Rhaglen
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN BUDDIANNAU Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu
fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20fed
Mawrth 2012 [copi’n amgaeëdig]. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd J Thompson-Hill, Aelod
Arweiniol Cyllid ac Effeithlonrwydd (copi’n amgaeëdig) sy’n nodi rhagolygon
diwedd y flwyddyn ar gyfer cyllideb refeniw a pherfformiad mewn perthynas â
strategaeth y gyllideb ar gyfer 2011/12. Dogfennau ychwanegol: |
|
CREU CRONFA WADDOL GYMUNEDOL SIR DDINBYCH PDF 138 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd H.H. Evans, Arweinydd
(copi’n amgaeëdig) sy’n rhoi gwybodaeth ar nifer o gronfeydd ymddiriedolaeth
segur neu aneffeithiol a’u hasedau cysylltiedig a weinyddir gan y Cyngor, ac
argymell ffordd ymlaen i ryddhau’r arian o’r cronfeydd hyn. Dogfennau ychwanegol: |
|
ADRODDIAD TERFYNU BWRDD POBL A LLEOEDD PDF 106 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd P.A. Dobb, Aelod
Arweiniol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles (copi’n amgaeëdig) sy’n manylu’r
llwyddiannau a’r hyn a ddysgwyd gan Fwrdd Pobl a Lleoedd. Dogfennau ychwanegol: |
|
RHAGLEN WAITH Y CABINET I’R DYFODOL PDF 74 KB Derbyn y Rhaglen amgaeëdig o Waith y Cabinet i’r Dyfodol a
chydnabod y cynnwys. |
|
GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD Argymhellir yn unol ag Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol
1972, y dylid gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod wrth ystyried yr eitem
fusnes ganlynol oherwydd ei bod yn debygol y byddai gwybodaeth eithriedig (fel
y diffinnir ym mharagraffau 13 a 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf) yn cael
ei datgelu. |
|
PRYNU 25/26 RHODFA’R GORLLEWIN, Y RHYL TRWY ORCHYMYN PRYNIANT GORFODOL Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd P.J.
Marfleet, Aelod Arweiniol Moderneiddio’r Cyngor (copi’n amgaeëdig) ar
ddefnyddio trefniadau Pryniant Gorfodol i brynu’r eiddo a elwir 25/26 Rhodfa’r Gorllewin, y Rhyl i bwrpas
ailddatblygu. Dogfennau ychwanegol:
|
|
AILDDATBLYGU 21-26 RHODFA’R GORLLEWIN, Y RHYL Ystyried adroddiad brys, cyfrinachol gan y Cynghorydd P.J. Marfleet, Aelod Arweiniol Moderneiddio’r Cyngor (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo penodi Partner Datblygu’r Cyngor ar gyfer ailddatblygu 21-24 Rhodfa'r Gorllewin (a elwid yr Honey Club), y modurdy y tu ôl i 27-28 Rhodfa’r Gorllewin a 25-26 Rhodfa’r Gorllewin (yn amodol ar ei brynu), y Rhyl. Dogfennau ychwanegol:
|
|
CANIATÂD I DDYMCHWEL 21-24 RHODFA’R GORLLEWIN, Y RHYL Dogfennau ychwanegol:
|