Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT SYLW

Tynnodd Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, AD a Democrataidd sylw pawb at y canllawiau a ddarperir i aelodau etholedig o ran sut i ymddwyn yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad a’u cyfrifoldebau yn hynny o beth i sicrhau bod y Cyngor yn parhau’n amhleidiol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni dderbyniwyd ymddiheuriadau gan aelodau.

Steve Gadd, Prif Gyfrifydd a Swyddog S.151

 

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd ymddiheuriadau gan aelodau.

Steve Gadd, Prif Gyfrifydd a Swyddog Adran 151

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 359 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2019 (copi’n amgaeedig).  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2019 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2019.

 

Cywirdeb – Tudalen 8, Eitem 6 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet – er bod yr wybodaeth yn y cofnodion yn gywir ar y pryd, mae’r Cyng. Huw Hilditch-Roberts wedi dweud bod yr eitem ar raglen Ysgolion yr 21ain ganrif: Cynigion Band B wedi’i haildrefnu o fis Tachwedd i fis Rhagfyr yn unol â chanllawiau cyn etholiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2019 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

STRATEGAETH LLYFRGELL 2019-22 pdf eicon PDF 228 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynghlwm) yn cyflwyno’r Strategaeth Llyfrgell 2019 – 22 ar gyfer cymeradwyaeth gan y Cabinet. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

 (a)      Cefnogi Strategaeth Llyfrgell 2019 – 22 a

 

 (b)      chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Tony Thomas yr adroddiad a Strategaeth Llyfrgell 2019-22 i’r Cabinet ei chymeradwyo. Mae’r strategaeth yn amlinellu’r weledigaeth ar gyfer gwasanaeth llyfrgelloedd cyhoeddus Cyngor Sir Ddinbych a’r nodau i’w cyrraedd yn ystod y tair blynedd nesaf.

 

Amlygodd y Cyng. Thomas bwysigrwydd y gwasanaeth llyfrgell a darparodd nifer o ystadegau perfformiad allweddol i ddangos pa mor dda mae’r gwasanaeth yn perfformio, gyda Sir Ddinbych ymhlith y deg awdurdod uchaf yng Nghymru ar gyfer nifer o fesurau. Amlygodd y Prif Weithredwr werth y sesiynau cymorth digidol, yn enwedig o ystyried y materion ynghylch cysylltedd digidol yn y sir.

 

Eglurodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chymunedau y rhesymeg y tu ôl i’r strategaeth er mwyn amlygu pwysigrwydd y gwasanaeth o fewn cymunedau a sut mae’n cyfrannu at flaenoriaethau strategol y Cyngor. Adroddodd hefyd ar y buddsoddiad sydd wedi’i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn adeiladau llyfrgell a staff ac am ddatblygiadau pellach mewn partneriaethau i wneud y mwyaf o’r buddion, gan bwysleisio pwysigrwydd y gwasanaeth yn nhermau lles, dysgu a ffyniant, a hefyd rôl allweddol cymunedau o ran cymryd perchnogaeth a chymryd rhan. Cost y gwasanaeth llyfrgell yw ychydig dan £3 fesul ymweliad ac yn ôl astudiaeth genedlaethol yn 2013 mae gwariant lleol defnyddwyr llyfrgell yn oddeutu £8, sy’n mynd yn ôl i’r economi lleol.

 

Roedd y Cabinet yn cydnabod pwysigrwydd y gwasanaeth llyfrgell i gymunedau lleol ac iechyd a lles pobl a chanmolwyd yr ystod o weithgareddau a mentrau a ddarperir. Wrth ystyried y strategaeth, roedd y prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol:–

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cyng. Mark Young cadarnhawyd fod oriau agor yn cael eu hadolygu’n gyson er mwyn diwallu anghenion cymunedau o fewn yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael a rhoddwyd sicrwydd bod Wi-Fi ar gael ymhob llyfrgell at ddefnydd y cyhoedd.

·         Roedd y Cyng. Richard Mainon yn awyddus i weld mwy o fasnacheiddio a chynhyrchu incwm, ynghyd â defnyddio mwy ar wirfoddolwyr ac estyn oriau agor i wneud y mwyaf o fuddion y gwasanaeth; roedd hefyd yn teimlo y byddai datblygu targedau CAMPUS i fesur cynnydd yn beth da.

Eglurwyd beth yw rôl allweddol gwirfoddolwyr o fewn y cynllun gweithredu i ddatblygu mentrau a phrosiectau penodol. Amlygwyd y gwaith o hyrwyddo llyfrgelloedd fel canolfannau cymunedol ac ar gyfer gweithgareddau cymunedol y tu allan i’r oriau agor arferol, a chyfeiriwyd yn benodol at y bartneriaeth lwyddiannus gyda Chyngor Tref Rhuddlan a Chyngor Dinas Llanelwy yn hynny o beth.

·         Eglurwyd yr anawsterau wrth gymharu costau’r gwasanaeth gydag awdurdodau eraill oherwydd mai gwasanaeth llyfrgell Sir Ddinbych yw’r unig wasanaeth llyfrgell sydd wedi’i integreiddio â gwasanaethau i gwsmeriaid. Fodd bynnag, ymddengys bod gwasanaeth llyfrgell Sir Ddinbych yn ddrutach o gymharu ag awdurdodau lleol eraill ac mae gwaith dadansoddi pellach yn cael ei wneud i weld pam ac i nodi arbedion effeithlonrwydd posibl.

·         Amlygodd y Cyng. Bobby Feeley werth cymdeithasol y gwasanaeth a chyfeiriodd at yr ystod o wasanaethau i ymgysylltu â chymunedau a phobl fwy diamddiffyn, ond roedd hi hefyd yn deall yr angen am wneud llyfrgelloedd yn fwy masnachol a chost effeithlon gan chwilio am gyfleoedd i wneud hynny.

 

Mewn ymateb i gwestiynau pellach gan gynghorwyr nad ydynt yn Aelodau o’r Cabinet, manylodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chymunedau ar y gwasanaethau amrywiol a geir, gan gynnwys y gwasanaeth ar gyfer y rheiny sy’n gaeth i’r tŷ. Eglurwyd nad yw’r £2.94 fesul ymweliad â’r llyfrgell yn cynnwys y gwasanaeth i’r rheiny sy’n gaeth i’r tŷ. Holodd y Cyng. Meirick Davies am effaith peidio â darparu copïau papur o geisiadau cynllunio mewn llyfrgelloedd. Cytunodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chymunedau i edrych i mewn i’r mater ac adrodd yn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL CHWARTER 2 – 2019 I 2020 pdf eicon PDF 208 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,  Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi wedi’i amgáu) yn rhoi diweddariad ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2017-2022 ar ddiwedd chwarter 2 (Gorffennaf i Medi 2019).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Corfforaethol ar ddiwedd chwarter 2 o 2019/20 a chadarnhau cynnwys yr adroddiad drafft.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i Aelodau ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2017-2022 ar ddiwedd chwarter 2.

 

Mae’r Cynllun Corfforaethol yn gosod cyfeiriad strategol y Cyngor a'i flaenoriaethau dros y cyfnod o bum mlynedd. Mae crynodeb o’r data a’r diweddaraf am brosiectau wedi’i ddarparu ar gyfer chwarter 2, ynghyd â thablau data yn amlinellu’r sefyllfa bresennol. Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu sut mae prosiectau a nodwyd i gefnogi pob blaenoriaeth yn datblygu. Mae’r perfformiad yn ôl y disgwyl ar gyfer hanner ffordd drwy’r Cynllun Corfforaethol ac er bod amrywiadau mewn meysydd blaenoriaeth unigol mae crynodeb perfformiad y ddau fesur a’r prosiectau yn dangos fod pob blaenoriaeth ac eithrio un wedi’i hasesu’n ‘dderbyniol’ ac un wedi’i hasesu’n ‘rhagorol’.

 

Eglurodd Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad y dull adrodd gwahanol yn sgil mabwysiadu’r templed hygyrchedd. Aeth â’r Aelodau trwy’r adroddiad a darparodd ddiweddariad ar y cynnydd yn erbyn pob blaenoriaeth gorfforaethol, gan amlygu materion allweddol a datblygiadau prosiect. Roedd 15 eitem o ddata newydd yn niweddariad chwarter 2 – saith wedi dirywio a 6 wedi gwella. Ychwanegodd y Cyng. Julian Thompson-Hill fod y mesuryddion perfformiad yn cael eu monitro drwy fecanweithiau monitro arferol y Cyngor a bod pob prosiect unigol yn cael ei fonitro gan y Byrddau Rhaglen.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, cododdd y Cabinet y materion canlynol:–

 

·         Cyfeiriodd y Cyng. Bobby Feeley at uno’r strategaethau tai a digartrefedd mewn un ddogfen a chytunodd y swyddogion i adlewyrchu’r newid hwnnw mewn adroddiadau perfformiad yn y dyfodol ac ystyried cynnwys mesuryddion perfformiad digartrefedd fel y bo’n briodol.

·         Cyfeiriodd y Cyng. Huw Hilditch-Roberts at y tablau cymharu a holodd pam bod llawer o’r mesuryddion yn amherthnasol ac fe amlygodd hefyd nifer o enghreifftiau lle mae perfformiad wedi dirywio neu wella ond heb newid statws.

Ymatebodd y Cyng. Julian Thompson-Hill gan ddweud bod anamlder rhai mecanweithiau adrodd yn golygu nad oes data cymharol ar gael ar adegau penodol; o ran statws, mae amrediad wedi’i osod ar gyfer pob mesur ac felly mae perfformiad yn gallu gwella neu ddirywio o fewn yr amrediad a pheidio â newid y statws. Amlygwyd hefyd bod y mesur ar gyfer ffyrdd A a B wedi’i feincnodi yn erbyn data Cymru Gyfan a’i fesur o fewn y cyd-destun hwnnw. Er eglurder, cytunwyd y byddai adroddiadau perfformiad yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth am sut mae mesurau penodol wedi’u hasesu ac amlder hynny er mwyn adlewyrchu eu perfformiad yn well o fewn y cyd-destun perthnasol, ynghyd ag eglurhad ynghylch eu statws.

 

Wrth ymateb i gwestiynau gan gynghorwyr nad ydynt yn Aelodau o’r Cabinet, bu i’r Aelodau Arweiniol a’r swyddogion:–

 

·         Band Eang Cyflym Iawn a Rhwydweithiau Ffonau Symudol – gofynnodd y Cyng. Meirick Davies am gwmpas Band Eang ac o ystyried bod ongl wleidyddol i’r ymateb cytunodd y Cyng. Richard Mainon i ddarparu ymateb y tu allan i’r cyfarfod er mwyn cydymffurfio â’r canllawiau cyn etholiad.

·         Prosiect Maetheg Ysgolion – cyfeiriwyd at graffu ar ôl-ddyledion prydau ysgol sydd wedi lleihau’n sylweddol ac mewn ymateb i adroddiadau newyddion diweddar rhoddwyd sicrwydd bod pob plentyn yn Sir Ddinbych wastad yn cael pryd o fwyd os nad oes ganddynt becyn bwyd neu os oes gan y rhieni/gofalwyr ôl-ddyledion.

·         Rhaglen Moderneiddio Addysg – manylwyd ar y sefyllfa o ran y Ganolfan Ddatblygu’r Gymraeg ynghyd â gwahanu’r gwaith adeiladu i addasu’r adeilad presennol a’r elfennau parcio sy’n gofyn am ganiatâd cynllunio.

·         Canran y boblogaeth 18-24 oed sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith – eglurwyd fod y cynnydd yn hafal i 130 yn fwy o bobl ifanc ond ei fod yn rhy gynnar dweud a yw’r mesur yn adlewyrchu cyflwyno credyd cynhwysol neu a yw  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 228 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn:–

 

·        Y gyllideb refeniw net ar gyfer 2019/20 oedd £198.538 miliwn (£194.418 miliwn yn 2018/19)

·        Rhagwelir y bydd gorwariant o £1.2.111 miliwn yng nghyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·        Amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol

·        Nodwyd fod angen arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £5.672 miliwn, gan gynnwys arbedion corfforaethol a nodwyd yn 2018/19 (£0.5 miliwn), arbedion ysgolion gwerth 2% (£1.32 miliwn) ac arbedion yn y gwasanaethau (£3.852 miliwn), gyda dyraniad cymeradwy o £616,000 o Gronfa Wrth Gefn Cyflawni Arbedion i osod yn erbyn yr arbedion heb eu cyflawni

·        Rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai

 

O ran y gorwariant o 2.11 miliwn a ragwelir, eglurwyd, yn absenoldeb unrhyw ostyngiad, y bydd angen defnyddio adnoddau o’r cronfeydd wrth gefn sylfaenol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cyng. Meirick Davies ynglŷn ag Ailddatblygu Marchnad y Frenhines, dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus fod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda stondinwyr a chadarnhaodd fod swyddogion yn darparu cyngor i fusnesau ac yn cefnogi tenantiaid gyda'r symud yn ôl yr angen. Cyfrifoldeb y busnesau yw rhoi gwybod i gwsmeriaid i ble maent yn symud. Dywedodd y Cyng. Brian Jones fod y broses o wagio’r safle wedi’i mynd rhagddi’n dda.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

 

8.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 293 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr Aelodau’r eitem ychwanegol ar Gynigion Cyllideb 2020/21 ar gyfer mis Ionawr.

 

Er bod y cyfarfod nesaf wedi’i drefnu ar ôl yr etholiad, bydd yn rhaid cyhoeddi’r rhaglen yn gynt o fewn y cyfnod cyn yr etholiad. O ganlyniad, os yw eitem yn wleidyddol sensitif byddai’n rhaid ei chadw ar y rhaglen ond ni fyddai’r adroddiad cysylltiedig yn cael ei gyhoeddi tan ar ôl yr etholiad, ond mewn da bryd i’w ystyried yn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.20am.