Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnodion:

2.

DATGAN CYSYLLTIADAU pdf eicon PDF 199 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnodion:

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnodion:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 419 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2024 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2024.

 

Materion yn Codi – Tudalen 6, Eitem 5: Strategaeth Toiledau Lleol Ddrafft – mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Julie Matthews, cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd i bennu pa gynnydd oedd wedi’i wneud ar yr ymgynghoriad a’r gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd a rhoi diweddariad cyn gynted â phosib’ y tu allan i’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

5.

HEN YSBYTY GOGLEDD CYMRU - CYMERADWYAETH I GYFLWYNO CYTUNDEB TRYDYDD PARTI pdf eicon PDF 226 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi ynghlwm) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r Cyllid Trydydd Parti i gefnogi darpariaeth Cam 1 Prosiect Hen Ysbyty Gogledd Cymru fel rhan o Raglen Dyffryn Clwyd y Gronfa Ffyniant Bro.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi sefyllfa Dyfarniad Cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer y prosiect;

 

(b)      cymeradwyo’r argymhelliad gan y Grŵp Craffu Cyfalaf i fwrw ymlaen â’r cyfraniad arian cyfatebol i gefnogi Cam 1 o brosiect Hen Ysbyty Gogledd Cymru, yn unol â gweithdrefnau ariannol y Cyngor ei hun a’r Achos Busnes Cyfalaf cysylltiedig (Atodiad 2 yr adroddiad);

 

(c)      awdurdodi’r broses o roi’r Grant i’r Partner Datblygu, gan gydnabod i) y gwiriadau sydd wedi’u cynnal fel rhan o’r broses Diwydrwydd Dyladwy sy’n ofynnol gan Lywodraeth y DU a ii) deall bod hyn yn amodol ar asesiad rheoli cymhorthdal ​​boddhaol, a chwblhau holl eitemau trosglwyddo tir ac A106 sy’n weddill, a

 

(d)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried Asesiad o Effaith Uchelgais Gogledd Cymru fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i roi’r Cyllid Trydydd Parti i gefnogi gwaith i gyflawni Cam 1 Prosiect Hen Ysbyty Gogledd Cymru yn rhan o Raglen Cronfa Ffyniant Bro Dyffryn Clwyd.

 

Rhoddwyd rhywfaint o gefndir i’r prosiect, gan gynnwys arwyddocâd hanesyddol y safle a’r gwaith datblygu a oedd yn gyfle enfawr am ddatblygu economaidd.  Er mai’r Cyngor wnaeth ei gychwyn dros 15 mlynedd yn ôl, roedd y prosiect bellach dan arweiniad Uchelgais Gogledd Cymru.  Roedd cyfanswm cost y datblygiad wedi’i chyfrifo i fod yn £107 miliwn, a’r gwaith i’w wneud dros 12 mlynedd mewn 3 cham.  Cost Cam 1 oedd £13 miliwn, ac roedd Uchelgais Gogledd Cymru wedi sicrhau £10 miliwn o hynny.  Roedd y Cyngor wedi cynnwys Cam 1 o fewn ei gais am gyllid Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac wedi cael gwybod ei fod wedi cael y cyllid hwnnw, a £3 miliwn wedi’i dyrannu ar gyfer y prosiect.  I gydymffurfio â’r gofynion angenrheidiol a’r rheoliadau o ran y cyllid, roedd y Cyngor wedi gwneud asesiad diwydrwydd ar y partner datblygu ac roedd gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i barhau â’r cyfraniad o gyllid cyfatebol i gefnogi Cam 1 a’r achos busnes cyfalaf cysylltiedig.

 

Rhoddodd yr Arweinydd grynodeb bras yn arwain at y sefyllfa bresennol a’r ffordd ymlaen, oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ryddhau’r cyllid angenrheidiol oherwydd y swm oedd ei angen.  Ychwanegodd Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad y byddai dyrannu cyllid i NWH Ltd yn cael ei reoli trwy gytundeb cyllid gydag Uchelgais Gogledd Cymru a gellid cymryd sicrwydd o’r broses ddiwydrwydd roedd yr adroddiad yn manylu arni a bod y Prif Arolygydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro wedi bod ynghlwm â’r gwaith ac yn fodlon cefnogi’r argymhellion.  Pe bai’r Cabinet yn cymeradwyo’r argymhellion, byddai’r Cyngor yn parhau i weithio’n agos gydag Uchelgais Gogledd Cymru a Jones Bros Ltd a oedd yn arwain y prosiect ac yn rhoi diweddariadau rheolaidd i’r aelodau lleol yn Ninbych, aelodau ehangach y Cyngor a Chyngor Tref Dinbych.

 

Cydnabu’r Cabinet hanes hir y prosiect a’r adroddiad cadarnhaol a fyddai’n galluogi i’r prosiect barhau er budd Dinbych a’r sir yn ehangach.  Wrth fynegi ei gefnogaeth i’r prosiect, fe wnaeth y Cynghorydd Rhys Thomas hefyd bwysleisio diddordeb trigolion lleol, a holodd am gynlluniau am ragor o ymgynghoriadau/diweddariadau i’r cyhoedd.  Cadarnhaodd yr Arweinydd a’r Pennaeth gwasanaeth bod ymgysylltu â’r cyhoedd a’r angen am roi gwybodaeth yn amserol wedi’i drafod.  Er bod nifer o fudd-ddeiliaid ynghlwm a’r prosiect, byddai’r gwaith ymgysylltu hwnnw’n cael ei arwain gan Jones Bros Ltd ac Uchelgais Gogledd Cymru, a oedd wedi ymrwymo i weithio gyda’r gymuned, a byddai’r Cyngor hefyd yn helpu i hwyluso effeithiolrwydd y gwaith ymgysylltu hwnnw.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi sefyllfa Dyfarniad Cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer y prosiect;

 

(b)      cymeradwyo’r argymhelliad gan y Grŵp Craffu Cyfalaf i fwrw ymlaen â’r cyfraniad arian cyfatebol i gefnogi Cam 1 o brosiect Hen Ysbyty Gogledd Cymru, yn unol â gweithdrefnau ariannol y Cyngor ei hun a’r Achos Busnes Cyfalaf cysylltiedig (Atodiad 2 yr adroddiad);

 

(c)      awdurdodi’r broses o roi’r Grant i’r Partner Datblygu, gan gydnabod i) y gwiriadau sydd wedi’u cynnal fel rhan o’r broses ddiwydrwydd sy’n ofynnol gan Lywodraeth y DU a ii) deall bod hyn yn amodol ar asesiad rheoli cymhorthdal ​​boddhaol, a chwblhau’r holl eitemau trosglwyddo tir ac A106 sy’n weddill; ac yn

 

(d)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried Asesiad o Effaith Uchelgais Gogledd Cymru fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

6.

SETLIAD ARIANNOL DROS DRO LLYWODRAETH CYMRU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL 2025/26 pdf eicon PDF 259 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn diweddaru’r Cabinet ynghylch Setliad Ariannol Dros Dro Llywodraeth Cymru ar gyfer Llywodraeth Leol 2025/26 a’i oblygiadau ar gyfer gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2025/26.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi effaith Setliad Dros Dro Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 a geir yn adran 4.1 yr adroddiad a’r pwysau diweddaraf ar y gyllideb a geir yn adran 4.2 yr adroddiad, a

 

(b)      derbyn yr adborth gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a chymeradwyo eu hargymhellion fel y nodir yn adran 4.4 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ar setliad dros dro Llywodraeth Cymru ar gyfer Llywodraeth Leol yn 2025/26 a’r goblygiadau ar osod cyllideb gytbwys at 2025/26.

 

Talodd y Cynghorydd Ellis deyrnged i’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio a’r Tîm Cyllid am y gwaith roeddent wedi’i wneud ar ôl y setliad dros dro.  Er bod effaith y setliad wedi bod yn gadarnhaol i Sir Ddinbych, roedd diffygion yn parhau i fod o fewn y broses gyllidebol ac roedd angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r rheiny.  Roedd mesurau darbodus dros y blynyddoedd diwethaf yn golygu bod y Cyngor mewn sefyllfa dda ac roedd yn bwysig dal ati i fod yn ddarbodus yn y dyfodol.  Roedd y Cynghorydd Ellis hefyd yn croesawu’r adborth gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar ôl iddo adolygu’r Strategaeth a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, gan annog derbyn yr holl argymhellion er mwyn bod mor agored â phosib’ ag aelodau a thrigolion.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio fanylion y setliad dros dro a gafwyd ym mis Rhagfyr 2024 a’i oblygiadau.  Yn fras, roedd swm Cyllid Allanol Cyfun dros dro’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 yn £215.222 miliwn, o gymharu â’r swm o Gyllid Allanol Cyfun a gadarnhawyd ar gyfer 2024/25, sef £205.729 miliwn, a oedd yn gynnydd o £9.493 miliwn neu 4.6%, a oedd yn ffafriol o gymharu â chyfartaledd Cymru, sef 4.3%.  Roedd y gyllideb a gadarnhawyd yn cynnwys cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru (yn dilyn Cyllideb Llywodraeth y DU ym mis Hydref 2024) a oedd yn gyfanswm o £4.487 miliwn ynghlwm â chyflog athrawon, pensiynau athrawon a chyflogau staff nad oeddent yn athrawon.  Roedd y cyllid ychwanegol wedi cynyddu’r cyllid yn uwch na’r 4.6% uchod a’r wir effaith oedd cynnydd o £14.427 miliwn neu 7%.  Er bod y cynnydd i’r setliad yn gadarnhaol ac yn cael ei groesawu, byddai angen cynnydd o tua 11% i ariannu’r pwysau oedd ar y gyllideb, ac roedd eto angen cyfuniad o arbedion a chynnydd i Dreth y Cyngor ar gyfer hwnnw.  Roedd pwysau o £21.325 miliwn wedi’i nodi yng nghyllideb 2025/26 ac roedd y dull i osod cyllidebau cytbwys dros y blynyddoedd nesaf wedi’i bennu.  Roedd gwaith i wneud arbedion yn 2025/26 wedi’i fanylu, a rhagor o waith yn cael ei wneud a fyddai’n cael ei ystyried gan y Cabinet a’r Cyngor ym mis Chwefror 2025 a Gweithdy ar y Gyllideb i’r Aelodau ar 31 Ionawr i drafod y cynigion ynghlwm â’r gyllideb.  Yn olaf, atgoffwyd y Cabinet bod y Strategaeth a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig wedi’u hystyried mewn gwahanol bwyllgorau a gofynnwyd i’r Cabinet ystyried yr adborth diweddaraf gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel mae’r adroddiad yn ei nodi.

 

Croesawai’r Cabinet y setliad gwell na’r disgwyl ond pwysleisiai fod y pwysau ar y gyllideb oedd wedi’i adrodd yn ystod y flwyddyn yn parhau ac er nad oedd mor ddifrifol â’r disgwyl, roedd bwlch sylweddol yn parhau i fod yn y gyllideb. Roedd angen mynd i’r afael â hwnnw wedi mwyn i’r Cyngor allu sicrhau cyllideb gytbwys yn 2025/26.  Diolchodd y Cabinet i’r Aelod Arweiniol, y Pennaeth Cyllid a’r Tîm Cyllid am eu gwaith caled ar ôl i’r setliad dros dro gael ei gyhoeddi ac am barhau i roi gwybodaeth i’r Aelodau am y newidiadau a’r sefyllfa hyd yma.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Gwasanaeth i gwestiynau fel a ganlyn –

 

·       egluro pam y byddai’r setliad dros dro’n annhebygol o newid yn sylweddol o ystyried na fyddai’r data sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer y fformiwla gyllid yn newid cyn y setliad  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

DYRANIADAU BLOC CYFALAF I’W CYNNWYS YNG NGHYNLLUN CYFALAF 2025/26 pdf eicon PDF 237 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn manylu ar yr egwyddorion ar gyfer ariannu cynlluniau cyfalaf ac yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet i’r prosiectau a nodwyd i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2025/26 a’u hargymell i’r Cyngor Llawn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo’r egwyddorion ar gyfer cyllido cynlluniau cyfalaf fel y nodir yn yr adroddiad, a

 

(b)      cefnogi'r prosiectau a ddangosir yn Atodiad 2 yr adroddiad i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2025/26, a’u hargymell yn unol â hynny i'r Cyngor llawn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad gan geisio cefnogaeth y Cabinet i brosiectau a nodwyd i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2025/26, yn ôl argymhellion y Grŵp Craffu Cyfalaf, i’w cyflwyno i’r Cyngor llawn i’w hystyried a’u cymeradwyo.

 

Atgoffwyd y Cabinet am yr egwyddorion y cytunwyd arnynt i ariannu cynlluniau cyfalaf a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad mewn ymateb i’r heriau ariannol oedd yn wynebu’r Cyngor, adnoddau cyfalaf prin a’r angen am gyfyngu effaith y Cynllun Cyfalaf ar y gyllideb refeniw.  Rhoddwyd manylion am waith y Grŵp Craffu Cyfalaf wrth adolygu’r dyraniadau a gyflwynwyd gan wasanaethau yn unol â’r egwyddorion y cytunwyd arnynt a lleihau’r dyraniadau bloc tuag at lefel y cyllid cyfalaf oedd yn dod gan Lywodraeth Cymru (gan gymryd, ar y pryd, y byddai'r un fath â 2024/25, sef £6.185 miliwn). Darparwyd argymhellion a rhesymau’r Grŵp Craffu Cyfalaf am gefnogi prosiectau penodol hefyd, oedd yn creu cyfanswm o £7.227 miliwn (wedi gostwng o £8.362 miliwn yn 2024/25).  Roedd y cyllid cyfalaf oedd ar gael yn dilyn hynny, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, £760,000 yn uwch na’r disgwyl ac argymhellwyd i gyllid ychwanegol gael ei ddyrannu fel swm ychwanegol at raid wrth ddisgwyl am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru am y grantiau cyfalaf ychwanegol a fyddai ar gael yn 2025/26.  Byddai hyn yn cynorthwyo i benderfynu ar y ffordd orau o ddyrannu’r cyllid ychwanegol.

 

Diolchodd yr Aelod Arweiniol, y Pennaeth Cyllid ac Archwilio a’r Cabinet i’r Grŵp Craffu Cyfalaf a’r holl rai oedd ynghlwm â’r broses honno am eu gwaith caled.

 

Roedd y prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol –

 

·       trafodwyd y rhesymau am ddyrannu’r cyllid cyfalaf ychwanegol gan Lywodraeth Cymru fel swm ychwanegol at raid eto, a nododd y Cabinet fod grant cyfalaf eisoes wedi’i dderbyn ar gyfer gwaith cynnal a chadw mewn ysgolion ers y setliad dros dro. Byddai hyn yn ychwanegu at y dyraniad bloc hwnnw ac roedd disgwyl y byddai rhagor o grantiau cyfalaf at ddibenion penodol, fel gwaith ar briffyrdd, i ddod hefyd.  Gan nad oedd unrhyw gyfyngiad ar wario’r cyllid cyfalaf ychwanegol yn y setliad dros dro, argymhellwyd y dylid aros am ragor o fanylion ar y grantiau cyfalaf penodol a fyddai ar gael yn 2025/26 er mwyn bod â gwell gwybodaeth ar gyfer dyraniadau gwario cyfalaf yn y dyfodol gyda’r cyllid oedd yn weddill; byddai’r sefyllfa’n cael ei monitro’n ofalus

·       fel aelod o’r Grŵp Craffu Cyfalaf, croesawai’r Cynghorydd Gareth Sandilands fuddsoddiad cyfalaf sylweddol y Cyngor yn ei asedau, a holodd gwestiynau ynglŷn â’r prosiectau trawsnewidiol a buddsoddi cyfalaf.  Eglurwyd y byddai Bwrdd y Gyllideb a Thrawsnewid yn ystyried prosiectau trawsnewid a phe bai angen cyfalaf ar y prosiectau hynny, byddent hefyd yn cael eu hystyried gan y Grŵp Craffu Cyfalaf; roedd yn bwysig sicrhau bod y Cyngor yn buddsoddi’n ofalus ac yn gymesur mewn prosiectau trawsnewidiol er mwyn cyflawni ar gyfer trigolion.  Fodd bynnag, nodwyd bod y rhan fwyaf o ddyraniadau gwariant cyfalaf y Cyngor yn ymwneud â materion cyffredin i’r Cyngor fel gwaith cynnal a chadw ac addasiadau.

·       roedd yr adroddiad yn cyfeirio at gynlluniau cyfalaf a oedd yn rhai ‘untro’ o ran eu natur a chyfeiriodd y Cynghorydd Bobby Feeley at y buddsoddiad ychwanegol oedd ei angen yn y gwasanaeth gwastraff newydd a cheisiodd sicrwydd ynglŷn â mesurau i atal y drefn honno yn y dyfodol wrth ymdrin â phrosiectau trawsnewidiol.  Dywedodd yr Arweinydd a’r Prif Weithredwr fod prosiectau o’r fath yn cael eu herio’n gadarn, gan dynnu sylw at y prosesau llywodraethu a chraffu a oedd ar waith i ymdrin â phrosiectau trawsnewidiol cyfalaf.  Er nad oedd  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 238 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2024/25 a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad misol a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·       y gyllideb refeniw net ar gyfer 2024/25 oedd £271.021 miliwn (£250.793 miliwn yn 2023/24)

·       roedd disgwyl y byddai tanwariant o £3.924 miliwn mewn cyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol

·       y risgiau a’r rhagdybiaethau presennol yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth

·       arbedion effeithlonrwydd gan wasanaethau ar gyfer cyllideb 2024/25 (£10.384 miliwn) a chynnydd ar wneud arbedion a gymeradwywyd oedd yn parhau i gael eu holrhain/monitro

·       y wybodaeth ddiweddaraf am Ysgolion, y Cyfrif Refeniw Tai a Rheoli’r Trysorlys.

 

Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr Aelodau drwy’r adroddiad.  Roedd disgwyl tanwariant o £3.924 miliwn ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol o gymharu â thanwariant o £4.285 miliwn fis diwethaf.  Roedd y newid o £361,000 yn ymwneud yn bennaf â chost uwch cludiant i’r ysgol a gofal cymdeithasol i blant, wedi’i wrthbwyso gan lai o bwysau y mis hwn gan Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd. Mae gwasanaethau yn gyffredinol yn parhau i orwario mewn meysydd sy’n cynnwys Addysg a Gwasanaethau Plant, Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd, a Chynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad.  Roedd cyfanswm tanwariant Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd wedi cynyddu i £800,000 (newid cadarnhaol o £220,000).  Roedd gorwariant mewn rhai gwasanaethau wedi cael ei wrthbwyso’n braf gan danwariant ar gyllidebau corfforaethol o ganlyniad i ryddhau arian at raid ac ar ôl i Lywodraeth Cymru ddyfarnu cyllid grant.  Ni fu unrhyw newid ers y mis diwethaf ar y Cyfrif Refeniw Tai a sefyllfa ysgolion.  Roedd y tabl monitro arbedion wedi’i gynnwys yn yr adroddiad ac yn manylu ar gynnydd, ynghyd â chrynodeb o’r cynllun cyfalaf.

 

Gan gydnabod bod angen gwneud arbedion, nodai’r Cabinet y sefyllfa ariannol fwy cadarnhaol o gymharu â chyfnodau cynharach yn y flwyddyn ariannol, a’r dull darbodus o lunio cyllideb ar gyfer pob maes gwariant wrth ddisgwyl am gyllid grant posib’ yn rhoi’r awdurdod mewn lle da. Talwyd teyrnged hefyd i’r gwaith caled a’r gwaith trawsnewid oedd yn gysylltiedig â’r ffordd o weithio o fewn gwasanaethau digartrefedd a oedd yn cael effaith ar y rhai mwyaf diamddiffyn a hefyd wedi arwain at arbedion i’r awdurdod.  Roedd y newid wedi’i ddechrau ryw 3/4 blynedd yn ôl ac er y bu risg yn y trawsnewid hwnnw, roedd wedi’i asesu a’i reoli.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2024/25 a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni.

 

 

9.

RHAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 323 KB

Derbyn Rhaglen Waith y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd rhaglen waith y Cabinet i’w hystyried.

 

Nododd y Cabinet na fyddai’r eitem ar drefniadau llywodraethu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig efallai yn barod mewn pryd i’w chyflwyno i’r Cabinet ym mis Chwefror

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.10am.