Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes
Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT SYLW

Yn sgil y cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol oherwydd pandemig y Coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng fideo gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd.  Cafodd pob aelod gyfle i fynychu fel arsylwyr a chafodd y Gohebydd Democratiaeth Lleol wahoddiad i arsylwi hefyd.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 311 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2020 (copi’n amgaeedig). 

 

Penderfyniad:

Pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad

 

PENDERFYNWYD  derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2020 fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2020 eu cyflwyno.

 

Materion yn Codi - Tudalen 6 Eitem Rhif Cofnod 4 (Materion yn Codi): Cadarnhaodd y Cynghorydd Peter Scott ei fod wedi derbyn e-bost gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Economi a Pharth Cyhoeddus yn ei hysbysu bod disgwyl i’r adroddiad i adolygu'r materion ehangach sy'n deillio o stormydd/llifogydd mis Chwefror fod ar gael ym mis Medi.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2020 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

TRWYDDEDU YCHWANEGOL TAI AMLFEDDIANNAETH pdf eicon PDF 235 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi’n amgaeedig) i geisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer ail-ddynodi Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth o fewn y Rhyl ac ymestyn y dynodiad i Brestatyn, Dinbych a Llangollen.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo ail-ddynodiad y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol yn y Rhyl ac yn ei ymestyn i Brestatyn, Dinbych a Llangollen.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ail-ddynodi Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth yn y Rhyl ac ymestyn y dynodiad i Brestatyn, Dinbych a Llangollen.

 

Rhoddwyd rhywfaint o gefndir ynglŷn â darpariaethau deddfwriaethol a osodwyd gan Ddeddf Tai 2004 a’r dyletswyddau ar awdurdodau lleol i weithredu cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer mathau penodol o Dai Amlfeddiannaeth i sicrhau bod cyfleusterau addas a threfniadau diogelwch tân yn cael eu rheoli a’u darparu.  Mae’r Ddeddf hefyd yn galluogi awdurdodau lleol i ymestyn y cynllun trwyddedu i gategorïau eraill o Dai Amlfeddiannaeth er mwyn mynd i’r afael â phroblemau penodol a’i gwneud yn ofynnol bod y dynodiad yn cael ei adolygu bob 5 mlynedd. Mae cynllun trwyddedu ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth yn y Rhyl wedi bod yn weithredol ers 2010 (fe'i adolygwyd a'i ymestyn gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2014), a bellach mae eisiau cymeradwyaeth y Cabinet i ail ddynodi cynllun y Rhyl ac ymestyn y dynodiad i eiddo perthnasol ym Mhrestatyn, Dinbych a Llangollen.  Mae nifer o elfennau sydd angen eu hystyried wedi’u manylu yn yr adroddiad yn cynnwys y meini prawf i’w defnyddio; cyfiawnhad a thystiolaeth dros y cynllun trwyddedu ychwanegol; amodau i’w gosod a chanlyniad y broses ymgynghori ffurfiol ar y cynigion.

 

Fe ymatebodd swyddogion i gwestiynau oedd yn deillio o’r adroddiad fel a ganlyn -

 

·         ymhelaethu ar yr ymresymiad y tu ôl i’r argymhellion o ystyried llwyddiant y cynllun yn y Rhyl. Yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarparwyd, roedd lle i gredu y byddai Prestatyn, Dinbych a Llangollen yn elwa o’r cynllun gan fod dwysedd uchel o Dai Amlfeddiannaeth yn yr ardaloedd hynny ar ôl y Rhyl a bod nifer fawr o gwynion gwasanaeth a digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd yno

·         o ran capasiti i weinyddu a gorfodi’r cynllun, roedd lle i gredu y dylai adnoddau staff presennol fod yn ddigonol ar gyfer yr ardaloedd ychwanegol ond byddai’n ddibynnol ar gyfanswm y niferoedd a chyflwr y Tai Amlfeddiannaeth oedd yn gymwys ar gyfer y cynllun – os byddai angen rhagor o adnoddau na'r disgwyl yna roedd disgwyl y byddai'r ffioedd ychwanegol a fyddai’n cael ei greu gan y cynllun yn ddigon i dalu am y gost ychwanegol

·         roedd rhai awdurdodau lleol wedi cyflwyno polisi Sir gyfan, ond nid oedd lle i gredu fod hyn yn addas ar gyfer Sir Ddinbych o ystyried diffyg tystiolaeth i gyfiawnhau’r agwedd yna a digonedd o adnoddau i’w weinyddu

·         cydnabuwyd mai Llanelwy oedd â’r nifer uchaf nesaf o stoc Tai Amlfeddiannaeth, ond o ystyried yr adnoddau staff cyfyngedig a’r dystiolaeth oedd ar gael i gyfiawnhau trwyddedu ychwanegol, fe benderfynwyd peidio â chynnwys Llanelwy yn y cynllun

·         roedd hi’n gyfamserol i ymestyn y dynodiad i feysydd eraill ochr yn ochr â’r adolygiad pum mlynedd ofynnol ar ddynodiad yn y Rhyl

·         cyfeiriwyd at y tân trasig ym Mhrestatyn yn 2012 allai fod wedi cael ei atal petai cynllun trwyddedu ychwanegol wedi bod ar waith; er nad oedd yna dystiolaeth ddigonol ar gael bryd hynny i gyfiawnhau trwyddedu ychwanegol, mae ystadegau mwy manwl a thystiolaeth gefnogol bellach ar gael i ddadlau'r achos

·         ymhelaethwyd ar storio a thaflu sbwriel o ran bodloni safonau trwyddedu gofynnol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth mewn cysylltiad â chyfrifoldebau tenantiaid a landlordiaid - rhoddwyd sicrwydd fod cefnogaeth ar gael i denantiaid diamddiffyn o ran bodloni eu rhwymedigaethau

·         mewn cysylltiad â sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r cynllun, rhoddwyd sicrwydd ynglŷn â pherthynas waith da gydag asiantaethau rheoli a gosod a’u hymgysylltiad cadarnhaol gyda’r broses ac ymatebion i geisiadau

·         cafwyd eglurhad o’r broses i adnabod Tai Amlfeddiannaeth addas ar gyfer trwyddedu ychwanegol gan ffynonellau amrywiol yn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

PROFI, OLRHAIN A DIOGELU - CYTUNDEB RHWNG AWDURDODAU pdf eicon PDF 222 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol ar gyfer Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet o’r diwygiadau i ddirprwyo awdurdod i Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad i fynd i mewn i gytundeb.

 

Penderfyniad:

Pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad yn dilyn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol dros Gynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad, y Swyddog a151 a’r Swyddog Monitro i gytuno a llofnodi’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod i sicrhau bod y Cyngor yn cefnogi’r strategaeth gydlynol genedlaethol a rhanbarthol i gyfyngu ar ledaeniad Covid-19.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mark Young adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddirprwyo awdurdod i Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaeth Cefn Gwlad i ymrwymo i Gytundeb Rhyng-Awdurdod gydag awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru i reoli’r broses o recriwtio a rheoli staff ychwanegol i weithredu elfen olrhain cysylltiadau o brosiect Profi, Olrhain a Diogelu.

 

Ym mis Mai 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth genedlaethol oedd yn cynnwys gofyniad i dracio ac olrhain lledaeniad Covid-19 yng Nghymru. Fel rhan o’r strategaeth honno, fe sefydlodd awdurdodau lleol Gogledd Cymru dimau olrhain cysylltiadau gyda staff oedd wedi’u hadleoli.  Wrth i fwy o wasanaethau’r Cynghorau ailddechrau byddai'r staff yna angen dychwelyd i'w dyletswydd arferol a byddai staffio'r timau olrhain cysylltiadau yn fater hanfodol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo £11.2m o gyllid ar gyfer y prosiect yng ngogledd Cymru ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol.  Cynigiwyd bod Cyngor Sir y Fflint yn cydlynu’r gwaith o recriwtio a rheoli staff ar gyfer y prosiect ar ran holl awdurdodau lleol gogledd Cymru, ac y byddai’r trefniadau llywodraethu’n cael eu nodi mewn Cytundeb Rhyng-Awdurdod.  Roedd rhagor o fanylion yn cynnwys manteision y dull a gweithrediad y prosiect wedi cael eu darparu yn yr adroddiad.

 

Tynnodd y Cabinet sylw at bwysigrwydd y prosiect Profi, Olrhain a Diogelu er mwyn atal lledaeniad Covid-19 ar y cyd â rhaglen brofi effeithiol, a mynegwyd rhywfaint o rwystredigaeth dros yr amser aros i gael prawf a'r canlyniad. O ran adnabod ardaloedd risg uchel a strategaeth yn y dyfodol, fe soniodd y Prif Weithredwr am ganlyniad y dadansoddiad ar ôl y don gyntaf o Covid-19 gyda’r mwyafrif o’r rhai a gafodd eu heffeithio yn gysylltiedig â’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.  Roedd nifer o feysydd risg uchel a grwpiau diamddiffyn wedi cael eu hadnabod ac roedd llawer o waith yn mynd rhagddo ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Grŵp Adfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn ymateb i’r ffactorau hynny, dadansoddi data ymhellach a rheoli’r risgiau wrth fynd ymlaen. Roedd ffliw tymhorol yn bryder hefyd o ystyried y pwysau ychwanegol ar systemau iechyd a gofal cymdeithasol ac fe fyddai yna ymgyrch weithredol i gynnig a hyrwyddo brechiad y ffliw gyda’r nod o leihau’r pwysau hwnnw ar draws y system.

 

Roedd yr Arweinydd yn croesawu dyraniad cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect ar draws y rhanbarth gan obeithio y byddai'n ddigonol. Roedd yn awyddus i dynnu sylw at bwysigrwydd cyfathrebu a hyrwyddo prosiect Profi, Olrhain a Diogelu ac i sicrhau fod y rhai oedd yn cael eu holrhain yn gwrando ar y cyngor ac yn ymateb yn gyflym ac yn gadarnhaol. Roedd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethu Cefn Gwlad yn cytuno y byddai cynllun cyfathrebu effeithiol yn hanfodol ac fe soniodd am gyhoeddi astudiaethau achos ar unigolion sy'n gweithio fel swyddogion olrhain cysylltiadau er mwyn hyrwyddo'r mater a thynnu sylw at ei bwysigrwydd; fe fyddai yna gynllun cyfathrebu rhanbarthol.  Fe soniodd hefyd am elfen ‘Diogelu’ y prosiect gan ddweud fod ei wasanaeth yn gweithio’n agos gyda busnesau o ran gwaith atal sydd yn parhau i fod yn ffocws allweddol ar draws gwasanaethau awdurdodau lleol eraill.  Fe soniodd y Cynghorydd Mark Young am lwyddiant prosiect Profi, Olrhain a Diogelu yn Sir Ddinbych hyd yn hyn, ond dywedodd bod rhagor o waith yn mynd rhagddo er mwyn canfod pa gefnogaeth fyddai ar gael i fusnesau oedd wedi’u heffeithio’n wael yn rhan o’r broses honno.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet y dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad yn dilyn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol dros Gynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad, y Swyddog a151 a’r Swyddog Monitro  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 295 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol a gytunwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £208.302 miliwn (£198.538 miliwn yn 2019/20).

·        rhagwelir gorwariant o £7.585m ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol (nid oedd y gorwariant yn rhagdybio unrhyw grant 'colli incwm’ y gellir ei dderbyn)

·        tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith ariannol Coronafeirws a chyllidebau Model darparu Amgen Hamdden

·        arbedion ac arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol o £4.448m i gael eu nodi a’u cytuno yn cynnwys arbedion corfforaethol sy’n ymwneud ag adolygiad actiwaraidd teirblwydd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2m); 1% arbedion ysgolion (£0.692m); arbedion gwasanaeth (£1.756m)

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Fe ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill am y sefyllfa ariannol bresennol, yn enwedig o ran effaith ariannol Covid-19, yn cynnwys cyllid grant a gafwyd hyd yn hyn a’r sefyllfa ar hawliadau ar gyfer colledion refeniw ac incwm ynghyd â chyflwyno pwysau gwariant ac incwm ar gyfer Chwarter 2. O ran colli incwm, roedd yna arwyddion gan Lywodraeth Cymru fod yna o leiaf pedwar prif faes lle roedd colli incwm yn gyffredin ymysg y 22 awdurdod lleol, a fyddai'n cael eu talu o hawliad Chwater 1. Roedd hyn yn cynnwys incwm o hamdden, meysydd parcio, gwastraff a phrydau ysgol a byddai werth tua £2.5m i Sir Ddinbych – nid oedd y ffigur yma wedi cael ei gynnwys yn y ffigurau gan na dderbyniwyd cadarnhad ffurfiol eto. Efallai na fydd diffyg incwm sy’n cael ei ystyried yn ‘benderfyniad lleol’ a gymerwyd gan awdurdodau lleol unigol yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac nid yw’n hysbys sut y byddai colli incwm ar gyfer Chwarter 2 a thu hwnt yn cael ei drin.  Roedd yr ansicrwydd sylweddol yn ei gwneud yn anodd iawn ar gyfer cynllunio ariannol yn y dyfodol.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         Croesawodd y Cynghorydd Bobby Feeley y cyllid grant a dderbyniwyd, yn enwedig ar gyfer gofal cymdeithasol a digartrefedd, a dywedodd y byddai gwasanaethau hamdden yn debygol o elwa o gyllid ar gyfer colli incwm yn Chwarter 1. Serch hynny, roedd hi’n teimlo y dylid gwneud achos penodol i gydnabod gwasanaethau hamdden fel gwasanaeth hamdden o ystyried y manteision iechyd a lles a ddylai gael eu hariannu’n unol â hynny.  

Gobeithio y byddai’r hawliad am golli incwm ar gyfer gwasanaethau hamdden yn Chwarter 1 yn cael ei dalu’n llawn.  Fe ychwanegodd yr Arweinydd fod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn yr un sefyllfa o ran pwysau, ond fe soniodd am gyfarfodydd rheolaidd gyda Gweinidogion trwy Gymdeithas Llywodraeth Lleol Cymru a oedd yn ddull effeithiol o gyfathrebu, ac roedd y pwysau ariannol roedd awdurdodau lleol yn ei wynebu wedi cael ei gydnabod.  Gobeithio y gellir mynd i’r afael â’r pwysau drwy gyllid grant, ond roedd hi’n bwysig cael neges glir mewn cysylltiad â hynny wrth symud ymlaen er mwyn dylanwadu ar y broses gyllideb

·         Gofynnodd y Cynghorydd Mark Young am argaeledd y £78m a gyhoeddwyd yn y gyllideb atodol ar gyfer colli incwm yn Chwarter 1 ac roedd yr Aelod Arweiniol Cyllid yn falch o ddweud fod yr wybodaeth ddiweddaraf yn dangos y byddai’r swm llawn bellach yn cael ei ddyrannu at y diben hwnnw.  

Fe ychwanegodd y Pennaeth Cyllid ei fod yn gobeithio y byddai’r hawliad am golli enillion ar draws y pedwar maes cyffredin yn y 22 awdurdod lleol yn cael ei dalu’n llawn,  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN WAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 279 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys. 

 

Penderfyniad:

Pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad

 

PENDERFYNWYD nodi Blaenraglen Waith y Cabinet.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Waith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau’r eitemau canlynol ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Meirick Davies at Brosiect Archifau Sir Ddinbych a Sir y Fflint ar y Cyd oedd i fod i agor ym mis Tachwedd, a dywedodd fod ‘Archifdy Gogledd Ddwyrain Cymru’ wedi cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r prosiect mewn gohebiaeth.  Gofynnodd bod enw Cymraeg yn cael ei ystyried ar gyfer y prosiect ac i adolygu a oedd ‘Gogledd Ddwyrain’ yn briodol.  Gofynnodd yr Arweinydd i’r Aelod Arweiniol roi ystyriaeth dyledus i’r sylwadau yma.

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Waith i’r Dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.20am.