Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 343 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Medi 2019 (copi ynghlwm).  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2019 fel cofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Medi 2019 i’w cymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2019 fel cofnod cywir.

 

 

5.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 411 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a

 

(b)       cymeradwyo trosglwyddo arian o’r Cyflawniad Arbedion Wrth Gefn i’r Gwasanaethau Hamdden i osod yn erbyn yr angen i ddyrannu’r arbedion Benthyca Darbodus i’r SC2 yn hytrach na’r oedi i sefydlu’r Model Cyflenwi Amgen.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.  Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2019/20 oedd £198.538 miliwn (£194.418m yn 2018/19)

·        roedd amcanestyniad o orwariant o £1.733 miliwn ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol

·        nodwyd fod angen arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £5.672 miliwn, gan gynnwys arbedion corfforaethol a nodwyd yn 2018/19 (£0.5 miliwn), arbedion ysgolion gwerth 2% (£1.32 miliwn) ac arbedion yn y gwasanaethau (£3.852 miliwn).

·        Tynnwyd sylw at y risgiau a’r amrywiadau sy’n ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol gan gynnwys newidiadau yn dilyn ailstrwythuro'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth ac effaith ar y gyllideb yn dilyn trosglwyddo Cludiant Ysgol o'r Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol i Gynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, a

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai

 

Gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo trosglwyddo cyllid arian parod o’r Gronfa Wrth Gefn i Gyflawni Arbedion i'r Gwasanaethau Hamdden i'w osod yn erbyn yr angen i ddyrannu i'r arbedion Benthyca Darbodus i’r SC2 yn hytrach nag oedi cyn sefydlu’r Model Darparu Amgen (ADM).

 

O ran cefndir eglurodd y Cynghorydd Thompson-Hill bod yr achos busnes gwreiddiol ar gyfer SC2 wedi’i briodoli ar gymhorthdal sy’n gostwng nes y cyrhaeddir pwynt o adennill costau ym mlwyddyn 5. Dangoswyd colled yn y gyllideb o £378mil yn y flwyddyn gyntaf gyda nifer o ddewisiadau wedi'u nodi i leihau'r golled gan gynnwys oedi Benthyca Darbodus – gwnaed y penderfyniad o ystyried ei fod yn fusnes newydd ac mae’n debyg y byddai amrywiadau.   Ond yn dilyn adolygiad arbedion roedd yn amlwg na fyddai’r cyfanswm arbediad o £850mil yn ymwneud â'r cynnig ADM yn cael ei gyflawni’n llawn ac fel Cyngor penderfynwyd y dylid defnyddio’r dull o oedi’r Benthyca Darbodus i alluogi cyflawni’r arbediad ADM o £850mil fel rhan o broses y gyllideb yn 2019/20, gan leihau’r angen ar gyfer toriadau i wasanaethau eraill.   O ganlyniad cynigiwyd bod £612mil yn cael ei ddefnyddio o’r gronfa wrth gefn a sefydlwyd ar gyfer arbedion nas cyflawnir i ddiwallu diffyg cyllid blwyddyn 1 SC2. Er mwyn darparu rhywfaint o sicrwydd yn y dyfodol ar gyfer SC2 roedd y gwasanaeth wedi pwysleisio na fyddai'r sefyllfa yn digwydd eto yn y flwyddyn ariannol nesaf o ystyried y mesurau a roddwyd ar waith.

 

Cydnabu’r Cabinet eu bod fel Cyngor wedi cael gwybod am y risgiau ariannol a’r amrywiadau posibl ar ddechrau cynllun SC2 ac wedi cynllunio mesurau lliniaru er mwyn mynd i’r afael â nhw.   Canmolodd y Cabinet y cyfleuster a oedd yn darparu atyniad cyffrous ac unigryw a chydnabod y buddion ehangach i’r economi ac i fusnesau lleol eraill.   Yn ystod y drafodaeth  ceisiwyd rhagor o eglurder ynglŷn â’r rhesymau dros y cynnydd yn y golled gyllidebol ar gyfer y flwyddyn gyntaf ynghyd â sicrwydd o ran ffigyrau masnachu ariannol y blynyddoedd sydd i ddod a sicrhau llwyddiant hir dymor parhaus y cyfleuster.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Thompson-Hill i’r materion a godwyd fel a ganlyn-

 

·         yn seiliedig ar y ffigyrau presennol a’r achos busnes diwygiedig roedd hyder y byddai SC2 yn niwtral o ran costau erbyn blwyddyn 5 – fel atyniad roedd y cyfleuster eisoes yn llwyddiant: roedd niferoedd yr ymwelwyr yn uchel ac fe groesawyd y cyfleuster gyda’r pwll yn gweithredu bron yn llawn yn ystod y rhan fwyaf o’r cyfnod masnachu.

·         roedd cyfuniad o ffactorau wedi cyfrannu at y diffyg cyllid gan gynnwys (1) colli cyfnod masnachu'r Pasg ar gyfer y Pad Sblasio y tu allan a'r incwm cysylltiedig a ragwelwyd (2) nad  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 285 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau canlynol -

 

·         Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif:

Cynigion Band B-  Tachwedd

·         Ardal Gwella Busnes (BID) Llangollen – Ionawr

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A o’r Ddeddf.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

7.

CASTELL BODELWYDDAN

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn ceisio adolygiad y Cabinet i adolygu'r telerau i werthu’r eiddo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD –

 

(a)       bod y Cyngor yn gwerthu’r cysylltiad rhydd-ddaliad yng Ngwesty Castell Bodelwyddan ar delerau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad;

 

(b)       bod y Cyngor yn gwerthu’r cysylltiad rhydd-ddaliad yn eiddo Ymddiriedolaeth Castell Bodelwyddan, (ac eithrio tir ar osod ar denantiaeth amaethyddol, y Lodge a thir ar gyfer mynediad cyhoeddus) ar delerau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad;

 

(c)        y Cyngor i gadw’r parcdir maes parcio porfa, ynghyd â phrydles 999 mlynedd o’r coetir a’r ddôl, ar gyfer mynedfa gyhoeddus a gynhelir gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad (yn amodol ar y Grŵp Buddsoddiad Strategol yn cymeradwyo’r cyllid angenrheidiol i sefydlu a chynnal yr ardal hon a gynhelir gan Gyngor Sir Ddinbych.

 

(d)       tir sydd ar hyn o bryd ar denantiaeth amaethyddol yn cael ei gadw a’i reoli ar y cyd â thir a ffermydd amaethyddol eraill y Cyngor, a’r

 

(e)       bwthyn bach ar derfyn dwyreiniol y stad yn cael ei gadw gan y Cyngor nes ceir adolygiad o'i ddefnydd.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad cyfrinachol yn ceisio adolygiad y Cabinet o delerau gwerthiant yr eiddo.

 

Eglurwyd a thrafodwyd manylion y telerau arfaethedig ar gyfer gwerthu rhydd-ddaliad Gwesty Castell Bodelwyddan a rhan o’r ystâd ynghyd â chadw’r ardaloedd eraill ar gyfer mynediad cyhoeddus.   Tynnwyd sylw at y gwahaniaethau i’r adroddiad blaenorol a gyflwynwyd i'r Cabinet ym mis Medi 2018 ac eglurwyd a chadarnhawyd bod y derbyniad cyfalaf i'r Cyngor yn parhau i fod yr un fath.   Darparwyd diweddariad ynglŷn â’r trafodaethau gydag Ymddiriedolaeth Castell Bodelwyddan ynglŷn â’r brydles bresennol.

 

Trafododd y Cabinet yr adroddiad yn helaeth gyda’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion ynglŷn â’r ystyriaethau ariannol, gan gynnwys sut yr oedd y ffigyrau a nodwyd yn yr adroddiad wedi’u deillio ynghyd â’r cyfrifoldebau ariannol ac atebolrwydd y partïon dan sylw o dan y brydles bresennol ac wrth symud ymlaen â’r gwerthiant.   Trafodwyd rheolaeth ac uchelgais ar gyfer yr ardaloedd a gedwir gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad a fyddai’n destun cynigion cyllid i’r Grŵp Buddsoddi Strategol.   Nododd y Cabinet fanteision y gwerthiant o ran diogelu dyfodol yr adeilad a sicrhau ei lwyddiant yn y dyfodol gyda buddion i'r economi leol a thwristiaeth ynghyd â chadw ardaloedd ar gyfer mynediad i'r cyhoedd a chyfleoedd yn ymwneud â hynny.   O ganlyniad cefnogodd y Cabinet argymhellion yr adroddiad ac fe-

 

BENDERFYNWYD –

 

(a)       dylai’r Cyngor werthu’r rhydd-ddaliad yng Ngwesty Castell Bodelwyddan ar delerau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad;

 

(b)       dylai’r Cyngor werthu’r rhydd-ddaliad yn y Castell, eiddo Ymddiriedolaeth Castell Bodelwyddan, (ac eithrio tir ar osod ar denantiaeth amaethyddol, y Lodge a thir parc) ar delerau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad;

 

(c)        y Cyngor i gadw’r tir parc a maes parcio ynghyd â phrydles 999 mlynedd y coetir a’r ddôl, i ddarparu mynediad i'r cyhoedd dan ofal y Gwasanaethau Cefn Gwlad (ar yr amod bod y Grŵp Buddsoddi Strategol yn cymeradwyo'r cyllid gofynnol i sefydlu a chynnal yr ardal a gedwir gan Gyngor Sir Ddinbych);

 

(d)       bod tir sydd ar hyn o bryd ar denantiaeth amaethyddol yn cael ei gadw a’i reoli ar y cyd â thir a ffermydd amaethyddol eraill y Cyngor, a

 

(e)       bydd y lodge bychan ar derfyn dwyreiniol y stad yn cael ei gadw gan y Cyngor nes ceir adolygiad o'i ddefnydd.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.10am.