Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

Caniataodd yr Arweinydd ddatganiad gan y Cynghorydd Peter Scott, Cadeirydd y Cyngor, ar ddyfarniad dros dro Cyllid Ffyniant Bro a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

Caniataodd yr Arweinydd ddatganiad gan y Cynghorydd Peter Scott, Cadeirydd y Cyngor.

 

Fel Cadeirydd y Cyngor Sir, bu i’r Cynghorydd Peter Scott longyfarch yr Arweinydd, y Cyngor a James Davies, AS am sicrhau bron i £20 miliwn dros dro ar gyfer gogledd y sir gan y Gronfa Ffyniant Bro.  Roedd y Cynghorydd Scott yn sicr y byddai preswylwyr Sir Ddinbych yn elwa yn y dyfodol.

 

Bu i’r Arweinydd ddiolch i’r Cynghorydd Scott am ei ddatganiad ac eglurodd bod y cyllid yn ymwneud â thaliad cyfalaf unwaith yn unig ar gyfer prosiectau penodol yn unig na ellir ei ddefnyddio i fynd i’r afael â’r bwlch cyllido anferth sy’n wynebu’r Cyngor.   Fodd bynnag, cafodd y cyllid ei groesawu, a byddai’r Cyngor yn gweithio’n galed i ddatblygu prosiectau yn unol â’r amodau cysylltiedig ac yn darparu'r buddion mwyaf o’r cyllid hwnnw.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 320 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2023 (copi’n amgaeedig).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar bwynt cywirdeb, derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2023.

 

Cywirdeb – Aelodau yn Bresennol – Dywedodd y Cynghorydd Alan James nad oedd ei bresenoldeb yn y cyfarfod diwethaf wedi’i gofnodi yng nghofnodion y cyfarfod hwnnw.

 

Materion yn Codi – Eitem 5 Datrysiad Storio ar gyfer ein Casgliadau Archifau – Cadarnhaodd y Cynghorydd Emrys Wynne bod y cais am gyllid ar gyfer y cyfleuster archifau ar y cyd newydd wedi’i gyflwyno i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y pwynt cywirdeb uchod, derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

5.

DIWYGIO ASESIAD O ANGHENION LLETY SIPSIWN A THEITHWYR (2023) SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 299 KB

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Win Mullen-James, Aelod Arweiniol Tai a Datblygu Lleol (copi’n amgaeedig) sy’n gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr diwygiedig er mwyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cadarnhau ei gefnogaeth i’r dull o fynd ati i gyflawni adolygiad o Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr Sir Ddinbych fel un cadarn ac un a oedd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru;

 

(b)      cymeradwyo Asesiad diwygiedig o Lety Sipsiwn a Theithwyr Sir Ddinbych i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru;

 

(c)      rhoi awdurdod wedi’i ddirprwyo i Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio i gytuno ar fân newidiadau golygyddol sydd angen eu gwneud i’r Asesiad drafft o Lety Sipsiwn a Theithwyr cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, a

 

(d)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.  Cafodd hyn ei wneud cyn cyflwyno’r asesiad cyntaf yn 2021 ac roedd wedi’i adolygu yn 2023.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Win Mullen-James yr adroddiad gan ofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddiwygiadau i’r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr drafft i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.  Yr oedd yr adroddiad yn cynnwys atodiad cyfrinachol a oedd yn manylu gwybodaeth bersonol a gofynnwyd i’r Cabinet symud i sesiwn breifat wrth drafod elfennau cyfrinachol yr adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r gofynion deddfwriaethol yn ymwneud ag asesu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr ac yn cadarnhau bod asesiad y Cyngor wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2021.   Ers hynny, mae teulu ag anghenion presennol a oedd wedi gwrthod cymryd rhan yn flaenorol wedi gofyn a allant gael eu cynnwys a chytunwyd i adolygu’r asesiad.   Sefydlwyd Grŵp Tasg a Gorffen i gefnogi gweithio ar yr asesiad newydd a chafodd eu hadroddiad ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Hydref 2023 a gymeradwyodd eu casgliadau ac argymhellwyd i’r Cabinet y dylid cymeradwyo’r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr drafft diwygiedig i’w ail-gyflwyno i Lywodraeth Cymru. 

 

Eglurodd y Cynghorydd Peter Scott, Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen, y cefndir o ran sefydlu’r Grŵp gan fanylu ar y gwaith a wnaed a oedd yn dod i benllanw mewn adroddiad terfynol a gafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gasgliadau ac argymhellion y Grŵp.   Roedd y Pwyllgor Craffu wedi cymeradwyo casgliadau’r Grŵp Tasg a Gorffen: bod methodoleg Llywodraeth Cymru wedi’i defnyddio’n briodol i ddadansoddi’r angen a bod y dull a fabwysiadwyd ar gyfer darparu’r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr yn gadarn ac yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru, a’r argymhelliad y dylid cymeradwyo’r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr diwygiedig i’w ail-gyflwyno i Lywodraeth Cymru.   Roedd y Grŵp Tasg a Gorffen o’r farn bod y dull a ddefnyddiwyd ar gyfer y gwaith hwn, gyda chynrychiolaeth aelodau o bob Grŵp Ardal Aelodau, wedi gweithio’n dda ac roedd yr aelodaeth gyfredol yn awyddus i barhau i gydweithio ar waith yn y dyfodol.

 

Aeth y Cynghorydd Win Mullen-James drwy’r adroddiad gyda’r Cabinet.   Yn gryno –

 

·       y ddarpariaeth ychwanegol amcangyfrifedig sydd ei hangen am 5 mlynedd gyntaf cyfnod yr astudiaeth (2023/24 – 2028/29) yw 16 llain preswyl parhaol

·       yn seiliedig ar yr angen erbyn 2033, bydd angen 2 llain preswyl parhaol arall

·       felly, roedd y cyfanswm ar gyfer y cyfnod cyfan ar draws Sir Ddinbych yn 18 llain preswyl parhaol sy’n gynnydd o 6 llain preswyl parhaol o gymharu â’r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr blaenorol a gwblhawyd yn 2021

·       nid oedd tystiolaeth o'r angen am safle tramwy parhaol.

 

Anogodd y Cynghorydd Mullen-James y Cabinet i gymeradwyo argymhellion yr adroddiad i sicrhau bod y Cyngor yn bodloni ei ddyletswyddau cyfreithiol.   Yn dilyn ail-gyflwyno’r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr diwygiedig, roedd y cam nesaf yn cynnwys nodi safleoedd i fodloni’r anghenion hynny gyda chefnogaeth gan y Grŵp Tasg a Gorffen presennol.   Bu i’r Cynghorydd Mullen-James ganmol y gwaith gwerthfawr a chydweithredol a wnaed gan y Grŵp Tasg a Gorffen a’r swyddogion ar yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr ac ategwyd hyn gan yr Arweinydd, y Cabinet ehangach a’r Prif Weithredwr.

 

Bu i’r Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad ddiolch i’r aelodau am eu cefnogaeth a’u her drwy gydol y broses gan ailadrodd pwysigrwydd cael methodoleg a dull cadarn fel y dangoswyd yn y gwaith hwn.   Bu i’r Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai hefyd amlinellu diffiniad lleiniau preswyl a thramwy gyda phwyslais y gwaith presennol ar yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr a nodi’r angen; roedd cam nesaf y broses yn ymwneud â mynd i’r afael â’r angen hwnnw.

 

Bu i’r Cabinet gydnabod yr adroddiad cynhwysfawr ac ymgysylltiad cadarnhaol  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM BERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL: GORFFENNAF – MEDI 2023 pdf eicon PDF 218 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) ar berfformiad y Cyngor yn erbyn ei Gynllun Corfforaethol ar ddiwedd mis Medi 2023 (chwarter 2).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi perfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau ar ddiwedd chwarter 2 (Gorffennaf i Medi 2023) a chadarnhau cynnwys yr adroddiad drafft cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ar 30 Tachwedd 2023.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y Cyngor yn erbyn ei Gynllun Corfforaethol ar ddiwedd mis Medi 2023, gan gynnwys yr amcanion Cydraddoldeb Strategol a’r saith maes llywodraethu allweddol.

 

Cynghorwyd y Cabinet bod fformat yr adroddiad wedi newid ychydig ers y chwarter diwethaf i adlewyrchu trafodaethau ar yr adroddiad hwnnw ac yn ystod yr adolygiad cyfran.   Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau bod yr adroddiad yn amlinellu perfformiad y Cyngor yn erbyn pob un o’r naw thema ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a Medi 2023 ac roedd yn rhoi tystiolaeth a oedd yn ffurfio rhan o’r Hunanasesiad fel bo’n ofynnol o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.   Defnyddiwyd y gwaith hwnnw i dynnu sylw at lwyddiannau a meysydd o ddatblygiad ac mae hefyd yn dyfeisio ac yn gweithredu ymyriadau i’w gwella, ac anogwyd yr aelodau i ddefnyddio’r ddogfen fel offer mewn trafodaethau pellach wrth symud ymlaen.

 

Rhoddodd y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad drosolwg cyffredinol o berfformiad a dywedodd bod statws yr holl fesurau ar gyfer pob thema yn ‘oren – derbyniol’ a bod prosiectau ychydig yn well gyda statws ‘melyn – yn profi rhwystrau’; roedd hyn ac eithrio’r thema ‘Sir Ddinbych teg, diogel a mwy cyfartal’ gyda’r mesurau hynny yn dangos fel rhai ‘coch – blaenoriaeth i’w gwella’, gan adlewyrchu rhai o’r materion tymor hirach o ran bod heb waith ac amddifadedd materol.   Rhoddwyd crynodeb o’r mesurau a’r prosiectau o dan bob un o themâu’r Cynllun Corfforaethol i’r Cabinet ynghyd â throsolwg o newyddion cyfrannol ac eitemau pwyllgor.

 

Bu i’r Arweinydd ddiolch i’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion am y trosolwg a’r negeseuon allweddol sy’n codi o’r ddogfen gynhwysfawr.   Nododd y Cabinet bod yr adroddiad yn adlewyrchu’r sefyllfa ym mis Medi 2023 a bod rhai pethau wedi symud ymlaen ers hynny.   Codwyd y materion canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd –

 

·       bod data Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn cael ei gyhoeddi bob pedwar i bum mlynedd gyda’r data mwyaf diweddar sydd ar gael yn dod o 2019, a bydd aelodau yn cael eu cynghori o argaeledd y data Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru newydd cyn gynted ag y mae’n dod yn hysbys.   Roedd mesurau eraill hefyd yn cael eu holrhain, yn enwedig mewn perthynas â’r thema Sir Ddinbych teg, diogel a mwy cyfartal, fel aelwydydd mewn amddifadedd materol a phlant sy’n byw mewn tlodi.

·       Soniodd y Cynghorydd Gill German am y gwaith da yn ei maes portffolio a oedd newydd fethu’r dyddiad cau ym mis Medi ar gyfer ei gynnwys yn yr adroddiad presennol.   Cyfeiriwyd at y cyfleusterau gofal plant ychwanegol yn Ysgol Penmorfa ym Mhrestatyn gyda gwaith tebyg yn cael ei wneud yng Nghanolfan y Dderwen yn y Rhyl, a oedd yn brosiect gwych yn nhermau moderneiddio addysg a darparu cyfleusterau mewn ardal o amddifadedd, a’r Grŵp Chwarae Cyfrwng Cymraeg a oedd yn cefnogi’r gwaith yn Ysgol Dewi Sant a darpariaeth y Gymraeg.   Derbyniwyd grant cyfalaf Llywodraeth Cymru i gefnogi gwaith ar ysgolion bro ac roedd ymgysylltiad cadarnhaol wedi bod gydag ysgolion o ran hynny.   Nodwyd bod Ysgol Uwchradd Prestatyn, fel yr ysgol beilot ar gyfer y fenter, yn enghraifft o arfer da gyda manylion wedi’u darparu ynghyd ag ysgolion eraill ar wefan Llywodraeth Cymru.

·       Cafwyd rhywfaint o ddadlau ynglŷn â phwysigrwydd y data yn yr adroddiad er mwyn monitro perfformiad a nodi arfer da a meysydd i’w gwella.   Pwysleisiwyd mai nod y Cynllun Corfforaethol  oedd darparu’r canlyniadau gorau posibl i breswylwyr a sicrhau gwelliannau ar draws pob thema wrth gydnabod bod hwn ar adeg o anawsterau ariannol difrifol a  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 233 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·       y gyllideb refeniw net ar gyfer 2023/24 oedd £250.793 miliwn (£233.696 miliwn yn 2022/23)

·       rhagwelwyd y byddai gorwariant o £3.316 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·       amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol

·       rhoddwyd manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd a chynnydd mewn ffioedd a chostau (£8.172 miliwn)

·       rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawr.

 

Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr Aelodau drwy’r adroddiad.  Amlygwyd y gostyngiad o ran y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol o £3.446 miliwn y mis diwethaf i £3.326 miliwn ynghyd â chrynodeb o’r prif symudiadau.   Roedd lleihad bychan wedi bod yn y gorwariant a ragwelwyd ar gyfer Gwasanaethau Addysg a Phlant a chynnydd yn y gorwariant a ragwelwyd ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion.   Roedd y setliadau cyflog ar gyfer 2023/24 wedi’u cytuno arnynt ac roedd gwaith wedi’i wneud i gadarnhau costau ynni ac roedd yr arian hwnnw wedi’i ryddhau o gyllidebau corfforaethol a’i drosglwyddo i wasanaethau.   Byddai ynni a thâl yn cael effaith gadarnhaol ar Gynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor gan edrych ymlaen tuag at gyllideb 2024/25.  Nid oedd newidiadau i’r adroddiad mewn perthynas ag Ysgolion ac roedd y Cyfrif Refeniw Tai a’r atodiadau arferol wedi’u cynnwys ar y Cynllun Cyfalaf a’r diweddariad ar y Prif Brosiectau.

 

Bu i’r Arweinydd ddiolch i’r swyddogion am y Gweithdy ar Gyllideb y Cyngor a gynhaliwyd yr wythnos flaenorol lle cafwyd presenoldeb da ac adborth pwysig.   Cyfeiriodd y Cynghorydd Gill German at y sefyllfa ariannol enbyd sy’n wynebu cynghorau ar draws Cymru a Lloegr ac roedd yn gobeithio y byddai gweithred bositif yn Natganiad yr Hydref i fynd i’r afael â’r pwysau digynsail sy’n wynebu llywodraeth leol.  Cyfeiriodd yr Arweinydd at gyfarfod lefel uchel gydag Arweinwyr y Cyngor, Swyddogion A.151 a Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach yn yr wythnos i ystyried y farn ar unwaith yn dilyn canlyniad Datganiad yr Hydref a byddai’n adrodd yn ôl wedi hynny.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni.

 

 

8.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 368 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet er mwyn i’r aelodau ei hystyried.

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.10 am.