Agenda and decisions

Agenda and decisions

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 399 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2023 (copi’n amgaeedig). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

5.

CANLYNIAD ADOLYGIAD PWYLLGOR CRAFFU PARTNERIAETHAU O BENDERFYNIAD CABINET SY’N YMWNEUD Â’R CEISIADAU AR Y RHESTR FER AR GYFER CYLLID O’R GRONFA FFYNIANT GYFFREDIN pdf eicon PDF 310 KB

Ystyried canlyniad yr adolygiad o’r penderfyniad a gymerwyd gan y Cabinet ar 25 Ebrill 2023 yn berthnasol i Geisiadau ar y Rhestr Fer ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin sydd wedi bod yn destun craffu ac wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar 18 Mai 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cydnabod bod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn parchu penderfyniad y Cabinet ar 25 Ebrill 2023, i’r graddau y mae’n ymwneud â’r prosiectau ar y rhestr fer a luniwyd gan y Grŵp Partneriaethau Craidd i’w cymeradwyo, a

 

(b)      mewn ymgynghoriad gyda’r Swyddogion arweiniol perthnasol, ystyried y mecanweithiau ar gyfer gweithredu argymhellion y Pwyllgor Craffu, fel y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3.2 - 3.6, mewn modd priodol ac amserol.

 

6.

CAM 2 O GONTRACT GWAITH - GORSAF TROSGLWYDDO GWASTRAFF CSDD NEWYDD, YMESTYN STAD DDIWYDIANNOL COLOMENDY - DIWEDDARIAD pdf eicon PDF 297 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer y bwriad arfaethedig o symud ymlaen i gwblhau gwaith Cam 2 yn yr Orsaf Trosglwyddo Gwastraff newydd yn Ninbych, ar ôl i’r prif gontractwr fynd i ddwylo’r gweinyddwyr, a darparu diweddariad ar bwysau cyllideb oherwydd y sefyllfa.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau;

 

(b)       cefnogi’r ffordd ymlaen a ffefrir i gwblhau gwaith Cam 2 yn yr Orsaf Trosglwyddo Gwastraff newydd ar Ystâd Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych a

 

(c)        chydnabod y pwysau diweddaraf ar y gyllideb a chytuno i barhau i weithio ar risg wrth i drafodaethau am ffynonellau cyllid posibl ar gyfer y pwysau gael eu cynnal â Llywodraeth Cymru.  Roedd hyn yn hanfodol er mwyn lliniaru’r risg o oedi pellach fyddai’n effeithio eto ar gostau a’r rhaglen, yn cynnwys y rhaglen ehangach o newid mewn gwasanaeth y mae cwblhau’r Orsaf yn hanfodol ar ei chyfer.

 

7.

PREMIWM TRETH CYNGOR AR GARTREFI GWAG HIRDYMOR AC AIL GARTREFI pdf eicon PDF 231 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn diweddaru’r Cabinet ar ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu’r uchafswm lefel o bremiymau treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor a gofyn am safbwyntiau'r Cabinet ar sut i symud ymlaen gydag unrhyw godi tâl ychwanegol posib ar y cartrefi hyn yn Sir Ddinbych.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cytuno bod y premiymau ail gartrefi safonol, ac eiddo gwag hirdymor yr un fath, i leihau effaith trethdalwyr yn osgoi talu (a fyddai efallai’n gwneud cais i symud i’r categori mwyaf ffafriol) ac i sicrhau nad yw’r baich gweinyddol yn cael ei gynyddu’n sylweddol, ac eithrio ar gyfer eiddo sy’n gorwedd o fewn yr argymhelliad;

 

(b)       cytuno â’r cynigion canlynol a fydd yn hysbysu ymgynghoriad cyhoeddus cyn i’r Cabinet a’r Cyngor wneud eu penderfyniadau terfynol:

 

·         bod y Premiwm a godir ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn aros ar 50% o Ebrill 2023 ac yna’n cynyddu i 100% o Ebrill 2024 ac i 150% o Ebrill 2025

·         bod eiddo sydd wedi bod yn wag a heb ddodrefn ers 5 mlynedd neu fwy yn talu premiwm o 50% yn fwy na’r Premiwm safonol, a

 

(c)        bod y penderfyniad yn cael ei weithredu ar unwaith, yn unol â pharagraff 7.25 o gyfansoddiad y Cyngor, o wybod bod angen cwblhau’r ymgynghoriad angenrheidiol mewn modd amserol.

 

8.

POLISI GWEITHIO’N HYBLYG DRAFFT pdf eicon PDF 232 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar y Polisi Gweithio’n Hyblyg a dogfennau canllawiau cysylltiedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo’r Polisi Gweithio’n Hyblyg, a’r dogfennau canllaw ategol, a

 

(b)       chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 6 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

9.

FFRAMWAITH ADEILADU GOGLEDD CYMRU (NWCF) CAM 3 - CYFNOD 1 - CYCHWYN Y PROSIECT pdf eicon PDF 222 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau ar y broses o gaffael ar gyfer Cam 3 o Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cadarnhau cychwyn y prosiect i gaffael Cam 3 Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru, a

 

(b)       chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

10.

LLYWODRAETHU ARIAN CRONFA FFYNIANT BRO pdf eicon PDF 216 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi’n amgaeedig) ar y trefniadau llywodraethu ar gyfer goruchwylio’r broses o gyflawni prosiectau wedi’u hariannu gan y Gronfa Ffyniant Bro.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen a deall y trefniadau llywodraethu a sicrwydd a ddisgrifir ac yn fodlon bod y trefniadau hynny wedi’u hintegreiddio’n ddigonol i fusnes y Cyngor.

 

11.

ADRODDIAD ARIANNOL (SEFYLLFA ARIANNOL DERFYNOL 2022/23) pdf eicon PDF 230 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer 2022/23 a’r defnydd arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer 2022/23;

 

(b)       cymeradwyo'r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau fel y manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1 a 2, a

 

(c)        nodi manylion y trosglwyddiadau i’r Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd ac allan ohonynt fel y nodwyd yn Atodiad 3.

 

12.

BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 293 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.