Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

PROFEDIGAETH

Bu’r Arweinydd yn myfyrio ar farwolaeth y Cynghorydd Peter Prendergast, y bu’n gweithio agos ag o fel Cadeirydd, ac a fyddai’n cael ei golli’n fawr.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriad.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriad.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Jason McLellan – Cysylltiad Personol sy’n Rhagfarnu – Eitem rhif 5 ar y Rhaglen.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Jason McLellan gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag eitem 5 ar y Rhaglen – Datrysiad Storio ar gyfer ein Casgliadau Archifau, gan fod cydnabod personol agos iddo yn gweithio ar y prosiect yng Nghyngor Sir y Fflint.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 347 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Medi 2023 (copi ynghlwm). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Medi 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Medi 2023.

 

Materion yn codi – Eitem 5, Ail Bleidlais Ardal Gwella Busnes (AGB) y Rhyl – gofynnodd y Cynghorydd Barry Mellor a allai’r Arweinydd gadarnhau bod Cyngor Tref y Rhyl wedi ysgrifennu ato yn mynegi pryder ynglŷn â sylwadau anghywir a fynegwyd gan y Cynghorwyr Justine Evans a Brian Jones yng nghyfarfod diwethaf y Cabinet yn ymwneud â rhan y Cyngor Tref yn AGB y Rhyl, ac a fyddai camau pellach yn cael eu cymryd gan y Cyngor Sir parthed hynny.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd ei fod wedi derbyn llythyr gan Glerc Tref y Rhyl, a rannwyd gyda’r Swyddog Monitro oherwydd ei gynnwys.  Cadarnhaodd y Swyddog Monitro ei fod wedi derbyn llythyr gan Gyngor Tref y Rhyl yn mynegi pryderon ynglŷn â rhai gwallau ffeithiol yn ymwneud â rhan y Cyngor Tref yn AGB y Rhyl, ac yn mynnu bod y Cyngor Tref yn cael cynrychiolaeth o AGB y Rhyl pan fo hynny’n briodol. Yr oedd hefyd yn mynegi pryder ynglŷn â honiad a wnaed am y Cyngor Tref.  Yr oedd y Swyddog Monitro wedi siarad gyda Chlerc y Dref, a chadarnhau nad oedd yn fater i’r Cyngor Sir ymchwilio iddo os oedd cwyn wedi ei wneud ynglŷn â’r Cyngor Tref, ond os oedd gan unrhyw un bryderon ynglŷn â’r Cyngor Tref, dylai’r sawl sydd â phryder ysgrifennu at y Cyngor Tref fel ei fod yn gallu ymdrin â’r mater.  Os oedd gan y Cyngor Tref unrhyw bryder ynglŷn ag ymddygiad unrhyw aelod unigol, gallai ddilyn y broses briodol i ymdrin â’r mater pe dymunai.

 

Holodd y Cynghorydd Brian Jones am y sefyllfa parthed gweddarllediad y cyfarfod hwnnw, a oedd wedi ei dynnu oddi ar wefan y Cyngor.  Dywedodd y Swyddog Monitro fod gofyniad i ddarlledu’r cyfarfod ond nad oedd gofyniad i gadw’r gweddarllediad ar y wefan, ac eglurodd yr amgylchiadau lle gellid tynnu gweddarllediad oddi ar y wefan, gan gynnwys pryderon yn ymwneud â gwybodaeth bersonol.  Cadwyd copi o’r gweddarllediad, a phe ceid cais rhyddid gwybodaeth ystyrid a oedd unrhyw eithriadau yn berthnasol i unrhyw wybodaeth a geid yn y gweddarllediad.  Dywedodd y Cynghorydd Jones efallai y byddai’n cyfathrebu ymhellach gyda’r Prif Weithredwr am y mater.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Medi 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

5.

DATRYSIAD STORIO AR GYFER EIN CASGLIADAU ARCHIFAU pdf eicon PDF 237 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth (copi ynghlwm) yn ceisio cefnogaeth y Cabinet ar gyfer y dewis a ffefrir ar gyfer storio casgliadau archif y Cyngor yn y dyfodol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cefnogi Dewis 2 fel y dewis a ffefrir, h.y. (yn amodol ar gais llwyddiannus, gweler (b) isod) adeiladu cyfleuster archifau newydd ar y cyd ar gampws Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug, i symud casgliadau ein harchifau o Garchar Rhuthun, a datblygu cynllun gweithgareddau sy’n seiliedig ar y gymuned i gyrraedd cymunedau ledled Sir Ddinbych.  Yr oedd crynodeb manwl o’r dewisiadau a oedd ar gael wedi ei ddarparu yn Atodiad A yr adroddiad;

 

(b)      awdurdodi swyddogion i gyflwyno cais am gyllid ar y cyd gyda Chyngor Sir y Fflint i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol Cymru, yn ceisio grant cyfalaf o £7 miliwn i ariannu adeilad di-garbon pwrpasol ar gampws Theatr Clwyd;

 

(c)      dyrannu £2,052,358 o gyllid cyfalaf Cyngor Sir Ddinbych fel ein harian cyfatebol tuag at y cyfleuster archifau newydd ar y cyd, yn amodol ar gais llwyddiannus am gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol;

 

(d)      cefnogi paratoi cynlluniau i wella’r cynnig i ymwelwyr yng Ngharchar Rhuthun, gan gynnwys cadw presenoldeb yr archifau ar y safle, a bydd y gwasanaeth yn agored bum niwrnod yr wythnos gyda gwasanaeth digidol ar gael drwy gydol yr amser, a gwasanaeth archifydd ar un o’r dyddiau hynny o leiaf; a

 

(e)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad C yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Wedi iddo ddatgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn y mater hwn, gadawodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan, y cyfarfod am yr eitem hon a chadeiriwyd gan y Cynghorydd Gill German.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Emrys Wynne adroddiad yn ceisio cefnogaeth y Cabinet i’r dewis a ffefrir ar gyfer storio casgliadau archifau’r Cyngor yn y dyfodol.

 

Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gasglu, cadw a gwneud dogfennau o bwysigrwydd hanesyddol yn hygyrch.  Yr oedd gwasanaeth archifau ar y cyd â Chyngor Sir y Fflint (CSyFf) wedi ei sefydlu’n flaenorol, ac, oherwydd bod y ddau Gyngor yn wynebu problemau tebyg gydag adeiladau nad ydynt yn addas i’r diben mwyach ar gyfer storio deunydd archifol, yr oedd awydd i ganfod datrysiad ar y cyd.  Amlygwyd y problemau sy’n gysylltiedig â storio archifau yng Ngharchar Rhuthun, a’r angen am ddatrysiad cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.  Yr oedd yr adroddiad yn nodi’r dewisiadau amrywiol sydd ar gael, a’u hymarferoldeb.  Yr oedd costau sylweddol i bob un o’r dewisiadau, a risgiau posibl, ond gan fod y trefniadau presennol yn anghynaladwy a heb fod yn gallu cyflawni dyletswyddau statudol y Cyngor, nid oedd “gwneud dim” yn opsiwn.  Felly, rhoddwyd dadl dros y dewis a ffefrir, sef adeilad archifau ar y cyd yn yr Wyddgrug (yn amodol ar gyllid o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol) a chynigion ar gyfer Carchar Rhuthun er mwyn gwella’r cynnig i ymwelwyr.

 

Dywedodd y Cynghorydd Wynne fod y Cabinet blaenorol wedi cymeradwyo cynnig tebyg ym mis Tachwedd 2020, ond bu’r cais am gyllid yn aflwyddiannus.  Dywedodd Pennaeth Tai a Chymunedau y byddai cyfraniad ariannol Sir Ddinbych ychydig dros £2 miliwn a byddai’n darparu adnodd a oedd yn costio cyfanswm o £12 miliwn, darparu mwy o wytnwch ar gyfer darparu gwasanaeth a gwneud gwell cyfraniad tuag at flaenoriaethau corfforaethol y Cyngor. Ni fyddai angen benthyca darbodus ar gyfer y prosiect tan 2026/27.

 

Ystyriwyd yr adroddiad a’r dewisiadau sydd ar gael yn ofalus gan y Cabinet, ynghyd â’r rhesymeg dros yr argymhelliad a’r dewis a ffefrir wrth symud ymlaen.  Yr oedd y Cabinet wedi trafod y mater ar sawl achlysur ac wedi herio swyddogion i archwilio pob dewis yn llawn, yn arbennig o ystyried y costau sylweddol sy’n gysylltiedig â’r prosiect, a hynny yng nghyd-destun y pwysau cyllidebol digynsail a oedd yn wynebu’r awdurdod, a phenderfyniadau anodd yn gorfod cael eu gwneud parthed cwtogi gwasanaethau a thoriadau i’r gyllideb er mwyn darparu cyllideb gytbwys.  Yn ogystal, gwnaed y pwynt bod y sefyllfa ariannol enbyd sy’n wynebu awdurdodau lleol yn ganlyniad i benderfyniadau uniongyrchol a wnaed gan Lywodraeth y DU dros nifer o flynyddoedd.  Derbyniodd y Cabinet fod gwasanaeth archifau yn wasanaeth statudol a bod angen datrysiad, a chan ystyried y gwaith a wnaed gan swyddogion ac ar ôl ystyried y dewisiadau a gyflwynwyd yn ofalus, cytunwyd mai’r dewis a ffefrir, fel y’i nodwyd, oedd y dewis gorau er mwyn sicrhau gwasanaeth cynaliadwy a gwydn yn y dyfodol, ac er mwyn galluogi’r Cyngor i fodloni ei ddyletswyddau statudol yn hynny o beth.  Nodwyd buddion eraill hefyd, fel y manylir yn yr Asesiad o Effaith ar Les, i ehangu safle Carchar Rhuthun, a fyddai’n cynyddu nifer yr ymwelwyr ac yn hybu’r economi leol yn Rhuthun a’r cyffiniau, ynghyd â chynlluniau i helaethu ac amrywio cynulleidfa’r gwasanaeth, a bod o fudd i gymunedau lleol ac addysg.

 

Yr oedd prif feysydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol –

 

·       nododd y Cynghorydd Gwyneth Ellis mai CSyFf fyddai’n berchen ar y cyfleuster archifau newydd, a holodd pam na allai Sir Ddinbych fod yn berchen ar 40% yn unol â chyfraniad ariannol y sir.  Dywedodd y swyddogion fod CSyFf yn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

YSGUBORIAU HALEN (DE) LÔN PARCWR A CHORWEN pdf eicon PDF 220 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi ynghlwm)  yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i symud ymlaen â phrosiect Ysguboriau Halen (De) i’r cam tendro a chaffael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo proses dendro a chaffael y prosiect er mwyn datblygu adeiladau newydd a hwyluso storfa ddiogel a chywir ar gyfer halen at ddibenion gweithrediadau cynnal a chadw’r gaeaf sydd yn gwasanaethu de’r Sir, ynghyd â gwelliannau llety a storfa offer a lles yn safle Corwen, a

 

(b)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad A yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i symud ymlaen â phrosiect Ysguboriau Halen (De) i’r cam tendro a chaffael.

 

Datblygwyd cynigion dan ddau brosiect ar wahân i hwyluso’r gwaith o ddylunio ac adeiladu dau gyfleuster storio halen pwrpasol – un ar gyfer depo Lôn Parcwr, Rhuthun, ac un ar gyfer depo Corwen – yn ogystal â gwella cyfleusterau lles drwy gael rhywbeth yn lle’r adeiladau ‘Portakabin’ dros dro yng Nghorwen.  Yr oedd y cymeradwyaethau a’r cyllid angenrheidiol eisoes wedi eu dyfarnu ar gyfer pob prosiect unigol, ond gan fod y ddau brosiect wedi eu grwpio gyda’i gilydd ers hynny at ddibenion tendro fel prosiectau dylunio ac adeiladu, yr oedd cyfanswm gwerth y contract yn fwy na £2 miliwn ac, felly, yr oedd angen cymeradwyaeth y Cabinet er mwyn symud y prosiect yn ei flaen i’r cam caffael.

 

Darparodd Rheolwr yr Uned Waith a Gwasanaethau Stryd drosolwg o’r adroddiad a’r rhesymeg y tu ôl i’r prosiectau er mwyn mynd i’r afael â materion amgylcheddol presennol yn ymwneud â storio halen yn y depos, yn ogystal â’r gwelliant a oedd wirioneddol ei angen o ran cyfleuster ar gyfer iechyd a diogelwch a lles staff.  Eglurwyd manteision cyfuno’r ddau brosiect ysgubor halen unigol i un prosiect at ddibenion tendro i sicrhau gwell gwerth am arian a datrysiad mwy costeffeithiol ar gyfer y Cyngor.

 

Atebodd y swyddogion gwestiynau aelodau’r Cabinet fel a ganlyn –

 

·       cadarnhawyd bod ceisiadau ar wahân am gyllid wedi eu cymeradwyo’n flaenorol ar gyfer y ddau brosiect – gan y Grŵp Buddsoddi Strategol a’r Cabinet – ac yr oedd cyllid eisoes wedi ei ddyrannu ar gyfer y prosiectau o Gronfa Blaenoriaethau Cyfalaf Sganio’r Gorwel

·       eglurwyd bod gweithrediadau o safle Corwen wedi eu hatal oherwydd bod halen yn cael ei olchi i’r system ddraenio, ac yr oedd ychwanegion wedi eu holrhain i’r Cyngor gan Gyfoeth Naturiol Cymru.  Ers hynny, yr oedd yr holl waith graeanu yn ne’r sir wedi ei weithredu o Lôn Parcwr. Arweiniodd hynny at gynnydd mewn amser teithio ac amser anghynhyrchiol, gan arwain hefyd at fwy o allyriadau carbon

·       dywedwyd bod rhai problemau llygredd posibl mewn perthynas ag Afon Dyfrdwy wedi eu codi gan Gyfoeth Naturiol Cymru, ac yr oedd rhai o’r profion a wnaed ar y pryd yn cynnwys olion o halen.

 

Nododd y Cabinet fod y cyllid wedi ei gymeradwyo a’i ddyrannu’n flaenorol ar gyfer y prosiectau heb yr angen am fenthyca ychwanegol na chreu pwysau cyllideb wrth symud ymlaen.  Cefnogodd y Cabinet y ddadl a roddwyd – o ran yr angen am gyfleusterau storio halen a oedd yn addas i’r diben ac yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau amgylcheddol, a darparu gwasanaeth yn effeithiol, ynghyd â chyfleusterau lles addas ar gyfer staff.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo proses dendro a chaffael y prosiect er mwyn datblygu adeiladau newydd a hwyluso storfa ddiogel a chywir ar gyfer halen at ddibenion gweithrediadau cynnal a chadw’r gaeaf sydd yn gwasanaethu de’r sir, ynghyd â gwelliannau llety a storfa offer a lles yn safle Corwen, a

 

(b)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad A yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

7.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 235 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni;

 

(b)      cymeradwyo’r cynnig i osod cyfleusterau newydd ar gyfer storio halen yn Nepo Parc Cinmel ym Modelwyddan, fel y nodir yn Adran 6.9 ac Atodiad 5 yr adroddiad; a

 

(c)      nodi’r defnydd o arian at raid y Rhaglen Gyfalaf i dalu am y gorwariant a ragwelir ar gynllun atgyweirio’r Wal yng Ngardd yr Arglwydd yn Nant Clwyd y Dre, fel y nodir yn Adran 6.10 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.  Yr oedd yr adroddiad hefyd yn amlygu’r sefyllfa ariannu parthed cynllun atgyweirio’r Wal yng Ngardd yr Arglwydd yn Nant Clwyd y Dre, ac yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cyfleusterau newydd ar gyfer storio halen yn Nepo Parc Cinmel.

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·       y gyllideb refeniw net ar gyfer 2023/24 oedd £250.793 miliwn (£233.696 miliwn yn 2022/23)

·       rhagwelwyd y byddai gorwariant o £3.446 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·       amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol

·       rhoddwyd manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd a chynnydd mewn ffioedd a chostau (£8.172 miliwn)

·       rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawr.

 

Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr Aelodau drwy’r adroddiad.  Amlygwyd y cynnydd yn y gorwariant a ragwelir ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol, o £3.119 miliwn y mis diwethaf i £3.446 miliwn, yn bennaf oherwydd pwysau ychwanegol yng nghyllidebau Gofal Cymdeithasol a Thai a’r Amgylchedd wedi ei wrthbwyso gan arbedion yng nghyllideb Ariannu Cyfalaf.  Er bod modd defnyddio’r gronfa wrth gefn ar gyfer lliniaru ar y gyllideb i dalu am y gorwariant eleni, byddai hynny ar draul yr adnoddau a fydd ar gael wrth ymateb i bwysau annisgwyl mewn blynyddoedd i ddod.  Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Rhys Thomas ynglŷn â gostyngiad ym malans y Cyfrif Refeniw Tai, eglurwyd nad oedd isafswm yr oedd rhaid ei gadw mewn cronfa wrth gefn, ond yn hanesyddol yr oedd balansau o £1 miliwn wedi eu cadw.  Câi’r swm a gedwid mewn cronfeydd wrth gefn eu hadolygu’n rheolaidd ac yn rhan o Gynllun Busnes y Stoc Dai.

 

Tynnwyd sylw’r Cabinet at y defnydd o gyllid arian at raid i dalu am y gorwariant a ragwelir ar gynllun atgyweirio’r Wal yng Ngardd yr Arglwydd yn Nant Clwyd y Dre o ganlyniad i nifer o elfennau, gan gynnwys estyniad i’r briff gwylio archaeolegol oherwydd canfyddiadau Rhufeinig o bwys a gofynion iechyd a diogelwch.  Gofynnwyd i’r Cabinet hefyd gymeradwyo cyfleusterau newydd ar gyfer storio halen yn Nepo Parc Cinmel ym Modelwyddan er mwyn sicrhau cyfleusterau sy’n addas i’r diben a chydymffurfiaeth â safonau amgylcheddol yn unol â chymeradwyaethau dan eitem flaenorol yr adroddiad.

 

Dywedodd yr Arweinydd mai dyma gyfarfod olaf Pennaeth Cyllid ac Archwilio fel Swyddog Adran 151, a diolchodd iddo am ei holl waith caled parhaus.  Sefyllfa’r gyllideb oedd y mater â’r mwyaf o frys a oedd yn wynebu’r awdurdod – mae penderfyniadau anodd i ddod ac mae pawb yn gweithio’n galed i ddarparu cyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni;

 

(b)      cymeradwyo’r cynnig i osod cyfleusterau newydd ar gyfer storio halen yn Nepo Parc Cinmel ym Modelwyddan, fel y nodir yn Adran 6.9 ac Atodiad 5 yr adroddiad; a

 

(c)      nodi’r defnydd o arian at raid y Rhaglen Gyfalaf i dalu am y gorwariant a ragwelir ar gynllun atgyweirio’r Wal yng Ngardd yr Arglwydd yn Nant Clwyd y Dre, fel y nodir yn Adran 6.10 yr adroddiad.

 

 

8.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL pdf eicon PDF 373 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet er mwyn i’r aelodau ei hystyried.

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.45am.