Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 392 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2023 (copi ynghlwm). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2023 i’w cymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

5.

CYNNIG ARBEDION LLYFRGELL/SIOP UN ALWAD pdf eicon PDF 262 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Treftadaeth a Diwylliant (copi ynghlwm) yn amlinellu sut ellir cyflawni arbedion trwy leihau gwasanaethau llyfrgell/siop un alwad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi’r adroddiad ac yn cymeradwyo’r cynnig i leihau oriau agor Llyfrgelloedd / Siopau Un Alwad o oddeutu 40%, ynghyd ag arbedion cysylltiedig mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth, i roi arbediad disgwyliedig o £360,000, a

 

(b)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Emrys Wynne yr adroddiad a oedd yn amlinellu sut y gellid cyflawni arbedion trwy leihau Gwasanaethau Llyfrgelloedd/Siopau Un Alwad.

 

Roedd y cynnig wedi’i gyflwyno oherwydd yr heriau ariannol digynsail a oedd yn wynebu’r Cyngor a’r gofyniad i bob gwasanaeth ddarparu arbedion sylweddol.  Roedd yr adroddiad yn egluro’r arbedion posibl o’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd/Siopau Un Alwad; effaith bosibl yr arbedion; ystyriaethau penodol i’r Cabinet a’r Tîm Gweithredol Corfforaethol i lywio trafodaethau’r dyfodol, ac roedd yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo'r cynnig i leihau oriau agor Llyfrgelloedd/Siopau Un Alwad o tua 40%, ynghyd ag arbedion cysylltiedig mewn meysydd gwasanaeth eraill, er mwyn cyflawni arbediad disgwyliedig o £360,000.

 

Roedd y Cynghorydd Wynne yn glir nad oedd yn gyfforddus â’r cynnig, ond o ystyried y cyd-destun ariannol, roedd angen gwneud llawer o benderfyniadau anodd ac eglurodd y rhesymeg sy’n sail i’r dewis i leihau oriau agor ar draws pob llyfrgell yn hytrach na chau llyfrgelloedd unigol yn llwyr fel ffordd fwy teg o gyflawni arbedion.  Roedd newidiadau wedi’u gwneud i’r cynnig gwreiddiol i ymateb i adborth o’r ymgynghoriad.  Roedd y cynnig presennol yn seiliedig ar leihau oriau agor o 40% yn hytrach na 50% gan arwain at agor llyfrgelloedd am 30 awr ychwanegol yr wythnos yn gyffredinol a oedd yn darparu tua £90,000 yn llai o arbedion ond a oedd hefyd yn galluogi grwpiau defnyddwyr trydydd parti i ddefnyddio adeiladau’r llyfrgell y tu allan i oriau agor arferol llyfrgelloedd.  Roedd y Cynghorydd Wynne o’r farn fod y cynnig presennol yn fwy cytbwys ac yn well i ddefnyddwyr y llyfrgell a staff na’r cynnig blaenorol.  Roedd y cynnig yn diogelu llyfrgelloedd i’r graddau yr oedd hynny’n bosibl ar hyn o bryd, a byddai’n sicrhau nad oedd rhaid i unrhyw lyfrgell gau.  Gyda thristwch mawr, argymhellodd y Cynghorydd Wynne y cynnig, ond roedd yn credu mai hwn oedd y trefniant gorau posibl i lyfrgelloedd yn y sefyllfa ariannol bresennol.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi y broses a arweiniodd at y cynnig presennol fel rhan o’r broses ehangach o osod y gyllideb er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gosod cyllideb gytbwys, gyda’r cynnig yn newid dros amser i ymateb i adborth o’r ymgynghoriad.  Ystyriwyd bod y cynnig yn gymesur a realistig o ystyried y sefyllfa ariannol a lefel yr arbedion gofynnol.  Dywedodd y Pennaeth Tai a Chymunedau fod y toriad arfaethedig i’r gyllideb tua 21% o gyllideb y gwasanaeth ac roedd yn cynnwys lleihau oriau agor llyfrgelloedd a rhai arbedion cysylltiedig mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth hefyd, yr oeddent yr un mor werthfawr.  Tynnodd sylw at Atodiad 2 a oedd yn egluro’r model gwasanaeth 40% arfaethedig a oedd wedi’i ddatblygu trwy ymgynghori ag undebau a staff.  Pe bai’r Cabinet yn cymeradwyo’r cynnig, byddai ymgynghoriad staff ffurfiol a allai arwain at fân adolygiadau gweithredol, ond y model hwn yn fras fyddai’r un a fyddai’n cael ei weithredu.

 

Diolchodd y Cabinet i’r Aelod Arweiniol am ei waith wrth gyflwyno cynnig mor anodd ond cytbwys gan roi ystyriaeth i’r holl ffactorau.  Mynegodd y Cynghorydd Julie Matthews ei rhwystredigaeth dros y toriadau sydd wedi cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU dros yr 13 mlynedd diwethaf ac effaith gronnus y cynni ar arian Llywodraeth Leol sydd wedi arwain at y sefyllfa ariannol enbyd bresennol.  Er nad oedd neb o blaid toriadau i’r gwasanaeth llyfrgelloedd, derbyniwyd y byddai angen i bob gwasanaeth wneud arbedion er mwyn darparu cyllideb gytbwys, o ystyried y sefyllfa ariannol enbyd, ac yn y cyd-destun hwnnw, roedd y Cabinet yn ystyried bod y cynnig yn deg a chymesur.  Fodd bynnag, roedd y Cabinet yn awyddus i osgoi unrhyw doriadau pellach i’r  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

GOSOD RHENT TAI A CHYLLIDEBAU CYFALAF A REFENIW TAI 2024/25 pdf eicon PDF 240 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer cynnydd rhent blynyddol ar gyfer Tai Sir Ddinbych, Cyllidebau Cyfalaf a Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024/25 a Chynllun Busnes y Stoc Dai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)      Mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024/25 (Atodiad 1 yr adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 yr adroddiad);

 

(b)      cynyddu rhenti anheddau’r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhenti Tai Cymdeithasol i rent wythnosol cyfartalog o £109.34, i’w weithredu o ddydd Llun, 1 Ebrill 2024;

 

(c)      nodi’r adroddiad ychwanegol (Atodiad 3 yr adroddiad) ar yr ystyriaethau y rhoddir sylw iddynt wrth benderfynu ar yr argymhelliad hwn, a

 

(d)      bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y cynnydd rhent blynyddol ar gyfer Tai Sir Ddinbych, Cyllidebau Cyfalaf a Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024/25 a Chynllun Busnes y Stoc Dai.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys y sefyllfa derfynol ddiweddaraf a ragwelwyd ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai a’r gyllideb arfaethedig ar gyfer 2024/25 a oedd wedi’i chyfrifo i alluogi darparu gwasanaethau refeniw, y rhaglen buddsoddi cyfalaf ac i ddatblygu’r rhaglen adeiladu newydd.  O ran y cynnydd rhent blynyddol, roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod uchafswm cynnydd rhent o 6.7% a chynigiwyd cynyddu rhenti wythnosol o hynny oherwydd y pwysau ar y Cyfrif Refeniw Tai i fuddsoddi mewn cartrefi er mwyn cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru a cheisio cyrraedd targed y Cynllun Corfforaethol ar gyfer cartrefi newydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod 72% o denantiaid y Cyngor wedi cael cefnogaeth gyda’u taliadau rhent; byddai’r Cyngor yn cefnogi’r 28% arall o denantiaid pe baent mewn anhawster ariannol; cytunodd 85% o ymatebion i’r arolwg tenantiaid fod eu rhenti’n cynnig gwerth am arian ac ni wnaeth y Cyngor na Llywodraeth Cymru droi tenantiaid allan oherwydd caledi ariannol.  Roedd y Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi rhoi ystyriaeth i’r adroddiad a chymeradwyo’r cynnwys.

 

Eglurodd Pennaeth Tai a Chymunedau fod oedran y stoc tai presennol yn golygu bod angen buddsoddi’n gyson ynddo a bod bodloni Safonau Ansawdd Tai Cymru newydd yn creu pwysau ychwanegol.  Roedd pwysau i ariannu rhaglenni adeiladu newydd hefyd gyda chyfnodau heriol o’n blaenau.  Cynigiwyd cynyddu rhent i’r uchafswm a osodwyd ond roedd ffydd bod y rhent yn fforddiadwy i denantiaid.  Rhoddodd y Swyddog Arweiniol – Tai Cymunedol drosolwg o’r asesiad fforddiadwyedd ac eglurodd sut oedd y rhent wedi’i gyfrifo gan ddefnyddio model rhent byw Sefydliad Joseph Rowntree sy’n seiliedig ar y 30% o incymau isaf Sir Ddinbych, gyda rhenti nad ydynt yn uwch na 28% o incwm wythnosol yr enillion hynny.  Roedd y gwaith hwnnw wedi dangos bod rhenti’n fforddiadwy, a byddai’r holl incwm o renti yn cael ei ail-fuddsoddi yn y stoc tai.

 

Soniodd y Cynghorydd Huw Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau am drafodaethau’r Pwyllgor Craffu yn dilyn ystyried yr adroddiad ar 7 Rhagfyr 2023.  Talodd y Cynghorydd Williams deyrnged i waith y Tîm Tai Cymunedol gan ddiolch iddynt am eu holl waith caled a’u cyflawniadau, a dywedodd fod yr adborth o’r Pwyllgor Craffu wedi bod yn hynod o gadarnhaol a bod argymhelliad yr adroddiad wedi’i gymeradwyo.  Roedd un maes pryder yn ymwneud â gwres ffynhonnell aer a’r angen i edrych ar wresogi eilaidd i sicrhau nad oedd tenantiaid heb wres am unrhyw gyfnod.  Cadarnhaodd Pennaeth Tai a Chymunedau fod y mater yn cael ystyriaeth bellach a bod asesiadau risg yn cael eu cynnal.  Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Williams am ei adborth ar ôl y Pwyllgor Craffu a chroesawodd fwy o’r dull hwnnw wrth symud ymlaen.

 

Roedd prif feysydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol –

 

·       Eglurwyd bod y Cyfrif Refeniw Tai wedi’i glustnodi a’i fod i gyd ar wahân i gyllideb y Cyngor a’r broses o osod y gyllideb

·       rhoddodd Aelodau longyfarchiadau i’r Tîm Tai Cymunedol am y cyflawniadau o ran tai cymdeithasol, o ran gwella darpariaeth bresennol a chreu tai cymdeithasol newydd, er budd tenantiaid a phreswylwyr y sir

·       eglurodd swyddogion y gwelliant i’r stoc tai Cyngor presennol trwy’r rhaglen ôl-osod gyda chyllid grant yn cael ei ddarparu i gyflawni gwelliannau fel paneli solar, toeau newydd ac inswleiddio waliau allanol ynghyd â gwelliannau a gynlluniwyd sy’n codi o Safon Ansawdd Tai Cymru newydd o ran ‘gwres fforddiadwy’ a gwelliannau ynni trwy bympiau gwres yr awyr, paneli solar  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CAFFAEL PROSIECT CEFNOGI LLETY CYNALIADWY NEWYDD (ATAL DIGARTREFEDD) pdf eicon PDF 223 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynghlwm) yn nodi cynigion ar gyfer prosiect cefnogi holistaidd newydd mewn perthynas â thai a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau caffael y gwasanaeth hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

         

(a)      cymeradwyo cychwyn y broses gaffael fel sydd wedi’i nodi ar y Ffurflen Gomisiynu yn Atodiad 1 yr adroddiad, a

 

(b)      chadarnhau ei fod wedi darllen ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad a oedd yn nodi cynigion ar gyfer prosiect cefnogi holistaidd newydd mewn perthynas â thai a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau caffael y gwasanaeth.

 

Dyluniwyd y prosiect i gefnogi pobl sy’n byw yn Sir Ddinbych i gynnal eu llety ac atal digartrefedd ac roedd yn rhan o broses ailgomisiynu gwasanaethau cefnogi mewn perthynas â thai er mwyn alinio â’r trosglwyddo i Ailgartrefu Cyflym.  Byddai’r contract yn cael ei ariannu’n llawn gan y Grant Cymorth Tai a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru a byddai am gyfnod o dair blynedd a bydd dewis i’w ymestyn am ddwy flynedd arall, yn amodol ar berfformiad boddhaol, cyllid parhaus a pherthnasedd strategol. Byddai’r gwasanaeth yn disodli tri gwasanaeth cymorth yn ôl yr angen presennol sy’n cael eu darparu gan dri sefydliad ar wahân.  Roedd manylion am y caffael wedi’u nodi ar y Ffurflen Gomisiynu a oedd wedi’i hatodi i’r adroddiad.

 

Gwnaeth y Rheolwr Gwasanaeth – Cymorth Busnes a Chymunedau amlygu’r angen i gynyddu lefel y cymorth i bobl mewn tenantiaethau a pharhau â’r cymorth hwnnw er mwyn sicrhau bod y tenantiaethau hynny’n cael eu cynnal er mwyn osgoi achosion mynych o ddigartrefedd.  Roedd cyflenwyr presennol yn cael eu hannog i gydweithio i ddarparu gwasanaeth amddisgyblaethol.  Er nad oedd arwydd o werth y contract wedi’i roi, rhagwelwyd y byddai’r prosiect yn arwain at arbediad a fyddai’n mynd i’r afael â phwysau mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Julie Matthews at yr Asesiad o Effaith ar Les a chroesawodd y symudiad at ganlyniadau sy’n canolbwyntio ar unigolion a gofynnodd ragor o gwestiynau yn hynny o beth.  Eglurodd swyddogion y broses bresennol a’r bwriad i sicrhau’r ddarpariaeth cymorth gywir wedi’i theilwra i’r unigolyn/aelwyd er mwyn diwallu eu hanghenion a chynnal eu tenantiaeth trwy gydol y cyfnod a byddai’r dull hwnnw’n cael ei drosglwyddo i bob darparwr ar gyfer y prosiect newydd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

         

(a)      cymeradwyo cychwyn y broses gaffael fel sydd wedi’i nodi ar y Ffurflen Gomisiynu yn Atodiad 1 yr adroddiad, a

 

(b)      cadarnhau ei fod wedi darllen ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad).

 

 

8.

CONTRACT AR GYFER CLUDO, DIDOLI A BROCERA DEUNYDD AILGYLCHU CYMYSG SYCH pdf eicon PDF 230 KB

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi ynghlwm) ynglŷn â chontract y Cyngor ar gyfer prosesu deunydd Ailgylchu Cymysg Sych (ailgylchu bin glas) a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn y contract presennol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

         

(a)      wedi rhoi ystyriaeth i gynnwys yr Adroddiad Amrywio Contract sy’n cyd-fynd (Atodiad 1 yr adroddiad), a

 

(b)      yn cymeradwyo estyniad i’r contract am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad, h.y. byrdra ac ansicrwydd cyfnod y contract, defnydd gorau o adnoddau a lefel yr hyder fod y telerau a gynigiwyd gan y cyflenwr yn cynnig gwerth am arian.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad am gontract y Cyngor ar gyfer prosesu Deunydd Ailgylchu Cymysg Sych (ailgylchu bin glas) a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn y contract presennol yn unol â’r Adroddiad Amrywio Contract.

 

Eglurwyd rhywfaint o gefndir i’r sefyllfa bresennol o ystyried bod contract y Cyngor ar gyfer prosesu Deunydd Ailgylchu Cymysg Sych wedi dod i ben, ond nid oedd disgwyl i’r gwasanaeth casglu deunydd ailgylchu ddechrau tan Chwarter 1 blwyddyn ariannol 2024/25, a fyddai’n golygu bod angen i’r Cyngor wneud trefniadau dros dro tan i’r gwasanaeth newydd ddechrau.  Roedd yr adroddiad yn egluro’r rhesymeg a oedd yn sail i’r argymhelliad i ymestyn y contract presennol gyda Shotton Mill gan gynnwys sicrwydd o ran costau/lefelau gwasanaeth; galw anghymesur ar adnoddau presennol sy’n deillio o ymarfer caffael llawn, ac ystyriaethau o ran gwerth am arian.

 

Atgoffodd y Cynghorydd Mellor yr Aelodau fod y Cyngor yn arfer cael taliad o £25 fesul tunnell am ddeunydd ailgylchu, ond bod rhaid talu swm sylweddol i gael gwared arno ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, roedd yn falch o gyhoeddi bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi trwydded ar gyfer yr Orsaf Trosglwyddo Gwastraff newydd a rhoddodd deyrnged i waith caled pawb a fu’n rhan o’r prosiect, a fu’n dasg enfawr a oedd yn dod i’w therfyn, a byddai o fudd i’r Cyngor wrth symud ymlaen.  Ychwanegodd yr Arweinydd ei ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r prosiect am eu gwaith caled.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

         

(a)      wedi rhoi ystyriaeth i gynnwys yr Adroddiad Amrywio Contract sy’n cyd-fynd (Atodiad 1 yr adroddiad), a

 

(b)      yn cymeradwyo estyniad i’r contract am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad, h.y. byrdra ac ansicrwydd cyfnod y contract, defnydd gorau o adnoddau a lefel yr hyder fod y telerau a gynigiwyd gan y cyflenwr yn cynnig gwerth am arian.

 

 

9.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 240 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni;

 

(b)      cymeradwyo Sylfaen y Dreth Gyngor i osod cyllideb 2024/25 fel y manylir yn Atodiad 5 yr adroddiad;

 

(c)      cymeradwyo achos busnes Ysgol Bro Cinmeirch i’w gyflwyno i Raglen Gyfalaf Llywodraeth Cymru fel y manylir yn Adran 6.9 ac Atodiad 6 yr adroddiad, a

 

(d)      cymeradwyo achos busnes Ysgol y Llys i’w gyflwyno i Raglen Gyfalaf Llywodraeth Cymru fel y manylir yn Adran 6.9 ac Atodiad 7 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·       y gyllideb refeniw net ar gyfer 2023/24 oedd £250.793 miliwn (£233.696 miliwn yn 2022/23)

·       rhagwelwyd gorwariant o £3.325 miliwn yn y cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·       amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol

·       rhoddwyd manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd a chynnydd mewn ffioedd a chostau (£8.172 miliwn)

·       rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawr.

 

Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr Aelodau drwy’r adroddiad.  Roedd cynnydd bach o ran y gorwariant a ragwelir ar gyllidebau gwasanaethau a’r gyllideb gorfforaethol ac roedd y prif feysydd gorwariant yn dal i fod o ganlyniad i wasgfeydd o fewn y Gwasanaethau Digartrefedd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol.  Nid oedd newidiadau o ran y Cyfrif Refeniw Tai ac o ran ysgolion, roedd cynnydd bach yn y defnydd a ragwelir o gronfeydd wrth gefn y byddai angen i ysgolion eu defnyddio yn ystod y flwyddyn.  Roedd yr atodiadau arferol wedi’u cynnwys ar y Cynllun Cyfalaf a Phrosiectau Mawr.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer gosod cyllideb 2024/25 hefyd ynghyd ag achosion busnes cyfalaf sy’n ymwneud ag Ysgol Bro Cinmeirch ac Ysgol y Llys.  Byddai’r ddau brosiect ysgol yn ceisio tynnu 100% o’r costau ariannu o Raglen Grant Cyfalaf berthnasol Llywodraeth Cymru.

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi i gwestiwn gan y Cynghorydd Terry Mendies ynghylch gosodiadau mewnol datblygiad Marchnad y Frenhines.  Eglurodd fod y cam adeiladu’n tynnu at ei derfyn a’r bwriad oedd cytuno ar natur y gosodiadau terfynol gyda gweithredwr y cyfleuster.  Oherwydd nad oedd y bartneriaeth arfaethedig gyda Mikhael Hotel and Leisure Group wedi’i datblygu, byddai gwaith yn cael ei wneud o fewn y cyllid a oedd ar gael i roi gosodiadau yn y cyfleuster fel sy’n briodol er mwyn galluogi agor y cyfleuster.  Cytunwyd y byddai’r Cynghorydd Mendies yn codi cwestiynau pellach sy’n ymwneud ag agweddau eraill ar ddatblygiad Marchnad y Frenhines y tu allan i’r cyfarfod oherwydd nad oeddent yn ymwneud ag adroddiad cyllid y Cabinet a oedd yn cael ei ystyried ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni;

 

(b)      cymeradwyo Sylfaen y Dreth Gyngor i osod cyllideb 2024/25 fel y manylir yn Atodiad 5 yr adroddiad;

 

(c)      cymeradwyo achos busnes Ysgol Bro Cinmeirch i’w gyflwyno i Raglen Gyfalaf Llywodraeth Cymru fel y manylir yn Adran 6.9 ac Atodiad 6 yr adroddiad, a

 

(d)      cymeradwyo achos busnes Ysgol y Llys i’w gyflwyno i Raglen Gyfalaf Llywodraeth Cymru fel y manylir yn Adran 6.9 ac Atodiad 7 yr adroddiad.

 

 

10.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 295 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet i’w hystyried, a nododd yr aelodau’r diwygiadau canlynol –

 

·       Pennu Ffioedd Cartrefi Gofal 2024/25 – wedi’i symud o fis Ionawr i fis Mawrth

·       Cael gwared ar Fferm Peronne, Dinbych – wedi’i ychwanegu at fis Ionawr

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

O dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, PENDERFYNWYD gwahardd y Cyhoedd a’r Wasg o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol, gan y byddai’n debygol y byddai gwybodaeth wedi'i heithrio fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf yn cael ei datgelu.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

11.

FFRAMWAITH ADEILADU GOGLEDD CYMRU 3 - PENODI CONTRACTWYR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol (copi ynghlwm) yn cyflwyno canlyniad y broses gaffael ar gyfer Cam 3 o Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer penodi’r contractwyr llwyddiannus.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo penodi’r contractwyr llwyddiannus fel a nodir yn yr adroddiad, a

 

(b)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad cyfrinachol ar ganlyniad y broses gaffael ar gyfer Cam 3 Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer penodi’r contractwyr llwyddiannus.

 

Roedd y fframwaith yn gydweithrediad rhwng chwe Awdurdod gogledd Cymru, a Sir Ddinbych oedd yr Awdurdod cynnal, a’r prif nod oedd darparu gwerth am arian a buddion cymunedol ar draws y rhanbarth.  Roedd yr adroddiad yn egluro’r broses gaffael a’r strategaeth lotio ac roedd yn argymell penodi grŵp cymwys o gontractwyr y gallai pob Awdurdod yng ngogledd Cymru neu unrhyw gorff arall yn y sector cyhoeddus ei ddefnyddio, gan osgoi’r broses gaffael hirfaith ac arwain at arbedion sylweddol o ran amser a chost.


Tynnodd y Cynghorydd Mathews sylw at yr Asesiad o Effaith ar Les a’r canlyniadau cadarnhaol o ran nodau lles, creu buddsoddiad mawr yn y rhanbarth a mentrau hyfforddiant.  Amlinellodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl yr adroddiad ac arweiniodd y Rheolwr Fframwaith a Chaffael Corfforaethol yr Aelodau trwy fanylion y fframwaith.  Gan ymateb i gwestiynau, ailadroddwyd yr ymrwymiad i weithio gyda chwmnïau lleol, gyda’r disgwyliad y byddai cyfran fawr o wariant yn lleol/rhanbarthol ac roedd ymrwymiad gan y cwmnïau mawr o’r tu allan i’r ardal i’r gadwyn gyflenwi leol hefyd a chyflogaeth leol.  Cynhyrchwyd adroddiad blynyddol i fesur dangosyddion perfformiad allweddol gan gynnwys gwariant lleol.  Roedd dwy fersiwn gyntaf y fframwaith wedi bod yn hynod o lwyddiannus o ran gwariant lleol a buddion cymunedol ac fe’u croesawyd yn fawr.  Roedd y Cynghorydd Gill German yn falch bod y gwerthoedd hynny eisoes wedi’u cynnwys yn Sir Ddinbych a bod Llywodraeth Cymru wedi arwain ar y maes hwn gyda Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).  Diolchwyd i swyddogion a’r Aelod Arweiniol am eu gwaith diwyd yn hynny o beth.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo penodi’r contractwyr llwyddiannus fel a nodir yn yr adroddiad, a

 

(b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.40pm.