Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnodion:

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 199 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n peri rhagfarn yn gysylltiedig ag unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Alan James – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen

 

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Alan James ddatgan cysylltiad personol yn eitem 5 y rhaglen gan fod ei ferch yn gweithio i’r Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE).

 

 

3.

MATERION BRYS

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnodion:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 342 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2025 (copi’n amgaeedig). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2025 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2025.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2025 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

5.

DOD Â’R GWASANAETH GWELLA YSGOLION RHANBARTHOL I BEN pdf eicon PDF 220 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd (copi’n amgaeedig) ynglŷn â’r newidiadau sydd eu hangen a’r ffordd ymlaen arfaethedig i gyflawni swyddogaethau statudol gwella ysgolion yn dilyn cau GwE.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)      Bod y Cyngor hwn yn cymeradwyo terfynu’r cytundeb i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru yng nghyd-destun y Gwasanaeth Effeithlonrwydd a Gwella Ysgolion rhanbarthol (GwE) ar 31 Mai 2025 a diddymu’r gofyn am Gyd-bwyllgor GwE yn sgil hynny;

 

(b)      Bod y Cyngor hwn yn cadarnhau ei rwymedigaeth dan y contract wrth ddod â’r trefniant hwn i ben, a

 

(c)      Bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Diane King yr adroddiad, gan fanylu ar y newidiadau angenrheidiol, a chynhigiodd ffordd ymlaen i fynd i’r afael â swyddogaethau statudol gwella ysgolion yn dilyn cau’r Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE).

 

Sefydlwyd GwE drwy gytundeb rhwng y chwech o awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru ym mis Chwefror 2013.  Ym mis Ionawr 2024, cyfeiriodd y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg ar y pryd i adolygiad o bartneriaethau Addysg a gwelliant ysgolion i symud i ffwrdd i fodel rhanbarthol ehangach i sefydlu partneriaethau ar lefel fwy lleol, a byddai GwE yn peidio â bodoli fel consortiwm rhanbarthol ar 31 Mai, 2025.  O ganlyniad, gofynnwyd i’r Cabinet derfynu’r cytundeb hwnnw’n ffurfiol a diddymu Cyd-bwyllgor GwE.   Darparodd yr Aelod Arweiniol sicrwydd y byddai gwella safonau mewn ysgolion yn parhau, a bod y Pennaeth Addysg yn gweithio gyda chydweithwyr ledled Gogledd Cymru a, a byddai Adrannau AD a’r Gyfraith yn parhau gyda’u cefnogaeth i ysgolion.  Roedd codi safonau mewn ysgolion yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol.

 

Mynychodd y Pennaeth Addysg ar gyfer yr eitem hon hefyd.  Yn ystod y drafodaeth codwyd pryderon ynghylch y gost, ansicrwydd o ran newid, a chodwyd cwestiynau mewn perthynas â’r symudiad i ffwrdd o weithio’n rhanbarthol yn yr achos hwn, pan roedd yn ehangu mewn ardaloedd eraill, rhesymeg tu ôl penodi’r awdurdod arweiniol, craffu gwaith GwE, goblygiadau ar gyfer ysgolion, a datblygiad y gwasanaeth wrth symud ymlaen.  Ymatebodd y swyddogion i’r cwestiynau hynny a chwestiynau pellach fel a ganlyn –

 

·       manylion o gymhlethdod y sefyllfa a’r amwysedd o ran costau staffio o wybod proses barhaus trefniadau Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth yn y chwe awdurdod lleol, a dod â threfniadau contract i ben, gyda chyllid ychwanegol Llywodraeth Cymru ar gael yn y flwyddyn ariannol bresennol i helpu gyda’r costau hynny

·       sefydlu Bwrdd Trosiannol i oruchwylio’r trefniadau ar gyfer trosglwyddo gwasanaethau GwE i’r awdurdodau lleol a’r strwythurau a ddatblygwyd i ddarparu cefnogaeth i ysgolion ar lefel awdurdod lleol unigol

·       roedd gan y costau trosiannol natur untro a byddai’r cyllid ar ffurf grantiau, neu’n defnyddio cronfeydd wrth gefn (byddai’r gyllideb drosiannol £2 miliwn ar gyfer Cymru gyfan yn annhebygol o dalu am y costau); roedd costau parhaus y gwasanaeth yn dilyn diddymiad GwE wedi cael eu cynnwys yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, a byddai arbedion cylchol yn sgil costau llai y gwasanaeth newydd

·       roedd y rhesymeg tu ôl y penderfyniad hanesyddol i benodi Cyngor Gwynedd fel awdurdod arweiniol ar gyfer GwE yn anhysbys, a byddai trefniadau gwasanaeth newydd yn cael eu harwain gan bob awdurdod lleol unigol gydag ychydig o gydweithio gyda’r awdurdodau eraill

·       nodwyd cyfreithlondeb sefydlu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn 2021, yn ogystal â’u cyfrifoldebau yn nhermau gweithio’n rhanbarthol mewn meysydd penodol

·       symud i ffwrdd o fodel rhanbarthol ehangach ar gyfer y gwasanaeth gwella ysgolion, gydag adolygiad haen ganol i’w gwblhau yn genedlaethol ledled Cymru, ac ymgynghoriad gyda Phenaethiaid ac ysgolion; y canlyniad oedd tueddiad i symud i ffwrdd o ddull rhanbarthol o weithio i ganolbwyntio fwy yn lleol.  Serch hynny, roedd disgwyliad bod cydweithrediad o hyd gydag awdurdodau lleol ar brosiectau a chynlluniau penodol, ond byddai ffocws lleol penodol yn hytrach na rhanbarthol

·       Roedd ysgolion Sir Ddinbych fel arfer yn gwerthfawrogi gwaith GwE, a bod gwaith ac arfer da yn cael ei gymryd ymlaen i’r gwasanaeth newydd, a chytunodd aelodau eraill am yr ymgysylltiad cadarnhaol gyda’r gwasanaeth; roedd GwE wedi bod yn mynd i’r  Pwyllgor Craffu Perfformiad i drafod materion megis addysg yn y cartref, safonau, a phresenoldeb, heb unrhyw argymhellion negyddol ar y gwaith hwnnw

·       Amlygodd y Cynghorydd Gareth Sandilands, Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad bresenoldeb GwE mewn cyfarfodydd wrth ystyried materion yn ymwneud ag addysg i  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

POLISÏAU AD - POLISI AFLONYDDU RHYWIOL NEWYDD A’R POLISI ADLEOLI A DDIWEDDARWYD pdf eicon PDF 222 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu’r Polisi Aflonyddu Rhywiol a’r diwygiadau i’r Polisi Adleoli.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo ac yn mabwysiadu’r Polisi Aflonyddu Rhywiol a’r Polisi Adleoli, ac yn

 

(b)      cadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 a 4 i’r adroddiad), ei ddeall a’i ystyried wrth ddod i benderfyniad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu diwygiadau i’r Polisi Aflonyddu Rhywiol a’r Polisi Adleoli.

 

Roedd yr adroddiad yn trafod dau bolisi cadarnhaol i gefnogi staff a’u lles, a darparwyd crynodeb o bob polisi, fel a ganlyn -

 

Polisi Aflonyddu Rhywiol – roedd hwn yn bolisi newydd a luniwyd yn unol â’r ddeddfwriaeth Cydraddoldeb newydd a oedd yn rhoi dyletswydd ar gyflogwyr i gymryd camau ‘rhesymol’ i atal aflonyddu rhywiol.  Nod y polisi yw sicrhau bod pawb yn deall beth yw aflonyddu rhywiol a’r ymddygiad proffesiynol a ddisgwyliwn yn y Cyngor, a phennu ein cyfrifoldebau ninnau fel Cyngor i atal aflonyddu rhywiol.  Roedd hefyd yn egluro sut i roi gwybod am aflonyddu rhywiol, y broses y dylid ei dilyn a’r cymorth sydd ar gael.  Daeth yr Asesiad o'r Effaith ar Les i'r casgliad bod yr effaith yn gadarnhaol.  I fewnosod y polisi yn niwylliant yr awdurdod, byddai’n cael ei gefnogi gan Becyn Gwaith Atal i Reolwyr, a fydd yn cynnwys hyfforddiant, dogfen ar gyfer cyflwyno’r polisi mewn cyfarfodydd tîm a chyflwyniadau diogelwch, ynghyd â thempledi ar gyfer asesiadau risg i wasanaethau eu cwblhau a’u cadw’n gyfredol.

 

Polisi Adleoli – roedd y polisi hwn wedi bod yn destun adolygiad llawn ac roedd yr adroddiad yn cynnig crynodeb o’r diwygiadau a wnaed.  Roedd y polisi’n canolbwyntio ar dair sefyllfa bosib sy’n creu’r angen i adleoli: gallu, colli swydd a meddygol.  Dan y polisi presennol, dim ond gweithwyr gyda mwy na dwy flynedd o wasanaeth parhaus a oedd yn cael eu rhoi ar y gronfa adleoli, ac mae’r fersiwn newydd yn sicrhau bod pob gweithiwr yn cael eu rhoi ar y rhestr adleoli, waeth beth fo hyd eu gwasanaeth.  Roedd y polisi hefyd yn cynnwys ‘cwestiynau cyffredin’ buddiol a gafodd eu diweddaru.

 

Roedd Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Rheolwr Gwasanaeth Pobl ac AD yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.  Roedd y polisïau wedi’u datblygu mewn ymgynghoriad gyda’r Undebau Llafur ac wedi’u cymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol ar gyfer Iechyd a Diogelwch a Chysylltiadau Gweithwyr.

 

Trafododd y Cabinet y polisïau gyda’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion.  Roedd y Polisi Aflonyddu Rhywiol yn bolisi cyflogaeth i staff, a byddai ymddygiad aelodau etholedig mewn perthynas ag aflonyddu rhywiol, ac yn y blaen yn cael ei gynnwys yn y Cod Ymddygiad Aelodau.  Ar gais yr Aelod Arweiniol, cytunwyd y byddai modiwl eDdysgu ar gael i aelodau etholedig i gefnogi eu dealltwriaeth o’r mater.  Roedd yr Undebau Llafur wedi cymryd rhan weithredol mewn llunio’r polisi, a oedd wedi cael ei dderbyn yn dda gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig, ac roedd yr Undebau Llafur wedi gwerthfawrogi eu cyfranogiad yn y broses honno.  Diolchodd yr Aelod Arweiniol i’r holl fudd-ddeiliaid am eu cyfraniadau a’u cyfranogiad gyda’r polisi newydd.  Roedd y camau nesaf yn cynnwys mewnosod y polisi i ddiwylliant yr awdurdod a chodi ymwybyddiaeth, a fyddai’n debygol o arwain at gynnydd i’r nifer o achosion a adroddir.  Byddai effeithiolrwydd y polisi yn bennaf yn cael eu mesur i ddechrau gan y nifer o ddigwyddiadau sy’n cael eu hadrodd, a dros gyfnod hirach o amser sy’n cael ei adlewyrchu yn yr arolwg staff.

 

Gofynnwyd am eglurhad dros eiriad y Polisi Adleoli a’i oblygiadau o ganlyniad i’r newid o ran symud i ffwrdd o isafswm o ddwy flynedd o wasanaeth cyn adleoli.  Amlygodd y Cynghorydd Emrys Wynne yn benodol yr amddiffyniad ar gyfer staff sydd dan y polisi dwy flynedd ar hyn o bryd, yn benodol o ganlyniad i ymddiswyddiad, ac i ddiogelu’r adleoliadau dilynol a all effeithio rhai aelodau o staff yn negyddol. Gan gydnabod y pryderon hynny, amlygwyd bod y rhesymau ar gyfer adleoliad  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

POLISI SY’N CEFNOGI MAETHU pdf eicon PDF 217 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu’r Polisi Cefnogi Maethu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo ac yn mabwysiadu’r Polisi Cefnogi Maethu, ac yn

 

(b)      cadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 i’r adroddiad), ei ddeall a’i ystyried wrth ddod i benderfyniad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad sy’n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu’r Polisi Cefnogi Maethu.

 

Roedd y polisi’n arddangos bod y Cyngor yn gwerthfawrogi’r cyfraniad y mae gofalwyr maeth yn eu gwneud i gymdeithas a bywydau plant sy’n derbyn gofal.  Roedd yn nodi’r ymrwymiad ychwanegol a’r gofynion ar gyfer gofalu am blant sy’n derbyn gofal gan ddarparu absenoldeb arbennig ychwanegol i aelodau o staff sy’n ofalwyr maeth, a’r sawl sydd yn y broses gael asesiad.  Amlygodd yr Asesiad o Effaith ar Les sut byddai’r polisi’n cynorthwyo wrth recriwtio a chadw gofalwyr maeth i helpu gyda diogelu plant sy’n derbyn gofal o fewn eu cymunedau eu hunain, a sicrhau ei bod yn cadw cysylltiadau cryf gyda theuluoedd, ffrindiau a’r ysgol.  Cafodd y polisi ei gymeradwyo gan y Tîm Gweithredol Corfforaethol, yr Undebau Llafur a’r Cyd-bwyllgor Ymgynghorol ar gyfer Iechyd a Diogelwch a Chysylltiadau Gweithwyr.

 

Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant bod y polisi wedi bod yn ychwanegiad pwysig i’r cynnig craidd i ofalwyr maeth, a byddant yn codi ymwybyddiaeth bellach ac yn annog staff i ddod ymlaen i gefnogi plant yn lleol.  Roedd cynyddu’r nifer o ofalwyr maeth mewnol yn flaenoriaeth, a byddai’r polisi yn cefnogi’r broses, ac yn darparu amser i ffwrdd o’r gwaith i staff sy’n ymgymryd â hyfforddiant angenrheidiol a chyfarfodydd gofynnol.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd –

 

·       manylion o’r camau sy’n rhan o’r broses o ddod yn ofalwr maeth, ac yn ystod y camau asesu byddai gofalwyr maeth posib angen amser i ffwrdd o’r gwaith i ymgymryd â’r broses, yn benodol er mwyn mynd ar hyfforddiant tri diwrnod gofynnol

·       byddai’r polisi hefyd yn golygu ffordd o gyhoeddi bod y Cyngor yn awdurdod sy’n cefnogi maethu, ac yn cynnig cyfle arall i godi ymwybyddiaeth

·       ymhelaethwyd ymhellach ar y prosiect i wella’r ‘cynnig craidd’ i ofalwyr maeth, gan gadarnhau y byddai Swyddog Prosiect yn cychwyn ym mis Ebrill i barhau gyda’r gwaith a nodi mentrau a chynigion ar draws yr holl wasanaethau a hyrwyddo’r mater, yn benodol mewn ysgolion, a gwaith pellach mewn perthynas â hynny wrth symud ymlaen

·       roedd tua 45 o deuluoedd maethu yn y sir ar hyn o bryd, a’r nod ar gyfer y flwyddyn nesaf oedd diogelu 10 aelwyd newydd a fyddai’n gwneud gwahaniaeth mawr; roedd 3 allan o’r 8 cwpl a ddaeth i’r sesiwn hyfforddi recriwtio diwethaf yn gweithio i’r Cyngor, ac wedi cymryd absenoldeb arbennig i fynd i’r sesiwn

·       yn gyfreithiol, gallwch fod yn ofalwr maeth ar gyfer un darparwr ac nid sawl un

·       byddai rheolwr atebol y gweithiwr yn cymeradwyo’r absenoldeb yn ôl disgresiwn, a oedd yn unol â’r holl geisiadau eraill am amser i ffwrdd, a rhoddwyd sicrwydd bod y dybiaeth y rhoddir absenoldeb ac eithrio bod amgylchiadau eithriadol yn cael ei fonitro’n agos.

 

Croesawodd y Cabinet y polisi fel ffordd gadarnhaol o annog a chefnogi gofalwyr maeth presennol a darpar ofalwyr maeth drwy’r broses faethu a chyfrifoldebau parhaus.  Talwyd teyrnged i rôl werthfawr gofalwyr maeth a’r buddion i blant a phobl ifanc, ac ailadroddwyd ymrwymiad y Cyngor i ddarparu’r gefnogaeth angenrheidiol i gynyddu’r nifer o ofalwyr maeth mewnol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo ac yn mabwysiadu’r Polisi Cefnogi Maethu, ac yn

 

(b)      cadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 i’r adroddiad), ei ddeall a’i ystyried wrth ddod i benderfyniad.

 

 

8.

TROSGLWYDDO BARGEN DWF GOGLEDD CYMRU I GYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 294 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, yr Arweinydd a’r Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi’n amgaeedig) ynghylch y cynnig i drosglwyddo Bargen Dwf Gogledd Cymru i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru yn unol â’r penderfyniad mewn egwyddor a wnaed gan y Cabinet blaenorol yn Rhagfyr 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      Cytuno i sefydlu Cytundeb Partneriaeth a Chyllido (Atodiad 2 i’r adroddiad) a throsglwyddo swyddogaeth y Corff Atebol, cyfrifoldeb dros gyflawni Bargen Dwf Gogledd Cymru a’r trefniadau cyllido ar gyfer y Fargen Dwf i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ar 31 Mawrth 2025 neu cyn hynny;

 

(b)      Cytuno i amnewid a neilltuo, fel y bo’r gofyn, i drosglwyddo gweithrediad Bargen Dwf Gogledd Cymru a’r hawliau a rhwymedigaethau ym mhob cytundeb cyllido sydd yng ngofal Cyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (“y Bwrdd Uchelgais”) i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru (“y Cyd-bwyllgor Corfforedig”);

 

(c)      Cytuno i drosglwyddo ac amnewid a/neu neilltuo’r holl fuddiannau yn y portffolio o brosiectau a ariennir gan Fargen Dwf Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw gytundebau, taliadau a phrydlesi ategol gan Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran y Bwrdd Uchelgais i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig;

 

(d)      Cytuno i drosglwyddo a/neu neilltuo’r holl falansau ariannol, arian yn ddyledus ac asedau yng ngofal Cyngor Gwynedd ar ran y Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru;

 

(e)      Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151, i gymeradwyo a gweithredu’r cytundebau, y gweithredoedd a’r holl ddogfennau cyfreithiol eraill ar eu ffurf derfynol, fel y bo’n angenrheidiol i weithredu'r trosglwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a), (b) a (c) uchod;

 

(f)       Ar ôl cwblhau’r Cytundeb Partneriaeth a Chyllido, cytuno i derfynu’r cytundeb GA2 a dirwyn Cyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ben;

 

(g)      Cytuno i drosglwyddo atebolrwydd i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru a’i fod yn derbyn cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau ar gyfer gweithredu Bargen Dwf Gogledd Cymru yn amodol ar amnewid y Fargen Dwf a chymeradwyo Rheolau Sefydlog ychwanegol sy'n cynnwys telerau allweddol y Cytundeb Cydweithio ("GA2") rhwng y chwech o Gynghorau Cyfansoddol a’r pedwar o bartïon Addysg, a

 

(h)      Chytuno i roi’r penderfyniadau uchod ar waith yn ddiymdroi heb eu galw i mewn, yn unol ag adran 7.25 o Gyfansoddiad y Cyngor, fel y gellir trosglwyddo ar 31 Mawrth 2025 neu cyn hynny.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad hwn yn ymdrin â’r cynnig i drosglwyddo gweithrediad Bargen Dwf Gogledd Cymru i Gydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru, yn unol â’r penderfyniad mewn egwyddor a wnaeth y Cabinet blaenorol ym mis Rhagfyr 2021.

 

Roedd sefydliad a chyfrifoldebau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ym mis Rhagfyr 2020 a Chyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ym mis Ebrill 2021 wedi’u nodi yn yr adroddiad, ynghyd â phenderfyniad mewn egwyddor y Cynghorau Cyfansoddol yn 2021/22 i drosglwyddo’r Fargen Dwf i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru. Roedd y penderfyniad gwreiddiol yn benderfyniad mewn egwyddor gan fod y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn parhau i ddatblygu, gyda chyfres derfynol o reoliadau ym mis Ebrill 2023.   Cyfeiriodd yr Arweinydd at Weithdy’r Cyngor diweddar a hwyluswyd gan Ambition North Wales, a oedd yn boblogaidd iawn gyda thrafodaeth dda ac adborth gan aelodau.

 

Arweiniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Llywodraethu a Busnes y Cabinet drwy elfennau technegol y trosglwyddiad a’r argymhellion ar gyfer ystyriaeth.  Sir Ddinbych oedd yr olaf o’r chwe awdurdod lleol i dderbyn yr adroddiad, ac roedd yr awdurdodau eraill wedi cytuno i’r trosglwyddiad ac roedd Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru wedi cytuno i arwyddo’r cytundeb. Er mwyn i’r trosglwyddiad ddigwydd erbyn 31 Mawrth 2025, gofynnwyd i’r Cabinet gytuno bod y penderfyniadau yn cael eu gweithredu heb alw i mewn.

 

Trafododd y Cabinet fuddion yr adroddiad ymhellach gyda'r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraeth a Busnes yn ymateb i gwestiynau, gan ymhelaethu ar fanteision y trosglwyddiad oherwydd y cyfuniad aelodaeth y ddau gorff, osgoi cael sawl corff rhanbarthol gyda swyddogaethau tebyg, a manteision cyfreithiol a gweithredol Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru yn dod yn endid corfforaethol ei hun.  Os yw argymhellion yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo, byddai Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru’n dod yn gorff atebol mewn perthynas â’r Fargen Dwf gyda throsglwyddiad pob cyfrifoldeb o Gyngor Gwynedd fel awdurdod cynnal a chorff cyfrifol i’r Cyd-bwyllgor, gan gynnwys staff a fyddai’n cael eu cyflogi ganddynt.  Roedd penodi Cyngor Gwynedd fel awdurdod cynnal presennol a chorff atebol yn benderfyniad hanesyddol yn dilyn trafodaeth rhwng awdurdodau lleol a sefydliadau addysgol wrth sefydlu Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      Cytuno i sefydlu Cytundeb Partneriaeth a Chyllido (Atodiad 2 i’r adroddiad) a throsglwyddo swyddogaeth y Corff Atebol, cyfrifoldeb dros gyflawni Bargen Dwf Gogledd Cymru a’r trefniadau cyllido ar gyfer y Fargen Dwf i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ar 31 Mawrth 2025 neu cyn hynny;

 

(b)      Cytuno i amnewid a neilltuo, fel y bo’r gofyn, i drosglwyddo gweithrediad Bargen Dwf Gogledd Cymru a’r hawliau a rhwymedigaethau ym mhob cytundeb cyllido sydd yng ngofal Cyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (“y Bwrdd Uchelgais”) i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru (“y Cyd-bwyllgor Corfforedig”);

 

(c)      Cytuno i drosglwyddo ac amnewid a/neu neilltuo’r holl fuddiannau yn y portffolio o brosiectau a ariennir gan Fargen Dwf Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw gytundebau, taliadau a phrydlesi ategol gan Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran y Bwrdd Uchelgais i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig;

 

(d)      Cytuno i drosglwyddo a/neu neilltuo’r holl falansau ariannol, arian yn ddyledus ac asedau yng ngofal Cyngor Gwynedd ar ran Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig.

 

(e)      Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151, i gymeradwyo a gweithredu’r cytundebau, y gweithredoedd a’r holl ddogfennau cyfreithiol eraill ar eu ffurf derfynol, fel y bo’n angenrheidiol i weithredu'r trosglwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a), (b) a (c) uchod;

 

(f)       Ar ôl cwblhau’r Cytundeb Partneriaeth a Chyllido, cytuno i derfynu’r cytundeb GA2 a dirwyn Cyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ben;

 

(g)      Cytuno i drosglwyddo atebolrwydd i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

GOSOD FFIOEDD CARTREFI GOFAL PRESWYL A NYRSIO 2025/26 pdf eicon PDF 413 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer gosod ffioedd Cartrefi Gofal Preswyl a Nyrsio Pobl Hŷn ar gyfer 2025/26.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo cynyddu Ffioedd Gofal, yn ychwanegol i ffioedd 2024/25, o ran Cartrefi Nyrsio a Phreswyl i Bobl Hŷn ar gyfer 2025/2026 fel a ganlyn -

 

·       3.8% ar gyfer Gofal Preswyl Safonol

·       6.6% ar gyfer Gofal Preswyl i Henoed Bregus eu Meddwl (EMI)

·       5.9% ar gyfer Gofal Nyrsio Safonol

·       7.2% ar gyfer Gofal Nyrsio i Henoed Bregus eu Meddwl (EMI)

 

(b)      cymeradwyo y bydd unrhyw ddarparwr nad yw’n derbyn y ffioedd arfaethedig yn dilyn ymarfer Care Cubed, er mwyn pennu pris teg am eu gofal (ymarfer llyfr agored yn flaenorol).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Elen Heaton adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer gosod ffioedd Cartrefi Gofal Preswyl a Nyrsio Pobl Hŷn ar gyfer 2025/26.

 

Roedd ffioedd Cartrefi Gofal yn cynrychioli maes sylweddol o wariant, gyda thua £14.1 miliwn yn cael ei ddyrannu i 382 o leoliadau mewn 85 cartref gofal.  Roedd darpariaeth gofal yn flaenoriaeth ar gyfer y Cyngor gyda buddsoddiad parhaus i ddiogelu’r preswylwyr mwyaf diamddiffyn.  Roedd diweddariad ar ymgysylltiad gyda darparwyr gofal wedi’i nodi yn yr adroddiad, ynghyd â’r ffioedd arfaethedig, a oedd wedi ystyried ffactorau megis y Cyflog Byw Gwirioneddol, newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol, gan gynnwys y newid trothwy, a chwyddiant.  Roedd hi’n hanfodol bod dull teg a chynaliadwy o weithio yn cael ei gynnal o ran ariannu gofal, ac roedd buddsoddiad y Cyngor yn Care Cube, sef methodoleg sy’n cael ei nodi gan ddata ac yn darparu dull cyson o weithio sy’n seiliedig ar dystiolaeth i osod ffioedd, yn ddatblygiad allweddol.  Roedd y buddsoddiad yn sicrhau bod ffioedd yn cael eu gosod yn dryloyw ac yn gyfrifol, gan greu cydbwysedd rhwng cefnogi darparwyr gofal gyda ffioedd teg a chynaliadwy a diogelu gwerth am arian ar gyfer trethdalwyr.  Roedd yn alinio gyda’r ymrwymiad rhanbarthol i degwch a chysondeb ledled Cymru hefyd.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Heaton bod y Cyngor yn gwerthfawrogi ei ddarparwyr gofal, ac ni ddylent deimlo eu bod yn cael eu talu’n annheg o ganlyniad i’r cynnig.   Roedd gan y Cyngor bolisi drws agored a byddai defnyddio Care Cubed yn sicrhau pris sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gofal ac yn cefnogi sector gofal cynaliadwy.

 

Ymatebodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd i gwestiynau, gan ymhelaethu ar Care Cubed fel ffordd dryloyw o alluogi trafodaethau gyda darparwyr sydd â’r bwriad o ddatrys anghydfod o ran ffioedd gofal, gan ystyried amgylchiadau unigol yn sgil gwahaniaethau mewn darparwyr, megis maint cartrefi gofal, categori gofal, ac ati.  Roedd y mwyafrif o awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru wedi buddsoddi yn Care Cubed, ac roedd y data’n fwy cyfoethog po fwyaf a ddefnyddiwyd, er mwyn canolbwyntio ar yr ardal leol a darparu meincnod cliriach, yn ogystal â dadansoddi’r manylion a allai arwain at ffi wahanol na’r hyn sydd eisoes yn bodoli.  Roedd tri darparwr cartref gofal wedi ymateb i’r ymgynghoriad ffioedd, ac unwaith roedd y ffioedd wedi cael eu cymeradwyo, byddai swyddogion yn ymgysylltu gyda nhw i gwblhau’r ymarfer Care Cubed.  Yn nhermau’r broses o osod cyllideb, roedd cydweithio agos gyda’r Tîm Cyllid i fonitro’r ffioedd gofal wrth symud ymlaen, yn seiliedig ar y tybiaethau yn y ffioedd arfaethedig, gyda thri darparwr yn unig a oedd wedi herio’r ffioedd hynny ar hyn o bryd.  Serch hynny, roedd galw ar gyfer y flwyddyn i ddod yn anhysbys, a petai’n angenrheidiol, byddai’r pwysau ar y gyllideb yn cael ei addasu yn ystod y flwyddyn, ond roedd yr ymdrechion gorau’n cael eu gwneud i reoli hynny’n effeithiol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo cynyddu Ffioedd Gofal, yn ychwanegol i ffioedd 2024/25, o ran Cartrefi Nyrsio a Phreswyl i Bobl Hŷn ar gyfer 2025/2026 fel a ganlyn -

 

·       3.8% ar gyfer Gofal Preswyl Safonol

·       6.6% ar gyfer Gofal Preswyl i Henoed Bregus eu Meddwl (EMI)

·       5.9% ar gyfer Gofal Nyrsio Safonol

·       7.2% ar gyfer Gofal Nyrsio i Henoed Bregus eu Meddwl (EMI)

 

(b)      cymeradwyo y bydd unrhyw ddarparwr nad yw’n derbyn y ffioedd arfaethedig yn dilyn ymarfer Care Cubed, er mwyn pennu pris teg am eu gofal (ymarfer llyfr agored yn flaenorol).

 

 

10.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 222 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2024/25 a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad misol a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·       y gyllideb refeniw net ar gyfer 2024/25 oedd £271.021 miliwn (£250.793 miliwn yn 2023/24)

·       rhagwelwyd y byddai tanwariant o £102,000 mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·       y risgiau a’r rhagdybiaethau presennol yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth

·       arbedion effeithlonrwydd gan wasanaethau ar gyfer cyllideb 2024/25 (£10.384 miliwn) a chynnydd ar wneud arbedion a gymeradwywyd oedd yn parhau i gael eu holrhain/monitro

·       y wybodaeth ddiweddaraf am Ysgolion, y Cyfrif Refeniw Tai a Rheoli’r Trysorlys.

 

Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr Aelodau drwy’r adroddiad.  Roedd disgwyl tanwariant o £102,000 ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol o gymharu â thanwariant o £4.559 miliwn fis diwethaf.  Roedd y symudiad yn ymwneud yn bennaf â’r swm a neilltuwyd i gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd (£3.956 miliwn) a gymeradwywyd gan y Cabinet diwethaf a phwysau cynyddol ar draws y gwasanaeth (£501,000).  Mae gwasanaethau yn gyffredinol yn parhau i orwario mewn meysydd sy’n cynnwys Addysg a Gwasanaethau Plant, Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd, a Chynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad.  Roedd meysydd o orwariant gwasanaethau yn parhau i gael eu gosod yn erbyn y tanwariant ar gyllidebau corfforaethol.  Byddai’r balans a ragwelwyd ar y Cyfrif Refeniw Tai ar ddiwedd y flwyddyn yn gostwng o £1.2 miliwn i £775,000 ac roedd y sefyllfa ar falansau ysgolion yr un fath a’r mis diwethaf, a ragwelwyd yn ddiffyg cyffredinol o £2.1 miliwn.  Roedd y tabl monitro arbedion wedi’i gynnwys yn yr adroddiad ac yn manylu ar drosolwg o gynnydd.

 

Daeth y flwyddyn ariannol i ben ar 31 Mawrth 2025 a gallai’r Tîm Ariannol symud i gwblhau cyfrifon diwedd blwyddyn, a llunio’r Datganiad Cyfrifon.  Oherwydd y system ariannol newydd, roedd rhagor o amser wedi’i ddyrannu i’r broses honno, a byddai safle diweddaraf 2024/25 yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Mehefin.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyfeiriwyd at y gorwariant yn y Gwasanaethau Tai ac Amgylcheddol mewn perthynas â chostau cynyddol ar gyfer y gwasanaeth gwastraff (£1.628 miliwn) a gwaith cynnal a chadw dros y gaeaf (£807,000).  Eglurwyd bod y £1 miliwn ychwanegol a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Tachwedd yn y gyllideb sylfaenol ar gyfer y gwasanaeth gwastraff yn 2025/26, gyda’r costau ychwanegol yn 2024/25 yn ymwneud â’r flwyddyn drosglwyddo ar gyfer cyflwyno’r system wastraff newydd, a’r addasiad ariannol i’r perwyl hynny.  O fewn y gyllideb a osodwyd ar gyfer 2025/26, cydnabu nad oedd y gyllideb cynnal a chadw yn ystod y gaeaf yn ddigonol ar gyfer mynd i’r afael â thywydd garw, a mis diwethaf, roedd y Cabinet wedi creu cronfa wrth gefn o’r cyllid ar gael yn y flwyddyn ariannol gyfredol i dalu am yr amodau tywydd garw nad oes modd eu rhagweld.  Amlygwyd y gostyngiad i gronfa wrth gefn y Cyfrif Refeniw Tai hefyd, ac roedd trafodaethau ynghylch manteision gosod lefel isafswm o falansau o ran hynny.  Esboniodd y Cynghorydd Rhys Thomas, o wybod y gostyngiadau parhaus i’r balansau blwyddyn ar ôl blwyddyn, byddai angen proses flaenoriaethau ar feysydd gwariant i fod o’r budd gorau i denantiaid.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2024/25 a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni.

 

 

11.

RHAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 308 KB

Derbyn Rhaglen Waith y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd rhaglen waith y Cabinet i’w hystyried.

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.10pm.