Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: trwy cyfrwng fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT SYLW – Y DIWEDDARAF AM COVID-19 Croesawodd yr Arweinydd bawb i’r cyfarfod ac roedd yn gobeithio y byddai
2021 yn flwyddyn fwy cadarnhaol wrth i’r rhaglen frechu gael ei gweithredu ac y
byddai rhywfaint o normalrwydd yn dychwelyd. Rhoddodd y Prif Weithredwr drosolwg o’r sefyllfa bresennol o ran Covid-19
yn Sir Ddinbych a Chymru yn ehangach ar gais yr Arweinydd. Roedd y
ffigurau diweddaraf yn dangos bod lle am obaith gofalus ein bod wedi cyrraedd
uchafbwynt yr heintiau o ran y nifer o heintiau, ond roedd yna nifer sylweddol
o breswylwyr oedd dal i fod yn eithriadol o wael gyda Covid-19 yn yr
ysbyty. Y gyfradd achosion yn Sir
Ddinbych oedd 369.7 fesul 100,000 o’r boblogaeth, o gymharu â 406 yr wythnos
flaenorol, roedd hyn yn uwch na’r cyfartaledd Cymreig o 306.1, ond roedd
cyfraddau heintiau yn disgyn ar draws y mwyafrif o Gymru. Roedd y rhaglen frechu yn parhau yn ddi-oed
gyda 27,000 o bobl wedi’u brechu yng ngogledd Cymru, ac roedd y mwyafrif
helaeth ohonynt yn y grwpiau risg uchel, gyda 35,000 o frechiadau pellach
wedi’u cynllunio ar gyfer yr wythnos bresennol, gan arwain at lefel uwch o
amddiffyniad mewn cartrefi gofal. Serch
hynny, mae Covid-19 dal i fod yn ein cymunedau a gofynnwyd i bawb ailadrodd y
negeseuon pwysig o ran cadw pellter cymdeithasol, gwisgo masg, mesurau hylendid
a chyfyngu ar gysylltiadau. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
DATGANIADAU CYSYLLTIAD PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Datganodd y
Cynghorwyr Bobby Feeley a Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol ag eitem 6
ar y rhaglen – Sefydlu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru, gan eu bod ill
dau’n Gyfarwyddwyr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Bobby Feeley a Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol ag eitem 6
ar y rhaglen – Sefydlu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru, gan eu bod ill
dau’n Gyfarwyddwyr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2020 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2020 fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2020. PENDERFYNWYD derbyn
a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2020 fel cofnod
cywir. |
|
CYNLLUN BRYS AR GYFER BYSIAU PDF 249 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r
Amgylchedd (copi yn amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ymuno â
Chynllun Brys ar gyfer Bysiau 2 i sicrhau cefnogaeth ariannol ar gyfer y sector
bysiau a sefydlu perthynas gyda Chyngor Sir y Fflint fel yr awdurdod arweiniol
rhanbarthol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn – (a) cytuno ag
egwyddorion cytundeb Cynllun Brys ar gyfer Bysiau 2 (Atodiad 2 yr adroddiad) i
sicrhau cymorth ariannol (amodol) i'r
sector bysiau ac i sefydlu perthynas â Chyngor Sir y Fflint fel yr awdurdod
arweiniol rhanbarthol a'r llofnodwr, sy'n sicrhau bod yr arian brys parhaus yn
bodloni blaenoriaethau'r awdurdod ac yn cael ei ddarparu ar ei ran, ac (b) maes o law, i
alw am adroddiad pellach ar gynigion i ddiwygio bysiau mewn perthynas â rheoli
gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn y dyfodol. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd
adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gytuno i’r Cynllun Brys ar gyfer
Bysiau a sefydlu perthynas gyda Chyngor Sir y Fflint fel yr awdurdod arweiniol
rhanbarthol. Roedd
yr adroddiad yn manylu ar y cyd-destun a chefndir ehangach i’r Cynllun Brys ar
gyfer Bysiau yn cynnwys cynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio gwasanaethau bws
yn y dyfodol, ynghyd â manylion cymorth ariannol (amodol) sydd eisoes yn cael
ei ddarparu i’r sector bysiau, a weinyddwyd yn ddiweddar gan Gyngor Sir y
Fflint fel awdurdod arweiniol rhanbarthol ar gyfer gogledd Cymru, ond yn cael
ei ddosbarthu ar ôl cytundeb rhanbarthol. Y cam nesaf o fewn y broses
honno ydi Cynllun Brys ar gyfer Bysiau 2 gyda Llywodraeth Cymru yn cynnig
cytundeb gyda gweithredwyr ac awdurdodau lleol i amddiffyn gwasanaethau bysiau
am gyfnod cychwynnol hyd at 31 Gorffennaf 2022, oni bai bod amodau'r farchnad
yn gwella ddigon gan olygu nad oedd angen cefnogaeth bellach. Manteision y cytundeb fyddai
diogelu gwasanaethau tuag at lefelau cyn Covid a darparu sail gyfreithiol
gadarn ar gyfer y cyllid ychwanegol, a chynnig rhywfaint o ddylanwad i
awdurdodau lleol o’r hyn arferai fod yn wasanaethau masnachol. Roedd hefyd yn darparu
capasiti ychwanegol ar gyfer cludiant i'r ysgol. Roedd y peryglon yn cynnwys
gweithredwyr bysiau yn gwrthod cytuno, ond roedd y mwyafrif yn agos at wneud,
felly os na fyddai Sir Ddinbych yn cytuno, roedd yr awdurdod yn llai tebygol o
fod mewn sefyllfa i ddylanwadu ar lefelau gwasanaeth bysiau, a byddai’n
anghydwedd ag awdurdodau eraill yn y rhanbarth. Codwyd
y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd - ·
gan ymateb i gwestiynau gan y
Cynghorydd Mark Young, cadarnhaodd y Rheolwr Cludiant Teithwyr bod gwaith yn
mynd rhagddo gyda Thrafnidiaeth Cymru i sicrhau atebolrwydd democrataidd wrth
symud ymlaen a byddai'r Aelod Arweiniol yn gweithio i sicrhau bod anghenion Sir
Ddinbych yn cael eu bodloni a’u craffu. Cytunwyd
y byddai aelodau yn cael gwybod am drefniadau llywodraethu yn y dyfodol ar ôl
iddynt gael eu sefydlu. O
ran darpariaeth gwasanaethau bysiau a sicrhau bod teithwyr yn teimlo’n ddiogel
tra’n teithio, darparwyd rhywfaint o ystadegau ar lefelau teithwyr oedd yn
dangos bod teithwyr bellach yn fwy hyderus yn defnyddio gwasanaethau bws, gyda
lefelau teithwyr tua 10-12% yn ystod y cyfnod clo cyntaf, o'i gymharu â 23% yn
y cyfnod clo presennol. Cyfeiriwyd
hefyd at y drefn glanhau llym er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd tra'n teithio
a chyflwyno’r drefn o archebu seddi ymlaen llaw ar rai gwasanaethu, gan roi
lefel ychwanegol o hyder. Serch
hynny, roedd cydnabyddiaeth y byddai’n cymryd amser i ddychwelyd i ryw fath o
normalrwydd a lefelau teithwyr cyn Covid. ·
tynnwyd sylw at bwysigrwydd
gwasanaethau bysiau mewn ardaloedd gwledig oedd yn anodd i’w cynnal a
chadarnhaodd y Cynghorydd Brian Jones bod trafodaethau lefel uchel yn cael eu
cynnal ar hyn o bryd oedd yn ymwneud yn benodol ag anghenion gwledig ac roedd
cefnogaeth ar gael o ran hynny gan aelodau arweiniol ar lefel ranbarthol. Diolchodd
yr Arweinydd i’r Cynghorydd Jones am y sicrwydd yna ac roedd yn falch gallu
nodi bod yr effaith ar ardaloedd gwledig yn uchel ar yr agenda ac y gallai
ymagwedd ranbarthol ddarparu cyfle ar gyfer datrysiad mwy arloesol i fodloni
anghenion gwledig. Roedd
yn cefnogi’r ymagwedd ranbarthol gan ei fod yn darparu gwasanaethau mwy cynaliadwy
ac yn sicrhau dialog well gyda gweithredwyr ar lefel is-ranbarthol. · eglurwyd mai amharodrwydd rhai gweithredwyr i ymuno â’r cytundeb oedd maint penodol yr elw a osodwyd ar 2%, ac roedd gweithredwyr yn teimlo oedd yn atal buddsoddiad yn y dyfodol a phryderon y gallai awdurdodau lleol a Thrafnidiaeth ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
SEFYDLU PARTNERIAETH CHWARAEON GOGLEDD CYMRU PDF 523 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth
(copi yn amgaeedig) yn ceisio cefnogaeth y Cabinet mewn egwyddor i sefydlu
Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn – (a) cefnogi,
mewn egwyddor, sefydliad Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru ac yn dirprwyo
awdurdod i Bennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd mewn
ymgynghoriad gydag Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth a Swyddog Adran 151 i
gymeradwyo telerau y Cytundeb Rhwng Awdurdodau Terfynol, a (b) bod Hamdden Sir
Ddinbych Cyfyngedig yn cael ei benodi i gynrychioli’r Cyngor ar Fwrdd
Llywodraethu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru gan weithredu fel asiant i’r
Cyngor. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad yn
ceisio cefnogaeth y Cabinet mewn egwyddor i sefydlu Partneriaeth Chwaraeon
Gogledd Cymru. Darparwyd
rhywfaint o gefndir o ran rôl Chwaraeon Cymru oedd wedi darparu arian i
awdurdodau lleol yn hanesyddol, a phartneriaid eraill i ymgymryd â rhaglenni ac
ymyraethau chwaraeon. Roedd
yr adroddiad yn canolbwyntio ar y cynnig arfaethedig i sefydlu partneriaeth
Chwaraeon Gogledd Cymru rhanbarthol newydd yn cynnwys awdurdodau lleol eraill
gogledd Cymru a phartneriaid allweddol, gan weithio gyda gweledigaeth a rennir
a fydd o fudd i’r rhanbarth. Petai’n
cael ei gymeradwyo, byddai’r cyllid cronnus gan Chwaraeon Cymru (tua £2.7
miliwn y flwyddyn) yn cael ei gyfeirio trwy Chwaraeon Gogledd Cymru gyda
chyfanswm dangosol y cyllid am 5 mlynedd rhwng 2021/22 a 2025/26 yn £13,529,494.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Feeley at gyfranogiad Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig
yn y bartneriaeth, ac achubodd ar y cyfle i roi teyrnged i’r staff am eu
hymateb i’r heriau a wynebwyd ac am gyfrannu mewn meysydd gwasanaeth eraill er
mwyn ymateb i bandemig y Coronafeirws. Fe
arweiniodd Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd yr
aelodau trwy gyfreithlondeb yr adroddiad, yn cynnwys egwyddor Chwaraeon Gogledd
Cymru a’r telerau er mwyn gweithredu, gan dynnu sylw penodol at y model i gael
ei fabwysiadu gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn awdurdod cynnal ynghyd â
sail y cyllid a threfniadau llywodraethu. Fe argymhellwyd bod Hamdden
Sir Ddinbych Cyfyngedig yn cynrychioli’r Cyngor ar y Bwrdd Llywodraethu o
ystyried eu harbenigedd a'r swyddogaethau y mae’n eu gwneud ar ran y Cyngor. Byddai Hamdden Sir Ddinbych
Cyfyngedig yn adrodd yn rheolaidd trwy gyfarfodydd rheoli contract a’r Bwrdd
Llywodraethu Strategol. Roedd
yr amserlenni i gymeradwyo’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod erbyn 22 Ionawr 2021 wedi
golygu diwygiad arfaethedig i argymhelliad yr adroddiad i roi awdurdod
dirprwyedig o ran hynny. Roedd
adroddiad templed wedi cael ei lunio er mwyn i’r awdurdodau geisio
cymeradwyaeth ar gyfer y cynnig drwy eu prosesau ac roedd y cyfeiriad at Wrecsam
ym mharagraff 4.1 wedi cael ei gynnwys mewn camgymeriad, a dylid ei anwybyddu. Cyfeiriodd
yr Arweinydd at bwysigrwydd sicrhau atebolrwydd clir fel y nodwyd gan Bennaeth
y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd, a nodwyd os na fyddai
Sir Ddinbych yn cymryd rhan, ni fyddai modd iddynt arfer unrhyw ddylanwad, ond
roedd yna berygl y gallai blaenoriaethau lleol gael eu gwanhau o ganlyniad i
ymagwedd ranbarthol. Pwysleisiodd
y pwysigrwydd bod cynrychiolydd o’r Cyngor ar y Bwrdd Lywodraethu er mwyn tynnu
sylw at anghenion a dyheadau lleol wrth
symud ymlaen. Cadarnhaodd
Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd bod y
gweithgareddau a ariennir trwy Chwaraeon Gogledd Cymru yn cael eu cyflwyno gan
Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig ar ran y Cyngor ac roedd strwythurau
llywodraethu yn eu lle yn sicrhau deialog barhaus rhwng Hamdden Sir Ddinbych
Cyfyngedig a’r Cyngor mewn cysylltiad â hynny. O ran yr ymagwedd ranbarthol,
peilot ydi Gogledd Cymru, a bwriad Chwaraeon Cymru ydi sefydlu pump
partneriaeth ranbarthol ar draws Cymru. Cyfnod cychwynnol y cytundeb
ydi pum mlynedd a byddai’n dod i ben yn awtomatig wedi hynny oni bai bod pob
partner yn cytuno i’w ymestyn, neu bod pob partner yn cytuno i’w ddirwyn i ben
cyn diwedd y pum mlynedd. Gan
ymateb i ragor o gwestiynau ynglŷn â chyllid, cafodd yr aelodau wybod y
byddai Chwaraeon Cymru yn darparu cyllid i Chwaraeon Gogledd Cymru i’w
ddosbarthu ar draws y rhanbarth; nid oedd y Cyngor yn cyfrannu unrhyw gostau
cyllido. PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn – (a) cefnogi mewn egwyddor sefydlu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru ac yn dirprwyo awdurdod i Bennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Arweiniol ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
GOSOD RHENT TAI A CHYLLIDEBAU REFENIW TAI A CHYFALAF 2021/22 PDF 234 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y
Cabinet i godi rhent blynyddol tai cyngor Sir Ddinbych ac i gymeradwyo'r Cyfrif
Refeniw Tai a Chyllidebau Cyfalaf ar gyfer 2021/22 a’r Cynllun Busnes Stoc Dai.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) mabwysiadu
Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2021/22 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a
Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad); (b) cynyddu rhent
anheddau'r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhent Tai
Cymdeithasol i rent wythnosol cyfartalog o £93.89 i’w weithredu o ddydd Llun 5
Ebrill 2021; (c) nodi’r adroddiad
ychwanegol (Atodiad 3 i’r adroddiad) ar Arbedion Effeithlonrwydd,
Fforddiadwyedd a gwerth am arian, a (d) bod y Cabinet yn
cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar
Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth
y Cabinet ar gyfer cynnydd rhent blynyddol Tai Sir Ddinbych, Cyfalaf y Cyfrif
Refeniw Tai a Chyllidebau Refeniw ar gyfer 2021/22 a'r Cynllun Busnes Stoc Dai. Fe arweiniodd y
Cynghorydd Thompson-Hill yr aelodau drwy’r adroddiad gan fanylu ar ffigurau’r
gyllideb a thybiaethau o ran lefel incwm a gyfrifwyd er mwyn gallu cyflwyno
gwasanaethau refeniw, y rhaglen buddsoddi cyfalaf i gynnal safonau ansawdd tai
ac i ddatblygu’r rhaglen adeiladu newydd.
O ran y cynnydd rhent blynyddol cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bolisi
rhent pum mlynedd ym mis Rhagfyr 2019 ar gyfer rhent tai cymdeithasol ac mae
setliad y rhenti wedi'u cyfrifo gan ystyried y polisi a’r mecanwaith hwnnw ar
gyfer codi rhent. Y cynnydd ar gyfer
2021/22 oedd 1.5% gan arwain at rent wythnosol cyfartalog o £93.89 (cynnydd o
£1.38 mewn rhent wythnosol cyfartalog). Nid oedd cynnig i ddefnyddio’r tâl dewisol
o hyd at £2 yr wythnos ar gyfer eiddo.
Yn rhan o’r broses gosod rhent, rhoddwyd ystyriaeth i fforddiadwyedd
tenantiaid, gwerth am arian ac asesiad o effeithiolrwydd cost. Roedd adolygiad blynyddol Cynllun Busnes y
Stoc Dai y dangos ei fod yn parhau’n gadarn ac yn ariannol hyfyw ac roedd digon
o adnoddau ar gyfer cefnogi’r gwasanaeth tai ac anghenion y stoc am
fuddsoddi. Tynnodd y Swyddog
Arweiniol – Tai Cymunedol sylw at yr angen i gydbwyso lefel mewn cynnydd rhent
er mwyn gallu talu costau yn y dyfodol yn erbyn fforddiadwyedd tenantiaid. Yn sgil lefel chwyddiant, dyma oedd y cynnydd
rhent isaf ers peth amser, ac i denantiaid sy'n derbyn budd-dal tai, byddai’r
hawl i fudd-dal yn cynyddu i dalu am y cynnydd mewn rhent. Roedd y taliadau gwasanaeth cyfartalog, er yn
amrywio rhwng eiddo, wedi gostwng rhywfaint. Wrth ystyried yr
adroddiad, trafodwyd y materion canlynol ymhellach gyda’r Cynghorydd Julian
Thompson-Hill a’r Swyddog Arweiniol – Tai Cymunedol - ·
Dywedodd
y Cynghorydd Mark Young ei fod yn adroddiad gonest oedd yn nodi’n glir y
rhesymau dros gynyddu rhent, ond gofynnodd am ragor o sicrwydd ynglŷn â'r
elfen fforddiadwyedd, yn enwedig o ystyried y gostyngiad posibl mewn taliadau
Credyd Cynhwysol a'r caledi ariannol roedd tenantiaid yn eu hwynebu. Cafodd
wybod waeth beth yw lefel y Credyd Cynhwysol, os ydi tenantiaid yn gymwys i
gael budd-dal byddai unrhyw gynnydd yn y rhent a thâl gwasanaeth yn cael ei
gynnwys. Rhoddwyd sicrwydd bod y
gwasanaeth wedi bod yn cefnogi tenantiaid yn rhagweithiol ac roedd telerau
ad-dalu fforddiadwy’n cael eu cynnig os oeddynt yn mynd i ddyled, heb fygythiad
o weithred gyfreithiol. Rhoddwyd
teyrnged hefyd i Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych am ddarparu cefnogaeth werthfawr
a chyngor am gyllidebu i denantiaid.
Roedd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn Sir Ddinbych yr un
cyfrifoldebau o ran safonau datgarboneiddio a buddsoddi mewn stoc dai, ond
rhenti’r Cyngor oedd yr isaf, ond yr un safon o wasanaeth a ddarperir. Roedd data’r llynedd yn dangos bod rhenti’r
Cyngor ar ochr isaf y raddfa o ran rhent targed Llywodraeth Cymru, ac mae’n
debygol y bydd rhagor o denantiaid yn disgyn o dan y rhent targed eleni, gan
ddangos gwasanaeth ardderchog am gost isel i denantiaid. ·
er ei
bod yn gwerthfawrogi’r angen am adolygiad blynyddol a’r achos dros gynyddu
rhent, roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn cwestiynu amseru’r cynnydd yng
ngoleuni’r caledi ariannol a achoswyd gan y pandemig, ac fyddai hi’n bosibl i
oedi’r cynnydd tan y flwyddyn ganlynol. Cafwyd eglurhad nad ydi’r ddeddfwriaeth yn caniatáu hawlio incwm yn ôl-weithredol a’r flwyddyn nesaf dim ond CPI +1 oedd posibl ei ystyried, a’r tâl dewisol o £2 o bosibl, ond byddai’n gosod cynnydd uwch ar denantiaid mewn un blwyddyn yn hytrach ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
CYLLIDEB 2021/22 – CYNIGION TERFYNOL PDF 265 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) sy’n nodi goblygiadau
Setliad Llywodraeth Leol 2021/22 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar gyfer
2021/22. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn – (a) nodi effaith
Setliad Drafft Llywodraeth Leol 2021/22; (b) cefnogi’r
cynigion a amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad, ac y manylir arnynt yn Adran
4 yr adroddiad, ac yn eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn llunio’r gyllideb
yn derfynol ar gyfer 2021/22; (c) argymell i’r
Cyngor y cynnydd cyfartalog arfaethedig o 3.8% yn Nhreth y Cyngor; (d) argymell i’r
Cyngor fod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo mewn
ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o arian sydd wedi’i
gynnwys yng nghynigion y gyllideb o hyd at £500mil os oes yna symud rhwng
ffigyrau’r setliad drafft a’r setliad terfynol er mwyn gallu gosod Treth y
Cyngor yn amserol, a (e) cadarnhau ei fod
wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les a gyflwynwyd fel
rhan o’r adroddiad hwn. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn amlinellu goblygiadau
Setliad drafft Llywodraeth Leol 2021/22 a'r cynigion ar gyfer cyllideb derfynol
2021/22, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor. Darparodd
y Cynghorydd Thompson-Hill drosolwg o broses y gyllideb a sefyllfa ddiweddaraf
y gyllideb ac ymhelaethodd ar y cynigion i’w hystyried a’r argymhelliad i’r
Cyngor llawn er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2020/21. Roedd y setliad drafft
wedi arwain at setliad cadarnhaol o +3.6% (o’i gymharu â chyfartaledd Cymru o
3.8%) a disgwylir y setliad terfynol ar 2 Mawrth 2021. Roedd pwysau o £9.903
miliwn wedi’u manylu ac roedd effaith defnyddio £685,000 o arian yn 2021/22 yn
golygu cyfanswm o ddiffyg gwerth £10.588 miliwn. Roedd y setliad o +3.6% yn
cynhyrchu £5.42miliwn gan adael bwlch cyllid o £5.167m gyda chynigion i gau’r
bwlch wedi’u nodi yn yr adroddiad a’u hegluro ymhellach yn y cyfarfod. Roedd cynnydd o 3.8% yn Nhreth
y Cyngor wedi’i gynnig i gynhyrchu £2.132m o refeniw ychwanegol. Gan fod y setliad terfynol yn
hwyr, argymhellwyd bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo er mwyn galluogi
addasiadau arian parod yng nghynigion y gyllideb hyd at £500,000. Fe
ychwanegodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo bod y gyllideb yn parhau fel arfer gyda
thybiaeth y byddai rhywfaint o gefnogaeth yn dod gan Lywodraeth Cymru petai
pwysau oedd yn gysylltiedig â Covid yn parhau.
Cadarnhaodd
hefyd y byddai yna ymgysylltu cynnar gydag aelodau am broses y gyllideb ar
gyfer y flwyddyn nesaf. Canolbwyntiwyd
ar y prif faterion trafod a ganlyn - ·
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mark
Young at y diffyg mewn cyllid a’r blynyddoedd o doriadau i gyllidebau awdurdod
lleol a gofynnodd am gynaliadwyedd cyflwyno gwasanaethau yn y dyfodol a
gofynnodd am ddiweddariad am geisiadau blaenorol ar gyfer cyllideb tair blynedd
i gynorthwyo gyda chynllunio ariannol yn y dyfodol Ymatebodd
yr Arweinydd eu bod wedi gwerthfawrogi’r setliadau cadarnhaol dros y ddwy
flynedd diwethaf, yn enwedig o ystyried y sefyllfa ariannol y mae Llywodraeth
Cymru a’r DU yn ei hwynebu. Roedd
yna ddeialog rheolaidd a chadarnhaol gyda Gweinidog Cymru trwy gydol y pandemig
ac roeddynt yn deall yr heriau a’r pwysau oedd llywodraeth leol yn ei wynebu ac
mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gefnogol yn y modd maent wedi ymateb i
sefyllfa Covid-19. Serch
hynny, fe allai etholiadau Senedd Cymru olygu newid mewn Gweinidog allai gael
effaith sylweddol. Roedd
y Prif Weithredwr yn croesawu’r setliad ariannol oedd yn galluogi’r awdurdod i
dalu am y mwyafrif o bwysau gwasanaeth ar gyfer 2021/22, ond nid oedd modd
gwarantu y byddai pwysau newydd yn sgil colli incwm oherwydd Covid-19 yn cael
ei fodloni. Os
na fyddai setliadau yn y dyfodol yn cael eu cynnal ar lefel o’r fath i fodloni
pwysau cynyddol, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol, byddai angen gwneud
penderfyniadau anodd. Mewn
cysylltiad â setliad tair blynedd, fe eglurodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo bod y
cynnig gwreiddiol ar gyfer adolygiad cynhwysfawr o wariant wedi cael ei oedi yn
sgil Covid-19 ac roedd y Canghellor wedi cyhoeddi setliad un mlynedd fis
Tachwedd diwethaf. Roedd
Llywodraeth Cymru angen syniad o’u ffigurau am dair blynedd gan Drysorlys y DU
er mwyn gallu bod mewn sefyllfa i ddarparu setliad tair blynedd ar gyfer
llywodraeth leol wrth symud ymlaen. ·
Cyfeiriodd y Cynghorydd Glenn
Swingler at arbedion o un flwyddyn i'r llall gan ysgolion ac roedd yn teimlo
nad oedd hi’n briodol ceisio am ragor o arbedion yng ngoleuni’r anawsterau a
wynebwyd yn ymateb i Covid-19 a gofynnodd am y swm o fuddsoddiad mewn ysgolion. Mewn cysylltiad â’r pecyn o arbedion cyffredinol, gofynnodd a oedd modd edrych eto i ystyried yr elfen fforddiadwyedd i breswylwyr. Fe eglurodd yr ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed
yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r
cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr
amlinellir isod - ·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £208.302 miliwn (£198.538 miliwn yn
2019/20). ·
rhagwelir
y byddai gorwariant o £2.242miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol. ·
tynnwyd
sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth
unigol ynghyd ag effaith ariannol Coronafeirws a chyllidebau Model darparu
Amgen Hamdden ·
manylion
o arbedion ac arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol o £4.448 miliwn y cytunwyd
arno, gan gynnwys cynnwys arbedion corfforaethol sy’n ymwneud ag adolygiad
actiwaraidd teirblwydd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2 miliwn); 1% arbedion
ysgolion (£0.692 miliwn); arbedion gwasanaeth (£1.756 miliwn). ·
rhoddwyd
diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun
Cyfalaf Tai. Fe eglurodd y Cynghorydd Thompson-Hill nad oedd yna
newidiadau sylweddol ers adroddiad cyllid y mis blaenorol. Roedd y gorwariant o £2.242 miliwn a ragwelir
wedi tybio na fyddai cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a byddai’r ffigurau
yn cael eu diweddaru ar ôl i ni dderbyn y cyllid hwnnw yn unol â’r arfer
blaenorol. O ran y Prosiectau Cyfalaf
roedd y mwyafrif yn datblygu yn unol â’r disgwyliadau, ac o ran Ailddatblygu
Marchnad y Frenhines y Rhyl, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru £1.5 miliwn
ychwanegol (yn ogystal â’r £5miliwn o ddyraniad dros dro), gan olygu bod cam 1
y prosiect wedi cael ei ariannu’n llawn.
Roedd y cais cynllunio a gyflwynwyd ar gyfer y prosiect cyfan. Yn olaf, cyfeiriwyd at y trefniadau grant
amrywiol sydd wedi cael eu gweinyddu gan y Cyngor ar ran LlC sy’n ymwneud â
Covid-19 dros y deng mis diwethaf, ac mae’r arian sydd wedi’i dalu gan
awdurdodau lleol yn fwy na £1 biliwn ac mae Sir Ddinbych wedi talu tua £52
miliwn i fusnesau. Roedd hyn yn brawf
o’r Tîm Refeniw a Budd-daliadau yn gweithio’n tu hwnt o galed a rhoddwyd
teyrnged i staff mewn cysylltiad â hynny. Fe dynnodd y Cynghorydd Mark Young sylw at y gefnogaeth
ardderchog ac ymateb cyflym roedd y Cyngor wedi’i ddarparu i fusnesau, ond
gofynnodd a fyddai rhagor o gymorth ariannol yn dod gan Lywodraeth Cymru o
ystyried bod busnesau dal ynghau a’r caledi a achoswyd yn sgil hynny. Fe eglurwyd bod y cyllid a gyhoeddwyd gan
Lywodraeth Cymru dros y cyfnod clo tan 29 Ionawr, ac roeddynt yn tybio y byddai
rownd arall o gyllid ar gael petai’r cyfnod clo yn parhau ar ôl y dyddiad
hwnnw, ond nid oedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dim am hynny eto. Byddai’r wybodaeth yn cael ei rhannu â’r
aelodau cyn gynted ag y byddai rhagor o wybodaeth ar gael. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed
yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 288 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cafodd rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet ei
gyflwyno i’w ystyried a nodwyd y byddai’r eitem ‘Rheolau'r Weithdrefn
Gontractau’ yn cael ei symud o fis Chwefror i gyfarfod yn y dyfodol yn dibynnu
ar ystyriaeth y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio. Gan ymateb i gais gan y Cynghorydd Meirick
Davies cytunodd yr Arweinydd i drefnu bod nifer o adroddiadau blaenorol am
‘Newidiadau i Bolisi Enwi a Rhifo Strydoedd’ oedd wedi’i drefnu at y cyfarfod
nesaf yn cael eu hanfon ato o’n uniongyrchol. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 12.30pm. |