Agenda, decisions and draft minutes
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT SYLW Yn sgil y
cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol yn
sgil pandemig y Coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng fideo
gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd. Cafodd pob aelod gyfle i fynychu
fel arsylwyr a chafodd y Gohebydd Democratiaeth Lleol wahoddiad i arsylwi
hefyd. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Mai 2020 (copi wedi’i amgáu). Penderfyniad: Pleidleisiwyd: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mai 2020 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Mai 2020. Materion yn Codi - Tudalen 6 Eitem Rhif 4 Cofnod:– Yn dilyn
materion a godwyd gan y Cynghorydd Peter Scott ynglŷn â difrod storm
diweddar yn y sir, dywedodd y Cynghorydd Brian Jones nad oeddynt wedi derbyn
ymateb gan Lywodraeth Cymru eto ynglŷn â chyllid ar gyfer prosiectau
penodol. Fe ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Economi a Pharth Cyhoeddus
fod adroddiad yn cael ei lunio er mwyn adolygu materion oedd yn codi yn sgil y
stormydd diweddar a fyddai’n cael ei rannu gyda'r aelodau er mwyn ystyried sut
i fwrw ymlaen. PENDERFYNWYD
derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mai 2020 a’u cadarnhau fel
cofnod cywir. |
|
YMATEB CYNGOR SIR DDINBYCH I’R CORONAFEIRWS PDF 241 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi
a Llywodraethu Corfforaethol (copi wedi’i amgáu) yn diweddaru’r Cabinet am
reoli effeithiau pandemig y Coronafeirws yn Sir Ddinbych a gogledd Cymru, a
cheisio cymeradwyaeth ar y broses i reoli’r adferiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Pleidleisiwyd: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi cynnwys yr adroddiad, cefnogi’r camau a gymerwyd a chytuno ar
y camau nesaf fel y nodwyd o fewn yr adroddiad.
Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Hugh Evans adroddiad yn diweddaru’r Cabinet ynglŷn ag effaith
pandemig y Coronafeirws ar Sir Ddinbych a gogledd Cymru, ac roedd yn ceisio
cytundeb ar y broses i reoli’r adferiad sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad. Tynnodd
yr Arweinydd sylw at y dull unedig ac arloesol a gymerwyd wrth ymateb i’r
Coronafeirws. Rhoddodd deyrnged i bawb sydd
wedi bod yn cydweithio tra’n wynebu heriau anodd er mwyn cyflawni’r canlyniadau
gorau, addasu trefniadau democrataidd a llywodraethu, a sicrhau penderfyniadau cyflym ac ymatebion
amserol i gyhoeddiadau gweinidogol. Gan
edrych ymlaen tuag at adferiad, cynigiwyd nifer o themâu eang ynghyd â mesurau
i sicrhau ymgysylltiad aelodau wrth ffurfio a chyflwyno’r cynllun adferiad ac
ailsefydlu prosesau democrataidd mwy arferol megis craffu. Rhoddodd y Prif Weithredwr deyrnged hefyd i staff ac aelodau am eu
gwaith a’u cefnogaeth ddiweddar. Fe aeth drwy’r adroddiad
gyda’r aelodau fel a ganlyn - ·
amlinellodd drefniadau
cynllunio rhag argyfwng a rôl y Tîm Rheoli Argyfwng Strategol wrth fynd i’r
afael â materion strategol a gweithredol a datblygu gwasanaethau a dulliau
newydd o gyflwyno gwasanaethau ·
fe soniodd am yr ymateb
rhanbarthol sy’n cael ei oruchwylio gan y Grŵp Cydgysylltu Strategol ·
dywedodd fod natur y pandemig yn
golygu fod y cyfnod ymateb yn debygol o barhau am gryn amser ochr yn ochr â’r
cyfnod adferiad ·
fe eglurodd y byddai’r cyfnod
adferiad yn golygu ailddechrau gwasanaethau’n ddiogel a chydweithio’n
rhanbarthol wrth gynllunio adferiad effaith Covid-19 yn y dyfodol ·
cynigiodd y byddai
llywodraethu mewnol ynglŷn ag adferiad yn canolbwyntio ar nifer o brif
themâu a byddai gan bob un swyddog arweiniol ac aelod arweiniol dynodedig ·
cadarnhaodd y byddai’r broses
adferiad yn rhanbarthol yn cael ei harwain gan Grŵp Cydlynu Adferiad aml
asiantaeth a fyddai’n ymdrin â themâu rhanbarthol allweddol, a ·
rhoddodd fanylion am effaith
ariannol Covid-19 oedd eisoes yn sylweddol, a chadarnhaodd y byddai newyddion
diweddaraf yn cael ei roi i aelodau’n rheolaidd. Cyfeiriodd
y Cynghorydd Richard Mainon at ei adroddiad i Arweinwyr Grwpiau (Atodiad 3 yr
adroddiad) oedd yn manylu ar drefniadau dros dro i gynnwys aelodau ehangach y
Cyngor yn yr ymateb adferiad, gyda phwyslais ar gynhwysiant, gan ystyried yr
angen am her effeithiol a phenderfyniadau cyflym ac effeithlon. Roedd yr ymateb i’r cynigion wedi bod yn galonogol
ac wedi’u derbyn yn gadarnhaol gan aelodau ac Arweinwyr Grwpiau wrth iddynt
weithio gyda’u gilydd ac yn hyblyg i fynd i’r afael ag amgylchiadau gwahanol
a’r angen am benderfyniadau ar frys. Codwyd
y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd - ·
Fe dynnodd y Cynghorydd Bobby
Feeley sylw at waith gwerthfawr Denbighshire Leisure Limited (DLL) yn ystod y cyfnod
clo, yn cynnwys adleoli staff i helpu meysydd gwasanaeth eraill, a rhoddodd
deyrnged i’w gwaith caled yn ystod yr amser anodd yma i’r gwasanaeth. Roedd y Cabinet yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi y
rôl roedd DLL wedi’i chwarae. · Diolchodd y Cynghorydd Mark Young i’r staff o adran Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd am eu holl waith caled, ymroddiad a phroffesiynoldeb wrth gynnal Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu a’u dyletswyddau eraill. Roedd y cyngor a chymorth gwerthfawr a ddarparwyd eisoes wedi cael ei gydnabod yn rhanbarthol yn eu hymateb i'r clwstwr o achosion ar Ynys Môn ac yn Wrecsam. O ystyried pwysigrwydd amlwg y Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu, gofynnodd am ymrwymiad i helpu sicrhau cyllid digonol er mwyn i'r adran barhau â'r gwaith. Roedd yr Arweinydd yn cydnabod rôl holl bwysig y Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu a mynegodd ei werthfawrogiad am waith y swyddogion oedd yn ogystal â’u dyletswyddau arferol. O ystyried ansicrwydd yn y dyfodol o ran yr adnoddau angenrheidiol a’r effaith posibl ar wasanaethau eraill mae'n ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADRODDIAD ARIANNOL (SEFYLLFA ARIANNOL DERFYNOL 2019/20) PDF 346 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi wedi’i amgáu), yn manylu ar sefyllfa
ariannol derfynol y Cyngor ar gyfer 2019/20 a’r argymhellion arfaethedig i
ymdrin â chronfeydd wrth gefn a balansau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Pleidleisiwyd: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) nodi’r sefyllfa
alldro refeniw derfynol ar gyfer 2019/20; (b) cymeradwyo'r
driniaeth arfaethedig o gronfeydd a balansau wrth gefn fel y manylir yn yr
adroddiad ac yn Atodiadau 1, 2 a 3; a (c) nodi manylion y
trosglwyddiadau rhwng Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd fel y nodwyd yn Atodiad
4. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ar sefyllfa
refeniw derfynol 2019/20 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a
balansau. Tywyswyd yr aelodau drwy fanylion yr adroddiad a'r atodiadau. Yn fyr, roedd y sefyllfa derfynol ar
gyllidebau corfforaethol a gwasanaeth (gan gynnwys ysgolion) yn orwariant o
£0.928m (0.46% o’r gyllideb refeniw net).
Roedd y mwyafrif o sefyllfaoedd gwasanaeth a rhesymau dros amrywiaethau
wedi cael sylw. Roedd meysydd eraill i’w
nodi yn cynnwys 89% o arbedion yn 2019/20 a gafodd ei gyflawni gyda dyraniad
wedi’i gymeradwyo i’w osod yn erbyn diffyg arbedion oedd yn cyfateb i 11%
ynghyd â'r balans diffyg ysgolion cyffredinol o £1.388m fyddai'n cael ei gario
drosodd. Cyfeiriwyd at y trosglwyddiadau rhwng cronfeydd wrth gefn a
glustnodwyd a defnydd bwriadol o gyllid a oedd eisoes wedi’i neilltuo yn y
gyllideb neu’i gymeradwyo. Fe nodwyd
tanwariant yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol (£2.401) ynghyd â’r Gronfa
Wrth Gefn i liniaru ar y gyllideb. Gan
ystyried sefyllfa gyffredinol y gwasanaethau a’r cyllid corfforaethol oedd ar
gael, cynigiwyd bod y gwasanaethau yn dwyn ymlaen y tanwariant net a restrwyd fel
balansau gwasanaethau ymrwymedig er mwyn helpu i gyflawni strategaeth cyllideb
2020/21 a bodloni ymrwymiadau oedd yn bodoli eisoes. Wrth ystyried yr
adroddiad fe nodwyd na fu yna effaith ariannol sylweddol ar sefyllfa derfynol
2019/20 o ystyried cyfnod clo y DU a osodwyd ganol fis Mawrth. Trafododd y
Cabinet y cynnydd ym malansau diffyg ysgolion a rhoddwyd sicrwydd ynglŷn
â'r broses sefydledig i ddelio ag ysgolion mewn anawsterau ariannol gyda
chynlluniau adferiad unigol ar waith. Mae profiadau yn y gorffennol wedi dangos
fod yr arferion presennol wedi gweithio ac roedd yna hyder yn y prosesau hynny.
Darparwyd diweddariad hefyd am y gwaith a wnaed gyda’r ysgolion unigol sydd yn
rhagweld diffygion. O ran effaith ariannol Covid-19 ar ysgolion, nid oedd yna
gynigion i gymryd arbedion o ysgolion o ran gostyngiadau mewn ffioedd NDR a
fyddai’n parhau yng nghyllidebau dirprwyedig ysgolion, a disgwylir y byddai
modd hawlio cyllid grant i adennill costau cysylltiedig eraill a gafwyd. Er nad oedd yn gysylltiedig â’r adroddiad
presennol, fe ymatebodd yr Aelod Arweiniol i gwestiwn gan y Cynghorydd Bobby
Feeley ynglŷn â Threth y Cyngor, gan ddweud y cymerwyd safbwynt
sympathetig o ran y preswylwyr oedd ag ôl-ddyledion Treth y Cyngor, ond roedd
yna ddisgwyliad clir gan Lywodraeth Cymru y bydd yr ôl-ddyledion yn cael eu
casglu dros weddill y flwyddyn. Nid oedd y posibilrwydd o ostwng Treth y Cyngor
i breswylwyr wedi cael ei ystyried gan y byddai llai o incwm yn golygu torri
gwasanaethau a chwtogi cyllidebau. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) nodi’r sefyllfa
refeniw derfynol ar gyfer 2019/20; (b) cymeradwyo'r
driniaeth arfaethedig o gronfeydd a balansau wrth gefn fel y manylir yn yr
adroddiad ac yn Atodiadau 1, 2 a 3; a (c) nodi manylion y
trosglwyddiadau rhwng Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd fel y nodwyd yn Atodiad
4. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Pleidleisiwyd: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed
yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r
cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr
amlinellir isod - ·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £208.302 miliwn (£198.538 miliwn yn
2019/20). ·
rhagwelir
gorwariant o £7.393m ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol (nid oedd
y gorwariant yn rhagdybio unrhyw grant 'colli incwm’ y gellir ei dderbyn) ·
tynnwyd
sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth
unigol ynghyd ag effaith ariannol Coronafeirws a chyllidebau Model darparu
Amgen Hamdden ·
arbedion
ac arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol o £4.448m i gael eu nodi a’u cytuno
yn cynnwys arbedion corfforaethol sy’n ymwneud ag adolygiad actiwaraidd
teirblwydd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2m); 1% arbedion ysgolion (£0.692m);
arbedion gwasanaeth (£1.756m) ·
rhoddwyd
diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun
Cyfalaf Tai. Fe soniodd yr Aelod Arweiniol ragor am y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf gan ystyried effaith ariannol Covid-19 ond fe nodwyd fod
yr ansicrwydd sylweddol yn golygu ei bod
yn eithriadol o anodd o ran cynllunio ariannol. Wrth dynnu sylw at y gorwariant a ragwelir, gobeithio y byddai’r ffigur yn
lleihau dros y flwyddyn yn dilyn cadarnhad o ddyraniadau grant ac wrth i gyfyngiadau’r
cyfnod clo lacio ac wrth i nifer o fesurau eraill gael eu hystyried. Pwysleisiodd Pennaeth Cyllid bod y sefyllfa’n
parhau i newid yn gyflym. Roedd hyd at £78m wedi cael ei gyhoeddi yn
y gyllideb atodol ar gyfer colledion incwm yn Chwarter 1 yn erbyn ‘hawliad
ffug’ oedd yn gyfanswm o £68m oedd wedi ei baratoi i'w gyflwyno gan awdurdodau
lleol ar draws Cymru (roedd rhaid gosod gostyngiadau mewn gwariant yn erbyn
colli incwm yn gostwng swm cyffredinol yr hawliad). Nid oedd cyhoeddiad ffurfiol wedi’i wneud o ran colledion incwm yn Chwarter
2. Fe nodwyd hefyd fod y grant gofal cymdeithasol wedi cael ei ymestyn ffurfiol
i fis Mehefin 2020. Trafododd y Cabinet y materion canlynol mewn mwy o
fanylder - ·
o ran
y £78 a gyhoeddwyd yn y gyllideb atodol ar gyfer colledion incwm yn Chwarter 1,
mynegodd y Cynghorydd Mark Young ei siom na fyddai’r swm llawn bellach ar gael
gan fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhywfaint o’r cyllid at ddibenion
eraill. Eglurodd yr Aelod Arweiniol a Phennaeth Cyllid sut roedd lefel
amcangyfrif yr incwm a gollwyd gan awdurdodau lleol wedi cael ei gyfrifo a
thynnodd sylw at y newidiadau amrywiol a wnaed i’r cyfrifiadau hynny ers yr
amcangyfrifon gwreiddiol oedd wedi arwain at hawliadau ‘ffug’ gostyngedig o tua
£68m. Deallir y bydd cyfran o’r £78m yn cael ei ddyrannu at ddibenion adferiad
ac roeddynt yn aros am benderfyniad a fyddai hawliad yr awdurdodau lleol am
golli incwm yn cael ei dalu’n llawn. ·
cyfeiriodd
yr Arweinydd at y gwaith a wnaed a’r pwysau ariannol roedd awdurdodau lleol yn
eu hwynebu oedd wedi cael ei gydnabod gan Weinidog Llywodraeth Leol. Fe dynnodd sylw
hefyd at yr angen am gefnogaeth ariannol briodol i gyflwyno mentrau Llywodraeth
Cymru, megis Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu ac roedd y mater yma wedi cael ei
godi gyda’r Gweinidog drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd. Rhoddodd y Gweinidog rywfaint o sicrwydd y
byddai awdurdodau lleol yn cael eu had-dalu’n llawn am gyflwyno’r mentrau
newydd yma. Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Barry Mellor ynglŷn â’r broses i arwyddo’r datganiad o gyfrifon, cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r broses arferol yn cael ei dilyn. Bydd fersiwn ddrafft y datganiad o gyfrifon yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ym mis Gorffennaf yna eto ym mis Medi ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET PDF 203 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys. Penderfyniad: Pleidleisiwyd: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Waith i’r Dyfodol y Cabinet i’w
hystyried a nododd yr aelodau’r eitemau canlynol ar gyfer cyfarfodydd yn y
dyfodol. PENDERFYNWYD nodi
rhaglen gwaith i'r dyfodol y
Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 11.40am. |