Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 7 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Meirick Davies – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 7 ar y Rhaglen

 

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol yn eitem 7 ar y rhaglen -

 

Datganodd y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd, gysylltiad personol gan ei fod wedi gwerthu rhywfaint o stoc drwy un o’r asiantau eiddo/arwerthwyr sy’n ymwneud â’r broses ymgynghori.

 

Datganodd y Cynghorydd Meirick Davies gysylltiad personol gan y bydd yn gofyn i’r Tîm Newid Hinsawdd am gymorth i leihau carbon yn Ward Trefnant (Cefn Meiriadog).

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 339 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 18 Ionawr 2022 (copi ynghlwm). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid, yn amodol ar un pwynt o gywirdeb, derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2022.

 

Cywirdeb – Tudalen 9 – Eitem 6 – Ymestyn Contract y Gwasanaethau Hamdden – esboniodd y Cynghorydd Meirick Davies fod ei bwynt yn ymwneud â’r difrod llifogydd i Fwyty a Theatr Pafiliwn y Rhyl mewn perthynas â’r amgylchiadau gyda’r tanc dŵr a fyrstiodd, ac a gafodd y tanc ei archwilio cyn ei drosglwyddo i Hamdden Sir Ddinbych Cyf neu beidio.  Fel Aelod Arweiniol, cadarnhaodd y Cynghorydd Bobby Feeley y byddai’n rhoi ateb i’r Cynghorydd Davies yn uniongyrchol y tu allan i’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2022 fel cofnod cywir.

 

 

5.

STRATEGAETH Y RHAGLEN CYMORTH TAI pdf eicon PDF 303 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth (copi ynghlwm) yn ceisio cytundeb y Cabinet i’r weledigaeth a chyfeiriad sydd wedi’u hamlinellu yn Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai a chymeradwyo ei chyhoeddi.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno gyda gweledigaeth a chyfeiriad strategol Sir Ddinbych a amlinellwyd o fewn y Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai a chymeradwyo cyhoeddi’r ddogfen.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gytuno ar y weledigaeth a sut i fynd i’r afael â digartrefedd a gwasanaethau cefnogi sy’n gysylltiedig â thai yn y Strategaeth ar gyfer y Rhaglen Cymorth Tai a’i chyhoeddi.

 

Mae’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth ar gyfer Rhaglen Cymorth Tai 2022 2026, gydag adolygiad hanner ffordd drwyddi.  Bydd angen i’r Strategaeth ar gyfer Rhaglen Cymorth Tai y Cyngor fod yr unig ddogfen strategol ar gymorth tai ac atal digartrefedd, ac mae wedi’i llunio i gyd-fynd â’r Strategaeth Tai a Digartrefedd bresennol sy’n cael ei monitro gan y Grŵp Tai Strategol a Digartrefedd.  Wrth ddatblygu’r Strategaeth ar gyfer y Rhaglen Cymorth Tai, cynhaliwyd asesiad trylwyr o anghenion gydag amryw o randdeiliaid a darparwyr a chytunwyd ar saith blaenoriaeth, sydd ar y cyfan yn adlewyrchu’r camau gweithredu a geir yn y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Tai a Digartrefedd.  Cafodd cynllun gweithredu drafft ei gynnwys i gefnogi’r modd y darperir y Strategaeth ar gyfer y Rhaglen Cymorth Tai ond roedd angen amserlenni a chamau gweithredu ychwanegol mwy hirdymor cyn ei chyhoeddi.

 

Dywedodd y Cynghorydd fod y Strategaeth yn cynrychioli cam arall yn y cyfeiriad cywir i fynd i’r afael â digartrefedd a diolchodd i’r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr.  Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro, Gwasanaeth Cymorth i Fusnesau fod y Cyngor wedi gwneud cynnydd da wrth weithio tuag at fodel ailgartrefu cyflym.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro i gwestiynau fel a ganlyn –

 

·         byddai angen creu fersiwn derfynol o’r cynllun gweithredu erbyn y bydd y Strategaeth ar gyfer y Rhaglen Cymorth Tai yn cael ei lansio ddiwedd mis Mawrth.  Er hyn, byddai’r cynllun yn hyblyg ac yn cael ei adolygu’n barhaus er mwyn ymateb i amgylchiadau sy’n newid.

·         gwnaed llawer o gynnydd o ran sicrhau ymyrraeth brydlon, dulliau ymgysylltu a sicrhau mynediad at wasanaethau a gweithio gyda phartneriaid mewn ffordd gydlynol i gefnogi unigolion a theuluoedd fel y bo’n briodol.

·         cafodd cydlynydd iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau ei gyflogi’n ddiweddar i helpu unigolion sydd wedi eu heffeithio gan y problemau hynny er mwyn cynnal eu tenantiaethau.

·         roedd y Pwyllgor Craffu wedi trafod llawer o’r gwaith yn y Strategaeth a’r cynllun gweithredu ar gyfer y Rhaglen Cymorth Tai ac fe dderbynion nhw hefyd adroddiad blynyddol am ddigartrefedd, ac roedd y Grŵp Tai Strategol a Digartrefedd hefyd yn ymwybodol o’r materion hynny; gan gofio’r amserlen dynn i gyhoeddi Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai, gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo’r ddogfen.

·         amlygwyd yr heriau mewn ardaloedd gwledig i ddarparu’r nifer o dai sydd eu hangen gyda’r ddarpariaeth yn Llangollen a Dinbych a darpariaeth gyfyngedig yn Rhuthun, ynghyd â llety ar brydles tymor byr, sy’n dibynnu ar gael tai cymdeithasol ac eiddo gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig - gwnaed pob ymdrech i gadw pobl sy’n datgan eu bod yn ddigartref mor agos â phosibl at eu cymunedau.

·         cymerir camau i sefydlu gwasanaeth ymyrraeth gynnar ac atal er mwyn lleihau nifer y bobl sy’n mynd yn ddigartref ac roedd y ffocws a’r cyllid a gafwyd gan Lywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi canolbwyntio ar atal: adlewyrchwyd hynny hefyd yn y Strategaeth ar gyfer y Rhaglen Cymorth Tai.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno gyda gweledigaeth a chyfeiriad strategol Sir Ddinbych a amlinellir yn y Strategaeth ar gyfer y Rhaglen Cymorth Tai ac y gellid cyhoeddi’r ddogfen.

 

 

6.

GWAHODDIAD I DENDRO'R GWASANAETH CYMORTH ASESU COF RHANBARTHOL - DYFARNU CONTRACTAU pdf eicon PDF 219 KB

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiadau cyfrinachol) gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu tri chontract yn dilyn cwblhau Gwahoddiad i Dendro ar gyfer y ‘Gwasanaeth Cymorth Asesu Cof Rhanbarthol’.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:

 

 (a)      cymeradwyo derbyn y tendrau a gyflwynwyd gan y tri chyflenwr a gwrthod y tendr a gyflwynwyd gan un cyflenwr am y rhesymau a fanylwyd o fewn yr ‘Adroddiad Argymhelliad Dyfarnu Contract’ (Atodiad 1 yn yr adroddiad), a

 

 (b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd at ddau atodiad cyfrinachol i’r adroddiad am resymau sensitifrwydd masnachol ac awgrymodd y dylid holi unrhyw gwestiynau manwl am yr elfennau hyn mewn sesiwn breifat.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu tri chontract ar ôl cwblhau Gwahoddiad i Dendro ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth Asesu Cof Rhanbarthol.  [Roedd y Cabinet eisoes wedi cytuno yn ei gyfarfod ar 23 Tachwedd 2021 y byddai’r Cyngor yn gweithredu fel y Comisiynydd Arweiniol ar gyfer Gwahoddiad i Dendro ar gyfer y Gwasanaeth ar ran y Gwasanaeth Cydweithio Rhanbarthol (chwe awdurdod lleol a phartneriaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yng Ngogledd Cymru)].

 

Gallai cyfanswm gwerth y tri chontract wedi’u cyfuno â’i gilydd fod hyd at £3.36m (£672,000 y flwyddyn dros gyfnod posibl o 5 mlynedd).  Rhoddwyd manylion am y broses dendro yn yr adroddiad, yn cynnwys nifer yr ymgeiswyr ar gyfer pob un o’r tair lot a gynigwyd fel rhan o’r Gwahoddiad i Dendro, ynghyd â gwerthusiad o’r cyflwyniadau tendro a’r dyfarniadau contract a argymhellwyd yn erbyn pob lot.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllid allanol ar gyfer costau’r gweithgaredd rhanbarthol.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn -

 

(a)       cymeradwyo derbyn y tendrau a gyflwynwyd gan y tri chyflenwr a gwrthod y tendr a gyflwynwyd gan un cyflenwr am y rhesymau y manylir amdanyn nhw yn yr ‘Adroddiad Argymhelliad Dyfarnu Contract’ (Atodiad 1 i’r adroddiad), a

 

(b)       chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

7.

CYNLLUN PENDERFYNIADAU DIRPRWYEDIG ARFAETHEDIG AR GYFER CAFFAEL TIR (RHYDD-DDALIADOL A LESDDALIADOL) AT DDIBENION DAL A STORIO CARBON A GWELLIANNAU ECOLEGOL pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau a'r Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer cynllun penderfyniadau dirprwyedig newydd ar gyfer caffael tir (rhydd-ddaliadol/lesddaliadol) i ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

 (a)      cymeradwyo cyflwyno’r cynllun newydd o wneud penderfyniad dirprwyedig ar gyfer caffael tir (rhydd-ddaliadol a lesddaliadol) i ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol fel y cynigir yn Atodiad 1 yr adroddiad, a

 

 (b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorwyr Brian Jones, Tony Thomas a Julian Thompson-Hill adroddiad ar y cyd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gynllun newydd o ddulliau dirprwyo penderfyniadau er mwyn caffael tir ar gyfer dal a storio carbon ac at ddibenion gwelliannau ecolegol.

                  

Byddai’r newidiadau arfaethedig i’r cynllun dirprwyo yn y bôn yn hwyluso’r broses o gaffael tir er mwyn galluogi’r Cyngor i gyflawni ei Ddatganiad Newid Hinsawdd ac Argyfwng Ecolegol a’r targedau yn ei Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol (2021/22 - 2029/30).  Cyfeiriwyd at y gwaith ymgynghori ac ymgysylltu a wnaed a rhoddwyd sicrwydd y byddai’r dulliau cyfathrebu agored gyda chymunedau a rhanddeiliaid yn parhau yn y dyfodol.  Nodwyd hefyd nad oedd unrhyw fwriad i brynu tir amaethyddol o safon uchel.  O ran cyllid, roedd rhan o’r gyllideb a neilltuwyd ar gyfer rhaglen waith y targed di-garbon net ar gyfer y math hwn o bryniant tir a byddai angen cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer prosiectau unigol dros £1m.  Amlygwyd hefyd y mesurau diogelu sy’n ymwneud â’r broses o lunio penderfyniadau, gyda matrics sgorio eglur ar gyfer asesu tir a chyfranogiad helaeth yr aelodau etholedig a’r swyddogion yn y broses honno.

 

Amlygodd yr Arweinydd y materion sensitif sy’n gysylltiedig â chaffael tir er mwyn gwrthbwyso allyriadau carbon a’r effaith ar gymunedau gwledig yn genedlaethol.  Er hyn, cyfeiriai’r adroddiad at gynigion i ddiwygio’r broses ddirprwyo’n unig ac roedd yn eglur yn y broses asesu safleoedd na chaffaelir tir a ddefnyddir i gynhyrchu bwyd.  Cafodd hefyd gadarnhad ynghylch yr ymgynghoriad parhaus wrth symud ymlaen.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, canolbwyntiodd y drafodaeth ar y meysydd canlynol -

 

·         yn unol â pholisi gwaredu tir y Cyngor, ymgynghorwyd â gwasanaethau mewnol er mwyn canfod a oedd unrhyw ddefnydd ar gyfer y tir cyn y ceir gwared ag ef, ac roedd hyn hefyd yn cynnwys pa mor addas yw’r tir at ddibenion amgylcheddol.

·         byddai gwell mynediad at dir i ymwelwyr yn ystyriaeth allweddol

·         mae digon o adnoddau ar gael ar hyn o bryd yn y Gwasanaethau Cefn Gwlad ar gyfer cynnal a chadw tir ac mae yna fecanwaith drwy Fwrdd y Gyllideb i wneud cais yn flynyddol am gyllid cyfalaf a chyllid refeniw pe bai angen mwy o adnoddau i reoli dulliau caffael tir yn y dyfodol a byddai hynny’n ystyriaeth wrth symud ymlaen.

·         mae’r Cyngor wedi ymrwymo i leihau cymaint â phosibl o’i allyriadau carbon ac mae ystod o dargedau wedi eu gosod i’r perwyl hwnnw, sy’n cynnwys adeiladau a fflyd; mae caffael tir ar gyfer dal a storio carbon yn ffordd arall i gyfrannu at y broses honno a gwrthbwyso allyriadau na ellir cael gwared arnyn nhw.

·         cafwyd rhywfaint o drafodaeth am gwmnïau preifat yn prynu tir ffermio yng Nghymru ar gyfer plannu coed er mwyn gwrthbwyso’u hallyriadau carbon eu hunain, sy’n fater emosiynol ac yn broblem benodol yng nghanolbarth/De Cymru.

·         wrth ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis a natur ddadleuol y mater, derbyniodd yr Arweinydd ei fod yn fater sensitif ond rhoddwyd sicrwydd ynghylch y meini prawf ar gyfer caffael tir (nad oedd yn cynnwys tir amaethyddol/tir cynhyrchu bwyd) a bod y dull yn rhan o raglen o fesurau lleihau carbon a fyddai’n cyfrannu at raglen amgylcheddol y Cyngor.

·         esboniwyd y sgôr cynaliadwyedd (31 / 36) yn yr Asesiad o Effaith ar Les, gan ei fod yn fesur eang a’i fod yn cynnwys integreiddio gyda gweithgareddau eraill a gweithio mewn partneriaeth a’i fod yn gynaliadwy yn yr hirdymor

·         roedd yr adroddiad yn ymwneud â’r broses o wneud penderfyniadau a sicrhau ei bod yn effeithiol a’r aelodau arweiniol oedd y penderfynwyr allweddol ac felly gellid bod yn sicr ei  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

ADEILADAU’R FRENHINES, Y RHYL - CAIS AM GYLLID YCHWANEGOL pdf eicon PDF 320 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol a’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am brosiect Adeiladau’r Frenhines, y Rhyl, a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer yr achos busnes wedi’i ddiweddaru a chyllid ychwanegol i ddarparu Cam 1.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo’r achos busnes a ddiweddarwyd a dyrannu cyllid ychwanegol i’r prosiect fel y manylwyd yn adran 6 a 9 yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyn cyflwyno’r adroddiad, mynegodd yr Arweinydd ei siom fod un o Gynghorwyr Cyngor Sir Ddinbych wedi gwneud datganiad yn y wasg a allai ddifetha enw da’r Cyngor, y prosiect a thref Y Rhyl er mwyn gwella’i sefyllfa ei hun.  Mae Cyngor Sir Ddinbych yn awdurdod agored, tryloyw ac mae cyfle bob amser i aelodau gwestiynu a chraffu y tu hwnt i’r Cabinet.  Mae wedi cymryd blynyddoedd o waith caled i fagu hyder ymhlith trigolion Y Rhyl a buddsoddwyr posibl er mwyn helpu i newid delwedd Y Rhyl ac nid oedd y wybodaeth anghywir yn y wasg wedi helpu gyda hynny.   Os oedd yr aelod yn bresennol, awgrymwyd y dylai wrando ar y drafodaeth, darllen yr adroddiad a nodi ffeithiau’r sefyllfa. [Yn ystod y drafodaeth, lleisiodd aelodau eraill eu barn ar y mater a chanolbwyntiodd yr Arweinydd ar yr adroddiad a’r argymhelliad yn y drafodaeth.]

 

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad ar y cyd â’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill ynghylch diweddaru’r Cabinet am Brosiect Adeiladau’r Frenhines, Y Rhyl gan ofyn am gymeradwyaeth ar gyfer yr achos busnes wedi’i ddiweddaru a chyllid ychwanegol i gyflawni Cam 1 y prosiect.

                                                

Roedd y prosiect yn hanfodol ar gyfer gwaith adfywio tref Y Rhyl a llwyddiant economaidd yr ardal yn y dyfodol a byddai’n ffurfio dolen gyswllt ddefnyddiol wrth gysylltu buddsoddiad ar y promenâd a’r cynigion drwy’r cais i Gronfa Codi’r Gwastad ar gyfer gwelliannau ar y stryd fawr.  Yn ogystal â hyn, amlygwyd llwyddiant rhaglen adfywio ehangach y Cyngor gyda phartneriaid, ac roedd y prosiect yn rhan allweddol o’r rhaglen waith honno er mwyn darparu mannau masnachu a swyddi yn y dref a chamau yn y dyfodol i ddarparu cartrefi newydd a chyflogaeth bellach.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y prosiect ac yn parhau i fod wedi ymrwymo i’r datblygiad.  Amlinellwyd yr elfennau ariannol a’r rhesymeg sy’n gefndir i’r cynnydd yng nghostau’r prosiect yn yr adroddiad ac fe’u trafodwyd ymhellach yn y cyfarfod, ac roedd hynny oherwydd ffactorau a oedd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor ac na ellid eu rhagweld, a oedd yn cynnwys codi lefel llawr gorffenedig yr adeilad er mwyn cwrdd ag amodau cynllunio a chostau cynyddol sy’n gysylltiedig â deunyddiau adeiladu a gwaith dymchwel/cael gwared ag asbestos.  Er bod yr holl ddulliau ariannu posibl yn cael eu hymchwilio er mwyn ymdrin â’r diffyg ariannol i gyflawni Cam 1, ar hyn o bryd byddai angen i’r Cyngor ariannu’r swm llawn sydd ei angen.  Nodwyd y byddai methu â chwblhau’r prosiect yn debygol o olygu y byddai rhan sylweddol o’r grant yn cael ei gymryd yn ôl.

 

Cafodd y Cabinet drafodaeth hir am yr adroddiad a mynegwyd cefnogaeth fel a ganlyn -

 

·         Credai’r Cynghorydd Brian Jones mai parhau â’r prosiect fyddai’r peth iawn i’w wneud ar gyfer Y Rhyl ac roedd yn falch o weld cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a photensial am gyllid Codi’r Gwastad y byddai’r ardal yn elwa ohono; cyfeiriodd hefyd at waith caled yr Aelodau Arweiniol a’r swyddogion ar y prosiect.

·         Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn siomedig fod y costau wedi cynyddu ond roedd yn cydnabod y cynnydd byd-eang mewn costau adeiladu; roedd yn derbyn bod angen adfywio tref Y Rhyl a soniodd am y gwelliannau a welwyd dros y blynyddoedd diwethaf a thalodd deyrnged hefyd i rôl Hamdden Sir Ddinbych Cyf o ran hynny.

·         Roedd y Cynghorydd Mark Young yn sicr na ellid rhagweld y cynnydd yn y costau, gan ddweud bod cost deunyddiau adeiladu wedi codi rhwng 23% a 78%, a nododd y byddai’n fwy cost effeithiol i fwrw ymlaen â’r prosiect nes bydd wedi ei gwblhau, yn hytrach na cholli’r buddsoddiad.  Canmolodd y swyddogion am  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL pdf eicon PDF 231 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer prosiectau a nodwyd ar gyfer eu cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2022/23.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2022/23 yn cael eu cefnogi a’u hargymell i'r Cyngor llawn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad gan geisio cefnogaeth y Cabinet i brosiectau a nodwyd i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2022/23 yn ôl argymhellion y Grŵp Buddsoddi Strategol (GBS) ac fel y nodwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Aeth y Cynghorydd Thompson-Hill â’r aelodau drwy’r adroddiad gan esbonio’r cyllid sydd ar gael ar gyfer dyraniadau bloc ar gyfer rhaglenni gwaith parhaus.   Cyfeiriwyd at waith y GBS o ran adolygu’r ceisiadau am ddyraniadau a rhoddwyd crynodeb o’u hargymhellion ac fe’u trafodwyd ymhellach yn y cyfarfod, a oedd yn cynnwys y ffynhonnell ariannu a argymhellir ar gyfer pob prosiect, ynghyd â’r rhesymeg dros gefnogi’r prosiectau a’r dyraniadau penodol hynny.

 

Ar wahân i hynny, cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at gyhoeddiadau diweddar am gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru a oedd yn datgan y byddai gwaith yn parhau er mwyn manteisio i’r eithaf ar y ffrydiau incwm hynny ac y byddai’n cael ei adrodd yn ôl i’r Cabinet yn y dyfodol wedi hynny, ar ôl yr etholiadau.

 

Ystyriodd y Cabinet yr argymhellion yn yr adroddiad.  Cafwyd ychydig o drafodaeth am y dyraniadau cyllid ar gyfer gwaith isadeiledd a gwaith atgyweirio arall yn ymwneud â phontydd ac, yn dilyn arolwg o gyflwr pontydd, nodwyd bod dyraniad cyllid penodol a chynllun deng mlynedd wedi ei lunio ar y gwaith sydd angen ei wneud.   Gan gofio bod yr arolwg gwreiddiol wedi ei wneud chwe blynedd yn ôl, teimlai’r Cynghorydd Brian Jones y byddai’n werth adolygu’r gwaith hwnnw er mwyn sicrhau bod y sefyllfa ddiweddaraf yn diogelu yn erbyn problemau yn y dyfodol ac fel y gellir blaenoriaethu gwaith fel y bo’n briodol, yn enwedig yn sgil effaith a cholled Pont Llannerch.  Gofynnodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Thompson-Hill drosglwyddo’r neges honno yn ôl i’r swyddogion.

 

PENDERFYNWYD bod y prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2022/23 yn cael eu cefnogi a’u hargymell i'r Cyngor llawn.

 

 

10.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 233 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllido y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

               

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22 oedd £216.818 miliwn (£208.302 miliwn yn 2020/21).

·        rhagwelir y bydd gorwariant o £1.553 miliwn ar gyllidebau gwasanaethau a chyllidebau corfforaethol

·        manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd y cytunwyd arnynt sydd werth £2.666 miliwn yn ymwneud â ffioedd a chostau, arbedion gweithredol, newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau ac ysgolion.

·        tynnwyd sylw at y risgiau a’r tybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, cyllidebau corfforaethol ac ysgolion ynghyd ag effaith y coronafeirws a’r sefyllfa o ran ceisiadau ariannol i Lywodraeth Cymru, a

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a chafwyd diweddariad ar brosiectau mawr.

 

Soniodd y Pennaeth Cyllid am ffrydiau cyllido eraill a fyddai ar gael gan Lywodraeth Cymru tua diwedd y flwyddyn ariannol a fyddai’n effeithio’n gadarnhaol ar y sefyllfa ariannol.  Oherwydd amseriad cyfarfod nesaf y Cabinet ym mis Mawrth ni fydd adroddiad ariannol yn cael ei gyflwyno ond bydd crynodeb o’r datblygiadau ariannol dros y misoedd nesaf yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad sefyllfa derfynol i’r Cabinet a bydd aelodau’n cael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hynny wrth i’r sefyllfa ddatblygu.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         Gofynnodd y Cynghorydd Mark Young am sicrwydd ynghylch cyflwyno ad-daliad prydlon o’r £150,000 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer bandiau A i D treth y cyngor a’r rhai a fydd yn derbyn cynlluniau gostyngiadau treth y cyngor.  Dywedodd y Pennaeth Cyllid, unwaith y byddai manylion y cynllun yn hysbys, cymerir camau i hwyluso’r modd y caiff ei weithredu cyn gynted â phosibl ac amlinellodd y trefniadau tebygol i’r perwyl hwnnw.  Byddai'r aelodau’n derbyn y wybodaeth ddiweddaraf wrth i’r sefyllfa ddatblygu.

·         Soniodd y Cynghorydd Brian Jones am lwyddiant Cynllun Amddiffyn Rhag Llifogydd Dwyrain Y Rhyl a gafodd ei gwblhau’n gynt ac yn rhatach na’r disgwyl, gan ddiogelu 1600 o gartrefi a busnesau rhag llifogydd arfordirol. Cyfeiriodd hefyd at £700,000-£750,000 ychwanegol ar gyfer gwariant priffyrdd yn y flwyddyn ariannol bresennol a chadarnhawyd y disgwylir cadarnhad am y swm gan Lywodraeth Cymru ac oherwydd yr oedi wrth ryddhau cyllid yn y flwyddyn ariannol bresennol, mae’n debygol y bydd y cyllid yn cael ei neilltuo ar gyfer gwaith sydd eisoes wedi’i wneud gan ddefnyddio cyllideb y Cyngor a gafodd ei dwyn ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf.

·         wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bobby Feeley, soniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau am y taliad cadw o £1000 ar gyfer pobl sydd wedi eu cofrestru fel gweithwyr gofal cymdeithasol a fydd hefyd yn elwa o’r cyflog byw gwirioneddol o fis Ebrill ymlaen.  Llywodraeth Cymru a fydd yn gwneud y taliad ond yr awdurdod lleol a fydd yn hwyluso’r broses i dalu staff cymwys.

 

Wrth ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Meirick Davies, adroddodd yr Arweinydd am gynlluniau i ddefnyddio hen safle Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd yn y dyfodol ac mae trafodaethau’n parhau gyda grŵp cymunedol lleol i’r perwyl hwnnw, cytunodd hefyd y byddai’n canfod a yw perchnogaeth y tir wedi ei throsglwyddo o’r Esgobaeth i’r Cyngor. O ran incwm cynllunio, cadarnhaodd y Cynghorydd Mark Young fod gweithgarwch wedi prysuro a bod swyddogion yn cydweithio er mwyn cynyddu incwm a sicrhau bod y gwasanaeth yn fwy cynaliadwy wrth symud ymlaen.

 

PENDERFYNWYD y bydd y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllido y cytunwyd arni.

 

 

11.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 281 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau’r diwygiadau canlynol –

 

·         cynhelir y cyfarfod nesaf a drefnwyd yn gynharach ar 15 Mawrth er mwyn iddo gael ei gynnal cyn y cyfnod cyn yr etholiad a fydd yn dechrau ar 18 Mawrth

·         Fframwaith Ymgynghoriaeth Gogledd Cymru - mae’r eitem wedi ei haildrefnu o fis Mawrth i fis Gorffennaf

·         Eitemau o’r Pwyllgorau Craffu: Cael Gwared â Nwyddau na ellir eu Hailgylchu yn y Gwasanaethau Arlwyo mewn Ysgolion - mis Mawrth

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.30 pm.