ac yn diogelu’r safle nes ei ailddatblygu. (ii)
Bod y Cyngor yn parhau
gyda’i drafodaethau â Llywodraeth Cymru
i ystyried y potensial i gael cymhorthdal tai i ddatblygu Tai Cyngor newydd ar
y safle. (iii)
Bod y Cyngor yn gweithio
gyda thrigolion a all ddymuno dychwelyd
i safle wedi
ei ailddatblygu i sicrhau bod
eu hanghenion yn cael eu
trin fel rhan o unrhyw ddatblygiad
newydd. (iv)
Bod y Cyngor yn cydnabod
darpariaethau Polisi Adleoli Tenantiaid REEMA. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Hugh Irving yr adroddiad yn rhoi gwybod i’r Cabinet am yr eiddo
REEMA ar Ffordd Tŷ Newydd a Rhodfa Hendre yn Galltmelyd sy’n methu ar hyn
o bryd â chyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Gwnaethpwyd eiddo
REEMA o adeiladwaith parod heb fod yn draddodiadol. Y broblem gydag ailwampio
posibl oedd na fyddai’n mynd i’r afael â phroblemau dylunio’r eiddo. Roeddent
wedi’u hadeiladu’r ffordd anghywir ac ar waelod llethr heb unrhyw leoedd
parcio.
Daethpwyd â’r adroddiad i’r Cabinet am fod y tenantiaid yn
gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am bosibilrwydd dymchwel/ailwampio eu
cartrefi. Cafwyd tri chyfarfod â’r tenantiaid ynghylch y polisi
trosglwyddo dros dro. Byddai’r tenantiaid yn cael eu rhoi’n awtomatig ar frig y
rhestr dai am eiddo dros dro. Yn anffodus, dim ond 12 eiddo addas a oedd wedi
dod yn wag yn ystod y 12 mis diwethaf. Felly, roedd yn bosibl y gallai gymryd
hyd at 2 flynedd i ddod o hyd i ddewisiadau tai addas i drosglwyddo tenantiaid
dros dro. Cynigiwyd aros nes bod pob eiddo ar y safle’n wag ac yna
byddai’r dymchwel yn digwydd. Gofynnodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies am gynllun o’r
ystâd er cyfeirio’n rhwydd ato. PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn cytuno:- (i)
I’r
Cyngor ddymchwel yr eiddo REEMA a sicrhau’r safle gan ddisgwyl
ailddatblygu. (ii)
I’r
Cyngor barhau â’i drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru i archwilio’r posibilrwydd
am gymhorthdal tai i ddatblygu Tai Cyngor wedi’u hadeiladu o’r newydd ar y
safle. (iii)
I’r
Cyngor weithio gyda phreswylwyr a allai ddymuno dychwelyd i safle ar ei newydd
wedd i sicrhau y darperir ar gyfer eu hanghenion yn rhan o unrhyw ddatblygiad newydd. (iv)
I’r
Cyngor nodi darpariaethau Polisi Trosglwyddo tenantiaid REEMA Dros Dro. Yn y man hwn (11.30
a.m.) cafwyd egwyl. Ailddechreuodd y
cyfarfod am 11.45 a.m. |
|
PENODI CYNGHORWYR I GYRFF ALLANOL PDF 75 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd y Cyngor (copi ynghlwm. Atodiad 1 i ddilyn) i’r Cabinet benderfynu pa gyrff allanol y mae’r Cyngor i benodi aelodau iddynt fel cynrychiolwyr Cyngor Sir Ddinbych. Hefyd cymeradwyo penodiadau i’r cyrff. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD ar ôl
i’r Cabinet ystyried Rhestr 1 (cyrff allanol lle’r ystyrir
bod cynrychiolaeth Sir Ddinbych yn hanfodol
neu’n gorfforaethol-fanteisiol)
a Rhestr 2 (cyrff eraill y gellid penodi cynrychiolwyr Sir Ddinbych iddynt), cytunwyd :- (a)
Cymeradwyo’r penodiadau a argymhellwyd a ddangoswyd yn Rhestr
1 (b)
Cymeradwyo’r cyrff yn Rhestr
2 fel rhai â chynrychiolwyr o’r Cyngor ac eithrio
Awdurdodau Lleol Di-Niwcliar, a oedd
yn destun ystyriaeth bellach. (c)
Penodi’r Cynghorwyr perthnasol i’r cyrff a gymeradwywyd
gan y Cabinet o Restr 2. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans (yr Arweinydd) adroddiad
yn cynnig enwebiadau Aelodau i gynrychioli Cyngor Sir Ddinbych ar nifer o gyrff
allanol. Roedd penderfyniad yn ofynnol gan y Cabinet ynghylch pa gyrff allanol
y byddai Cyngor Sir Ddinbych yn enwebu Aelodau i gynrychioli’r Cyngor
arnynt. Dywedodd yr Arweinydd fod adolygiad wedi digwydd ym mis Mai
2012 a bod rhestr o’r holl sefydliadau allanol â chynrychiolwyr o Gyngor Sir
Ddinbych wedi’i llunio.
Ymgynghorwyd â’r
Arweinydd, yr Uwch Dîm Arwain a Grwpiau Gwleidyddol ynghylch y sefydliadau
allanol a’r enwebiadau arfaethedig. Bu’r Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democratig yn egluro’r 3 gwahanol restr a roddwyd
i’r Cabinet, fel a ganlyn:- Ø
Rhestr 1 – Sefydliadau yr ystyriwyd ei bod yn
gorfforaethol fanteisiol i Gyngor Sir Ddinbych gael cynrychiolydd enwebedig
arnynt. Cafwyd adborth gan Arweinwyr Grŵp a oedd yn credu bod y
sefydliadau hyn yn dal yn berthnasol ac enwebwyd y cynrychiolwyr fel yr oeddent
ar y rhestr.
Ø
Rhestr 2 – Roedd yn cynnwys sefydliadau yr oedd
gofyn i’r Cabinet benderfynu a fyddent yn aros ar y rhestr. Cytunwyd y byddai’r
sefydliadau’n aros ar y rhestr ac eithrio Awdurdodau Lleol Di-niwclear yr oedd
gofyn eu trafod ymhellach.
Ø
Rhestr 3 – Nid oedd gofyn enwebu aelodau i’r
sefydliadau a enwyd ar Restr 3, ond pe byddai gan aelod ddiddordeb personol yn
y sefydliad, gallai fynychu’n bersonol. Roedd nifer o’r sefydliadau ar y rhestr
yn anweithredol erbyn hyn.
Ø
Cynigiodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democratig gyflwyno adroddiad ar Gyrff Allanol i’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol. PENDERFYNWYD ar ôl i’r
Cabinet ystyried Rhestr 1 (cyrff allanol yr ystyrir ei bod yn hanfodol neu’n
gorfforaethol fanteisiol cynrychioli Sir Ddinbych arnynt) a Rhestr 2
(sefydliadau eraill y gellid penodi cynrychiolwyr y Cyngor iddynt), cytuno:- (a)
I
gymeradwyo’r penodiadau a argymhellwyd a ddangosir yn Rhestr 1 (b)
I
gymeradwyo’r sefydliadau yn Rhestr 2 fel rhai sydd â chynrychiolaeth y Cyngor
ac eithrio Awdurdodau Lleol Di-niwclear a fyddai’n destun ystyriaeth
bellach. (c)
I
benodi’r Cynghorwyr perthnasol i’r sefydliadau a gymeradwywyd gan y Cabinet o
Restr 2. |
|
BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET PDF 50 KB Derbyn Blaenraglen
Waith y Cabinet, sy’n amgaeëdig, a chydnabod y cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD cydnabod Blaen-raglen waith
y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
Hugh Evans Flaenraglen Waith
y Cabinet i’w hystyried. PENDERFYNWYD nodi Blaenraglen Waith y Cabinet. |
|
CONTRACT 8 – RHAGLEN GWELLA TAI I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau (copi ynghlwm) ar gyfer Cabinetau cymeradwyaeth I ddyfarnu Contract yn ffurfiol 8 o gwblhau’r Rhaglen Gwella Tai yn dilyn y broses dendro drwy’r cytundeb fframwaith presennol. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno gyda’r
argymhelliad i ddyfarnu’r contract, ar ôl archwiliadau dilysu boddhaol o gyflwyniad tendr y contractwr. Roedd amrediad prisiau
tendr yn dangos bod tendr
cystadleuol wedi ei geisio sy’n
bona fide ac yn addas ar gyfer contract o’r fath. Y contract hwn yw’r
contract terfynol o fewn y cytundeb fframwaith a bydd yn sicrhau
bod pob eiddo
yn cydymffurfio’n llawn â Safon
Ansawdd Tai Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving yr adroddiad cyfrinachol
i ofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu Contract 8 o’r Rhaglen Gwella Tai
yn ffurfiol. PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn cytuno i’r argymhelliad i ddyfarnu’r contract ar ôl gwneud gwiriadau
dilysu boddhaol o gyflwyniad tendr y contractwr. Mae lledaeniad prisiau tendr
yn arddangos bod tendr cystadleuol wedi’i gael sy’n ddilys ac yn addas i
gontract o’r math hwn. Y contract hwn yw’r contract terfynol yn y cytundeb
fframwaith a bydd yn sicrhau bod pob eiddo’n cydymffurfio’n llawn â Safon
Ansawdd Tai Cymru.
Daeth y cyfarfod i
ben am 12.20 p.m. |