Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes
Eitemau
Rhif Eitem

MATERION O HYSBYSIAD

Yn sgil y cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol yn sgil pandemig y Coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng fideo gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd.  Cafodd pob aelod gyfle i fynychu fel arsylwyr a chafodd y Gohebydd Democratiaeth Lleol wahoddiad i arsylwi hefyd.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y newyddion trist bod Sue License, y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd wedi marw.  Roedd hi’n swyddog uchel ei pharch ac fe dalodd deyrnged i’w phroffesiynoldeb a’i chefnogaeth werthfawr i aelodau. Cofion at ei theulu ar yr adeg drist hon. Atseiniodd Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Meirick Davies y teimladau hynny.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorwyr Meirick Davies, Huw Hilditch-Roberts, Peter Scott, Emrys Wynne a Mark Young gysylltiad personol ag eitem 5 ar y rhaglen – Cynigion Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Datganodd y Cynghorydd Bobby Feeley gysylltiad personol ag eitem 11 ar y Rhaglen – hen Westy’r Savoy a Marchnad y Frenhines, Theatr a Gwesty, y Rhyl.

 

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 5 ar y rhaglen – Cynigion Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif –

 

Y Cynghorydd Meirick Davies – Llywodraethwr Ysgol Cefn Meiriadog

Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts – Rhiant ar blentyn o Ysgol Brynhyfryd / Llywodraethwr Ysgol Pen Barras

Y Cynghorydd Peter Scott – Llywodraethwr Ysgol Fabanod Llanelwy

Y Cynghorydd Emrys Wynne – Llywodraethwr Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Borthyn

Y Cynghorydd Mark Young – Llywodraethwr Ysgol Uwchradd Dinbych

 

Datganodd y Cynghorydd Bobby Feeley gysylltiad personol ag eitem 11 ar y Rhaglen – hen Westy’r Savoy a Marchnad y Frenhines, Theatr a Gwesty, y Rhyl oherwydd ei bod yn Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Penderfyniad:

Darparodd y Prif Weithredwr drosolwg o’r sefyllfa bresennol o ran Covid-19 yn Sir Ddinbych.

 

Cofnodion:

Darparodd y Prif Weithredwr drosolwg o’r sefyllfa bresennol o ran Covid-19 yn Sir Ddinbych ar gais yr Arweinydd.  Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos cynnydd mewn achosion dros y saith niwrnod diwethaf i 25.1 achos i bob 100,000 o’r boblogaeth.  Nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd o drosglwyddiad cymunedol parhaus, fodd bynnag roedd yn sefyllfa oedd yn newid yn gyflym iawn. Roedd y ffigurau yn debyg i bedair sir arall Gogledd Cymru, ac o ganlyniad roedd cyfarfod rhanbarthol wedi cael ei alw ar gyfer y diwrnod hwnnw i drafod y sefyllfa. Roedd y cynnydd yng nghyfraddau'r haint yn batrwm cenedlaethol gyda nifer o siroedd dan gyfyngiadau clo lleol ac er bod y sefyllfa’n un bryderus, cafwyd sicrwydd bod cyrff cyhoeddus yn cydweithio'n agos i fonitro a rheoli'r sefyllfa'n ofalus, a byddai aelodau'n cael eu hysbysu o ddatblygiadau.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 307 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2020 (copi’n amgaeedig). 

 

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2020 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2020.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2020 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

RHAGLEN YSGOLION YR 21AIN GANRIF - CYNIGION BAND B pdf eicon PDF 309 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r dull ar gyfer cyflawni cynigion Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Sir Ddinbych.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo dechrau prosiectau yn Ysgol Plas Brondyffryn / Ysgol Uwchradd Dinbych, Dinbych; Ysgol Bryn Collen / Ysgol Gwernant, Llangollen ac Ysgol Pendref, Dinbych, fel rhan o’r cam cyntaf o brosiectau ar gyfer Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a chyflwyno’r cynigion hyn i Lywodraeth Cymru, a

 

(b)       parhau i geisio cyllid ychwanegol ar gyfer ail gam prosiectau Band B ac adolygu’r sefyllfa ymhen 18 mis i ganfod opsiynau ar gyfer gweithredu rhai o’r prosiectau hyn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad gan ddarparu diweddariad ar gynnydd y cynigion a cheisio cymeradwyaeth darpariaeth Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Sir Ddinbych.

 

Roedd cynigion Band B yn canolbwyntio ar fuddsoddiad mewn ysgolion yn ardal Llangollen a Dinbych ynghyd ag ysgol gynradd newydd yn y Rhyl.  Ystyriodd y Cabinet ddewisiadau i symud Band B ymlaen ym mis Rhagfyr 2019 a cytunodd i ofyn am gyllid ychwanegol o £15 miliwn gan Lywodraeth Cymru (LlC) a oedd angen cyfraniad cyffredinol o tua £21 miliwn ar gyfer Sir Ddinbych hefyd er mwyn darparu rhaglen o £83 miliwn.  Darparwyd manylion o ymateb LlC, a oedd angen rhestr o brosiectau i gael eu blaenoriaethu a darpariaeth y rhaglen mewn dau gam.  Byddai cam cyntaf y prosiect yn cynnwys gwaith ymarferoldeb manwl sy'n eu galluogi i gychwyn, a byddai'r ail gam angen i'r cyngor barhau i drafod eu hachos gyda LlC am adnoddau ychwanegol i sicrhau dewisiadau darparu.

 

Esboniodd yr Aelod Arweiniol, er bod y rhaglen yn canolbwyntio ar yr un ysgol, ni fyddai’n bosib, o wybod bod addasiad i gyllid LlC, i barhau gyda phob prosiect ar yr un pryd.  Cynhaliwyd proses flaenoriaethu yn seiliedig ar alw ac fe eglurodd y broses honno ymhellach, yn ogystal â'r rhesymeg tu ôl i drefn flaenoriaethau pob prosiect ysgol unigol.  Awgrymwyd y dylid dychwelyd gydag adroddiad pellach i'r Cabinet ymhen 18 mis, o wybod yr angen i roi pwysau ar LlC am ragor o gyllid tuag at y prosiectau yn yr ail gam. Yn nhermau terfynau amser, darparwyd manylion o'r camau amrywiol ac roedd yn bleser nodi y byddai datblygiadau a rheolaeth prosiectau adeiladu carbon isel yn cael effaith gadarnhaol ar ôl troed carbon y cyngor ac yn arwain at arbedion ariannol.

 

Roedd y Cabinet yn siomedig wrth adrodd na fyddai’n bosibl parhau gyda’r cynigion gwreiddiol fel y cynlluniwyd oherwydd yr addasiad i'r cyllid, ond cytunodd gyda'r ffordd o weithio a amlinellwyd yn yr adroddiad fel y ffordd gorau ymlaen i ddarparu buddsoddiad wedi'i dargedu yn seiliedig ar yr angen, a chroesawodd y buddsoddiad hwnnw mewn ysgolion.  Ystyriwyd bod llwyddiant blaenorol y cyngor wrth gyflawni prosiectau yn sylfaen gadarn ac roedd yn cefnogi rhoi pwysau ar LlC am gyllid ychwanegol ar gyfer yr ail gam, ac i adolygu’r sefyllfa mewn 18 mis. Cafodd y mesurau arbed ynni ar gyfer prosiectau ysgolion y cyfeiriodd yr Aelod Arweiniol atynt eu croesawu hefyd.  Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Mark Young, cadarnhawyd bod pob Pennaeth wedi cael eu briffio ar y sefyllfa ynghyd ag aelodau lleol, a cafwyd sicrwydd y byddai gohebiaeth yn parhau gydag ysgolion wrth symud ymlaen. Y gobaith oedd datblygu achosion busnes ar ddechrau'r flwyddyn nesaf, ond roedd hyn yn dibynnu ar LlC.

 

Ymatebodd Aelodau Arweiniol i gwestiynau gan aelodau nad oedd yn rhan o’r Cabinet fel a ganlyn -

 

·         mewn ymateb i'r Cynghorydd Paul Penlington, esboniwyd bod ysgolion ym Mand B wedi cael eu dewis yn seiliedig ar broses flaenoriaethu o’r angen mwyaf a'r cyflwr cyffredinol. 

Bu buddsoddiad sylweddol yn Ysgol Uwchradd Prestatyn yn nhermau atgyweirio a gwaith cynnal a chadw, a byddai’r ysgol yn debygol o fod ym Mand C, er, er byddai angen gwneud gwaith i fesur yr effaith ar niferoedd disgyblion o ganlyniad i’r buddsoddiad yn ysgolion y Rhyl.

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Emrys Wynne at ddefnydd Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru i gaffael prosiectau, ac roedd yn awyddus bod mwy o bwyslais yn cael ei roi ar gwmnïau lleol – rhoddwyd sicrwydd bod dros 50% o fusnesau wedi’u lleoli yng Ngogledd Cymru a bod camau wedi cael eu cymryd i alluogi i fusnesau lleol gymryd rhan. 

Roedd rhai prosiectau mwy yn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

GWAREDU TIR WRTH YMYL YSGOL PENDREF, DINBYCH pdf eicon PDF 215 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i waredu tir wrth ymyl Ysgol Pendref, Dinbych ar y farchnad agored ar gyfer datblygiad preswyl.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo gwaredu tir wrth ymyl Ysgol Pendref, Dinbych a amlinellir mewn coch ar y cynllun (Atodiad A yr adroddiad) nad oes ei angen ar y Cyngor, ar y farchnad agored ar gyfer datblygiad preswyl, a dirprwyo awdurdod i'r Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol i gymeradwyo’r gwerthiant terfynol, a

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o’r Effaith ar Les i ystyriaeth (Atodiad B o’r adroddiad) fel rhan o'i benderfyniad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer gwaredu tir (cae yn ymestyn i 2.28 hectar / 6.97 erw) wrth ymyl Ysgol Pendref, Dinbych ar y farchnad agored ar gyfer datblygiad preswyl.

 

Roedd y tir arfer bod yn rhan o Ystâd Amaethyddol y Cyngor ac yn cael ei ddefnyddio fel tir gosod tymor byr ar gyfer pori ar hyn o bryd. Cafodd ei ddyrannu ar gyfer datblygiad preswyl yn y Cynllun Datblygu Lleol a mabwysiadwyd Brîff Datblygu Safle. Cafodd y cae, ynghyd ag un llai wrth ymyl Tan y Sgubor eu meddiannu gan y Cyfrif Refeniw Tai ac roedd y gwaith i adeiladu tai ar y cae llai (ar gyfer cynnal rhent cymdeithasol o fewn y Cyngor) ar fin dechrau yn yr hydref. Oherwydd nifer y tai newydd y mae modd eu codi ar y cae mwyaf, a’r dymuniad i godi mathau a deiliadaethau gwahanol o dai i gwrdd ag anghenion dynodedig ardal Dinbych, cynigiwyd gwerthu’r cae mwyaf er mwyn galluogi datblygiad gan barti allanol. Disgwylir i 20% o’r tai a godir fod yn unedau fforddiadwy a chael eu cynnig i’r Cyngor yn gyntaf am bris wedi’i gadarnhau yn unol â’r Canllaw Cynllunio Atodol a fabwysiadwyd ar gyfer tai fforddiadwy.

 

Atebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion y cwestiynau fel a ganlyn –

 

·         bod y ffigwr 20% ar gyfer tai fforddiadwy yn seiliedig ar ddadansoddiad o angen yn ardal Ninbych gan ystyried datblygiadau tai eraill a byddai amod yn cael eu ychwanegu i unrhyw gytundeb gwerthiant bod 20% o dai a adeiledir yn gorfod bod yn dai fforddiadwy ac yn cael eu cynnig i’w gwerthu i'r cyngor yn gyntaf.

·         cafodd y tir ei ddyrannu ar gyfer tai yn y CDLl a’i bennu i’r Cyfrif Refeniw Tai, ac o ganlyniad ni fyddai’r polisi blaenorol sy’n cynnwys buddsoddi cyfalaf i’r ystâd amaethyddol wedi bod yn gymwys.

·         eglurwyd bod lleoliad y plot llai y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad heb ei arddangos oherwydd ei fod eisoes wedi cael ei drin.

·         O ran cwestiynau ynghylch isadeiledd i gefnogi datblygiadau yn y dyfodol, nodwyd bod Brîff Datblygu Safle wedi cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio a bod gwaith o edrych ar yr ysgol heb ei gwblhau eto, ond bydd yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses honno.

·         oherwydd maint y safle, ychydig o rinweddau fyddai o gael caniatâd cynllunio ymlaen llaw, ac ystyriwyd mai  cymeradwyaeth Brîff Datblygu Safle fyddai’r dewis gorau, gyda’r datblygwr yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio yn seiliedig ar eu cynlluniau eu hunain ar gyfer y safle hwnnw gan ystyried y Briff.

·         Gofynnodd y Cynghorydd Rhys Thomas bod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol diweddaraf a gyhoeddwyd gan LlC yn cael ei ystyried wrth werthu’r safle a bod trafodaeth ar gyd-destun y fframwaith hwnnw a sut y byddai’n effeithio ar safleoedd presennol a rhai’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      cymeradwyo gwaredu tir wrth ymyl Ysgol Pendref, Dinbych a amlinellir mewn coch ar y cynllun (Atodiad A yr adroddiad) nad oes ei angen ar y Cyngor, ar y farchnad agored ar gyfer datblygiad preswyl, a dirprwyo awdurdod i'r Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol i gymeradwyo’r gwerthiant terfynol, a

 

 (b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o’r Effaith ar Les i ystyriaeth (Atodiad B o’r adroddiad) fel rhan o'i benderfyniad.

 

 

7.

ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2019-2020 pdf eicon PDF 215 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi'n amgaeedig) yn cyflwyno’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft ar gyfer 2019-2020 i’w gadarnhau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cadarnhau cynnwys Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft 2019 i 2020.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ynghyd â’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2019-2020, cyn ei gyflwyno i’r Cyngor er cymeradwyaeth a’i gyhoeddi yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

 

Cynghorwyd y Cabinet bod yr adroddiad wedi cael ei oedi oherwydd yr amhariad a achosodd Covid-19 ac o ganlyniad roedd yn trafod chwarter 1 hefyd lle'r oedd gwybodaeth ar gael, gan gynnwys ymateb y cyngor i’r pandemig. Cyflwynodd yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol berfformiad y cyngor yn erbyn ei flaenoriaethau yn 2019 i 2020; amlinellodd gynlluniau ar gyfer darpariaeth y Cynllun Corfforaethol yn 2020 i 2021; dangosodd gynnydd prosiectau’r cyngor, ac amlygodd gynnydd y cyngor wrth reoli ei risgiau.

 

Darparodd y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol gyflwyniad cryno ar yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol, gan amlygu yr heriau/cyflawniadau allweddol yn sgil Covid-19; diweddariad ar y cynnydd a wnaed yn erbyn pob un o’r meysydd blaenoriaeth corfforaethol; cyfeiriadau at reoli risg, datblygu cynaliadwy a materion cydraddoldeb, ac fe ddarparwyd sicrwydd ynghylch craffu adroddiadau rheoleiddio allanol.  Yn gryno, fe wnaeth y cyngor gynnydd da yn erbyn blaenoriaethau, sydd wedi cael eu heffeithio gan Covid-19 er hynny, ac sydd wedi dod â’i heriau.  Ychwanegodd bod adolygiad cyfran o flaenoriaethau wedi datgelu eu bod yn berthnasol o hyd wrth adlewyrchu ar anghenion cymunedau er bod angen addasiad efallai.  Adroddodd y Prif Weithredwr ar edefyn adfer newydd i adolygu cynnydd yn erbyn y Cynllun Corfforaethol a chynnydd mewn rhai meysydd sydd wedi cael eu heffeithio – byddai canlyniad yr adolygiad yn cael ei adrodd yn ôl i aelodau.  Nodwyd efallai bydd cynllunio i’r dyfodol ar gyfer y Cynllun Corfforaethol newydd sydd fin cychwyn yn y chwe mis nesaf yn cael ei effeithio gan Covid-19.

 

Teimlodd yr Arweinydd bod yr adroddiad yn amlygu hyblygrwydd y cyngor wrth fynd i’r afael â’r heriau a wynebwyd ac fe dalodd deyrnged i'r ffordd roedd yr awdurdod wedi ymateb i'r pandemig, gan weithio'n dda gyda chymunedau wrth drin materion, a sut addasodd y gweithlu ei adnoddau mewn cyfnod o bwysau. Roedd yn falch bod rôl y llywodraeth leol a’i waith i ymateb i’r pandemig  wedi cael ei gydnabod gan Llywodraeth Cymru.  Er yr holl bwysau, roedd yr awdurdod wedi gallu darparu elfennau allweddol yn nhermau ei flaenoriaethau corfforaethol ac fe amlygodd dau fater sydd angen canolbwyntio arnynt ymhellach wrth symud ymlaen (1) cefnogi canol trefi/ardaloedd gwledig o wybod y pwysau economaidd, a (2) buddsoddiad mewn cysylltiad digidol i gyd-fynd ag arferion gweithio sy'n newid.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         Talodd y Cynghorydd Bobby Feeley deyrnged i’r gwasanaeth a ddarparwyd gan Sir Ddinbych Yn Gweithio; cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod gwaith yn cael ei wneud i ystyried sut y gellir darparu’r gwasanaeth yn y dyfodol o ystyried ei fod yn dibynnu ar gyllid grant.

·         mewn ymateb i faterion a godwyd gan y Cynghorydd Meirick Davies, cytunodd Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol i edrych i mewn i’r geiriad addas i ddisgrifio anheddau gwag, ac i gynnwys esboniad cyffredinol yng nghofrestr y prosiect lle'r oedd prosiectau mewn perygl neu'n profi rhwystrau; cadarnhaodd y Cynghorydd Bobby Feeley mai hi oedd yr Aelod Arweiniol a oedd yn gyfrifol am y prosiect wrth weithio tuag at Gyngor Cyfeillgar i Ddementia (y Swyddog Arweiniol oedd Gwasanaethau Cymorth Cymunedol) a rhoddodd ddiweddariad ar y cynnydd.

·         Roedd y Cynghorydd Peter Scott yn croesawu prosiect amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer Dwyrain y Rhyl ac amlygodd y gwaith adfer a oedd heb ei gwblhau mewn perthynas â'r Afon Elwy.

·         mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler, cadarnhaodd swyddogion bod strategaeth newid hinsawdd drafft yn cael ei datblygu a fyddai’n cynnwys ffyrdd i leihau allyriadau  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI’R TRYSORLYS 20119/2020 pdf eicon PDF 210 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ynglŷn â pherfformiad y swyddogaeth rheoli’r trysorlys ac i ddangos bod y Cyngor yn cydymffurfio â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2019/2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2019/20 a’i chydymffurfiaeth â’r Dangosyddion Darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2019/20 (Atodiad 1 yr adroddiad), a

 

(b)       cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn diweddaru'r aelodau ar berfformiad y swyddogaeth rheoli trysorlys ac sy’n dangos cydymffurfiad â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2019/20.

 

Wrth grynhoi'r adroddiad, cyfeiriodd y Cynghorydd Thompson-Hill at bwysigrwydd rheoli’r trysorlys, a’r cefndir economaidd a'i effaith ar weithgareddau rheoli'r trysorlys.  Amlygodd y prif bwyntiau ar gyfer aelodau yn nhermau benthyca gyda pob dangosydd darbodus wedi'u nodi, gan fynd â’r aelodau drwy'r dangosyddion hynny fel y manylir yn Atodiad B gan gadarnhau cymarebau addas o ariannu costau a lefelau benthyca o fewn terfynau.  Nodwyd bod Llywodraethu Corfforaethol a’r Pwyllgor Archwilio'n monitro’r swyddogaeth rheoli’r trysorlys a’u bod wedi derbyn yr adroddiad.

 

Esboniodd Pennaeth Cyllid y rhesymeg dros gymryd dau fenthyciad newydd ar ddechrau’r flwyddyn, a oedd wedi cael eu cymryd oherwydd materion llif arian yn bennaf wrth ddarparu cynlluniau Llywodraeth Cymru. Yn nhermau sicrwydd, roedd rheolir trysorlys wedi cael sgôr sicrwydd uchel gan Archwilio Mewnol.  Roedd y cyngor yn cysylltu â'i gynghorwyr trysorlys allanol yn rheolaidd, ac ailadroddwyd y polisi o fenthyca ar y cyfraddau llog lleiaf posib. Roedd y lefel fenthyca bresennol fel cyfran o'r ffrwd refeniw net ar 6.72% yn cael ei ystyried yn fforddiadwy.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mark Young, cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol bod categori newydd wedi cael ei gyflwyno i’r gofrestr risg a oedd yn cynnwys lefel dderbyniol o risg gwahanol faterion, a fyddai’n fach iawn ar gyfer rheoli’r trysorlys.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      nodi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2019/20 a’i chydymffurfiaeth â’r Dangosyddion Darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2019/20 (Atodiad 1 yr adroddiad), a

 

 (b)      cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

9.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 481 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn

 

(b)       cytuno i sefydlu cronfa wrth gefn fach i helpu i dalu am fuddsoddiad yn safle Carchar Rhuthun i wella’r profiad i ymwelwyr.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £208.302 miliwn (£198.538 miliwn yn 2019/20).

·        rhagwelwyd gorwariant o £5.221m ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol (nid oedd y gorwariant yn rhagdybio unrhyw grant 'colli incwm’ pellach neu geisiadau).

·        tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith ariannol Coronafeirws a chyllidebau Model darparu Amgen Hamdden

·        manylion o arbedion ac arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol o £4.448 miliwn y cytunwyd arno, gan gynnwys cynnwys arbedion corfforaethol sy’n ymwneud ag adolygiad actiwaraidd teirblwydd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2 miliwn); 1% arbedion ysgolion (£0.692 miliwn); arbedion gwasanaeth (£1.756 miliwn).

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Gofynnwyd y Cabinet i gytuno ar sefydlu cronfa wrth gefn fach i helpu i dalu am fuddsoddiad yn safle Carchar Rhuthun i wella’r profiad i ymwelwyr.

 

Ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf yn fanwl, yn enwedig o ran effaith ariannol Covid-19, gan gynnwys y cyllid grant a gafwyd hyd yma a'r safle ar hawliau i'r cyngor. Derbyniwyd taliad o £2.6 miliwn i fynd i’r afael â cholledion incwm i ardaloedd cyffredin ar draws yr awdurdodau ond roedd yn anhysbys a fyddai hawl pellach ar gyfer ystod amrywiol o golledion yn cael ei dalu'n llawn oherwydd bod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi pwysleisio'r angen am gysondeb ar draws cynghorau ac i osgoi noddi dewis lleol. Cyhoeddodd LlC £264 miliwn yn ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol i’w cefnogi gyda’r costau ychwanegol a’r incwm a gollwyd yn sgil pandemig Covid-19 dros weddill y flwyddyn ariannol a disgwylir manylion pellach a chanllawiau o ran hynny yn yr wythnosau nesaf.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Cyllid i gwestiynau fel a ganlyn –

 

·        rhoddodd drosolwg o’r ffrydiau cyllid sydd ar gael i Hamdden Sir Ddinbych Cyf ynghyd â threfniadau y cytunwyd arnynt i helpu gyda llif arian. 

Y prif ffynhonnell cyllid oedd cronfa colli incwm LlC ac roedd taliad ar gyfer Chwarter 1 wedi cael ei dderbyn.  Gobeithir y byddai’r hawliad ar gyfer Chwarter 2 yn cael ei dalu'n llawn hefyd.

·        cafwyd manylion talu £500 o anrheg i weithwyr gofal gan LC a oedd yn cael ei ddyrannu gan y cyngor a bu cynnydd da. 

Roedd bron i bob aelod o staff y cyngor wedi cael eu talu ac roedd trydydd taliad i ddarparwyr allanol ar y gweill, yn dilyn beth fyddai wedi cael ei dalu. Talodd y Cynghorydd Bobby Feeley deyrnged i’r Gwasanaeth Cefnogaeth Gymunedol a’r staff am ddarparu'r cynllun yn enwedig o ystyried y diffyg ymgynghori ymlaen llaw.

·        eglurwyd bod cytundeb wedi cael ei geisio i’r egwyddor o sefydlu cronfa wrth gefn i helpu i dalu am fuddsoddiad yn safle Carchar Rhuthun a’r bwriad oedd bod y gwasanaeth yn gweithio i ganfod arbedion i gynyddu’r gronfa i £60 mil erbyn 2025; deallwyd bod gwasanaeth gwahanol yn gyfrifol am adfer canol tref ac o ganlyniad nid oedd trosglwyddiad, neu wrth-ymrwymiad rhwng y cyllidebau gwasanaeth hynny – gofynnodd yr Arweinydd am ragor o eglurhad a bod neges e-bost yn cael ei hanfon i’r Cynghorydd Gwyneth Kensler mewn ymateb i’w ymholiad mewn perthynas â hynny.

·        o ran ad-dalu'r costau a ysgwyddir ar gyfer darpariaeth cynlluniau LlC, y farn oedd petai’n gynnydd go iawn mewn costau, ac nad ellir ei osgoi oherwydd Covid-19, gellir hawlio’r costau, ond byddai pob achos yn cael ei asesu yn ôl ei haeddiant ei hun.

 

PENDERFYNWYD bod y  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 277 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys. 

 

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau canlynol -

 

·         Dull arfaethedig o weithio ar gyfer tendro cam 1 / galluogi contract gwaith ar gyfer Estyniad i Ystâd Ddiwydiannol Colomendy – mis Hydref.

·         Contract Gwaredu Asbestos (i gael caniatâd i dendro) – mis Hydref.

·         Contract Gwaredu Asbestos (dyfarnu’r contract) – mis Rhagfyr

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

 

11.

HEN WESTY'R SAVOY A MARCHNAD Y FRENHINES, THEATR A GWESTY, Y RHYL pdf eicon PDF 339 KB

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiadau cyfrinachol) gan y Cynghorydd Hugh Evans, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi’n amgaeedig) ynglŷn â datblygiad y safle, y risgiau cysylltiedig a’r  cyllid ychwanegol sydd ei angen.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo dyrannu £1.5m o gyllid i’r prosiect i alluogi dymchwel a chwblhau’r broses gynllunio.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad hwn wedi’i baratoi i ddiweddaru aelodau ar ddatblygiad y dyfodol o hen Westy’r Savoy a Gwesty a Theatr y Queen’s Market, y Rhyl, ynghyd â risgiau cysylltiedig, a’r cyllid ychwanegol sy’n ofynnol.

 

Darparwyd gwybodaeth gefndir mewn perthynas â chaffael y safle a chynlluniau ar gyfer ei ailddatblygu (dros nifer o gamau/cyfnodau) a oedd wedi cael ei ystyried i fod yn hollbwysig i'r adfywiad a llwyddiant economaidd yr ardal yn y dyfodol. Roedd yn canolbwyntio ar gam 1 gyda chamau ychwanegol yn amodol ar adolygiad yng ngoleuni effaith ariannol ac economaidd Covid-19. Darparwyd trosolwg o elfennau'r prosiect yn ymwneud â cham 1 sy'n dangos y buddion i'r ardal hefyd. Roedd amcangyfrifon o’r costau wedi cynyddu’n sylweddol ers yr amcangyfrifiad gwreiddiol gan adael diffyg presennol o £4.3 miliwn, a cafwyd manylion llawn o’r costau o fewn yr adroddiad ynghyd â’r rhesymeg tu ôl i’r cynnydd mewn costau y cafodd eu disgrifio ymhellach yn y cyfarfod. Roedd adolygiad manwl o’r sefyllfa ariannol gyfredol wedi rhoi rhywfaint o sicrwydd y gellir cyflawni’r prosiect o fewn yr amcangyfrifiad cost diwygiedig.  I gadw’r prosiect ar y trywydd iawn ac i alluogi i'r safle gael ei ddymchwel fel mater o argyfwng, ceisiwyd cymeradwyaeth y Cabinet i ddyrannu £1.5 miliwn ychwanegol i’r prosiect. Amlygwyd y risgiau oedd yn gysylltiedig â’r prosiect, gan gynnwys gofyniad o £2.8 miliwn pellach y gobeithiwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu’r arian ychwanegol.

 

Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn bryderus i nodi'r sefyllfa bresennol a gofynnodd beth oedd y posibilrwydd o gymryd rôl partner datblygu mewnol, efallai gyda Hamdden Sir Ddinbych Cyf.  Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y byddai’r cynnydd mewn costau wedi digwydd er gwaethaf popeth, a bod gan y partner datblygu cyfredol llwyddiant blaenorol, ac wedi gweithio’n dda gyda’r cyngor ar brosiectau adfywio blaenorol.  Oherwydd maint y prosiect, nid oedd gan y cyngor yr adnoddau na’r arbenigedd yn fewnol i’r ddarparu, ac felly ystyriwyd mai partner allanol oedd y dull gorau i fwrw ymlaen â'r prosiect.  Nodwyd hefyd efallai bydd cwmpas ar gyfer cynnwys Hamdden Sir Ddinbych Cyf yng nghamau’r prosiect yn y dyfodol, yn amodol ar reolau caffael perthnasol a gweithdrefnau llywodraethu cywir.

 

Ymatebodd y Swyddog Arweiniol – Rheoli Asedau Strategol i gwestiynau fel a ganlyn:

 

·         nid oedd unrhyw un o’r adeiladau ar y safle'n rhestredig

·         byddai adeilad yn wynebu Sussex Street (a elwir yn Queen’s Chambers) o fewn ardal gadwraeth ganol y dref yn cael ei adnewyddu a’i ailwampio fel rhan o’r cynllun cyffredinol a byddai pob adeilad arall yn cael eu dymchwel

·         rhoddwyd llawer o amser i geisio cynnal yr adeiladau gyda nifer o arolygon yn cael eu cynnal, ond yn anffodus roeddent tu hwnt i'w hadfer yn economaidd.

·         roedd gwaith yn parhau i fynd rhagddo gyda'r Gymdeithas Hanes ac eraill gyda'r bwriad o achub unrhyw beth o werth hanesyddol neu ddiddordeb lleol ar y safle.

·         Nid oedd yr islawr a’r sianel yn bodoli bellach, a tybiwyd eu bod wedi cael ei dinistrio gan dân yn 1912, a losgodd yr holl adeilad.

·         Nid oedd awgrymiad y byddai unrhyw fudd mewn ychwanegu cymal yn y contract dymchwel mewn perthynas ag archeoleg, ond roedd prosesau ar waith petai unrhyw beth o werth archeolegol yn cael ei ganfod yn ystod y gwaith dymchwel.

·         ymddiheurwyd bod y Gymraeg a ddefnyddiwyd ar y darluniadau ddim yn cydymffurfio gyda safonau'r iaith ar hyn o bryd a byddant yn cael eu newid.

·         byddai angen adolygu camau’r dyfodol yng ngoleuni Covid-19 a byddai angen ystyried lleoliad posib gwasanaethau’r cyngor ar y pryd.

 

Siaradodd y Cynghorydd Joan Butterfield o blaid yr argymhelliad a chadarnhaodd bod Grŵp Aelod Ardal y  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD o dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972. Bydd y Wasg a’r Cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol ar sail y bydd yn cynnwys datgelu gwybodaeth wedi'i wahardd fel y diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 Rhan 4 o Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

12.

MODEL BUDDSODDI CYDFUDDIANNOL PARTNERIAETH ADDYSG GYMRAEG YSGOLION YR 21AIN GANRIF - CYTUNDEB PARTNERIAETH STRATEGOL

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorwyr Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, a Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd (copi’n amgaeedig) ynglŷn â Phartneriaeth Addysg Gymraeg Ysgolion yr 21ain Ganrif - Cytundeb Partneriaeth Strategol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cafwyd pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymatal

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo gweithredu, darparu a pherfformiad y Cytundeb Partneru Strategol gyda Chwmni Partneriaeth Addysg Cymru ym mis Medi 2020 i hwyluso darparu amrywiaeth o wasanaethau isadeiledd a darparu cyfleusterau addysg a chymunedol;

 

(b)       cymeradwyo’r Cytundeb Partneru Strategol yn Atodiad A yr adroddiad ac fel a gaiff ei grynhoi yn Atodiad 1 yr adroddiad er mwyn gweithredu argymhelliad 3.1 yr adroddiad [penderfyniad (a) uchod];

 

(c)        nodi y caiff y Cytundeb Partneru Strategol ei weithredu fel gweithred a’i ardystio yn unol ag Adran 12.5.2 y Cyfansoddiad;

 

(d)       cymeradwyo penodi’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo fel ‘Cynrychiolydd Cyfranogol’ i fod ar y Bwrdd Partneru Strategol;

 

(e)       nodi y caiff unrhyw benderfyniad i barhau â Phrosiect MIM yn y dyfodol ei adrodd yn ôl i’r Cabinet mewn adroddiad(au)’r dyfodol ar gyfer penderfyniad, a

 

(f)         cytuno bod y penderfyniadau uchod yn cael eu gweithredu yn syth yn unol â rheolau gweithdrefn galw i mewn y Cyngor a’r brys sydd wedi’u cynnwys yn y cyfansoddiad a nodir ym mharagraff 8.1 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorwyr Julian Thompson-Hill a Huw Hilditch-Roberts adroddiad cyfrinachol ar y cyd sy’n ceisio cymeradwyaeth i fynd i Gytundeb Partneriaeth Strategol gyda WEPCo Cyf i hwyluso darpariaeth addysg a chyfleusterau cymunedol.

 

Roedd Llywodraeth Cymru wedi caffael partner sector preifat i weithio gyda nhw ar ddarparu addysg a chyfleusterau cymunedol yng Nghymru dan Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.  Esboniwyd manylion o’r cytundeb partneriaeth a’r buddion i Sir Ddinbych wrth fynd i gytundeb, ac y byddai’n hwyluso defnydd model ariannu Model Buddsoddi Cydfuddiannol os yr ystyriwyd ei fod yn addas i Fandiau buddsoddiad Ysgolion yr 21ain ganrif yn y dyfodol.  Cynghorwyd y Cabinet na fyddai cymeradwyaeth o'r adroddiad yn tybio safle ar haeddiant o'r model ariannu, a byddai unrhyw gynigion yn y dyfodol i ddefnyddio'r dull ariannu hwnnw yn amodol ar sianelau gwneud penderfyniadau priodol y cyngor.  O wybod bod angen llofnodi cytundeb cenedlaethol erbyn 25 Medi, argymhellwyd bod y penderfyniad i ddyfarnu’r contract yn cael ei weithredu’n unswydd.

 

Ymatebodd swyddogion i gwestiynau yn ymwneud â’r sedd ar y Bwrdd Partneriaeth Strategol ac esboniodd y darpariaethau am benderfyniadau brys, fel y nodir yn y cyfansoddiad.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      cymeradwyo gweithredu, darparu a pherfformiad y Cytundeb Partneriaeth Strategol gyda Chwmni Partneriaeth Addysg Cymru ym mis Medi 2020 i hwyluso darparu amrywiaeth o wasanaethau isadeiledd a darparu cyfleusterau addysg a chymunedol;

 

 (b)      cymeradwyo’r Cytundeb Partneriaeth Strategol yn Atodiad A yr adroddiad ac fel a gaiff ei grynhoi yn Atodiad 1 yr adroddiad er mwyn gweithredu argymhelliad 3.1 yr adroddiad [penderfyniad (a) uchod];

 

 (c)       nodi y caiff y Cytundeb Partneriaeth Strategol ei weithredu fel gweithred a’i ardystio yn unol ag Adran 12.5.2 y Cyfansoddiad;

 

 (d)      cymeradwyo penodi’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo fel ‘Cynrychiolydd Cyfranogol’ i fod ar y Bwrdd Partneriaeth Strategol;

 

 (e)      nodi y caiff unrhyw benderfyniad i barhau â Phrosiect MIM yn y dyfodol ei adrodd yn ôl i’r Cabinet mewn adroddiad(au)’r dyfodol ar gyfer penderfyniad, a

 

 (f)        cytuno bod y penderfyniadau uchod yn cael eu gweithredu yn syth yn unol â rheolau gweithdrefn galw i mewn y Cyngor a’r brys sydd wedi’u cynnwys yn y cyfansoddiad a nodir ym mharagraff 8.1 yr adroddiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 13.15.