Agenda and decisions
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y
Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau
Strategol |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: |
|
Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi
ynghlwm), sy’n ceisio cymeradwyaeth ar gyfer adnoddau ychwanegol, er mwyn
sicrhau y gall y gwasanaeth ailgylchu trolibocs wythnosol newydd a
swyddogaethau casglu gwastraff cysylltiedig weithredu fel y rhagwelwyd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo £1.299m ychwanegol mewn
gwariant cyfalaf er mwyn caffael cerbydau ailgylchu ychwanegol, wedi’i ariannu
drwy fenthyca darbodus; (b) cymeradwyo £1.067m ychwanegol o gostau
refeniw er mwyn sicrhau y gall y newid gwasanaeth ddarparu fel y cynlluniwyd ar
sylfaen gynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys
y costau refeniw ar gyfer benthyca darbodus ar gyfer y cerbydau y cyfeirir
atynt yn 3.1 yr adroddiad; (c) cytuno bod y penderfyniad yn cael ei
weithredu ar unwaith heb gael ei alw i mewn, yn unol ag adran 7.25 yng Nghyfansoddiad
y Cyngor, a (d) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad A yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau. |