Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Barry Mellor.

Cofnodion:

Y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant. 

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan cysylltiad sy'n rhagfarnu a phersonol mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w hystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Julie Matthews– Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Julie Matthews gysylltiad personol ag eitem 5 ar y rhaglen – Gosod Rhent Tai a Chyllidebau Refeniw a Chyfalaf 2023/24, oherwydd bod ganddi ffrindiau a theulu a oedd yn byw mewn tai cyngor.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni godwyd unrhyw faterion brys.

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 340 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2022 (copi’n amgaeedig). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2022.

 

Materion yn Codi – Tudalen 9, Eitem 6 Cytundeb Cyflawni’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd Diwygiedig – dywedodd y Cynghorydd Win Mullen-James fod y Cytundeb Cyflawni Diwygiedig bellach wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

GOSOD RHENT TAI A CHYLLIDEBAU REFENIW TAI A CHYFALAF 2023/24 pdf eicon PDF 238 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i godi rhent blynyddol tai cyngor Sir Ddinbych ac i gymeradwyo Cyllidebau Cyfalaf a Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/24 a’r Cynllun Busnes Stoc Dai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod –

 

(a)       Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/24 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad) yn cael ei fabwysiadu;

 

(b)      rhent anheddau'r Cyngor yn cael eu cynyddu’n unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhent Tai Cymdeithasol o 5% i’w weithredu o ddydd Llun 3 Ebrill 2023;

 

(c)      nodi’r adroddiad ychwanegol (Atodiad 3 i’r adroddiad) am Effeithiolrwydd Cost, Fforddiadwyedd a Gwerth am Arian, a

 

(d)      Y Cabinet yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gynnydd rhent blynyddol Tai Sir Ddinbych, Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/24 a'r Cynllun Busnes Stoc Dai.

 

Rhoddwyd rhywfaint o gefndir i’r adroddiad, gan gynnwys y cefndir economaidd gyda’r argyfwng costau byw a’r cynnydd o 10.1% mewn chwyddiant (CPI) a chynnydd o hyd at 30% ar gyfer costau rhaglen gyfalaf a chynnal a chadw. O ganlyniad, roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod uchafswm cynyddu rhent o 6.5% yng Nghymru (7% wedi’i osod gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr), ynghyd â chytuno ar rai diwygiadau ychwanegol â’r sector tai.   Cynigiwyd cynyddu rhenti wythnosol o 5%, gan arwain at rent wythnosol cyfartalog o £102.31 (cynnydd o £4.87 mewn rhent wythnosol). O gyflawni’r cynnig, cafwyd cydbwysedd rhwng cynnal a chadw a buddsoddi yn y stoc dai, a’r effaith ar denantiaid o ganlyniad i’r cynnydd.

 

Arweiniodd y Swyddog Arweiniol Tai Cymunedol y Cabinet trwy fanylion yr adroddiad ac effaith yr hinsawdd economaidd bresennol o ran buddsoddi yn y stoc dai i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru (gan gynnwys targedau amgylcheddol/effeithlonrwydd tanwydd) ac ariannu rhaglenni adeiladu newydd ynghyd â’r effaith ar denantiaid a chyllid aelwydydd. Fel rhan o’r broses o osod rhent, cynhaliwyd asesiad o effeithlonrwydd cost, gwerth am arian a fforddiadwyedd i denantiaid, ac roedd hyder bod gwaith wedi dangos bod rhenti’n fforddiadwy, gyda rhenti Sir Ddinbych ar yr ochr isaf o ran y rhent darged ac yn cael eu monitro’n barhaus.  

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys y canlyniad a ragwelir ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai 2022/23, yn unol â’r adroddiad monitro misol gyda’r balansau a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn o £2,157 miliwn. Eglurwyd hefyd effaith y cynnydd mewn rhent ar Gynllun Busnes y Stoc Dai, gyda phob 1% o gynnydd mewn rhent yn darparu £170,000 o incwm refeniw bob blwyddyn er mwyn caniatáu £3.5 miliwn o fenthyciad ar gyfer buddsoddiad dros gyfnod Cynllun Busnes y Stoc Dai. Byddai’r argymhelliad i gyflwyno cynnydd o 5% ac nid 6.5% yn costio tua £250,000 i’r Cyfrif Refeniw Tai bob blwyddyn o Gynllun Busnes y Stoc Dai.   Byddai cynnydd o 5% werth £850,000, gan arwain at fuddsoddiad o £8.5 miliwn dros ddeng mlynedd. Nodwyd bod 72% o denantiaethau yn derbyn budd-daliadau lles a chymorth costau tai gydag unrhyw gynnydd mewn rhent, a delir gan y cymorth hwnnw, a rhoddwyd sicrwydd ynghylch gwaith parhaus i gefnogi tenantiaid cymaint â phosibl.   Roedd ymrwymiad i beidio â throi neb allan oherwydd caledi ariannol a darparu cefnogaeth wedi’i thargedu i denantiaid.

 

Roedd y Cabinet yn cydnabod yr angen i gydbwyso lefel y cynnydd mewn rhent i gwrdd ag anghenion buddsoddi’r stoc dai yn y dyfodol yn erbyn fforddiadwyedd i denantiaid.   Dywedodd y Cynghorydd Julie Matthews, bod y Cabinet wedi gofyn am ragor o fanylion, nad oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad, o ran gwerthusiadau dewisiadau o gynnydd canrannol eraill at ddibenion cymharu, er mwyn gwerthuso’r effaith ar y gwahanol lefelau a gwneud penderfyniad gwybodus. Wrth drafod, roedd yn ymddangos y bu peth camddealltwriaeth ynghylch lledaenu’r data hwnnw a oedd ar gael yn rhwydd ac wedi’i ddosbarthu i aelodau ar gais, ac ymddiheurodd swyddogion nad oedd y Cynghorydd Matthews wedi derbyn y data modelu. Fe nodwyd yn yr adroddiad bod pob cynnydd o 1% mewn rhent yn cyfateb i £170,000 bob blwyddyn ar gyfer benthyciadau buddsoddi, gyda 3% o gynnydd yn effeithio’n sylweddol ar y rhaglen gyfalaf.

 

O ran cydbwyso’r effaith ar fuddsoddiad tai a fforddiadwyedd i denantiaid, ymatebodd y Swyddog Arweiniol Tai Cymunedol fel a ganlyn –

 

·         cynigiwyd y 5% arfaethedig yn dilyn modelu helaeth o wahanol ddewisiadau er  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Y BROSES GYFALAF A DYFODOL Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL pdf eicon PDF 231 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y broses cyfalaf newydd arfaethedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYDbod y Cabinet yn -

         

(a)      cymeradwyo’r broses cyfalaf newydd, a

 

(b)      Bod y Cabinet yn cefnogi Cylch Gorchwyl drafft y Grŵp Craffu Cyfalaf a fydd yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo yng nghyfarfod cyntaf o’r Grŵp.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad yn diweddaru’r Cabinet ynghylch proses gosod cyllideb cyfalaf newydd arfaethedig a newidiadau i’r Cylch Gorchwyl ac enw’r Grŵp Buddsoddi Strategol.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo y rhesymeg sy’n sail i’r adolygiad o’r broses gyfalaf, gan ystyried adborth gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac er mwyn sicrhau dull mwy strategol. Cafodd y cynigion eu trafod yn Sesiwn Friffio’r Cabinet, yr Uwch Dîm Arwain, a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a oedd wedi rhoi mewnbwn. Cafodd y Cabinet eu harwain trwy’r fersiwn ddrafft o’r broses gyfalaf, fel y’i nodir yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys Grŵp Caffael Cyfalaf newydd arfaethedig. Roedd yr egwyddorion arweiniol a oedd yn sail i’r adolygiad yn cynnwys yr angen am lywodraethu, craffu a thryloywder cryf a chydamseru prosesau.

 

Roedd prif bwyntiau’r cynnig yn cynnwys –

 

·         sefydlu Grŵp Craffu Cyfalaf sy’n cynnwys uwch swyddogion allweddol a chynrychiolwyr o’r Cabinet a Phwyllgorau Craffu i adolygu cynigion achos busnes ar gyfer buddsoddiad cyfalaf (ac eithrio cynlluniau llai na £0.250 miliwn a ariannwyd 100% gan gyllid grant allanol, i’w cymeradwyo ar lefel uwch swyddog)

·         ni fyddai’r Grŵp Craffu Cyfalaf yn gwneud penderfyniadau ffurfiol, ond byddai eu barn yn cael ei ystyried gan gyrff eraill sy’n gwneud penderfyniadau:  Y Cabinet i gymeradwyo cynlluniau cyfalaf, ond mae angen cymeradwyaeth y Cyngor llawn ar gyfer y Cynllun Cyfalaf blynyddol; y Tîm Gweithredol Corfforaethol i gymeradwyo cynlluniau llai na £1 miliwn os bydd y Grŵp Craffu Cyfalaf wedi cofnodi cymorth; y Cabinet i wneud y penderfyniad terfynol ar bob cynllun dros £1 miliwn; gallai cynlluniau llai na £1 miliwn na chefnogir gan y Grŵp Craffu Cyfalaf gael eu cyflwyno i’r Cabinet gan y Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer penderfyniad terfynol, os nad oes modd dod i gytundeb.

·         roedd angen gwaith pellach ar fanylion y ffurflenni cais cyfalaf a’r broses, gyda’r nod o gwblhau pob prosiect cyfalaf ar ffurflenni prosiect Verto, i gynnwys yr holl wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen ar gyfer gwneud penderfyniadau ar achosion busnes cyfalaf, byddai canllawiau gweithredol manwl yn cael eu llunio erbyn y Gwanwyn.

·         byddai’r Grŵp Craffu Cyfalaf a Bwrdd y Gyllideb yn cael eu cefnogi gan Wasanaethau Pwyllgorau o fis Ebrill a byddai’r broses a’r cylch gorchwyl yn destun adolygiad blynyddol.

 

Croesawodd y Cabinet yr ymgynghoriad ar y broses newydd arfaethedig, gan gynnwys craffu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar y dull hwnnw, ac roedd yn cefnogi’r broses newydd fel modd o gryfhau’r prosesau democrataidd a darparu mwy o dryloywder o ran y trefniadau craffu a gwneud penderfyniadau dan sylw.   Rhoddodd y Cynghorwyr Arwel Roberts a Gareth Sandilands, aelodau blaenorol o’r Grŵp Buddsoddi Strategol eu safbwynt ar y trefniadau blaenorol, a oedd yn ddefnyddiol i’r Cabinet, ac roeddent yn mynegi eu cefnogaeth ar gyfer y broses newydd arfaethedig a rhinweddau’r dull hwnnw. O ystyried y newidiadau sylweddol ar lefel y Cabinet ac uwch swyddogion ers etholiadau llywodraeth leol mis Mai, ystyriwyd ei bod hi’n amserol adolygu a gweithredu’r dull newydd.  Amlygwyd pwysigrwydd ymrwymiad y Cyngor llawn i’r broses, gyda phawb yn cydweithio er budd holl drigolion y sir. 

 

Mewn ymateb i’r cwestiynau, dywedodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo –

 

·         er y byddai’r newid arfaethedig i gynlluniau cyllid grant yn ystod y flwyddyn hyd at £0.250 miliwn i’w gymeradwyo ar lefel swyddog yn symleiddio’r broses honno, mai prif nod y broses newydd oedd darparu dull mwy strategol â mwy o dryloywder, gyda gwybodaeth ar gael yn rhwydd a hygyrch ar modern.gov, a sicrhau mwy o graffu ar gynlluniau a phenderfyniadau mwy a wneir.

·         roedd y Cyngor wedi cymeradwyo rhaglen foderneiddio ysgolion trwy’r Rhaglen Cymunedau  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 238 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYDbod y Cabinet yn -

 

(a)      nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; ac

 

(b)       cymeradwyo’r cynlluniau i wario grant cyfalaf (£1.203 miliwn) ar uwchraddio ceginau a chyfleusterau cinio Ysgolion er mwyn darparu ar gyfer y cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, y manylir arno yn adran 6.9 ac Atodiad 5 i’r adroddiad.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth a gytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Darparwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·         roedd y gyllideb refeniw net ar gyfer 2022/23 yn £233.693 miliwn (£216.818 miliwn yn 2021/22).

·         rhagwelwyd gorwariant o £2.189 miliwn yn y cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol (gorwariant o £5.535 miliwn fis diwethaf)

·         tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith ariannol Coronafeirws a chwyddiant.

·         arbedion gwasanaeth manwl a chynnydd mewn ffioedd a thaliadau (£0.754 miliwn); ni ofynnwyd am unrhyw arbedion gan y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol nac Ysgolion.

·         rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys, y Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawr.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet hefyd gymeradwyo cynlluniau i wario grant cyfalaf (£1.203 miliwn) i uwchraddio cyfleusterau cegin ac ystafell fwyta ysgolion er mwyn darparu ar gyfer y cynllun prydau ysgol am ddim cynradd cyffredinol.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo ar y camau a gymerwyd i leihau’r gorwariant a ragwelir o £5.535 miliwn o’r mis diwethaf i £2.189 miliwn a oedd yn cynnwys tanwariant mewn costau ariannu cyfalaf yn bennaf oherwydd oedi â phrosiectau; £400,000 o’r arian wrth gefn yn dilyn trosglwyddiadau ariannol terfynol ar y setliad cyflog; £230,000 yn deillio o’r arbedion dulliau newydd o weithio yn ymwneud â chostau teithio staff, a thua £1 miliwn mewn arbedion gwasanaeth o oedi wrth recriwtio a defnyddio cronfeydd wrth gefn. Ategwyd pwysigrwydd lleihau’r tanwariant, a fyddai’n caniatáu tua £2.7 miliwn o’r gronfa wrth gefn lliniaru cyllideb i helpu ariannu’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, er mwyn caniatáu amser i wneud yr addasiadau angenrheidiol i’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Er bod sefyllfa’r gyllideb wedi gwella’n sylweddol ers y mis blaenorol ac yn adlewyrchu’r sefyllfa hyd yma, efallai y nodir pwysau eraill yn y dyfodol, megis cynnal a chadw yn y gaeaf, o ystyried yr amodau oer presennol. Yn olaf, cyfeiriwyd at yr argymhelliad i gymeradwyo cynlluniau i wario grant cyfalaf i uwchraddio cyfleusterau ystafelloedd bwyta a cheginau ysgolion, a gefnogwyd gan Fwrdd y Gyllideb.

 

Ymhelaethodd y Cynghorydd Gill German ar gyflwyno’r cynllun prydau ysgol am ddim cyffredinol yn raddol fel rhan o’r cytundeb partneriaeth rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru ar lefel Llywodraeth Cymru, er budd pob plentyn ysgol gynradd. Cyfeiriodd at yr heriau o ran uwchraddio ceginau a chyfleusterau a diolchodd i’r Tîm Arlwyo a fu’n gweithio’n ddiflino i ddarparu’r cynllun, ac a fyddai o ganlyniad yn cael ei gyflwyno’n gynnar i holl ddisgyblion Blwyddyn 1 yn Sir Ddinbych o fis Ionawr 2023. Roedd y grant cyfalaf yn hanfodol o ran gweithredu’r cynnig pryd ysgol am ddim a sicrhau bod y seilwaith angenrheidiol yn ei le.

 

Adroddodd y Cynghorydd German hefyd am y digwyddiad Nadolig Gofalwyr Maeth diweddar a’r cynnig rhagorol ar gyfer maethu’r awdurdod lleol gan gynnwys y lefel o ofal a chymorth y naill a’r llall yn y gwasanaeth. Cydnabuwyd y pwysau cyllidebol yn y maes gwasanaeth hwnnw a rhoddwyd sicrwydd y byddai gwaith yn mynd rhagddo i fynd i’r afael â’r pwysau cyllidebol a hyrwyddo’r gwasanaeth maethu a’i fuddion ymhellach yn y flwyddyn newydd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a

 

(b)       chymeradwyo’r cynlluniau i wario grant cyfalaf (£1.203 miliwn) i uwchraddio cyfleusterau ystafell fwyta a cheginau ysgolion er mwyn darparu ar gyfer y cynllun Prydau Ysgol am Ddim Cynradd Cyffredinol fel y manylir yn adran 6.9 yn yr adroddiad ac  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 301 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sy’n amgaeedig a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

Cofnodion:

Cyflwynwyd rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet i’w hystyried, a nododd yr aelodau’r diwygiadau canlynol -

 

·         Ysgol Plas Brondyffryn (Achos Busnes Amlinellol) – wedi’i dynnu o raglen mis Ionawr

·         Ysgol Plas Brondyffyrn (Adolygu adroddiad gwrthwynebu) – wedi’i ychwanegu at raglen mis Chwefror

·         Strategaeth Ynni Gogledd Cymru – wedi’i ychwanegu at raglen mis Chwefror

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

9.

ARGYMELL Y GRŴP GOSOD FFI RANBARTHOL

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol (copi’n amgaeedig) sy’n gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i argymhellion Grŵp Ffioedd Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer 2023/24, ffioedd Cartref Preswyl a Gofal Nyrsio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn derbyn yr holl argymhellion o’r Grŵp Ffioedd fel y nodir o fewn yr adroddiad.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Elen Heaton adroddiad cyfrinachol i ofyn i’r Cabinet gymeradwyo argymhellion ffioedd Cartrefi Preswyl a Nyrsio, Grŵp Ffioedd Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer 2023/24.

 

Roedd Grŵp Ffioedd 2023/24 yn cynnwys cynrychiolwyr o chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a chrëwyd argymhelliad unigol ar gyfer ffioedd Cartrefi Preswyl a Nyrsio 2023/24 gan gynnwys:  Gofal Preswyl Cyffredin; Gofal Preswyl ar gyfer yr Henoed gyda Salwch Meddwl; Gofal Nyrsio, a Gofal Nyrsio ar gyfer yr Henoed gyda Salwch Meddwl.   Cyfeiriwyd at y fethodoleg a’r canllawiau a ddefnyddiwyd ynghyd â data perthnasol ac oriau gofal diwygiedig i gyfrif am gymhlethdod cynyddol yr angen er mwyn cyflawni argymhelliad. Cytunodd y Grŵp Ffioedd yn unfrydol â’r argymhellion yn yr adroddiad, ac roeddent o’r farn eu bod yn gyfraddau rhesymol ac yn amddiffyn pedwar categori Cartref Gofal. Cafodd tabl o gyfraddau ffioedd Cartrefi Gofal Sir Ddinbych ar gyfer 2022/23 a’r cynnydd canrannol ar gyfer 2023/24 hefyd ei gynnwys at ddibenion cymharu.   Darparwyd manylion ynghylch y cynnydd o ran y costau a ragwelir yng ngwariant Cartref Gofal Sir Ddinbych.

 

Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad a thrafod gwerth y cynnydd arfaethedig mewn ffioedd fel y nodir, gan gynnwys y rhesymeg sy’n sail i ganran yr enillion ar fuddsoddiad, er mwyn adlewyrchu’r dull rhanbarthol a’r effaith ddilynol ar faint yr elw, y dylid ei amlygu.   Mynegwyd peth pryder ynghylch y sylw negyddol yn y wasg gan ffynonellau nad ydynt yn adlewyrchu’r sefyllfa’n gywir o ran ffioedd cartrefi gofal a’r berthynas â darparwyr gofal. O ran ansawdd y gofal a ddarperir, rhoddwyd sicrwydd gan swyddogion ynglŷn â’r broses monitro contract a’r adolygiad rheolaidd o becynnau gofal er mwyn sicrhau safonau uchel.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn derbyn holl argymhellion y Grŵp Ffioedd, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.20pm.