Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Byddai’r Cynghorydd Emrys Wynne yn hwyr yn cyrraedd y cyfarfod. 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan cysylltiad sy'n rhagfarnu a phersonol mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w hystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 336 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2022 (copi ynghlwm). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2022.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

5.

CYNLLUN CLUDIANT CYNALIADWY DRAFFT pdf eicon PDF 236 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi ynghlwm) yn cyflwyno’r Cynllun Cludiant Cynaliadwy Drafft i gael barn y Cabinet cyn yr ymgysylltiad cyhoeddus fydd yn cael ei gynnal ar y Cynllun yn gynnar yn 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi cynnwys y Cynllun Cludiant Cynaliadwy Drafft, yn Atodiad A i’r adroddiad;

 

(b)       nodi, yn dilyn yr ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd, ac unrhyw ddiwygiadau o ganlyniad, y byddai fersiwn derfynol y Cynllun Cludiant Cynaliadwy yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i’w drafod ac i roi cymeradwyaeth derfynol yng nghanol 2023, a

 

(c) cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les (Atodiad B yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad yn ceisio barn y Cabinet ar y Cynllun Cludiant Cynaliadwy cyn yr ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd i ddod ar y Cynllun ar ddechrau 2023.  Byddai fersiwn terfynol o’r Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar gyfer cymeradwyaeth derfynol yng nghanol 2023. 

 

Darparwyd rhywfaint o gefndir i’r Cynllun a ddatblygwyd gan swyddogion o wahanol wasanaethau’r cyngor i adlewyrchu natur trawsbynciol cludiant.  Cyfeiriwyd at amcanion a dyletswyddau amgylcheddol y cyngor ac roedd y Cynllun yn cynnwys holl weithgareddau cysylltiedig â chludiant i annog teithio cynaliadwy, o’r Rhaglen Newid Hinsawdd ac Ecolegol a phrosiectau/polisïau eraill.    I alinio gyda Strategaeth Cludiant Cymru, “Llwybr Newydd”, roedd y Cynllun yn cynnwys gweledigaeth 20 mlynedd a blaenoriaethau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf a olynir gan set arall o flaenoriaethau ar gyfer y 5 mlynedd yn dilyn hynny.  Pwysleisiwyd nad oedd camau o fewn y Cynllun yn angenrheidiol yn newydd, gyda llawer o waith yn cael ei wneud dros nifer o flynyddoedd.    Roedd y gweithgareddau hynny wedi eu cynnwys mewn un ddogfen hygyrch ar gyfer eglurder a byddent hefyd yn helpu i nodi unrhyw fylchau posibl. 

 

Roedd y Cabinet yn croesawu’r Cynllun drafft ac ymarfer ymgysylltu dilynol i roi cyfle i rhanddeiliaid a’r cyhoedd ddarparu mewnbwn i’r broses.    Derbyniwyd e-bost gan y Cynghorydd Jon Harland yn awgrymu mân adolygiadau i’r Cynllun, gan gynnwys y cwmpas i edrych eto ar ‘Fysiau Cerdded’ i gynnwys ‘Bysiau Beicio’ hefyd i annog mwy o ddysgwyr i gerdded a beicio i’r ysgol, a darparu llwybrau diogel i ysgolion i hwyluso teithio llesol.  Amlygodd y Cynghorydd Gill Greenland waith ar y gweill ar hyn o bryd gydag ysgolion gan gynnwys hyfedredd beicio a chysylltiadau i draffig/parcio a gwneud ysgolion yn fannau diogel, a byddai hefyd yn codi’r materion hynny fel yr aelod arweiniol perthnasol.    Roedd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd yn cadarnhau y gellir bwrw ymlaen a chynnwys bysiau beicio fel rhan o waith dichonoldeb ac yn cydnabod pwysigrwydd llwybrau diogel i’r ysgol i annog teithio mwy gwyrdd.  Roedd yna rywfaint o ddadl ar deilyngdod ‘Bysiau Cerdded’ a phwysigrwydd prynu i mewn gan rieni a’r sawl yn hwyluso’r cynllun iddo fod yn llwyddiannus.   Roedd y Cynghorydd Julie Matthews wedi amlygu materion a godwyd gan rai preswylwyr heb unrhyw le parcio oddi ar y stryd ar gael i wefru cerbyd ac roedd yn falch i nodi cyfeiriad yn y Cynllun i ddatblygu’r ddarpariaeth.

 

Roedd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd yn ymateb i gwestiynau pellach ynglŷn â phwysigrwydd y Cynllun i hybu twf economaidd a chadarnhawyd y byddai’r Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a Ffederasiwn Busnesau Bach yn cael ei gynnwys yn rhan ymgysylltu â rhanddeiliaid o’r Cynllun.    O ran cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer terfyn cyflymder 20mya, roedd y nod yn cynnwys diogelwch ffyrdd ac annog dewisiadau teithio llesol.  Byddai adroddiad ar y terfyn cyflymder 20mya yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 8 Rhagfyr 2022. 

 

Ategodd yr Arweinydd bod y Cynllun mewn ffurf drafft ar hyn o bryd ac yn annog cyfranogiad llawn yn y broses ymgysylltu cyn i Gynllun terfynol gael ei gymeradwyo ganol 2023.    Roedd yn falch o nodi y byddai pwyntiau’r Cynghorydd Harland yn cael eu symud ymlaen.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi cynnwys y Cynllun Cludiant Cynaliadwy Drafft, yn Atodiad A i’r adroddiad;

 

(b)       nodi, yn dilyn yr ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd, ac unrhyw ddiwygiadau o ganlyniad, y byddai fersiwn derfynol y Cynllun Cludiant Cynaliadwy yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i’w drafod ac i roi cymeradwyaeth derfynol yng nghanol 2023, a

 

(c) cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CYTUNDEB CYFLAWNI DIWYGIEDIG Y CYNLLUN DATBLYGU LLEOL NEWYDD pdf eicon PDF 227 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Win Mullen-James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio (copi ynghlwm) yn ceisio cefnogaeth y Cabinet ar y Cytundeb Cyflawni diwygiedig i fynd gerbron y Cyngor i’w gymeradwyo a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

           

(a)       cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les, fel y manylir yn yr atodiad i’r adroddiad, fel rhan o'i ystyriaethau, a

 

(b) argymell y Cytundeb Cyflawni Diwygiedig i fynd ymlaen i’r Cyngor i’w gymeradwyo a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Win Mullen-James yr adroddiad yn ceisio cefnogaeth y Cabinet i Gytundeb Cyflawni diwygiedig i ddisodli’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) 2018 - 2033 i fynd gerbron y Cyngor i’w gymeradwyo a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Mae’r Cytundeb Cyflawni yn nodi’r amserlen i symud ymlaen i fabwysiadu’r CDLl newydd ac yn amlinellu pwy, sut a phryd fydd y Cyngor yn ymgynghori ar y camau amrywiol. Cafodd y Cytundeb Cyflawni presennol ei gymeradwyo ym Mai 2018. Mae angen Cytundeb Cyflawni diwygiedig yn sgil yr oedi yn yr amserlen gytunedig a ddaeth yn sgil pandemig Covid-19, oedi mewn cyhoeddi’r canllawiau a pholisi perygl llifogydd ac etholiadau lleol.  Nid oedd yn bosibl darparu camau ymgynghori ffurfiol pellach nes oedd y Cytundeb Cyflawni diwygiedig wedi’i gymeradwyo.    Cafodd y Cytundeb Cyflawni diwygiedig ei ystyried gan y Grŵp Cynllunio Strategol yn Hydref 2022, lle argymhellwyd iddo fynd i’r Cabinet a’r Cyngor ar gyfer cymeradwyaeth.

 

Roedd y Cabinet wedi ystyried yr adroddiad ac er yn derbyn bod yr oedi yn yr amserlen flaenorol oherwydd rhesymau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, roedd yn awyddus i’r gwaith gael ei ddatblygu gynted â phosibl.  Gofynnwyd cwestiynau am y dull a gymerwyd, ac oherwydd yr amgylchiadau a oedd unrhyw gwmpas i newid y dyddiad dechrau 2018 o ystyried y byddai’r Cynllun yn cael ei fabwysiadu rhai blynyddoedd ar ôl y dyddiad hwnnw, a pha un a all y CDLl fod yn ddogfen barhaus wedi’i hadolygu’n achlysurol yn hytrach na chael dyddiad dechrau a dyddiad terfyn.   Roedd effaith yr oedi ar elfennau o’r CDLl presennol yr oedd aelodau yn dymuno eu herio hefyd yn bryder. 

 

Ymatebodd yr Uwch Swyddog Cynllunio i gwestiynau a sylwadau fel a ganlyn –

 

·         nodwyd bod awdurdodau lleol eraill hefyd wedi profi oedi oherwydd materion tebyg, gan gynnwys effaith y targedau ffosffad newydd ar ddatblygiad, ac roedd yna hyder y byddai’r Cytundeb Cyflawni diwygiedig yn datblygu’r CDLl i’w fabwysiadu.

·         byddai’r CDLl newydd yn cynnwys y cyfnod 2018 - 2033 ac er y gwerthfawrogir y byddai rhan o’r Cynllun yn y gorffennol, roedd yn arferol i CDLlau o ystyried y broses gylchol.   Oherwydd yr oedi, byddai’r broses yn debyg o gymryd dwy flynedd yn fwy na’r hyn a drefnwyd yn wreiddiol.

·         roedd y Cytundeb Cyflawni diwygiedig yn cynnwys amserlen dynn ac uchelgeisiol ond roedd yna hyder y byddai’n cael ei fodloni gyda’r bwriad i fabwysiadu’r CDLl newydd yn 2025 gyda digon o amser yn weddill yn y Cynllun ar gyfer ei weithredu a chyflawni ei nod ac amcanion.   Roedd y Cytundeb Cyflawni diwygiedig angen cymeradwyaeth y Cyngor cyn cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer eu cytundeb.

·         os byddai dyddiad dechrau’r Cynllun yn cael ei symud nawr, byddai angen ailddechrau’r broses gyfan (oherwydd bod y sail tystiolaeth wedi’i gasglu ar gyfer 2018 - 2033) fyddai’n ychwanegu blynyddoedd ychwanegol i’r broses mabwysiadu Cynllun newydd.

·         rhoddwyd rhagor o wybodaeth ar y broses gylchol o fabwysiadu’r CDLl, fel arfer cyn i’r Cynllun presennol ddod i ben, o ddechrau’r adolygiad mwyafswm o 4 blynedd o’i fabwysiadu. 

·         Byddai’r CDLl yn parhau mewn grym (yn dibynnu ar fabwysiadu CDLl newydd) a oedd ar hyn o bryd y tu hwnt i’w ddyddiad terfyn ac roedd yna hyder bod y CDLl presennol yn parhau’n berthnasol ac yn addas i’r diben wrth ystyried ceisiadau cynllunio.

·         roedd yna feysydd polisi newydd i’w cynnwys yn y CDLl newydd, fel newid hinsawdd a ble roedd yna newidiadau i bolisi cenedlaethol (oedd yn anghydwedd â pholisi lleol) byddent yn cael blaenoriaeth.

·         wrth ystyried ceisiadau cynllunio, mae’n bosibl y bydd yna ystyriaethau materol perthnasol eraill ac roedd yn iawn bod aelodau yn herio elfennau o fewn y CDLl.  Roedd safleoedd  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

DEDDF RHENTU CARTREFI (CYMRU) 2016 A DEFNYDDIO TENANTIAETH RAGARWEINIOL pdf eicon PDF 221 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i roi’r gorau i ddefnyddio Tenantiaeth Ragarweiniol i denantiaid newydd y cyngor a rhoi gwybod i’r Cabinet am y cytundeb tenantiaeth newydd i denantiaid y cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cytuno i beidio â defnyddio Tenantiaeth Ragarweiniol mwyach i denantiaid newydd y cyngor, a

 

(b)       Bod y Contract Meddiannaeth newydd ar gyfer holl denantiaid y cyngor, a chrynodeb o’r prif newidiadau a gyflwynir gan y ddeddfwriaeth newydd yn cael eu nodi.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i roi’r gorau i ddefnyddio Tenantiaeth Ragarweiniol i denantiaid newydd y cyngor a hysbysu’r Cabinet am gytundeb tenantiaeth newydd ar gyfer tenantiaid y Cyngor.

 

Bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2022, a bydd yn cyflwyno cyfraith tenantiaeth newydd ar gyfer pob tenant yng Nghymru.  Roedd y fframwaith deddfwriaethol newydd yn rhoi cyfle i adolygu polisi Tenantiaeth Ragarweiniol y Cyngor a ystyriwyd yn “llym” ac yn groes i’r dull modern presennol i reoli a chefnogi tenantiaethau newydd gydag ystod o ddatrysiadau eraill.    Roedd y mwyafrif o gynghorau a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn cymryd yr un camau.    Roedd y ddeddf newydd hefyd yn golygu disodli’r Denantiaeth Ddiogel bresennol gyda Chontract Meddiannaeth Ddiogel ac roedd gwaith wedi’i wneud i sicrhau bod y denantiaeth bresennol yn newid yn gywir i’r contract newydd.    Darparwyd manylion y cytundeb tenantiaeth newydd gan gynnwys cyfeirio at drosglwyddo tenantiaeth, hawl olyniaeth a safon Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw ynddi. 

 

Roedd y Pennaeth Cymunedau a Gwasanaeth i Gwsmeriaid yn pwysleisio pwysigrwydd deddfwriaeth newydd a gwaith sylweddol a wnaed gan y Tîm Tai Cymunedol.    Y Swyddog Arweiniol - roedd Tai Cymunedol wedi amlinellu’r prif elfennau o’r ddeddfwriaeth newydd a gweinyddu tenantiaethau a rhoi sicrwydd nad oedd tenantiaid wedi colli unrhyw ddiogelwch mewn cyfraith.   Argymhellwyd nad yw Tenantiaethau Rhagarweiniol yn cael eu defnyddio mwyach oherwydd newid hinsawdd a chefnogaeth ddwys i denantiaid newydd.    Cyfeiriwyd hefyd at y safon Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw ynddi o ystyried achos erchyll marwolaeth plentyn yn Rochdale ar ôl llwydni yn ei gartref a rhoi sicrwydd am addasrwydd cartrefi’r cyngor.

 

Roedd y Cabinet yn cefnogi newid dull i denantiaid newydd ac yn ceisio mwy o wybodaeth yn y cyswllt hwnnw ynghyd â gwaith i gadw cartrefi mewn cyflwr da.    Cadarnhaodd swyddogion bod y mwyafrif o awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig o’r un farn o ran tenantiaethau rhagarweiniol gydag ymrwymiad tebyg i beidio troi aelwydydd allan, yn arbennig i ddigartrefedd, ble bynnag bo’n bosibl.    Roedd gwaith i gefnogi tenantiaid drwy ddeuddeg mis cyntaf y denantiaeth yn seiliedig ar asesiad o anghenion trwyadl o’r aelwyd, rhannu gwybodaeth, ymweliadau rheolaidd gan Swyddogion Tai ac atgyfeiriadau fel bo’n briodol i’r sawl sydd angen cefnogaeth ychwanegol.    Hysbyswyd y Cabinet am waith ar y gweill i gynnal safonau ansawdd mewn cartrefi, gan gynnwys materion sy’n ymwneud ag anwedd, gyda briffiadau staff a gwybodaeth i denantiaid.    Rhoddwyd sicrwydd, yn groes i arfer cyffredin yn Lloegr i atal gwaith atgyweirio unwaith y cofnodwyd hawliad atgyweirio, roedd Sir Ddinbych yn parhau i weithio gyda thenantiaid i wneud unrhyw waith atgyweirio sy’n weddill. 

 

Roedd yr Arweinydd yn diolch i’r swyddogion am y sicrwydd a roddwyd a gwaith a wnaed i gefnogi tenantiaid a’u helpu i wneud dewisiadau hysbys i reoli eu cartrefi orau. 

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cytuno i beidio â defnyddio Tenantiaeth Ragarweiniol mwyach i denantiaid newydd y cyngor, a

 

(b)       Bod y Contract Meddiannaeth newydd ar gyfer holl denantiaid y cyngor, a chrynodeb o’r prif newidiadau a gyflwynir gan y ddeddfwriaeth newydd yn cael eu nodi.

 

8.

POLISI GOSOD TAI NEWYDD YN LLWYN EIRIN, DINBYCH pdf eicon PDF 213 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet at gyfer Polisi Gosod Lleol i ddyrannu cartrefi yn Llwyn Eirin, Dinbych.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Polisi Gosod Tai Lleol ar gyfer dyrannu tai yn Llwyn Eirin, Dinbych (wedi ei atodi fel Atodiad 1 i’r adroddiad). 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth gan y Cabinet am Bolisi Gosod Lleol i ddyrannu’r 22 o dai newydd yn Llwyn Eirin, Dinbych. 

 

Roedd dyrannu tai ar gyfer rhentu cymdeithasol yn derbyn sylw drwy’r Polisi Dyrannu a gymeradwywyd gan y Cyngor yn 2017 ac yn sicrhau cydymffurfiaeth gyda deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau gweinyddu cofrestr dai a dyrannu tai.    Oherwydd y nifer fawr o dai newydd yn Llwyn Eirin byddai angen dull newydd i sicrhau’r gymysgedd gywir o aelwydydd i ffurfio cymuned newydd wydn tra’n bodloni’r angen lleol am dai.    Mae’r Polisi Gosod Tai Lleol ynghlwm yn nodi sut y byddwn yn targedu aelwydydd presennol yn Ninbych, o fewn categorïau a ffefrir rhesymol, i greu cymysgedd o aelwydydd Band 1 (Angen Brys) a Band 2 (Angen Tŷ) a hybu cymuned gynaliadwy o aelwydydd gyda chysylltiadau â’r ardal.

 

Roedd y Cabinet wedi amlygu tai fel prif flaenoriaeth ac roedd yn croesawu datblygiad newydd tai cyngor i fynd i’r afael â’r angen am dai a adeiladwyd i safon passivhaus.   Roedd yr angen i greu cymuned gynaliadwy drwy’r polisi gosod lleol wedi’i dderbyn ac roedd y Cabinet yn falch i nodi blaenoriaeth ar gyfer y ddwy ward yn Ninbych ac y byddai preswylwyr Dinbych ym Mand 1 yn cael eu cartrefu.    Byddai’r dull hefyd yn creu mwy o symud yn y farchnad dai gyfan.    Cadarnhawyd unwaith yr oedd y 22 cartref wedi eu gosod, byddai gosodiadau yn y dyfodol yn cael eu gosod yn unigol yn unol â phrif bolisi dyrannu.    Cadarnhaodd swyddogion mai’r bwriad oedd ystyried teilyngdod polisi gosodiadau lleol ar gyfer cynlluniau tai newydd yn y dyfodol o dros 10 cartref er mwyn creu cymunedau cynaliadwy a byddai’r Cabinet hefyd yn cyfrannu fel rhan o’r broses honno.   O ran darparu cefnogaeth ar gyfer y datblygiad newydd, byddai Swyddogion Tai yn gweithio’n unigol gyda thenantiaid a byddai’r Tîm Gwydnwch Cymunedol yn ymgysylltu  a’r tenantiaid newydd i helpu i ddatblygu cymuned gynaliadwy a sicrhau llwyddiant wrth symud ymlaen.  Cadarnhawyd bod Deddf Tai 1996 yn caniatau i awdurdodau lleol greu polisi gosod lleol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Polisi Gosod Tai Lleol ar gyfer dyrannu tai yn Llwyn Eirin, Dinbych (wedi ei atodi fel Atodiad 1 i’r adroddiad). 

 

Ar y pwynt hwn (11.25 am) cymerodd y pwyllgor egwyl am luniaeth.

 

9.

DIWEDDARIAD HUNANASESIAD PERFFORMIAD, CHWARTER 2, 2022 I 2023 pdf eicon PDF 215 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ar berfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau ar ddiwedd chwarter 2, 2022 i 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi perfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau ar ddiwedd chwarter 2 2022/23 a chadarnhau cynnwys yr adroddiad drafft.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad ynghylch perfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau ar ddiwedd chwarter 2, 2022 i 2023, gan gynnwys amcanion y Cynllun Corfforaethol a Chydraddoldeb Strategol, a’r saith maes llywodraethu allweddol.

 

Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno mewn dwy ran yn amlinellu cynnydd yn erbyn Amcanion Perfformiad a Meysydd Llywodraethu, ac roedd yn casglu’r dystiolaeth oedd yn ffurfio rhan o Hunanasesiad o berfformiad yn erbyn swyddogaethau fel bo’r angen o dan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o ddiweddariadau prosiect a data, ynghyd â thablau data sy’n rhoi amlinelliad llawn o’n sefyllfa bresennol.  Cyflwynwyd gweithgareddau diweddar y cyngor hefyd sy’n dangos ein bod yn cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y Ddeddf Cydraddoldeb a’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol.

 

Eglurodd y Pennaeth Interim Busnes Gwella a Moderneiddio bod yr adroddiad yr olaf yn seiliedig ar y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2017 i 2022, y Cynllun Corfforaethol newydd a gymeradwywyd yn Hydref 2022.    Arweiniodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad y Cabinet drwy bob un o’r pump maes blaenoriaeth, yn amlygu prif negeseuon a mesurau perfformiad yn y cyswllt hwnnw.    Tynnwyd sylw hefyd at y deilliannau iechyd corfforaethol, yn arbennig meysydd pryder yn ymwneud â Chyllid; Gallu Staff o fewn Archwilio Mewnol; Cofrestr Risg Gorfforaethol a Recriwtio/Cadw Staff.    Fodd bynnag, roedd yr adroddiad hefyd yn dangos cynhyrchedd a chynnydd anhygoel a wnaed ar draws y cyngor cyfan.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         roedd aelodau yn amlygu’r swyddogaeth hanfodol a wnaed gan Archwilio Mewnol a thrafodwyd y nifer o swyddi gwag yn y Tîm Archwilio Mewnol a’u gallu i ddarparu’r sicrwydd perthnasol oedd yn ofynnol.   Dywedodd Swyddogion y byddai rhywfaint o waith archwilio mewnol yn debyg o gael ei gomisiynu i sicrhau bod hanfodion y cynllun archwilio wedi eu cwblhau ac ymgymerwyd ag ymarfer recriwtio i sicrhau digon o gapasiti wrth symud ymlaen.  Rhoddwyd sicrwydd y byddai’r mater yn parhau i gael ei fonitro drwy adroddiadau perfformiad chwarterol.   Cytunwyd i hysbysu’r Cabinet a Briffio’r Cabinet am gynnydd 

·         anawsterau recriwtio staff a nifer o swyddi gwag ar draws y cyngor yn cael ei gydnabod gyda marchnad lafur anodd, ac nid oedd y broblem yn unigryw yn Sir Ddinbych.    Mewn ymateb, roedd y cyngor yn adolygu pob agwedd o’i broses recriwtio i’w gwneud mor hawdd â phosibl i bobl ymgysylltu a sicrhau bod y cyngor yn gyflogwr deniadol.

·         roedd rhai o’r mesurau yn y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru wedi eu cyhoeddi’n achlysurol ac felly roedd yn anodd asesu’r sefyllfa bresennol a chynnydd y dyfodol yn gywir.    Roedd y mater hwnnw yn cael ei drafod yn genedlaethol o ran sut y gellir cael mynediad i fwy o ddata presennol i fonitro’r sefyllfa.    O waith diweddar a wnaed fel rhan o’r Asesiad o Les, a phwysau a wynebir gan gymunedau fel Covid-19 a’r argyfwng costau byw, rhagwelir y byddai yna fwy o bwysau o ran amddifadedd oedd yn debyg o fod wedi ehangu.    O ystyried thema Sir Ddinbych mwy teg a chyfartal, roedd fframwaith yn cael ei ddatblygu i fonitro amddifadedd a pherfformiad yn agos mewn cymunedau o ran incwm a chyflogaeth ac ati.    Roedd yr Arweinydd yn amlygu pwysigrwydd data perthnasol i gymell polisi a nodi’r angen a chyfeiriwyd at waith Data Cymru y byddai’n adrodd yn ôl arno. 

·         roedd statws canran band eang cyflym iawn yn Sir Ddinbych wedi’i amlygu fel blaenoriaeth ar gyfer gwella a chyfeiriodd y Cynghorydd Emrys Wynne at ddod a’r prosiect i ben yn Llanfwrog a’r effaith ar gymunedau.   Derbyniwyd bod cysylltedd yn fater cymhleth, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig, ac roedd y tu allan i  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 238 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllido y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn -

 

·         y gyllideb refeniw net ar gyfer 2022/23 oedd £233.693 miliwn (£216.818 miliwn yn 2021/22)

·         gorwariant o £5.535 miliwn wedi’i ragweld ar gyfer gwasanaeth a chyllidebau corfforaethol (£2.661miliwn o orwariant y mis diwethaf) oherwydd pwysau ychwanegol o fewn Gofal Cymdeithasol (Oedolion a Phlant), y Gwasanaeth Digartrefedd a Chludiant Ysgol. 

·         tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith y coronafeirws a chwyddiant.

·         manylion am arbedion gwasanaethau a chynnydd mewn ffioedd a thaliadau (£0.754 miliwn); ni ofynnwyd am arbedion gan Wasanaethau Cymorth Cymunedol nac Ysgolion

·         rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a chafwyd diweddariad ar brosiectau mawr.

 

Roedd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo wedi amlygu’r cynnydd sylweddol mewn gorwariant ers y mis blaenorol.    Er bod yna ddigon o arian wrth gefn ar gyfer y lefel o orwariant, os byddai angen yr holl arian wrth gefn oedd ar gael ar gyfer gorwariant yn ystod y flwyddyn, byddai’n cyfyngu unrhyw gymorth yn y broses gyllideb anodd ar gyfer 2023/24 a 2024/25.   Byddai gwasanaethau yn adolygu incwm a gwariant gyda’r bwriad i leihau’r gorwariant.   Roedd modd arall o ddelio â’r gorwariant yn cynnwys defnyddio’r gronfa wrth gefn lliniaru’r gyllideb ac arian wrth gefn cyffredinol ynghyd ag oedi posibl wrth recriwtio ble bo’n briodol.     Polisi presennol y cyngor oedd cynnal lefel yr arian wrth gefn £5miliwn ac felly byddai unrhyw ostyngiad o £5miliwn angen newid polisi.    Nodwyd bod y colofnau amrywiad gwasanaeth yn Atodiad 2 wedi eu gosod yn y drefn anghywir ond roedd y ffigyrau a’r naratif yn gywir. 

 

Roedd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yn talu teyrnged i waith caled y Pennaeth Cyllid ac Eiddo a’i dîm ar y gyllideb bresennol a gorwariant ac mewn gosod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, yn arbennig o ystyried y lefel bresennol o ansicrwydd.    Roedd yr Arweinydd yn adleisio’r teimladau hynny a’i werthfawrogiad o’r holl waith caled. 

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllido y cytunwyd arni.

 

11.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 277 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau canlynol -

 

·         Ffioedd Cartrefi Gofal yn Sir Ddinbych blwyddyn ariannol 2023/24 - Rhagfyr

·         Cynlluniau Byw â Chymorth Anabledd Dysgu Sir Ddinbych - Ionawr

·         Y Gronfa Ffyniant Gyffredin - Ionawr i Fehefin

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

12.

CYNLLUNIAU AMDDIFFYN YR ARFORDIR CANOL Y RHYL A CHANOL PRESTATYN - PAPUR DILYNOL pdf eicon PDF 225 KB

Ystyried adroddiad diweddaru (sy’n cynnwys dau atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant ynghylch dau gynllun amddiffyn yr arfordir posib ar gyfer Canol y Rhyl a Chanol Prestatyn a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r prosiect i’r Cyngor gydag argymhelliad i ariannu cyfnod adeiladu’r ddau gynllun.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cadarnhau ei fod wedi ystyried cynnwys yr Asesiadau o Effaith ar Les ar gyfer pob cynllun (sydd wedi’u hatodi fel Atodiad 3a ac Atodiad 3b yn yr adroddiad);

 

(b)       cefnogi’r cynnig i symud cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl yn ei flaen i’r cam adeiladu, gan ddefnyddio’r model cyllid cymorth grant a nodir gan Lywodraeth Cymru ac yn cytuno i’r cynnig gael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer penderfyniad;

 

(c)        cefnogi’r cynnig i symud cynllun Amddiffyn Arfordir Canol Prestatyn yn ei flaen i’r cam adeiladu, gan ddefnyddio’r model cyllid cymorth grant a nodir gan Lywodraeth Cymru ac yn cytuno i’r cynnig gael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer penderfyniad, ac

 

(d)       dirprwyo awdurdod i Fwrdd Prosiect Amddiffyn yr Arfordir gyflawni’r cynlluniau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am ddau gynllun amddiffynfeydd arfordirol posibl ar gyfer Canol y Rhyl a Chanol Prestatyn a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r prosiect i’r Cyngor gydag argymhelliad i ariannu cam adeiladu’r ddau gynllun.

 

Roedd y Cabinet wedi ystyried adroddiad tebyg yn eu cyfarfod diwethaf ac wedi cefnogi cynigion i ddatblygu’r ddau gynllun a’u cyflwyno i’r Cyngor ar gyfer penderfyniad.    Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Economi a’r Amgylchedd yn egluro wrth gwblhau’r achos busnes llawn, canfuwyd bod costau prosiect anghywir ar gyfer Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl wedi’i gynnwys yn adroddiad y Cabinet, gyda ffigwr o £58miliwn wedi’i ddefnyddio yn lle £66miliwn, ac roedd yn ymddiheuro am y gwall.    Nodwyd nad oedd y Cabinet wedi gwneud penderfyniad cyllid yn eu cyfarfod diwethaf, ond roedd yn briodol adrodd ar y sefyllfa ariannol gywir yn ôl i’r Cabinet o ystyried y lefel gynyddol o ymrwymiad ariannol a nodwyd.    Tynnwyd sylw’r Cabinet at y ffaith bod y ddau gynllun yn dal i haeddu cefnogaeth y cyngor er mwyn diogelu tref y Rhyl a Phrestatyn rhag y risg o lifogydd.  Byddai 85% o gyfanswm cost y cynlluniau yn parhau i gael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac er bod gwaith yn parhau i werthuso dewisiadau i leihau’r costau, roedd y dybiaeth bresennol yn seiliedig ar fwyafswm cost cyfunol y ddau gynllun sef £92miliwn.

 

Roedd y Cabinet wedi ystyried rhinweddau’r ddau gynllun yn eu cyfarfod diwethaf a phwysigrwydd diogelu tref y Rhyl a Phrestatyn rhag y perygl o lifogydd a’r trychineb a achoswyd gan ddigwyddiadau llifogydd.   Nodwyd bod y ddau gynllun wedi eu prisio’n llawn a’r gwall yn ymwneud â ffigwr anghywir wedi’i gynnwys yn adroddiad y Cabinet a nodwyd yn ystod gwiriadau a balansau dilynol.    Ar ôl ystyried y diweddariad a chost y prosiect wedi’i gywiro ar gyfer Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl, roedd y Cabinet yn parhau o’r farn bod y ddau gynllun yn hanfodol ar gyfer diogelwch a chynaliadwyedd y trefi hynny i breswylwyr, busnesau a thwristiaeth a’i fod yn anochel bod y trefi hynny yn cael eu diogelu. 

 

Roedd y Cynghorydd Gareth Sandilands yn cefnogi’r prosiect ond gofynnodd am sicrwydd o ran sefydlogrwydd ariannol i’r cynlluniau wrth symud ymlaen.   Roedd yr Aelod Arweiniol a swyddogion yn amlygu llwyddiant Cynllun Amddiffyn yr Arfordir Dwyrain y Rhyl a gwblhawyd o fewn cyllideb ac o flaen yr amserlen.  Byddai dull tebyg yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynlluniau Canol y Rhyl a Phrestatyn gyda phob agwedd o gostau yn cael eu monitro’n barhaus gan y contractwyr a’r cyngor.    Roedd pob risg wedi eu prisio a’u cynnwys yn y gyllideb ond y rhagdybiaeth oedd na fyddai pob risg yn dwyn ffrwyth ac roedd costau chwyddiant hefyd wedi eu cynnwys yn y gyllideb na fydd ei angen o bosibl.   O ganlyniad, roedd yna hyder yn narpariaeth y gyllideb ar gyfer y ddau gynllun a gellir derbyn sicrwydd o ran eu cyflawni.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cadarnhau ei fod wedi ystyried cynnwys yr Asesiadau o Effaith ar Les ar gyfer pob cynllun (sydd wedi’u hatodi fel Atodiad 3a ac Atodiad 3b yn yr adroddiad);

 

(b)       cefnogi’r cynnig i symud cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl yn ei flaen i’r cam adeiladu, gan ddefnyddio’r model cyllid cymorth grant a nodir gan Lywodraeth Cymru ac yn cytuno i’r cynnig gael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer penderfyniad;

 

(c)        cefnogi’r cynnig i symud cynllun Amddiffyn Arfordir Canol Prestatyn yn ei flaen i’r cam adeiladu, gan ddefnyddio’r model cyllid cymorth grant a nodir gan Lywodraeth Cymru ac yn cytuno i’r cynnig gael ei gyflwyno  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

Dogfennau ychwanegol:

13.

PROSIECT CEFNOGI LLETY BRYS DROS DRO (ATAL DIGARTREFEDD)

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynghlwm) yn cynnwys canlyniad yr ymarfer tendro ar gyfer y Prosiect Cefnogi Llety Brys Dros Dro newydd a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu’r contract i’r darparwr gwasanaeth penodol a argymhellir yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cydnabod fod ymarfer tendr teg a chadarn wedi ei gwblhau yn unol â Rheolau Gweithdrefn Contractau Sir Ddinbych, a oedd wedi adnabod ‘enillydd’ clir, a oedd wedi gosod rhaglen sydd wedi bodloni nodau a dyheadau manylion y prosiect a nodwyd yng nghais y tendr.

 

(b)       cytuno i ddyfarnu’r contract i’r darparwr gwasanaeth a enwyd a argymhellwyd fel nodir yn yr adroddiad yn seiliedig ar eu cynigion tendr ar y lefel ffi a gynigiwyd, yn unol â’r adroddiad dyfarnu (wedi ei atodi fel Atodiad 4 i’r adroddiad) a

 

(c)       cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les ar gyfer Cynllun Cyflawni’r Grant Cymorth Tai 2022-25 (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas adroddiad cyfrinachol yn manylu canlyniad yr ymarfer tendro ar gyfer y Prosiect Cefnogi Llety Brys Dros Dro newydd a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu’r contract i’r darparwr gwasanaeth penodol fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Roedd y Cabinet wedi cymeradwyo dechrau’r broses gaffael yn flaenorol fel y nodwyd yn y Ffurflen Gomisiynu yn Gorffennaf 2022.    Nod y prosiect oedd datblygu cynnig llety brys dros Dro Sir Ddinbych i gynnig profiad gwell ble cefnogwyd pobl i wella eu lles a datblygu eu dyfodol.    Trefnwyd i’r prosiect ddechrau yn Ionawr 2023 gyda chyfnod arweiniol o 4 mis a gwasanaethau yn dechrau yn Ebrill 2023 i gydfynd ag agor Epworth Lodge yn y Rhyl.    Darparwyd manylion yr ymarfer caffael a darparwr gwasanaeth a argymhellwyd oedd yn bodloni manylion y prosiect orau. 

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas y byddai’r prosiect yn darparu cefnogaeth 24 awr cynhwysfawr yn ogystal â’r gefnogaeth bresennol i’r sawl mewn llety dros dro. 

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cydnabod fod ymarfer tendr teg a chadarn wedi ei gwblhau yn unol â Rheolau Gweithdrefn Contractau Sir Ddinbych, a oedd wedi adnabod ‘enillydd’ clir, a oedd wedi gosod rhaglen sydd wedi bodloni nodau a dyheadau manylion y prosiect a nodwyd yng nghais y tendr.

 

(b)       cytuno i ddyfarnu’r contract i’r darparwr gwasanaeth a enwyd a argymhellwyd fel nodir yn yr adroddiad yn seiliedig ar eu cynigion tendr ar y lefel ffi a gynigiwyd, yn unol â’r adroddiad dyfarnu (wedi ei atodi fel Atodiad 4 i’r adroddiad) a

 

(c)       cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les ar gyfer Cynllun Cyflawni’r Grant Cymorth Tai 2022-25 (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.40pm.