Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes
Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT SYLW

Yn sgil y cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol yn sgil pandemig y Coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng fideo gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd. Cafodd pob aelod gyfle i fynychu fel arsylwyr a chafodd y Gohebydd Democratiaeth Lleol wahoddiad i arsylwi hefyd.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 397 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Mai 2020 (copi wedi’i amgáu).  

 

Penderfyniad:

Pleidleisiwyd: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mai 2020 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Mai 2020.

 

Materion yn Codi - Tudalen 6 Eitem Rhif 4 Cofnod:– Yn dilyn materion a godwyd gan y Cynghorydd Peter Scott ynglŷn â difrod storm diweddar yn y sir, dywedodd y Cynghorydd Brian Jones nad oeddynt wedi derbyn ymateb gan Lywodraeth Cymru eto ynglŷn â chyllid ar gyfer prosiectau penodol. Fe ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Economi a Pharth Cyhoeddus fod adroddiad yn cael ei lunio er mwyn adolygu materion oedd yn codi yn sgil y stormydd diweddar a fyddai’n cael ei rannu gyda'r aelodau er mwyn ystyried sut i fwrw ymlaen.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mai 2020 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

YMATEB CYNGOR SIR DDINBYCH I’R CORONAFEIRWS pdf eicon PDF 241 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi wedi’i amgáu) yn diweddaru’r Cabinet am reoli effeithiau pandemig y Coronafeirws yn Sir Ddinbych a gogledd Cymru, a cheisio cymeradwyaeth ar y broses i reoli’r adferiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Pleidleisiwyd: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi cynnwys yr adroddiad, cefnogi’r camau a gymerwyd a chytuno ar y camau nesaf fel y nodwyd o fewn yr adroddiad. 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans adroddiad yn diweddaru’r Cabinet ynglŷn ag effaith pandemig y Coronafeirws ar Sir Ddinbych a gogledd Cymru, ac roedd yn ceisio cytundeb ar y broses i reoli’r adferiad sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad.

 

Tynnodd yr Arweinydd sylw at y dull unedig ac arloesol a gymerwyd wrth ymateb i’r Coronafeirws. Rhoddodd deyrnged i bawb sydd wedi bod yn cydweithio tra’n wynebu heriau anodd er mwyn cyflawni’r canlyniadau gorau, addasu trefniadau democrataidd a llywodraethu,  a sicrhau penderfyniadau cyflym ac ymatebion amserol i gyhoeddiadau gweinidogol. Gan edrych ymlaen tuag at adferiad, cynigiwyd nifer o themâu eang ynghyd â mesurau i sicrhau ymgysylltiad aelodau wrth ffurfio a chyflwyno’r cynllun adferiad ac ailsefydlu prosesau democrataidd mwy arferol megis craffu.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr deyrnged hefyd i staff ac aelodau am eu gwaith a’u cefnogaeth ddiweddar.  Fe aeth drwy’r adroddiad gyda’r aelodau fel a ganlyn -

 

·         amlinellodd drefniadau cynllunio rhag argyfwng a rôl y Tîm Rheoli Argyfwng Strategol wrth fynd i’r afael â materion strategol a gweithredol a datblygu gwasanaethau a dulliau newydd o gyflwyno gwasanaethau

·         fe soniodd am yr ymateb rhanbarthol sy’n cael ei oruchwylio gan y Grŵp Cydgysylltu Strategol

·         dywedodd fod natur y pandemig yn golygu fod y cyfnod ymateb yn debygol o barhau am gryn amser ochr yn ochr â’r cyfnod adferiad

·         fe eglurodd y byddai’r cyfnod adferiad yn golygu ailddechrau gwasanaethau’n ddiogel a chydweithio’n rhanbarthol wrth gynllunio adferiad effaith Covid-19 yn y dyfodol

·         cynigiodd y byddai llywodraethu mewnol ynglŷn ag adferiad yn canolbwyntio ar nifer o brif themâu a byddai gan bob un swyddog arweiniol ac aelod arweiniol dynodedig

·         cadarnhaodd y byddai’r broses adferiad yn rhanbarthol yn cael ei harwain gan Grŵp Cydlynu Adferiad aml asiantaeth a fyddai’n ymdrin â themâu rhanbarthol allweddol, a

·         rhoddodd fanylion am effaith ariannol Covid-19 oedd eisoes yn sylweddol, a chadarnhaodd y byddai newyddion diweddaraf yn cael ei roi i aelodau’n rheolaidd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Mainon at ei adroddiad i Arweinwyr Grwpiau (Atodiad 3 yr adroddiad) oedd yn manylu ar drefniadau dros dro i gynnwys aelodau ehangach y Cyngor yn yr ymateb adferiad, gyda phwyslais ar gynhwysiant, gan ystyried yr angen am her effeithiol a phenderfyniadau cyflym ac effeithlon. Roedd yr ymateb i’r cynigion wedi bod yn galonogol ac wedi’u derbyn yn gadarnhaol gan aelodau ac Arweinwyr Grwpiau wrth iddynt weithio gyda’u gilydd ac yn hyblyg i fynd i’r afael ag amgylchiadau gwahanol a’r angen am benderfyniadau ar frys.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         Fe dynnodd y Cynghorydd Bobby Feeley sylw at waith gwerthfawr Denbighshire Leisure Limited (DLL) yn ystod y cyfnod clo, yn cynnwys adleoli staff i helpu meysydd gwasanaeth eraill, a rhoddodd deyrnged i’w gwaith caled yn ystod yr amser anodd yma i’r gwasanaeth. Roedd y Cabinet yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi y rôl roedd DLL wedi’i chwarae.

·         Diolchodd y Cynghorydd Mark Young i’r staff o adran Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd am eu holl waith caled, ymroddiad a phroffesiynoldeb wrth gynnal Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu a’u dyletswyddau eraill. Roedd y cyngor a chymorth gwerthfawr a ddarparwyd eisoes wedi cael ei gydnabod yn rhanbarthol yn eu hymateb i'r clwstwr o achosion ar Ynys Môn ac yn Wrecsam. O ystyried pwysigrwydd amlwg y Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu, gofynnodd am ymrwymiad i helpu sicrhau cyllid digonol er mwyn i'r adran barhau â'r gwaith. Roedd yr Arweinydd yn cydnabod rôl holl bwysig y Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu a mynegodd ei werthfawrogiad am waith y swyddogion oedd yn ogystal â’u dyletswyddau arferol.  O ystyried ansicrwydd yn y dyfodol o ran yr adnoddau angenrheidiol a’r effaith posibl ar wasanaethau eraill mae'n  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADRODDIAD ARIANNOL (SEFYLLFA ARIANNOL DERFYNOL 2019/20) pdf eicon PDF 346 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi wedi’i amgáu), yn manylu ar sefyllfa ariannol derfynol y Cyngor ar gyfer 2019/20 a’r argymhellion arfaethedig i ymdrin â chronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Pleidleisiwyd: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      nodi’r sefyllfa alldro refeniw derfynol ar gyfer 2019/20;

 

 (b)      cymeradwyo'r driniaeth arfaethedig o gronfeydd a balansau wrth gefn fel y manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1, 2 a 3; a

 

 (c)       nodi manylion y trosglwyddiadau rhwng Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd fel y nodwyd yn Atodiad 4.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ar sefyllfa refeniw derfynol 2019/20 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Tywyswyd yr aelodau drwy fanylion yr adroddiad a'r atodiadau.  Yn fyr, roedd y sefyllfa derfynol ar gyllidebau corfforaethol a gwasanaeth (gan gynnwys ysgolion) yn orwariant o £0.928m (0.46% o’r gyllideb refeniw net).  Roedd y mwyafrif o sefyllfaoedd gwasanaeth a rhesymau dros amrywiaethau wedi cael sylw.  Roedd meysydd eraill i’w nodi yn cynnwys 89% o arbedion yn 2019/20 a gafodd ei gyflawni gyda dyraniad wedi’i gymeradwyo i’w osod yn erbyn diffyg arbedion oedd yn cyfateb i 11% ynghyd â'r balans diffyg ysgolion cyffredinol o £1.388m fyddai'n cael ei gario drosodd. Cyfeiriwyd at y trosglwyddiadau rhwng cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a defnydd bwriadol o gyllid a oedd eisoes wedi’i neilltuo yn y gyllideb neu’i gymeradwyo.  Fe nodwyd tanwariant yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol (£2.401) ynghyd â’r Gronfa Wrth Gefn i liniaru ar y gyllideb.  Gan ystyried sefyllfa gyffredinol y gwasanaethau a’r cyllid corfforaethol oedd ar gael, cynigiwyd bod y gwasanaethau yn dwyn ymlaen y tanwariant net a restrwyd fel balansau gwasanaethau ymrwymedig er mwyn helpu i gyflawni strategaeth cyllideb 2020/21 a bodloni ymrwymiadau oedd yn bodoli eisoes.

 

Wrth ystyried yr adroddiad fe nodwyd na fu yna effaith ariannol sylweddol ar sefyllfa derfynol 2019/20 o ystyried cyfnod clo y DU a osodwyd ganol fis Mawrth. Trafododd y Cabinet y cynnydd ym malansau diffyg ysgolion a rhoddwyd sicrwydd ynglŷn â'r broses sefydledig i ddelio ag ysgolion mewn anawsterau ariannol gyda chynlluniau adferiad unigol ar waith. Mae profiadau yn y gorffennol wedi dangos fod yr arferion presennol wedi gweithio ac roedd yna hyder yn y prosesau hynny. Darparwyd diweddariad hefyd am y gwaith a wnaed gyda’r ysgolion unigol sydd yn rhagweld diffygion. O ran effaith ariannol Covid-19 ar ysgolion, nid oedd yna gynigion i gymryd arbedion o ysgolion o ran gostyngiadau mewn ffioedd NDR a fyddai’n parhau yng nghyllidebau dirprwyedig ysgolion, a disgwylir y byddai modd hawlio cyllid grant i adennill costau cysylltiedig eraill a gafwyd.  Er nad oedd yn gysylltiedig â’r adroddiad presennol, fe ymatebodd yr Aelod Arweiniol i gwestiwn gan y Cynghorydd Bobby Feeley ynglŷn â Threth y Cyngor, gan ddweud y cymerwyd safbwynt sympathetig o ran y preswylwyr oedd ag ôl-ddyledion Treth y Cyngor, ond roedd yna ddisgwyliad clir gan Lywodraeth Cymru y bydd yr ôl-ddyledion yn cael eu casglu dros weddill y flwyddyn. Nid oedd y posibilrwydd o ostwng Treth y Cyngor i breswylwyr wedi cael ei ystyried gan y byddai llai o incwm yn golygu torri gwasanaethau a chwtogi cyllidebau.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer 2019/20;

 

 (b)      cymeradwyo'r driniaeth arfaethedig o gronfeydd a balansau wrth gefn fel y manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1, 2 a 3; a

 

 (c)       nodi manylion y trosglwyddiadau rhwng Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd fel y nodwyd yn Atodiad 4.

 

 

7.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 289 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Pleidleisiwyd: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £208.302 miliwn (£198.538 miliwn yn 2019/20).

·        rhagwelir gorwariant o £7.393m ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol (nid oedd y gorwariant yn rhagdybio unrhyw grant 'colli incwm’ y gellir ei dderbyn)

·        tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith ariannol Coronafeirws a chyllidebau Model darparu Amgen Hamdden

·        arbedion ac arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol o £4.448m i gael eu nodi a’u cytuno yn cynnwys arbedion corfforaethol sy’n ymwneud ag adolygiad actiwaraidd teirblwydd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2m); 1% arbedion ysgolion (£0.692m); arbedion gwasanaeth (£1.756m)

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Fe soniodd yr Aelod Arweiniol ragor am y sefyllfa ariannol ddiweddaraf gan ystyried effaith ariannol Covid-19 ond fe nodwyd fod yr ansicrwydd  sylweddol yn golygu ei bod yn eithriadol o anodd o ran cynllunio ariannol. Wrth dynnu sylw at y gorwariant a ragwelir, gobeithio y byddai’r ffigur yn lleihau dros y flwyddyn yn dilyn cadarnhad o ddyraniadau grant ac wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo lacio ac wrth i nifer o fesurau eraill gael eu hystyried.

 

Pwysleisiodd Pennaeth Cyllid bod y sefyllfa’n parhau i newid yn gyflym. Roedd hyd at £78m wedi cael ei gyhoeddi yn y gyllideb atodol ar gyfer colledion incwm yn Chwarter 1 yn erbyn ‘hawliad ffug’ oedd yn gyfanswm o £68m oedd wedi ei baratoi i'w gyflwyno gan awdurdodau lleol ar draws Cymru (roedd rhaid gosod gostyngiadau mewn gwariant yn erbyn colli incwm yn gostwng swm cyffredinol yr hawliad). Nid oedd cyhoeddiad ffurfiol wedi’i wneud o ran colledion incwm yn Chwarter 2. Fe nodwyd hefyd fod y grant gofal cymdeithasol wedi cael ei ymestyn ffurfiol i fis Mehefin 2020.

 

Trafododd y Cabinet y materion canlynol mewn mwy o fanylder -

 

·         o ran y £78 a gyhoeddwyd yn y gyllideb atodol ar gyfer colledion incwm yn Chwarter 1, mynegodd y Cynghorydd Mark Young ei siom na fyddai’r swm llawn bellach ar gael gan fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhywfaint o’r cyllid at ddibenion eraill. Eglurodd yr Aelod Arweiniol a Phennaeth Cyllid sut roedd lefel amcangyfrif yr incwm a gollwyd gan awdurdodau lleol wedi cael ei gyfrifo a thynnodd sylw at y newidiadau amrywiol a wnaed i’r cyfrifiadau hynny ers yr amcangyfrifon gwreiddiol oedd wedi arwain at hawliadau ‘ffug’ gostyngedig o tua £68m. Deallir y bydd cyfran o’r £78m yn cael ei ddyrannu at ddibenion adferiad ac roeddynt yn aros am benderfyniad a fyddai hawliad yr awdurdodau lleol am golli incwm yn cael ei dalu’n llawn.

·         cyfeiriodd yr Arweinydd at y gwaith a wnaed a’r pwysau ariannol roedd awdurdodau lleol yn eu hwynebu oedd wedi cael ei gydnabod gan Weinidog Llywodraeth Leol.  

Fe dynnodd sylw hefyd at yr angen am gefnogaeth ariannol briodol i gyflwyno mentrau Llywodraeth Cymru, megis Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu ac roedd y mater yma wedi cael ei godi gyda’r Gweinidog drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd.  Rhoddodd y Gweinidog rywfaint o sicrwydd y byddai awdurdodau lleol yn cael eu had-dalu’n llawn am gyflwyno’r mentrau newydd yma.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Barry Mellor ynglŷn â’r broses i arwyddo’r datganiad o gyfrifon, cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r broses arferol yn cael ei dilyn.  Bydd fersiwn ddrafft y datganiad o gyfrifon yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ym mis Gorffennaf yna eto ym mis Medi  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 203 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys.  

 

Penderfyniad:

Pleidleisiwyd: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Waith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau’r eitemau canlynol ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.40am.