Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

NEGES O GYDYMDEIMLAD

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y newyddion trist fod y cyn-Gynghorydd Sir, Robert Lloyd Williams, wedi marw’n ddiweddar a mynegodd ei gydymdeimlad.  Gwnaeth Mr Lloyd Williams gyfraniad gwerthfawr i Sir Ddinbych dros y blynyddoedd ac roedd yn uchel iawn ei barch.  Byddai teyrnged arall yn cael ei thalu i Mr Lloyd Williams yn y Cyngor Sir yr wythnos ganlynol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIADAU pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Bobby Feeley – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 6 ar yr Agenda

Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 6 ar yr Agenda

Y Cynghorydd Tony Thomas – Cysylltiad Personol - Eitem Rhif 7 ar yr Agenda

Y Cynghorydd Meirick Davies – Cysylltiad Personol - Eitem Rhif 8 ar yr Agenda

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Bobby Feeley a Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol ag eitem 6 ar y rhaglen – Estyniad i Gontract y Gwasanaethau Hamdden, gan eu bod ill dau’n gyfarwyddwyr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig.

 

Datganodd y Cynghorydd Tony Thomas gysylltiad personol ag eitem 7 ar y rhaglen – Gwerthuso’r Dewisiadau ar gyfer Model Darparu Gwasanaeth newydd ar gyfer y Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau gan ei fod yn Gadeirydd ar Ardal Gwella Busnes y Rhyl (un o gwsmeriaid Civica).

 

Datganodd y Cynghorydd Meirick Davies gysylltiad personol ag eitem 8 ar y rhaglen – Gosod Rhenti Tai a Chyllidebau Refeniw a Chyfalaf Tai 2022/23 gan ei fod yn rhentu garej gan y cyngor.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 397 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2021 (copi’n amgaeedig). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2021 fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2021.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn gofnod cywir.

 

 

5.

DYFARNU CONTRACT CYFLENWI DEUNYDDIAU AR GYFER CYNNAL A CHADW TAI DRWY FFRAMWAITH CYMRU GYFAN ADRA pdf eicon PDF 224 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu’r contract ar gyfer cyflenwi deunyddiau adeiladu i’r Adran Cynnal a Chadw Tai i Travis Perkins drwy Fframwaith Deunyddiau Cymru Gyfan Adra.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo mynd i gontract cyflenwi deunyddiau adeiladu gyda Travis Perkins drwy Fframwaith Deunyddiau Cymru Gyfan Adra am gyfnod o bedair blynedd, ac yn

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas yr adroddiad a cheisiodd gymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu'r contract nesaf ar gyfer cyflenwi deunyddiau adeiladu i'r Adran Cynnal a Chadw Tai i Travis Perkins drwy Fframwaith Deunyddiau Cymru Gyfan Adra.

 

Soniwyd wrth y Cabinet am y contractau blaenorol a ddyfarnwyd yn dilyn proses dendro a’r cynnig i ddefnyddio'r fframwaith cyflenwr unigol newydd dros Gymru gyfan a sefydlwyd gan Gymdeithas Dai Adra ar gyfer y contract cyflenwi deunyddiau nesaf pan ddaw'r contract presennol i ben yn fuan yn 2022. Amlinellwyd manylion y fframwaith a’i rinweddau yn yr adroddiad ac roedd yn cynnwys darparu gwasanaethau o ansawdd uchel, dewisiadau gwerth ychwanegol, technolegau adnewyddadwy a deunyddiau carbon isel ynghyd ag arbedion cost a manteision i’r gymuned.  Ymhelaethodd y swyddogion ymhellach am y rhinweddau hynny yn y cyfarfod a rhoddwyd enghreifftiau ymarferol hefyd o’r manteision gweithredol, gyda chyflenwad parod o ddeunyddiau drwy ddefnyddio storfeydd anghysbell.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Mainon at yr 1.5% o fanteision cymunedol sydd wedi cronni (tua £5000-6000 y flwyddyn) ac awgrymodd y dylid dyrannu incwm i Gadeirydd cronfa ddewisol y Cyngor er mwyn manteisio i’r eithaf ar ei ddefnydd ar gyfer achosion da a’i wneud yn haws i’w weinyddu.  Cytunwyd y dylid dwyn yr awgrym ymlaen i gael ei ystyried yn y dyfodol ar y cam priodol yn y broses.  Cafwyd ychydig o drafodaeth hefyd am ba mor gyfnewidiol yw cost deunyddiau a'r gobaith y bydd prisiau'n sefydlogi ac yn gostwng, a byddai'r arbedion maint a gynigir gan y fframwaith newydd yn helpu i liniaru pryderon ynghylch prisiau drud ar ddeunyddiau a pha stoc sydd ar gael.  Rhoddwyd sicrwydd y gwneir ymdrech i gaffael gan gyflenwyr lleol lle bo hynny'n bosibl o dan y fframwaith newydd a phan fo angen byddai gweithredwyr yn defnyddio cyflenwyr lleol pan fo hynny'n gyfleus ac yn fanteisiol o safbwynt gweithredol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

 (a)      cytuno i ymrwymo i gontract cyflenwi deunyddiau adeiladu gyda Travis Perkins drwy Fframwaith Deunyddiau Cymru Gyfan Adra am gyfnod o bedair blynedd, a

 

 (b)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

6.

ESTYNIAD I GONTRACT Y GWASANAETHAU HAMDDEN pdf eicon PDF 212 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cytundeb y Cabinet i ymestyn telerau contract y gwasanaethau hamdden a wnaed rhwng y Cyngor a Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig o flwyddyn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno i roi estyniad am gyfnod o ddeuddeng mis i gyfnod contract gwasanaethau hamdden a wnaed rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Denbighshire Leisure Limited ar 1 Ebrill 2020 yn unol â chymal 2.2 y contract.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn hyd y contract gwasanaethau hamdden a wnaed rhwng y Cyngor a Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig am un flwyddyn ychwanegol.

                              

Rhoddwyd ychydig o gyd-destun am sut y sefydlwyd Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig ynghyd â darpariaethau'r contract a'r rhesymau dros argymell y dylid ymestyn y contract.  Daeth y contract i rym ar 1 Ebrill 2020 am gyfnod o ddeng mlynedd, gan ddod i ben ar 31 Mawrth 2030. Roedd Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig wedi gofyn i’r Bwrdd Llywodraethu Strategol ystyried a ellid argymell estyniad o ddeuddeg mis i’r contract, gan gofio ei fod, i bob pwrpas, wedi colli blwyddyn o weithredu yn sgil Covid-19, a wnaeth amharu’n ddifrifol ar allu Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig i gynnig y gwasanaethau roedd dan gontract i’w darparu a gwelwyd effaith hefyd o safbwynt derbyn grantiau a derbyn busnes newydd yn y dyfodol, a oedd yn eu gadael dan anfantais wrth gystadlu am fusnes.  Roedd y Bwrdd Llywodraethu Strategol wedi ystyried y cais am estyniad o ddeuddeg mis ac awgrymodd wrth y Cabinet y dylid ei ganiatáu.  Nodwyd pe bai’r estyniad yn cael ei ganiatáu, bod gan y Cyngor yr hawl, pe bai’n dymuno gwneud hynny, i ganiatáu i’r contract gael ei ymestyn unwaith eto am gyfnod hyd at 12 mis.

 

Holodd y Cynghorydd Meirick Davies am effaith ariannol y difrod a wnaed i Theatr Pafiliwn Y Rhyl a Bwyty/Bar 1891 yn y llifogydd a chytunwyd y byddai’r Cynghorydd Bobby Feeley yn ymateb yn uniongyrchol i’r Cynghorydd Davies y tu allan i'r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno i roi estyniad am gyfnod o ddeuddeg mis i dymor contract y gwasanaethau hamdden a ffurfiwyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig ar 1 Ebrill 2020 yn unol â chymal 2.2 yn y contract.

 

 

7.

GWERTHUSIAD O’R DEWISIADAU AR GYFER MODEL DARPARU GWASANAETH NEWYDD AR GYFER Y GWASANAETH REFENIW A BUDD-DALIADAU pdf eicon PDF 224 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ar y dewisiadau ar gyfer model darparu gwasanaethau newydd ar gyfer y Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau, a cheisio ardystiad y Cabinet o’r argymhelliad i drosglwyddo'r gwasanaeth yn ôl i’r Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, wedi adolygu ac ystyried y dewisiadau a amlinellir ac a werthusir yn yr adroddiad parthed model newydd cyflenwi gwasanaethau ar gyfer y gwasanaethau refeniw a budd-daliadau, bod y Cabinet yn ardystio’r argymhellion a wnaed gan dîm y prosiect, gan ganiatáu’r awdurdodiad i swyddogion CSDd ddechrau trafodaethau ac ymgysylltiad gyda Civica a phartïon eraill, er mwyn mynd rhagddo gyda’r argymhelliad o ddod â’r gwasanaeth refeniw a budd-daliadau yn ôl i’r Cyngor mewn trawsnewidiad effeithiol heb unrhyw effaith niweidiol ar ddarparu’r gwasanaeth ac mewn cyfnod derbyniol o amser.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad am y dewisiadau ar gyfer model darparu gwasanaeth newydd ar gyfer y Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cabinet i’r argymhelliad y dylid trosglwyddo'r gwasanaeth yn ôl i'r Cyngor.

 

Ers 2014, Civica a fu'n gyfrifol am weinyddu'r contract i ddarparu Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau'r Cyngor drwy gytundeb arddull partneriaeth a weithiodd yn hynod o effeithiol.  Er hyn, am resymau masnachol, mae Civica yn dymuno ailedrych ar eu cyfeiriad strategol a dod â’u trefniadau partneriaeth ag awdurdodau lleol i gyd i ben cyn gynted â phosibl.  Cynhaliwyd gwerthusiad dewisiadau ar y ffordd ymlaen a chafodd pum dewis eu gwerthuso drwy edrych ar gost eu darparu ac ansawdd y gwasanaeth.  Cafodd yr aelodau eu harwain drwy’r gwerthusiad o ddewisiadau gan y Cynghorydd Thompson-Hill yn ogystal â’r rhesymau a arweiniodd at yr argymhelliad y dylid trosglwyddo’r gwasanaeth yn ôl i’r Cyngor.  Os byddai’r Cabinet yn cymeradwyo'r argymhelliad, gellid dechrau trafodaethau gyda Civica a gellid dod â’r sefyllfa a drafodwyd yn ôl gerbron y Cabinet.  Ychwanegodd swyddogion fod y bartneriaeth wedi gweithio’n dda ond bod penderfyniad Civica wedi rhoi cyfle i ddarparu gwasanaeth effeithlon a chreu arbedion heb unrhyw effeithiau negyddol.

 

Cafwyd trafodaeth am yr adroddiad rhwng y Cabinet a’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion a soniwyd am y penderfyniad gwreiddiol i roi’r gwasanaeth ar gontract allanol a chodwyd cwestiynau am rinweddau’r penderfyniad hwnnw a’r newid yn y dull er mwyn dod â’r gwasanaeth yn fewnol unwaith eto.  Esboniwyd bod y bartneriaeth wedi bod yn un llwyddiannus i'r ddwy ochr ond bod Civica wedi llunio penderfyniad strategol i ganolbwyntio ar elfen meddalwedd  y busnes wrth symud ymlaen, ac nad oedd hyn yn unrhyw adlewyrchiad ar y Cyngor na’r partneriaid eraill.  Roedd y contract wedi creu arbedion a gweithiodd yn dda i breswylwyr a staff, a buddsoddodd Civica mewn systemau meddalwedd a phrosesau ailddylunio, gan arwain at wasanaeth gwell, wedi’i symleiddio, a daeth ei effeithiolrwydd i'r amlwg pan weinyddwyd grantiau cymorth i fusnesau yn ystod pandemig y coronafeirws.  Gan gofio’r newid o ran amgylchiadau a'r gwerthusiad dewisiadau wedi hynny, awgrymwyd y dylai’r gwasanaeth gael ei drosglwyddo'n fewnol unwaith eto a byddai hynny'n arwain at arbediad cost o tua £341,000 ym mlwyddyn 1. Wrth ymateb i gwestiynau pellach, dywedwyd wrth y Cabinet na ellid dechrau trafodaethau ffurfiol gyda Civica nes byddai penderfyniad ffurfiol wedi ei wneud drwy’r Cabinet; credwyd y byddai trosglwyddo’r gwasanaeth yn ôl yn fewnol yn cael ymateb cadarnhaol gan staff, ac o ran cwsmeriaid eraill, byddai unrhyw rwymedigaethau dan gontract yn cael eu trosglwyddo’n awtomatig gyda’r gwasanaeth.

 

Teimlai'r Arweinydd fod y penderfyniad cywir wedi ei wneud i roi’r contract i Civica yn 2014, gan ei fod wedi arwain at wella'r gwasanaeth a chynnig manteision i gwsmeriaid.  Fe wnaeth ganmol y gwerthusiad eglur o’r dewisiadau a amlinellwyd a’r rhesymau eglur a arweiniodd at yr argymhelliad, er mwyn ymateb yn y ffordd orau i’r newid mewn amgylchiadau a roddodd gyfle i gadw gwasanaeth o ansawdd da a chreu arbedion o ran costau ar yr un pryd.

 

Gwahoddwyd cwestiynau/sylwadau gan rai nad oedd yn aelodau o'r Cabinet a chafwyd cefnogaeth eang i'r argymhelliad.  Atebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion -

 

·         y byddai staff presennol sy’n gweithio o dan y contract yn trosglwyddo ymgymeriadau diogelu cyflogaeth yn ôl i’r awdurdod

·         roedd gofyn i Civica gydymffurfio â pholisi'r Cyngor o ran y Gymraeg a byddai dod â'r gwasanaeth yn ôl yn fewnol yn cryfhau'r ddarpariaeth honno ymhellach

·         llwyddodd y contract i arbed £200,000 yn y flwyddyn gyntaf a £100,000 ychwanegol ym mlwyddyn 2/3, gan arwain at arbediad cyffredinol o £300,000 – byddai rhagor o arbedion yn cael eu gwneud  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

GOSOD RHENT TAI, A CHYLLIDEBAU REFENIW A CHYFALAF 2022/23 pdf eicon PDF 235 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), yn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer cynnydd rhent blynyddol Tai Sir Ddinbych, Cyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai a Chyllidebau Refeniw ar gyfer 2022/21, a Chynllun Busnes y Stoc Dai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)       mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2022/23 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad);

 

(b)       cynyddu rhent anheddau'r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhent Tai Cymdeithasol i rent wythnosol cyfartalog o £97.27 i’w weithredu o ddydd Llun 4 Ebrill 2022;

 

(c)        nodi’r adroddiad ychwanegol (Atodiad 3 i’r adroddiad) am Effeithiolrwydd Cost, Fforddiadwyedd a Gwerth am Arian, a

 

(ch)     bod y Cabinet yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y cynnydd rhent blynyddol ar gyfer Tai Sir Ddinbych, Cyllidebau Cyfalaf a Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2022/23 a Chynllun Busnes y Stoc Dai.

 

Fe arweiniodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr aelodau drwy’r adroddiad gan fanylu ar ffigurau’r gyllideb a thybiaethau o ran lefel incwm a gyfrifwyd er mwyn gallu darparu gwasanaethau refeniw, y rhaglen buddsoddi cyfalaf i gynnal safonau ansawdd tai ac i ddatblygu’r rhaglen adeiladu newydd.  Roedd adolygiad blynyddol Cynllun Busnes y Stoc Dai yn dangos ei fod yn parhau’n gadarn ac yn ariannol hyfyw a bod digon o adnoddau i gefnogi’r gwasanaeth tai ac anghenion buddsoddi’r stoc.  O ran y cynnydd rhent blynyddol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bolisi rhent pum mlynedd ym mis Rhagfyr 2019 ar gyfer rhent tai cymdeithasol a chyfrifwyd y rhenti a osodwyd gan ystyried y polisi a’r mecanwaith hwnnw ar gyfer codi rhent.  Y codiad ar gyfer 2022/23 oedd 3.1% CPI gan arwain at rent wythnosol cyfartalog o £97.27 (cynnydd cyfartalog o £2.92 mewn rhent wythnosol). Fel rhan o’r broses gosod rhenti, ystyriwyd y fforddiadwyedd i denantiaid, gwerth am arian ac asesiad o effeithlonrwydd cost a amlinellwyd yn yr adroddiad.  Er bod 2021 wedi bod yn flwyddyn anodd o ran sefyllfa ariannol cartrefi ac y byddai hynny’n parhau yn 2022, ystyriwyd bod fforddiadwyedd rhenti wythnosol yn rhesymol.

 

Ychwanegodd y Swyddog Arweiniol – Tai Cymunedol y byddai’r cynnydd yn arwain at £500,000 o gyllid ychwanegol yn y cynllun busnes bob blwyddyn a rhoddodd drosolwg o’r gwariant, gan ddweud bod tenantiaid y cyngor wedi cydnabod y defnydd effeithlon a wneir o gyllid yn arolwg y tenantiaid, gydag 85% yn datgan eu bod yn cael gwerth am arian o’u rhent.  Soniwyd am yr effaith a gafwyd ar sefyllfa ariannol cartrefi a dilynodd y gwasanaeth lwybr cefnogol drwy ddarparu cyngor a chymorth yn ymwneud â chyllidebu.  Ar gais y Cynghorydd Tony Thomas, rhoddodd y Swyddog Arweiniol adroddiad am y meddalwedd incwm rhenti a gyflwynwyd er mwyn rhagfynegi ôl-ddyledion rhent a bu’n llwyddiannus er mwyn lliniaru/lleihau ôl-ddyledion, gan roi mwy o amser i staff gefnogi tenantiaid.

 

Roedd y Cabinet yn cydnabod yr angen i gydbwyso lefel y cynnydd mewn rhent er mwyn diwallu anghenion buddsoddi yn y stoc dai yn y dyfodol yn erbyn y fforddiadwyedd ar gyfer tenantiaid.

 

Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau’r aelodau fel a ganlyn -

 

·         cafodd balansau eu cario ymlaen a chafodd rhywfaint o wariant cyfalaf ei ohirio oherwydd y pandemig - roedd yn bolisi gan y cyngor i gadw lleiafswm balans o £1m wrth gefn

·         fe wnaeth 72% o gartrefi tenantiaid dderbyn cymorth ariannol ar gyfer costau tai a byddai’r budd-dal yn ddigon i dalu am y cynnydd yn y cartrefi hynny

·         rhoddwyd mwy o fanylion am y mesurau fforddiadwyedd gan roi enghreifftiau o gartrefi gwahanol er mwyn dangos pa mor gymhleth yw’r asesiadau hynny

·         yn gyffredinol, roedd lefel rhent y Cyngor fymryn yn is na chymdeithasau tai ac awdurdodau lleol eraill, a darparwyd gwasanaeth cyfatebol neu well

·         mae'r angen i fuddsoddi yn y stoc dai yn hanfodol er mwyn cwrdd â safonau ansawdd a thargedau datgarboneiddio, ac adeiladu cartrefi newydd er mwyn diwallu’r angen am dai

·         roedd y cynnydd mewn rhent yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru ac roedd y CPI wedi codi ers hynny at 5.1% a fyddai'n effeithio ar ddulliau ariannu gwaith tai yn y dyfodol

·         byddai rhewi lefelau rhent yn arwain at golled gylchol o £500,000 a byddai effaith niweidiol ar fuddsoddiad yn y stoc dai yn y dyfodol, na ellid ei ddigolledu mewn blynyddoedd i ddod

·         ni ellid lliniaru’r cynnydd rhent drwy  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

CYLLIDEB 2022/21 - CYNIGION TERFYNOL pdf eicon PDF 266 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) sy’n nodi goblygiadau Setliad Llywodraeth Leol a’r cynigion i ddod i gyllideb derfynol ar gyfer 2022/23.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi effaith Setliad Drafft Llywodraeth Leol 2022/23;

 

(b)       cefnogi’r cynigion a amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad, ac y manylir arnynt yn Adran 4 yr adroddiad, ac yn eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn llunio’r gyllideb yn derfynol ar gyfer 2022/23;

 

(c)        argymell i’r Cyngor y cynnydd cyfartalog arfaethedig o 2.95% yn y Dreth Gyngor;

 

(ch)     argymell i’r Cyngor bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o arian sydd wedi’i gynnwys yng nghynigion y gyllideb o hyd at £500mil os oes yna symud rhwng ffigyrau’r setliad drafft a’r setliad terfynol er mwyn gallu gosod y Dreth Gyngor yn amserol, a

 

(d)       cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 i’r adroddiad).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn amlinellu goblygiadau Setliad drafft Llywodraeth Leol 2022/23 a'r cynigion ar gyfer cyllideb derfynol 2022/23, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Thompson-Hill drosolwg o broses y gyllideb a sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb ac ymhelaethodd ar y cynigion i’w hystyried a’r argymhelliad i’r Cyngor llawn er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2022/23. Roedd y setliad drafft wedi arwain at setliad cadarnhaol o +9.2% (o’i gymharu â chyfartaledd Cymru sef 9.4%) a disgwylir y setliad terfynol ar 1 Mawrth 2022. O fewn y ffigur hwnnw, roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod am rai cyfrifoldebau newydd, ond nid oedd canlyniadau cyllido eglur ar gyfer pob un ohonyn nhw yn y data, a amlinellwyd yn yr adroddiad.  Rhoddwyd manylion am bwysau gwerth £17.628m ac roedd y setliad o +9.2% yn cynhyrchu £15.005 miliwn gan adael bwlch cyllido gwerth £2.623m gyda chynigion i gau’r bwlch hwnnw wedi eu nodi yn yr adroddiad a’u hegluro ymhellach yn y cyfarfod.  Cynigiwyd cynnydd o 2.95% yn Nhreth y Cyngor er mwyn cynhyrchu £1.869m o refeniw ychwanegol.  Gan fod y setliad terfynol yn hwyr, argymhellwyd y dylid dirprwyo awdurdod er mwyn galluogi addasiadau arian parod yng nghynigion y gyllideb hyd at £500,000.  Nodwyd bod y setliad drafft hefyd yn cynnwys codiadau setliad cyfartalog dangosol o 3.5% ar gyfer 2023/24 a 2.4% ar gyfer 2024/25. Yn olaf, cyfeiriwyd at yr ymgynghoriad eang ar broses y gyllideb a chyfranogiad pob grŵp gwleidyddol yn hynny o beth, yn cynnwys cyflwyno’r pwysau/arbedion a ddygwyd ymlaen.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid, er ei fod yn setliad anarferol o uchel, roedd yn cynnwys cyfrifoldebau ychwanegol ac adroddodd am asesiadau ariannu’r elfennau newydd hynny a gwaith gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Swyddogion S.151 mewn perthynas â hynny a thybiaethau ariannu dilynol.  O ran cynnydd yn Nhreth y Cyngor, roedd yr arwyddion presennol ar draws Cymru yn amrywio rhwng 2.95% a 4.95%.

                                                    

Gwnaeth y Cabinet drafod cynigion y gyllideb ac fe ganolbwyntiodd y drafodaeth ar y materion canlynol -

 

·        ar gais y Cynghorydd Brian Jones er budd preswylwyr, rhoddodd yr Aelod Arweiniol fanylion am yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ar broses y gyllideb ac esboniodd yr acronymau a ddefnyddiwyd, gan ddangos cyfranogiad yr holl uwch swyddogion a’r aelodau etholedig yn y broses honno, yn ogystal ag ysgolion ac undebau llafur. 

Rhoddwyd cyfle i’r holl aelodau etholedig roi mewnbwn i’r broses a chynhaliwyd cyfarfodydd ychwanegol gydag Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol er mwyn cyflwyno pwysau/arbedion. Cafodd pwysau/arbedion a gyflwynwyd gan y grwpiau gwleidyddol eu trafod yn y gweithdy ar gyllideb y cyngor ym mis Rhagfyr ac estynnwyd gwahoddiad i bob aelod etholedig fynychu’r gweithdy hwnnw.

·        Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn falch o nodi y byddai gweithwyr yn sector gofal cymdeithasol y Cyngor a sector gofal cymdeithasol y sector preifat yn derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol a theimlai bod hyn yn gam cyntaf pwysig. 

Er hyn, er gwaethaf y cynnydd, roedd gwaith ar ôl i’w wneud er mwyn sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn derbyn tâl teg a haeddiannol am y gwaith maen nhw'n ei wneud ac mae yna argyfwng recriwtio difrifol yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol ar hyn o bryd sy’n rhoi pwysau ychwanegol ar y staff presennol

·        wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mark Young ynghylch gweithredu taliadau’r Cyflog Byw Gwirioneddol i staff gofal cymdeithasol, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:

Roedd cymunedau’n cydnabod y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â’r gwaith hwnnw a soniwyd y byddai cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn fuan gyda chydweithwyr a phartneriaid er mwyn penderfynu beth fyddai'r ffordd orau i fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw yn y dyfodol.  Rhoddwyd sicrwydd bod y  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 234 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllido y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22 oedd £216.818 miliwn (£208.302 miliwn yn 2020/21).

·        rhagwelir y bydd gorwariant o £1.641 miliwn ar gyllidebau gwasanaeth a chyllidebau corfforaethol

·        manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd y cytunwyd arnynt gwerth £2.666 miliwn yn ymwneud â ffioedd a chostau, arbedion gweithredol, newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau ac ysgolion.

·        tynnwyd sylw at y risgiau a’r tybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, cyllidebau corfforaethol ac ysgolion ynghyd ag effaith ariannol y coronafeirws a’r sefyllfa o ran ceisiadau ariannol i Lywodraeth Cymru, a

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a chafwyd diweddariad ar brosiectau mawr.

                         

Cyfeiriodd y Cynghorydd Brian Jones at lwyddiant Parc Adfer sy’n rhan o Brosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru yng Nglannau Dyfrdwy, sy’n prosesu gwastraff gweddilliol yn hytrach na’i roi mewn safleoedd tirlenwi.  Mae’r cynnydd yn y defnydd a wneir o’r cyfleuster yn ymateb cadarnhaol i’r rhaglen newid hinsawdd.  Roedd y Cynghorydd Thompson-Hill yn cydnabod y pwysau yn ystod y flwyddyn o ran y ffioedd a godir ar ddefnyddwyr y gwasanaeth ar y giatiau ond byddai’r gost yn cael ei had-dalu yn y flwyddyn ariannol nesaf.  Byddai rhagor o waith yn cael ei wneud er mwyn dod o hyd i gyllid er mwyn ymdrin â’r pwysau ond, os na fyddai digon o arian ar gael, byddai’n cael ei gyflwyno fel pwysau gwasanaeth yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

PENDERFYNWYD y bydd y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllido y cytunwyd arni.

 

 

11.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 371 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried.

 

Nododd yr Aelodau fod yr eitem am ‘Gymeradwyo Dyfarnu Contract ar gyfer Fflyd Gwastraff newydd i gefnogi'r Model Gwasanaethau Gwastraff newydd’ wedi cael ei haildrefnu o fis Chwefror i fis Mawrth, a bod cyfarfod y Cabinet wedi cael ei newid o 22 Mawrth i 15 Mawrth.  Nodwyd hefyd y bydd yr Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru yn cael ei ystyried yn y Cyngor llawn.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i’r swyddogion am yr adroddiadau manwl ac am ateb cwestiynau a diolchodd hefyd i’r aelodau am fod yn bresennol ac am lefel yr herio a’r cwestiynu.  Roedd yr Arweinydd yn cefnogi ac yn ategu’r teimladau hyn.

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.00pm.