Agenda, decisions and draft minutes
Rhif | Eitem |
---|---|
MATERION O HYSBYSIAD Yn sgil y
cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol yn
sgil pandemig y Coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng fideo
gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd.
Gwahoddwyd y pleidiau gwleidyddol i enwebu hyd at dri aelod i fynychu
fel arsylwyr a gwaddodwyd y Newyddiadurwr Democratiaeth Leol hefyd i arsylwi’r
cyfarfod. Croesawodd yr
Arweinydd bawb i gyfarfod ffurfiol cyntaf y Cabinet ers dechrau pandemig y
Coronafeirws a thynnodd sylw at yr effaith ofnadwy ar bob lefel a dechreuodd y
cyfarfod gyda munud o dawelwch i gofio’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio. Manteisiodd yr
Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i swyddogion am eu gwaith ar y rheng flaen yn
Sir Ddinbych mewn amodau anodd iawn ac i ddiolch i’r rhai sydd wedi cael eu
hadleoli i ble mae’r angen mwyaf, gan roi sicrwydd i breswylwyr y byddai
gwasanaethau a chymorth yn parhau drwy’r argyfwng. Manteisiodd y Prif
Weithredwr ar y cyfle hefyd i ddiolch i staff am eu hyblygrwydd a’u dewrder
dros y misoedd diwethaf. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Rhoddodd y
Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, ddatganiad yn
tynnu sylw at ei phryderon am y Coronafeirws a’i effaith mewn cartrefi gofal, ysbytai
a chymunedau. Cofnodion: Ar y pwynt yma ac
ar ôl cael ei gwahodd gan yr Arweinydd, gwnaeth y Cynghorydd Bobby Feeley,
Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth y datganiad canlynol - “Fel Aelod Arweiniol
dwi’n bryderus iawn am Coronafeirws a’i effaith sydd bellach i’w weld mewn
cartrefi gofal, ysbytai a chymunedau. Er bod y niferoedd yn gostwng yn
gyffredinol yng Nghymru, mae pobl dal i fod yn sâl, ac yn anffodus mae rhai yn
dal i farw. Rydym ni’n meddwl am y rhai sydd wedi colli rhywun o achos y feirws
ofnadwy yma. Yn anffodus mae
niferoedd yr achosion yng ngogledd Cymru, yn cynnwys Sir Ddinbych yn dal i
gynyddu. Mae hyn yn rhannol oherwydd mynediad at brofi ac rydym ni’n gweithio
gyda chydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Iechyd Cyhoeddus
Cymru i ddysgu mwy am lefelau gwahanol yr haint. Wedi dweud hynny,
mae’r Coronafeirws dal yma ac mae Swyddogion y Cyngor yn parhau i ddarparu
cefnogaeth i gartrefi gofal a darparwyr gofal cymdeithasol er mwyn amddiffyn
ein preswylwyr mwyaf diamddiffyn. Fe hoffwn orffen
drwy annog pawb i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru - Aros Gartref –
Diogelu’r GIG – Achub Bywydau”. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2020 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: Cynhaliwyd pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2020 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2020. Materion yn Codi – Tudalennau 7 ac 8, Eitem Rhif 6 Argymhellion y
Grŵp Buddsoddi Strategol (GBS) ac Eitem Rhif 7 Adroddiad Cyllid –
gofynnodd y Cynghorydd Peter Scott gwestiynau am ganlyniadau yn dilyn difrod
storm diweddar yn y sir. Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones nad oedd y cyfarfod
llifogydd oedd wedi’i drefnu gyda’r Prif Weinidog wedi cael ei gynnal, ond mae
materion wedi symud ymlaen. Gwnaed cais
i Lywodraeth Cymru am gyllid ar gyfer prosiectau penodol yn sgil difrod y storm
ar draws Sir Ddinbych, yn cynnwys pontydd a phriffyrdd, ac rydym yn aros am
ymateb. O ran yr asesiad ar gyfer effeithiau ehangach, cadarnhaodd y Prif
Weithredwr fod y gwaith oedd wedi’i gynllunio wedi cael ei atal o ganlyniad i
Covid 19, ond byddai’n edrych arno eto yn y dyfodol. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2020 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. |
|
CYMERADWYAETH GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL PDF 207 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth ar
gyfer y ddau Achos Busnes sy’n ymwneud â'r Cyfnodau Dylunio Cynlluniau
Amddiffyniad Arfordirol yn y Rhyl a Phrestatyn yn costio dros £1m (100% wedi ei
gyllido gan grant Llywodraeth Cymru). Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cynhaliwyd pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 yn
ymatal PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cymeradwyo cam
dylunio Cynllun Amddiffyniad Arfordirol Canol Prestatyn, a fydd yn cael ei
ariannu 100% trwy grant gan Lywodraeth Cymru, ar y ddealltwriaeth nad oedd yna risg
i’r Cyngor ac nad oedd hyn yn ymrwymo’r awdurdod i’r cam adeiladu ac ariannu
pellach (fel y manylir yn Adran 4.2 yr adroddiad ac Atodiad 1 yr adroddiad), a (b) cymeradwyo cam
dylunio Cynllun Amddiffyniad Arfordirol Canol Rhyl, a fydd yn cael ei ariannu
100% trwy grant gan Lywodraeth Cymru, ar y ddealltwriaeth nad oedd yna risg i’r
Cyngor ac nad oedd hyn yn ymrwymo’r awdurdod i’r cam adeiladu ac ariannu
pellach (fel y manylir yn Adran 4.3 yr adroddiad ac Atodiad 2 yr adroddiad). Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet am ddau Achos Busnes sy’n ymwneud â Chamau Dylunio Cynlluniau
Amddiffyniad Arfordirol yn y Rhyl a Phrestatyn sydd yn costio dros £1m (100% o
grant wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru). Mae’r
adroddiad yn cynnwys manylion y ddau brosiect sydd wedi’u hariannu trwy grant
ac maent wedi’u crynhoi isod - ·
Byddai Cynllun Amddiffyniad
Arfordirol Canol Prestatyn yn darparu safon briodol o amddiffyniad yn erbyn
digwyddiad 1 mewn 200 mlynedd er mwyn gwarchod 2045 o eiddo preswyl a 62 o
eiddo nad ydynt yn rhai preswyl, ac amddiffyniad ychwanegol yn erbyn y cynnydd
disgwyliedig yn lefel y môr dros y ganrif nesaf. Mae
angen cymeradwyaeth i ddechrau dylunio a datblygu’r cynllun, ac amcangyfrif o’r
gost yw £1,487,180. Gwnaed cais am grant i Lywodraeth Cymru ar gyfer yr elfen yma
ac mae disgwyl y bydd LlC yn ei ariannu 100%. ·
Byddai Cynllun Amddiffyniad
Arfordirol Canol Rhyl yn darparu safon briodol o amddiffyniad yn erbyn
digwyddiad 1 mewn 200 mlynedd er mwyn gwarchod 548 o eiddo preswyl a 33 o eiddo
nad ydynt yn rhai preswyl, ac amddiffyniad ychwanegol yn erbyn y cynnydd
disgwyliedig yn lefel y môr dros y ganrif nesaf. Mae
angen cymeradwyaeth i ddechrau dylunio a datblygu’r cynllun, ac amcangyfrif o’r
gost yw £2,550,950. Gwnaed cais am grant i Lywodraeth Cymru ar gyfer yr elfen
yma ac mae disgwyl y bydd LlC yn ei ariannu 100%. Roedd
y Grŵp Buddsoddi Strategol wedi argymell cymeradwyo’r ddau brosiect i’r
cam dylunio yn unig ar y sail na fyddai yna risg ariannol i’r Cyngor ac na
fyddai bwrw ymlaen â’r cam dylunio yn ymrwymo’r Cyngor i’r cam dylunio ac
unrhyw gyllid pellach. Byddai angen gwneud
penderfyniadau am gyllid yn y dyfodol pan fyddai llawn effaith ariannol
pandemig presennol y Coronafeirws yn fwy amlwg, felly roedd hi’n bwysig rheoli
disgwyliadau o ran hynny mewn cysylltiad â chynnydd posibl y cynlluniau. Roedd y Cynghorydd Brian Jones
yn cefnogi argymhellion yr adroddiad o ystyried y perygl llifogydd presennol
a’r amddiffyniad y byddai’n ei roi i breswylwyr a busnesau, roedd o’n credu fod
y cynlluniau yn werth am arian o ran y buddsoddiad sydd ei angen. Roedd
y Cabinet yn cydnabod pwysigrwydd y cynlluniau er mwyn amddiffyn yn erbyn
perygl llifogydd yn y dyfodol ac wedi ystyried argymhellion yr adroddiad yn
ofalus o ystyried y cyd-destun presennol. Yn ystod y drafodaeth a gafwyd gofynnodd y Cynghorodd Mark Young a fyddai’n briodol i fwrw ymlaen i’r cam dylunio ar hyn o bryd o ystyried cost sylweddol y broses (er mai LlC fyddai’n talu) yn yr hinsawdd ariannol bresennol heb unrhyw warant o ddatblygiad yn y dyfodol ac adolygiad i ddod o flaenoriaethau’r Cyngor. Roedd hefyd yn awyddus i sicrhau na fyddai cymeradwyo’r argymhellion yn rhagfarnu unrhyw benderfyniad am y blaenoriaethau hynny yn y dyfodol. Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn cytuno fod yna werth i oedi’r penderfyniad i fwrw ymlaen o ystyried y gwariant sylweddol a diffyg presennol oedd yn arwain at ansicrwydd dros gynnydd yn y dyfodol. Dywedodd yr Arweinydd y byddai’r cam dylunio yn cael ei ariannu’n llawn gan LlC ac nad oedd yna ymrwymiad ar y Cyngor i fwrw ymlaen y tu hwnt i’r cam hwnnw. Byddai’r sefyllfa yn cael ei adolygu ar yr amser priodol o ran buddsoddiad cyfalaf yn y dyfodol, ond o ystyried graddfa’r buddsoddiad a nifer yr eiddo a fyddai’n elwa, penderfynwyd bwrw ymlaen â’r cynlluniau, byddai’r Cyngor mewn sefyllfa dda i gael gafael ar arian grant a fyddai’n cael ei golli fel arall. Fe ychwanegodd y Cynghorydd Brian Jones efallai y bydd modd i LlC ariannu’r cynlluniau’n llawn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADRODDIAD CYLLID (STRATEGAETH ARIANNOL COVID 19) PDF 273 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) sy’n nodi effaith ariannol
COVID 19 ar gyllideb 2020/21 y Cyngor a’r strategaeth arfaethedig ar gyfer
ymateb i'r argyfwng. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cynhaliwyd pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 yn
ymatal PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi’r
rhagolygon o ran effaith ariannol pandemig Covid-19 ar y Cyngor, a (b) cymeradwyo
fersiwn ddrafft Strategaeth Ariannol fel yr amlinellir yn yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn nodi effaith ariannol COVID 19 ar gyllideb 2020/21 y Cyngor. Roedd
yr effaith yn gyfuniad o gostau ychwanegol yn ogystal â cholled sylweddol mewn
incwm, a chynigiodd strategaeth arfaethedig i ymateb i’r argyfwng a lliniaru’r
effaith hwnnw yn y tymor byr i ganolog. Cafodd y Cabinet wybod y byddai effaith pandemig y Coronafeirws yn
sylweddol ac nad oedd busnes fel arfer o bersbectif ariannol yn bosibl os nad
oedd y Cyngor yn ymateb i’r argyfwng. Amlinellodd y Cynghorydd Thompson-Hill effaith ariannol a’r ymateb tymor
byr a chanolig arfaethedig gan gymryd i ystyriaeth effaith ar lif arian a
chyllideb sylfaen. I grynhoi - ·
Effeithiau COVID 19 ar Incwm a Gwariant
hyd at ddiwedd Mehefin – Rhagwelwyd cynnydd net o £2.1m mewn gwariant ar gyfer y chwarter at ddiwedd
Mehefin (gwariant ychwanegol o £2.8m ochr yn ochr â gostyngiad mewn gwariant o £747,000). Roedd rhagolygon o golledion incwm o £6.3m ar
gyfer yr un cyfnod (yr effaith fwyaf o £2.22m ar Denbighshire Leisure Limited). Mae disgwyl y bydd Llywodraeth Cymru (LlC) yn darparu cyllid ar gyfer y
gwariant ychwanegol ond nid oes cyhoeddiad pendant wedi bod hyn yn hyn ar gyfer
yr incwm sydd wedi’i golli.
Mae Cymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru (CLlLC) wedi cyflwyno gwybodaeth i Lywodraeth Cymru er mwyn llywio’r
broses honno, ac mae disgwyl y bydd cyhoeddiad am gyllido erbyn diwedd mis Mai. Byddai effaith net o £8.3 miliwn fesul chwarter, pe na bai’n cael ei
ariannu yn cael effaith andwyol ar gyllid y Cyngor os bydd y cyfyngiadau ar
symud yn parhau am gyfnod estynedig. Fe nodwyd y gallai’r ffigurau a ragwelwyd
newid ac nad oeddynt yn cynnwys yr effaith ar lefelau hawlwyr Cynllun Gostwng
Treth y Cyngor na thaliadau Treth y Cyngor ei hun. ·
Cyfnod Ymateb Tymor Byr – mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn
digwydd gyda phob awdurdod lleol yng Nghymru, CLlLC a LlC er mwyn helpu i
ddiffinio graddfa’r broblem a datblygu datrysiadau. Y strategaeth a argymhellwyd dros y misoedd nesaf
oedd adnabod ffordd o sicrhau sefydlogrwydd ariannol y Cyngor ar gyfer 2020/21
a thu hwnt i gynnwys (1) parhau i weithio mewn partneriaeth i geisio cyflawni
cymorth ariannol ar gyfer y gorwariant yn sgil colledion incwm; (2) parhau i
adnabod a diffinio effaith ariannol i gyflawni darlun sydd yn gynyddol gywir;
(3) adolygu penderfyniadau sydd wedi arwain at ostyngiad mewn incwm, a (4)
sicrhau hyblygrwydd ariannol i ddelio ag unrhyw orwariant gweddilliol a pharhau
i ddarparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol. Mae hyn yn cynnwys adnabod tanwariant presennol, adolygu gwasanaethau
anstatudol, adolygu cronfeydd wrth ben a balansau, ac edrych ar gyfalafu
colledion refeniw. ·
Ymateb Tymor Canolig a Chyfnod Adfer – byddai hyn yn ddibynnol ar ganlyniadau’r
cyfnod adfer. Gobeithio y gall y Cyngor adeiladu ar yr hyn sydd
wedi’i ddysgu o’r argyfwng er mwyn manteisio ar gyfleoedd i weithio’n well ac
yn fwy gwydn. Bydd hyn yn cynnwys nodi blaenoriaethau
newydd, meysydd o arbedion parhaus a meysydd sydd angen buddsoddiad. Mae’r
gwaith a fydd yn cael ei gwblhau dros y misoedd i ddod yn cynnwys: llunio
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, Proses ac Amserlen Gosod Cyllideb Refeniw,
ac Adolygu Blaenoriaethau Cyfalaf a Phrosiectau. Dywedodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo fod y sefyllfa hon yn newid yn gyflym ac ers i’r adroddiad gael ei ysgrifennu, bu diweddariad pellach mewn perthynas â’r rheoliadau a threfniadau gweinyddu o ran y cyllid grant oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â chostau uniongyrchol a gofal cymdeithasol ynghyd â phrydau ysgol am ddim a dysgwyr wedi’u hallgau o’r byd digidol. O ran argaeledd cyllid ychwanegol, yr arwyddion oedd y byddai swm sylweddol ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET PDF 204 KB Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys. Penderfyniad: Cynhaliwyd pleidlais: 7 o blaid, 0 yn erbyn, 0 yn
ymatal PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau canlynol - ·
Adroddiad
Sefyllfa Ariannol Derfynol 2019/20 - Mehefin ·
Cytundeb
Llywodraethu 2 Bargen Dwf Gogledd Cymru - Tachwedd PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 11.43am. |