Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Tony Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 6 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Meirick Davies – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 9 ar y Rhaglen

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Tony Thomas yn datgan cysylltiad personol yn eitem 6 gan ei fod yn byw’n agos at yr ardal yr effeithir arni gan lifogydd er nad oedd wedi effeithio ar ei eiddo ef.

 

Datganodd y Cynghorydd Meirick Davies gysylltiad personol yn eitem 9 oherwydd ei fod yn Llywodraethwr Ysgol Cefn Meiriadog ac Ysgol Trefnant

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 343 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2019 (copi ynghlwm).  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2019 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2019.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2019 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

POLISÏAU CYFLOGAETH pdf eicon PDF 200 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Richard Mainon, Aelod Cabinet Arweiniol Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol (copi ynghlwm) yn cyflwyno dau bolisi cyflogaeth i'w mabwysiadu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn cymeradwyo’r polisïau cyflogaeth fel y nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer mabwysiadu yn y Cyngor, a

 

 (b)      chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (atodiad i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Richard Mainon yr adroddiad yn argymell mabwysiadu dau bolisi cyflogaeth newydd a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â’r Undebau Llafur cydnabyddedig oedd yn cynnwys (1) Dileu Swydd a (2) Cydraddoldeb Traws a Rhywioldeb.

 

Darparwyd crynodeb byr ar bob polisi ac eglurodd y Cynghorydd Mainon yn dilyn adborth y cynhaliwyd adolygiad o’r Polisi Dileu Swydd presennol i ddarparu polisi mwy strwythuredig gyda rolau, cyfrifoldebau ac amserlenni cliriach (byddai’r cyfrif dileu swydd yn aros yr un fath), ac roedd Polisi Cydraddoldeb Traws a Rhywioldeb wedi’i ffurfio i roi cyngor ac arweiniad cyffredinol ar faterion traws ac ailbennu rhywedd o fewn fframwaith clir.   Roedd y ddau bolisi wedi eu llunio yn dilyn cydweithio cadarnhaol drwy’r broses ymgynghori y cytunwyd arni a derbyniwyd ymateb da ac yn dilyn hynny cymeradwywyd gan y Cydbwyllgor Ymgynghorol Iechyd a Diogelwch a Chysylltiadau Cyflogaeth.   Hefyd cadarnhawyd bod y polisïau newydd yn fwy cyson gyda rhai awdurdodau eraill.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)       yn cymeradwyo’r polisïau cyflogaeth fel y nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer mabwysiadu yn y Cyngor, a

 

(b)       chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (atodiad i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

6.

CYNLLUN AMDDIFFYN ARFORDIR DWYRAIN Y RHYL pdf eicon PDF 498 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Cabinet Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd (copi ynghlwm) ar y cynnig ar gyfer cynllun amddiffyn arfordir Dwyrain y Rhyl.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      Yn cadarnhau ei fod wedi ystyried cynnwys yr Asesiad o Effaith ar Les (a atodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad);

 

(b)       yn cefnogi’r cais i symud y cynllun ymlaen at y cam adeiladu, gan ddefnyddio'r model cyllido cymorth grant a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, ac yn argymell i’r Cyngor y dylid cymeradwyo’r cais, a

 

(c)        Yn argymell i’r Cyngor bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Bwrdd Prosiect Cynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain Y Rhyl (y Bwrdd Prosiect i’w sefydlu yn dilyn cadarnhad o gymeradwyaeth y Cabinet i symud ymlaen at y cam adeiladu) i gyflawni’r cynllun, cyn belled nad yw’r gost targed terfynol yn fwy na £27.5 miliwn.  Dylid dod a'r prosiect yn ôl at y Cyngor am ystyriaeth bellach os bydd y gost darged terfynol yn fwy na £27.5 miliwn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad ar y cynnig ar gyfer cynllun amddiffyn arfordirol yn Nwyrain y Rhyl a cheisiodd gymeradwyaeth y Cabinet i’r cynllun a gofynion cyllid a’i argymell i’r Cyngor yn unol â hynny. 

 

Dwyrain y Rhyl oedd maes blaenoriaeth uchaf y Cyngor ar gyfer cynllun amddiffyn arfordirol o ystyried y byddai’n fwy tebygol o brofi llifogydd difrifol nag unrhyw le arall yn y sir.    Wrth gyflwyno’r achos ar gyfer y cynllun arfaethedig, cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at ddifrod llifogydd Rhagfyr 2013 a bregusrwydd yr ardal yn y dyfodol o safbwynt perygl llifogydd.   Roedd ymchwiliad i lifogydd 2013 yn dangos y gall eiddo ddioddef llifogydd yn ystod 1 digwyddiad mewn 20 mlynedd a byddai’r cynllun yn darparu safon priodol o amddiffyniad llifogydd i oddeutu 1650 eiddo gydag amddiffyniad yn erbyn 1 digwyddiad mewn 200 mlynedd.  Fodd bynnag, bydd cost y prosiect, sydd wedi’i amcangyfrif yn £27.5m ar hyn o bryd, yn rhoi baich refeniw ychwanegol ar y Cyngor.

 

Roedd manylion y goblygiadau refeniw a amcangyfrifir a’r rhagdybiaethau ariannol yn seiliedig ar fenthyca presennol wedi’i fanylu o fewn yr adroddiad.   Roedd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yn cefnogi’r argymhelliad a chadarnhaodd fod y Grŵp Buddsoddiad Strategol wedi cymeradwyo’r cynllun.  O safbwynt ariannol, amlygodd y newid i’r drefn gyllido ac effaith y newid hwnnw ar refeniw.   Er bod y cynllun yn gymwys ar gyfer 75% o gyllid grant Llywodraeth Cymru disgwylir i’r Cyngor gyllido’r swm cyfan, gyda 75% o’r gost benthyca yn cael ei ad-dalu i’r Cyngor yn flynyddol drwy’r Grant Cefnogi Refeniw dros 25 mlynedd.    Roedd angen cyfraniad o £6.87miliwn gan y Cyngor a byddai angen benthyg y mwyafswm o’r cyllid hwnnw (£2m cyllid cyffredinol wedi’i glustnodi eisoes ar gyfer y cynllun) am gost amcangyfrifiedig o £29mil yn 2020/21, £205mil yn 2021/22 yn codi i £286mil y flwyddyn o 2022/23.  Gan dybio na fyddai’r sefyllfa cyllideb refeniw yn gwella byddai’n rhaid i’r swm ad-daliad gael ei glustnodi fyddai’n effeithio ar arbedion/toriadau yn y dyfodol. 

 

Roedd y Cabinet yn derbyn bod achos wedi’i wneud ar gyfer y prosiect o safbwynt amddiffyn rhag llifogydd o ystyried y risg sylweddol i’r gymuned ac ystyriwyd yr elfen gyllido a goblygiadau ariannol datblygu’r cynllun, gan nodi’r ymrwymiad tymor hir oedd yn ofynnol o safbwynt ad-dalu’r benthyciad a’r effaith ar y gyllideb refeniw.  Trafodwyd y materion canlynol ymhellach -

 

·          Gofynnodd Mark Young am y risg o orwariant o ystyried na fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried ceisiadau am fwy o grant lle'r oedd costau wedi cynyddu uwchlaw’r swm a gymeradwywyd a chadarnhawyd y byddai’r Cyngor yn atebol am unrhyw orwariant. 

Fodd bynnag roedd y risg wedi’i leihau drwy ddefnyddio fframwaith caffael cadarn oedd wedi arwain at lefel uchel o sicrwydd cost a £4miliwn wrth gefn ar gyfer risg wedi’i gynnwys yn y gyllideb £27.5miliwn gyda lwfans ar gyfer chwyddiant; yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor, byddai’r gwaith yn dechrau yn Ebrill 2020.

·         Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn amlygu meysydd eraill o fewn y cyngor oedd yn tueddu i ddioddef llifogydd a gofynnodd am effaith ar gyllido cynlluniau llifogydd eraill o ystyried y cyllid sylweddol oedd yn ofynnol yn yr achos hwn.    

Dywedodd swyddogion am reoli llifogydd mewn ardaloedd eraill yn y sir, gan gynnwys cynlluniau arfordirol ac afonol oedd mewn amrywiol gamau datblygu a datblygir drwy’r Bwrdd Rhaglen.  Awgrymwyd bod Bwrdd Prosiect Perygl Llifogydd yn cael ei sefydlu i oruchwylio cynllun Dwyrain y Rhyl a hefyd i ystyried opsiynau ar gyfer cynlluniau eraill.   Byddai’r prosiect dod yn ôl at y Cyngor am ystyriaeth bellach os bydd y gost darged derfynol yn fwy na £27.5 miliwn.

·         Wrth gofio difrod llifogydd 2013 roedd y Cynghorydd Tony  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CYFLWYNO MODEL DARPARU AMGEN (MDA) AR GYFER AMRYWIOL WEITHGAREDDAU/ SWYDDOGAETHAU CYSYLLTIEDIG Â HAMDDEN pdf eicon PDF 377 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Bobby Feeley, Aelod Cabinet Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, a Julian Thompson-Hill, Aelod Cabinet Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gost gweithredu’r prosiect i ddarparu Cwmni Masnachu Cyfyngedig drwy Warant nid er elw yr Awdurdod Lleol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cefnogi gweithredu'r prosiect i ddarparu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol Cyfyngedig drwy Warant nid er elw

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorwyr Bobby Feeley a Julian Thompson-Hill y cydadroddiad yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo cost gweithredu’r prosiect i ddarparu Cwmni Masnachu Cyfyngedig Drwy Warant Awdurdod Lleol nid er elw ac i gynghori’r Cabinet ar yr arbediad net diwygiedig i’r Cyngor yn y flwyddyn gyntaf 2020/21. 

 

Roedd y Cyngor wedi cytuno i gefnogi creu LATC ar 30 Mai 2019 ac roedd yr adroddiad yn gam arall o fewn y broses honno.    Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill bod gwaith wedi’i wneud o safbwynt ariannol a benderfynwyd gymaint â phosibl.   Er mwyn i’r LATC allu bod yn weithredol erbyn 6 Ebrill 2020 roedd un cost gweithredu o £391mil wedi’i ragamcanu ac roedd arbedion refeniw net cysylltiol yn y flwyddyn gyntaf wedi’i ailasesu a’i ragamcanu i fod yn £785mil.   Roedd y Cynghorydd Thompson-Hill hefyd yn ymhelaethu ar y gost ac ystod o ffactorau oedd yn cyfrannu at y rhagamcanion cost terfynol oedd wedi arwain at £18 mil yn llai o arbedion nag y rhagwelwyd yn wreiddiol.    O ganlyniad gofynnwyd i’r Cabinet gytuno ar y gost gweithredu untro a noddi’r targed arbediad oedd ychydig yn llai ar gyfer y flwyddyn gyntaf. 

 

Ymatebodd swyddogion i gwestiwn gan y Cynghorydd Mark Young, yn dweud fod y Cyngor wedi cymeradwyo creu ADM ac oherwydd bod gweithredu'r gwasanaethau hamdden yn swyddogaeth weithredol gofynnwyd i'r Cyngor gymeradwyo'r cyllid ar gyfer gweithredu.    O ganlyniad, nid oedd bwriad ar gyfer yr adroddiad penodol ar gostau gweithredu i fynd i’r pwyllgor craffu er efallai y bydd y prosiect cyffredinol yn ddarostyngedig ar gyfer craffu ar rhyw bwynt.    Gall unrhyw aelod wneud cais ar gyfer craffu i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu.  Roedd swyddogion hefyd yn ymateb i gwestiynau gan aelodau nad oeddent ar y Cabinet o safbwynt cyfrifoldebau gweithredol a strategol oedd yn ymwneud â’r LATC ynghyd â rheolaethau a threfniadau mewn lle a rhwymedigaethau ariannol.  O ran TAW ac Ardreth Annomestig Genedlaethol derbyniwyd cyngor arbenigol yn cadarnhau y gall yr arbedion a nodwyd yn yr adroddiad gael eu gwireddu yn unol â deddfwriaeth bresennol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cefnogi gweithredu'r prosiect i ddarparu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol Cyfyngedig drwy Warant nid er elw

 

 

8.

CYTUNDEB CYLLIDEB GYFUN AR GYFER LLETY CARTREF GOFAL I BOBL HŶN 2019-2020 pdf eicon PDF 341 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Bobby Feeley, Aelod Cabinet Arweiniol Lles ac Annibyniaeth a Julian Thompson-Hill, Aelod Cabinet Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynghylch sefydlu un gyllideb gyfun ranbarthol heb rannu risg ar gyfer swyddogaethau llety cartref gofal i bobl hŷn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      nodi’r cynnydd a wnaed yn rhanbarthol o ran bodloni gofynion Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n cynnwys gofyniad cyfreithiol i sefydlu cronfa gyfun ranbarthol ar gyfer llety cartrefi gofal i bobl hŷn;

 

 (b)      cymeradwyo sefydlu cronfa gyfun nad yw’n rhannu risg ar gyfer llety cartrefi gofal i bobl hŷn fel y nodir yn yr adroddiad, gyda Chyngor Sir Ddinbych yn gweithredu fel Awdurdod Cynnal, ac i’r trefniadau fod yn weithredol ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20;

 

(c)        rhoi cymeradwyaeth i’r Cyngor ymrwymo i gytundeb cyfreithiol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru, i reoleiddio’r broses sefydlu, gweithrediad a threfniadau llywodraethu’r gronfa gyfun am gyfnod o 3 blynedd, a

 

 (d)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les a atodir fel Atodiad 1 fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorwyr Bobby Feeley a Julian Thompson-Hill y cydadroddiad ynglŷn â sefydlu un gronfa gyfun ranbarthol heb risg ar gyfer swyddogaethau llety cartrefi gofal i bobl hŷn.

 

Darparodd y Cynghorydd Feeley rywfaint o gefndir a chyfeiriodd at sefydlu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol o dan Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i symud ymlaen i integreiddio iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn effeithiol.    Amlinellodd y dull rhanbarthol arfaethedig i gyflawni’r gofyniad cyfreithiol o ran sefydlu a chynnal cronfa gyfun ranbarthol ar gyfer llety cartref gofal, gyda Chyngor Sir Ddinbych yn gweithredu fel awdurdod sy'n lletya ar ran chwe Chyngor Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.  Mae cytundeb cyfreithiol wedi’i baratoi i adlewyrchu’r trefniadau y cytunwyd arnynt gyda phartneriaid o ran y gronfa gyfun am dair blynedd.   Sylwyd bod y gwariant rhanbarthol cyffredinol yn 2018/19 yn £111miliwn.

 

Eglurodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y fethodoleg ar gyfer y gronfa gyfun gyda phob un o’r saith partner yn darparu cyfraniadau cwbl ar wahân yn cyfateb i’r treuliau oedd yn berthnasol felly’n sicrhau nad oedd unrhyw risg yn cael ei rannu na thrawsgymhorthdal rhwng partneriaid.  Eglurodd y byddai £20mil o gyllid trawsnewid a weinyddwyd yn rhanbarthol yn cael ei dalu i Sir Ddinbych i gydnabod cost lletya'r gronfa gyfun ac felly byddai gweithrediad y gronfa yn niwtral o ran cost.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi’r cynnydd a wnaed yn rhanbarthol o ran bodloni gofynion Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n cynnwys gofyniad cyfreithiol i sefydlu cronfa gyfun ranbarthol ar gyfer llety cartrefi gofal i bobl hŷn;

 

(b)       cymeradwyo sefydlu cronfa gyfun nad yw’n rhannu risg ar gyfer llety cartrefi gofal i bobl hŷn fel y nodir yn yr adroddiad, gyda Chyngor Sir Ddinbych yn gweithredu fel Awdurdod Cynnal, ac i’r trefniadau fod yn weithredol ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20;

 

(c)        rhoi cymeradwyaeth i’r Cyngor ymrwymo i gytundeb cyfreithiol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a chwech awdurdod lleol Gogledd Cymru, i reoleiddio’r broses sefydlu, gweithrediad a threfniadau llywodraethu’r gronfa gyfun am gyfnod o 3 blynedd, a

 

(d)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les a atodir fel Atodiad 1 fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

9.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 387 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a

 

 (b)      yn cymeradwyo Datblygiad Fflatiau’r Dell, Prestatyn, fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac fel y nodwyd yn Atodiadau 5 a 6 yr adroddiad hwn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.  Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2019/20 oedd £198.538 miliwn (£194.418m yn 2018/19)

·        roedd amcanestyniad o orwariant o £0.912 miliwn ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol

·        nodwyd fod angen arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £5.672 miliwn, gan gynnwys arbedion corfforaethol a nodwyd yn 2018/19 (£0.5 miliwn), arbedion ysgolion gwerth 2% (£1.32 miliwn) ac arbedion yn y gwasanaethau (£3.852 miliwn).

·        amlygwyd risgiau ac amrywiadau cyfredol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, a

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf, Y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai

 

Hefyd gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo adeiladu fflatiau yn y Dell, Prestatyn fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddiad Strategol.

 

Roedd y Cabinet yn trafod y gorwariant a ragamcanwyd o fewn Gofal Cymdeithasol Oedolion ac Addysg a Gwasanaethau Plant (er gwaethaf cynnydd yn y gyllideb sylfaenol) oedd yn parhau i achosi pryder.  Dywedodd y Prif Weithredwr am waith cyfredol gydag Aelodau Arweiniol a’r Uwch Dîm Arwain i reoli’r costau hynny fyddai hefyd yn cael eu trafod fel rhan o’r broses gosod cyllideb cyffredinol.    Roedd yr Aelodau Arweiniol ar gyfer y gwasanaethau hynny hefyd yn ymhelaethu ar anawsterau a wynebir a’r angen i flaenoriaethu gwasanaethau i blant ac oedolion agored i niwed.  O ran toriadau yn y dyfodol cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y flaenoriaeth ar gyfer diwallu anghenion plant ac oedolion agored i niwed oedd yn cynnwys cost ond roedd yn bwysig ystyried pob agwedd o’r busnes ac roedd yn iawn i gwestiynu priodoldeb yr ymyrraeth a’r camau a gymerwyd.   Roedd yr Arweinydd yn amlygu nad oedd y pwysau a nodwyd yn unigryw i Sir Ddinbych ac roedd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn eu hwynebu ac roedd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru rôl i lobio Llywodraeth Cymru ar eu rhan i sicrhau darpariaeth cyllid priodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Meirick Davies pam na ellir trosglwyddo’r diffyg ar gyfer Ysgol Uwchradd y Bendigaid Edward Jones i’r ysgol newydd.    Eglurwyd bod dwy ysgol yn uno i fod yn un ysgol wahanol ac felly yn creu endid cyfreithiol newydd, o ganlyniad ni ellir trosglwyddo balans diffyg nac arian dros ben.  Byddai’r ysgol newydd yn dechrau heb falans a phenderfynir ar ei chyllideb newydd yn unol â'r meini prawf arferol e.e. nifer disgyblion ac ati.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a

 

(b)       chymeradwyo Datblygiad Fflatiau’r Dell, Prestatyn, fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac fel y nodwyd yn Atodiadau 5 a 6 yr adroddiad hwn.

 

 

10.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 291 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau/ diwygiadau canlynol -

 

·         Grŵp Cynllunio Strategol:

Newidiadau arfaethedig i’r Cylch Gorchwyl – i’w hychwanegu ar gyfer mis Medi

·         Cytundeb Llywodraethu Cynnig Twf Gogledd Cymru 2 – i’w symud o fis Medi i fis Ionawr

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.25am.