Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: TRWY CYFRWNG FIDEO

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gan eu bod yn llywodraethwyr ysgol, datganodd y Cynghorwyr Joan Butterfield, Meirick Davies, Huw Hilditch-Roberts, Tony Thomas, Emrys Wynne a Mark Young gysylltiad personol ag eitem 7 ar y rhaglen – Adroddiad Ariannol (Alldro Ariannol 2020/21) gan ei fod yn ymwneud â balansau ysgolion.

 

Datganodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler gysylltiad personol ag eitem 3 ar y rhaglen – Materion Brys: Cyllid Codi'r Gwastad ar gyfer Etholaeth De Clwyd gan ei bod yn Gadeirydd Grŵp Gweithredu Lleol Cadwyn Clwyd sydd wedi darparu cyllid ar gyfer y pedwar prosiect priffyrdd yn Llywodraeth.

 

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 7 ar y rhaglen – Adroddiad Cyllid (Sefyllfa Ariannol Derfynol 2020/21) cyn belled ag yr oedd yn ymwneud â balansau ysgol -

 

Y Cynghorydd Joan Butterfield – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Gatholig Crist y Gair

Y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Cefn Meiriadog

Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Pen Barras

Y Cynghorydd Emrys Wynne – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Borthyn

Y Cynghorydd Mark Young – mae’n Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Dinbych

 

Datganodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler gysylltiad personol ag eitem 3 ar y rhaglen – Materion Brys: Cyllid Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU - Etholaeth De Clwyd oherwydd mai hi oedd Cadeirydd Grŵp Gweithredu Lleol Cadwyn Clwyd a oedd wedi darparu cyllid ar gyfer y prosiect Pedair Priffordd yn Llangollen.

 

 

3.

MATERION BRYS pdf eicon PDF 296 KB

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

CYLLID CODI’R GWASTAD LLYWODRAETH Y DU – ETHOLAETH DE CLWYD

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn rhoi awdurdod wedi’i ddirprwyo i Gyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Parth Cyhoeddus a Phennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Adran 151, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd a’r Arweinydd, i gytuno ar gais i’w gyflwyno i Lywodraeth y DU gan Gyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ar gyfer etholaeth De Clwyd.   Bydd hyn yn cael ei wneud ar ôl trafod gydag Aelodau Lleol Dyffryn Dyfrdwy.

 

Cofnodion:

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod angen rhoi sylw brys i’r mater canlynol -

 

Cyllid Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU – Etholaeth De Clwyd

 

Roedd y brys mewn perthynas â’r adroddiad oherwydd y terfynau amser tynn ar gyfer cyflwyno’r cais er mwyn galluogi Dyffryn Dyfrdwy i elwa o’r cyfle cyllido sylweddol.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw fel atodiad i’r rhaglen) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddirprwyo awdurdod at ddibenion cytuno ar gais ar gyfer cyllid Codi’r Gwastad i’w gyflwyno i Lywodraeth y DU gan Gyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer Etholaeth De Clwyd (yn dilyn trafodaethau gydag Aelodau Dyffryn Dyfrdwy).

 

Pwrpas y cyllid adfywio, a fyddai’n cael ei ddarparu drwy awdurdodau lleol, oedd i fuddsoddi mewn prosiectau isadeiledd.  Roedd ceisiadau yn seiliedig ar ardaloedd etholaeth AS. Roedd tair ardal yn Sir Ddinbych: Dyffryn Clwyd, Gorllewin Clwyd a De Clwyd.  Roedd dyddiad cau cychwynnol ar 18 Mehefin 2021 i gyflwyno cais er byddai dyddiadau cau eraill yn cael eu cyhoeddi maes o law.  Roedd yr adroddiad presennol yn ymwneud â De Clwyd gyda rhan fwyaf yr etholaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac roedd gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i ddatblygu cais ar y cyd, gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn awyddus i gyflwyno cais erbyn 18 Mehefin 2021. Oherwydd y terfynau amser heriol iawn, ceisiwyd awdurdod dirprwyedig i gymeradwyo’r cais terfynol i’w gyflwyno.  Byddai ceisiadau ar gyfer etholaethau Gorllewin Clwyd a Dyffryn Clwyd yn cael eu cyflwyno’n ddiweddarach a byddai cyfarfod briffio’r Cyngor yn cael ei drefnu i ystyried sut i wneud y mwyaf o’r cyfle am gyllid a sut y gallai aelodau ymgysylltu â’r broses.

 

Manylodd yr Arweinydd ar drafodaethau gyda Simon Baynes AS a gwaith parhaus i ddatblygu’r cais ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a nodi prosiectau cymwys posibl o fewn ardaloedd Llangollen a Chorwen.  Derbyniwyd bod y broses yn cynnwys ffordd newydd o weithio gyda swyddogion yn gorfod addasu eu dull er mwyn gwneud y mwyaf o fuddion y cynnig cyllido.  Darparodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Economi a’r Parth Cyhoeddus drosolwg o’r Cyllid Codi’r Gwastad a’r goblygiadau ar gyfer Sir Ddinbych, yn enwedig o ystyried y dull yn seiliedig ar etholaeth a’r angen i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gais ar y cyd ar gyfer De Clwyd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer Gorllewin Clwyd.  Fe allai pob ardal etholaeth wneud cais am uchafswm o £20m o gyllid cyfalaf a byddai cyfanswm y cyllid yn cael ei bennu ar sail gystadleuol yn erbyn mecanwaith sgorio.  Roedd rhan o’r broses yn ymwneud â dangos bod gan y cais gefnogaeth leol a chefnogaeth yr AS.  Roedd £120k o gyllid refeniw wedi cael ei ddyrannu i bob awdurdod lleol i gefnogi datblygiad y ceisiadau.  O ran De Clwyd, roedd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam brosiect hirdymor ar gyfer Basn Trefor a’r ardal gyfagos a oedd yn rhan o’r Safle Treftadaeth y Byd ac roedd Cyngor Sir Ddinbych yn dechrau datblygu ei gynigion ar gyfer ardal Dyffryn Dyfrdwy gyda hyder y byddai modd bodloni’r dyddiad cau ar 18 Mehefin 2021. Esboniodd y Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd, Adfywio a Datblygu Economaidd bod y cais ar y cyd yn canolbwyntio ar y Safle Treftadaeth y Byd a’r prosiect trosfwaol ‘Cynllun Adfywio Twristiaeth Coridor Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte’ a oedd yn cynnwys tri phrosiect (1) (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn llwyr) Uwchgynllun Basn Trefor, (2) (Llangollen) symudiad ymwelwyr o fewn yr 11 milltir o Safle Treftadaeth y Byd, a (3) (Corwen) symudiad ymwelwyr a darparu pwyntiau mynediad newydd i Ddyffryn Dyfrdwy  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 382 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2021 (copi’n amgaeedig).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2021 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2021.

 

Materion sy'n Codi – Tudalen 7, Eitem 6 Adroddiad Cyllid – Cadarnhaodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill ei fod wedi ymateb yn uniongyrchol i’r Cynghorydd Meirick Davies ynglŷn â’r mater yr oedd wedi’n godi mewn perthynas ag Ysgol Llanfair fel y cyfeiriwyd ato yn y cofnodion.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2021 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

FFRAMWAITH GWELLIANNAU ALLANOL AC ARBED YNNI AR GYFER TAI’R CYNGOR pdf eicon PDF 311 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i dendro’r fframwaith gwelliannau tai nesaf i gaffael gwasanaethau sydd eu hangen i gyflawni gwaith atgyweirio allanol sylweddol i stoc dai’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo defnyddio Fframwaith Gwelliannau Allanol ac Arbed Ynni ar gyfer Tai’r Cyngor i ddarparu'r gwelliannau angenrheidiol yn unol â chynllun busnes y stoc dai.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i dendro’r fframwaith gwelliannau tai nesaf i gaffael gwasanaethau sydd eu hangen i gyflawni gwaith atgyweirio allanol sylweddol i stoc dai’r Cyngor a chynnal cyflwr y stoc dai yn unol â Safon Ansawdd Tai Cymru.

 

Darparwyd peth gwybodaeth gefndir mewn perthynas â rheoli stoc dai’r Cyngor ac atgyweiriadau mawr sylweddol a gwblhawyd i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.  Daeth y rhaglen gyfredol o welliannau i ben ym mis Mai 2021 a’r bwriad oedd mynd ymlaen â’r rhaglen gyfalaf nesaf yn yr hydref 2021. Byddai gwaith hefyd yn cynnwys mesurau arbed ynni cynyddol er mwyn sicrhau bod targedau corfforaethol a thargedau Llywodraeth Cymru yn cael eu cyrraedd, lle’r roedd hynny’n ariannol hyfyw, ac roedd ffyrdd newydd o weithio wedi cael eu treialu i ddarparu gwelliannau o ran arbed ynni ac olrhain gwelliannau.  Cynigiwyd fframwaith pedair blynedd i gyflawni’r gwelliannau a oedd yn caniatáu ar gyfer gwaith allanol pellach ynghyd â mesurau ynni ôl-osod os oedd grantiau yn y dyfodol yn caniatáu hynny.  Roedd cost y fframwaith oddeutu £10m yn dibynnu ar lefel y gwaith a oedd ei angen ar gyfer pob rhan berthnasol.  Roedd y gwariant arfaethedig wedi’i gynnwys yng Nghynllun Busnes y Stoc Dai, y cynllun gwariant presennol a chynllun gwariant y dyfodol.

 

Croesawodd y Cabinet y gwelliannau a wnaed i’r stoc dai dros y blynyddoedd diwethaf ynghyd ag effaith cyllid Grant Ôl-Osod Llywodraeth Cymru i gyflawni gwelliannau arbed ynni, a rhoddodd deyrnged i bawb a oedd yn gysylltiedig â hynny.  Croesawodd y Cabinet hefyd y gwelliannau arfaethedig wrth symud ymlaen a’r disgwyliad am ragor o gyllid ôl-osod gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni cynlluniau arbed ynni pellach.  Canolbwyntiwyd ar y prif faterion trafod a ganlyn -

 

·        gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Mark Young, cadarnhaodd y swyddogion bod y brif fantais, o ran PV solar, i’r tenant. Unwaith yr oedd y sefyllfa ariannol hirdymor yn hysbys byddai gwaith yn cael ei gynnal i nodi mecanweithiau i alluogi’r Cyngor i dderbyn elw ar y ddarpariaeth ynni; roedd sefydlu cwmni ynni drwy gydweithrediad yn ddewis i’w ystyried yn y dyfodol.

·        gofynnodd y Cynghorydd Brian Jones am sicrwydd bod y tîm tai yn cadw i fyny â’r datblygiadau arbed ynni diweddaraf, yn cynnwys dechrau technoleg hydrogen, er mwyn i’r Cyngor fod yn y sefyllfa orau i elwa o unrhyw gyfleoedd yn y dyfodol. 

Darparodd yr Aelod Arweiniol a swyddogion sicrwydd yn hynny o beth gan gadarnhau deialog rheolaidd gyda Llywodraeth Cymru a briff ar gynlluniau amrywiol er roedd peth cyngor gwrthdrawiadol mewn perthynas â thechnolegau newydd, a byddai’r mater yn cael ei adolygu’n agos.  O ran boeleri hydrogen parod, byddent yn debygol o fod ar gael peth amser cyn yr isadeiledd i’w cefnogi a byddai angen gwneud llawer o waith yn genedlaethol cyn i foeleri hydrogen ddod yn arferol yn y stoc dai.  Roedd y Cynghorydd Jones yn awyddus i'r Cyngor fod yn rhagweithiol wrth wneud cysylltiadau gyda'r meysydd diwydiant hynny ar flaen datblygiadau o’r fath yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a'r Gogledd Orllewin a chymryd rhan ar y cyfle cyntaf posib’.

·        o ran y risg o her gyfreithiol a nodwyd yn yr adroddiad, cadarnhaodd y swyddogion ei bod yn risg safonol gydag unrhyw ymarfer caffael ac nid yn benodol i’r fframwaith gwelliannau tai.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo defnydd y Fframwaith Gwelliannau Allanol ac Arbed Ynni ar gyfer Tai’r Cyngor i gyflawni’r gwelliannau sydd eu hangen yn unol â chynllun busnes y stoc dai.

 

 

6.

FFRAMWAITH CYNNAL A CHADW RHAGWEITHIOL AR GYFER YSGOLION AC EIDDO NAD YDYNT YN YSGOLION pdf eicon PDF 217 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ail-dendro fframwaith cynnal a chadw rhagweithiol y Cyngor ar gyfer ysgolion ac eiddo nad ydynt yn ysgolion.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo ail-dendro Fframwaith Cynnal a Chadw Rhagweithiol ar gyfer Ysgolion ac Eiddo nad ydynt yn Ysgolion i sicrhau bod y Cyngor yn derbyn y gwerth gorau gan ei gontractwyr cynnal a chadw.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ail-dendro fframwaith cynnal a chadw rhagweithiol y Cyngor ar gyfer ysgolion ac eiddo nad ydynt yn ysgolion.  Roedd y fframwaith blaenorol wedi’i dendro am gyfnod o bedair blynedd ac roedd wedi dod i ben y cyfnod ac angen ei dendro eto.

 

Roedd Tîm Cynnal a Chadw Eiddo Cyngor Sir Ddinbych yn darparu gwasanaeth atgyweirio eiddo ymatebol o ddydd i ddydd i ysgolion ac adeiladau eraill.  Dewiswyd contractwyr ar ôl tendro yn seiliedig ar gost ac ansawdd, a’u maes arbenigedd.  Dyrannwyd gwaith i gontractwyr gan y ddesg gymorth cynnal a chadw eiddo, a oedd yn bwynt cyswllt cyntaf rhwng defnyddwyr adeiladau a chontractwyr.  Roedd y fframwaith cyfredol angen ei roi ar dendr eto ac roedd disgwyl iddo gael ei ddyfarnu ar gontract dwy flynedd gyda dewis i’w ymestyn am flwyddyn a blwyddyn arall, a oedd yn golygu contract posib’ am bedair blynedd.  Roedd y gwariant blynyddol ar waith atgyweirio a chynnal a chadw tua £2m y flwyddyn, felly £8m dros oes y fframwaith.  Rhannwyd y gwaith i chwe rhan gyda’r bwriad o ddyrannu contractwyr i bob rhan yn y fframwaith gyda chyfres o ddangosydd perfformiad allweddol i sicrhau ansawdd y gwaith a gwerth am arian.

 

Gan ymateb i gwestiynau, dywedodd yr Aelod Arweiniol a swyddogion -

 

·        byddai gwaith hyd at £10k yn ddarostyngedig i wobr uniongyrchol i un o’r contractwyr yn y rhannau perthnasol a oedd eisoes wedi cwblhau’r broses sgrinio ac wedi dangos ansawdd a gwerth am arian drwy’r broses fonitro. 

O ystyried y gyfran uchel o waith gwerth isel, roedd gwobr uniongyrchol yn darparu dull effeithlon o sicrhau bod y gwaith hynny yn cael ei gwblhau’n brydlon, yn yr un modd ag unrhyw waith brys gofynnol.  Fodd bynnag, ar gyfer y gwaith gwerth uwch hynny yn nes at £10k, yr arfer arferol oedd cynnal cystadleuaeth fach o fewn y fframwaith.

·        mynegodd y Cynghorydd Emrys Wynne bryderon ynglŷn â’r geiriad yn y ddogfen dendro (paragraff 2.1, a pharagraff 8.1.1) oherwydd ei fod yn ystyried ei fod yn ymwneud â’r anghydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg a gofynnodd bod y cyfeiriad hwn yn cael ei dynnu. Esboniodd Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd fod y cyfeiriad wedi’i gynnwys er mwyn diogelu’r Cyngor yn erbyn unrhyw anghywirdeb gan y cyfieithwyr allanol ond roedd yn deall ei bwynt.  Cytunodd i geisio adolygiad o’r geiriad a chymryd cyngor gan y cyfreithwyr wedi hynny.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo ail-dendro’r Fframwaith Cynnal a Chadw Rhagweithiol ar gyfer Ysgolion ac Eiddo nad ydynt yn Ysgolion i sicrhau bod y Cyngor yn derbyn y gwerth gorau gan ei gontractwyr cynnal a chadw.

 

 

7.

ADRODDIAD CYLLID (SEFYLLFA ARIANNOL DERFYNOL 2020/21) pdf eicon PDF 236 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi wedi’i amgáu), yn manylu ar sefyllfa ariannol derfynol y Cyngor ar gyfer 2020/21 a’r argymhellion arfaethedig i ymdrin â chronfeydd wrth gefn a balansau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer 2020/21;

 

(b)       cymeradwyo'r driniaeth arfaethedig o gronfeydd a balansau wrth gefn fel y manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1, 2 a 3; a

 

(c)        nodi manylion y trosglwyddiadau rhwng Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd fel y nodwyd yn Atodiad 4.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ar sefyllfa refeniw derfynol 2020/21 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Tywyswyd yr aelodau drwy fanylion yr adroddiad a'r atodiadau.  Yn gryno, y sefyllfa derfynol ar gyllidebau corfforaethol a gwasanaeth (gan gynnwys tanwariant ysgolion o £7.058m) oedd tanwariant o £9.457m.  Roedd manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd mewn gwasanaethau cyllideb 2020/21 wedi cael eu darparu (£4.448m).  Tynnwyd sylw at effaith y coronafeirws a’r cyllid grant sylweddol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru – derbyniwyd £19m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyda’r rhagdybiaeth y byddai’r hawliadau grant terfynol (£2.7m) yn cael eu talu yn llawn. Roedd meysydd eraill i’w nodi’n cynnwys balans ysgol cyffredinol o £5.670m i’w gario ymlaen (cynnydd o £7.058m o’r balansau diffyg a gariwyd ymlaen i 2020/21, sef £1.388m) gyda llawer o’r cyllid hwnnw i gael ei ddefnyddio yn 2021/22 i adfer yn dilyn effeithiau Covid-19. Amlygwyd elfennau allweddol o’r tanwariant yng nghyllidebau corfforaethol (£1.874m) a oedd yn caniatáu i wasanaethau gydag ymrwymiadau yn 2021/22 gyflwyno cynigion i gario eu tanwariant ymlaen i dalu’r costau hynny a chynyddu’r Gronfa Lliniaru'r Gyllideb.  Gan ystyried sefyllfa gyffredinol y gwasanaethau a’r cyllid corfforaethol oedd ar gael, cynigiwyd bod y gwasanaethau yn dwyn ymlaen y tanwariant net a restrwyd fel balansau gwasanaethau ymrwymedig er mwyn helpu i gyflawni strategaeth cyllideb 2021/22 a bodloni ymrwymiadau oedd yn bodoli eisoes.  Cyfeiriwyd hefyd at y trosglwyddiadau rhwng Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid bod yr adroddiad wedi cael ei ddwyn ymlaen er mwyn cyflawni’r dyddiad cau ar 31 Mai ac er mwyn i’r Cabinet gymeradwyo’r driniaeth o gronfeydd wrth gefn a balansau cyn ystyried yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Pwysleisiodd, er i’r ffigyrau edrych yn uchel, roedd y ddau symudiad mawr yn ymwneud â balansau ysgol a chynlluniau cyfalaf.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         cyfeiriwyd at yr effaith ar falansau ysgol dros y flwyddyn ddiwethaf gyda'r rhan fwyaf o ysgolion â balansau cadarnhaol. Ymatebodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts i gwestiynau ynglŷn ag Ysgol Gatholig Crist y Gair ac esboniodd y rhesymeg y tu ôl i’r balans diffyg, a oedd yn ddisgwyliedig o ystyried bod yr ysgol newydd wedi dechrau heb falans a gwnaed taliadau yn ddyledus, ac effaith dilynol nifer cynyddol o ddisgyblion.  Felly, nid oedd achos i boeni, roedd rhagamcanion yn nodi y byddai gan yr ysgol falans cadarnhaol o £584k erbyn y drydedd flwyddyn. Esboniwyd ymhellach y system a oedd mewn lle ar gyfer cynorthwyo ysgolion a oedd mewn trafferth ariannol yn cynnwys cynhyrchu cynlluniau adfer ariannol a oedd wedi bod yn hynod effeithiol. Darparwyd sicrwydd pellach o ran y cyfathrebu ardderchog gydag ysgolion a alluogodd adnabod pryderon neu bryderon posibl yn fuan ac i'r Cyngor weithio gydag ysgolion i'w datrys.

·         mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bobby Feeley ynglŷn ag argaeledd cyllid yn y dyfodol ar gyfer busnesau a oedd yn parhau i’w chael hi’n anodd yn ariannol, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid fod Llywodraeth Cymru yn y broses o gwblhau cynllun newydd wedi’i anelu at fusnesau a fyddai’n cael ei weinyddu drwy Wasanaethau Gwarchod y Cyhoedd a Chynllunio a’i gefnogi gan y Tîm Refeniw a Budd-daliadau.

 

Rhoddodd y Cabinet deyrnged i waith y swyddogion cyllid wrth ymateb i’r heriau a wynebwyd yn ystod blwyddyn anodd iawn a’u gwaith wrth reoli arian yn gyffredinol a oedd hefyd yn rhoi hyder i aelodau bod arian y Cyngor yn cael ei reoli’n effeithiol.  Cyfeiriodd yr Arweinydd hefyd at y gwaith cadarnhaol ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a CLlLC a chyfarfodydd rheolaidd gyda'r Gweinidog Llywodraeth Leol lle’r oedd cydnabyddiaeth am  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 197 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau/ diwygiadau canlynol –

 

·         Cefnogi Iechyd Meddwl yn y Gweithle – Mehefin

·         Gweithredu i Leihau’r Achosion o Drais Domestig - Mehefin

·         Cytundeb Cyflawni diwygiedig y CDLl Newydd ac Asesiad o Effaith Covid – symudwyd o fis Mehefin i fis Gorffennaf

·         CDLl Newydd - Adrodd yn ôl ar ymgynghoriad Strategaeth a Ffefrir – symudwyd o fis Mehefin i fis Gorffennaf

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.30 pm.