Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw
fuddiant ei ddatgan. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
BARGEN DWF AR GYFER ECONOMI GOGLEDD CYMRU: DOGFEN GYNNIG PDF 200 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Economi a
Llywodraethu Corfforaethol yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y Ddogfen
Gynnig ar gyfer argymhelliad i’r Cyngor ei mabwysiadu a rhoi awdurdod i’r
Arweinydd ymrwymo’r Cyngor, ynghyd â’i bartneriaid i fod yn rhan o gytundeb
Penawdau'r Telerau gyda Llywodraethau Cymru a’r DU. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a)
Bod y Cabinet yn
cymeradwyo’r Ddogfen Gynnig ac yn argymell bod y Cyngor yn ei mabwysiadu fel
(1) y sail ar gyfer strategaeth ranbarthol fwy hirdymor ar gyfer twf economaidd
a (2) y cais rhanbarthol ar gyfer rhaglenni a phrosiectau â blaenoriaeth, a
fydd yn sail ar gyfer cynnwys y Fargen Twf a lunnir wrth gytuno ar Benawdau
Telerau gyda’r ddwy Lywodraeth. Nid yw mabwysiadu’r
ddogfen yn rhwymo’r Cyngor i wneud unrhyw fuddsoddiad ariannol ei hun am y tro,
ac mae’n amodol ar bennu risgiau a manteision y Fargen Twf derfynol yn fanwl
a’u hystyried yn llawn cyn cyflwyno’r Fargen derfynol er cymeradwyaeth faes o
law; ac (b) awdurdodi’r
Arweinydd i ymrwymo’r Cyngor i gytuno ar Benawdau Telerau â’r ddwy Lywodraeth,
ar y cyd ag arweinwyr gwleidyddol a phroffesiynol y naw partner statudol arall
sydd â chynrychiolaeth ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a Chyngor
Busnes Gogledd Cymru, Mersi a Dyfrdwy, o fewn y ffiniau hynny a bennir yn y
Ddogfen Gynnig. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer
y Ddogfen Gynnig ar gyfer argymhelliad i’r Cyngor ei mabwysiadu a rhoi awdurdod
i’r Arweinydd ymrwymo’r Cyngor, ynghyd â’i bartneriaid, i fod yn rhan o
gytundeb penawdau'r telerau gyda Llywodraethau Cymru a’r DU. Eglurodd yr angen i ystyried
yr adroddiad ar gam cynharach er mwyn i’r Canghellor allu cynnwys cyfeiriad at
y Fargen Dwf yn Natganiad Yr Hydref ar 29 Hydref 2018. Darparwyd
rhywfaint o wybodaeth gefndir ynglŷn â chymeradwyaeth cydweithrediadau yn
flaenorol er mwyn mabwysiadu’r Weledigaeth Dwf a datblygu Cynnig Bargen Twf ar
gyfer y rhanbarth. Roedd
y Ddogfen Gynnig yn nodi’r rhaglenni blaenoriaeth gweithgaredd a phrosiectau
i’w hystyried ar gyfer eu cynnwys yn y Fargen Dwf yng ngham Penawdau'r Telerau
ac roedd gofyn am gymeradwyaeth gan y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru
fel y cam nesaf yn y broses. Pwysleisiwyd
nad oedd mabwysiadu yn rhwymo’r Cyngor i wneud unrhyw fuddsoddiad ariannol ei
hun am y tro, ac roedd yn amodol ar
risgiau a manteision ariannol y Fargen Dwf derfynol yn cael eu nodi yn fanwl
a’u hystyried yn llawn pan fo’r Fargen derfynol yn cael ei chyflwyno er cymeradwyaeth
yn y dyfodol. Dadleuodd
yr Arweinydd mai'r Ddogfen Gynnig oedd y cyfle gorau i ehangu economi Gogledd
Cymru a chystadlu â rhanbarthau
eraill gan dynnu sylw at yr effaith bosibl ar Sir Ddinbych yn benodol. Tynnwyd sylw hefyd at ba
mor bwysig yw i Sir Ddinbych gyd-fynd â chynlluniau a strategaethau economaidd
eraill drwy’r Fargen Dwf a nodwyd bod y Ddogfen Gynnig yn ddibynnol ar gyflawni
strategaethau buddsoddi mewn ffyrdd a rheilffyrdd eraill megis Growth Track 360
a Rhaglen Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru. Tynnodd yr Arweinydd sylw at
ymrwymiad Llywodraethau Cymru a’r DU i fuddsoddi yn y fargen dwf ac fe dynnodd
sylw at y berthynas ardderchog rhwng Arweinwyr y Cynghorau mewn partneriaeth ag
addysg uwch ac addysg bellach a’r sector preifat a oedd wedi dangos hyder yn
hynny o beth. Unwaith
y bydd maint posibl a chynnwys y Fargen Dwf yn hysbys, yn dilyn cytundeb
Penawdau'r Telerau, gellir cynnal asesiad risg a dadansoddiad cost a budd
llawn. Byddai
hyn ar gael ar gyfer gwneud penderfyniad cyn i’r rhanbarth ymrwymo yn ystod cam
terfynol cytundeb Bargen Dwf yn hwyrach yn 2019. Mae dadansoddi risg wedi’i gynnwys yn y
modelu achos busnes ar gyfer y rhaglenni a phrosiectau sy’n rhan o’r Cynnig
datblygu. Roedd
gan bob prosiect a restrwyd yn y Ddogfen Gynnig achos busnes amlinellol i
ddangos eu gwerth. Roedd
materion pwysig eraill i’w nodi yn cynnwys - ·
bod yr achosion busnes
amlinellol yn cael eu hadolygu gan weision sifil yng Nghaerdydd ac Abertawe ar
hyn o bryd. ·
bod grŵp rhan-ddeiliaid
ar gyfer y sector preifat wedi'i sefydlu a bod sesiynau herio wedi'u cynnal o
fewn y rhanbarth. ·
bod amserlen risg yn cael ei
datblygu fel rhan o’r cam nesaf – byddai ymrwymiadau ariannol y Cyngor yn dod
yn amlycach dros y misoedd nesaf pan fo maint ymrwymiad ariannol y ddwy
Lywodraeth yn hysbys. ·
pe bai
Sir Ddinbych yn cymryd rhan yn y Fargen
Dwf byddai cyfleoedd pellach yn Brexit i ymgysylltu’r rhanbarth â’r Gronfa Ffyniant. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Parth Cyhoeddus bwrpas y Ddogfen Gynnig i osod pecyn o fesurau ac ymyriadau mentrus er mwyn darparu twf economaidd cynaliadwy yng Ngogledd Cymru. Yna, fe arweiniodd aelodau'r Cabinet drwy’r Ddogfen Gynnig a phwyntiau perthnasol o ran gosod yr achos ar gyfer buddsoddi; cyd-destun strategol a chyd- fynd â pholisi llywodraeth; gwerthusiad dewisiadau a’r ffordd ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
EITEMAU O’R PWYLLGORAU CRAFFU PDF 287 KB Ystyried unrhyw
faterion a godwyd gan y Pwyllgor Craffu at sylw’r Cabinet. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a)
yn cydnabod
casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn sgil ei adolygiad o
benderfyniadau’r Cabinet ar 25 Medi; (b) ar ôl ystyried
argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau a’r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd
yn y cyfarfod, yn cadarnhau’r penderfyniadau a wnaethpwyd ar 25 Medi 2018, sef
– (i)
cymeradwyo cynnal ymgynghoriad
cyn cynllunio a cheisiadau cynllunio llawn dilynol (gan ystyried canlyniadau’r
ymarfer cyn cynllunio) ar gyfer safleoedd preswyl a theithiol Sipsiwn a
Theithwyr ar y safle 'Green-gates Farm East' yn y lleoliadau a nodwyd yn
Atodiad 1 yr adroddiad, a (ii)
cymeradwyo cyflwyno ceisiadau
cyllid i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chynigion ar gyfer safleoedd preswyl
a/neu Sipsiwn a Theithwyr yn amodol ar roi caniatâd cynllunio yn unol â’r
rhaglen a amlinellwyd ym mharagraff 4.11 o’r adroddiad.” (c) bod yr Aelod
Arweiniol yn meithrin cyswllt â’r Aelodau Lleol i gytuno ar y dull mwyaf
priodol o ymgynghori â’r gymuned yn y cyfnod cyn cynllunio, ac (d) o ran pob mater
a ddaw gerbron y Cabinet er penderfyniad, bod yr Aelodau Arweiniol yn awr ac yn
y dyfodol yn ystyried yr angen i friffio’r Aelodau eraill ac ymgysylltu â hwy,
ac y gallai’r ffordd fwyaf priodol a chymesur o wneud hynny gynnwys Briffio’r
Cyngor, Pwyllgor Craffu neu weithdai/sesiynau hyfforddiant. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Graham Timms, Is -Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad,
yr adroddiad yn nodi casgliadau'r Pwyllgor Craffu yn dilyn ystyriaeth o alw i
mewn penderfyniadau'r Cabinet ar 25 Medi 2018 mewn perthynas â darpariaeth
Safle i Sipsiwn a Theithwyr. Yn
gryno, er y cydnabuwyd bod y Cabinet wedi derbyn a thrafod gwybodaeth bellach
trwy sesiynau Briffio’r Cabinet, roedd y Pwyllgor Craffu o’r farn na ddarparwyd
digon o wybodaeth er cymhariaeth yn yr adroddiad i’r Cabinet ar 25 Medi 2018 i
alluogi’r Cabinet i wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â’r safle fwyaf
addas. O
ganlyniad, gofynnwyd i’r Cabinet ailymweld â’i benderfyniad gan ystyried
yr wybodaeth ychwanegol yn cynnwys data cymharol ar gyfer bob safle a’r
rhesymau pam fod lleoliadau, a oedd wedi’u cynnwys ar restr gynharach o
safleoedd posibl, wedi’u diystyru. Hefyd, roedd y Pwyllgor Craffu
o’r farn y dylai’r Cabinet fod wedi cyfeirio'r mater at sesiwn Briffio’r Cyngor
fel y gallasai mwy o aelodau gyfrannu cyn gwneud penderfyniad ffurfiol ac
argymhellwyd bod yr arfer hwn yn cael ei ddilyn wrth ystyried penderfyniadau a
allai fod yn ddadleuol yn y dyfodol. Mynegodd y Cynghorydd Timms ei
farn ar amseriad adolygiad y Cabinet o’r penderfyniad ac roedd yn credu’n gryf,
oherwydd y byr rybudd ac argaeledd yr wybodaeth ychwanegol a geisiwyd gan y
Pwyllgor Craffu yn yr achos hwn, nad oedd digon o amser i'r holl gynghorwyr
brosesu’r wybodaeth a gwneud trefniadau i fynychu a gofyn cwestiynau yn ystod
cyfarfod y Cabinet. Felly,
anogodd y Cabinet i ailystyried ei benderfyniad ar y mater hwn yn ystod ei
gyfarfod nesaf ar 30 Hydref 2018 a fyddai’n dangos bod y Cabinet wedi llwyr
ystyried argymhellion y Pwyllgor Craffu. Eglurodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd sut yr oedd
darpariaethau’r ddeddfwriaeth hysbysiad cyhoeddus o dan Ddeddf Llywodraeth Leol
1972 wedi’u cyflawni a nododd
fanylion am reolau galw i mewn y Cyfansoddiad. Yn dilyn ystyried argymhellion
y Pwyllgor Craffu, efallai y bydd y Cabinet yn ystyried adolygu’r penderfyniad
yn ystod y cyfarfod hwn neu gyfarfod yn y dyfodol. Darparodd yr Aelod Arweiniol,
Y Cynghorydd Tony Thomas, wybodaeth gefndirol bellach gan ddweud bod y prosiect
wedi bod yn mynd rhagddo ers peth amser ac nid oedd erioed wedi’i alw i'r
Pwyllgor Craffu er i aelodau’r Cabinet gadarnhau bod yn well ganddynt safle ym
mis Ebrill 2018. Ar ôl ystyried y materion a godwyd gan y Pwyllgor Craffu ac o
ystyried bod yr wybodaeth yr oeddent wedi’i cheisio wedi’i darparu, cynigodd y
Cynghorydd Thomas bod y Cabinet yn adolygu ei benderfyniad heb oedi, eiliwyd
hyn gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill. Ar sail hynny, ceisiodd yr
Arweinydd gadarnhad bod y Cabinet yn fodlon bod modd iddo wneud penderfyniad ar
sail gwybodaeth ac yn dilyn pleidlais PENDERFNWYD YN UNOL Â HYNNY. Fe ymatalodd y Cynghorydd
Richard Mainon rhag pleidleisio ar y cynnig hwnnw. Cyn
adolygu’r penderfyniad, cyfeiriodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts at
argymhelliad 3.3 y Pwyllgor Craffu, sef i'r holl gynghorwyr gael eu briffio ar
benderfyniadau a allai fod yn ddadleuol yn ystod sesiynau Briffio’r Cyngor,
cefnogodd y Cabinet ei gynnig am ddiwygiad i gynnwys dulliau briffio eraill fel
y bo’n briodol, yn cynnwys y Pwyllgor Craffu, Grwpiau Ardal Yr Aelodau neu
weithdai/ digwyddiadau hyfforddiant. GW GWAHARDD Y
WASG A'R CYHOEDD Er
mwyn ailymweld â’r
penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 25 Medi 2018 ac ystyried manylion yr
atodiadau cyfrinachol - PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar y sail y byddai gwybodaeth
eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan
4 Atodlen 12A y Ddeddf. Atgoffodd y Swyddog ... view the full Cofnodion text for item 5. |