Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd David Smith fuddiant personol yng Nghynnig Datblygu Canolfan Hamdden Rhuthun (eitem rhif 6 ar y Rhaglen) gan ei fod yn Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Brynhyfryd.

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 137 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2012 (copi’n amgaeëdig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2012.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2012 fel cofnod cywir a’u llofnodi gan yr Arweinydd.

 

 

5.

CYTUNO CYNLLUN AR Y CYD AR GYFER DARPARU GWASANAETHAU CYMORTH IECHYD MEDDWL SYLFAENOL LLEOL pdf eicon PDF 96 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo cyd-gynllun i ddarparu Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol yng Ngogledd Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn absenoldeb yr Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant, cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith yr adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo cynllun ar y cyd i ddarparu Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol yng Ngogledd Cymru, fel sy’n ofynnol dan Ran 1 Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Roedd cynllun rhanbarthol ar gyfer ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ei ddatblygu gan y Bwrdd Iechyd ac awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru, a nawr gofynnir am gytundeb yr holl bartneriaid i’r cynllun. Y Bwrdd Iechyd oedd yr asiantaeth arweiniol ar gyfer y cynllun.

 

Ystyriodd y Cabinet y newidiadau a’r gofynion deddfwriaethol yn sgil Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a’r goblygiadau o ran darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl yn yr ardal. Gofynnwyd am sicrhad mewn perthynas â chyllid ar gyfer y cynllun yn y dyfodol er mwyn diogelu sefyllfa’r Cyngor a’r galw tebygol ar y gwasanaethau o ganlyniad i ymyrraeth gynnar. Adroddodd  Mr. Wyn Thomas o’r Bwrdd Iechyd ar y dyraniad ariannol ar draws awdurdodau lleol a’r buddsoddiad arfaethedig mewn staff er mwyn cydraddoli baich achosion ar draws yr ardaloedd. Roedd y galw ar y gwasanaethau yn y dyfodol yn anhysbys ar hyn o bryd ond roedd ymrwymiad i adolygu gweithgaredd trwy’r amser. Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd y byddai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn monitro trefniadau ariannu a dywedodd y Cynghorydd Barbara Smith y byddai’r cynllun yn cael ei adolygu gan y partneriaid yn rheolaidd.

 

Holodd y Cynghorydd Joan Butterfield os oedd unrhyw hyblygrwydd yn y cynllun i ddelio ag amddifadiad cymdeithasol ac atebodd Mr Thomas y byddai cefnogaeth yn cael ei darparu gyda neu o fewn gwasanaethau Meddygon Teulu ac y byddai’r gweithwyr yn cael eu defnyddio yn dibynnu ar weithgareddau a’r galw mewn practisau penodol. Mynegodd y Cynghorydd Ray Bartley ei bryderon mewn perthynas â’r baich ychwanegol ar nyrsys seiciatryddol ac atebodd Mr Thomas y byddai staff ychwanegol yn cael eu recriwtio fel rhan o’r broses.

 

Nododd y Cabinet y byddai’r cynllun yn cael ei adolygu’n rheolaidd a chynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill bod cyferiad at ddiogelu trefniadau ariannu yn y dyfodol yn cael ei gynnwys yn y penderfyniad. O ganlyniad, fe -

 

BENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Cyd-Gynllun (fel y manylwyd ynghlwm wrth yr adroddiad) yn amodol ar adolygiad pe byddai tybiaethau ariannu yn newid.

 

 

6.

CYNNIG DATBLYGU CANOLFAN HAMDDEN RHUTHUN pdf eicon PDF 92 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Ll. Jones, Aelod Arweiniol Twristiaeth, Hamdden a Ieuenctid (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r cynigion i ddatblygu cyfleusterau Addysg Gorfforol a hamdden yng Nghanolfan Hamdden Rhuthun/ Ysgol Brynhyfryd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd David Smith ­fuddiant personol yn yr eitem hon gan ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol Brynhyfryd.]

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Jones yr adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r cynigion i ddatblygu cyfleusterau Addysg Gorfforol a hamdden yng Nghanolfan Hamdden Rhuthun / Ysgol Brynhyfryd. Roedd y cynigion yn cynnwys cae chwarae pob tywydd, derbynfa, mannau newid, ystafelloedd ffitrwydd a’r posibilrwydd o gael trac rhedeg yn y dyfodol. Tanlinellodd y Cynghorydd Jones y gwaith a ymgymerwyd gan y partner datblygu ac ymhelaethodd ar fforddiadwyedd y cynllun. Pe cymeradwywyd y cynigion, byddai gwaith adeiladu mwy na thebyg yn cychwyn ym mis Medi/Hydref ac yn cymryd rhyw ddeuddeg wythnos i’w gwblhau.

 

Mynegodd y­ Cynghorydd Julian Thompson-Hill ei gefnogaeth i’r cynigion, gan ddweud bod y Grŵp Buddsoddi Strategol wedi ymgymryd â dadansoddiad manwl o’r achos busnes. Pwysleisiodd yr angen i sicrhau cyfranogiad y sector preifat mewn cynlluniau o’r fath i’w gwneud yn ariannol ymarferol a chymeradwyodd ddefnyddio partneriaid datblygu lle’n briodol.

 

Ymatebodd y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden i gwestiynau’r aelodau ac ymhelaethu ar fanylion y cynllun; cystadleuaeth yn y sector a marchnata’r cyfleusterau. Cadarnhaodd bod y prosiect yn cynnwys gwahanu’r cyhoedd a’r disgyblion i ganiatáu mwy o ddefnydd cymunedol a byddai hefyd yn galluogi i’r ysgol arbed ar eu cyfraniad hwy tuag at y cyfleusterau. Pwysleisiodd y Cynghorydd Joan Butterfield ddiffyg cyfleusterau trac yn y sir a chymeradwyo derbyn yr opsiwn i gael trac rhedeg i ddiwallu’r anghenion hynny. Gofynnodd hefyd am sicrhad bod costau cynnal a chadw wedi eu cynnwys o fewn yr amcanestyniadau cyllidebol. Dywedodd y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden y byddai trac rhedeg yn cael ei ystyried yn y dyfodol pe byddai’r cynllun yn cynhyrchu digon o incwm i dalu cost y buddsoddiad. O ran costau cynnal a chadw, byddai’r cynigion yn dileu llawer o’r gwaith cynnal a chadw a oedd wedi hel ar y safle ac roedd cyllidebau cynnal a chadw yn bodoli. Roedd angen i’r partner datblygu hefyd wneud peth gwaith cynnal a chadw dan y cytundeb fframwaith.

 

Ar ôl ystyried addasrwydd a haeddiannau’r cynllun, roedd y Cabinet yn falch o gefnogi’r cynigion i ailddatblygu i wella cyfleusterau ar gyfer yr ysgol a’r gymuned ehangach, ac roedd yn fodlon bod y cynigion yn seiliedig ar dybiaethau rhesymol. Nododd yr aelodau hefyd y potensial i gael effeithlonrwydd pellach pe byddai lefel y galw a nodwyd yn yr astudiaeth o ddichonolrwydd yn cael ei chwrdd. Llongyfarchodd yr Arweinydd y gwasanaeth ar yr agwedd flaengar tuag at ddarparu cyfleusterau chwaraeon a hamdden a thalodd yr aelodau deyrnged i waith y swyddogion dan sylw.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo’r cynigion ar gyfer datblygiad £1.3 miliwn cyfleusterau Addysg Gorfforol a hamdden yng Nghanolfan Hamdden Rhuthun / Ysgol Brynhyfryd.

 

 

7.

HEN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH – ADRODDIAD CYNNYDD pdf eicon PDF 85 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus (copi’n amgaeëdig) yn diweddaru’r Cabinet ar gynnydd gyda’r safle ac yn argymell bod y Cabinet yn cadarnhau ei gymeradwyaeth i gyflwyno Hysbysiad Atgyweirio, sefydlu Endid Un Pwrpas, a symud ymlaen i gamau Pryniant Gorfodol.  Mae’r adroddiad yn cynnwys atodiad cyfrinachol ar gostau amcanol (Atodiad A).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr adroddiad yn diweddaru’r Cabinet ar gynnydd ar y safle ac yn argymell awdurdod i gymryd camau pellach. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad cyfrinachol ar y costau tebygol.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Smith beth cefndir i’r sefyllfa bresennol gan gynnwys cynnydd ar ôl yr Hysbysiad Gwaith Brys a gyflwynwyd ar 6 Mehefin 2011, costau a achoswyd hyd yma a chostau tebygol yn y dyfodol. Nodwyd bod creu Endid Un Pwrpas (ar ffurf Ymddirideolaeth Cadwraeth Adeilad) yn hanfodol cyn cyflwyno’r Hysbysiad Trwsio a theimlai’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill y dylid cynnwys cyfeiriad at hynny yn y penderfyniad. Os nad oedd y perchennog yn gwneud cynnydd ar yr atgyfeiriadau o fewn dau fis, gallai’r cyngor gychwyn ar gamau prynu gorfodol.

 

Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd at ebost a dderbyniwyd y diwrnod blaenorol ar ran perchnogion yr eiddo yn honni bod y cyngor wedi gweithredu’n anghyfreithlon. Roedd y Pennaeth yn gwrthod yr honiadau a hysbysodd y Cabinet bod popeth mewn trefn yn gyfreithiol. Roedd y Cynghorydd Hugh Irving wedi digio gyda’r ebost a oedd yn bygwth camau cyfreithiol, a theimlai y dylai perchnogion yr eiddo geisio dod i gytundeb gyda’r awdurdod lleol.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, croesawodd yr aelodau y cynnydd a oedd yn cael ei wneud a thalu teyrnged i’r swyddogion am eu gwaith caled yn delio gyda’r broblem hon a oedd wedi bodoli am amser maith, dan amgylchiadau anodd. Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Arweinydd ar amserlenni, dywedodd y Pensaer Cadwraeth ei bod yn dibynnu’n fawr ar adwaith y perchennog ond y gallai camau prynu gorfodol a chaniatâd cynllunio ar gyfer defnydd amgen gymryd hyd at dair blynedd. Trafododd yr Aelodau hefyd gynlluniau ar gyfer y safle yn y dyfodol ac roedd yr Arweinydd yn falch o weld proses glir i’w dilyn. Dywedodd y Pensaer Cadwraeth y gallai datblygu’r safle ddilyn camau prynu gorfodol ac y gellid ceisio caniatâd cynllunio ar gyfer defnydd amgen gan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeilad. Mewn ymateb i bryderon y Cynghorydd Ray Bartley ynglŷn â diogelwch y safle, dywedodd y Pensaer Cadwraeth bod hysbysiadau rhybuddio wedi eu gosod o gwmpas yr adeilad a bod yr holl bwyntiau mynediad wedi eu byrddio i fyny. Cyfeiriodd hefyd at y posibilrwydd o osod camerâu teledu cylch cyfyng o amgylch y safle.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cadarnhau ei gymeradwyaeth i gyflwyno Hysbysiad Trwsio, sefydlu Endid Un Pwrpas a symud ymlaen i gamau Pryniant Gorfodol gyda chytundeb gefn-wrth-gefn i drosglwyddo’r safle i Endid Un Pwrpas. 

 

 

8.

ADRODDIAD ARIANNOL 2012/13 pdf eicon PDF 306 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) yn manylu’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd mewn perthynas â’r strategaeth gyllidebol a gytunwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn manylu’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd mewn perthynas â’r strategaeth gyllidebol a gytunwyd, a gofynnodd hefyd i’r Cabinet ystyried argymhelliad gan y Grŵp Buddsoddi Strategol. Darparodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor, fel a ganlyn –

 

·        Dangosodd amcanestyniad diweddaraf y gyllideb refeniw sefyllfa gytbwys ar draws yr holl wasanaethau

·        Roedd £1.312m o’r arbedion a gytunwyd fel rhan o’r gyllideb wedi ei gyflawni ac roedd £2.131m ar y gweill

·        Tanlinellodd amrywiadau allweddol o’r cyllidebau a thargedau arbed yn ymwneud â gwasanaethau unigol, a

·        Diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Thompson-Hill hefyd am gefnogaeth i argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol (fel y manylwyd yn Atodiad 5 i’r adroddiad) yn ymwneud â chynllun cyfalaf i wella darpariaeth gwasanaethau llyfrgell ym Mhrestatyn. Croesawodd y Cynghorwyr Huw Jones a Hugh Irving y cynllun gan ddweud y byddent yn cyfarfod gyda Chyngor Tref Prestatyn y noson honno gyda golwg ar leddfu unrhyw bryderon a fynegwyd mewn perthynas â’r cynigion. Esboniodd y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden y byddai angen ystyried unrhyw wrthwynebiadau  am resymau cynllunio gan y Pwyllgor Cynllunio ond na fyddai’n effeithio amserlen y prosiect.

 

Nododd y Cynghorydd David Smith y gwahaniaethau arwyddocaol mewn cyfraddau llog ar gyfer benthyca a buddsoddi. Esboniodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau bod y rhan fwyaf o ddyled y cyngor wedi ei fenthyg gan awdurdodau blaenorol pan roedd cyfraddau llog yn uchel iawn. Ar hyn o bryd, roedd y cyngor yn buddsoddi ar sail tymor byr.

 

Holodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler ynglŷn â’r pwysau o £50k ar Adfywio’r Rhyl a’r costau cynyddol a oedd yn gysylltiedig â phrosiect y Rhyl yn ei Blodau. Cyfeiriodd hefyd at yr anfodlonrwydd yng Nghonwy ynglŷn â’r gylideb Cludiant Ysgol a gofynnodd a allai’r cyngor hwn gadaernhau cadernid ei gyllideb ef ar gyfer Cludiant Ysgol. Adroddodd yr Arweinydd ar waith ychwanegol a ymgymerywd gyda Chynllun y Rhyl yn Symud Ymlaen gan ddweud y byddai’r diffyg adnoddau a chapasiti yn cael ei archwilio. Cytunodd y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol ddarparu costau i’r Cynghorydd Kensler ar brosiect y Rhyl yn ei Blodau. Adroddodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill nad oedd unrhyw faterion o bryder wedi eu codi mewn perthynas â chyllideb Cludiant Ysgol Sir Ddinbych.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       cydnabod y cyllidebau a’r targedau arbed ar gyfer y flwyddyn a’r cynnydd mewn perthynas â’r strategaeth gyllidebol a gytunwyd, a

 

(b)       cymeradwyo’r prosiect cyfalaf i wella gwasanaethau llyfrgell ym Mhrestatyn fel y manylwyd yn Atodiad 5 i’r adroddiad.

 

 

9.

STRATEGAETH UCHELGAIS ECONOMAIDD I OGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 93 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo egwyddorion y Strategaeth Uchelgais Economaidd i Ogledd Cymru a sefydlu Bwrdd Uchelgais Econoamidd i gydgysylltu a goruchwylio cyflawni’r strategaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo egwyddorion y Strategaeth Uchelgais Economaidd ar gyfer Gogledd Cymru a sefydlu Bwrdd Uchelgais Economaidd i gydgysylltu a goruchwylio cyflawniad y strategaeth. Roedd Dogfen y Strategaeth a Chyfansoddiad Drafft y Bwrdd ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiadau A a B yn eu tro.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Evans y dangosyddion economaidd a oedd yn dangos bod gan economi Gogledd Cymru gynhyrchiant isel; lefelau isel o sefydlu cwmnïau newydd; lefelau uchel o ddiweithdra ymhlith pobl ifanc a diffyg buddsoddiad mewnol o gymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru a’r DU. Er mwyn delio â’r materion hynny datblygwyd Strategaeth, trwy gydweithio rhwng chwe awdurdod lleol y rhanbarth. Gallai’r Cyngor ddilyn ei flaenoriaethau ei hun ar gyfer datblygu economaidd, ond hefyd gweithio’n gydweithredol lle’r oedd yn fanteisiol gwneud hynny. Cynigiwyd bod cyflawni’r Strategaeth yn cael ei sicrhau trwy greu Bwrdd Uchelgais Economaidd ar gyfer Gogledd Cymru.

 

Dywedodd y Rheolwr Adfywio Strategol y byddai'r un adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth. Roedd y Pwyllgor Craffu Partneriethau wedi cymeradwyo’r agwedd yn llawn ac wedi gwneud nifer o sylwadau a oedd yn unol â’r camau a oedd yn cael eu cymryd. Ychwanegodd y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol y byddai’r agwedd gydweithredol ranbarthol yn galluogi i awdurdodau lleol Gogledd Cymru elwa ar y cyd gan ddarparwyr allanol. Roedd yr agwedd wedi gweithio mewn ardaloedd eraill lle’r oedd manteision economaidd gwirioneddol wedi eu gwireddu.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn cymeradwyo egwyddorion dogfen Uchelgais Economaidd – Strategaeth ar gyfer Newid, fel y nodwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad, a

 

(b)       chymeradwyo sefydlu Bwrdd Uchelgais Economaidd a’r cyfansoddiad drafft fel y nodwyd yn Atodiad 2 i’r adroddiad.

 

 

10.

BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 86 KB

Derbyn blaenraglen waith y Cabinet a chydnabod y cynnwys.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Flaenraglen Waith y Cabinet i’w hystyried, gan nodi y byddai angen y ddau gyfarfod a drefnwyd ym mis Medi mae’n debyg, yn wyneb faint o fusnes roedd i’w drafod.

 

Gofynnodd y Cynghorydd  Julian Thompson-Hill bod eitemau yn y rhaglen waith yn cael eu dyrannu i Aelodau Arweiniol penodol nawr bod Aelodau Cabinet a phortffolios wedi eu cadarnhau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid y gall fod oedi posibl (o Fedi i Hydref) wrth gynhyrchu’r adroddiadau canlynol –

 

·        Adolygiad Ysgolion Rhuthun

·        Adolygiad o Ddarpariaeth Addysg seiliedig ar Ffydd

 

PENDERFYNWYD cydabod Blaenraglen Waith y Cabinet. 

 

 

GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod wrth ystyried yr eitemau canlynol oherwydd ei bod yn debygol y byddai gwybodaeth eithriedig, fel y diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn cael ei datgelu.

 

 

11.

ADRODDIAD REEMA GALLT MELYD

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Cabinet ystyried yr opsiwn buddsoddi a ffefrir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving yr adroddiad cyfrinachol yn gofyn i’r Cabinet ystyried yr opsiwn buddsoddi a ffefrir ar gyfer eiddo REEMA yng Ngallt Melyd. Esboniodd bod ymarfer ymgynghori ac arfarniad opsiynau wedi eu cynnal er mwyn penderfynu ar ffordd ymlaen a gytunwyd. Darparwyd manylion yr opsiynau a ystyriwyd.

 

Anerchodd yr Ymgynghorydd Tenantiaid Annibynnol y Cabinet a chyfleu barn y tenantiaid ar yr opsiynau a disgwyliadau i’r dyfodol. Roedd y tenantiaid yn awyddus i’r cyngor gymryd penderfyniad clir ynglŷn â dyfodol eu cartrefi.

 

Ystyriodd yr aelodau ddyfodol y stoc dai o ystyried yr adborth i’r ymgynghoriad, arfarniad ariannol a mewnbwn annibynnol ac amhleidiol gan yr ymgynghorwyr a’r ymgynghorydd tenantiaid annibynnol. Esboniodd y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol faterion penodol mewn ymateb i gwestiynau aelodau ar yr eiddo, gan gynnwys goblygiadau ariannol ac opsiynau mewn perthynas ag ailwampio neu ddymchwel ac adeiladu o’r newydd. Ar ôl trafodaeth lawn a manwl, fe –

 

BENDERFYNWYD

 

(a)       bod yn well gan y Cabinet mewn egwyddor opsiwn dymchwel y stoc bresennol ac adeiladu o’r newydd ar y safle yn amodol ar ddatblygu model ariannu priodol;

 

(b)       rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol i ddatblygu a gweithredu polisi gosod a symud lleol;

 

(c)        sefydlu Gweithgor yn cynnwys trigolion, i ddatblygu’r opsiwn a ffefrir a’r model ariannu ar gyfer datblygiad adeiladau newydd;

 

(d)       awdurdodi’r Pennaeth Tai a Chymuned i gychwyn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu cymhorthdal tai i ddatblygu tai cyngor newydd ar y safle, ac

 

(e)       unwaith y byddai opsiwn adeiladu newydd a model ariannu wedi eu datblygu, dwyn y mater yn ôl gerbron y Cabinet  i’w gymeradwyo’n derfynol.

 

 

12.

CONTRACT 7 DYFARNU RHAGLEN WELLIANNAU SAFONAU ANSAWDD TAI CYMRU

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau yn gofyn i’r Cabinet ddyfarnu’n ffurfiol Gontract 7 y Rhaglen Gwella Tai.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving yr adroddiad cyfrinachol yn gofyn i’r Cabinet ddyfarnu’n ffurfiol Gontract 7 y Rhaglen Gwella Tai ar ôl cwblhau’r broses dendro trwy’r cytundeb fframwaith presennol. Roedd manylion y cytundeb fframwaith ynghyd â chynnydd mewn perthynas â’r Rhaglen Gwella Tai wedi eu cynnwys gyda’r adroddiad.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Eryl Williams am sicrhad y byddai dyfarnu’r contract yn sicrhau cyflogaeth leol a recriwtio o fewn y sir, Teimlai y dylai hyn gael ei gynnwys fel rhagofyniad mewn contractau i’r dyfodol, Dywedodd y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol y byddai’r amod hwn yn cael ei gynnwys mewn cytundeb fframwaith newydd a bod gwaith yn mynd rhagddo gyda’r contractwr dan sylw i annog cyflogaeth leol. Cytunodd roddi manylion pellach i’r Cabinet ar y mater hwnnw er gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar ddilysu cyflwyniad tendr y contractwr yn foddhaol, rhoi’r contract i Adever Construction Limited.

 

Daeth y cyfarfod i ben am hanner dydd.