Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: TRWY CYFRWNG FIDEO

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorydd Melvyn Mile gysylltiad personol ag eitem 5 ar y rhaglen – Cynllun Gwella Heol y Castell Llangollen 2020 gan ei fod yn aelod o Gyngor Tref Llangollen.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Melvyn Mile gysylltiad personol gydag eitem 5 ar y rhaglen – Cynllun Gwella Heol Y Castell  Llangollen 2020 gan ei fod yn aelod o Gyngor Tref Llangollen.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ailddatblygiad arfaethedig o hen Safle Llyfrgell Prestatyn - cymeradwyaeth i ddechrau'r broses dendro (ystyriwyd y mater hwn fel rhan o'r Adroddiad Cyllid o dan eitem 6 ar yr agenda)

Cofnodion:

Ailddatblygiad Arfaethedig cyn Safle Llyfrgell Prestatyn  - cymeradwyaeth i ddechrau'r broses dendro

 

Byddai’r mater hwn yn cael ei ystyried fel rhan o’r Adroddiad Cyllid (eitem rhif 6 ar yr agenda).

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 321 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2021 (copi’n amgaeedig).  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2021 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2021 eu cyflwyno.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2021 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

PROSIECT GWELLA HEOL Y CASTELL, LLANGOLLEN, 2020 pdf eicon PDF 223 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd (copi ynghlwm) sy’n gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i barhau i weithredu Prosiect Gwella Heol Y Castell Llangollen 2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo gweithredu Prosiect Gwella Heol y Castell Llangollen 2020, yn cynnwys y diwygiadau a geir yn Atodiad A a wnaethpwyd yn dilyn ymgysylltu â'r cyhoedd a chyda cytundeb aelodau lleol, ac yn

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad C) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad gan geisio cymeradwyaeth y Cyngor i symud ymlaen a rhoi Prosiect Gwella Heol y Castell Llangollen 2020 ar waith.  O ystyried yr amcangyfrif o gost y prosiect sef £1.75 miliwn a’r diddordeb cymunedol sylweddol yn y cynllun ceisiwyd penderfyniad gan y Cabinet er mwyn cymeradwyo ei roi ar waith.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod wedi cerdded llwybr y cynllun gyda swyddogion a thrigolion ac roedd yn falch o nodi'r ymateb cadarnhaol i'r gwelliannau arfaethedig a’r buddsoddiad sylweddol yn yr ardal.  Roedd yr ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd cynhwysfawr a’r ymateb i adborth yn nodi yn glir y gwrandawyd ar drigolion a busnesau a bod y Cyngor wedi gweithio gyda nhw i fynd i’r afael â phroblemau a phryderon, oedd wedi golygu newidiadau i’r cynllun, a byddai modd gwneud addasiadau pellach fel bo’n briodol.  Wrth ganmol y prosiect dywedodd y Cynghorydd Jones fod Aelod Senedd Cymru ac Aelod Senedd y DU hefyd yn cefnogi’r prosiect ac anogodd y Cabinet i gymeradwyo rhoi’r cynllun ar waith.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ar Y Ffyrdd (TPRSM) gyflwyniad ar fanylion y cynllun, oedd yn fras, yn cynnwys cyfeiriad at y canlynol -

 

·        gwaith Grŵp Llangollen 2020 yn cychwyn prosiect i ystyried traffig, parcio, diogelwch cerddwyr a materion parth cyhoeddus yng nghanol y dref

·        sicrhawyd cyllid gan Cadwyn Clwyd a Chyngor Tref Llangollen i gynnal astudiaeth ddichonoldeb yn ceisio barn pobl drwy amrywiaeth o ymarferion ymgysylltu a llwyfannau cyfryngau a nododd nifer o bryderon.

·        amlygwyd pryderon presennol gan gynnwys traffig a thagfeydd yn ymwneud â pharcio, palmentydd yn rhy gul, anawsterau i gerddwyr wrth groesi Heol y Castell a chyflwr gwael y parth cyhoeddus.

·        roedd cynigion dylunio manwl wedi eu datblygu yn seiliedig ar ganfyddiadau’r astudiaeth ddichonoldeb er mwyn creu amgylchedd oedd yn fwy cyfeillgar i gerddwyr, gyda llai o barcio ar y stryd ac yn darparu mannau llwytho i fusnesau, roedd argraffiadau arlunydd hefyd wedi eu darparu i ddangos sut fyddai’r newidiadau arfaethedig yn edrych

·        £1.75 miliwn yw’r amcangyfrif o gyfanswm cost y prosiect, sy’n cynnwys cyfraniad o £780,000 gan y Cyngor a chyllid grant Llywodraeth Cymru o £970,000

·        roedd ymarfer ymgysylltu cynhwysfawr â’r cyhoedd wedi ei gynnal ar y cynigion dylunio, a darparwyd trosolwg o farn pobl am y prosiect – yn gyffredinol roedd 64% o’r farn fod y cynllun yn syniad da a 36% o’r farn nad oedd yn syniad da yn gyffredinol

·        roedd adborth o’r gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd wedi golygu rhai newidiadau arfaethedig i’r dyluniad er mwyn gwneud gwelliannau pellach ac i liniaru pryderon a fynegwyd. 

Ehangwyd ar y prif faterion a godwyd gydag eglurhad o’r newidiadau arfaethedig o ganlyniad i hynny, a rhesymau pam na wnaed newidiadau arfaethedig o ganlyniad i broblemau eraill

·        Roedd y  prosiect yng Ngham 1 a dylai’r Cabinet gymeradwyo ei roi ar waith gan fod camau pwysig eraill angenrheidiol nawr i ddilyn fel rheoli parcio o amgylch y dref, llwybrau teithio llesol, arwyddion a chyflwyno cyfyngiad pwysau amgylcheddol

·        Amlygwyd y camau nesaf, pe bai Cabinet yn cymeradwyo’r cynllun, gyda’r gwaith adeiladu i gychwyn ym mis Medi 2021 er mwyn ei gwblhau yn mis Mawrth 2022.

 

Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad at y gwaith ymgysylltu cynhwysfawr a’r broses ymgynghori fel un arbennig o werthfawr gydag ymgysylltiad sylweddol gan y gymuned, aelodau lleol, cyngor y dref a busnesau, a bod newidiadau sylweddol wedi eu gwneud i’r cynigion dylunio o ganlyniad i’r broses honno.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd y ddau aelod lleol i siarad am y prosiect.

 

Amlygodd y Cynghorydd Melvyn Mile ganlyniad y broses ymgynghori gydag oddeutu dwy ran o dair o  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 232 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn

 

(b)       cymeradwyo cychwyn proses dendro mewn perthynas ag ailddatblygiad hen lyfrgell Prestatyn a chodi 14 rhandy un ystafell wely rhent cymdeithasol a dwy uned fasnachol ar y llawr gwaelod.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

 

·        {0>the net revenue budget for 2021/22 was £216.818m (£208.302m in 2020/21)y gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22 oedd £216.18 miliwn (£208.302 miliwn yn 2020/21).<0}

·        {0>an overspend of £0.708m was forecast for service and corporate budgetsrhagwelir y byddai gorwariant o £0.708 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol.<0}

·        {0>detailed agreed savings and efficiencies worth £4.448m relating to fees and charges, operational efficiencies, changes in service provision and schoolsmanylodd am arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £4.448 miliwn o ran ffioedd ac arwystlon, arbedion gweithredol, newidiadau i ddarpariaeth gwasanaeth ac ysgolion <0}

·        {0>highlighted current risks and assumptions relating to individual service areas, corporate budgets and schools together with the impact of coronavirus and position on funding claims to the Welsh Governmenttynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, cyllidebau corfforaethol ac ysgolion ynghyd ag effaith ariannol coronafeirws a’r sefyllfa o ran ceisiadau ariannol i Lywodraeth Cymru. <0}

·        {0>a general update on the Housing Revenue Account and Housing Capital Plan, Treasury Management and Capital Plan with an update on major projects.rhoddwyd y wybodaeth gyffredinol ddiweddaraf ynghylch Y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai, Rheoli Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf gyda diweddariad ar brosiectau mawr.<0}

 

{0>Cabinet approval was also sought for an urgent matter not included in the report and further recommendation relating to the commencement of a tender process in respect of the proposed redevelopment of the former Prestatyn Library site.<}0{>Ceisiwyd cymeradwyaeth y Cabinet hefyd am fater brys nad oedd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad ac argymhelliad pellach yn ymwneud â chychwyn proses dendro o safbwynt cyn safle Llyfrgell Prestatyn.<0}  Eglurwyd pam fod y mater yn un brys o ystyried yr amserlenni ar gyfer tendro am y cynllun arfaethedig gyda dyfarniad contract ffurfiol i’w ddwyn o flaen y Cabinet er mwyn ei ystyried ym mis Medi.  Roedd y Grŵp Buddsoddi Strategol wedi cymeradwyo’r cais oedd yn cynnwys dymchwel yr adeilad cyfredol ar y safle ac adeiladu pedwar ar ddeg o randai un ystafell wely ar gyfer rhent cymdeithasol a dwy uned fasnachol ar y llawr gwaelod.  Roedd y cynllun cyffredinol yn werth £4.3 miliwn ac wedi ei ariannu gan y Cyfrif Refeniw Tai (£2.9 miliwn) a grant tai cymdeithasol Llywodraeth Cymru (£1.4 miliwn).

 

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid ddiweddariad pellach ar hawliadau’n gysylltiedig â Covid i Lywodraeth Cymru gan gadarnhau fod hawliad colli incwm Chwarter 1 (Ebrill – Mehefin) wedi ei gyflwyno, oedd yn £2 miliwn, ond disgwyliwyd y byddai hawliadau o fis Gorffennaf ymlaen yn llawer is o ystyried fod y sector hamdden ac ati yn ail agor.

 

Wedi ystyried yr adroddiad, yr eitem frys a’r argymhelliad ychwanegol -

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn

 

 (b)      Cymeradwyo dechrau’r broses dendro o safbwynt ailddatblygiad arfaethedig hen Lyfrgell Prestatyn ac adeiladu pedwar ar ddeg o randai ar gyfer rhent cymdeithasol a dwy uned fasnachol ar y llawr gwaelod.

 

 

7.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 277 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau canlynol -

 

·        {0>Denbighshire Learning Disability Community Living Schemes – SeptemberCynlluniau Byw yn y Gymuned Anableddau Dysgu Sir Ddinbych – Medi <0}

·        {0>Prestatyn Flood Defence Scheme – DecemberCynllun Amddiffyn Rhag Llifogydd Prestatyn – Rhagfyr <0}

·        {0>Central Rhyl Flood Defence Scheme – JanuaryCynllun Amddiffyn Rhag Llifogydd Canol Y Rhyl – Ionawr <0}

 

{0>RESOLVED that Cabinet’s forward work programme be noted.<}100{>PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet.<0}

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.05 am.