Agenda and decisions
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniataodd yr Arweinydd gwestiwn mewn perthynas â’r
Gronfa Ffyniant Bro a darparodd ateb i’w cwestiwn hwnnw. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2022 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y dylid, yn amodol
ar un pwynt o gywirdeb, derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr
2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf
Economaidd a Mynd i’r Afael â Thlodi (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin fel yr argymhellir, ac ystyriaeth
o’r wybodaeth ar brosesau ac amserlenni ar gyfer ceisiadau i’r dyfodol a’r
camau nesaf. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn - (a) cymeradwyo’r ceisiadau a amlinellir yn
Atodiad A i’r adroddiad, yn seiliedig ar yr argymhellion gan y Grŵp
Partneriaeth Craidd, a (b) nodi’r wybodaeth am brosesau ac amserlenni ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol (Atodiad B) ac yn cynghori ar y camau nesaf. |
|
CYNLLUNIAU BYW Â CHYMORTH ANABLEDD DYSGU SIR DDINBYCH Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i estyniad dros dro contractau a’r broses ar gyfer aildendro contractau mewn perthynas â Cynlluniau Byw â Chymorth Anableddau Dysgu Sir Ddinbych. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo rhoi estyniadau dros dro i 41 o gontractau Byw â Chymorth Anableddau dysgu am gyfnod hyd at 30 Medi 2026 fan bellaf. Roedd manylion y contract a’r amserlen ddiwygiedig arfaethedig ar gyfer ail-dendro’r contractau hyn ynghlwm yn atodiad 1 i’r adroddiad. |
|
CYLLIDEB 2023/24 – CYNIGION TERFYNOL Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) sy’n nodi goblygiadau Setliad Llywodraeth Leol 2023/24 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar gyfer 2023/24. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn - (a) nodi effaith Setliad Drafft
Llywodraeth Leol 2023/24; (b) cefnogi’r cynigion a
amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad, ac y manylir arnynt yn Adran 4 yr
adroddiad, a’u hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn llunio’r gyllideb yn derfynol
ar gyfer 2023/24; (c) argymell i’r Cyngor y
cynnydd cyfartalog arfaethedig o 3.8% yn Nhreth y Cyngor; (d) argymell i’r Cyngor fod
awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo mewn ymgynghoriad
â’r Aelod Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o arian sydd wedi’i gynnwys yng
nghynigion y gyllideb o hyd at £500mil os oes yna symud rhwng ffigyrau’r
setliad drafft a’r setliad terfynol er mwyn gallu gosod Treth y Cyngor yn
amserol, a (e) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 5 i’r adroddiad). |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn - (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd
ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb; a (b) cymeradwyo cynlluniau i wario grantiau cyfalaf (£1.107miliwn) i weithredu cynllun prydlesu digartrefedd i gyflawni eiddo sector rhentu preifat ychwanegol fel y nodir yn adran 6.9 yn yr adroddiad ac Atodiad 5 i’r adroddiad. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet. |