Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: TRWY GYFRWNG FIDEO.

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT SYLW

Yn sgil y cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol oherwydd pandemig y coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng fideo gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd.  Cafodd pob aelod gyfle i fynychu fel arsylwyr a chafodd y Gohebydd Democratiaeth Leol wahoddiad i arsylwi hefyd.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGANIADAU O GYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorwyr Bobby Feeley a Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol yn eitem 7 – Ymestyn Fframwaith Hamdden DU y Cyngor,  oherwydd eu bod yn Gyfarwyddwyr Hamdden Sir Ddinbych Cyf.

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Bobby Feeley a Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol ag eitem 7 ar y rhaglen – Estyniad i Fframwaith Hamdden y DU y Cyngor, gan eu bod ill dau’n Gyfarwyddwyr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Penderfyniad:

Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y diwrnod cynt y bydd Cymru i gyd yn cael ei rhoi dan gyfyngiadau cyfnod clo byr mewn ymdrech i geisio ailafael mewn rheolaeth ar y coronafeirws.

 

 

Cofnodion:

Ar gais yr Arweinydd, cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf gan y Prif Weithredwr yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru (LlC) y byddai’n cyflwyno cyfnod torri’r cylch ledled Cymru i helpu rheoli’r coronafeirws.  Mewn trafodaethau â LlC, ceisiwyd mesurau penodol i warchod economi a dinasyddion Sir Ddinbych, gan gynnwys pecynnau cymorth i fusnesau ynghyd â gwybodaeth a chanllawiau clir, y trafodwyd rhywfaint ohonynt yng nghyhoeddiad LlC.  Darparwyd sicrwydd fod swyddogion yn gweithio’n galed i sicrhau y gellid cau gwasanaethau’n ddiogel a sefydlu dulliau i gefnogi busnesau a chleientiaid diamddiffyn, yn ogystal â sicrhau bod cymaint o wybodaeth ag sy’n bosib ar gael drwy sianeli cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol.  Bydd gwybodaeth bellach yn cael ei darparu eto yn y dyddiau nesaf.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 350 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Medi 2020 (copi ynghlwm).  

 

Penderfyniad:

Pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad

 

PENDERFYNWYD y dylid, yn amodol ar un pwynt o gywirdeb, derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi 2020 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Medi 2020.

 

Cywirdeb – Tudalen 13, Eitem 9 Adroddiad Cyllid – Gofynnodd y Cynghorydd Mark Young i’w sylw am y £500 a roddwyd i weithwyr gofal gael ei gynnwys yn y cofnodion.  Roedd wedi llongyfarch Llywodraeth Cymru ar roi’r taliad fel rhodd i staff gofal ymroddedig, a dywedodd ei bod yn drueni fod Trysorlys y DU wedi codi treth ar y rhodd.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y pwynt cywirdeb uchod, derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi 2020 a chadarnhau eu bod yn gofnod cywir.

 

 

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

PENDERFYNWYD y byddai aelodau’r Wasg yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol o dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail fod yr eitem yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 16 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

5.

DULL ARFAETHEDIG O DENDRO AR GYFER CAM 1/ CONTRACT GWAITH GALLUOGI AR GYFER ESTYNIAD I YSTÂD DDIWYDIANNOL COLOMENDY, GAN GYNNWYS GORSAF TROSGLWYDDO GWASTRAFF CSDd

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyflawni’r ymarfer tendro arfaethedig i adnabod prif gontractwr i ddarparu Cam 1/ Galluogi Contract Gwaith ar gyfer rhoi estyniad i Ystâd Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       Caniatau’r ymarfer tendro arfaethedig, a

 

(b)       Nodi y bydd adroddiad arall yn cael ei roi gerbron y Cabinet (drwy'r Grŵp Buddsoddi Strategol) i geisio cymeradwyaeth i'r Dyfarniad Contract dilynol ar ôl yr ymarfer tendro, a fydd hefyd yn cadarnhau'r trefniadau rheoli contract, costau'r tendr a manylion y contract.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad cyfrinachol oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gynnal yr ymarfer tendro arfaethedig i ganfod prif gontractwr i gyflawni Cam 1/ Contract Gwaith Galluogi ar gyfer estyniad i Ystâd Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych, gan gynnwys Adeiladu Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff (GTG).

 

Roedd manylion yr ymarfer tendro arfaethedig wedi’u nodi yn yr adroddiad ynghyd â’r amserlenni amlinellol a gwerth disgwyliedig y contract, gan gynnwys sut y mae’n gysylltiedig â’r GTG arfaethedig (Plot 1) a’r gwaith galluogi i’w gyflawni (Plotiau 2 i 5).  Cyfeiriwyd at y cydweithio sy’n mynd rhagddo ar yr estyniad i’r safle a chyflawni’r contract wrth symud ymlaen i ddatblygu.  Cydnabuwyd y cyfleoedd ar gyfer busnesau a thwf economaidd sy’n codi o’r estyniad hefyd.  Roedd y cyngor yn arwain ar yr ymarfer tendro oherwydd y rhyngddibyniaethau rhwng y plotiau ar draws y safle cyfan.  Darparwyd sicrwydd bod y prosiect wedi rhoi ystyriaeth i agweddau ar newid hinsawdd a bioamrywiaeth, gan gynnwys gwarchod cynefinoedd, lleihau nifer y teithiau cerbyd i gasglu gwastraff a gosod mannau gwefru Cerbydau Trydan, a rhoddwyd ystyriaeth hefyd i dechnolegau hydrogen yn y dyfodol.

 

Croesawodd y Cynghorydd Mark Young y cydweithio a’r manteision fydd yn dod yn ei sgil, ac roedd hefyd yn awyddus i sicrhau bod cwmnïau lleol yn cael cyfle i wneud cais.  Darparwyd sicrwydd yn hynny o beth ac roedd disgwyl y byddai yna ddiddordeb lleol yn y tendr, gyda thuedd amlwg i ymgysylltu â busnesau lleol lle bo hynny’n bosib o fewn rheolau'r weithdrefn gontractau.  Byddai’r contract hefyd yn darparu ar gyfer mantais gymunedol a buddsoddiad lleol i gefnogi’r nod honno ymhellach.  Mewn ymateb i gwestiynau pellach, cadarnhaodd y swyddogion mai amser swyddogion fyddai’r unig gost gysylltiedig â’r tendr, gan y cyhoeddwyd y tendr drwy GwerthwchiGymru, sy’n adnodd ar y we.  O ystyried gwerth posib y gwaith, bydd amserlenni Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU) yn gymwys a bydd dyfarnu’r contract yn amodol ar adroddiad pellach i’r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      rhoi cymeradwyaeth i gynnal yr ymarfer tendro arfaethedig, ac yn

 

 (b)      nodi y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet (drwy’r Grŵp Buddsoddi Strategol) i gael cymeradwyaeth ar gyfer Dyfarnu’r Contract wedi hynny, yn dilyn yr ymarfer tendro, a fydd hefyd yn cadarnhau trefniadau rheoli’r contract, costau cyflwyno tendr a manylion y contract.

 

 

SESIWN AGORED

Ar ôl cwblhau’r busnes uchod, ailddechreuwyd y cyfarfod mewn sesiwn agored.

 

 

6.

EITEM O’R PWYLLGOR CRAFFU – ADOLYGU PENDERFYNIAD CABINET SY’N BERTHNASOL I GAEL GWARED AR DIR GER YSGOL PENDREF, DINBYCH pdf eicon PDF 303 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Williams, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Cymunedau (copi ynghlwm) yn nodi casgliadau y daeth y Pwyllgor Craffu iddynt yn dilyn ystyried penderfyniad y Cabinet a alwyd i mewn ar 22 Medi 2020, o ran cael gwared ar dir yn ymyl Ysgol Pendref ac argymell i’r Cabinet i ailedrych ar ei benderfyniad i ystyried casgliadau’r Pwyllgor Craffu ac argymhellion pellach.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Pleidlais: 4 o blaid, 4 yn erbyn, 0 ymataliad; Defnyddiodd yr Arweinydd ei bleidlais fwrw i bleidleisio o blaid y penderfyniad.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet  

 

(a)       Yn cydnabod casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn dilyn ei adolygiad o benderfyniadau’r Cabinet ar 22 Medi 2020;

 

(b)       Ar ôl adolygu eu penderfyniad ac ystyried argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau, gadarnhau penderfyniad y Cabinet ar 22 Medi i:

 

(i)    cymeradwyo gwaredu tir wrth ymyl Ysgol Pendref, Dinbych a amlinellir mewn coch ar y cynllun (Atodiad A yr adroddiad) nad oes ei angen ar y Cyngor, ar y farchnad agored ar gyfer datblygiad preswyl, a dirprwyo awdurdod i'r Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol i gymeradwyo’r gwerthiant terfynol, a

 

(ii)  cadarnhau ei fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o Effaith ar Les i ystyriaeth (Atodiad B o’r adroddiad) fel rhan o'i benderfyniad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau, adroddiad oedd yn rhoi manylion y casgliadau a gyrhaeddwyd gan y Pwyllgor Craffu yn dilyn ystyried y cais galw i mewn o ran penderfyniad y Cabinet a wnaed ar 22 Medi 2020 i gael gwared ar dir ger Ysgol Pendref, Dinbych, nad oedd y cyngor ei angen mwyach, ar y farchnad agored ar gyfer datblygiad preswyl.

 

Hysbyswyd y Cabinet am y trafodaethau manwl a gynhaliwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau mewn perthynas â phenderfyniad y Cabinet.  Nodwyd casgliadau’r Pwyllgor Craffu yn yr adroddiad, ynghyd â’i argymhellion.  Yn gryno, roedd y Pwyllgor wedi argymell bod y Cabinet yn -

 

·         cydnabod casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu;

·         ailedrych ar ei benderfyniad gan roi ystyriaeth i’r weledigaeth ar gyfer tai cymdeithasol a thai fforddiadwy yn y dyfodol fel a nodir yn y fframwaith datblygu cenedlaethol newydd drafft, ‘Cymru’r Dyfodol – y Cynllun Cenedlaethol 2040’;

·         gohirio’r penderfyniad o ran y safle penodol hwn am 12 mis, nes i’r fframwaith datblygu cenedlaethol newydd gael ei gytuno;

·         ystyried opsiynau i wneud y tir yn fwy deniadol i landlordiaid cymdeithasol a datblygwyr llai drwy ei rannu’n barseli/blotiau llai, a

·         peidio creu gorgyflenwad o dai anfforddiadwy mawr yn Ninbych, nad ydynt yn diwallu angen lleol.

 

Fel Aelod Arweiniol, atgoffodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y Cabinet fod y tir dan sylw wedi cael ei ddyrannu ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn 2013, yn dilyn yr holl brosesau a chamau ymgynghori priodol.  Roedd y tir wedi’i gadw yn y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ac felly byddai unrhyw dderbyniad cyfalaf o’r gwerthiant yn cael ei glustnodi ar gyfer y CRT ac ni ellid ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw ddiben arall.  Ymatebodd i argymhellion y pwyllgor craffu fel a ganlyn -

 

·         mae fframwaith datblygu cenedlaethol newydd LlC yn dal i fod ar ei ffurf ddrafft heb unrhyw arwydd y bydd unrhyw gyllid newydd yn cael ei gynnig i gefnogi’r dyheadau am dai fforddiadwy. 

Er y gallai awdurdodau lleol gael gafael ar grant tai cymdeithasol o Ebrill 2021 ymlaen, swm penodol fyddai’r cyllid hwn wedi’i dorri allan o gyllidebau presennol, y byddai angen i gynghorau ymgeisio yn erbyn ei gilydd amdano a chyfrannu’n ariannol tuag ato.  Byddai’r gyfradd ymyrraeth o 58% ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cael ei diogelu ac nid oedd disgwyl i’r swm i gynghorau fod yn fawr iawn;

·         nid yw gohirio penderfyniad yn y gobaith y gallai rhywbeth ddigwydd yn y dyfodol yn ffordd gynaliadwy o wneud penderfyniadau. 

Roedd y derbyniad cyfalaf o werthu’r safle eisoes wedi’i ragdybio yng nghynllun busnes y CRT a byddai unrhyw oedi yn effeithio ar gyflawniad y cynllun hwnnw, gan arwain at lai o dai newydd neu lai o waith cynnal a chadw i’r stoc bresennol neu gyfuniad o’r ddau, a byddai yna gyfnod hirach o aros am dai fforddiadwy ar y safle;

·         roedd yna resymau pwysig pam na fyddai’n ymarferol rhannu’r safle’n blotiau datblygu llai, sef yr effaith ar y derbyniad cyfalaf a chost fesul uned y tai fforddiadwy a gynigir, sy’n codi o gost uwch y datblygiad a gwerth is y tir. 

Roedd plotiau llai yn cynyddu costau ar bob cam o’r datblygiad a byddai angen i gonsortiwm o ddatblygwyr gytuno ar raglen gyfan o waith cyn prynu.  Gallai’r cyngor ddarparu’r seilwaith ar eu risg a’u cost eu hunain heb sicrwydd y gallent adennill yr arian gan brynwyr y dyfodol, a byddai hefyd yn lleihau neu’n negyddu unrhyw dderbyniad cyfalaf;

·         o ran creu gorgyflenwad o dai anfforddiadwy nad ydynt yn diwallu angen lleol, byddai’r gwerthiant arfaethedig yn digwydd ar y farchnad agored gydag amod o 20% o  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

ESTYNIAD I FFRAMWAITH HAMDDEN Y DU Y CYNGOR pdf eicon PDF 284 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) a Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i roi estyniad i Fframwaith Hamdden y DU y Cyngor tan fis Ionawr 2022.

 

Penderfyniad:

Pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo estyniad i Fframwaith Hamdden y DU tan Ionawr 2022 ar yr un telerau ag y cafodd ei ddyfarnu, ac mewn unrhyw achos bydd y fath gyfnod o estyniad wedi’i gyfyngu i 50% o werth y cytundeb fframwaith gwreiddiol yn unol â Rheoliad 72 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y cyd-adroddiad gyda’r Cynghorydd Bobby Feeley, oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i estyn Fframwaith Hamdden y DU y Cyngor tan fis Ionawr 2022.

 

Hysbyswyd y Cabinet y bydd tymor pedair blynedd Fframwaith Hamdden bresennol y DU yn dod i ben ym mis Ionawr 2021. Nodwyd y darpariaethau a’r cyfyngiadau o fewn deddfwriaeth caffael, fel yr oedd yn berthnasol i’r fframwaith, ynghyd ag effaith gweithredu o fewn y cyfyngiadau a orfodwyd o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.  Er budd y cyngor a Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig (DLL), a hefyd o ran tegwch i bob darparwr yn y farchnad, argymhellwyd gohirio lansiad proses gaffael newydd tan y flwyddyn nesaf, pan fydd ymarfer newydd a gynlluniwyd yn cychwyn.  Nodwyd fod DLL dan gontract i reoli’r fframwaith bresennol ar ran y cyngor a’u bod yn cefnogi’r estyniad, a bod y cyflenwr presennol, sef Alliance Leisure, wedi cadarnhau y byddai’n fodlon parhau â’r fframwaith bresennol.

 

Cydnabu’r Arweinydd fanteision y fframwaith ar gyfer y cyngor a DLL fel ei gilydd, ac o ran codi amlygrwydd gwasanaethau hamdden y tu hwnt i ffiniau Sir Ddinbych.  Fel Cadeirydd DLL, pwysleisiodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr anawsterau y mae’r cwmni newydd wedi’u hwynebu ers iddo gychwyn ym mis Ebrill a’r heriau i fasnach mewn amgylchiadau anodd, a thalodd deyrnged i’r holl aelodau staff yn hynny o beth.  Roedd y cyhoeddiad am y cyfnod clo diweddaraf wedi bod yn ergyd pellach a'r gobaith oedd y bydd y gwasanaethau'n ailgychwyn ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu codi.   Ategodd y Cabinet y teimladau hyn.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn cymeradwyo'r estyniad i Fframwaith Hamdden y DU tan fis Ionawr 2022 ar yr un telerau gosod, ac y bydd cyfnod estynedig o’r fath yn gyfyngedig i 50% o werth y cytundeb fframwaith gwreiddiol yn unol â Rheoliad 72 Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015.

 

 

8.

CONTRACT CAEL GWARED AR ASBESTOS pdf eicon PDF 217 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gychwyn proses gaffael ar gyfer contract gwaith gyda Chontractwyr Cael Gwared ar Asbestos.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn

 

(a)       Cytuno i gychwyn y broses gaffael a hysbysebu ar gyfer y contract gwaith hwn gyda Chontractwr Cael Gwared ar Asbestos

 

(b)       Cytuno y dylid gweithredu ar unwaith yn dilyn y penderfyniad uchod er mwyn rhwystro unrhyw oedi o ran dyfarnu’r contract, a

 

(c)        cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau;

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gychwyn proses gaffael ar gyfer contract gwaith gyda Chontractwr Cael Gwared ar Asbestos trwyddedig.

 

Mae’r trefniadau presennol i hwyluso’r gwaith o gael gwared ar asbestos yn eiddo’r cyngor drwy fframwaith cydweithredol yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2020.  I hwyluso dull mwy hyblyg a syml, argymhellwyd contract gwaith sy’n cynnwys cytundeb ag un contractwr a chyfraddau sefydlog i sicrhau gwell gwerth am arian a gwasanaeth wedi’i deilwra’n well.  Byddai’r contract gwaith yn cael ei sefydlu am 12 mis i gychwyn, gyda’r cyfle i’w estyn bob blwyddyn hyd at uchafswm o 10 mlynedd, a dim ond os yw perfformiad y contractwr yn foddhaol y byddai’r contract yn cael ei adnewyddu.  Nodwyd manylion gwerth y contract yn yr adroddiad, gyda chyfanswm gwerth i’r contract o hyd at £4 miliwn.  Er mwyn osgoi unrhyw oedi wrth ddyfarnu’r contract, argymhellwyd y dylid gweithredu’r penderfyniad i gychwyn ar y broses gaffael ar unwaith.

 

Roedd y Cabinet yn fodlon bod y broses gaffael a argymhellwyd yn cefnogi anghenion busnes y cyngor ac yn cynnig gwerth am arian.  Nodwyd y byddai’r caniatâd i ddyfarnu’r contract i’r cynigiwr llwyddiannus yn amodol ar adroddiad pellach i'r Cabinet ym mis Rhagfyr.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      cytuno i gychwyn ar y broses gaffael ar gyfer y contract gwaith hwn, gan hysbysebu am Gontractwr Cael Gwared ar Asbestos trwyddedig;

 

 (b)      cytuno i weithredu’r penderfyniad uchod ar unwaith er mwyn osgoi unrhyw oedi i ddyfarnu’r contract; ac yn

 

 (c)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall a rhoi ystyriaeth i’r Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

9.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 479 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol a gytunwyd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion am y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £208.302 miliwn (£198.538 miliwn yn 2019/20);

·        rhagwelir gorwariant o £5.107 miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol (nid oedd y gorwariant yn rhagdybio derbyn unrhyw grantiau na hawliadau 'colli incwm’ pellach);

·        tynnwyd sylw at y risgiau a’r rhagdybiaethau presennol sy’n ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, ynghyd ag effaith ariannol y coronafeirws a chyllidebau Model Darparu Amgen Hamdden;

·        cytunwyd ar arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gofynnol manwl o £4.448 miliwn, gan gynnwys arbedion corfforaethol sy’n gysylltiedig ag adolygiad actiwaraidd bob tair blynedd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2m); 1% o arbedion ysgolion (£0.692m); arbedion gwasanaeth (£1.756m);

·        cafwyd diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf mewn manylder, yn enwedig o ran effaith ariannol Covid-19, gan gynnwys y cyllid grant a sicrhawyd hyd yma a’r sefyllfa o ran hawliadau ar gyfer y cyngor.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·        Eglurwyd fod setliad gwell na’r disgwyl gan LlC wedi arwain at i’r Cyngor gymeradwyo gostyngiad yn yr arbedion ysgolion o 2% i 1% ym mis Chwefror 2020, i gydnabod balansau diffyg net ysgolion.

·        Bydd y setliad cyllideb drafft yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr, gyda’r setliad terfynol i’w gyhoeddi ym mis Mawrth 2021, ond ni chafwyd unrhyw arwydd o’r hyn y bydd yn ei olygu. 

Oherwydd y cyhoeddiad hwyr, ychydig o newidiadau a ddisgwylir yn y setliad drafft, ac roedd yn debygol y byddai’r cyngor angen gosod cyllideb cyn cyhoeddi’r setliad terfynol.

·        Nid oedd unrhyw gyhoeddiad wedi’i wneud o ran y cyllid ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol mewn perthynas â’r cyfnod clo sydd ar ddod yn benodol, a thybiwyd y byddai hawliadau am golli incwm a chostau ychwanegol a ysgwyddwyd o ganlyniad yn cael eu hawlio o’r gronfa £264 miliwn a gyhoeddwyd yn flaenorol gan LlC.

·         Teimlai’r Cynghorydd Bobby Feeley y dylai LlC ddarparu cyllid penodol ar gyfer y sector hamdden o ystyried ei fod yn wasanaeth hanfodol o ran iechyd a lles, a’i fod yn parhau i wynebu sefyllfa fasnachu ansicr ac anodd.  

Nodwyd fod yr hawliad am golli incwm mewn perthynas â Hamdden ar gyfer Chwarter 1 wedi cael ei dalu a bod yr hawliad am Chwarter 2 wrthi’n cael ei baratoi, ond roedd ansicrwydd o hyd o ran Chwarteri 3 a 4.  Adroddodd yr Arweinydd ar gyfarfodydd rheolaidd a thrafodaethau cadarnhaol â LlC, a oedd yn ymwybodol o’r pwysau sy’n wynebu llywodraeth leol, gan gynnwys y gwasanaethau hamdden.  Fodd bynnag, mae’n eithaf posib y bydd y pwysau ariannol cynyddol ar LlC yn risg i lywodraeth leol, yn enwedig o ran setliadau’r dyfodol.

·         Holodd y Cynghorydd Mark Young sut y byddai’r cyngor yn mynd i’r afael â’r diffyg ariannol os nad oedd cyllid ar ddod gan LlC, a cheisiodd sicrwydd fod y cyngor yn parhau i weithio gyda busnesau a thrigolion o ran ardrethi busnes a threth y cyngor o ystyried yr heriau ariannol cyfredol.  

Adroddodd y Pennaeth Cyllid fod y cyngor wedi bod yn ddoeth gyda’i gronfeydd wrth gefn, gyda chronfeydd wedi’u clustnodi a chronfa liniaru’r gyllideb y gellid ei defnyddio os bydd angen, a bydd unrhyw argymhellion yn hynny o beth yn cael eu dwyn ger bron y Cabinet.  Roedd yn hyderus y byddai’r cyngor yn parhau’n ddiddyled dros y flwyddyn ariannol bresennol, ond roedd pryderon o ran y flwyddyn ariannol nesaf a thu hwnt.  Roedd y  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 188 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys.  

 

Penderfyniad:

Pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried.

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 13.05.