Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Tony Thomas

 

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIADAU pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bu datganiad o fuddiant gan y Cynghorwyr Meirick Davies, Peter Scott, Glenn Swingler a Mark Young mewn perthynas ag eitem 5 ar y rhaglen – Cynigion Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif.

 

Datganodd y Cynghorwyr Huw Hilditch-Roberts a Bobby Feeley gysylltiad personol ag eitem 8 ar y rhaglen (Gweithredu Model Darparu Amgen ar gyfer amrywiol weithgareddau/swyddogaethau cysylltiedig â hamdden: prydles eiddo.

 

 

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 5 ar y rhaglen – Cynigion Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif –

 

Y Cynghorydd Meirick Davies – Llywodraethwr Ysgol Cefn Meiriadog ac Ysgol Trefnant

Y Cynghorydd Peter Scott – Llywodraethwr Ysgol Fabanod Llanelwy

Y Cynghorydd Glenn Swingler – Llywodraethwr Ysgol Pendref

Y Cynghorydd Mark Young – Llywodraethwr Ysgol Uwchradd Dinbych

 

Datganodd y Cynghorwyr Huw Hilditch-Roberts a Bobby Feeley gysylltiad personol ag eitem 8 ar y rhaglen – Gweithredu Model Darparu Amgen ar gyfer amrywiol weithgareddau/swyddogaethau cysylltiedig â hamdden: prydlesu eiddo – gan eu bod yn Gyfarwyddwyr ar Hamdden Sir Ddinbych Cyf.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 376 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 19 Tachwedd 2019 (copi’n amgaeedig).  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019.

 

Materion a godwyd – Tudalen 9, Eitem 5 Strategaeth Lyfrgelloedd 2019 – 22 – cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai'r fforwm priodol yn cael gwybod am ganlyniad y dadansoddiad ar gymariaethau costau gwasanaeth gydag awdurdodau eraill pan fyddai wedi'i gwblhau.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

RHAGLEN YSGOLION YR 21AIN GANRIF - CYNIGION BAND B pdf eicon PDF 297 KB

I ystyried yr adroddiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd (copi i ddilyn) yn ceisio cymeradwyaeth y Rhaglen Amlinellol Strategol diwygiedig i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn

 

 (a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Amlinellol Strategol (Atodiad 1 yr adroddiad) ar gyfer ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, a

 

 (b)      chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Rhaglen Amlinellol Strategol ddiwygiedig (Cynigion Band B) ar gyfer Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif i'w chyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Roedd y Cabinet wedi cytuno ar y Rhaglen Amlinellol Strategol ym mis Gorffennaf 2017, ac fe gafodd ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2017. Y rhaniad o ran cyllid ar gyfer y rhaglen Band A oedd 50% gan Lywodraeth Cymru a 50% gan awdurdodau lleol, ond ym mis Tachwedd 2018, cyhoeddodd LlC gyfraddau diwygiedig ar gyfer Band B fel a ganlyn – 65% o gyfraniad gan LlC, ar gyfer ysgolion arbennig gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion, cyfraniad o 75% ac ar gyfer Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir, 85% gan Lywodraeth Cymru a 15% gan yr Awdurdod Esgobaethol neu’r Corff Llywodraethu.  Yn dilyn gwaith dichonoldeb ar ysgolion yn ardal yr adolygiad, roedd rhaglen ddiwygiedig wedi ymddangos gyda’r costau cyfredol yn debygol o fod yn fwy na dyraniad cymeradwy'r rhaglen o £80 miliwn a chyfraniad gan Lywodraeth Cymru o £45 miliwn.  Roedd y diwygiadau i’r cyfraddau cyllid hefyd wedi gostwng y rhaniad posib’ ar gyfer Sir Ddinbych o £32 miliwn i oddeutu £21 miliwn.  Roedd nifer o opsiynau wedi’u hystyried ar y ffordd ymlaen ac yn unol ag argymhelliad y Bwrdd Moderneiddio Addysg, argymhellwyd y dylid mynd at Lywodraeth Cymru i drafod cynnydd posib’ yn eu hadnoddau yn seiliedig ar hanes Sir Ddinbych o gyflawni a fforddiadwyedd y cynigion.

 

Rhoddodd yr Aelod Arweiniol eglurhad ar y cynlluniau buddsoddi ar gyfer y cynigion Band B a oedd yn canolbwyntio ar ysgolion yn ardaloedd Dinbych, y Rhyl a Llangollen ac eglurodd y rhesymau dros unrhyw newidiadau i'r rhaglen a gymeradwywyd yn flaenorol.  Ceisiodd gymeradwyaeth y Cabinet i’r rhaglen ddiwygiedig ac roedd yn awyddus i’r cynigion gael eu datblygu.  Trafododd y Cabinet yr adroddiad gyda’r Aelod Arweiniol fel a ganlyn –

 

·         Amlygodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr angen am fuddsoddi mewn ysgolion eraill a oedd y tu allan i’r rhaglen, gan gyfeirio’n benodol at Ysgol Uwchradd Prestatyn.  Cytunodd yr Aelod Arweiniol ond eglurodd fod y gwaith oedd ei angen mewn ysgolion yn llawer mwy na’r cyllid a oedd ar gael ac felly roedd angen cyflwyno proses flaenoriaethu i dargedu’r ardaloedd lle’r oedd yr angen mwyaf.  Roedd yr asesiad o ysgolion ar gyfer Band B wedi blaenoriaethu ysgolion o ran eu cyflwr yn gyffredinol ond cadarnhaodd bod buddsoddiadau'n dal i gael eu gwneud mewn ysgolion eraill, gan dynnu sylw at waith adnewyddu penodol a gwaith cynnal a chadw a wnaed yn Ysgol Uwchradd Prestatyn.  Yn rhan o gynlluniau yn y dyfodol, byddai angen gwneud gwaith i fesur effaith ysgol newydd Crist y Gair ac ysgol gynradd newydd bosib' y Rhyl ar niferoedd disgyblion yn yr ardal.

·         Gofynnodd y Cynghorydd Bobby Feeley i’r cyfeiriad at “permeations” ar dudalen 11 yn yr adroddiad Saesneg gael ei newid i "permutations".

·         Ceisiodd y Cynghorydd Mark Young sicrwydd ynghylch cyfathrebu a chadarnhaodd yr Aelod Arweiniol y cysylltwyd â phob pennaeth ynghylch yr adroddiad ac y byddai ymgynghoriad ehangach gydag ysgolion a llywodraethwyr wrth i faterion ddatblygu.

·         Bu i’r swyddogion adrodd ar ddewisiadau eraill a ystyriwyd fel y ffordd ymlaen, gan gynnwys lleihau cwmpas y rhaglen ac ariannu prosiectau y tu allan i'r rhaglen honno'n llawn. Pe bai’r Cabinet yn cymeradwyo'r argymhelliad ac na dderbynnid ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru, byddai dewisiadau eraill yn cael eu hailystyried.

·         O ran amserlen, roedd disgwyl ymateb gan Lywodraeth Cymru erbyn Mawrth 2020.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion hefyd i gwestiynau gan aelodau nad oeddent yn aelodau o’r Cabinet fel a ganlyn –

 

·         A rhoi y byddai LlC yn ymateb yn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CYNIGION I DDIWYGIO CYLCH GORCHWYL AR GYFER Y GRŴP CYNLLUNIO STRATEGOL pdf eicon PDF 213 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol ar gyfer Cynllunio, Gwarchod Y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet o’r diwygiadau i’r cylch gorchwyl ar gyfer y Grŵp Cynllunio Strategol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo Cylch Gorchwyl diwygiedig y Grŵp Cynllunio Strategol (Atodiad 1 yr adroddiad).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mark Young yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddiwygiadau i Gylch Gorchwyl y Grŵp Cynllunio Strategol.

 

Cymeradwyodd y Cabinet sefydlu Grŵp Cynllunio Strategol (GCS) a’i Gylch Gorchwyl ym mis Ionawr 2018 yn lle Grŵp Aelodau'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).  Y bwriad oedd sefydlu Grŵp llai, mwy cryno i roi arweiniad corfforaethol wrth ddatblygu'r CDLl newydd nes y byddai'n cael ei fabwysiadu'n ffurfiol.  Roedd gan y Grŵp swyddogaeth anweithredol ond roedd yn adrodd yn ôl ac yn gwneud argymhellion i’r Cabinet a/neu’r Cyngor yn ôl yr angen. Yng nghyfarfod y Grŵp Cynllunio Strategol fis Gorffennaf 2019, cynigiwyd y dylid diwygio’r Cylch Gorchwyl ac yn dilyn trafodaethau pellach yng nghyfarfodydd Briffio’r Cabinet a'r Grŵp, argymhellodd y Grŵp –

 

·         na ddylid newid aelodaeth graidd y Grŵp

·         dylai cyfarfodydd fod yn agored i’r holl aelodau

·         dim ond arsylwi cyfarfodydd y gallai aelodau nad oeddent yn aelodau craidd o’r Grŵp ei wneud, ac nid cyfrannu na siarad

·         i ganiatáu mwy o hyblygrwydd i’r Grŵp gyfarfod yn fwy aml yn ôl yr angen, dylai’r Grŵp gyfarfod pob dau fis neu fel y cytunir.

 

Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad a’r argymhellion a gyflwynwyd gan y Grŵp Cynllunio Strategol ac roedd barn gymysg ynghylch effeithiolrwydd prosesau i ymgysylltu a sicrhau bod cyfle i’r holl aelodau leisio barn a dylanwadu ar drafodaethau ac argymhellion, yn enwedig o ystyried pwysigrwydd y CDLl.  Er bod rhai aelodau’n teimlo bod y prosesau’n gweithio’n dda iddynt hwy a bod digon o gyfle i godi materion a rhoi adborth trwy Grwpiau Ardal yr Aelodau, roedd eraill yn cwestiynu effeithiolrwydd y broses, yn enwedig lle’r oedd gwahaniaeth barn ar bolisïau neu strategaethau penodol a oedd dan ystyriaeth, a lle’r oedd cyfarfodydd Grwpiau Ardal yr Aelodau’n cael eu canslo ac yn dibynnu ar gynrychiolwyr y Grwpiau hynny.  Canolbwyntiwyd ar y prif faterion trafod a ganlyn –

 

·         Roedd y Cynghorydd Brian Jones yn teimlo bod y Grŵp Cynllunio Strategol wedi cyflawni ei bwrpas ac y dylid ei ddiddymu.  Credai fod y Cylch Gorchwyl yn annemocrataidd gan nad oedd yn caniatáu i aelodau siarad a theimlai y dylai pob aelod allu cyfrannu.  Roedd yn gwybod am aelodau eraill a oedd yn anhapus â’r trefniadau cyfredol.

·         dywedodd yr Arweinydd bod llawer o waith gan y Grŵp i’w wneud eto ac roedd yn credu bod Grwpiau Ardal yr Aelodau’n rhan bwysig o sicrhau trafodaeth agored a mewnbwn i ffocws a chyfeiriad gwaith y Grŵp.  Roedd y broses yn gweithio’n dda i Grŵp Ardal Rhuthun ac os oedd unrhyw broblemau’n codi o arsylwi cyfarfodydd y Grŵp Cynllunio Strategol, gellid eu codi trwy Grwpiau Ardal yr Aelodau.  Roedd hefyd yn teimlo bod y broses ddemocrataidd wedi cael ei pharchu, gyda chyfle i’r holl aelodau fod yn rhan.

·         Amlygodd y Cynghorydd Richard Mainon mai grŵp heb fod yn un gweithredol ydoedd, gydag ond chwe aelod o Grwpiau Ardal yr Aelodau, ond roedd ganddo rôl ddylanwadol wrth lunio’r CDLl newydd, a fyddai’n cael effaith hirdymor enfawr.  O ystyried rôl hanfodol bwysig y Grŵp, teimlai ei bod yn anghywir gwahardd aelodau rhag cyfrannu a siarad yn y cyfarfodydd hynny a dywedodd hefyd, gan fod dau gyfarfod Grŵp Ardal Aelodau Elwy wedi'u canslo, na fu unrhyw gyfle iddynt leisio barn oherwydd y prosesau sydd ar waith ar hyn o bryd, ac roedd ardal Grŵp Elwy, o bosib', yn un o’r rhai a oedd yn cael ei heffeithio fwyaf yn y sir.  Roedd y Grŵp i’w weld wedi mabwysiadu deinameg gwleidyddol ond nid oedd yn wleidyddol gytbwys a theimlai  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

POLISÏAU CYFLOGAETH pdf eicon PDF 211 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Richard Mainon, Aelod Arweiniol dros Safonau Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol (copi’n amgaeedig) yn cyflwyno dau bolisi cyflogaeth i’w mabwysiadu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      cymeradwyo’r polisïau cyflogaeth fel y nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer mabwysiadu, a

 

 (b)      chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (atodiad i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Richard Mainon yr adroddiad yn argymell mabwysiadu dau bolisi cyflogaeth a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â’r Undebau Llafur cydnabyddedig oedd yn trafod (1) Diswyddo a (2) Recriwtio a Dewis.

 

Dywedwyd wrth y Cabinet am yr adolygiad cylchol o bolisïau cyflogaeth i sicrhau eu bod yn gyfredol, yn berthnasol ac yn sicrhau bod cyfrifoldebau’n cael eu cyflawni’n dda.  Roedd y ddau bolisi wedi eu llunio yn dilyn cydweithio cadarnhaol drwy’r broses ymgynghori y cytunwyd arni ac fe gawsant eu cymeradwyo’n unfrydol gan y Cydbwyllgor Ymgynghorol ar Iechyd a Diogelwch a Chysylltiadau Cyflogaeth.  Darparwyd crynodeb o bob polisi ac eglurodd y Cynghorydd Mainon bod y polisi Disgyblu’n adlewyrchu’r weithdrefn a ddilynir yn well ac yn cynnwys dogfen Asesiad Risg Gwaharddiad ynghyd â phroses gyflym i gael ei rhoi ar waith gan y gweithiwr i ganiatáu i achosion gael eu trin yn amserol.  Roedd y Polisi Recriwtio a Dewis yn cynnwys adran ar Lwybrau Gyrfa i hwyluso dringo o fewn yr awdurdod ac yn dilyn deddfwriaeth newydd, roedd y Cynllun Gwarantu Cyfweliad wedi’i ddileu ac fe gafodd yr adran 'Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd' ei chynnwys.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr argymhellion a’r lefel o ymgynghori ar y polisïau ac arweiniodd at gymeradwyaeth unfrydol gan ochr y cyflogwr a'r gweithwyr o'r Cydbwyllgor Ymgynghorol.  Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Arweinydd, ehangodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd ar bwrpas y broses gyflymach y gallai gweithwyr ofyn amdani mewn achosion o gamymddwyn lefel isel a oedd wedi’i llunio ar y cyd â’r undebau llafur.  Eglurodd ac amlygodd hefyd rinweddau'r broses ymgynghori ar ddatblygu polisi i bob ochr gydweithio.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      cymeradwyo’r polisïau cyflogaeth fel y nodwyd yn yr adroddiad i’w mabwysiadu, a

 

 (b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (atodiad i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

8.

GWEITHREDU MODEL DARPARU AMGEN AR GYFER AMRYWIOL WEITHGAREDDAU/SWYDDOGAETHAU HAMDDEN: PRYDLESU EIDDO pdf eicon PDF 304 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ganiatáu 16 prydles, un ar yfer cyfnod o 10 mlynedd ar rent pitw, i Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig ar delerau a nodir o fewn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      rhoi cymeradwyaeth i ganiatáu prydlesi 10 mlynedd i Hamdden Sir Ddinbych Cyf ar gyfer pob un o’r safleoedd am rent rhad. Bydd y prydlesi wedi’u seilio ar brydlesi safonol (Atodiad 3 yr adroddiad).  Bydd addasiadau penodol i’r safle yn cael eu cynnwys ym mhob un o'r prydlesi hyn er mwyn ymgorffori: cytundebau rhannu defnyddwyr blynyddol, rhwymedigaethau cyllidwyr grant, gofynion y Comisiwn Elusennau, cyngor gan gynghorwyr treth CSDd, meddiannaeth trydydd parti, yn ogystal ag unrhyw drefniadau safle lleoledig; gan roi awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Cyllid a Gwasanaethau Eiddo gytuno, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Cyllid ac Effeithlonrwydd a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd, ac

 

 (b)      chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i roi un ar bymtheg o brydlesi, a phob un am gyfnod o ddeng mlynedd ar rent rhad, i Hamdden Sir Ddinbych Cyf ar delerau fel maent wedi'u nodi yn yr adroddiad.

 

Ym mis Mai 2019, cytunodd y Cabinet i sefydlu Hamdden Sir Ddinbych Cyf, sy’n Gwmni Masnachol Awdurdod Lleol, cyfyngedig drwy warant, sy’n eiddo’n gyfan gwbl i’r Cyngor.  Roedd y adroddiad yn cynrychioli cam arall yn y broses honno yn ymwneud â phrydlesu un ar bymtheg eiddo i Hamdden Sir Ddinbych fel roedd yr adroddiad yn nodi, ynghyd â’r telerau nodedig.  O ystyried yr amryw faterion penodol i safleoedd lle mae angen mwy o eglurder a manylder y gallai Hamdden Sir Ddinbych fod eisiau eu codi, argymhellwyd y dylid rhoi’r prydlesi ar sail y brydles safonol ddrafft gan roi pwerau dirprwyedig i'r Pennaeth Cyllid ac Eiddo ar y cyd ag Aelod Arweiniol Cyllid a Phennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd i gytuno ar fân amrywiadau mewn perthynas â’r materion hynny.  Byddai unrhyw wyriad sylweddol oddi wrth y brydles safonol yn dod yn ôl ger bron y Cabinet.  Cyfeiriwyd hefyd at elfen y Dreth Trafodion Tir a sefyllfa Sir Ddinbych o ran hynny, a oedd wedi’i nodi yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley bod ganddi nifer o bwyntiau i’w codi ynghlwm â’r prydlesi ac roedd yn falch bod proses ar waith i gytuno ar amrywiadau dilynol.  Cwestiynodd hefyd lefel yr ymgynghori ac amlygodd nad oedd Pennaeth Hamdden wedi’i gynnwys yn rhan o’r broses honno.  O ran y risgiau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, roedd hi’n teimlo, o ystyried natur unigryw’r achos hwn, na fyddai unrhyw fantais o gynnwys y risgiau ynghlwm â chyfranogiad y Cyngor a’i rwymedigaethau.  I ategu’r pwynt hwnnw, er eglurder, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf bod rhwymedigaethau ar y ddwy ochr yn nhrefniadau’r prydlesi ond nad oedd yr adroddiad ond wedi cyfeirio at y risgiau ynghlwm â Hamdden Sir Ddinbych ac nid ynghlwm â’r Cyngor yn cyflawni ei rwymedigaethau ei hun yn hynny o beth.  Gan ymateb i’r materion a godwyd eglurodd yr Aelod Lleol a'r swyddogion bod –

 

·         y penderfyniad yn cael ei wneud gan y Cyngor ac felly roedd yr adroddiad yn cynnwys y risgiau posib’ i’r Cyngor a oedd angen eu hystyried wrth benderfynu a ddylid caniatáu’r prydlesi ai peidio ar sail yr hyn sydd yn yr adroddiad. Roedd angen i’r Cyngor ystyried ei fuddion ei hun a sicrhau ei fod yn cyflawni ei rwymedigaethau mewn perthynas â threfniadau’r prydlesi.  Gallai fod risg i Hamdden Sir Ddinbych, yn dibynnu ar ymddygiad y Cyngor, ond ni fyddai’r risg honno wedi’i chynnwys yn yr adroddiad gan nad oedd y Cyngor yn risg iddo ef ei hun.  Y lle priodol i gofnodi’r risgiau i Hamdden Sir Ddinbych fyddai eu Cofrestr Risg eu hunain.

·         ymgynghoriadau wedi’u cynnal mewn perthynas â’r Model Darparu Amgen gyda’r rheiny sydd wedi’u rhestru yn yr adroddiad ac o ran safleoedd penodol, roeddent yn cynnwys ymgynghori â Chyngor Tref y Rhyl o ran eu diddordeb yn SC2, Cyngor Celfyddydau Cymru o ran cyllid grant ynghyd ag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen o ran Pafiliwn Llangollen a oedd heb eu rhestru.

 

Cododd y Cabinet gwestiynau pellach ynglŷn â’r risgiau i’r Cyngor ynghyd â'r ’haniad cyfrifoldebau rhwng y Cyngor a Hamdden Sir Ddinbych, yn benodol o ran cynnal a chadw, ynghyd â goblygiadau ariannol cyflawni rhwymedigaethau’r prydlesi o ran hynny a’r effaith o ganlyniad ar lwyddiant ariannol Hamdden Sir Ddinbych.

 

Atebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion y cwestiynau fel a ganlyn –

 

·         roedd y risg na fyddai'r Model Darparu  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 230 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn

 

 (b)      cymeradwyo Sylfaen y Dreth Gyngor i osod cyllideb 2020/21 fel y manylir yn Atodiad 6 yr adroddiad.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.  Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2019/20 oedd £198.538 miliwn (£194.418 miliwn yn 2018/19).

·        rhagwelid y byddai gorwariant o £1.678 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol.

·        amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol.

·        nodwyd fod angen arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £5.672 miliwn, gan gynnwys arbedion corfforaethol a nodwyd yn 2018/19 (£0.5 miliwn), arbedion ysgolion gwerth 2% (£1.32 miliwn) ac arbedion yn y gwasanaethau (£3.852 miliwn), gyda dyraniad cymeradwy o £616,000 o Gronfa Wrth Gefn Cyflawni Arbedion i dalu am arbedion heb eu cyflawni.

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet hefyd gymeradwyo Sylfaen Treth y Cyngor i osod cyllideb 2020/21, a oedd yn gyfrifiad technegol fel yr oedd wedi’i nodi yn yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at ddatblygiad yr ysgol newydd ar gyfer Ysgol Llanfair a datblygiad tai mawr arall yn y pentref a oedd, gyda'i gilydd, yn achosi amhariadau mawr.  Er ei fod yn croesawu twf a buddsoddiad yn yr ardal, teimlai y gellid dysgu gwersi o ran rheoli dull cydlynol wrth gau ffyrdd ac ati, gan ddweud bod angen rhyw ffurf ar ymgysylltu â datblygwyr a’r gymuned i gyfathrebu a threfnu gwaith penodol i gael yr effaith leiaf bosib’.  Soniodd yr Aelod Arweiniol am y berthynas dda gyda chontractwyr a oedd yn gwneud prosiectau ysgol mawr a chadarnhaodd bod strategaeth gyfathrebu’n cael eu chyflawni drwy’r fframwaith caffael.  Roedd llai o reolaeth dros ddatblygwyr preifat ond gallai fod gyfleoedd yn y dyfodol i drosglwyddo cynnydd sydd wedi’i wneud gan y Tîm Caffael ar brosiectau mwy’r Cyngor i ddatblygiadau tai fel roedd amser yn mynd yn ei flaen.  O ran yr oedi a oedd yn cael ei achosi gan waith cysylltu draeniau dŵr budr, bu cost o ganlyniad ond roedd wedi’i chynnwys yn y gyllideb gyffredinol ar gyfer y prosiect.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a

 

 (b)      cymeradwyo Sylfaen Treth y Cyngor i osod cyllideb 2020/21 fel y manylir yn Atodiad 6 yr adroddiad.

 

 

10.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 209 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau/ diwygiadau canlynol –

 

·         Darpariaeth Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr – wedi’i ohirio o fis Ionawr i fis Chwefror

·         Trefniant Llywodraethu 2 Cynnig Twf Gogledd Cymru – Chwefror (gallai gael ei ohirio)

·         Argymhellion y Grŵp Buddsoddi Strategol – Chwefror

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A o’r Ddeddf.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

11.

CYNLLUN AMDDIFFYN ARFORDIR DWYRAIN Y RHYL

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd (copi’n amgaeedig) yn ceisio awdurdodiad y Cabinet i amrywio’r cytundeb cyn-adeiladu ar sail gwerth cytundeb diwygiedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      awdurdodi’r amrywiad i’r contract cyn adeiladu, yn seiliedig ar werth contract diwygiedig fel y nodir o fewn yr adroddiad, a

 

 (b)      chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad cyfrinachol yn ceisio awdurdodiad y Cabinet i amrywio’r contract cyn-adeiladu mewn perthynas â Chynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain y Rhyl yn seiliedig ar werth diwygiedig i'r contract.

 

Roedd y Cyngor wedi cymeradwyo cam adeiladu’r cynllun ym mis Medi 2019.  Oherwydd nad oedd y gweithgareddau adeiladu’n cychwyn tan fis Ebrill 2020, roedd cyfle i ddod â rhai o’r gweithgareddau a gynlluniwyd ar gyfer y cam adeiladu ymlaen a'u cyflawni yn ystod y cam cyn-adeiladu.  Byddai hyn yn lleihau costau’r cam adeiladu a gallai hefyd leihau cost gyffredinol y cynllun a lleihau’r risgiau o oedi wrth ymdrin ag amgylchiadau annisgwyl.  Roedd manylion goblygiadau ariannol y cynllun ynghyd â gwerth diwygiedig y contract cyn-adeiladu wedi'i nodi yn yr adroddiad.  Roedd angen awdurdodiad y Cabinet oherwydd gwerth y contract.  Mewn ymateb i gwestiynau, darparodd y Rheolwr Perygl Llifogydd fwy o fanylion am y gwaith a oedd i gael ei wneud yn ystod y cyfnod cyn-adeiladu a chadarnhaodd y manteision o nodi unrhyw risgiau ar gam cynt yn y broses er mwyn ymdrin â nhw fel y bo'n briodol.

 

Nododd y Cabinet na fyddai’r gweithgareddau cyn-adeiladu ychwanegol yn cynyddu cost gyffredinol y prosiect a nododd y manteision o ddod â rhai gweithgareddau ymlaen i’r cam cyn-adeiladu.  O ganlyniad -

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      awdurdodi’r amrywiad i’r contract cyn adeiladu, yn seiliedig ar werth contract diwygiedig fel y nodir o fewn yr adroddiad, a

 

 (b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

12.

CYTUNDEB TRWYDDEDU MICROSOFT ENTERPRISE

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Richard Mainon, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol (copi i ddilyn) yn ceisio penderfyniad mewn perthynas â dyfarnu Cytundeb Trwyddedu Microsoft ar gyfer yr awdurdod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      cytuno’n ôl-weithredol i ddyrannu'r broses caffael ar gyfer Trwyddedau Microsoft drwy Fframwaith Masnachol Crown, a elwir yn RM 3733 ac i ddyfarnu’r contract i Ddarparwr Datrys Trwyddedu (fel y manylir o fewn yr adroddiad a rannwyd yn y cyfarfod) er mwyn gosod archeb trwyddedu gyda Microsoft, a

 

 (c)       chadarnhau bod yn rhaid gweithredu’r penderfyniad ar unwaith yn unol â pharagraff 7.25 yng nghyfansoddiad y Cyngor.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Richard Mainon yr adroddiad cyfrinachol ynghlwm â’r broses gaffael ar gyfer Trwydded Microsoft ac argymhellodd ddyfarnu’r contract am gyfnod o dair blynedd.

 

Rhoddwyd rhywfaint o gefndir ynghylch darpariaethau’r contract a’r broses gaffael a ddefnyddiwyd yn yr achos hwn.  Roedd adroddiad atodol (a ddosbarthwyd yn y cyfarfod) yn rhoi mwy o fanylion ar y cyflwyniadau tendro ynghyd â'r meini prawf gwerthuso a'r broses asesu a arweiniodd at y Darparwr Datrysiadau Trwyddedu Microsoft a argymhellwyd.  Tynnwyd sylw’r Cabinet hefyd at y manylion ariannol fel roeddent wedi’u nodi yn yr adroddiad a’r bwlch cyllid ym mlynyddoedd 2 a 3 a sut y gellid mynd i’r afael â hwnnw. Argymhellwyd y dylid gweithredu’r penderfyniad i ddyrannu’r contract ar unwaith o ystyried bod y cytundeb trwyddedu cyfredol yn dod i ben ar 29 Rhagfyr 2019.

 

Ystyriodd y Cabinet yr ymarfer caffael diweddar a chanlyniad y broses honno ynghyd ag argymhellion yr adroddiad ac o ganlyniad –

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      cytuno’n ôl-weithredol i ddyrannu'r broses gaffael ar gyfer Trwyddedau Microsoft drwy Fframwaith Masnachol y Goron, a elwir yn RM 3733 ac i ddyfarnu’r contract i Ddarparwr Datrysiadau Trwyddedu (fel y manylir o fewn yr adroddiad a rannwyd yn y cyfarfod) er mwyn creu archeb drwyddedu gyda Microsoft, a

 

 (c)       cadarnhau ei bod yn rhaid gweithredu’r penderfyniad ar unwaith yn unol â pharagraff 7.25 yng nghyfansoddiad y Cyngor.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.22pm.