Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes
Eitemau
Rhif Eitem

MATERION O HYSBYSIAD

Yn sgil y cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol yn sgil pandemig y Coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng fideo gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd.  Gwahoddwyd y pleidiau gwleidyddol i enwebu hyd at dri aelod i fynychu fel arsylwyr a gwaddodwyd y Newyddiadurwr Democratiaeth Leol hefyd i arsylwi’r cyfarfod.

 

Croesawodd yr Arweinydd bawb i gyfarfod ffurfiol cyntaf y Cabinet ers dechrau pandemig y Coronafeirws a thynnodd sylw at yr effaith ofnadwy ar bob lefel a dechreuodd y cyfarfod gyda munud o dawelwch i gofio’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio.

 

Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i swyddogion am eu gwaith ar y rheng flaen yn Sir Ddinbych mewn amodau anodd iawn ac i ddiolch i’r rhai sydd wedi cael eu hadleoli i ble mae’r angen mwyaf, gan roi sicrwydd i breswylwyr y byddai gwasanaethau a chymorth yn parhau drwy’r argyfwng. Manteisiodd y Prif Weithredwr ar y cyfle hefyd i ddiolch i staff am eu hyblygrwydd a’u dewrder dros y misoedd diwethaf.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Penderfyniad:

Rhoddodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, ddatganiad yn tynnu sylw at ei phryderon am y Coronafeirws a’i effaith mewn cartrefi gofal, ysbytai a chymunedau.

 

 

Cofnodion:

Ar y pwynt yma ac ar ôl cael ei gwahodd gan yr Arweinydd, gwnaeth y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth y datganiad canlynol -

 

“Fel Aelod Arweiniol dwi’n bryderus iawn am Coronafeirws a’i effaith sydd bellach i’w weld mewn cartrefi gofal, ysbytai a chymunedau. Er bod y niferoedd yn gostwng yn gyffredinol yng Nghymru, mae pobl dal i fod yn sâl, ac yn anffodus mae rhai yn dal i farw. Rydym ni’n meddwl am y rhai sydd wedi colli rhywun o achos y feirws ofnadwy yma.

 

Yn anffodus mae niferoedd yr achosion yng ngogledd Cymru, yn cynnwys Sir Ddinbych yn dal i gynyddu. Mae hyn yn rhannol oherwydd mynediad at brofi ac rydym ni’n gweithio gyda chydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddysgu mwy am lefelau gwahanol yr haint.

 

Wedi dweud hynny, mae’r Coronafeirws dal yma ac mae Swyddogion y Cyngor yn parhau i ddarparu cefnogaeth i gartrefi gofal a darparwyr gofal cymdeithasol er mwyn amddiffyn ein preswylwyr mwyaf diamddiffyn.

 

Fe hoffwn orffen drwy annog pawb i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru -

 

Aros Gartref – Diogelu’r GIG – Achub Bywydau”.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 323 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2020 (copi’n amgaeedig).  

 

Penderfyniad:

Cynhaliwyd pleidlais:  7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2020 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2020.

 

Materion yn Codi – Tudalennau 7 ac 8, Eitem Rhif 6 Argymhellion y Grŵp Buddsoddi Strategol (GBS) ac Eitem Rhif 7 Adroddiad Cyllid – gofynnodd y Cynghorydd Peter Scott gwestiynau am ganlyniadau yn dilyn difrod storm diweddar yn y sir. Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones nad oedd y cyfarfod llifogydd oedd wedi’i drefnu gyda’r Prif Weinidog wedi cael ei gynnal, ond mae materion wedi symud ymlaen.  Gwnaed cais i Lywodraeth Cymru am gyllid ar gyfer prosiectau penodol yn sgil difrod y storm ar draws Sir Ddinbych, yn cynnwys pontydd a phriffyrdd, ac rydym yn aros am ymateb. O ran yr asesiad ar gyfer effeithiau ehangach, cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y gwaith oedd wedi’i gynllunio wedi cael ei atal o ganlyniad i Covid 19, ond byddai’n edrych arno eto yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2020 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

CYMERADWYAETH GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL pdf eicon PDF 207 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y ddau Achos Busnes sy’n ymwneud â'r Cyfnodau Dylunio Cynlluniau Amddiffyniad Arfordirol yn y Rhyl a Phrestatyn yn costio dros £1m (100% wedi ei gyllido gan grant Llywodraeth Cymru).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cynhaliwyd pleidlais:  7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      cymeradwyo cam dylunio Cynllun Amddiffyniad Arfordirol Canol Prestatyn, a fydd yn cael ei ariannu 100% trwy grant gan Lywodraeth Cymru, ar y ddealltwriaeth nad oedd yna risg i’r Cyngor ac nad oedd hyn yn ymrwymo’r awdurdod i’r cam adeiladu ac ariannu pellach (fel y manylir yn Adran 4.2 yr adroddiad ac Atodiad 1 yr adroddiad), a

 

 (b)      cymeradwyo cam dylunio Cynllun Amddiffyniad Arfordirol Canol Rhyl, a fydd yn cael ei ariannu 100% trwy grant gan Lywodraeth Cymru, ar y ddealltwriaeth nad oedd yna risg i’r Cyngor ac nad oedd hyn yn ymrwymo’r awdurdod i’r cam adeiladu ac ariannu pellach (fel y manylir yn Adran 4.3 yr adroddiad ac Atodiad 2 yr adroddiad).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet am ddau Achos Busnes sy’n ymwneud â Chamau Dylunio Cynlluniau Amddiffyniad Arfordirol yn y Rhyl a Phrestatyn sydd yn costio dros £1m (100% o grant wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru).

 

Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion y ddau brosiect sydd wedi’u hariannu trwy grant ac maent wedi’u crynhoi isod -

 

·         Byddai Cynllun Amddiffyniad Arfordirol Canol Prestatyn yn darparu safon briodol o amddiffyniad yn erbyn digwyddiad 1 mewn 200 mlynedd er mwyn gwarchod 2045 o eiddo preswyl a 62 o eiddo nad ydynt yn rhai preswyl, ac amddiffyniad ychwanegol yn erbyn y cynnydd disgwyliedig yn lefel y môr dros y ganrif nesaf. 

Mae angen cymeradwyaeth i ddechrau dylunio a datblygu’r cynllun, ac amcangyfrif o’r gost yw £1,487,180. Gwnaed cais am grant i Lywodraeth Cymru ar gyfer yr elfen yma ac mae disgwyl y bydd LlC yn ei ariannu 100%.

 

·         Byddai Cynllun Amddiffyniad Arfordirol Canol Rhyl yn darparu safon briodol o amddiffyniad yn erbyn digwyddiad 1 mewn 200 mlynedd er mwyn gwarchod 548 o eiddo preswyl a 33 o eiddo nad ydynt yn rhai preswyl, ac amddiffyniad ychwanegol yn erbyn y cynnydd disgwyliedig yn lefel y môr dros y ganrif nesaf. 

Mae angen cymeradwyaeth i ddechrau dylunio a datblygu’r cynllun, ac amcangyfrif o’r gost yw £2,550,950. Gwnaed cais am grant i Lywodraeth Cymru ar gyfer yr elfen yma ac mae disgwyl y bydd LlC yn ei ariannu 100%.

 

Roedd y Grŵp Buddsoddi Strategol wedi argymell cymeradwyo’r ddau brosiect i’r cam dylunio yn unig ar y sail na fyddai yna risg ariannol i’r Cyngor ac na fyddai bwrw ymlaen â’r cam dylunio yn ymrwymo’r Cyngor i’r cam dylunio ac unrhyw gyllid pellach. Byddai angen gwneud penderfyniadau am gyllid yn y dyfodol pan fyddai llawn effaith ariannol pandemig presennol y Coronafeirws yn fwy amlwg, felly roedd hi’n bwysig rheoli disgwyliadau o ran hynny mewn cysylltiad â chynnydd posibl y cynlluniau.  Roedd y Cynghorydd Brian Jones yn cefnogi argymhellion yr adroddiad o ystyried y perygl llifogydd presennol a’r amddiffyniad y byddai’n ei roi i breswylwyr a busnesau, roedd o’n credu fod y cynlluniau yn werth am arian o ran y buddsoddiad sydd ei angen.

 

Roedd y Cabinet yn cydnabod pwysigrwydd y cynlluniau er mwyn amddiffyn yn erbyn perygl llifogydd yn y dyfodol ac wedi ystyried argymhellion yr adroddiad yn ofalus o ystyried y cyd-destun presennol.

 

Yn ystod y drafodaeth a gafwyd gofynnodd y Cynghorodd Mark Young a fyddai’n briodol i fwrw ymlaen i’r cam dylunio ar hyn o bryd o ystyried cost sylweddol y broses (er mai LlC fyddai’n talu) yn yr hinsawdd ariannol bresennol heb unrhyw warant o ddatblygiad yn y dyfodol ac adolygiad i ddod o flaenoriaethau’r Cyngor.  Roedd hefyd yn awyddus i sicrhau na fyddai cymeradwyo’r argymhellion yn rhagfarnu unrhyw benderfyniad am y blaenoriaethau hynny yn y dyfodol. Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn cytuno fod yna werth i oedi’r penderfyniad i fwrw ymlaen o ystyried y gwariant sylweddol a diffyg presennol oedd yn arwain at ansicrwydd dros gynnydd yn y dyfodol. Dywedodd yr Arweinydd y byddai’r cam dylunio yn cael ei ariannu’n llawn gan LlC ac nad oedd yna ymrwymiad ar y Cyngor i fwrw ymlaen y tu hwnt i’r cam hwnnw. Byddai’r sefyllfa yn cael ei adolygu ar yr amser priodol o ran buddsoddiad cyfalaf yn y dyfodol, ond o ystyried graddfa’r buddsoddiad a nifer yr eiddo a fyddai’n elwa, penderfynwyd bwrw ymlaen â’r cynlluniau, byddai’r Cyngor mewn sefyllfa dda i gael gafael ar arian grant a fyddai’n cael ei golli fel arall. Fe ychwanegodd y Cynghorydd Brian Jones efallai y bydd modd i LlC ariannu’r cynlluniau’n llawn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADRODDIAD CYLLID (STRATEGAETH ARIANNOL COVID 19) pdf eicon PDF 273 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) sy’n nodi effaith ariannol COVID 19 ar gyllideb 2020/21 y Cyngor a’r strategaeth arfaethedig ar gyfer ymateb i'r argyfwng.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cynhaliwyd pleidlais:  7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      nodi’r rhagolygon o ran effaith ariannol pandemig Covid-19 ar y Cyngor, a

 

 (b)      cymeradwyo fersiwn ddrafft Strategaeth Ariannol fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn nodi effaith ariannol COVID 19 ar gyllideb 2020/21 y Cyngor. Roedd yr effaith yn gyfuniad o gostau ychwanegol yn ogystal â cholled sylweddol mewn incwm, a chynigiodd strategaeth arfaethedig i ymateb i’r argyfwng a lliniaru’r effaith hwnnw yn y tymor byr i ganolog.

 

Cafodd y Cabinet wybod y byddai effaith pandemig y Coronafeirws yn sylweddol ac nad oedd busnes fel arfer o bersbectif ariannol yn bosibl os nad oedd y Cyngor yn ymateb i’r argyfwng. Amlinellodd y Cynghorydd Thompson-Hill effaith ariannol a’r ymateb tymor byr a chanolig arfaethedig gan gymryd i ystyriaeth effaith ar lif arian a chyllideb sylfaen.    I grynhoi -

 

·         Effeithiau COVID 19 ar Incwm a Gwariant hyd at ddiwedd Mehefin – Rhagwelwyd cynnydd net o £2.1m mewn gwariant ar gyfer y chwarter at ddiwedd Mehefin (gwariant ychwanegol o £2.8m ochr yn ochr â  gostyngiad mewn gwariant o £747,000). 

Roedd rhagolygon o golledion incwm o £6.3m ar gyfer yr un cyfnod (yr effaith fwyaf o £2.22m ar Denbighshire Leisure Limited). Mae disgwyl y bydd Llywodraeth Cymru (LlC) yn darparu cyllid ar gyfer y gwariant ychwanegol ond nid oes cyhoeddiad pendant wedi bod hyn yn hyn ar gyfer yr incwm sydd wedi’i golli. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi cyflwyno gwybodaeth i Lywodraeth Cymru er mwyn llywio’r broses honno, ac mae disgwyl y bydd cyhoeddiad am gyllido erbyn diwedd mis Mai. Byddai effaith net o £8.3 miliwn fesul chwarter, pe na bai’n cael ei ariannu yn cael effaith andwyol ar gyllid y Cyngor os bydd y cyfyngiadau ar symud yn parhau am gyfnod estynedig. Fe nodwyd y gallai’r ffigurau a ragwelwyd newid ac nad oeddynt yn cynnwys yr effaith ar lefelau hawlwyr Cynllun Gostwng Treth y Cyngor na thaliadau Treth y Cyngor ei hun.

 

·         Cyfnod Ymateb Tymor Byr – mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn digwydd gyda phob awdurdod lleol yng Nghymru, CLlLC a LlC er mwyn helpu i ddiffinio graddfa’r broblem a datblygu datrysiadau. 

Y strategaeth a argymhellwyd dros y misoedd nesaf oedd adnabod ffordd o sicrhau sefydlogrwydd ariannol y Cyngor ar gyfer 2020/21 a thu hwnt i gynnwys (1) parhau i weithio mewn partneriaeth i geisio cyflawni cymorth ariannol ar gyfer y gorwariant yn sgil colledion incwm; (2) parhau i adnabod a diffinio effaith ariannol i gyflawni darlun sydd yn gynyddol gywir; (3) adolygu penderfyniadau sydd wedi arwain at ostyngiad mewn incwm, a (4) sicrhau hyblygrwydd ariannol i ddelio ag unrhyw orwariant gweddilliol a pharhau i ddarparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol. Mae hyn yn cynnwys adnabod tanwariant presennol, adolygu gwasanaethau anstatudol, adolygu cronfeydd wrth ben a balansau, ac edrych ar gyfalafu colledion refeniw.

 

·         Ymateb Tymor Canolig a Chyfnod Adfer – byddai hyn yn ddibynnol ar ganlyniadau’r cyfnod adfer. 

Gobeithio y gall y Cyngor adeiladu ar yr hyn sydd wedi’i ddysgu o’r argyfwng er mwyn manteisio ar gyfleoedd i weithio’n well ac yn fwy gwydn. Bydd hyn yn cynnwys nodi blaenoriaethau newydd, meysydd o arbedion parhaus a meysydd sydd angen buddsoddiad. Mae’r gwaith a fydd yn cael ei gwblhau dros y misoedd i ddod yn cynnwys: llunio Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, Proses ac Amserlen Gosod Cyllideb Refeniw, ac Adolygu Blaenoriaethau Cyfalaf a Phrosiectau.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo fod y sefyllfa hon yn newid yn gyflym ac ers i’r adroddiad gael ei ysgrifennu, bu diweddariad pellach mewn perthynas â’r rheoliadau a threfniadau gweinyddu o ran y cyllid grant oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â chostau uniongyrchol a gofal cymdeithasol ynghyd â phrydau ysgol am ddim a dysgwyr wedi’u hallgau o’r byd digidol. O ran argaeledd cyllid ychwanegol, yr arwyddion oedd y byddai swm sylweddol  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 204 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys. 

Penderfyniad:

Cynhaliwyd pleidlais:  7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau canlynol -

 

·         Adroddiad Sefyllfa Ariannol Derfynol 2019/20 - Mehefin

·         Cytundeb Llywodraethu 2 Bargen Dwf Gogledd Cymru - Tachwedd

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.43am.