Agenda and decisions
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Win Mullen-James. |
|
Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2022 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. |
|
CYMERADWYO CAIS CRONFA CODI’R GWASTAD LLYWODRAETH Y DU – ETHOLAETH GORLLEWIN CLWYD Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf
Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi’n amgaeëdig) yn argymell bod y Cabinet
yn ailadrodd ei gefnogaeth i’r prosiectau arfaethedig a dirprwyo awdurdod i
swyddogion a enwir mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd i gytuno ar gais annibynnol
am etholaeth Gorllewin Clwyd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) ailadrodd ei gefnogaeth i'r prosiectau
arfaethedig a gefnogwyd yn flaenorol gan y Cabinet a gwerth dangosol bras pob
prosiect; (b) rhoi awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Prif
Weithredwr a Phennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad
mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151, Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau
Democrataidd a’r Arweinydd, i fireinio’r prosiectau a’r costau cysylltiedig yn
ôl yr angen a chytuno i gais annibynnol gan Gyngor Sir Ddinbych gael ei
gyflwyno ar gyfer Rownd 2 Cronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU ar gyfer
etholaeth Gorllewin Clwyd, a (c) chadarnhau bod y penderfyniad hwn yn
cael ei roi ar waith ar unwaith heb gael ei alw i mewn. |
|
CYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETH STRATEGOL YNG NGHYNGOR SIR DDINBYCH Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb
a Strategaeth Gorfforaethol (copi'n amgaeëdig) yn manylu ar y trefniadau mewnol
ar gyfer cefnogi'r agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet
i ffurfio Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a arweinir gan Aelodau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
nodi datblygiadau diweddar, ac yn cymeradwyo’r gwaith o ffurfio Grŵp
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth dan arweiniad Aelodau (i'w adolygu ar ôl 12 mis i
ystyried a oes angen i'r Grŵp ddod i ben, newid a/neu ddathlu
cyflawniadau). |
|
DYFODOL PARTNERIAETH ADEILADU GOGLEDD CYMRU - FFRAMWAITH PRIF GONTRACTWYR Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb
a Strategaeth Gorfforaethol (copi'n amgaeëdig) yn gofyn am gymeradwyaeth y
Cabinet i ymestyn Fframwaith bresennol Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru am
flwyddyn. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo’r gwaith o ymestyn y Fframwaith am flwyddyn, a fydd yn rhoi amser i
brosiectau barhau i gael eu gosod yn unol â'r rhaglen. Bydd hefyd yn caniatáu
amser i ddeddfwriaeth gaffael ddisgwyliedig Llywodraeth y DU a Chymru gael ei
rhyddhau a/neu ei hymgorffori yn y prosesau, i’w defnyddio wrth gaffael
Fframwaith newydd. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer
2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni; (b) nodi'r ddogfen ‘Crynodeb o'r Gyllideb’
sydd wedi'i chynnwys yn Atodiad 1 i’r adroddiad ac, fel yn y blynyddoedd
blaenorol, cytuno i'w chyhoeddi ar y rhyngrwyd, a (c) chymeradwyo’r gwaith o ddileu Ardrethi
Busnes na ellir eu hadennill, fel y nodir yn Adran 6.9 yr adroddiad. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet. |