Rhaglen

Rhaglen

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

RHAN 1 – GWAHODDIR Y WASG A'R CYHOEDD I FOD YN BRESENNOL YN Y RHAN HON O’R CYFARFOD

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 323 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2020 (copi’n amgaeedig).  

 

5.

GWEITHREDU MODEL DARPARU AMGEN AR GYFER AMRYWIOL WEITHGAREDDAU/SWYDDOGAETHAU HAMDDEN: DYFARNU’R CONTRACT pdf eicon PDF 295 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) sy’n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu’r contract i Denbighshire Leisure Limited (DLL).

 

Dogfennau ychwanegol:

6.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 234 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

7.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 197 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet a nodi’r cynnwys.  

 

RHAN 2 - MATERION CYFRINACHOL

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

 

Argymhellir, yn unol ag Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, bod y Wasg a'r Cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod tra bydd yr eitem ganlynol yn cael ei thrafod oherwydd ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu fel y'i diffinnir ym mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A y Ddeddf.  

 

8.

AIL-GAFFAEL GWASANAETHAU TROSGLWYDDO A THRIN DEUNYDDIAU AILGYLCHU CYMYSG SYCH

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, (copi’n amgaeedig) yn gofyn i’r Cabinet roi cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â chaffael a dyfarnu contract ar gyfer gwasanaethau deunyddiau ailgylchu cymysg sych ynghyd ag estyn y trefniadau contract presennol yn ystod y cyfnod trawsnewid.

 

Dogfennau ychwanegol: