Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

CROESO

Croesawodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans bawb i’r cyfarfod ac fe estynnodd groeso arbennig o gynnes i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Rebecca Maxwell a oedd newydd ei phenodi, i’w chyfarfod Cabinet cyntaf.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dylai’r aelodau ddatgan unrhyw ddiddordebau personol neu ragfarn ar unrhyw fater a gaiff ei ystyried yn y cyfarfod.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol neu niweidiol.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau, yn ôl barn y Cadeirydd, a ddylai cael eu hystyried fel materion o frys gan ddilyn Rhan 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 213 KB

Dylid derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 4 Medi 2012   [copi yn amgaeedig]. 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar Fedi 4, 2012.

 

Materion yn Codi –

 

Tudalen 6 - Eitem Rhif 3: Materion Brys - Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Eryl Williams, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y byddai’n ysgrifennu at aelodau’r Cyngor blaenorol i gydnabod y gwaith yr oedden nhw wedi ei wneud a’u cyfraniad i welliant parhaus a chyflawniad yr awdurdod fel cyngor sy’n perfformio’n dda..

 

Tudalen 7/8 - Eitem Rhif 5: Adroddiad Diweddaru Ariannol - rhoddodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill ddiweddariad i aelodau ar y safle diweddaraf ynglŷn â dymchwel yr Honey Club yn y Rhyl.  Dywedodd fod llythyr gan Lywodraeth Cymru (mewn ymateb i atgoffâd gan y Prif Weithredwr) wedi ei gylchlythyru i gynghorwyr yn dweud fod penderfyniad ar y cais i ddymchwel i’w ddisgwyl o fewn pythefnos.  Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod wedi codi’r mater mewn cyfarfod diweddar efo’r Gweinidog dros Dai, Adfywio a Threftadaeth a chytunai’r Cabinet ag awgrym yr Arweinydd i e-bostio’r Gweinidog â manylion pellach.

 

Tudalen 12 - Eitem Rhif 9: Newidiadau i’r Rhaglen Cefnogi Pobl - adroddodd y Cynghorydd Bobby Feeley ar gyfarfod cyntaf y Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol a fyddai’n parhau i gyfarfod yn fisol yn y chwe mis nesaf.  Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles y byddai’r Pwyllgor Craffu Cymunedau’n craffu effaith trefniadau newydd cefnogi pobl ar gyflenwad a chyllid y gwasanaethau hynny yn Sir Ddinbych.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar Fedi 4, 2012 yn gofnod cywir a’u harwyddo gan yr Arweinydd.  

 

 

5.

GWASANAETHAU BWS A GOSTYNGIADAU pdf eicon PDF 107 KB

Dylid ystyried adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, Prif Swyddog ar gyfer Tir y Cyhoedd (copi yn amgaeedig) gan ymgynghori’r Cabinet am oblygiadau gostyngiad cyllid Llywodraeth Cymru a’r effeithiau fyddai hynny yn ei gael ar wasanaeth bws. Nodir yn yr adroddiad fod angen cymeradwyaeth y Cabinet ar y cynlluniau ynglŷn â gostyngiadau’r gwasanaeth bws yn 2012/13 a 2013/14.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr adroddiad yn hysbysu’r Cabinet o oblygiadau gostyngiadau yng nghyllid Llywodraeth Cymru, yr ymgynghoriad dilynol ar leihad yn y gwasanaethau bws a thoriadau arfaethedig yn y gwasanaethau bws yn 2012/13 a 2013/14.

 

Dywedwyd wrth Aelodau am y cefndir i’r cynigion presennol a oedd yn codi o doriadau mewn cyllid grant a delir tuag at wasanaethau bws lleol ynghyd  ag effaith potensial adolygiad gweinidogol ar y ffordd y byddai grantiau yn y dyfodol yn cael eu rheoli. Fe gychwynnodd y Pwyllgor Craffu Cymunedau broses ymgynghori â theithwyr a chymunedau ar gyfres o doriadau posibl a gafodd eu hadolygu wedyn gan Weithgor Gostyngiadau yn y Gwasanaeth Bws (Atodiad 1 i’r adroddiad).  Roedd cynigion y Gweithgor ar gyfer 2012/13 wedi eu nodi yn yr adroddiad ynghyd â chynigion ar gyfer 2013/14 (Atodiad 2 i’r adroddiad).  Roedd asesiad o effaith ar gydraddoldeb o ran y gostyngiadau potensial wedi ei gynnwys hefyd (Atodiad 3 i’r adroddiad).  Roedd y Cynghorydd Smith yn awyddus i amlygu’r gwaith caled a’r ymdrech a wnaethpwyd i gyrraedd yr argymhellion a gynhwysir o fewn yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Huw Jones at nifer o lwybrau a cheisiodd eglurder ar gynigion potensial yn y dyfodol ar gyfer yr ardaloedd hynny gan fod angen sicrhau na fyddai amserlennu gwasanaethau’n gorffen yn rhy fuan ac y byddai cymaint o bobl ag sydd bosib yn cael eu cynnwys os byddai newidiadau’n ofynnol.  Fe sicrhaodd Rheolwr Adran: Cludiant Teithwyr (RhA:CT) y Cabinet fod nifer o newidiadau i’r amserlen wedi eu hystyried er mwyn cyflawni’r ateb gorau posib gan ystyried yr angen am arbedion.  O ran y gwasanaethau penodol y cyfeiriwyd atyn nhw gan y Cynghorydd Jones, dywedodd y RhA:CT) -

 

·        Gwasanaeth X5 (Corwen - Rhuthun/Dinbych) - roedd sawl ymateb i ymgynghoriad yn cael eu hystyried.  Nid oedd y gwasanaeth yn perfformio’n dda ac roedd 1640 a 1740 yn cael eu harchwilio. Roedd y 1640 yn brysurach ond 1740 oedd y bws olaf felly canlyniad posib fyddai newid amser y gwasanaeth i 1710 i allu cymryd cymaint o deithwyr ag sydd bosib.

 

·        Roedd addasiadau a gynigir i wasanaethau 70/77 (Betws/Clawdd/Cyffylliog/Llanelidan i Ruthun) wedi eu nodi yn Atodiad 4 i’r adroddiad.  Roedd addasiadau a gynigiwyd wedi eu gwneud hefyd i wasanaethau 91/95 (Betws/Carrog i Langollen neu Wrecsam) a byddai hynny’n golygu rhai arbedion gweddol fach ond roedd angen ymgynghoriad ar y cynigion gydag aelodau lleol cyn cylchredeg yn ehangach.

 

Ceisiodd Aelodau eglurhad ar yr argymhelliad arfaethedig a oedd yn ymwneud â chludiant cleifion i Ysbyty Abergele.  Esboniodd y RhA:CT fod trafodaethau’n gyfredol â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i ariannu peilot i allu delio â cheisiadau teithwyr i fynd i’r clinig llygaid sydd wedi ei drosglwyddo (o Lanelwy i Abergele).  Ond, pe byddai’r peilot yn aflwyddiannus cynigiwyd bod y Cyngor yn cyflwyno rhywfaint o ddarpariaeth cludiant sylfaenol ar gyfer cleifion.  Teimlai’r Cynghorydd Bobby Feeley y dylai BIPBC gymryd cyfrifoldeb am gludiant oherwydd y newidiadau i wasanaethau cleifion yr oedden nhw wedi eu cyflwyno.  Cytunai’r Cynghorydd Eryl Williams gan ychwanegu fod y Cyngor â’i gyfrifoldebau ei hun o ran darpariaeth cludiant a phe byddai’r Cyngor yn cymryd y cyfrifoldeb ychwanegol byddai hynny ar draul gwasanaethau pwysig eraill.  Cafwyd trafodaeth faith ar hyn gan bwysleisio fod cludiant yn broblem sylweddol i BIPBC ei ystyried o ran newidiadau i leoliad gwasanaethau cleifion a oedd yn anochel dan y cynigion a oedd yn codi o Adolygiadau Gwasanaeth y GIG.  Roedd angen ceisio sicrwydd y byddai’r Bwrdd Iechyd yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw.  Fe atgoffaodd y Cynghorydd Smith yr aelodau ei fod wedi amlygu’r angen i BIPBC lunio Strategaeth Gludiant i ddelio â’r patrwm gwasanaethau newydd  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CONTRACT CARTREF PLANT BRYN Y WAL pdf eicon PDF 122 KB

Dylid ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Prif Swyddog ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant (copi yn amgaeedig). Mae’n gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet dros drefniadau’r contract ar gyfer Cartref Preswyl Plant yn Rhuddlan ar ôl Ebrill 2013, a’r cynigion eraill i ddefnyddio’r cyfleusterau.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad gan geisio cytundeb y Cabinet i gynigon o ran trefniadau contractiol sy’n ymwneud â Chartref Preswyl pedwar/pum gwely yn Rhuddlan ar ôl Ebrill 2013 a’r defnydd gwahanol o adnoddau.

 

Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar drefniant contractiol gyda Gweithredu dros Blant a oedd yn berchen ar Gartref Plant Bryn y Wal ac yn ei redeg.  Oherwydd galw cyfyngedig nid oedd y Cyngor wedi defnyddio’r cyfleuster yn llawn.  Felly cafwyd trafodaethau cyfredol i sicrhau a ellid rhannu adnoddau a chostau â dau neu dri o awdurdodau lleol eraill.  Os nad oedd hynny’n bosib fe ganiateid i’r contract ddarfod ar ddiwedd Mawrth 2013.  Byddai’r ddau opsiwn yn cyflawni arbediad cyllideb a byddai’n galluogi ail-fuddsoddi mewn meysydd blaenoriaeth.  Roedd costau manwl y cynigion wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.  Roedd y cynigion yn canolbwyntio ar y canlynol -

 

·        cadw gyfran o gyllideb bresennol Bryn y Wal (£215k) i brynu cyfran yn yr adnodd preswyl diwygiedig pe byddid yn cytuno ar hynny, neu, fel arall, i wneud trefniadau lleoli gwahanol; byddai hefyd yn ariannu’r costau ychwanegol o ddarparu trefniadau gofal maeth brys, a

 

·        fe ddefnyddid y gweddill wedyn i hyrwyddo dau ddatblygiad (1) Gofal Maeth â Chymorth, a (2) cryfhau Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd, y ddau yma wedi eu targedu tuag at leihau’r nifer sydd angen eu lletya neu leihau’r angen i ddefnyddio gofal preswyl.

 

Yn ystod ystyriaeth o’r opsiynau a gynigiwyd ar gyfer trefniadau yn y dyfodol ychwanegodd y Cynghorydd Feeley na chafwyd unrhyw ymateb gan awdurdodau cymdogol hyd yma o ran rhannu cyfleusterau.  Fe ymhelaethodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd (P:GP&Th) ar y buddsoddiad mewn darpariaeth sy’n seiliedig ar faethu i ddelio ag ystod o wahanol anghenion.  Gan fod Bryn y Wal yn darparu math arbennig o ddarpariaeth ni fyddai’n ymarferol cynnal y contract dan drefniadau presennol.  Fe drafododd y Cabinet yr ailfuddsoddiad mewn meysydd blaenoriaeth â’r swyddogion a nodwyd mai dim ond nifer bychan o blant oedd yn cyrchu gofal preswyl yn Sir Ddinbych ac roedd yna fwy o angen am ddarpariaeth arbenigol nad oedd i’w gael ym Mryn y Wal.  Byddai trefniadau prynu yn ôl y galw ar gyfer plant penodol ar amseroedd penodol yn parhau a byddai rhai plant yn cael eu lleoli y tu allan i’r sir er mwyn cyfarfod â’u hanghenion unigol.  Cyfeiriwyd hefyd at y risgiau sy’n gysylltiedig â’r trefniadau a’r mesurau i’w lleihau.  Fe adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles ar beth o’r gwaith rhanbarthol a oedd yn cael ei wneud i asesu amrediad y ddarpariaeth breswyl a’r cyfleusterau yng Ngogledd Cymru er mwyn cyfarfod ag anghenion plant.

 

Teimlai’r Cynghorydd Dewi Owens y dylid cadw’r adnodd a rennir fel cyfleuster dim ond os byddai’n cael ei ddefnyddio’n llawn a holodd am ddefnydd gan awdurdodau cymdogol.  Adroddodd y P:GP&Th fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi defnyddio gwely’n gyson ar gyfer dau o blant fel pryniant yn ôl y galw heb ymwneud â’r contract.

 

Cytunai’r Cabinet na fyddai’n briodol parhau i ariannu’n gyfan gwbl adnodd nad oedd yn cael ei ddefnyddio’n llawn.  Ond, roedd aelodau o blaid dull cydweithredol ag awdurdodau cymdogol er mwyn cynnal y cyfleuster o fewn y sir a gobeithient y byddai ymdrechion i’r perwyl hwnnw’n llwyddiannus. 

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cadarnhau –

 

(a)       y trefniadau contractiol arfaethedig ar ôl Ebrill 2013 fel y’u nodir o fewn yr adroddiad;

 

(b)       datblygiad gwasanaeth cymorth i deuluoedd oriau effro saith diwrnod fel y’i nodir yn yr adroddiad

 

(c)        datblygiad gofal maeth â chymorth fel y’i nodir yn yr adroddiad.

 

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLAETH GYLLIDOL 2011/12 pdf eicon PDF 66 KB

Dylid ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Prif Swyddog ar gyfer Cyllid ac Asedau (copi yn amgaeedig) sy’n diweddaru’r Cabinet ar berfformiad y rheolaeth gyllidol a hefyd yn cydymffurfio gyda chyfyngiadau dangosyddion Prudential yn ystod 2011/12.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi manylion gweithgareddau rheoli trysorlys y Cyngor a throsolwg o’r cefndir economaidd am y flwyddyn.  Roedd yn adrodd hefyd ar oblygiadau risg penderfyniadau a thrafodion y trysorlys a chadarnhaodd gydymffurfiad â chyfyngiadau’r trysorlys a Dangosyddion Darbodus.

 

Wrth grynhoi’r adroddiad esboniodd y Cynghorydd Thompson-Hill fod hon yn ddogfen hanesyddol ac amlygodd y prif bwyntiau  o ran gweithgareddau benthyca a buddsoddi yn ystod 2011/12 ac fe ymhelaethodd hefyd ar nifer o ddangosyddion darbodus allweddol.  Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau (P:C&A) fod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol wedi trafod yr adroddiad yn helaeth; roedd adolygiad Archwilio Mewnol diweddar wedi rhoi cyfraddiad sicrwydd uchel ar weithgareddau rheolaeth y trysorlys; ac roedd Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn fodlon â’r gwasanaeth.  Felly gallai’r asesiadau hynny roi sicrwydd pellach  i’r Cabinet.

 

Manteisiodd Aelodau ar y cyfle i ofyn cwestiynau a thrafod nifer o faterion a oedd yn codi o’r adroddiad â’r Aelod Arweiniol a’r P:C&A a’r ymateb oedd –

 

·        roedd cyfyngiadau benthyca’r Cyngor yn cael eu gosod yn flynyddol gan y Cyngor Llawn

·        fe ymhelaethwyd ar y defnydd o Fenthyca Mewnol lle defnyddid cronfeydd wrth gefn a gweddillion y cyngor ei hun i ariannu gwariant cyfalaf fel dull mwy cost effeithiol o fenthyca yng ngoleuni incwm buddsoddi isel

·        rhoddwyd enghraifft o gyfraddau benthyca nodweddiadol a’r symiau a oedd yn daladwy dros dymor o ddeng mlynedd gyda data hanesyddol i adlewyrchu’r ffordd yr oedd cyfraddau llog wedi cwympo i’r iselfannau presennol o hyd at 10% yn y 1980au/1990au

·        adroddwyd ar ddyled etifeddol y Cyngor gan awdurdodau blaenorol ynghyd â’r proffil aeddfedrwydd dyled ac yn arbennig dyled sy’n aeddfedu yn ystod bywyd y Cyngor presennol sy’n rhyddhau cynilion o oddeutu £700k

·        cadarnhawyd fod y Cyngor Llawn wedi cytuno i eithriad am resymau gweithredol i ganiatáu defnydd parhaus o fanc y Cyngor ei hun, Natwest, er ei fod yn un o’r banciau a effeithiwyd gan israddiad credyd-raddio yn hydref 2011.

 

Pan fyddai pwyllgorau eraill wedi ystyried eitemau busnes cyn y Cabinet, teimlai’r Cynghorydd Eryl Williams y byddai’n ddefnyddiol i’r Cabinet gael ei ddarparu â pheth adborth ar hynny.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler, Is-gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol mai dim ond yn ddiweddar yr oedden nhw wedi ystyried materion rheoli’r trysorlys ac nid oedd y cofnodion ar gael eto.  Fodd bynnag, roedd croeso i aelodau’r Cabinet ddod i’r cyfarfodydd pan fyddid yn trafod materion felly.  Nododd y Cabinet fod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol wedi bod yn hapus â chynnwys yr adroddiad a pherfformiad rheolaeth y trysorlys.

 

O ystyried yr hinsawdd economaidd presennol teimlai’r Cynghorydd Bobby Feeley y gallai’r Cyngor fanteisio ar y cyfraddau llog isel sy’n daladwy am fenthyg i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf a byddai hynny’n fanteisiol hefyd i’r economi leol a chymunedau. Oherwydd yr incwm buddsoddi isel teimlai’r Cynghorydd David Smith y byddai yna rinwedd mewn defnyddio arian dros ben i wella capasiti adeiladu yn hytrach nac i ddibenion buddsoddi.  Esboniodd y P:C&A fod safbwyntiau tebyg wedi eu mynegi gan gynghorwyr yn ystod trafodaethau yn y sesiwn ddiweddar ar ariannu’r Cynllun Corfforaethol pan gytunwyd ar raglen fuddsoddi sylweddol.  Y ffactor gyfyngol oedd cost ad-dalu’r ddyled o’r gyllideb refeniw.  Roedd gwaith yn gyfredol hefyd i archwilio a ellid defnyddio gweddillion yn fwy effeithiol a byddid yn gwneud asesiadau risg gydag adroddiad yn ôl i’r Cyngor ar y canfyddiadau.  Yn unol â hynny -

 

            PENDERFYNWYD nodi Adroddiad Blynyddol Rheolaeth y Trysorlys ar gyfer 2011/12.

 

 

8.

BLAEN RAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 61 KB

Derbyn Blaen Raglen Waith y Cabinet sydd yn amgaeedig gan wneud sylw o’r cynnwys. 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Flaenraglen Waith y Cabinet i’w ystyried. Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd ar nifer o ddiwygiadau fel a ganlyn –

 

·        byddai adroddiadau ar yr adolygiad o Ddarpariaeth Addysg Ffydd ac Ysgolion Rhuthun yn cael eu gohirio o fis Hydref i fis Tachwedd

·        byddai adroddiad ar Gŵn yn Baeddu’n cael ei gyflwyno i gyfarfod mis Tachwedd

·        y posibilrwydd o ohirio’r adroddiad ar y Marine Lake, y Rhyl o fis Hydref i fis Tachwedd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y dylid trefnu adroddiad ar argymhellion y gyllideb ar gyfer mis Ionawr.  Cododd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cwsmeriaid y posibilrwydd hefyd o gyflwyno adroddiad ar Arian Cymunedol i gyfarfod nesaf y Cabinet ym mis Hydref.

 

            PENDERFYNWYD nodi Blaenraglen Waith y Cabinet, yn amodol ar y diwygiadau a’r sylwadau uchod. 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.05 a.m.