Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT SYLW

Croesawodd yr Arweinydd bawb i gyfarfod hybrid cyhoeddus cyntaf y Cabinet.

 

Esboniodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd bod Siambr y Cyngor wedi derbyn cyfarpar i alluogi cynnal cyfarfodydd hybrid, er mwyn galluogi i gyfranogwyr ddod i’r cyfarfod yn bersonol yn Siambr y Cyngor neu o bell dros Zoom.  Er eglurder, darparwyd manylion o’r sawl oedd yn bresennol yn Siambr y Cyngor.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGANIADAU O GYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 329 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2022 (copi’n amgaeedig). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2022.

 

Materion yn Codi – Eitem 7 –  Cynllun Dirprwyo Gwneud Penderfyniadau Arfaethedig ar gyfer Caffael Tir a Dal a Storio Carbon, ac at Ddibenion Gwelliant Ecolegol - Cynghorodd y Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd bod penderfyniad y Cabinet wedi cael ei alw i mewn i’w graffu, ac wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau’r wythnos flaenorol, a oedd wedi penderfynu cyfeirio’r mater yn ôl at ystyriaeth y Cabinet.  O ganlyniad, byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Cabinet yn y dyfodol i ystyried argymhellion y Pwyllgor Craffu.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

EITEM O’R PWYLLGOR CRAFFU - CAEL GWARED AR NWYDDAU NA ELLIR EU HAILGYLCHU YNG NGWASANAETHAU ARLWYO YSGOLION pdf eicon PDF 367 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad (copi yn amgaeedig), sy’n argymell bod y Cabinet, ar ran y Cyngor, yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cefnogaeth ariannol ddigonol i awdurdodau lleol i’w helpu i gael gwared ar ddefnyddio nwyddau na ellir eu hailgylchu a hwyluso mesurau lleihau carbon yng Ngwasanaethau Arlwyo Ysgolion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet, ar ran y Cyngor, yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddynt -

 

(a)       weithio gydag awdurdodau lleol ar draws Cymru i geisio lleihau a dileu’r arfer o ddefnyddio plastig untro a nwyddau na ellir eu hailgylchu yn y cyflenwad, ac wrth baratoi a gweini prydau ysgol;

 

(b)       darparu adnoddau ariannol digonol i’r holl awdurdodau lleol i’w galluogi i ddeall yr amcanion uchod a hwyluso mesurau lleihau carbon o fewn eu Gwasanaethau Arlwyo Ysgolion wrth sicrhau bod gwasanaeth prydau ysgol cynaliadwy yn cael ei ddarparu, a

 

(c)        bod y Cabinet, ar ran y Cyngor, yn ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gofyn am eu cefnogaeth i lobïo Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r mesurau a nodi yn (a) a (b) uchod.

 

Cofnodion:

Ar wahoddiad yr Arweinydd, cyflwynodd y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad, yn argymell bod y Cabinet, ar ran y Cyngor, yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cefnogaeth ariannol ddigonol i awdurdodau lleol i’w helpu i ddileu defnyddio nwyddau nad oes modd eu hailgylchu, a hwyluso mesurau lleihau carbon o fewn Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion, heb gyfaddawdu ar eu gallu i ddarparu gwasanaeth prydau ysgol hyfyw a chynaliadwy.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts ar y gwaith a wnaed, gyda bwriad i ddileu defnydd nwyddau nad oes modd eu hailgylchu yn y gwasanaeth i gefnogi uchelgais y Cyngor i fod yn ddi-garbon erbyn 2030.  Adroddodd ar drafodaeth fanwl y Pwyllgor mewn perthynas â’r pwnc a chyfraniadau gwerthfawr i’r drafodaeth gan ddau ddisgybl oedd yn cynrychioli Ysgol Dinas Brân.  Tynnwyd sylw’r Cabinet at y pwysau ariannol sylweddol oedd yn wynebu’r gwasanaeth, a’i ddibyniaeth ar incwm o werthu diodydd mewn poteli plastig i ddarparu prydau maethlon a chost effeithiol i ddisgyblion, ynghyd â phwysau ychwanegol i ddod i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, a oedd yn cymhlethu materion ymhellach.  Diolchwyd i Ysgol Glan Clwyd am gynnal cyfnod prawf diodydd yn eu hymdrechion i fynd i’r afael â’r broblem a oedd yn amlygu’r costau sy’n gysylltiedig â’r dull hwnnw a’r heriau cysylltiedig.  Roedd yn glir bod pwysau ariannol a staffio ar y gwasanaeth, cyfyngiadau amser i weini prydau, dim digon o le yn y ffreutur a’r angen i addysgu disgyblion i ddychwelyd eu cytleri yn ei gwneud yn anodd ar hyn o bryd i leihau’r ddibyniaeth ar ddeunyddiau nad oes modd eu hailgylchu ac ôl troed carbon y gwasanaeth, wrth baratoi prydau ysgol maethlon ond fforddiadwy.  Mae ymrwymiad y gwasanaeth i leihau ei ôl troed carbon a defnyddio deunyddiau nad oes modd eu hailgylchu wedi cael eu nodi, yn ogystal â’r angen i ddatblygu gwasanaeth hyfyw.  O ganlyniad, teimlwyd y dylid mynd at Lywodraeth Cymru i geisio ei chefnogaeth ar gyfer awdurdodau’n genedlaethol i gyflawni’r nodau hynny.  Gofynnwyd i’r Cabinet ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddynt weithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i leihau a dileu ei ddefnydd o blastigion untro neu gynnyrch nad oes modd ei hailgylchu yn y gwasanaeth a darparu adnoddau ariannol digonol at y dibenion hynny, a hwyluso mesurau lleihau carbon gan ddarparu gwasanaeth cynaliadwy.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Roberts am yr adroddiad a gwaith y Pwyllgor Craffu, ac roedd yn falch o nodi cyfranogiad pobl ifanc fel rhan o’r broses honno i sicrhau fod ganddynt lais yn y materion sy’n effeithio ar eu dyfodol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts i’r Pwyllgor Craffu am eu gwaith, ac roedd yn cefnogi’r argymhellion yn llwyr, o wybod y gefnogaeth ariannol sydd ei angen i gyflawni nodau mewn perthynas â lleihau defnydd a dibyniaeth ar blastigion untro.  Fe ymhelaethodd ar y cyfnod prawf diodydd yn Ysgol Glan Clwyd, a’r heriau a wynebir ynghyd, o ran yr effaith ariannol sylweddol: tua £220,000 y flwyddyn ar gyfer stopio gwerthu diodydd mewn ysgolion uwchradd a £200,000 y flwyddyn ar gyfer gwerthu/tywallt diodydd i gwpanau y gellir eu hailddefnyddio.  Roedd problemau hefyd o ran cwpanau y gellir eu hailddefnyddio ddim yn cael eu dychwelyd.  Er bod y gwasanaeth wedi ymrwymo i leihau ei ddefnydd o blastigion, roedd anawsterau o ran y costau ariannol sy’n gysylltiedig gyda’r nod hwnnw, a’r model presennol ar gyfer arlwyo mewn ysgolion.  Roedd ehangu’r gwasanaeth i ddarparu prydau ysgol am ddim ar gyfer disgyblion cynradd yn codi heriau ychwanegol hefyd, yn nhermau ei ddarpariaeth a’i effaith ar y gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad ac roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADEILADAU'R FRENHINES CAM 1 – DYFARNU CONTRACT ADEILADU pdf eicon PDF 321 KB

I ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol a Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi wedi'i amgáu) ynghylch ail gam y broses o ddyfarnu contract adeiladu i ddatblygu Adeiladau’r Frenhines yn y Rhyl, a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract i’r contractwr a ffafrir drwy benderfyniad dirprwyedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       dirprwyo awdurdod i ddyfarnu Contract ar gyfer adeiladu Cam 1 datblygiad Adeiladau’r Frenhines i’r Contractwr a ffefrir i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151, Swyddog Monitro ac Aelodau Arweiniol perthnasol ar ddiwedd y cam dylunio manwl ar yr amod bod y cynllun cost o fewn y terfynau fforddiadwyedd ar gyfer y gwaith;

 

(b)       cymeradwyo rhoi’r Penderfyniad Dirprwyedig ar waith ar unwaith oherwydd y brys i ddyfarnu Contract i ganiatáu i waith ddechrau ar y safle cyn gynted â phosibl i fodloni terfynau amser cyllid grant, a 

 

(c)        cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ar y cyd gyda’r Arweinydd ar Brosiect Adeiladau’r Frenhines yn Rhyl, ac ail gam y broses i ddyfarnu contract ar gyfer adeiladu datblygiad Adeiladau’r Frenhines, a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu’r contract trwy benderfyniad dirprwyol.

 

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Achos Busnes diwygiedig a chyllid ychwanegol yn y cyfarfod diwethaf, pwrpas yr adroddiad cyfredol oedd canolbwyntio ar osod contract adeiladu cam 1.  Cafodd Wynne Construction ei benodi yng ngham cyntaf y gwaith, i weithio ar y cynllun drwy ganiatâd cynllunio a dyluniad manwl yn barod i’r gwaith adeiladu ddechrau canol/diwedd mis Ebrill.  Defnyddiwyd Lot 3 Fframwaith Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru ar gyfer cam 1 yr elfen adeiladu.  O wybod y terfynau amser tynn ar gyfer darparu’r prosiect, a gosod y contract, a oedd yn disgyn tu allan i amserlen cyfarfodydd y Cabinet yn sgil etholiadau mis Mai, ceisiwyd cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu’r contract drwy benderfyniad dirprwyol.  Yn ychwanegol at hynny, nes bod contract ffurfiol ar waith, byddai angen i’r Cyngor warantu costau o tua £500,000 ar gyfer archebion yn ymwneud ag eitemau adeiladu a oedd yn cynnwys amser archebu hir.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       dirprwyo awdurdod i ddyfarnu Contract ar gyfer gwaith adeiladu Cam 1 datblygiad Adeiladau’r Frenhines i’r Contractwr dewisol i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad gyda’r Swyddog Adran 151, y Swyddog Monitro a’r Aelodau Arweiniol perthnasol ar ddiwedd y cam dylunio manwl, os yw’r cynllun wedi'i gostio o fewn amlen fforddiadwyedd ar gyfer y gwaith;

 

(b)       cymeradwyo gweithrediad uniongyrchol y Penderfyniad Dirprwyol oherwydd bod brys i ddyfarnu Contract i ganiatáu i’r gwaith gychwyn ar y safle cyn gynted â phosib i ddiwallu terfynau amser cyllid grant, a

 

(c)        chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

7.

DYFARNU CONTRACT – ADNEWYDDU TAI TERAS YN 2 – 16 AQUARIUM STREET Y RHYL. pdf eicon PDF 218 KB

Ystyried adroddiad (sydd yn cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd  Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract i benodi Prif Gontractwr i adnewyddu tai teras yn 2-16 Aquarium Street, y Rhyl.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cymeradwyo dyfarniad contract i Anthony Dever Construction Limited yn unol â’r Adroddiad Argymell Dyfarnu Contract (Atodiad 1 yr Adroddiad), a

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

[Cyfeiriodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd i atodiad cyfrinachol i’r adroddiad oherwydd rhesymau sensitifrwydd masnachol, a chynghorodd y dylid cyflwyno cwestiynau ynglŷn â’r elfen mewn sesiwn breifat.]

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract i benodi Prif Gontractwr i adnewyddu’r tai teras yn 2 - 16 Aquarium Street, y Rhyl.

 

Cynghorodd y Cynghorydd Thomas y byddai’r cynllun yn darparu un o elfennau rhaglen adnewyddu tai Gorllewin y Rhyl, a rhoddodd ganmoliaeth i’r gwaith gwych a wnaed o ran hynny, a buddion y cynllun ar gyfer preswylwyr yn yr ardal.  Roedd y Cabinet wedi cymeradwyo’r cynllun cyfalaf tai ar Aquarium Street, y Rhyl ym mis Mawrth 2019, ac roedd yr adroddiad yn crynhoi’r broses a wnaed yn ystod yr ymarfer caffael, a arweiniodd at bedwar cais am dendr.  Yn dilyn ymarfer gwerthuso gan ddefnyddio methodoleg sgorio gyda phwysoliad o 70% ar gyfer y pris a 30% ar gyfer ansawdd, dewiswyd contractwr ac fe’i hargymhellwyd i’r Cabinet.  Amcangyfrif o gost y contract oedd rhwng £2,148,143.80 a chyfanswm y gost a amcangyfrifwyd gan y tendr a argymellwyd oedd £2,641,828.05 a oedd o fewn y gyllideb ar gyfer y prosiect yng Nghynllun Busnes y Stoc Dai.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill i’r cynnydd yng ngwerth y contract a amcangyfrifwyd, gan amlygu cynnydd sylweddol mewn costau adeiladu sydd wedi cael ei nodi, a thu allan i reolaeth y Cyngor.  Serch hynny, roedd y cynllun wedi’i ariannu’n llawn, ac roedd yn cefnogi’r argymhelliad i gymeradwyo’r dyfarniad contract.  Ychwanegodd y Rheolwr Datblygu Tai y byddai’r cynllun yn darparu tai fforddiadwy gyda galw mawr amdanynt ar gyfer pobl leol, gan ddatblygu safle sy’n hyll ar hyn o bryd.  Mewn ymateb i gwestiynau, fe gadarnhaodd y byddai’r estyniadau cefn yn cael eu tynnu; roedd y contractwr dewisol wedi’i leoli’n Sir Ddinbych ac eisoes wedi gwneud gwaith i’r Cyngor a phartneriaid eraill yn y gorffennol, ac roedd pris y tendr yn ddilys am rhai misoedd ar ôl y dyddiad cau.  Ychwanegodd y Cynghorydd Alan James ei gefnogaeth o ran y cynllun, ac roedd yn edrych ymlaen at ei weld yn cael ei gwblhau, gan ddiolch i bawb oedd yn rhan ohono.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a) cymeradwyo dyfarniad contract i Anthony Dever Limited Construction yn unol â’r Adroddiad Argymell Dyfarnu Contract (Atodiad 1 yr Adroddiad), a

 

(b) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

8.

BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 211 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd blaenraglen waith y Cabinet i’w ystyried.

 

Cynghorodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd bod, er nad oedd disgwyl cynnal cyfarfod y Cabinet ym mis Ebrill, roedd rhai eitemau o oedd angen mynd i’r afael â nhw cyn etholiadau Mai, ac o ganlyniad roedd swyddogion yn gweithio gydag aelodau i gadarnhau dyddiad ar gyfer cyfarfod ym mis Ebrill, gan ystyried y byddai cyfarfod nesaf y Cabinet yn y Cyngor newydd ar 7 Mehefin.

 

PENDERFYNWYD nodi blaenraglen waith y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.10am.