Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Emrys Wynne – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Brian Jones – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen

 

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol yn eitem 5 ar y rhaglen, Ceisiadau ar y Rhestr Fer ar gyfer Cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin -

 

Y Cynghorydd Emrys Wynne gan ei fod ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Cadwyn Clwyd

Y Cynghorydd Brian Jones gan ei fod ar y Bwrdd Prosiect ar gyfer un o’r ceisiadau.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 321 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Mawrth, 2023 (copi’n amgaeedig). 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2023.

 

Materion yn Codi - Tudalen 9: Terfynu’r Contract am Brif Gontractwr ar gyfer Cam 2 y Depo Gwastraff - cyfeiriodd y Cynghorydd Peter Scott at yr effaith ariannol ar y Cyngor a gofynnodd, os oedd y costau ychwanegol yn afresymol, a oedd Cynllun B? Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi fod swyddogion yn gweithio ar fanylion yr adroddiad oedd yn dod yn ôl gerbron y Cabinet ym mis Mai, oedd yn nodi’r dewisiadau oedd ar gael er mwyn gorffen darparu’r cynllun. 

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

5.

CEISIADAU AR Y RHESTR FER AR GYFER CYLLID Y GRONFA FFYNIANT GYFFREDIN pdf eicon PDF 389 KB

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiadau cyfrinachol) gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi ynghlwm) ar y broses ymgeisio a llunio rhestr fer a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ariannu’r prosiectau fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Partneriaeth Craidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cadarnhau eu bod wedi deall y broses ymgeisio a llunio rhestr fer ac yn cymeradwyo bod y gweithdrefnau hynny’n deg ac agored.

 

(b)       cytuno i ariannu’r prosiectau a roddwyd ar y rhestr fer gan y Grŵp Partneriaeth Craidd (Atodiad C yr adroddiad) a

 

(c)        rhoi pwerau dirprwyol i’r Arweinydd i wneud penderfyniadau dilynol, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol a Chyfarwyddwr Corfforaethol yr Amgylchedd a’r Economi.     Efallai y bydd angen y penderfyniadau hynny pe bai’r amgylchiadau a nodwyd ym mharagraffau 4.9, 4.10 a 4.11 yr adroddiad yn digwydd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad ar y broses ymgeisio a llunio rhestr fer ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin a cheisiodd gymeradwyaeth y Cabinet i ariannu’r prosiectau a argymhellwyd gan y Grŵp Partneriaeth Craidd. Roedd yr adroddiad yn cynnwys atodiadau cyfrinachol am y ceisiadau (oedd yn cynnwys materion ariannol a busnes) a’r canlyniadau a argymhellwyd, a chafodd y Cabinet eu cynghori gan y Swyddog Monitro i symud i sesiwn breifat i drafod yr elfennau hynny.

 

Roedd y Pennaeth Tai a Chymunedau, Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro: Perfformiad, Digidol ac Asedau a’r Rheolwr Cyllid Allanol yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.

 

Arweiniwyd y Cabinet yn fanwl drwy’r broses ymgeisio a llunio rhestr fer. Cafwyd mwy o geisiadau ar gyfer y gronfa na’r adnoddau sydd ar gael sef 110 o geisiadau gyda chyfanswm o £88.7miliwn yn erbyn dyraniad o £25.6miliwn. Darparwyd trosolwg o’r arian a dderbyniwyd a phrosiectau a argymhellwyd i’w cymeradwyo, prosiectau na argymhellwyd i’w cymeradwyo a rhestr wrth gefn o brosiectau (Atodiad C yr adroddiad). Roedd adborth ar y rhestr hir o brosiectau gan y grŵp partneriaeth ehangach (Atodiad B yr adroddiad) wedi cael ei rannu â’r Grŵp Partneriaeth Craidd i lywio eu trafodaethau. Roedd ceisiadau nad oedd wedi pasio’r sgrinio cychwynnol hefyd wedi eu cynnwys yn ogystal â cheisiadau am arian a ddyrannwyd eisoes i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych neu Gadwyn Clwyd, fyddai’n cael eu cyfeirio at y sefydliadau hyn (Atodiad A yr adroddiad). Roedd gan bob prosiect ei rinweddau a byddai’r rhai na chymeradwywyd yn cael adborth positif a’u cyfeirio am gymorth pellach.

 

Amlygodd y Pennaeth Tai a Chymunedau y canlynol hefyd -

 

·         wynebir heriau yn lleol a rhanbarthol oherwydd yr amodau a osodwyd i weinyddu’r rhaglen a’r dyraniad cyllid mewn amserlen dynn

·         goblygiadau i brosiectau rhanbarthol oedd angen cymeradwyaeth ar draws gwahanol feysydd y cyngor, a defnyddio rhestr wrth gefn os bydd cyllid yn dod ar gael. Gofynnwyd i’r Cabinet ddirprwyo awdurdod i’r Arweinydd i wneud hynny, mewn ymgynghoriad ag eraill

·         y dull a ddefnyddiwyd gyda’r thema Pobl a Sgiliau i Sir Ddinbych yn Gweithio i gomisiynu gwasanaethau.

 

Trafododd y Cabinet y broses ymgeisio a llunio rhestr fer, a’r farn oedd ei bod yn gadarn a chynhwysol iawn ac yn heriol o ran gwneud penderfyniadau ar brosiectau. Roedd nifer y ceisiadau a gafwyd o’i gymharu â’r cyllid oedd ar gael yn golygu na ellid cymeradwyo llawer o’r ceisiadau’n anffodus. Roedd y Cabinet wedi cael sicrwydd y byddai’r Cyngor yn parhau i weithio gydag ymgeiswyr aflwyddiannus i roi cymorth pellach a llwybrau posibl at ffrydiau cyllid eraill neu yn y dyfodol er mwyn datblygu’r prosiectau hynny drwy ffyrdd eraill pan fyddai’n bosibl.    Amlygwyd y sefyllfa ar ôl Brexit hefyd a nodwyd bod nifer o’r dangosyddion wedi dynodi diffyg sylweddol yng nghynlluniau ariannu Llywodraeth y DU i ddisodli cyllid yr UE.

 

Roedd y Cabinet wedi bod yn falch o nodi cydbwysedd y cynrychiolwyr ar y grŵp partneriaeth ehangach hefyd, gyda mewnbwn eang ar draws sectorau gwahanol yn y broses honno. Amlygwyd hefyd bod Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a Chadwyn Clwyd wedi cael eu comisiynu i weinyddu grantiau lefel is i brosiectau a meithrin gallu yn y gymuned a diolchodd yr Arweinydd i’r sefydliadau hynny am eu mewnbwn. Cafodd dull comisiynu i Sir Ddinbych yn Gweithio ei groesawu hefyd, yn enwedig ar gyfer ymgysylltu â grwpiau anodd eu cyrraedd. Nodwyd bod y prosesau penderfynu eraill ar draws y rhanbarth yn amrywio, a bod dull Sir Ddinbych drwy’r Cabinet yn cynnig proses agored a thryloyw.  Ystyriodd y Cabinet fod preswylwyr a chymunedau wedi bod ar flaen y broses gwneud penderfyniadau er mwyn targedu’r  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

GWASANAETH A REOLIR AR GYFER DARPARU GWEITHWYR ASIANTAETH pdf eicon PDF 247 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau proses dendro ar gyfer staff asiantaeth allanol drwy wasanaeth a reolir ac awdurdod dirprwyol i ddyfarnu contract newydd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)          cymeradwyo dechrau’r broses dendro i ddarparu staff asiantaeth drwy wasanaeth a reolir yn unol â Rheolau Gweithdrefn Gontractau y Cyngor (5.5.4(iii)), a

 

(b)          dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth AD i ddyfarnu’r contract i’r darparwr llwyddiannus mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro, Swyddog Adran 151 ac Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau proses dendro, ar y cyd â Chyngor Sir y Fflint, i ddarparu staff asiantaeth allanol drwy wasanaeth a reolir, a gofynnodd am awdurdod dirprwyedig i ddyfarnu contract newydd yn dilyn yr ymarfer caffael.

 

Tynnwyd sylw’r Cabinet hefyd at yr Asesiad o’r Effaith ar Les a’r effaith bositif ar gyflogaeth yn lleol, tâl teg a thelerau ac amodau da.

 

Crynhodd y Pennaeth AD yr adroddiad, gan ddweud bod y contract presennol yn dod i ben ym mis Awst 2023, rhoddodd fanylion y broses gaffael a’r gwariant a ragwelir ar y contract a dadansoddiad o wariant fesul gwasanaeth.   Byddai’r contract yn cynnwys absenoldebau heb eu cynllunio a staff arbenigol tymor byr yn bennaf. Oherwydd yr amserlen dynn ar gyfer dyfarnu’r contract a’r angen i reoli’r trawsnewid i ddarparwr newydd o bosibl, gofynnwyd hefyd am gymeradwyaeth y Cabinet i ddirprwyo’r penderfyniad ar ddyfarnu’r contract.

 

Ymatebodd y Swyddogion i gwestiynau fel a ganlyn -

 

·         nid oedd staff asiantaeth yn cael eu defnyddio i lenwi swyddi parhaol

·         roedd costau cyflogi staff asiantaeth yn debyg i gyflogi’n uniongyrchol gan fod y costau cyflogau yr un fath, yn dechrau ar waelod y raddfa berthnasol

·         dan y contract presennol, roedd ffi o 9 ceiniog yr awr yn daladwy i Matrix

·         roedd adrannau’n craffu ar y defnydd o staff asiantaeth a chostau a byddai AD yn gwneud mwy o waith yn y dyfodol gyda’r bwriad o leihau costau

·         nid oedd y contract asiantaeth yn cynnwys athrawon llanw na gweithwyr asiantaeth gofal cartref y gwasanaethau cymdeithasol

·         roedd staff asiantaeth yn cael eu defnyddio’n bennaf i lenwi swyddi gweigion tymor byr, megis absenoldeb salwch ac roedd mwyafrif y gwariant mewn Gwasanaethau Priffyrdd, Cyfleusterau  ac Amgylcheddol yn cyflenwi gwasanaethau rheng flaen

·         weithiau, roedd yn anodd recriwtio i swyddi arbenigol neu dechnegol a byddai staff asiantaeth yn cael eu defnyddio am gyfnod byr

·         nid oedd costau cludiant a/neu lety yn daladwy fel rhan o’r contract ac roedd llawer o asiantaethau lleol yn cael eu defnyddio, gyda staff asiantaeth oedd yn byw yn lleol.

 

Cytunodd y Cabinet i ddiwygiad yn cynnwys ymgynghori â’r Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol o ran argymhelliad 3.2.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)          cymeradwyo dechrau’r broses dendro i ddarparu staff asiantaeth drwy wasanaeth a reolir yn unol â Rheolau Gweithdrefn Gontractau y Cyngor (5.5.4(iii)), a

 

(b)          dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth AD i ddyfarnu’r contract i’r darparwr llwyddiannus mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro, Swyddog Adran 151 ac Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol.

 

 

7.

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU - DATGAN DIDDORDEB pdf eicon PDF 213 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddatgan diddordeb ar ran y Cyngor i gynnig llety i gynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo’r cais ar ran y Cyngor i ddatgan diddordeb mewn cynnig llety i Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Emrys Wynne yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddatgan diddordeb ar ran y Cyngor i gynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

 

Oherwydd bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn symud rhwng y Gogledd a’r De bob blwyddyn, byddai yn cael ei chynnal yng Ngogledd Cymru yn 2027, 2029 a 2031.  Tynnwyd sylw at werth cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn lleol, o ran ymwelwyr a budd economaidd, yr effaith bositif ar y Gymraeg a’r diddordeb mewn diwylliant a threftadaeth Cymru. O ran lleoliad, roedd Cyngor Tref Rhuddlan wedi cynnig safle, ac roedd y Cynghorydd Wynne o blaid cynnig y safle yn Rhuddlan i Bwyllgor yr Eisteddfod fel y safle a ffefrir yn Sir Ddinbych.

 

Yn ystod trafodaeth, roedd cefnogaeth aruthrol i’r Cyngor gynnig cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol, ac roedd yr aelodau’n cydnabod y manteision economaidd a diwylliannol a’r effaith bositif ar y Gymraeg. O ran lleoliad, mynegodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis y byddai’n well ganddi safle yn ne’r sir, megis Corwen. Mynegodd aelodau eraill y byddai’n well ganddynt safleoedd yng ngogledd neu dde’r sir hefyd ond roeddent i gyd yn cytuno y byddai croeso i’r Eisteddfod Genedlaethol ble bynnag y byddai’n cael ei chynnal yn y sir. Dywedodd yr Arweinydd fod argymhelliad yr adroddiad yn ymwneud â datgan diddordeb yn unig ar hyn o bryd. Byddai trafodaethau manwl yn cael eu cynnal yn nes ymlaen am safle posibl.   Eglurwyd mai mater i Bwyllgor yr Eisteddfod oedd lleoliad y safle, ond gofynnir i awdurdodau lleol helpu i ddynodi safleoedd posibl i’w hystyried ynghyd â budd-ddeiliaid eraill megis yr Heddlu a Chyfoeth Naturiol Cymru.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo’r cais ar ran y Cyngor i ddatgan diddordeb mewn cynnig llety i Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

 

 

8.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AR STRATEGAETH ARIANNOL TYMOR CANOLIG 2024/25 I 2026/27 pdf eicon PDF 233 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn gosod rhagolygon ariannol diwygiedig am y cyfnod o 3 blynedd 2024/25 i 2026/27 ynghyd â’r strategaeth gyllidebol arfaethedig ar gyfer gosod cyllideb 2024/25.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r rhagamcanion ariannol diwygiedig am y cyfnod o 3 blynedd 2024/25 i 2026/27 ynghyd â’r strategaeth gyllidebol arfaethedig ar gyfer gosod y gyllideb ar gyfer 2024/25.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad yn nodi’r rhagamcanion ariannol diwygiedig am y cyfnod o 3 blynedd 2024/25 i 2026/27 ynghyd â’r strategaeth gyllidebol arfaethedig ar gyfer gosod y gyllideb ar gyfer 2024/25.

 

Rhoddwyd ychydig o gefndir yn cynnwys crynodeb o sefyllfa gosod cyllideb 2023/24 ynghyd â’r risgiau am gostau ynni, cynnydd mewn cyflogau a phwysau ar gyllidebau gwasanaethau penodol. Roedd y cynnydd yn y setliad cyfartalog dangosol o 3% yn 2024/25 wedi arwain at sefyllfa ariannol anodd iawn gyda chwyddiant uchel a dychwelyd at setliad sy’n llawer is na chwyddiant. Roedd y rhagamcanion cyllideb diwygiedig ar gyfer 2024/25 (Atodiad 1 yr adroddiad) yn dangos amcangyfrif o bwysau ac effaith bosibl cynnydd yn Nhreth y Cyngor a’r Grant Cynnal Refeniw, ar roedd yn enghraifft o ansicrwydd y ffigurau a’r gwaith sydd angen ei wneud o hyd.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio ei grynodeb o’r adroddiad.

 

Nododd y Cabinet y pwysau ariannol digynsail ar y Cyngor wrth symud ymlaen a’r penderfyniadau anodd fydd yn gorfod cael eu gwneud yn y dyfodol i sicrhau ei fod yn mantoli’r gyllideb ac yn darparu gwasanaethau sy’n bodloni anghenion preswylwyr orau. Rhoddwyd teyrnged i’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio a’i dîm ynghyd â’r Aelod Arweiniol am eu hymrwymiad a’u gwaith caled i lunio strategaeth gyllideb tryloyw a chynhwysol ar gyfer gosod y gyllideb ar gyfer 2024/25. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â’r holl fudd-ddeiliaid a bod gan staff, aelodau a phreswylwyr i gyd ran i’w chwarae mewn cynllunio ariannol i’r dyfodol. Croeswyd y ffaith y bydd Cynllun Cyfathrebu yn cael ei ddatblygu cyn gynted â phosibl, o ran egluro’r rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniadau anodd fydd yn gorfod cael eu gwneud a rhoi cyfle i bawb gyfrannu at y broses gosod cyllideb. Trafodwyd yr hinsawdd ariannol heriol a’r pwynt gwleidyddol a wnaed bod yr anawsterau presennol yn ganlyniad uniongyrchol y penderfyniadau gwleidyddol a wnaed gan Lywodraeth y DU.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis ei bod yn galonogol clywed ymateb unedig y Cyngor a phwysleisiodd mor bwysig oedd bod aelodaeth ehangach y cyngor i gyd yn cydweithio er lles preswylwyr a chyflawni canlyniad gyda’r effaith lleiaf bosibl. Ailadroddodd yr Arweinydd bwysigrwydd bod yn agored a gonest am y pwysau sylweddol sy’n wynebu’r awdurdod ac ymgysylltu â staff, aelodau a’r cyhoedd wrth greu cynlluniau ariannol yn y dyfodol. Byddai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru ar sefyllfa ariannol awdurdodau lleol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r rhagamcanion ariannol diwygiedig am y cyfnod o 3 blynedd 2024/25 i 2026/27 ynghyd â’r strategaeth gyllidebol arfaethedig ar gyfer gosod y gyllideb ar gyfer 2024/25.

 

 

9.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 228 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet i’w hystyried, a nododd yr aelodau’r diwygiadau canlynol –

 

·         Cynigion Buddsoddi’r Gronfa Ffyniant Gyffredin – tynnwyd o fis Mai/Mehefin

·         Pleidlais Ardal Gwella Busnes y Rhyl – efallai y bydd yn llithro o fis Mehefin i fis Gorffennaf

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.00pm.