Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol

Cofnodion:

Y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n peri rhagfarn ag unrhyw fater i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Rhys Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 3 ar y Rhaglen

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Rhys Thomas gysylltiad personol gydag eitem 3 gan ei fod yn gwirfoddoli i Fanc Bwyd Dyffryn Clwyd a’i fod yn Ymddiriedolwr.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Darpariaeth Prydau Ysgol am Ddim yn ystod y Gwyliau - cyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru na fyddai prydau ysgol am ddim yn cael eu cynnig dros wyliau’r haf.

Cofnodion:

Derbyniodd yr Arweinydd gais gan y Cynghorydd Delyth Jones i ystyried y mater canlynol a oedd angen sylw brys-

 

Darpariaeth Prydau Ysgol am Ddim yn ystod y Gwyliau  -  cyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru na fyddai prydau ysgol am ddim yn cael eu cynnig dros wyliau’r haf.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Delyth Jones at y cyhoeddiad hwyr gan Lywodraeth Cymru i beidio ag ymestyn y ddarpariaeth ar gyfer prydau ysgol am ddim dros wyliau’r haf a mynegodd bryder am yr effaith andwyol ar y teuluoedd â’r angen mwyaf.   Roedd wedi bod yn falch o weld cyflwyniad prydau ysgol am ddim i’r holl blant cynradd o dan gytundeb cydweithredu rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru ac nid oedd eisiau gweld y gwaith yn cael ei amharu o ganlyniad i’r penderfyniad diweddaraf.   O ganlyniad, roedd wedi gofyn am drafodaethau pellach gyda Llywodraeth Cymru gyda’r nod o newid y penderfyniad, ac i ystyried y gost i’r Cyngor pe cymerir camau i fynd i’r afael â’r sefyllfa er mwyn cefnogi teuluoedd diamddiffyn yn Sir Ddinbych.

 

Darparodd y Cynghorydd Gill German (Aelod Arweiniol) rywfaint o gefndir i’r sefyllfa bresennol ac estyniad diweddaraf y ddarpariaeth o ran prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau hyd at hanner tymor mis Mai fel y cyhoeddwyd ym mis Mawrth.   Er ymdrechion gorau Llywodraeth Cymru, roedd y cronfeydd wrth gefn ar gyfer y ddarpariaeth (a fu’n dibynnu’n helaeth ar gyllid argyfwng Covid) wedi dod i ben ac roedd yr ysgolion wedi rhoi gwybod i deuluoedd ers mis Mawrth nad oedd sicrwydd y byddai estyniad arall.   Ond, roedd yn bwysig sicrhau bod cynifer o deuluoedd â phosibl yn derbyn cymorth yn ystod gwyliau’r haf ac fe ymhelaethodd ar y gwaith sylweddol a’r cyfoeth o fentrau sydd ar gael i gefnogi teuluoedd o ran hynny.   Roedd yr enghreifftiau’n cynnwys cyfeirio teuluoedd at gefnogaeth Llywodraeth Cymru gyda chostau byw, Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol Bwyd a Hwyl ar gyfer gweithgareddau / prydau am ddim, gwaith a wnaed gan Deuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg gyda rhestr hir o weithgareddau ar gyfer teuluoedd gan gynnwys sesiynau coginio a chynhwysion i fynd adref gyda nhw.   Roedd grwpiau cymunedol hefyd yn gweithio i lenwi’r bwlch a chefnogi teuluoedd.   Rhoddwyd sicrwydd bod llawer o waith ar y gweill i fynd i’r afael â’r sefyllfa a byddai cyfleoedd pellach yn cael eu harchwilio i sicrhau bod cynifer o deuluoedd â phosibl yn cael cefnogaeth.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio ar y sefyllfa ariannol, gan egluro bod y ddarpariaeth cyllid dros dro wedi’i weinyddu gan awdurdodau lleol ar ran Llywodraeth Cymru.   Byddai parhau â’r cyllid dros wyliau’r haf yn costio rhwng £600,000 - £700,000 i’r Cyngor, a byddai’n golygu pwysau o £1m+ dros gyfnod o flwyddyn.   Fel Swyddog Adran 151 ni fyddai’n gallu cefnogi parhad y cyllid hwn o ystyried rhagolygon ariannol heriol y Cyngor.

 

Nododd yr Arweinydd lwyddiannau’r cytundeb cydweithredu a chydweithrediad llwyddiannus y ddwy blaid wleidyddol yn y Senedd ac yn y Cyngor.   Roedd yn falch o glywed am y gwaith caled i dargedu teuluoedd â’r angen mwyaf a sicrhau y gallant dderbyn cefnogaeth, a darparodd sicrwydd y byddai trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar y mater yn parhau er budd y teuluoedd hynny.   Cydnabu’r Cynghorydd Delyth Jones y gwaith caled sy’n cael ei gyflawni ac o ystyried pwysigrwydd y mater roedd yn awyddus i gael trafodaethau pellach gyda Llywodraeth Cymru.   Nododd amgylchiadau ariannol anodd y Cyngor hefyd ond roedd yn dymuno parhau i archwilio llwybrau eraill i gefnogi’r teuluoedd hynny.   Roedd y Cynghorydd Rhys Thomas yn gweithio gyda nifer o sefydliadau gwirfoddol ac yn ymwybodol bod ysgolion yn atgyfeirio at sefydliadau’r trydydd sector i gael cefnogaeth.  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 412 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2023 (copi ynghlwm). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar gywiro’r gwall teipograffyddol, derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2023.

 

Cywirdeb - Tudalen 7 - Eitem 2:  Datgan Cysylltiad - newid ‘Rhyl’ i ‘Rhys’.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

5.

PREMIWM TRETH CYNGOR AR AIL GARTREFI / CARTREFI GWAG HIRDYMOR pdf eicon PDF 309 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn rhoi diweddariad i’r Cabinet ar yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y dewis i gynyddu premiwm treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor a gofyn am farn y Cabinet ar gynigion i barhau â chodi premiwm ychwanegol ar y cartrefi hyn yn Sir Ddinbych.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn argymell i’r Cyngor -

 

(a)       bod y premiymau ail gartrefi safonol, ac eiddo gwag yn yr hirdymor yr un fath, i leihau nifer yr achosion o drethdalwyr yn osgoi talu (a fyddai efallai’n gwneud cais i symud i’r categori mwyaf ffafriol) ac i sicrhau nad yw’r baich gweinyddol yn cynyddu’n sylweddol, ac eithrio ar gyfer eiddo sy’n gorwedd o fewn yr argymhelliad (c) isod;

 

(b)       bod y premiwm a godir ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn aros ar 50% o Ebrill 2023 ac yna’n cynyddu i 100% o Ebrill 2024 ac i 150% o Ebrill 2025, a

 

(c)        bod eiddo sydd wedi bod yn wag a heb ddodrefn ers 5 mlynedd neu fwy yn talu premiwm o 50% yn fwy na’r premiwm safonol.

Cofnodion:

Yn absenoldeb yr Aelod Arweiniol, cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad ar ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) i gynyddu’r lefel uchafswm ar gyfer premiymau treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor, a diweddaru’r Cabinet ar ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer codi tâl ychwanegol ar y cartrefi hyn yn Sir Ddinbych.   Ceisiwyd safbwyntiau’r Cabinet ar y cynigion i symud ymlaen â chodi tâl ychwanegol, ac i gyflwyno argymhelliad i’r Cyngor er mwyn ceisio penderfyniad terfynol ym mis Medi.

 

Y rheswm dros y cynigion oedd cynyddu’r stoc o dai yn y sir a darparu mwy o dai ar gyfer pobl leol.   Roedd yr adroddiad yn ymwneud â phremiwm treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor yn unig, nid oedd yn cynnwys unrhyw faterion eraill sy’n destun deddfwriaeth arall.   Roedd y Cabinet wedi cytuno i ymgynghori ar y cynigion i gadw’r premiwm yn 50% ar gyfer Ebrill 2023, cynyddu i 100% o fis Ebrill 2024, ac i 150% o fis Ebrill 2025, gyda phremiwm uwch o 50% yn fwy na’r premiwm safonol ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag a heb ddodrefn am 5 mlynedd a mwy.   Uchafswm y cynnydd a ganiateir oedd 300%.  

 

Tynnodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio sylw at y wybodaeth yn yr adroddiad a oedd yn cynnwys y cefndir a’r cyd-destun, newidiadau deddfwriaethol, adborth o’r ymarfer ymgynghori a thablau data, a’r Asesiad o Effaith ar Les.   Roedd canlyniadau’r ymgynghoriad yn dangos bod y mwyafrif o’r ymatebwyr sy’n byw yn Sir Ddinbych yn teimlo bod angen cynyddu premiymau Treth y Cyngor ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor; ac felly’n cefnogi’r argymhelliad.   Yn gyffredinol nid oedd perchnogion ail gartrefi a thai gwag hir dymor yn cefnogi’r cynigion.   Cyfeiriodd yr Uwch Swyddog Refeniw at y mesurau cynllunio a threthu eraill a gyflwynwyd gan LlC i fynd i’r afael â phroblemau tai, a byddai’r ymagwedd fesul cam yn caniatáu monitro’r sefyllfa’n ofalus.   Roedd gan y Cyngor bwerau dewisol i hepgor unrhyw bremiwm mewn achos o galedi ariannol neu amgylchiadau eithriadol. 

 

Croesawodd y Cabinet yr adroddiad a’r cynigion i fynd i’r afael â’r galw am dai yn y sir, gan annog ail-ddefnyddio eiddo a chefnogi pobl leol i aros yn eu cymunedau.  Roedd yr Asesiad o Effaith ar Les yn nodi’n glir mai nod y cynigion yw mynd i’r afael â’r galw am dai yn y sir a’r cyfle i ddefnyddio incwm o’r premiymau i fynd i’r afael â’r anghenion tai, gan gynnwys digartrefedd ac i leihau effaith ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor ar gymunedau lleol.   Cytunodd y Cabinet â’r ymagwedd fesul cam o gynyddu’r premiwm er mwyn gallu monitro effaith y cynigion ochr yn ochr â mesurau eraill i fynd i’r afael â diffyg tai fforddiadwy.   Roedd yr eithriadau amrywiol ar gyfer y premiymau wedi’u nodi ac roedd y Cabinet yn falch o nodi’r mesurau diogelu a oedd yn eu lle ar gyfer y rhai sy’n dioddef caledi ariannol neu amgylchiadau eithriadol y gellir eu hystyried fesul achos.

 

Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau ynglŷn â sawl agwedd o’r adroddiad, gan gynnwys sut byddai’r cynigion yn cael eu cymhwyso mewn amgylchiadau penodol, fel a ganlyn-

 

·       egluro sut yr oedd ymagwedd Sir Ddinbych yn cymharu ag awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru, gyda’r mwyafrif yn ystyried adolygu’r cyfraddau presennol gyda’r nod o gynyddu premiymau yn sgil yr hyblygrwydd newydd i godi’r tâl.

·       nid oedd eiddo yn cael ei gyfrif fel un gwag hirdymor nes ei fod yn wag a heb ddodrefn am 12 mis, ac os oedd eiddo ar y farchnad agored i’w werthu neu  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 231 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio’r adroddiad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·       y gyllideb refeniw net ar gyfer 2023/24 oedd £250.793 miliwn (£233.696 miliwn yn 2022/23)

·       rhagwelwyd y byddai gorwariant o £2.395 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·       amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol

·       rhoddwyd manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd a chynnydd mewn ffioedd a chostau (£8.172 miliwn)

·       rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawr.

 

Eglurwyd i’r Cabinet mai ychydig iawn o newid a fu ers yr adroddiad fis diwethaf.   Roedd y gostyngiad yn y gorwariant o £3.348m i £2.395m yn deillio’n bennaf o incwm grant.   Nodwyd y risgiau o ran setliad cyflog 2023/24, ynni a chostau chwyddiant.   Byddai’r sefyllfa’n parhau i gael ei monitro’n agos.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni.

 

 

7.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 365 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet i’w hystyried.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hugh Irving o ran adroddiadau yn y dyfodol yn ymwneud â’r Orsaf Trosglwyddo Gwastraff newydd, eglurodd yr Arweinydd y byddai unrhyw ddatblygiadau pellach am y prosiect yn cael eu rhannu gyda’r aelodau.

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

8.

DYFARNU CONTRACT GWASANAETHAU YSWIRIANT

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu’r contract yswiriant sydd dan sylw yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo dyfarnu’r contractau o’r broses dendro gychwynnol fel yr amlinellir yn Adran 4.1 a 4.2 yr adroddiad ar gyfer Lot 3 i 9, ac yn

 

(b)       nodi’r sefyllfa o ran Lot 1 a 2 ac yn dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio (Swyddog Adran 151) ddyfarnu contractau mewn perthynas â Lot 1 a 2 mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr adroddiad cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu’r contract yswiriant fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Daeth contract yswiriant presennol y Cyngor i ben ar 30 Gorffennaf 2023 ac roedd angen contract newydd o’r dyddiad hwn ymlaen.   Cyflwynwyd manylion yr ymarfer caffael a’r broses werthuso ynghyd â’r argymhellion dyfarnu contract ar gyfer gwahanol wasanaethau yswiriant yn Lot 3-9.   Ni dderbyniwyd unrhyw ymatebion tendr i Lot 1 a 2 a nododd y Rheolwr Yswiriant a Risg y sefyllfa ddiweddaraf yn dilyn ymgysylltiad uniongyrchol gyda’r marchnadoedd arbenigol i dderbyn yswiriant gyda’r canlyniad economaidd gorau erbyn y dyddiad adnewyddu.   Gan y byddai angen awdurdod dirprwyol i ddyfarnu contractau ar gyfer Lot 1 a 2 ac i sicrhau parhad yswiriant ar ôl diwedd Gorffennaf yn y meysydd hynny, cynigiwyd diwygiad i’r argymhelliad yn 3.2 o ran hynny.

 

Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad a chanlyniad y broses gaffael a nodi’r sefyllfa ddiweddaraf o ran Lot 1 a 2.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo dyfarnu’r contractau o’r broses dendro gychwynnol fel yr amlinellir yn Adran 4.1 a 4.2 yr adroddiad ar gyfer Lot 3 i 9, ac yn

 

(b)      nodi’r sefyllfa o ran Lot 1 a 2 ac yn dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio (Swyddog Adran 151) i ddyfarnu contractau mewn perthynas â Lot 1 a 2 mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor.

 

 

9.

AMRYWIO CONTRACT HIRSEFYDLOG I DDARPARU STAFF AR GYFER EIN GWASANAETH CYFLEOEDD GWAITH MEWNOL

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn y contract cyfredol i ddarparu staff ar gyfer ein Gwasanaeth Cyfleoedd Gwaith mewnol fel mae’r adroddiad yn ei nodi.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo cyflwyno estyniad i’r contract Cynnig, gyda manylion a thelerau ac amodau diwygiedig dros dro, am gyfnod o flwyddyn gyda’r dewis i ymestyn am gyfnod pellach o 12 mis.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Elen Heaton adroddiad cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn y contract cyfredol i ddarparu staff ar gyfer ein Gwasanaeth Cyfleoedd Gwaith mewnol fel mae’r adroddiad yn ei nodi.

 

Ymhelaethodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Gofal Cymdeithasol a Digartrefedd ar y rhesymau dros ymestyn y contract er mwyn sicrhau eglurder o ran disgwyliadau’r gwasanaeth sy’n ofynnol ac er mwyn cael amser i gynllunio trefniadau hirdymor.   Cynigiwyd y dylid ailgyflwyno’r contract presennol gyda manyleb gwasanaeth ac amodau a thelerau diwygiedig fel yr atodwyd i’r prif adroddiad.

 

Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad a chefnogi’r trefniadau dros dro arfaethedig i sefydlu dyfodol hirdymor y gwasanaeth.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo cyflwyno estyniad i’r contract Cynnig, gyda manylion a thelerau ac amodau diwygiedig dros dro, am gyfnod o flwyddyn gyda’r dewis i ymestyn am gyfnod pellach o 12 mis.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.15am.