Agenda and minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
Croesawyd pawb
i gyfarfod Cabinet cyntaf y Cyngor gan yr Arweinydd a dywedodd ei fod
yn edrych ymlaen at weithio efo’r rheiny a oedd yn bresennol
a’r Prif Weithredwr a’r Swyddogion. Dywedodd yr Arweinydd
ei fod hefyd
yn dymuno’r gorau i Bethan
Jones, Cyfarwyddwr Corfforaethol
Trawsnewid Busnes ac Adfywio gan mai
dyma ei chyfarfod
Cabinet olaf a dymunai bob lwc iddi yn
ei swydd newydd yn Ynys Môn. Dymunai’r Arweinydd
hefyd estyn ei longyfarchion swyddogol i Ysgolion
Sir Ddinbych am eu perfformiad yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Dim wedi eu derbyn. |
|
DATGANIAD O FUDDIANNAU Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw fuddiant personol neu fuddiant sy’n
rhagfarnu unrhyw fusnes i’w drafod
yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Dim
wedi eu derbyn. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn
y cyfarfod fel materion brys dan
Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd
ar 24ain Ebrill, 2012 [copi’n amgaeëdig]. Cofnodion: Materion yn
codi:- Gan gyfeirio
at dudalen 5, dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley y dylai’r ail bwynt bwled ddarllen “getting closer to
the community” ac nid “getting closure ……” PENDERFYNWYD cymeradwyo Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar Ebrill 24ain, 2012 yn gofnod cywir
a’u harwyddo gan yr Arweinydd. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD CORFFORAETHOL: CHWARTER 4 2011/2012 PDF 424 KB Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd H H Evans, Arweinydd y Cyngor (copi’n amgaeëdig) yn rhoi
gwybodaeth ar feysydd perfformiad allweddol y Cyngor, a galluogi i’r Cabinet ymgymryd â’i swyddogaeth
rheoli perfformiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith yr adroddiad a oedd yn
rhoi gwybodaeth ynglŷn â meysydd perfformiad allweddol y Cyngor, i
alluogi’r Cabinet i ymgymryd â’i swyddogaeth o reoli perfformiad. Paragraff 2.1, mae canran yr holl ddisgyblion sy’n gadael addysg
orfodol, hyfforddiant a dysgu sy’n seiliedig ar waith heb gymhwyster allanol
cymeradwy, wedi gostwng i 0.8% sy’n cyfartalu ag 11 o ddisgyblion. Fe eglurodd y Cynghorydd Eryl Williams i’r Pwyllgor y
byddai’r dangosydd yn gwella oherwydd y gwaith caled sy’n cael ei wneud i newid
agwedd rhai plant tuag at addysg.
Disgwylir i’r niferoedd leihau ymhellach fyth yr haf hwn. Paragraff 2.2, canran y cyfeiriadau amddiffyn oedolion a
gwblhawyd lle mae’r risg wedi ei reoli: fe drafodir y dangosydd hwn yn yr Her
Gwasanaeth. Paragraff 2.3, o’r ddau berson a adroddwyd i fod mewn llety
anaddas, roedd un yn feichiog ac ni wnâi’r ail gydweithredu. Roedd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes wedi gohebu ag
awdurdodau lleol sy’n perfformio’n dda i drafod materion tebyg. Ynglŷn â
pharagraffu 12.1 a 12.2 cafwyd problemau gyda Cododd y Cynghorydd Eryl Williams fater cyfnod ysgol
allweddol 1 a 3. Mynegodd y Cynghorydd
Williams bryder nad yw Estyn yn ystyried bod cyfnod allweddol 3 yn bwysig. Pryder arall oedd a oedd plant cyfnod
allweddol 2 yn cael eu hasesu ar ddiwedd yr ysgol gynradd a dechrau ysgol iau. Fe fu’r Cynghorydd Williams a Karen Evans yn ymweld â Tower
Hamlets yr wythnos diwethaf. Mae Sir
Ddinbych a Tower Hamlets ag ardaloedd difreintiedig a chefnog o fewn eu
hardaloedd ond nid oedd Tower Hamlets yn cynnwys cyfnod allweddol 3 yn eu
ffigurau o gwbl. Teimlai Tower Hamlets fod cyfnodau allweddol 2 a 4 yn dangos
yn union be safon yr oedd plant wedi ei gyrraedd ac fe ddosbarthwyd cyfnod
allweddol 4 yn gyfnod pwysicaf. Croesawodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad. Roedd oddeutu £15miliwn wedi
ei wario ar ffyrdd ledled y Sir ac nid oedd ymatebion i’r arolwg preswylwyr yn
ymatebol o’r ffaith yma. Mae angen
ymchwilio canfyddiad y cyhoedd yn gyffredinol.
Mynegodd y Cynghorydd Thompson-Hill bryder ynglŷn â mesur
dangosyddion ar y blaenoriaethau. Rhoddodd Rheolwr y Tîm Gwella Corfforaethol ymateb drwy
esbonio’r canlynol:- (a)
Mae Mesurau Perfformiad yn mesur perfformiad y
Cyngor. (b)
Mae Dangosyddion yn dynodi a ydi’r hyn mae Sir
Ddinbych yn ei wneud yn cael effaith. Dywedodd y Cynghorydd Williams ei bod yn hanfodol fod
rhestrau’r gwaith priffyrdd sydd ar ôl yn gadarn ac yn gywir. Dywedodd y Prif Weithredwr mai dyma’r adroddiad olaf ar y
Cynllun Corfforaethol cyfredol. Roedd
angen adolygu Dangosyddion Perfformiad ac roedd yna hefyd gyfle i adolygu
blaenoriaethau a’r ffordd y byddid yn eu mesur. Cyfeiriodd at:- (a)
y ddau berson ifanc yn y ddalfa a oedd wedi eu
crybwyll yn flaenorol mewn adroddiadau oherwydd bod y Llys wedi cymeradwyo bod
eu llety’n anaddas. (b)
Ynglŷn
â’r ffyrdd, roedd yna fuddsoddi mewn gwella ffyrdd ond nid oedd Sir Ddinbych
wedi gallu arddangos y gwelliannau i aelodau’r cyhoedd ac roedd angen unioni
hynny. Dywedodd y Pennaeth Busnes a Chynllunio wrth y Cabinet fod
cynllun corfforaethol newydd yn cael ei ddatblygu gyda blaenoriaethau a
dangosyddion newydd. Byddai Aelodau’n
cael eu cynnwys yn y broses. Byddid yn cyflwyno’r Adroddiad Perfformiad Corfforaethol i
gyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar Fehefin 28ain 2012. PENDERFYNWYD, yn amodol ar ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ALLDRO ARIANNOL 2011/12 PDF 98 KB Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) ar yr alldro refeniw
terfynol ar gyfer 2011/12 ac argymhell y sefyllfa i’r Cyngor
Llawn. Hefyd argymell i’r Cyngor
sut dylid trin y cronfeydd wrth gefn a’r
balansau fel y manylwyd yn yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad i’r Cabinet ystyried:- (a)
safle alldro refeniw terfynol ar gyfer 2011/12 a
chymeradwyo’r safle i’r Cyngor Llawn. (b)
cymeradwyo i’r Cyngor Llawn driniaeth y
cronfeydd wrth gefn a’r gweddillion fel y’u nodir yn yr adroddiad Dywedodd y Cynghorydd Thompson-Hill fod yr adroddiad hwn yn
cael ei gyflwyno hefyd i’r Cyngor Llawn ar Orffennaf 10fed 2012. Roedd y datganiad o gyfrifon blynyddol i’w
cyflwyno i archwilwyr allanol ar ddiwedd
y mis. Rhoddodd y Cynghorydd Thompson-Hill grynodeb o’r adroddiad. Dywedodd y Cynghorydd David Smith fod Atodiad 3 yn peri
pryder. Roedd yna gryn symudiad a oedd
yn golygu y byddai ysgolion yn defnyddio eu cronfeydd wrth gefn. Os byddai’r tueddiad hwn yn parhau, byddai
ysgolion yn wynebu anawsterau ariannol. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cwsmeriaid fod y
tueddiad yn gwella. Yn flaenorol roedd
yna amryw o ysgolion ag anawsterau ariannol difrifol ond roedd y Rheolwyr
Cyllid yn awr wedi eu dyrannu i glystyrau ysgolion i’w cynorthwyo. Roedd yr ymyriadau hyn i atal ysgolion rhag
mynd i ddiffygion. Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams fod ysgolion yn gyfrifol
am eu cyllidebau eu hunain ac na allai Sir Ddinbych amodi sut yr oedd eu
cyllidebau i’w gwario. Cododd y Cynghorydd Bobby Feeley
fater y posibilrwydd o’r Cyngor brynu ei gytundeb PFI. Cadarnhaodd y Cynghorydd Thompson-Hill fod
yna drafod wedi bod ond nid oedd Llywodraeth Cymru’n fodlon cynorthwyo Sir
Ddinbych ar hyn o bryd. Eglurodd y Pennaeth Cyllid ac
Asedau y byddai angen i Lywodraeth Cymru ddarparu Sir Ddinbych â chyllid ond
nid oedd yn barod i wneud hynny. Fe eglurodd y Cynghorydd Huw Ll Jones fater y gorwario yn Theatr
Pafiliwn y Rhyl. Dywedodd fod y tîm a
weithiodd â Phafiliwn Llangollen yn awr yn gweithio â Phafiliwn y Rhyl ond yn
anffodus, o fewn yr wythnos gyntaf o waith, roedd yn ofynnol i’r Cyngor
ddychwelyd grant o £94k. Fe fu yna
symudiadau staff yn cynnwys y gweinyddwr yn gadael ac ymddeoliad cynnar Rheolwr
y Theatr. Roedd y Pennaeth Hamdden,
Llyfrgelloedd a Datblygu Cymunedol yn cynllunio gwneud arbedion o £50k eleni. Cododd y Cynghorydd Gwyneth
Kensler fater y llinellau ffôn. Er mwyn
gwneud cynilion effeithlonrwydd roedd rhai swyddogion yn awr yn rhannu rhifau
ffôn. Cyfrifoldeb y swyddogion oedd newid
eu rhif ffôn ar y fewnrwyd ond nid oedd y rhifau’n gywir bob amser. Dywedodd ei bod yn bwysig fod y rhifau’n
gywir. PENDERFYNWYD:- (a)
Bod y
Cabinet yn cytuno i gymeradwyo’r safle alldro refeniw terfynol ar gyfer
2011/2012 i’r Cyngor llawn (b)
Bod y
Cabinet yn cytuno i gymeradwyo’r driniaeth o’r cronfeydd wrth gefn a
gweddillion fel y’u nodir yn yr adroddiad. |
|
DIWEDDARIAD ARIANNOL 2012/13 PDF 303 KB Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) i’r Aelodau gydnabod
y cyllidebau a’r targedau arbed ar gyfer y flwyddyn
a’r cynnydd mewn perthynas â’r strategaeth gyllidebol a gytunwyd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad
i’r Cabinet nodi’r cyllidebau a’r targedau cynilion am y flwyddyn a’r cynnydd
yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd. Adroddodd y
Cynghorydd Thompson-Hill mai dyma’r adroddiad cyntaf ar gyfer y flwyddyn
ariannol 2012/13. Yn y cam yma nid oedd
yna unrhyw wyriadau oddi wrth strategaeth cyllideb gytûn 2012/13 fel y’i
diffinnir yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, y Cynllun Cyfalaf a’r Cynllun
Busnes Stoc Tai. Rhoddodd y Cynghorydd Thompson-Hill grynodeb o’r adroddiad. Cododd y Cynghorydd Bobby Feeley fater Genesis. Adroddodd fod y cynllun yn cael ei noddi gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer merched a oedd â theuluoedd ifanc a bod y tanwariant
yn y Gwasanaethau Plant yn gorfod delio â’r diffyg mewn cyllid. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Demograffeg, Lles a
Chynllunio y gwnaethpwyd ymdrechion i ddelio â phroblemau ariannu. Roedd Llywodraeth Cymru’n noddwyr y cynllun
ac roedd angen iddyn nhw sicrhau na fyddai’r sefyllfa hon yn digwydd eto cyn
diwedd y cynllun yn 2013. Holodd yr Arweinydd am gyfanswm y ffigwr benthyca o
£135miliwn ac a oedd hwn wedi gostwng. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau fod y ffigwr yn
statig. PENDERFYNWYD fod y
Cabinet yn nodi’r cyllidebau a’r targedau arbedion am y flwyddyn a’r cynnydd a
wnaethpwyd yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd. |
|
BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET PDF 14 KB Cydnabod Rhaglen
amgaeëdig o Waith y Cabinet
i’r Dyfodol a chydnabod y cynnwys. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
H.H. Evans Flaenrageln Waith
y Cabinet i’w ystyried. Ynglŷn â’r
Mesur Iechyd Meddwl, dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley na fyddai hi na
Chyfarwyddwr Corfforaethol Demograffeg, Lles a Chynllunio’n gallu mynychu cyfarfod y Cabinet ym mis Gorffennaf
ac felly byddai angen i gynrychiolydd arwain ar yr adroddiad
yn eu lle. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn derbyn y Flaenraglen Waith. |
|
Yn y pwynt yma (11.35am) fe ohiriwyd y cyfarfod ar gyfer toriad. Fe ail-alwyd y cyfarfod am 11.45am RHAN II Penderfynwyd, yn unol ag Adran
100A Deddf Llywodraeth Leol, 1972 gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd
o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol gan ei bod
yn debygol y byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei
datgelu iddyn nhw fel y’i diffinnir ym mharagraffau
14 Rhan 4 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
DYFARNU CYTUNDEB CYMORTH FEL Y BO’R ANGEN PROSIECT ABBA (AROS BYW BOD ADREF) Ystyried adroddiad
cyfrinachol gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant (copi’n amgaeëdig) ar argymhelliad
i ddyfarnu contract 24 mis (gyda’r opsiwn
i’w ymestyn am flwyddyn neu ddwy
arall) i Cymryd Rhan. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
Bobby Feeley adroddiad Dyfarniad Cytundeb Prosiect Cymorth fel y bo’r Angen
ABBA i’r Cabinet i gymeradwyo’r argymhelliad i ddyfarnu cytundeb
24 mis (gyda’r opsiwn o ymestyn am flwyddyn neu ddwy
arall) i Gymryd Rhan. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn dyfarnu cytundeb 24 mis (efo’r opsiwn
i ymestyn am flwyddyn neu ddwy
arall) i Gymryd Rhan. |
|
ARDALOEDD GORCHYMYN PRYNIANT GORFODOL AR GYFER WEST PARADE, Y RHYL Ystyried adroddiad
cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod
Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) i gymeradwyo
caffael Teitl trwy ddefnyddio Gorchymyn Pryniant Gorfodol ar gyfer
tir y tu ôl i 21-37 Rhodfa’r
Gorllewin ac yn cyffinio Maes Parcio
Crescent Road, y Rhyl. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
Julian Thompson-Hill yr adroddiad i
gael cymeradwyaeth i gaffael y Teitl
drwy ddefnyddio Gorchymyn Prynu Gorfodol ar gyfer
tir yng nghefn
21-37 West Parade ac yn gyfagos
â Maes Parcio
Crescent Road, y Rhyl. PENDERFYNWYD fod y Cabinet yn cymeradwyo defnyddio
pwerau Prynu Gorfodol i gaffael
buddiant rhydd-ddaliad priffordd fabwysiedig a thir arall ar
y Cynllun yn Atodiad A fel Plotiau
2, 3 a 4 a ddefnyddir fel priffordd a thir mynediad yng nghefn
21-37 West Parade ac o gwmpas Maes
Parcio Crescent Road yn unol ag Adran
226(1)(b) Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.50am. |