Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd
Graham Timms – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 7 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Bobby Feeley – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 10 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts - Cysylltiad Personol - Eitem Rhif 10 ar y Rhaglen. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Graham Timms gysylltiad personol gydag eitem 7 ar y rhaglen - Ardal
Gwella Busnes Llangollen gan ei fod yn Gadeirydd Llangollen 2020 Datganodd y
Cynghorwyr Bobby Feeley a Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol gyda’r elfen
yn ymwneud â SC2 yn Eitem 10 ar y Rhaglen – Adroddiad Cyllid gan eu bod yn
Gyfarwyddwyr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2019 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2019 fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2019. Cywirdeb - Tudalen 12,
Eitem 6 Cynnig i ddiwygio cylch gorchwyl y Grŵp Cynllunio Strategol
- cytunwyd y dylid tynnu ‘-‘ o ddiwedd y llinell olaf cyn y penderfyniad i nodi
“PENDERFYNWYD wedi hynny bod....” PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr
2019 fel cofnod cywir. |
|
COD YMARFER PRIFFYRDD PDF 288 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r
Amgylchedd (copi’n amgaeedig) sy’n cyflwyno Cod Ymarfer newydd Priffyrdd i’w
gymeradwyo’n ffurfiol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) derbyn yr adroddiad ac yn cadarnhau'r Cod Ymarfer newydd fel y gellir ei weithredu'n
ffurfiol yn Sir Ddinbych, a (b) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o’r Effaith ar
Les i ystyriaeth (Atodiad A o’r adroddiad) fel rhan o'i benderfyniad. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad a Chod Ymarfer newydd Priffyrdd i'w
gymeradwyo'n ffurfiol. Darparwyd
rhywfaint o gefndir o ran cyfrifoldebau deddfwriaethol a roddir ar awdurdodau
priffyrdd i gynnal y rhwydwaith priffyrdd a fabwysiadwyd gyda’r meini prawf
arfaethedig yn cael eu defnyddio i gynnal y rhwydwaith priffyrdd yn ddiogel ac
i sicrhau y gellir darparu amddiffyniad cadarn yn erbyn hawliadau yswiriant
trydydd parti. I’r
perwyl hwn, ac i alluogi dull cyson ar draws Cymru, mae dogfen Cod Ymarfer ar y
cyd wedi'i gynhyrchu gan awdurdodau priffyrdd Cymru. Adroddodd y swyddogion ar
agweddau technegol y ddogfen a thynnu sylw at y prif newidiadau i’r cynllun
presennol o ran arolygu a chynnal a chadw ynghyd â’r rhesymau dros y rhain ac i
sicrhau cysondeb ar draws y sir. Er bod y ddogfen ar y cyd yn
nodi’r isafswm o ran gofynion ar gyfer awdurdodau lleol Cymru, roedd Sir
Ddinbych wedi rhagori ar y gofynion hynny ar gyfer elfennau penodol o’r
cynllun. Nodwyd
bod swyddogion yn mynychu Grwpiau Ardal yr Aelodau i drafod materion priffyrdd
yn rheolaidd, gan gynnwys strategaeth y briffordd ehangach, a byddai
ymgysylltiad yn parhau. Cymerodd
y Cabinet y cyfle i drafod y Cod Ymarfer newydd gyda’r Aelod Arweiniol a’r
swyddogion, a ymatebodd i gwestiynau a sylwadau fel a ganlyn- ·
roedd diffiniad o dwll mewn ffordd wedi’i ddiffinio’n glir yn
y ddogfen newydd o ran ei ddimensiynau yn unol â safon y diwydiant a byddai
unrhyw ostyngiad yn y maint hwnnw yn effeithio ar adnoddau ·
ymhelaethodd ar ddiffiniadau
categorïau diffygion ar gyfer diffygion critigol a diogelwch a nodi’r diffyg o
ran cyfeiriad rhwng y ddau gategori yn y tabl ar dudalen 10 y ddogfen ac fe gytunwyd
y gellid eu diffinio’n well ar y pwynt hwnnw, ond roedd mathau o ddiffygion a
lefelau ymyrraeth wedi’u nodi mewn man arall yn y ddogfen. ·
eglurodd bod Cod Ymarfer
newydd wedi’i gynhyrchu yn 2016 gan Bwyllgor Cyswllt Ffyrdd y DU i ‘rhyddhau’
awdurdodau lleol a rhoi mwy o hyblygrwydd cyllidebol ond roedd swyddogion
priffyrdd awdurdodau Cymru wedi penderfynu po fwyaf y nifer, y mwyaf diogel
ydynt o ran ymgyfreitha posibl ac felly cytunwyd ar ddull cyson a dogfen ar y
cyd yn nodi’r isafswm o ran safonau. ·
cydnabuwyd pryderon o ran
effeithiolrwydd ac ymarfer atgyweirio tyllau mewn ffyrdd dros dro cyn darparu
atgyweiriad parhaol ond eglurodd pe na ellir gwneud atgyweiriad parhaol o fewn
y terfyn amser sy'n ofynnol i sicrhau diogelwch yna byddai atgyweiriad dros dro
yn ofynnol. Gobeithiwyd
y gallai maint diffiniol twll mewn ffordd yn y Cod Ymarfer gynorthwyo i ryddhau
rhywfaint o adnoddau i’r diben hwnnw ac fe gynhelir cyfarfodydd rheolaidd rhwng
priffyrdd a strydwedd i adolygu gwaith cynnal a chadw adweithiol a sicrhau y
defnyddir y dull mwyaf effeithlon ac effeithiol o fewn yr adnoddau sydd ar
gael. Cadarnhaodd
y swyddogion y byddent yn fodlon mynychu unrhyw fforwm aelodau i drafod yr
ymagwedd a gymerwyd i sicrhau bod aelodau yn derbyn yr holl wybodaeth i ymateb
i gwestiynau preswylwyr amdanynt. Cytunwyd y byddai'n fuddiol pe bai swyddogion
yn egluro’r dull, gan gynnwys goblygiadau’r Cod Ymarfer newydd, mewn sesiwn
Friffio’r Cyngor. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) derbyn yr adroddiad ac yn cadarnhau'r Cod Ymarfer newydd fel y gellir ei
weithredu'n ffurfiol yn Sir Ddinbych, a (b) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o’r Effaith ar
Les i ystyriaeth (Atodiad A o’r adroddiad) fel rhan o'i benderfyniad. |
|
CYNLLUN ADSEFYDLU POBL DDIAMDDIFFYN O SYRIA PDF 315 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth
(copi’n amgaeedig) sy’n gofyn i’r Cabinet roi cymeradwyaeth i barhau i
gefnogi’r gwaith o ailgartrefu ffoaduriaid yn Sir Ddinbych drwy’r cynllun
diwygiedig newydd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar
Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau a (b) bod y Cabinet yn cytuno i barhau i gefnogi’r setliad ffoaduriaid yn Sir
Ddinbych drwy’r Cynllun Adsefydlu Byd-Eang yn ddibynnol ar delerau ac ariannu
cynllun o’r fath unwaith y mae wedi ei gyhoeddi gan y Swyddfa Gartref. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cyng. Bobby Feeley adroddiad a oedd yn gofyn i’r Cabinet roi cymeradwyaeth i
barhau i gefnogi’r gwaith o adsefydlu ffoaduriaid yn Sir Ddinbych drwy’r
cynllun newydd. Cynghorwyd
y Cabinet ynglŷn â chynnydd Cynllun Adsefydlu Unigolion Diamddiffyn o
Syria yn Sir Ddinbych sydd yn cael ei ddisodli gan Gynllun Aidsefydlu Byd-eang
newydd ac ehangach o fis Ebrill 2020 i groesawu oddeutu 5000 o ffoaduriaid i'r
DU o'r Dwyrain Canol ac Affrica. Ers Ebrill 2016 roedd Sir
Ddinbych wedi llwyddo i adsefydlu 18 o deuluoedd ac ar y trywydd iawn i
ddiwallu’r targed o 20 teulu erbyn Mawrth 2020. Roedd manylion llawn
llwyddiannau, meysydd i’w gwella a gwersi a ddysgwyd o’r prosiect yn yr
adroddiad. Bydd
y cynllun newydd yn fwy syml i’w weithredu ac wedi anelu i ddarparu gwell
cysondeb yn y ffordd y mae ffoaduriaid yn cael eu hadsefydlu. Cefnogodd
y Cabinet barhad y cynllun ac roeddent yn awyddus i sicrhau bod y meysydd a
nodwyd ar gyfer eu gwella a bod unrhyw rwystrau sy’n atal integreiddio yn cael
eu datrys. Ceisiodd
y Cynghorydd Mark Young sicrwydd ynglŷn â safonau tai a chyflwr eiddo
ynghyd â mynediad at ofal iechyd. Eglurodd y swyddogion bod
honiadau o leithder a chyddwysiad o ganlyniad i ddewisiadau ffyrdd o fyw
diwylliannol o ystyried y newidiadau o ran hinsawdd gyda'r gwres yn cael ei
danio a'r ffenestri ynghau a'u bod yn gweithio i addysgu'r teuluoedd hynny a
lle bo'r angen roedd echdynwyr ychwanegol wedi'u gosod i ddatrys y materion
hynny. Eglurwyd hefyd bod cryn dipyn
o waith yn cael ei gyflawni’n genedlaethol ac yn lleol i sicrhau gwell mynediad
at wasanaethau gofal deintyddol ac iechyd ar gyfer teuluoedd ac roedd yn parhau
i fod yn fater o flaenoriaeth i ystyried y dulliau o oresgyn y rhwystrau hynny.
Mewn
ymateb i gwestiynau pellach a sicrwydd cadarnhaodd y swyddogion bod y bwriad bod y teuluoedd yn cymryd cyfrifoldeb
llawn am denantiaeth ar ôl deuddeg mis yn uchelgeisiol ond roedd sicrhau fod
gan y teuluoedd fynediad at systemau cyfrifiadurol a dealltwriaeth o ran sut i
reoli cyfrifon rhent wedi cynorthwyo i symleiddio’r broses ynghyd â rhannu
gwybodaeth yn well a sicrhau bod teuluoedd yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau a'u
disgwyliadau. Roedd
meysydd i’w gwella wedi’u nodi a byddwn yn canolbwyntio adnoddau ar y rhain yn
y dyfodol. Adroddodd
y Cynghorydd Graham Timms am fuddion cadarnhaol o gael dau deulu wedi'u lleoli
yn Llangollen a oedd wedi arwain at well dealltwriaeth o sefyllfa ffoaduriaid. O ran anawsterau ieithyddol,
cadarnhaodd swyddogion bod camau wedi’u cymryd o ran hynny drwy gyflwyno
datrysiadau digidol a’r defnydd o apiau ar-lein ond cydnabuwyd y gellir gwneud
mwy ac roedd y Swyddfa Gartref a Phartneriaeth Ymfudo Cymru yn gweithio i fynd
i’r afael â’r mater. Cydnabuwyd
pwysigrwydd bod teuluoedd yn derbyn cyflogaeth a hyfforddiant hefyd a gwnaed
cryn dipyn o waith o ran hynny ac i atal camfanteisio. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar
Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau ac (b) yn cytuno i barhau i gefnogi
adsefydlu ffoaduriaid yn Sir Ddinbych drwy’r Cynllun Adsefydlu Byd-Eang yn
ddibynnol ar delerau ac ariannu cynllun o’r fath unwaith y mae wedi ei gyhoeddi
gan y Swyddfa Gartref. |
|
ARDAL GWELLA BUSNES (AGB) LLANGOLLEN PDF 222 KB Ystyried
adroddiad (sy’n cynnwys atodiad
cyfrinachol) gan y Cyng. Hugh Evans, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr
Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi’n amgaeedig) sy’n darparu’r
wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ynglŷn â datblygu Ardal Gwella Busnes
Llangollen ac yn ceisio cymeradwyaeth i’w sefydlu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith
ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau; (b) nodi cynnwys y Cynllun Busnes AGB (Atodiad 2 i’r adroddiad) ac argymhelliad
y swyddog nad oes unrhyw sail i roi feto o dan Ddeddfwriaeth AGB Cymru (2005)
(Atodiad 3 i’r adroddiad) gan nad yw’n gwrthdaro ag unrhyw bolisïau lleol
presennol nac yn gosod baich anghymesur ar fusnesau penodol yn yr ardal; (c) cytuno i gefnogi sefydlu’r AGB trwy bleidleisio 'o blaid' ym mhleidlais yr
AGB mewn perthynas â phob un eiddo ardrethol cymwys sydd gan y Cyngor yn yr
AGB, a (d) cytuno i roi awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Economi a Pharth Cyhoeddus i fwrw pleidleisiau mewn perthynas â phob eiddo
ardrethol cymwys sydd gan y Cyngor yn yr AGB. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad ar ddatblygiad Ardal Gwella Busnes (AGB)
Llangollen a cheisio cefnogaeth i’w sefydlu. Roedd
AGBau yn rhoi pŵer i fusnesau lleol i ddod ynghyd, penderfynu ar y
gwelliannau yr oeddent eisiau eu cyflawni o fewn ardal benodol, a chodi arian
i’w cyflawni. Darparwyd
rhywfaint o gefndir o ran y gwaith a wnaed gyda’r gymuned fusnes leol i
benderfynu ar hyfywedd AGB Llangollen ynghyd â phroses ddatblygu a
deddfwriaethau o ran hynny. Roedd
y cam nesaf yn cynnwys papur pleidleisio drwy’r post ar gyfer busnesau cymwys i
bleidleisio ‘o blaid’ neu ‘yn erbyn’ cynnig AGB a oedd yn nodi sut y byddai AGB
yn gweithredu (incwm a gwariant arfaethedig, ardal yr AGB a mesuryddion
perfformiad) a sut y byddai'r AGB yn cael ei wario. Yr amod yw bod yn rhaid i
weithgareddau fod yn ychwaneg at y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan
awdurdodau lleol. Argymhellwyd
bod y Cabinet yn cytuno i gefnogi sefydlu’r AGB trwy bleidleisio 'o blaid' ym
mhleidlais yr AGB mewn perthynas â phob un eiddo ardrethadwy cymwys sydd gan y
Cyngor yn yr AGB. Wrth
gefnogi’r argymhellion nododd y Cynghorydd Evans bod Llangollen wedi bod yn
dref uchelgeisiol a phrysur erioed a phe bai AGB yn cael ei sefydlu byddai’n
gymorth i fusnesau fuddsoddi yn eu blaenoriaethau a chynaliadwyedd ar gyfer y
dyfodol. Nododd
y Cynghorydd Tony Thomas ei gefnogaeth gan nodi ei fod yn credu bod busnesau yn
Llangollen yn hynod ymatebol i sefydlu AGB ac roedd yn credu y byddai o fudd
mawr i'r dref. Eglurodd
y Cynghorydd Graham Timms ei fod ef a’i gyd-gynghorydd lleol Melvyn Mile yn
gefnogwyr brwd sefydlu AGB ond holodd gwestiynau am (1) cyfeiriad yn yr
adroddiad y byddai ysgolion yn cael eu heithrio o'r ardoll gan eu bod y tu
allan i ardal yr AGB, (2) yr effaith pan fo'r Cyngor yn arfer ei bleidlais ar
ran Pafiliwn Llangollen o ystyried ei fod wedyn yn cael ei drosglwyddo i
Hamdden Sir Ddinbych Cyf, a (3) holi am nifer y pleidleiswyr, safleoedd y
cyngor a chyfanswm gwerth ardrethol safleoedd y cyngor yn ardal yr AGB. Mewn ymateb - ·
cadarnhaodd swyddogion bod
ardoll yr AGB yn daladwy ar gyfer eiddo o fewn ardal benodol yr AGB yn unig ond
nododd y cyfeiriad yn yr adroddiad bod ysgolion cael eu heithrio o'r ardoll -
byddai eglurder pellach o ran lleoliad y ddwy ysgol yn cael ei geisio. ·
cyfeiriodd y swyddogion at y sefyllfa o ran y
bleidlais a fyddai’n cau ar 19 Mawrth 2020 ac eglurodd mai’r busnesau sy’n
gymwys i bleidleisio fyddai'r rhai sy'n gymwys i bleidleisio ar yr adeg honno -
gallai unrhyw fusnes newid perchnogaeth ar unrhyw bwynt ond roedd yn rhaid
cynnal a chau'r bleidlais ar gyfnod penodol a byddai'r ardoll yn berthnasol er
gwaethaf y newid mewn perchnogaeth. Ychwanegodd
y Cynghorydd Tony Thomas, er y byddai Pafiliwn Llangollen yn cael ei drosglwyddo
i’r Model Darparu Amgen, byddai ardoll yr AGB ar gyfer y Pafiliwn yn parhau i
fod yn daladwy. ·
Eglurodd y swyddogion bod
oddeutu 200 o fusnesau yn gymwys i bleidleisio yn y bleidlais a oedd yn cynnwys
oddeutu 10 sy'n eiddo i’r cyngor – nid oedd y ffigyrau o ran cyfanswm gwerth
ardrethol wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Mewn
ymateb i gwestiwn terfynol gan y Cynghorydd Mark Young cadarnhaodd y swyddogion
bod mwyafrif amser ac adnoddau’r Tîm Datblygu Economaidd ar y prosiect wedi
canolbwyntio ar waith dichonoldeb cychwynnol a datblygu'r cynnig - nid oedd
symud ymlaen o'r cam hwn yn golygu llawer o ddefnydd o adnoddau. Gofynnodd
yr Arweinydd i’r Cabinet bleidleisio ar bob argymhelliad yn unigol. PENDERFYNWYD ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
GOSOD RHENT TAI A CHYLLIDEBAU REFENIW TAI A CHYFALAF 2020/21 PDF 241 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i godi rhent blynyddol tai cyngor Sir Ddinbych ac i gymeradwyo Cyllidebau Cyfalaf a Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/21 a’r Cynllun Busnes Stoc Dai. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/21 (Atodiad 1 i’r
adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad); a (b) cynyddu rhent anheddau'r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar
gyfer Rhent Tai Cymdeithasol i rent wythnosol cyfartalog o £92.35 i’w weithredu
o ddydd Llun 6 Ebrill 2020. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth
y Cabinet ar gyfer cynnydd rhent blynyddol Tai Sir Ddinbych, Cyfalaf y Cyfrif
Refeniw Tai a Chyllidebau Refeniw ar gyfer 2020/21 a'r Cynllun Busnes Stoc Dai. Eglurodd y
Cynghorydd Thompson-Hill ffigyrau’r gyllideb a’r tybiaethau o ran lefelau incwm
i’r Aelodau gan nodi prynu 7 cyn-dŷ cyngor a 3 tŷ sector preifat a'r
rhaglen ar gyfer 170 o gartrefi ychwanegol.
O ran y cynnydd rhent blynyddol mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi
polisi rhent pum mlynedd ar gyfer rhent tai cymdeithasol yn ddiweddar ac mae
setliad y rhenti wedi'u cyfrifo gan ystyried y polisi a’r mecanwaith ar gyfer
codi rhent. Y cynnydd ar gyfer 2020/21
oedd 2.7% a byddai’n gadael 44% o gartrefi ar lefelau rhent targed gan arwain
at gyfartaledd rhent wythnosol o £92.35 a oedd ar ben isaf y lefel rhent
targed. Nid oedd cynnig ddefnyddio’r
tâl dewisol o hyd at £2.00 ar gyfer eiddo sy’n is na’r rhent targed. Cyfeiriwyd hefyd at daliadau gwasanaeth
dadelfenedig a fyddai’n gyfartaledd o £2.27 yr wythnos. Nododd y Swyddog
Arweiniol – Tai Cymunedol fuddion polisi rhent pum mlynedd i alluogi gwell
cynllunio ar gyfer y dyfodol. Fel rhan
o’r polisi newydd roedd yn ofynnol bod y Cyngor yn sicrhau bod unrhyw gynnydd
mewn rhent yn ystyried fforddiadwyedd ar gyfer tenantiaid ac asesiadau o
effeithiolrwydd costau a fyddai'n cael eu cyflwyno mewn adroddiadau i'r aelodau
yn y dyfodol. Roedd yr ystyriaethau
eraill yn cynnwys cyhoeddiad sydd i ddod ar ddatgarboneiddio stoc dai'r Cyngor
a'r disgwyliad nad yw landlordiaid cymdeithasol yn troi tenantiaid allan i fod
yn ddigartref. Wrth ystyried yr
adroddiad, trafodwyd y materion canlynol - ·
roedd
y ddarpariaeth ar gyfer drwgddyledion wedi cynyddu ond roeddent yn darparu ar
gyfer y sefyllfa waethaf posib’ ac roedd cyfraddau casglu yn parhau i fod yn
uchel ac ôl-ddyledion rhent yn isel. Roedd y
tenantiaethau yn wythnosol a oedd yn peri problem o ran llif arian i rai ar
Gredyd Cynhwysol sy'n cael ei dalu'n fisol ond roedd gwaith ar y gweill i nodi
unrhyw anawsterau posibl ar gam cynnar gan ddarparu cefnogaeth i
denantiaid. Roedd y cynnydd posibl mewn
drwgddyledion hefyd yn cydnabod yr ymrwymiad i gynyddu'r stoc o dai a chynnydd
rhent blynyddol yn unol â'r polisi rhent. ·
nodwyd
nad oedd garejis yn rhan o’r adroddiad gan nad oeddent yn destun y polisi rhent
ac roedd Pennaeth Cymunedau a Chwsmeriaid wedi cytuno i gynyddu rhent garejis o
2.7% yn unol â rhenti tai. Nododd y
swyddogion yr adolygiad o safleoedd garejis a dim ond un safle yn Rhuthun sy'n
addas ar gyfer tai fel defnydd amgen. Y
bwriad oedd ystyried safleoedd garejis fel rhan o adolygiad strategol y stoc o
dai gan ystyried yr argyfwng newid hinsawdd ac effeithiau amgylcheddol i
sicrhau cynaliadwyedd yn y dyfodol. ·
nodwyd
effaith gadarnhaol gyffredinol ar y Gymraeg a nodwyd yn yr Asesiad o Effaith ar
Les ond holodd y Cynghorydd Emrys Wynne am amwysedd y term ‘ardaloedd gwledig’ yn
y ddogfen ac roedd yn teimlo ei fod yn gwahaniaethu’n ddiangen o ystyried nifer
y siaradwyr Cymraeg ar draws y Sir gyfan.
Ymhelaethodd y
swyddogion ar y polisi gosodiadau lleol a oedd yn rhoi blaenoriaeth mewn
ardaloedd gwledig i bobl o’r gymuned i gynorthwyo i amddiffyn y defnydd o’r
Gymraeg mewn cymunedau yn y dyfodol a chynghori bod y polisi yn benodol iawn o
ran ym mha ardaloedd o’r sir yr oedd hyn yn berthnasol, gan gadarnhau mai’r
pentrefi lleiaf oedd y lleoliadau lle roedd y Gymraeg yn un o’r ystyriaethau. Derbynnir bod y Gymraeg yn iaith sy’n cael
ei siarad ar draws y sir gyfan. PENDERFYNWYD ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
CYLLIDEB 2020/21 – CYNIGION TERFYNOL PDF 236 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) sy’n nodi goblygiadau Setliad Drafft
Llywodraeth Leol 20 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar gyfer 2020/21. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi effaith Setliad Drafft Llywodraeth Leol 2020/21; (b) cefnogi’r cynigion a amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad, ac y manylir
arnynt yn Adran 4 yr adroddiad, ac yn eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn
llunio’r gyllideb yn derfynol ar gyfer 2020/21; (c) argymell i’r Cyngor y cynnydd cyfartalog arfaethedig o 4.3% yn Nhreth y
Cyngor; (d) argymell i’r Cyngor fod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Pennaeth Cyllid
ac Eiddo mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o
arian sydd wedi’i gynnwys yng nghynigion y gyllideb o hyd at £500k os oes yna
symud rhwng ffigyrau’r setliad drafft a’r setliad terfynol er mwyn gallu gosod
Treth y Cyngor yn amserol, a (e) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiadau o Effaith ar
Les a gyflwynwyd fel rhan o’r adroddiad hwn. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn amlinellu goblygiadau
Setliad drafft Llywodraeth Leol 2020/21 a'r cynigion ar gyfer cyllideb derfynol
2020/21, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor. Darparodd
y Cynghorydd Thompson-Hill drosolwg o broses y gyllideb a sefyllfa ddiweddaraf
y gyllideb ac ymhelaethodd ar y cynigion i’w hystyried a’r argymhelliad i’r
Cyngor llawn er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2020/21. Roedd y setliad drafft
wedi arwain at setliad cadarnhaol o +4.3% a disgwylir y setliad terfynol ar 25
Chwefror 2020. Roedd
pwysau o £12.418m wedi'i nodi, a fyddai ynghyd â £2m o arbedion heb eu nodi o
2019/21, yn arwain at ddiffyg o £14.418m. Roedd y setliad o +4.3% yn
cynhyrchu £6.219m gan adael bwlch cyllid o £8.199m gyda chynigion i gau’r bwlch
wedi’u nodi yn yr adroddiad a’u hegluro ymhellach yn y cyfarfod. Roedd cynnydd o 4.3% yn Nhreth
y Cyngor wedi’i gynnig a fyddai’n cynhyrchu £2.298m o refeniw ychwanegol. Gan fod y setliad terfynol yn
hwyr, argymhellwyd bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo er mwyn galluogi
addasiadau arian parod yng nghynigion y gyllideb hyd at £500mil. Roedd y cynigion yn cyflwyno
cyllideb gytbwys heb fawr o effaith ar breswylwyr. Cydnabu’r
Arweinydd proses gadarn y gyllideb a'r cymhlethdodau pellach o ystyried bod y
setliad drafft yn hwyr. Roedd
yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol i'r lobïo dwys ar y pwysau y mae
llywodraeth leol yn ei wynebu a gobeithir y byddai’r setliadau cadarnhaol yn
parhau ac y byddai setliad tair blynedd yn cael ei ddarparu. Cefnogodd yr argymhellion yn
yr adroddiad hefyd. Canolbwyntiwyd
ar y prif faterion trafod a ganlyn - ·
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mark
Young at gynigion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ynglŷn â chyllid
ychwanegol ar gyfer y GIG a’r effaith ar gyfer Cymru. Eglurwyd
gan fod y GIG yn fater sydd wedi’i ddatganoli byddai’n rhaid i unrhyw
gyhoeddiad gan Lywodraeth y DU arwain at gyllid canlyniadol Fformiwla Barnett
ar gyfer Cymru ac mai penderfyniad Llywodraeth Cymru fyddai sut i ddyrannu’n
cyllid hwnnw. Eu
safbwynt hyd yma oedd blaenoriaethu cyllid ar gyfer y GIG, gyda llywodraeth
leol i ddilyn. Ond
roedd meysydd yn gorgyffwrdd a fyddai yn destun trafodaethau yn y dyfodol
gyda’r Bwrdd Iechyd ar adeg priodol. ·
Cyfeiriodd y Cynghorydd Graham
Timms at sawl elfen o broses y gyllideb a holi am fanteision defnyddio'r cyllid
ychwanegol o'r setliad gwell nag a ddisgwyliwyd i leihau'r cynnydd yn Nhreth y
Cyngor o 4.8% i 4.3% yn hytrach nag yn uniongyrchol ar ddarpariaeth
gwasanaethau ar gyfer preswylwyr. Cadarnhaodd y Cynghorydd Thompson-Hill y tu hwnt i’r Grant Cynnal Refeniw roedd nifer o grantiau penodol yn cael eu cyhoeddi ar adegau gwahanol sy’n cael effaith ar y gyllideb. Cyn derbyn hysbysiad o’r setliad drafft roedd cynnydd o 4.8% yn Nhreth y Cyngor wedi’i nodi fel elfen hanfodol i sicrhau cyllideb gytbwys. Roedd y cynnydd mewn cyllid yn golygu bod modd cyflwyno nifer o fesurau gan gynnwys lleihau'r effaith ar ysgolion o £700mil; mynd i'r afael â phwysau sydd heb eu hariannu; lleihau swm arian parod i gefnogi'r gyllideb; a gwneud gostyngiad bychan i'r cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor. O ystyried y pwysau ar breswylwyr credwyd nad oedd yn briodol codi mwy o Dreth y Cyngor na’r hyn sy’n gwbl angenrheidiol. Ni fyddai’r newidiadau a gynigwyd yn cael effaith negyddol ar breswylwyr ac roedd yn cael ei ystyried yn becyn call a rhesymol o fesurau i fynd i'r afael â'r setliad sy'n well na'r hyn a ddisgwyliwyd. Ychwanegodd yr Arweinydd bod preswylwyr sy’n cael trafferthion talu Treth y Cyngor ar draws y sir a’r nod oedd darparu cyllideb gytbwys i ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd yn ôl y strategaeth
y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; (b) cymeradwyo’r cynnig Cyfrif Refeniw Tai i adeiladu tai Passivhaus yn Fferm
Lodge, Dinbych (fel y nodir yn Atodiadau 6,7 ac 8 i'r adroddiad; (c) cymeradwyo’r cynnig i adeiladu canolfan newydd ar gyfer ailgylchu
deunyddiau gwastraff a bod £63k yn cael ei roi naill ochr yn y Cynllun Ariannol
Tymor Canolig i dalu am y costau benthyca darbodus blynyddol (fel nodir yn
Atodiadau 6 a 9 i’r adroddiad); (d) cymeradwyo’r cynigion i ddisodli'r llety is-safonol sy'n aneffeithiol yn
amgylcheddol yn y Gerddi Botanegol, y Rhyl a bod £39k yn cael ei roi naill ochr
yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig i dalu am y Costau Benthyca Darbodus
blynyddol (fel nodir yn Atodiadau 6 a 10 i'r adroddiad), a (e) cymeradwyo i ddisodli £440k o’r dyraniad ariannol o £616k gyda’r gyllideb
sylfaenol i helpu i sicrhau cynaliadwyedd y ddarpariaeth SC2 (fel nodir yn
Adran 4 yr adroddiad). Cofnodion: Cyflwynodd y Cyng. Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r
cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y
Cyngor fel a ganlyn – ·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2019/20 oedd £198.538 miliwn (£194.418 miliwn yn
2018/19). ·
rhagwelid
y byddai gorwariant o £2.109miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol. ·
amlygwyd
y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth
unigol. ·
nododd
arbedion ac effeithlonrwydd gofynnol o £5.672m gyda dyraniad a gymeradwywyd o
£616mil o Gronfa Wrth Gefn Cyflawni Arbedion i’w osod yn erbyn yr arbedion nad
ydynt yn cael eu cyflawni (oddeutu 11% o gyfanswm yr arbedion a nodwyd) ·
rhoddwyd
diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun
Cyfalaf Tai. O ran y dyraniad a gymeradwywyd yn flaenorol o
£616mil o Gronfa Wrth Gefn Cyflawni Arbedion argymhellwyd bod £440mil yn
addasiad parhaol i sylfaen y gyllideb er mwyn sicrhau bod SC2 yn cael ei
ariannu'n briodol yn y dyfodol. Gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo cynigion gan y Grŵp Buddsoddi
Strategol yn ymwneud â (1) Cartrefi Passivhaus yn Lodge Farm, Dinbych, (2) Depo
Canolog Priffyrdd, a (3) Llety'r Gerddi Botaneg. Cyfeiriodd y Cynghorydd Brian Jones at y sefyllfa
gyda safleoedd tipiau etifeddiaeth a bod angen cyfleuster pwrpasol ar gyfer
gwastraff priffyrdd ac roedd yn llwyr gefnogi’r cynnig ynghyd â disodli’r llety
yn y Gerddi Botaneg, y Rhyl o ystyried cyflwr gwael iawn y llety presennol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd yn ôl y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; (b) cymeradwyo’r cynnig Cyfrif Refeniw Tai i adeiladu tai Passivhaus yn Lodge
Farm, Dinbych (fel y nodir yn Atodiadau 6,7 ac 8 i'r adroddiad; (c) cymeradwyo’r cynnig i adeiladu canolfan newydd ar gyfer ailgylchu
deunyddiau gwastraff a bod £63mil yn cael ei roi naill ochr yn y Cynllun
Ariannol Tymor Canolig i dalu am y costau benthyca darbodus blynyddol (fel
nodir yn Atodiadau 6 a 9 i’r adroddiad); (d) cymeradwyo’r cynigion i ddisodli'r llety is-safonol sy'n aneffeithiol yn
amgylcheddol yn y Gerddi Botaneg, y Rhyl a bod £39mil yn cael ei roi naill ochr
yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig i dalu am y Costau Benthyca Darbodus
blynyddol (fel nodir yn Atodiadau 6 a 10 i'r adroddiad), a (e) cymeradwyo i ddisodli £440mil o’r dyraniad ariannol o £616mil gyda’r
gyllideb sylfaenol i helpu i sicrhau cynaliadwyedd y ddarpariaeth SC2 (fel nodir
yn Adran 4 yr adroddiad). |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 281 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau/ diwygiadau canlynol – ·
Adolygiad
o Weithgareddau Cyfleoedd Gwaith a Chyfleoedd Dydd – Mawrth ·
Cytundeb
Llywodraethu 2 Cynnig Twf Gogledd Cymru – wedi’i ohirio tan fis Ebrill PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 12.25pm. |