Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Datganodd yr aelodau canlynol ddiddordeb personol yn rhaglen 8 ar y rhaglen ‘Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu - Band B’ -

 

Roedd gan y Cynghorydd Gill German ddau o blant yn Ysgol Uwchradd Prestatyn

Roedd gan y Cynghorydd Jason McLellan blentyn yn Ysgol Uwchradd Prestatyn

Roedd y Cynghorydd Emrys Wynne yn Llywodraethwr yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol yn eitem 8 ar y rhaglen ‘Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu - Band B’ -

 

Roedd gan y Cynghorydd Gill German ddau o blant oedd yn mynychu Ysgol Uwchradd Prestatyn

Roedd gan y Cynghorydd Jason McLellan blentyn oedd yn mynychu Ysgol Uwchradd Prestatyn

Roedd y Cynghorydd Emrys Wynne yn Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniataodd yr Arweinydd i gwestiwn gael ei roi gerbron y Cabinet am ffioedd gofal ac i ateb gael ei roi hefyd.

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn, dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi derbyn cais gan y Cynghorydd Mark Young i gyflwyno cwestiwn hwyr i’r Cabinet ynglŷn â ffioedd gofal a gofynnwyd am gyngor ar hynny.  Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd y darpariaethau cyfansoddiadol sy’n ymwneud â chwestiwn i’w gyflwyno i’r Cabinet, a’r meini prawf ar gyfer mater brys, ni fodlonwyd yr un ohonynt yn yr achos hwn.    Fodd bynnag, roedd gan yr Arweinydd ddisgresiwn i ganiatáu'r cwestiwn.   Ar ôl ystyried y cwestiwn a nodi pwysigrwydd y testun, defnyddiodd yr Arweinydd ei ddisgresiwn a chaniatáu i’r cwestiwn gael ei gyflwyno.    Roedd y cwestiwn yn cyfeirio at bolisi presennol ac roedd yr Arweinydd yn cynghori ac yn atgoffa’r Cynghorydd Young am y dulliau mewnol sydd ar gael o fewn y Cyngor, fel y Pwyllgorau Craffu, os bydd yn dymuno herio neu graffu’r polisi hwnnw.

 

Darllenodd y Cynghorydd Mark Young ei gwestiwn fel a ganlyn:

 

“Byddwch yn ymwybodol o’r wasg ar draws Cymru ac yn fwy diweddar yng Ngogledd Cymru o ran costau gofal sy’n cael ei dalu gan awdurdodau lleol.  Y mis diwethaf, pleidleisiodd Cabinet Cyngor Gwynedd i gynyddu ffioedd ar gyfer gofal nyrsio o 25%, ac erbyn hyn mae Ynys Môn hefyd wedi cytuno i gynyddu ffioedd o 25%.  Rwyf wedi cael gwybod bod Conwy a Wrecsam hefyd wedi cynnal adolygiadau o lefelau cyllido.  Felly yn sgil yr adroddiadau diweddar hyn, fy nghwestiwn i, ar ôl i’r uchod gael eu codi yn y wasg, ac i mi yn bersonol, ac wrth fynd ar eu pen eu hunain mae’r cynghorau yn symud i ffwrdd o’r dull rhanbarthol ar gyllid gofal, beth yw sefyllfa Sir Ddinbych mewn perthynas â hyn?  Teimlaf y bydd yr ymateb gan y Cabinet heddiw yn ddefnyddiol ac yn cael ei werthfawrogi gan aelodau etholedig, trigolion a darparwyr gofal.”

 

Ymatebodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r cwestiwn fel a ganlyn:

 

“Rwy’n ymwybodol o’r wasg diweddar o ran ffioedd gofal yng Ngogledd Cymru ac rwy’n croesawu’r cyfle i fynd i’r afael â’r mater ac egluro sefyllfa Sir Ddinbych.  Bob blwyddyn, mae Cyngor Sir Ddinbych yn gosod ffioedd cyn y flwyddyn ariannol nesaf ar gyfer pecynnau gofal Nyrsio a Phreswyl a gomisiynir yn allanol, Cartrefi Gofal Arbenigol, Gofal Cartref a Chynlluniau Byw â Chymorth.  Nid yw hwn yn benderfyniad unochrog, mae mewn cydweithrediad â Grŵp Ffioedd Gofal Rhanbarthol Gogledd Cymru ac mewn ymgynghoriad gyda darparwyr.  Yn fras, yn dilyn y fethodoleg hon a gytunwyd yn rhanbarthol, gwnaed penderfyniad ym mis Ionawr eleni i gynyddu ffioedd ac i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol.  Golygai hyn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022 - 23 (o ffioedd y flwyddyn flaenorol) roedd cynnydd o 6.96% ar gyfer cartrefi gofal preswyl, 10.15% ar gyfer cartrefi gofal preswyl EMI, 7.04% ar gyfer cartrefi nyrsio, 10.21% ar gyfer cartrefi nyrsio EMI, a 8.12% ar gyfer gofal cartref.

 

Anfonwyd llythyrau ym mis Chwefror i ddarparwyr yn amlinellu’r cynnydd arfaethedig mewn ffioedd, a chynhaliwyd cyfarfodydd i drafod hyn.  Er bod nifer o’n darparwyr wedi croesawu hyn, mae pryderon wedi cael eu codi am y cynnydd mewn costau, megis cynnydd mewn costau tanwydd yn effeithio ar ofal cartref, cynnydd mewn costau bwyd, cyfleustodau ac yswiriant yn effeithio ar gartrefi gofal, gan gydnabod bod rhai wedi dibynnu ar gymorth ariannol Covid-19 dros dro Llywodraeth Cymru sydd bellach wedi dod i ben, ac wrth gwrs y gost o heriau recriwtio a chadw staff.  Felly, gwnaed penderfyniad arall ym mis Mehefin eleni i gydnabod yr her bresennol ac i ddarparu cynnydd ychwanegol i’r ffioedd presennol, a hefyd hoffwn nodi bod hyn cyn i Wynedd ac Ynys Môn  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 319 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2022 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2022.

 

Materion yn codi -  Tudalen 8, Eitem 5 Cymeradwyaeth Cais Cronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU - Etholaeth Gorllewin Clwyd - Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts o ran newidiadau i’r broses ers y cyfarfod diwethaf ac os fyddai hyn yn effeithio ar gais Sir Ddinbych, awgrymodd yr Arweinydd ei fod yn cwrdd â’r Cynghorydd Hilditch-Roberts a Phennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad tu allan i gyfarfod y Cabinet er mwyn trafod y mater ymhellach.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

5.

ADOLYGU PENDERFYNIAD Y CABINET YN YMWNEUD Â'R CYNLLUN PENDERFYNIADAU DIRPRWYEDIG ARFAETHEDIG AR GYFER CAFFAEL TIR (RHYDD-DDALIADOL A LES-DDALIADOL) I DDIBENION DAL A STORIO CARBON A GWELLIANNAU ECOLEGOL pdf eicon PDF 296 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Williams, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Cymunedau, (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Cabinet adolygu ei benderfyniad gwreiddiol yn ymwneud â’r cynllun penderfyniadau dirprwyedig arfaethedig ar gyfer caffael tir (rhydd-ddaliadol a lesddaliadol) i ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol, gan roi sylw i ganfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cydnabod casgliadau, pryderon ac argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn dilyn ei adolygiad o benderfyniad y Cabinet ar 15 Chwefror 2022  o ran ‘Cynllun Penderfyniadau Dirprwyedig Arfaethedig ar gyfer Caffael Tir (Rhydd-ddaliadol a Lesddaliadol) i Ddibenion Dal a Storio Carbon a Gwella Ecolegol’;

 

(b)       yn cytuno i ailystyried ei benderfyniad gwreiddiol, gyda’r bwriad o gyflymu’r broses benderfynu ar gyfer prynu tir, ac fel rhan o’r adolygiad hwnnw bydd yn ystyried ac yn cymryd i ystyriaeth yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Craffu fel y nodir ym mharagraff 3.2 o’r adroddiad, a

 

(c)        gofyn i swyddogion ddod ag adroddiad gerbron y Cabinet ar yr adolygiad hwnnw, i’w ystyried gan y Cabinet ym mis Hydref.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau adroddiad yn rhoi gwybodaeth ar ganfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu yn dilyn ystyriaeth o alw mewn penderfyniad y Cabinet ar 15 Chwefror 2022 mewn perthynas â chynllun penderfyniadau dirprwyedig arfaethedig ar gyfer caffael tir i ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol.

 

Yn gryno, cydnabu’r Pwyllgor pe byddai’r Cyngor am gyflawni ei uchelgais mewn perthynas â lleihau carbon, byddai angen mabwysiadu dull amlochrog, a fyddai’n cynnwys prynu darnau o dir i’w defnyddio i osod yn erbyn y defnydd carbon na ellir ei osgoi, ac roedd y Pwyllgor wedi derbyn sicrwydd na fyddai tir amaethyddol sefydlog yn cael ei brynu ar gyfer y diben hwn.  Fodd bynnag, codwyd pryderon o ran y canlyniadau anfwriadol posibl y gall bryniannau tir o’r fath ei gael ar hyfywedd busnesau amaethyddol lleol yn y dyfodol a bywoliaeth teuluoedd lleol, a all gael effaith andwyol ar gynaladwyedd economaidd hirdymor cymunedau lleol, gan newid cyfansoddiad ac ethos bywyd cymunedol mewn ardaloedd gwledig y sir.  O ganlyniad i hynny, gofynnwyd i’r Cyngor ail-ymweld â’r penderfyniad gan ystyried pryderon ac argymhellion y Pwyllgor i sicrhau cefnogaeth cymunedau gwledig ar gyfer y broses, atgyfnerthu cyfranogiad aelodau etholedig yn y broses, a sicrhau y byddai adnoddau digonol ar gael i’r Tîm Gwasanaethau Cefn Gwlad i ddarparu dyheadau amgylcheddol y Cyngor.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Williams nad oedd y Pwyllgor Craffu yn erbyn egwyddor y dull, ond ei fod eisiau prosesau cywir yn eu lle i wasanaethau trigolion Sir Ddinbych a sicrhau proses agored a thryloyw.

 

Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad a canolbwyntiwyd ar y prif faterion trafod a ganlyn -

 

·         Roedd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yn gefnogol o’r Cabinet yn ailystyried ei benderfyniad gan ystyried barn y Pwyllgor Craffu.  Fodd bynnag, roedd hi’n teimlo y dylai’r camau a argymhellwyd ym mharagraffau 3.2 (i) - (iv) gael eu hystyried fel rhan i’r ail-ystyriaeth yn hytrach na chael eu cytuno ymlaen llaw, a chynigodd addasiad ar y sail honno, gan adrodd yn ôl i’r Cabinet wedyn

·         rhoddwyd eglurder o ran y broses gwneud penderfyniadau a rôl craffu, a nodwyd yn sgil y galw i mewn, nid oedd penderfyniad y Cabinet wedi cael ei weithredu.  Er y gallai swyddogion barhau i brynu tir o dan y prosesau cyfredol, roedd y broses gwneud penderfyniadau cyflym wedi ei atal tan i’r Cabinet ail-ystyried ei benderfyniad.

·         roedd cefnogaeth gyffredinol ar gyfer y dull i gaffael tir ar gyfer dibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol, o ystyried yr argyfwng newid hinsawdd, ynghyd â’r angen i gyflymu’r broses penderfyniad dirprwyedig ar gyfer prynu tir er mwyn bodloni’r amcan heb unrhyw oedi.

·         er y cytunwyd y dylid cyflawni ymgynghoriad pellach gyda’r Undeb Amaethwyr a Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc cyn gynted â phosibl, cydnabu hefyd bod angen ymateb yn gyflym er mwyn lleihau unrhyw oedi o ran y Cabinet yn gwneud y penderfyniad olaf ar y mater.  Adroddodd y Cynghorydd Huw Williams ar lwyddiant y Grŵp Tasg a Gorffen Perygl Llifogydd fel fforwm ar gyfer trafod, ac os oedd yn briodol, byddai Grŵp Tasg a Gorffen yn gallu cael ei sefydlu fel ffordd o ymgysylltu â’r partïon perthnasol yn y mater hwn.

·         o ran terfynau amser, awgrymwyd y byddai adroddiad yn ôl i’r Cabinet ym mis Hydref yn darparu digon o amser i weithio gydag Undebau Amaethwyr a Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc i geisio ymatebion cynhwysfawr mewn perthynas â’r cynllun arfaethedig fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Craffu.

·         Cadarnhaodd Pennaeth Cyllid ac Eiddo fod y broses o gaffael tir yn parhau ac adroddodd ar bryniant tir presennol yn Llanelwy ar gyfer y diben a oedd wedi  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Y GRONFA FFYNIANT GYFFREDIN pdf eicon PDF 213 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd, (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo datblygu Rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin ymhellach, dirprwyo awdurdod i ddatblygu a chyflwyno blaenoriaethau Sir Ddinbych ar gyfer cynhwysiant yn y Strategaeth Fuddsoddi Ranbarthol, ac i Gyngor Gwynedd weithredu fel corff arweiniol ar gyfer cyflwyno’r Strategaeth a chyflawni’r rhaglen.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cymeradwyo datblygiad pellach rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Sir Ddinbych ac yn rhanbarthol drwy fewnbwn swyddogion, yn unol â’r egwyddorion a nodir yn yr adroddiad;

 

(b)       rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr a’r Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd i ddatblygu a chyflwyno blaenoriaethau Sir Ddinbych ar gyfer eu cynnwys yn y Strategaeth Fuddsoddi Ranbarthol i alluogi i gyllid y rhaglen gael ei dynnu i lawr, a

 

(c)        cefnogi’r cynnig i ofyn i Gyngor Gwynedd weithredu fel corff arweiniol i gyflwyno’r Strategaeth Fuddsoddi Ranbarthol i Lywodraeth y DU ac i arwain darpariaeth y rhaglen wedi hynny.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddatblygu’r Rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin ymhellach, dirprwyo awdurdod i ddatblygu a chyflwyno blaenoriaethau Sir Ddinbych ar gyfer eu cynnwys yn y Strategaeth Buddsoddi Rhanbarthol ac i Gyngor Sir Gwynedd weithredu fel arweinydd rhanbarthol ar gyfer y rhaglen.

 

Roedd y Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn rhan o’r agenda Codi’r Gwastad gan ddisodli Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.  Roedd yn bennaf yn rhaglen cyllido refeniw a dyraniad unigol Sir Ddinbych oed £25,647,958.

 

Eglurodd y Pennaeth Cymunedau a Gwasanaethau i Gwsmeriaid y trefniadau ar gyfer cynllunio a darparu’r Strategaeth Buddsoddi Rhanbarthol gyda blaenoriaethau buddsoddi yn canolbwyntio ar: (1) Cymuned a Lle, (2) Cefnogi Busnesau Lleol, a (3) Pobl a Sgiliau.  Ar y cam hwn, nid oedd angen canfod prosiectau i gyflawni canlyniadau, a byddai’r elfen honno’n cael ei chyflawni yng ngham nesaf y broses.  Yn dilyn cyflwyno’r strategaeth, byddai prosbectws yn cael ei ddatblygu yn manylu ar ymyraethau a sut allai budd-ddeiliaid dynnu cyllid i lawr a darparu prosiectau i helpu cyflawni canlyniadau.  Yn olaf, cyfeiriwyd at yr angen am strwythur partneriaeth rhanbarthol i ddarparu sicrwydd o ran ymgysylltiad priodol gyda’r broses ac i arsylwi darpariaeth y rhaglen.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         Roedd y Gronfa Codi’r Gwastad yn raglen cyllido cyfalaf ac er fod gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin elfen o gyfalaf, roedd yn rhaglen gyllido refeniw yn bennaf.  Gellir defnyddio’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer prosiectau refeniw mewn modd i wneud y mwyaf o effeithiau’r prosiectau Codi’r Gwastad cyfalaf a sicrhau’r gwerth gorau, ac yn rhan annatod o’r un rhaglen.

·         byddai angen recriwtio nifer o staff i reoli a darparu’r rhaglen a gellir defnyddio hyd at 4% o ddyraniad cyllido Sir Ddinbych ei ddefnyddio i wneud cais am gyllid ar gyfer y diben hwnnw.  Fodd bynnag, disgwyliwyd y byddai llawer llai na’r swm hwnnw yn cael ei wario ar weinyddu’r rhaglen.

·         roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar strwythur a threfniadau rhanbarthol ar gyfer darparu’r Strategaeth Buddsoddi Rhanbarthol fel y cam cyntaf yn y broses gyda manylion y prosiectau i’w darparu a chyflawni canlyniadau i ddilyn yn y cam nesaf.  Fodd bynnag, roedd dull o'r gwaelod i fyny wedi cael ei gymryd i ddatblygu’r strategaeth ranbarthol gan ganolbwyntio ar flaenoriaethau ac anghenion lleol yn y lle cyntaf, ac yn dilyn hynny byddai unrhyw flaenoriaethau cyffredin gydag awdurdodau eraill yn cael eu hystyried i ganfod lle byddai’n fwy effeithlon neu effeithiol i gydweithio yn isranbarthol neu’n rhanbarthol.  Roedd posib rhoi sicrwydd fod oddeutu 40% o’r dyraniad wedi ei glustnodi ar gyfer buddsoddi mewn cymunedau lleol (blaenoriaeth Cymuned a Lle)

·         Roedd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn awyddus i aelodau etholedig fod yn rhan o’r broses gwneud penderfyniadau a nodwyd hynny yn y strwythur ar gyfer trefniadau darparu lleol.  Dywedodd y Pennaeth Cymunedau a Gwasanaethau i Gwsmeriaid, er nad oedd mandad gan Lywodraeth y DU o ran hynny, roedd er budd Sir Ddinbych i gyflawni ymarfer ymgysylltu lleol ac roedd disgwyliad i Gynghorau Cymuned/Tref/Dinas a Grwpiau Ardal yr Aelodau fod yn rhan o hyrwyddo’r cyfle i wneud cais ar gyfer cyllid a chanfod prosiectau i’w blaenoriaethu wrth fynd ymlaen.  Cynigodd y byddai’n adrodd yn ôl gyda rhagor o wybodaeth ar y trefniadau lleol fel rhan o’r cam nesaf.

·         Cyfeiriodd yr Arweinydd at feirniadaeth o ddiffyg ymgysylltiad gan Lywodraeth y DU gyda Llywodraeth Cymru o ran rhaglenni wedi’u cyllido’n ddomestig i gymryd lle rhaglenni Ewropeaidd megis y Gronfa Ffyniant Gyffredin, a phwysleisiodd y Cynghorydd Mark Young fod angen mynd i’r afael â’r mater o ystyried y trawsgroesiad o gyfrifoldeb rhwng y ddau lywodraeth a’r heriau a wynebir.  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CAFFAEL GWASANAETH CEFNOGI NEWYDD AR GYFER LLETY DROS DRO MEWN ARGYFWNG (ATAL DIGARTREFEDD) pdf eicon PDF 222 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo dechrau caffael ar gyfer gwasanaeth gefnogi newydd ar gyfer llety dros dro mewn argyfwng i rai digartref.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cymeradwyo cychwyn y broses gaffael fel sydd wedi’i nodi yn y Ffurflen Gomisiynu sydd yn Atodiad 1 yr adroddiad, a

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen ac wedi ystyried yr Asesiad Lles (Adroddiad Asesiad Effaith ar Les ar gyfer y Cynllun Cyflawni Grant Cymorth Tai 2022 – 25 yn Atodiad 3 yr adroddiad)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau caffael ar gyfer gwasanaeth cefnogi digartrefedd newydd ar gyfer llety dros dro mewn argyfwng.

 

Yn dilyn y gwaith da a gyflawnwyd yn nhymor blaenorol y Cyngor, roedd gwaith wedi bod yn parhau ers peth amser ar y prosiect i ddatblygu cynnig llety dros dro mewn argyfwng a darparu cymorth cyfannol i drigolion mewn llety sy’n eiddo i’r awdurdod lleol, er mwyn eu cefnogi i mewn i lety parhaol, lleihau’r risg o ddigartrefedd yn digwydd eto a gwella canlyniadau lles.  Mae caffael wedi cael ei roi yn y Ffurflen Comisiynu wedi’i atodi i’r adroddiad a byddai’r contract yn cael ei ariannu’n llawn gan Grant Cymorth Tai a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru.  Y bwriad oedd cynnig contract 5 mlynedd, a fyddai’n cael ei fonitro’n rheolaidd er mwyn darparu cymorth cynhwysfawr 24 awr i bobl sy’n gadael llety brys dros dro.

 

Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth, Cymorth Busnes a Chymuned i gwestiynau aelodau ar yr adroddiad fel a ganlyn -

 

·         roedd oddeutu 185 o aelwydydd mewn llety brys dros dro ar hyn o bryd, a gyda’r cyllid oedd ar gael, y disgwyliad oedd y byddai cymorth yn gallu cael ei ddarparu ar gyfer hyd ar 100 - 120 o aelwydydd y flwyddyn ar gyfradd o oddeutu £2,000 i gefnogi ystod o weithgareddau a oedd angen i symud yr aelwydydd hyn ymlaen.  Roedd contract ar wahân ar gyfer prosiect atal ac ymyrraeth gynnar i fod i ddechrau ym Medi er mwyn lleihau nifer y bobl sy’n dod yn ddigartref ac felly rhagwelwyd y byddai’r gwasanaeth cymorth newydd yn gallu cynnig cymorth i bawb o fewn llety brys dros dro.

·         Fel rhan o’r cynlluniau ailgartrefu cyflym, y nod oedd sicrhau fod yr amser a dreulir mewn llety brys dros dro mor fyr â phosibl.  Fodd bynnag, roedd angen bod yn ystyriol fod y dull yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac na fyddai holl unigolion yn gallu symud ymlaen ar unwaith.

·         Roedd mwyafrif y llety brys wedi’u lleoli yng ngogledd y sir, yn bennaf yn ardal y Rhyl, ac yn cynnwys llety gwely a brecwast a gwestai.  Roedd gwaith yn mynd rhagddo i dendro ar gyfer gwaith adnewyddu i Epworth Lodge, y Rhyl a fyddai’n darparu llety mewnol.  Fodd bynnag, cydnabu bod digartrefedd yn fater ar draws y sir ac roedd llety brys dros dro yn ne’r sir a byddai cymorth yn cael ei ymestyn ar draws Sir Ddinbych.

·         Ar hyn o bryd roedd capasiti mewn llety brys dros dro ar gyfer 210 o aelwydydd gyda chyfleuster mewnol y Cyngor, Epworth Lodge yn debygol o fod ar gael yn chwarter olaf y flwyddyn, ac roedd gwaith pellach  angen i ganfod unedau ychwanegol ar gyfer llety o fewn y sir wrth symud ymlaen.  Pwysleisiodd y Cynghorydd Emrys Wynne y pwysigrwydd o ddarparu llety o’r fath ar gyfer pobl o fewn eu cymunedau eu hunain ac roedd yn awyddus fod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau unedau ar draws y sir gyfan ar gyfer y diben hwnnw.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cymeradwyo dechrau caffael fel y nodwyd yn y Ffurflen Gomisiynu yn Atodiad 1 yr adroddiad, a

 

(b)       chadarnhau ei fod wedi darllen ac ystyried yr Asesiad o Les (Adroddiad Asesiad o’r Effaith ar Les ar gyfer Cynllun Darparu Grant Cymorth Tai 2022 - 25 yn Atodiad 3 yr adroddiad).

 

Ar y pwynt hwn (11.20 am) cymerodd y pwyllgor egwyl am luniaeth.

 

8.

CYMUNEDAU CYNALIADWY AR GYFER DYSGU - BAND B pdf eicon PDF 214 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gill German, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd, (copi ynghlwm) ar ganfyddiadau adolygiad y Bwrdd Rhaglen Moderneiddio Addysg o’r broses flaenoriaethu ar gyfer Band B Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, yn unol â chais y Cyngor ym mis Ionawr 2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cadarnhau barn y Bwrdd Rhaglen Moderneiddio Addysg nad oedd unrhyw newid arwyddocaol wedi digwydd o ran cyflwr adeiladau ysgolion a bod y trefn polisi presennol ysgolion yn dal yn gyfredol a chywir.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gill German yr adroddiad ar y canfyddiadau o’r adolygiad gan y Bwrdd Rhaglen Moderneiddio Addysg ar y broses blaenoriaethu ar gyfer Cymunedau Cynaliadwy Band B ar gyfer Dysgu, yn ôl cais y Cyngor ym mis Ionawr 2022.

 

Yn dilyn rhybudd o gynnig yn Ionawr 2022, a oedd wedi tarddu o bryderon dros gyflwr Ysgol Uwchradd Prestatyn, roedd y Cyngor wedi gwneud cais fod arolygon cyflwr o holl ysgolion yn cael eu hadolygu er mwyn gweld os oeddent wedi newid i’r fath raddau er mwyn codi amheuon am drefn blaenoriaeth bresennol ysgolion.  Ymhelaethodd y Pennaeth Addysg ar y broses adolygu a gyflawnwyd gan y Bwrdd Rhaglen Moderneiddio Addysg yn Ebrill 2022 a’r ailasesiad o gyflwr adeiladau ysgol er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchiad cywir o’r ystâd addysg.  Ni chanfuodd yr adolygiad unrhyw newid sylweddol o ran cyflwr ysgolion ers 2016 a fyddai’n effeithio ar y blaenoriaethau dewisol, gan ddod i’r casgliad fod y blaenoriaethau’n gywir a bod yr ysgolion a gafodd eu neilltuo ar gyfer buddsoddiad Band B yn cynrychioli’r rhai â’r angen mwyaf.  O ran Ysgol Uwchradd Prestatyn yn benodol, nododd y Bwrdd fod gwaith wedi cael ei gyflawni gyda’r ysgol i wneud y defnydd gorau o fuddsoddiad cyfalaf o’r cynllun Cynnal a Chadw Adeilad.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol -

 

·         Er nad oedd sicrwydd y byddai cyfran pellach o gyllid ar gyfer ysgolion yn dilyn Band B, roedd disgwyliad o ran hynny, ond roedd natur unrhyw flaenoriaethau cyllido yn y dyfodol a pha ffurf y buasai hyn yn anhysbys.

·         Roedd y Cynghorydd Emrys Wynne wedi datgan diddordeb fel llywodraethwr ysgol Ysgol Brynhyfryd a mynegodd ei siom nad oedd posib cynnwys yr ysgol honno ac ysgolion eraill oedd angen buddsoddiad fel rhan o’r broses Band B, a gobeithiai y byddai cyfleoedd eraill i fuddsoddi yn yr ysgolion hynny fel rhan o’r cyfrannau cyllido yn y dyfodol.  Cydnabu swyddogion fod ysgolion eraill hefyd angen buddsoddiad ac nid oedd digon o gyllid i fuddsoddi yn yr holl ysgolion hynny.  Fodd bynnag, roedd ffrydiau cyllido eraill yn ychwanegol at Band B, megis y cynllun Cynnal a Chadw Adeiladau, yn cael eu defnyddio i ymateb i anghenion ysgolion eraill nad oedd yn destun buddsoddiad mawr trwy Band B ar hyn o bryd.

·         Roedd cyflwyno prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd yn destun cyllid ar wahân, gyda chynllun cyfalaf ar gyfer rhai o’r gwaith dechreuol er mwyn galluogi darpariaeth ar gyfer Derbyn ym Medi a Blwyddyn 1 a 2 yn y Pasg, gyda dialog rhwng awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru o ran gofynion cyflwyno i Flwyddyn 6 yn y dyfodol.  Byddai goblygiadau refeniw o ganlyniad i’r newid ond roedd y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn cael ei hyrwyddo’n fawr gyda’r golwg i sicrhau cofrestriad cryf wrth fynd ymlaen.

 

Roedd y Cynghorydd Gill German wedi datgan cysylltiad personol yn yr eitem gan fod ei phlant yn mynychu Ysgol Uwchradd Prestatyn ac roedd hi hefyd yn gyn-ddisgybl.  Ynghyd â’i chyd aelod Prestatyn, y Cynghorydd Jason McLellan, roedd hi wedi cyflawni taith o’r ysgol ac wedi trafod gyda’r Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr y materion yn ymwneud â’r rhybudd o gynnig.  Cyfeiriwyd at yr atodiad yn yr adroddiad yn manylu ar y rhaglen 5 mlynedd o fuddsoddiad i fynd i’r afael â blaenoriaethau’r ysgol a’r cynnydd a wnaed o ran hynny, ac roedd hi’n falch o ddarparu diweddariad ar gynnydd pellach o ran y maes parcio a’r coridor mynediad.  Hefyd rhoddodd sicrwydd y byddai hi’n sicrhau cynnydd amserol i fynd i’r afael â phrif flaenoriaethau’r ysgol yn unol â’r rhaglen pum mlynedd ac i sicrhau yr amgylchedd orau bosibl  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 236 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllido y cytunwyd arni.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Darparwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y cyngor fel a ganlyn -

 

·         y gyllideb refeniw net ar gyfer 2022/23 oedd £233.693 miliwn (£216.818 miliwn yn 2021/22).

·         rhagwelir y byddai gorwariant o £1.936 miliwn ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol.

·         tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith ariannol Coronafeirws a chwyddiant

·         manylion o gynnydd mewn arbedion a ffioedd gwasanaeth (£0.754 miliwn); nid oes geisiwyd unrhyw arbedion gan Wasanaethau Cefnogi Cymunedau nac Ysgolion

·         rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a chafwyd diweddariad ar brosiectau mawr.

 

Fe wnaeth y Pennaeth Cyllid ac Eiddo hefyd dynnu sylw’r aelodau at y canlynol -

 

·         Mae sefyllfa’r gyllideb yn y Gwasanaethau Addysg a Phlant wedi gwaethygu ers y mis diwethaf gyda rhagolygon o orwariant o £1.938 miliwn; roedd mwyafrif y pwysau (£1.542 miliwn) yn ymwneud â lleoliadau maethu annibynnol a phreswyl newydd ac roedd yr anawsterau o ran rhagweld gwariant ar gyfer y gwasanaeth a arweinir gan y galw wedi ei ddogfennu.  Byddai’r agwedd honno’n ffurfio rhan o drafodaeth am y gyllideb yn yr hydref, o ran sut i ddelio orau â’r pwysau wrth symud ymlaen.  Roedd posib rheoli cyfanswm y gorwariant presennol o gydag arian wrth gefn, ond byddai unrhyw gynnydd pellach angen defnyddio lefel sylfaenol y cronfeydd wrth gefn.

·         Roedd yr arian wrth cefn y Cynllun Cyfalaf wedi cynyddu o £1.676 miliwn i £2.176 miliwn yn sgil cario elfen heb ei neilltuo y grant cyfalaf a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ym Mawrth ymlaen, ac roedd £1.2 miliwn o’r arian wrth gefn wedi ei ddyrannu ar gyfer y Prosiect Gwastraff yn unol â chymeradwyaeth blaenorol y Cabinet yn Ebrill, gan adael elfen o’r arian wrth cefn cyfalaf ar gyfer nifer o brosiectau llai.

·         Gan mai mis Medi y bydd y Cabinet yn cwrdd nesaf yn sgil egwyl ym mis Awst, amlygwyd nifer o risgiau o ran cyllidebau ysgol, cludiant ysgol, incwm parcio ceir a chwyddiant, gan gynnwys y cynnig tâl llywodraeth leol a oedd wedi cael ei wneud y diwrnod blaenorol a’r setliad terfynol.  Byddai monitro’r gyllideb yn agos yn parhau a byddai’r Cabinet yn derbyn adroddiad yn ôl ym mis Medi.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllido y cytunwyd arni.

 

10.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 292 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau diwygiadau canlynol –

 

·         Creu Bwrdd Rheoli Maethynnau (dalgylch Afon Dyfrdwy) - Medi

·         Marchnad y Frenhines: Dyfarnu Contract Gweithredu - wedi’i ail-drefnu ar gyfer Hydref

·         Adolygu Penderfyniad y Cabinet: Cynllun penderfyniadau dirprwyedig arfaethedig ar gyfer caffael tir i ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol - Hydref

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.05 pm.