Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

PROFEDIGAETH

Fe gyfeiriodd yr Arweinydd at y newyddion trist fod gwraig y Cynghorydd Peter Scott, Sue Scott, wedi marw a siaradodd ar ran pawb wrth rannu eu meddyliau, gweddïau a chydymdeimlad.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriad.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriad.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Gill German – Cysylltiad Personol – Eitem 6 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Pauline Edwards – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 6 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Brian Jones – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Rhys Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 6 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Emrys Wynne – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 6 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Mark Young – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 6 ar y Rhaglen

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd German gysylltiad personol ag eitem 6 ar y rhaglen – Prosiect Ysgol Plas Brondyffryn, gan ei bod yn Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig.

 

Datganodd y Cynghorydd Pauline Edwards gysylltiad personol ag eitem 6 ar y rhaglen – Prosiect Ysgol Plas Brondyffryn, gan ei bod yn Llywodraethwr Ysgol Pendref.

 

Datganodd y Cynghorydd Brian Jones gysylltiad personol ag eitem 5 ar y rhaglen – ail bleidlais AGB y Rhyl, gan ei fod yn Gyfarwyddwr AGB y Rhyl.

 

Datganodd y Cynghorydd Rhys Thomas gysylltiad personol ag eitem 6 ar y rhaglen – Prosiect Ysgol Plas Brondyffryn, gan ei fod yn byw yn agos at safle Ffordd Ystrad ac yn Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig.

 

Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol ag eitem 6 ar y rhaglen – Prosiect Ysgol Plas Brondyffryn, gan fod ganddo gysylltiad personol agos gydag unigolion sy’n byw ger un o’r safleoedd.

 

Datganodd y Cynghorydd Mark Young gysylltiad personol ag eitem 6 ar y rhaglen – Prosiect Ysgol Plas Brondyffryn, gan ei fod yn Llywodraethwr Ysgol Uwchradd Dinbych.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniataodd yr Arweinydd gwestiwn mewn perthynas â fandaliaeth ar yr arwyddion ffordd 20mya a gyflwynwyd yn ddiweddar.

 

Cofnodion:

Caniataodd yr Arweinydd gwestiwn mewn perthynas â fandaliaeth ar yr arwyddion ffordd terfyn cyflymder 20mya a gyflwynwyd yn ddiweddar.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Karen Edwards pwy fyddai’n gyfrifol am gostau parhaus a oedd yn ymwneud â’r cynllun 20mya, er enghraifft, arwyddion wedi’u fandaleiddio, cywiro camgymeriadau, ac unrhyw amrywiadau yn y dyfodol, ai’r Cyngor neu Lywodraeth Cymru fyddai’n gyfrifol?

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi mai eiddo’r Cyngor oedd yr arwyddion a’r rhagdybiaeth oedd mai’r Cyngor fyddai’n gyfrifol am unrhyw gostau sy’n ymwneud â fandaliaeth neu ddifrod, yn yr un modd ag unrhyw ased arall.  Roedd y mater a oedd yn ymwneud ag amrywiadau yn y dyfodol yn wahanol o bosibl a deallwyd y byddai adolygiad cenedlaethol o’r cynllun a rhywfaint o ganllawiau diwygiedig o ran eithriadau posibl yn y dyfodol.  Pe bai unrhyw newidiadau i’r cynllun fel rhan o’r canllawiau diwygiedig a’r adolygiad yn y dyfodol, gallai Llywodraeth Cymru ariannu’r newidiadau hynny, ond byddai angen cadarnhau’r sefyllfa ar y pryd.  Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor y byddai’r adolygiad yn debygol o gael ei gynnal ym mis Mawrth 2024 ac roedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddai cyllid ar gael ar gyfer unrhyw eithriadau eraill a gaiff eu cyflwyno.  O ran fandaleiddio’r arwyddion 20mya, byddai’r Cyngor yn trwsio’r difrod cyn gynted ag sy’n bosibl, ac roedd yn fater i’r Heddlu.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Edwards am ei chwestiwn ac anogodd Aelodau i adrodd yn ôl am farn preswylwyr am y terfyn cyflymder 20mya er mwyn llywio’r adolygiad yn y dyfodol, a byddai Grwpiau Ardal yr Aelodau yn rhan o’r broses honno hefyd.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 313 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2023 (copi ynghlwm). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2023.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

5.

AIL BLEIDLAIS ARDAL GWELLA BUSNES (AGB) Y RHYL pdf eicon PDF 303 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi yn amgaeedig) ar gynigion ar gyfer ail dymor Ardal Gwella Busnes y Rhyl.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi cynnwys Cynllun Busnes yr AGB (Atodiad 1 yr adroddiad) ac yn cefnogi’r argymhelliad nad oes unrhyw sail i roi feto ar y cynigion o dan Ddeddfwriaeth AGB Cymru (2005) (gweler paragraffau 4.8 a 4.9 yr adroddiad);

 

(b)      awdurdodi swyddogion i gyflawni unrhyw gytundebau cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer gweithredu Ardoll yr AGB, trefniadau gwasanaeth a’r bleidlais ac unrhyw faterion angenrheidiol eraill ar gyfer yr AGB arfaethedig;

 

(c)      cadarnhau y bydd CSDd yn defnyddio un o’i bleidleisiau ym mhleidlais AGB o blaid yr AGB, a

 

(d)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad II yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan adroddiad ar gynigion am ail dymor 5 mlynedd ar gyfer Ardal Gwella Busnes (AGB) y Rhyl a threfniadau cysylltiedig.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd yr adroddiad a oedd yn egluro cefndir sefydlu AGB y Rhyl ym mis Tachwedd 2018 ynghyd â’r broses o ddatblygu’r AGB a’r agweddau cyfreithiol yn hynny o beth.  Roedd y tymor 5 mlynedd cyntaf yn dod i ben ac roedd angen pleidlais newydd pe bai’r AGB am barhau.  Roedd Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd yn Gyfarwyddwr AGB y Rhyl gan gynrychioli’r Cyngor.  Gofynnwyd i’r Cabinet ystyried y canlynol –

 

·       a oedd yn cytuno ag argymhelliad y swyddog, sef nad oedd sail i roi feto ar gynnig yr AGB.  Gallai'r Cyngor roi feto ar gynnig yr AGB pe bai’n gwrthdaro ag unrhyw bolisi corfforaethol CSDd neu yn gosod baich ariannol sylweddol anghymesur ar unrhyw unigolyn neu ddosbarth o unigolion.  Ar ôl adolygu’r Cynllun Busnes newydd (ynghlwm i’r adroddiad), roedd swyddogion o’r farn nad oedd yr un o’r darpariaethau’n berthnasol, a

 

·       sut ddylai’r Cyngor (CSDd) ddefnyddio ei bleidleisiau yn y bleidlais.  Roedd y Cyngor yn berchen ar nifer o eiddo yn ardal AGB y Rhyl ac roedd yn gymwys i ddefnyddio 20 o bleidleisiau.  Barn y Cyfarwyddwr Corfforaethol oedd y gallai AGB fod yn rym da a chadarnhaol a byddai ail dymor o fudd i waith adfywio parhaus y dref.  Roedd y Cynllun Busnes yn cefnogi thema Sir Ddinbych Ffyniannus yn y Cynllun Corfforaethol ac roedd barn Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r AGB.  Felly, roedd yn gobeithio bod AGB y Rhyl yn parhau y tu hwnt i’r bleidlais am ail dymor ac y byddai’r gymuned fusnes yn cefnogi parhad yr AGB.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol am y gefnogaeth roedd wedi’i darparu trwy gydol y broses.  Diolchodd hefyd i Nadeem Ahmed, Cadeirydd AGB y Rhyl ac Abigail Pilling, Rheolwr AGB y Rhyl, yr oedd wedi cwrdd â nhw’n ddiweddar gyda’r Cynghorydd Barry Mellor, ac am eu presenoldeb yn y Pwyllgor Craffu Partneriaethau, ac roedd yn gwerthfawrogi gwaith y Pwyllgor a’i Gadeirydd wrth graffu ar y cynigion.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod AGB yn rhoi pŵer i fusnesau benderfynu ar welliannau yr oeddent am eu gwneud mewn ardal ddaearyddol a chodi arian i’w darparu.  Roedd yn ffurf leol iawn o ddemocratiaeth.  Er bod CSDd yn fudd-ddeiliad allweddol yn AGB y Rhyl, roedd yn annibynnol i’r Cyngor.  Fodd bynnag, roedd yr AGB wedi’i chael yn anodd cael eu hystyried yn annibynnol o ystyried sylwadau mai dim ond oherwydd bod gan CSDd gyfran anghyfiawn o’r pleidleisiau yr oedd wedi llwyddo.  Roedd o’r farn fod gan yr AGB gefnogaeth busnesau, ond roedd yn anodd dadlau yn erbyn y naratif negyddol oherwydd y nifer isel a bleidleisiodd. Cafodd 99 o’r 463 o bleidleisiau cymwys eu bwrw; enillodd y bleidlais gadarnhaol o 66 pleidlais, ond roedd 36 o’r pleidleisiau hynny wedi’u bwrw gan CSDd. Gellid priodoli amryw resymau i’r nifer isel a bleidleisiodd, ond disgwyliwyd nifer uwch mewn ail bleidlais, a byddai mwy o fusnesau’n gefnogol o ystyried yr hyn a oedd wedi’i ddarparu dros y tymor 5 mlynedd.

 

Cytunodd yr Arweinydd gyda swyddogion nad oedd sail i roi feto ar gynigion yr AGB a gofynnodd i’r Cabinet roi ystyriaeth ofalus i sut i ddefnyddio pleidleisiau CSDd mewn ail bleidlais.  Cyfeiriodd at ymgynghoriadau gyda chraffu ac eraill, gan gynnwys argymhelliad Grŵp Ardal yr Aelodau y Rhyl, sef nad yw CSDd yn arfer ei hawl i bleidleisio yn rownd nesaf yr AGB.  Barn yr Arweinydd oedd fod AGB y Rhyl yn chwarae rôl sylweddol yn adfywiad y dref, ar ôl darparu mentrau cadarnhaol yn y  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

YSGOL PLAS BRONDYFFRYN – PROSIECT ARFAETHEDIG I ADEILADU YSGOL NEWYDD pdf eicon PDF 245 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gill German, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd, (copi amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth Cabinet ar gyfer safle a ffafrir i ddatblygu prosiect adeilad newydd ar gyfer Ysgol Plas Brondyffryn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, trwy bleidlais fwyafrifol, bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo’r safle a ffefrir ar gyfer adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Plas Brondyffryn ar safle Ffordd Ystrad, a ddangosir fel safle A ar y cynllun atodedig yn Atodiad 2 yr adroddiad a chytuno i gefnogi symud ymlaen trwy gyflwyno cais cynllunio;

 

(b)      cytuno bod yn rhaid i’r cais cynllunio ddangos yn glir y bydd darpariaeth awyr agored amgen o fudd cymunedol cyfwerth neu fwy yn cael ei hadeiladu yn lle’r gofod hamdden a gollir drwy ddatblygu ar gae chwarae’r ysgol, a

 

(d)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les, yn Atodiad 3 yr adroddiad, fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gill German yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer safle Ffordd Ystrad (Safle A) fel y safle a ffefrir ar gyfer datblygu’r adeilad newydd ar gyfer Ysgol Plas Brondyffryn ac ar gyfer cyflwyno cais cynllunio ffurfiol.

 

Roedd y prosiect yn rhan o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (Band B) a gymeradwywyd ym mis Medi 2020.  Roedd yr ysgol yn cynnig darpariaeth arbenigol i ddisgyblion rhwng 3 a 19 oed ag awtistiaeth a’r cynnig oedd dod â 3 o’r 4 safle presennol at ei gilydd mewn adeilad pwrpasol a chynyddu capasiti i fodloni galw.

 

Darparwyd rhywfaint o gefndir i’r prosiect gan gynnwys gwaith dichonoldeb ar y cynigion am adeilad newydd ac ymgynghoriad â budd-ddeiliaid am safle Ffordd Ystrad (Safle A).  Roedd y prif broblemau a godwyd o’r ymgynghoriad cynllunio anffurfiol yn ymwneud â dewis safle, colli cyfleusterau chwaraeon a mynediad priffyrdd, a darparwyd ymatebion/camau lliniaru ar gyfer y materion hynny.  Wrth gefnogi’r angen am gyfleusterau gwell, roedd gan Grŵp Ardal Aelodau Dinbych bryderon dros Safle A a gofynnwyd i swyddogion adolygu’r pryderon hynny ac asesu safleoedd a lleoliadau amgen.  Gwnaed gwaith dichonoldeb ar safle arall (Safle B) a darparwyd cyngor cwnsler cyfreithiol am y risgiau i’r Cyngor o safbwynt polisi cynllunio.  Ni allai’r Aelod Arweiniol na’r swyddogion gefnogi symud ymlaen â Safle B oherwydd bod cyfyngiadau cynllunio sylweddol i’w goresgyn y tu hwnt i’r rhai ar Safle A, ac o safbwynt addysgol, o ystyried yr effaith ar gynlluniau datblygu yn y dyfodol ar gyfer Ysgol Uwchradd Dinbych. Fodd bynnag, Safle B oedd y dewis a ffefrir gan Grŵp Ardal Aelodau Dinbych. 

 

Amlygodd y Cynghorydd German fesurau lliniaru i fynd i’r afael â phryderon dros Safle A. Tynnodd sylw at yr Asesiad o Effaith ar Les a derbyniodd yr effaith negyddol gyffredinol ar gymunedau cydlynol a phreswylwyr Dinbych a’r angen am fesurau lliniaru ychwanegol i fynd i’r afael â’r holl faterion a godwyd.  Roedd y Cynghorydd Martyn Hogg wedi sôn am effaith gymunedol y tu allan i’r cyfarfod ac roedd sicrwydd wedi’i ddarparu y byddai’n parhau fel mater byw. Byddai gwaith yn cael ei wneud i nodi cyfleoedd a chynyddu manteision mannau agored eraill yn y dref, yn ogystal â disodli’r cyfleusterau chwaraeon.  Yn gyffredinol, roedd hwn yn ganlyniad cadarnhaol net ar gyfer y cynnig gyda buddiolwyr ar draws Sir Ddinbych.

 

Wrth gloi, cadarnhaodd y Cynghorydd German ei bod wedi bod yn broses hir ac roedd hi wedi’i siomi nad oedd canlyniad wedi’i sicrhau a oedd wrth fodd pawb ond diolchodd i bawb a fu’n rhan o’r broses am eu gwaith caled a’u gwedduster.  O ganlyniad, argymhellodd ddatblygu â safle Ffordd Ystrad (Safle A) ar gyfer yr adeilad newydd.

 

Mynegodd y Cynghorydd Rhys Thomas bryderon nad oedd y broses ymgysylltu ac ymgynghori, fel a nodir yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion, wedi’i dilyn yn briodol, a dangosodd hyn trwy dynnu sylw at ddogfennau gan fudd-ddeiliaid allweddol, gan gynnwys Ysgol Uwchradd Dinbych a Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig, hysbysiad o fwriad y Cyngor i wneud cais am ganiatâd cynllunio ar Safle A tua deuddeg mis o flaen llaw, argraff arlunydd o safle’r ysgol tua chwe mis cyn hynny, a’r ffaith nad oedd Grŵp Ardal Aelodau Dinbych wedi’i gynnwys mewn cyfarfod safle gyda datblygwyr.  Ychwanegodd y Cynghorydd Emrys Wynne ei bod yn debyg bod cyfres o fethiannau wedi bod dros gyfnod hwy na deunaw mis a gofynnodd a oedd tystiolaeth fod Corff Llywodraethu Ysgol Uwchradd Dinbych wedi mynegi barn.  Gofynnodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis am ragor o eglurder hefyd am faterion a godwyd gan y Cynghorydd Martyn Hogg (yr oedd wedi’u hanfon dros  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU - FERSIWN DDRAFFT O GYNLLUN CYFALAF STRATEGOL 10 MLYNEDD pdf eicon PDF 232 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan Gynghorwyr Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gill German, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd (copi yn amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Cynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a blaenoriaethau cyfalaf Sir Ddinbych i wella iechyd a gofal cymdeithasol integredig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Cynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a chytuno gyda blaenoriaethau cyfalaf Sir Ddinbych ar gyfer gwella iechyd a gofal cymdeithasol integredig i ddiwallu anghenion y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Elen Heaton yr adroddiad i ofyn i’r Cabinet gymeradwyo Cynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a blaenoriaethau cyfalaf Sir Ddinbych ar gyfer gwella iechyd a gofal cymdeithasol integredig.

 

Darparwyd rhywfaint o gefndir i sefydlu’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, â’r nod o hwyluso cydweithio er mwyn gwella iechyd a gofal cymdeithasol ar draws y rhanbarth.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi’i gwneud yn ofynnol i bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ddatblygu a gweithredu cynlluniau cyfalaf strategol er mwyn adlewyrchu’r olwg 10 mlynedd o anghenion buddsoddi cyfalaf yn y rhanbarth.  Roedd pob un o’r chwe awdurdod lleol wedi cyflwyno eu blaenoriaethau cyfalaf o ran prosiectau iechyd a gofal cymdeithasol integredig i greu un strategaeth ranbarthol.  Roedd prosiectau Sir Ddinbych yn cynnwys Ysbyty Brenhinol Alexandra, Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Dinbych, a Gerddi Glasfryn, Dinbych.  Roedd y Cynllun yn ddogfen fyw a fyddai’n cael ei hadolygu a’i diweddaru o leiaf bob blwyddyn ac roedd yn caniatáu i brosiectau’r dyfodol gael eu hychwanegu at y rhestr flaenoriaeth cyfalaf dros y 10 mlynedd nesaf.

 

Cywirodd y Cynghorydd Heaton anghywirdeb a gafodd ei adrodd yn y wasg o ran cyllid ar gyfer Ysbyty Brenhinol Alexandra a drafodwyd yn y Pwyllgor Craffu Partneriaethau.  Nid oedd elfen bartneriaeth y cyllid, sef tua 20% o gyfanswm y cyllid gofynnol, wedi’i sicrhau.  Roedd y ffurflenni angenrheidiol ar gyfer gwaith cwmpasu dechreuol a dichonoldeb y prosiect wedi’u cymeradwyo’n ddiweddar, a rhannwyd y newyddion da gyda’r Pwyllgor Craffu.  Roedd y cam nesaf yn cynnwys cymeradwyaeth leol i’r ffurflenni angenrheidiol, a phe bai’r Cabinet yn cymeradwyo’r argymhellion, byddai’r blaenoriaethau hynny’n cael eu cyflwyno i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i’w cymeradwyo a’u cynnwys yn y Cynllun Cyfalaf Rhanbarthol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo Cynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a chytuno gyda blaenoriaethau cyfalaf Sir Ddinbych ar gyfer gwella iechyd a gofal cymdeithasol integredig i ddiwallu anghenion y dyfodol.

 

 

8.

STRATEGAETH GAFFAEL SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 215 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol (copi yn amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet o Strategaeth Gaffael Sir Ddinbych sydd wedi'i diweddaru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau, a

 

(b)      chymeradwyo’r Strategaeth Gaffael ddiweddaraf (Atodiad 1 yr adroddiad) sy’n cefnogi blaenoriaethau a nodau lles Sir Ddinbych, a’i rôl ym mharatoadau Sir Ddinbych ar gyfer y newidiadau i reoliadau caffael cyhoeddus sydd ar y gweill.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad i ofyn i’r Cabinet gymeradwyo Strategaeth Gaffael Sir Ddinbych wedi’i diweddaru.

 

Roedd yr adroddiad yn cyflwyno Strategaeth Gaffael newydd ac wedi’i diweddaru Sir Ddinbych a oedd ei hangen er mwyn adlewyrchu a chefnogi’r blaenoriaethau corfforaethol a nodau lles presennol, ac alinio â Bil Caffael Llywodraeth y DU a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a oedd ar y gweill.  Roedd y ddeddfwriaeth newydd yn ceisio sicrhau gwerth am arian a chaffael cymdeithasol gyfrifol ac roedd cyfleoedd i gefnogi blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor hefyd.

 

Roedd y Strategaeth yn cynnwys tri chanlyniad penodol i’r Cyngor, sef –

 

·       gwella’r cyfraniad yr oedd ei weithgarwch caffael yn ei wneud i’r economi leol

·       gweithio mewn partneriaeth â’i gadwyn gyflenwi i gyflawni lleihad o 35% o ran allyriadau carbon er mwyn cyfrannu at y nod o gael sector cyhoeddus net sero erbyn 2030

·       sicrhau gwerth am arian o’r nwyddau a’r gwasanaethau yr oedd yn eu caffael

 

Amlygodd Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Dros Dro a’r Rheolwr Caffael Cydweithredol a Fframwaith feysydd allweddol y Strategaeth.

 

Roedd y Cabinet yn croesawu’r Strategaeth a’r cyfleoedd cadarnhaol yr oedd yn eu cynnig, yn enwedig o ran busnesau lleol a chynyddu gwariant lleol, ymgysylltu â phartneriaethau cymdeithasol, lleihau allyriadau carbon, mynd i’r afael â’r agenda lles a gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol.  Gan ystyried cyfoeth y newidiadau, roedd yr Arweinydd yn annog hyfforddiant ac ymgysylltu gan Aelodau.  Cytunodd y swyddogion y gellid trefnu Gweithdy i Aelodau, a fyddai’n arbennig o ddefnyddiol i’r Cabinet o ystyried eu cyfrifoldebau dros ddyfarnu contractau, er mwyn deall y gofynion newydd yn well.

 

Trafododd y Cabinet amryw agweddau’r Strategaeth gyda swyddogion, a soniodd fwy am fanteision caffael lleol a mentrau fel digwyddiad “Cwrdd â’r Prynwr” er mwyn ymgysylltu â busnesau lleol i adeiladu capasiti a hyder yn y farchnad leol a sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau i wneud cais am gontractau a’u hennill.  Yn ogystal, roedd y ddeddfwriaeth newydd yn darparu gweithdrefn hyblyg a fyddai’n galluogi’r Cyngor i gefnogi’r gadwyn gyflenwi leol a sicrhau ei bod yn rhoi cyflenwyr lleol yn y sefyllfa orau bosibl i wneud cais.  Roedd y Cabinet yn falch o nodi y byddai’r Strategaeth yn cefnogi nifer o themâu yn y Cynllun Corfforaethol hefyd, gan gynnwys Sir Ddinbych ffyniannus, Sir Ddinbych mwy gwyrdd, a Chyngor sy'n cael ei gynnal yn dda, ac sy’n uchel ei berfformiad.  Roedd y Cynghorydd Gill German yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi arwain ar y broses hon gyda Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Lleol (Cymru).

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau, a

 

(b)      chymeradwyo’r Strategaeth Gaffael ddiweddaraf (Atodiad 1 yr adroddiad) sy’n cefnogi blaenoriaethau a nodau lles Sir Ddinbych, a’i rôl ym mharatoadau Sir Ddinbych ar gyfer y newidiadau i reoliadau caffael cyhoeddus sydd ar y gweill.

 

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI’R TRYSORLYS 2022/23 pdf eicon PDF 209 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ynglŷn â pherfformiad y swyddogaeth rheoli’r trysorlys ac i ddangos cydymffurfiaeth â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2022/23.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2022/23 a’i chydymffurfiaeth â’r Dangosyddion Darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2022/23 (Atodiad 1 yr adroddiad), a

 

(b)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am berfformiad dull rheoli’r trysorlys ac i ddangos cydymffurfiaeth â therfynau’r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn 2022/23.

 

Amlygodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio’r prif  bwyntiau o ran benthyca a gweithgarwch buddsoddi.  Bu nifer o fenthyciadau’n aeddfedu a £30 miliwn o fenthyca newydd. Byddai’r swm hwnnw’n cynyddu’n sylweddol yn y flwyddyn ddilynol wrth fenthyca ar ran Llywodraeth Cymru a fyddai’n ariannu’r ad-daliadau ar gyfer y cynlluniau amddiffyn yr arfordir.  Roedd gweithgarwch buddsoddi i gyd yn weithgarwch tymor byr ac roedd yn ymwneud ag arian parod yn aros i gael ei wario, a oedd yn cael ei fenthyca yn syth cyn yr oedd ei angen.  Eglurwyd dangosyddion darbodus a nodwyd yn Atodiad B wrth Aelodau, gan gadarnhau cymarebau priodol o ran costau ariannu a lefelau benthyca o fewn terfynau.  Roedd cymhareb costau ariannu i ffrwd refeniw net ychydig yn is na 7% a fyddai’n debygol o newid yn y dyfodol o ystyried ymrwymiadau benthyca’r Cyngor yn y dyfodol, a’r lefel isel ddisgwyliedig o ran setliadau wrth symud ymlaen.

 

Nododd y Cabinet fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn monitro’r swyddogaeth rheoli’r trysorlys a’u bod wedi craffu ar yr adroddiad.  Rhoddodd y Pennaeth Cyllid grynodeb o’r materion a godwyd yn ystod y drafodaeth honno.  Soniodd hefyd am sesiwn hyfforddiant yn yr hydref a oedd wedi’i hanelu’n benodol at y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar reoli’r trysorlys, ond anogwyd pob Aelod i fynychu.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2022/23 a’i chydymffurfiaeth â’r Dangosyddion Darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2022/23 (Atodiad 1 yr adroddiad), a

 

(b)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

10.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 233 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio’r adroddiad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·       y gyllideb refeniw net ar gyfer 2023/24 oedd £250.793 miliwn (£233.696 miliwn yn 2022/23)

·       rhagwelwyd y byddai gorwariant o £3.119 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·       amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol

·       rhoddwyd manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd a chynnydd mewn ffioedd a chostau (£8.172 miliwn)

·       rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawr.

 

Amlygwyd y cynnydd o ran y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol o £2.395 miliwn y mis diwethaf i £3.119 miliwn.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys incwm a ragdybir o £700,000 o ran ariannu gwastraff a fyddai angen ei ddileu, oherwydd bod cadarnhad wedi dod ers hynny na fyddai’r cyllid yn dod i law yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.  Byddai gwariant ar eitemau eraill, fel cludiant ysgol, yn hysbys y mis nesaf, a fyddai’n darparu darlun cliriach yn gyffredinol.  Roedd gwasanaethau yn adolygu eu gwariant a’u hincwm i liniaru effaith gwariant cyffredinol y gyllideb ac roedd camau gweithredu eraill yn cael eu cymryd yn ystod y flwyddyn gan gynnwys arfer mwy o reolaethau dros recriwtio, ac roedd manylion am hyn wedi’u rhannu gyda’r Aelodau i gyd.  Er bod modd defnyddio’r gronfa wrth gefn ar gyfer lliniaru ar y gyllideb i dalu am y gorwariant eleni, byddai hynny ar draul yr adnoddau a fydd ar gael wrth ymateb i wasgfeydd annisgwyl mewn blynyddoedd i ddod.

 

Roedd yr Arweinydd yn ddiolchgar i’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio am yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r sefyllfa anodd iawn sy’n wynebu’r Cyngor a’r penderfyniadau anodd a oedd i ddod.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni.

 

 

11.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 361 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet, a nododd Aelodau eitem ychwanegol ar gyfer mis Tachwedd, a oedd yn ymwneud ag Ail-dendro Contractau Byw â Chymorth.

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.15pm.