Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 342 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 19 Ionawr 2021 (copi ynghlwm).  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2021 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2021.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 19 Ionawr 2021 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

STRATEGAETH AR NEWID HINSAWDD A NEWID ECOLEGOL CYNGOR SIR DDINBYCH (2021 - 2029) pdf eicon PDF 226 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd a Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynglhwm) yn cyflwyno’r ddogfen strategaeth derfynol i’r Cabinet ei ystyried, ac argymell i’r Cyngor ei mabwysiadu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      argymell bod y Cyngor yn mabwysiadu Strategaeth Cyngor Sir Ddinbych ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol (2021/22-2029/30), ac yn

 

 (b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad A o’r adroddiad) i ystyriaeth fel rhan o'i benderfyniad.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorwyr Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd a Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol derfynol Cyngor Sir Ddinbych i’r Cabinet er ystyriaeth ac argymhelliad i’r Cyngor i’w mabwysiadu.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Brian Jones at y swm sylweddol o waith a wnaed ers y Datganiad o Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol y Cyngor yn 2019, sydd wedi arwain at ddogfen Strategaeth yn manylu ar sut fyddai nod y Cyngor o fod yn ddi-garbon net ac yn gadarnhaol yn ecolegol yn cael ei gyflawni. Pe bai’r Strategaeth yn cael ei chymeradwyo, byddai angen i'r Cyngor gyflwyno tua £9 miliwn dros y tair blynedd nesaf, gyda rhagor yn y dyfodol, ac roedd yn hyderus iawn mai dyma'r peth iawn i’w wneud, ac y byddai'n fanteisiol iawn i'r awdurdod wrth symud ymlaen. Fel Aelod Arweiniol Bioamrywiaeth, adroddodd y Cynghorydd Tony Thomas ar y rhaglen plannu coed a’r prosiect planhigfa goed ynghyd â’r gwaith a wnaed i gefnogi ecosystemau.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd at darged Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru di-garbon erbyn 2050 a chyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar leihau carbon ac amsugniad i roi cap ar dymheredd cynhesu byd-eang a chyfyngu’r effaith ar newid hinsawdd a bioamrywiaeth.  Roedd y Strategaeth yn cynrychioli cyfraniad y Cyngor wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur, a helpu Cymru i ddiwallu ei uchelgeisiau di-garbon a chyflawni ar ddyletswyddau bioamrywiaeth. Cafodd ei llunio ar y cyd ar draws y Cyngor, yn ogystal â chyda’r cyhoedd, ac mae'n darparu gweledigaeth y Cyngor ar gyfer 2030 ynghyd â map llwybr o sut y caiff ei chyflawni, bancio manteision gostyngiad mewn carbon, cynnydd yn amsugniad carbon a gwell rhywogaethau, yn ogystal â buddion mewn perthynas a’r economi, iechyd a lles.

 

Croesawodd y Cabinet y Strategaeth gan gydnabod y gwaith sylweddol a wnaed i’w datblygu'n brydlon ers Datganiad Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol y Cyngor. Wrth arnodi’r Strategaeth yn llawn, talodd y Cabinet deyrnged i bob un oedd wedi’u cynnwys ar draws y Cyngor a’r partïon gwleidyddol ynghyd ag aelodau’r cyhoedd am eu cyfraniad, gan gydnabod y frwdfrydedd a'r gefnogaeth eang. Wrth gydnabod y cyllid sylweddol sydd ei angen i gyflawni’r Strategaeth a’r hinsawdd ariannol anodd sy’n debygol wrth symud ymlaen, amlygodd y Cabinet bwysigrwydd y Strategaeth a’i chyflawniad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac roeddent yn unfrydol mai dyna oedd y cam gweithredu iawn.

 

Yn ystod y drafodaeth, cododd y Cynghorydd Mark Young nifer o gwestiynau yn ymwneud â’r Strategaeth ac fel Aelod Arweiniol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) roedd yn awyddus i’r CDLl fod mor wyrdd â phosib. Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Rhaglen -

 

·         cafodd fforddiadwyedd ei gydnabod fel risg allweddol i’r Cyngor allu gyflawni’r Strategaeth, ond byddai nifer o’r mesurau i’w gweithredu’n arbed arian yn y tymor byr a’r tymor hir, yn ogystal â chynhyrchu incwm; byddwn yn gwneud y mwyaf o gyfleodd cyllid grant gan Lywodraethau Cymru a’r DU

·         roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda’r Adran Cynllunio Polisi ac addysg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn nhermau datblygiad eu CDLl i ystyried yr agenda gwyrdd ac roedd cefnogaeth barhaus y Cynghorydd Young yn cael ei werthfawrogi'n arw o ran hynny; roedd ymgysylltiad gyda datblygwyr drwy gydol y broses cyn gwneud cais a chamau gweithredu pellach wedi’u cynllunio drwy bolisi cynllunio yn nhermau safleoedd datblygu o fewn y CDLl a thrwy reoli datblygu

·         adeiladau'r cyngor oedd yn gyfrifol am y swm uchaf o allyriadau carbon, a’r targed oedd haneru’r allyriadau hynny dros y naw mlynedd nesaf o ran ynni a dŵr; byddai’r Strategaeth yn cael ei adolygu bob  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADOLYGU’R POLISI ENWI A RHIFO STRYDOEDD pdf eicon PDF 211 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Richard Mainon, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer newidiadau arfaethedig i Bolisi Enwi a Rhifo Strydoedd y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylai’r Cabinet gymeradwyo’r newidiadau canlynol i’r Polisi Enwi a Rhifo Strydoedd –

 

 (i)        bod strydoedd newydd yn cael eu henwi yn Gymraeg yn unig, a

 

 (ii)       bod y dewis i enwi strydoedd ar ôl unigolion yn cael ei dynnu o’r polisi.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Richard Mainon, Aelod Arweiniol ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol yr adroddiad sy’n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar newidiadau arfaethedig i Bolisi Enwi a Rhifo Strydoedd y Cyngor ynghyd â’r rhesymeg tu ôl i’r newidiadau hynny.

 

Cynhaliwyd adolygiad o’r polisi ar gais y Pwyllgor Craffu Perfformiad, gyda phwyslais penodol ar sicrhau ei fod yn adlewyrchu Polisi Iaith y Cyngor ac roedd Pwyllgor Llywio’r Gymraeg wedi cytuno i’r dull hwnnw o weithio.  Yn dilyn ymgynghoriad gyda Swyddog Cymraeg y Cyngor a Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, argymhellwyd y byddai strydoedd newydd i gyd yn cael eu henwi'n Gymraeg yn unig. Roedd y Pwyllgor Craffu Perfformiad wedi codi’r mater o allu enwi strydoedd ar ôl pobl yn sgil enghreifftiau diweddar o enwau strydoedd yn gorfod cael eu newid.  Yn achos Sir Ddinbych, roedd mwy o broblem o enwi strydoedd ar ôl unigolion a oedd yn cynnwys elfen emosiynol, ac ar ôl ystyried Cyfamod y Lluoedd Arfog, argymhellwyd bod y dewis i enwi strydoedd ar ôl unigolion yn cael ei ddileu.

 

Codwyd y materion canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd –

 

·         roedd trafodaeth am dynnu’r dewis o enwi strydoedd ar ôl unigolion yn gyfan gwbl, gan dderbyn y rhesymeg tu ôl i’r argymhelliad hwnnw, roedd Julian Thompson-Hill yn anfodlon atal anrhydeddu unigolion arbenigol megis Capten Sir Tom Moore er enghraifft be bai'n lleol i'r ardal. 

Amlygwyd yr anawsterau presennol a wynebwyd gan swyddogion wrth fynd i’r afael ag enwi strydoedd ar ôl unigolion a thrafodaethau ehangach ar werth perthnasol unigol, a oedd yn fater emosiynol a sensitif iawn.  Y farn gyffredinol oedd dylid dileu normaleiddio enwi strydoedd ar ôl unigolion a pheidio cynnwys rhagdybiaeth yn y polisi i gynnwys y dewis hwnnw.  Serch hynny, derbyniwyd bod gan y Cyngor ddewis i amrywio’r polisi ar gyfer achosion eithriadol, ac i ganiatáu anrhydeddu unigolion arbennig, ac ystyriwyd mai hyn oedd y ffordd orau ymlaen

·         mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Tony Thomas yn ymwneud â’r ffordd draddodiadol o enwi strydoedd ar ôl sefydliadau neu noddwyr, dywedodd y Cynghorydd Mainon mai ei ddewis personol oedd enwi strydoedd gyda’r bwriad o ddisgrifio’r ardal leol ac adlewyrchu ei harwyddocâd diwylliannol a hanesyddol yn unol ag egwyddorion cyffredinol y polisi

·         Amlygodd y Cynghorydd Graham Timms broblemau cychwynnol wrth gyfieithu’r polisi o’r Saesneg i’r Gymraeg, ac mewn ymateb i gwestiynau, trafododd y Gweinydd Perfformiad a Systemau’r canlynol:

 (1) cadarnhaodd bod rhestr awgrymedig o enwau strydoedd wedi’i chynnwys yn y polisi, ond nad oedd y rhestr yn un gyfyngedig a byddai ‘Heol’ yn sicr o gael ei ystyried, (2) cytunodd i ofyn i Swyddog y Gymraeg i ailymweld ag Adran 1.12 ar ddatblygiad enwau bloc i sicrhau bod y rhagddodiaid priodol yn cael eu defnyddio yn y cyfieithiadau Cymraeg a (3) chynghorodd bod y defnydd o’r gwaith “fflat” a “rhandy” wedi bod yn seiliedig ar ddiffiniad hanesyddol

·         Gwnaeth y Cynghorydd Arwel Roberts gais bod y pwyllgor craffu’n ystyried y polisi, a llongyfarchodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion ar y gwaith a wnaed. 

Ailadroddodd bwysigrwydd enwau lleoedd Cymraeg, a oedd yn rhan o dreftadaeth a diwylliant yr ardal, ac roedd angen eu cadw am byth.

·         Amlygodd yr Arweinydd bwysigrwydd sicrhau bod datblygwyr yn ymwybodol o’r polisi newydd ar gam cynnar o’r broses gynllunio er mwyn darparu dealltwriaeth glir o ofynion y polisi o'r cychwyn cyntaf.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo’r newidiadau canlynol i’r Polisi Enwi a Rhifo Strydoedd -

 

 (i)        enwi strydoedd newydd yn Gymraeg yn unig, a

 

 (ii)       bod y dewis i enwi strydoedd ar ôl unigolion yn cael ei dynnu o’r polisi.

 

 

7.

RHAGLEN TRAWSNEWID TREFI LLYWODRAETH CYMRU pdf eicon PDF 242 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddirprwyo awdurdod ar gyfer dibenion sicrhau buddsoddiad adfywio yn Sir Ddinbych o Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD (yn dilyn cymeradwyaeth wreiddiol y Cyngor ar 22 Mai 2018) y dylai’r Cabinet gymeradwyo awdurdod dirprwyedig parhaus i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a'r Parth Cyhoeddus mewn ymgynghoriad ag Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol, Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd a’r Pennaeth Cyllid (Swyddog Adran 151) ar gyfer blynyddoedd ariannu 2021-22 (Blwyddyn 4) a 2022-23 (Blwyddyn 5) er mwyn –

 

 (i)        gwneud unrhyw geisiadau cyllido prosiect sy’n angenrheidiol i sicrhau adnoddau o’r rhaglen Trawsnewid Trefi ar gyfer cyfnod ei weithrediad;

 

 (ii)       derbyn a gweithredu gwariant ar brosiectau sy’n cael mynediad i gefnogaeth rhaglen Trawsnewid Trefi, yn cynnwys dyfarnu grantiau i drydydd parti;

 

 (iii)      ailnegodi ac ymgymryd ag unrhyw gytundebau newydd gyda chynghorau eraill gogledd Cymru fel bo’r angen i ymgeisio neu i dderbyn arian rhaglen Trawsnewid Trefi, a

 

 (iv)      chytuno ar unrhyw newidiadau/diweddariadau a wneir i Gynllun Adfywio Rhanbarthol Gogledd Cymru (RRP).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddatblygu Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a alwyd yn Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio yn flaenorol, a dirprwyo awdurdod er pwrpas diogelu buddsoddiad i adfywio.

 

Roedd y Cabinet wedi cefnogi datblygiad y Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio yn 2018. Roedd gan y rhaglen ranbarthol gyllideb o tua £16 miliwn, ac roedd Sir Ddinbych wedi manteisio'n llwyddiannus ar dros £4 miliwn o fuddsoddiad yn ei threfi. Roedd yr adroddiad yn manylu ar barhad y rhaglen dros y ddwy flynedd nesaf gyda rhai newidiadau, gan gynnwys dyrannu dros hanner o’r cyllid i’r cynllun ‘Thematig Trawsnewid Trefi Gwneud Lleoedd’ ond roedd y meini prawf yn aneglur ar hyn o bryd, a faint a phryd fydd cyllid ar gael. Cynghorodd yr Arweinydd, o wybod y dull ehangach o weithio o ran y cyllid, gobeithiwyd y byddai rhagor o hyblygrwydd ar gyfer prosiectau yn y cynllun, a darparodd sicrwydd y byddai'r aelodau yn cael eu ymgynghori ar y cam nesaf, unwaith roedd gwell dealltwriaeth o’r meini prawf. Wrth groesawu’r pecyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, amlygodd yr Arweinydd bod angen canolbwyntio fwy ar drefi wrth symud ymlaen, gan gydnabod yr heriau sylweddol a wynebwyd, ac i greu trafodaeth o fewn yr awdurdod i ddeall y gefnogaeth a'r buddsoddiad angenrheidiol wrth symud ymlaen.

 

Trafododd y Cabinet yr adroddiad yn fanylach fel a ganlyn -

 

·         mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Mark Young, amlygodd yr Arweinydd bwysigrwydd creu’r trafodaethau hynny i ddechrau, i nodi’r buddsoddiad sydd ei angen mewn trefi, ac yna teilwra prosiectau i ddiwallu’r meini prawf ar gyfer cefnogaeth grant, a allai olygu gweithio mewn partneriaeth gydag eraill wrth symud ymlaen

·         yn nhermau sut i liniaru'r risgiau sy'n cael ei creu gan ddiffyg amser ac arbenigedd staff, cynghorodd swyddogion y byddai cyfle i godi refeniw ar brosiectau a fyddai'n galluogi prynu adnoddau arbenigol neu helpu i osod costau staffio yn eu herbyn a fyddai’n sicrhau bod yna ddigon o staff a medrusrwydd i gyflawni'r prosiectau hynny. 

Roedd y rhaglen yn cwmpasu cyfnod o ddwy flynedd ac roedd Llywodraeth Cymru wedi nodi y byddai'n ei hymestyn ymhellach, felly o ystyried yr adnoddau staffio cyfyngedig byddai angen blaenoriaethu prosiectau ynghyd â strategaeth cyflenwi dros y blynyddoedd nesaf; serch hynny, y cam cyntaf oedd i ddeall meini prawf y cyllid

·         Amlygodd y Cynghorydd Richard Mainon ei rwystredigaeth o ran natur tymor byr y rhaglen, a nad oedd yn darparu digon o gyfle i ymgymryd â dull mwy strategol o weithio i fuddsoddi mewn trefi, a fyddai'n cael mwy o effaith a gwell newidiadau arloesol yn y dyfodol, sy'n ofynnol er mwyn cyflenwi i fusnesau a phreswylwyr. 

Cytunodd yr Arweinydd gyda’r manteision o gael dull strategol o weithio i fuddsoddi yn y tymor hir, ac adleisiodd waith Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth lobio ar gyfer dyraniad cyllid tair blynedd gan Lywodraeth Cymru. Ar ôl dweud hynny, amlygodd yr Arweinydd y buddsoddiad sylweddol yr oedd Sir Ddinbych wedi manteisio arno dros gyfnod y rhaglen, a oedd wedi cael effaith er nad oedd yn rhan o ddull strategol o weithio yn y tymor hir, ac roedd y Cyngor wedi gweithio o fewn yr amgylchedd ariannol presennol, ac mewn safle da ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol wrth symud ymlaen.

 

PENDERFYNWYD (yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar 22 Mai 2018) bod y Cabinet yn cymeradwyo awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a'r Parth Cyhoeddus mewn ymgynghoriad ag Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol, Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd a’r Pennaeth Cyllid (Swyddog Adran 151) ar gyfer  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL pdf eicon PDF 232 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer prosiectau a nodwyd ar gyfer eu cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2021/22.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad er mwyn eu cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2021/22 yn cael eu cefnogi a’u hargymell i'r Cyngor llawn.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad gan geisio cefnogaeth y Cabinet i brosiectau a nodwyd i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2021/22 fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol (GBS) ac fel y nodwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Arweiniodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr aelodau drwy’r adroddiad ac ymhelaethodd ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer dyraniadau bloc ar gyfer rhaglenni gwaith parhaus.  Cyfeiriwyd at waith y GBS wrth adolygu’r cynigion am ddyraniadau a darparwyd crynodeb o’u hargymhellion ac fe ymhelaethwyd arnynt ymhellach yn y cyfarfod, gan gynnwys y ffynhonnell gyllid argymelledig ar gyfer pob prosiect, ynghyd â'r rhesymeg ar gyfer cefnogi'r prosiectau a'r dyraniadau penodol hynny.

 

Ystyriodd y Cabinet yr argymhellion a fanylwyd arnynt o fewn yr adroddiad.  Tynnodd y Cynghorydd Tony Thomas sylw at yr angen i ystyried y Prosiect Awyr Dywyll (AOHNE - Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) fel rhan o waith Oleuo LED Cynaliadwy (Salix) i ddisodli goleuadau stryd presennol. Cafwyd ar ddeall bod y model goleuadau stryd presennol yn cydymffurfio gyda gofynion hynny a bod yr Adran Briffyrdd yn ymwybodol o'r manylion technegol o ran hynny. Gofynnodd y Cynghorydd Mark Young am eglurhad o’r cyfleusterau a ddarparwyd i Gymorth Tai’r Sector Preifat, a cadarnhawyd y byddai’r cyllid yn cael ei ddefnyddio’n bennaf ar gyfer addasiadau ar raddfa fawr i lety preifat, i sicrhau eu haddasrwydd ar gyfer y sawl ag anableddau.

 

PENDERFYNWYD bod y prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad i'w cynnwys yn Nghynllun Cyfalaf 2021/22 yn cael eu cefnogi a’u hargymell i'r Cyngor llawn.

 

 

9.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 461 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn

 

 (b)      cymeradwyo sefydlu cronfa wrth gefn i ganiatáu i Sir Ddinbych Yn Gweithio reoli’u harian yn fwy effeithiol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £208.302 miliwn (£198.538 miliwn yn 2019/20).

·        rhagwelid y byddai gorwariant o £1.759 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol.

·        amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol.

·        amlinellwyd effaith ariannol y coronafeirws a'r safle ar hawliadau i Lywodraeth Cymru hyd yma, yn nhermau gwariant a cholled i incwm.

·        manylion o arbedion ac arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol o £4.448 miliwn y cytunwyd arno, gan gynnwys cynnwys arbedion corfforaethol sy’n ymwneud ag adolygiad actiwaraidd teirblwydd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2 miliwn); 1% arbedion ysgolion (£0.692 miliwn); arbedion gwasanaeth (£1.756 miliwn).

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Gofynnwyd i'r Cabinet gymeradwyo gosod cronfa wrth gefn i ganiatáu i Sir Ddinbych yn Gweithio reoli eu cyllid yn fwy effeithiol.

 

Arweiniodd y Cynghorydd Thompson-Hill y Cabinet drwy elfennau amrywiol yr adroddiad a symudiadau ers y mis blaenorol. Cymerodd y cyfle i roi'r newyddion diweddaraf i aelodau ar gynllun grant Llywodraeth Cymru i fusnesau lleol a dyrennir gan y cyngor, a talwyd teyrnged i waith diflino’r staff oedd yn gyfrifol am brosesu dros 1300 o hawliadau yn effeithiol, gyda chyfanswm o oddeutu £4.5 miliwn yn y gyfran ddiweddaraf o gyllid. Cydnabu’r Cabinet waith caled y staff oedd yn dyrannu'r cynllun, sydd wedi gweithio tu hwnt i’r gofyn i sicrhau bod taliadau effeithiol yn cael eu gwneud i hawlwyr cymwys, a dangoswyd gwerthfawrogiad o ran hynny.

 

Cynghorodd y Pennaeth Cyllid y cafwyd cadarnhad erbyn hyn bod hawliad colled incwm Chwarter 3 wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru (LlC) ac roedd yn falch o adrodd ar ffrydiau cyllid eraill LlC oedd ar gael yn hwyr yn y flwyddyn ariannol a fyddai'n effeithio'n gadarnhaol ar gyllid y Cyngor i’w cynnwys yn adroddiadau monitro i’r Cabinet yn y dyfodol. I gloi, soniwyd am gwelliant i sefyllfa ysgolion, a oedd yn bennaf oherwydd effaith barhaus Covid-19 a chafwyd cadarnhad o gymeradwyaeth am gyllid ar gyfer eitemau penodol o wariant.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Thompson-Hill, Pennaeth Cyllid i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Mark Young fel a ganlyn -

 

·        y taliadau ni chymeradwywyd am golli incwm mewn perthynas â Chwarter 1 yn bennaf o ran y Cyfrif Refeniw Tai. 

O wybod mai dim ond hanner yr awdurdodau lleol sy’n rheoli eu stoc dai, gyda’r gweddill yn cael eu rheoli gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, roedd LlC wedi gwrthod hawliadau’r cyngor o ran hynny i sicrhau cydraddoldeb

·        roedd y rhan fwyaf o eitemau a ddaliwyd ar yr hawliadau yn ymwneud ag ymholiadau technegol am brydau ysgol am ddim ac am hawliadau incwm yn ymwneud â incwm gohiriedig megis ffioedd cynllunio a threth y cyngor; roedd disgwyl nawr y byddai LlC yn ariannu awdurdodau lleol ar gyfer y colled i incwm yn ystod y flwyddyn

·        yn nhermau’r mater ehangach o gyllid cenedlaethol a’r cyhoeddiad diweddar y byddai LlC yn derbyn £650 miliwn ychwanegol gan Drysorlys y DU am wariant ychwanegol yn sgil Covid-19, cafwyd ei nodi y gallai unrhyw gyllid ychwanegol heb ei wario erbyn mis Ebrill ei gario drosodd i’r flwyddyn ariannol nesaf, ac roedd disgwyliad y byddai arian ychwanegol yn cael ei ddyrnau i awdurdodau lleol gyda goblygiadau’r cyhoeddiad i’w trafod yn y dyddiau nesaf. 

Amlygodd y Cynghorydd Mark Young fod gan LlC swm sylweddol o arian sy’n rhaid ei wario cyn mis Ebrill, ac roedd yn awyddus bod y cyllid hwnnw'n cael ei  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL pdf eicon PDF 203 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried.

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.35am.