Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 329 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2019 (copi’n amgaeedig). 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2019 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2019.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2019 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

CYNLLUN RHEOLI SAFLE TREFTADAETH Y BYD TRAPHONT DDŴR A CHAMLAS PONTCYSYLLTE pdf eicon PDF 288 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Cabinet Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth (copi ynghlwm) yn cyflwyno Cynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte 2019-2019 er cymeradwyaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cefnogi Cynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte 2019-2029 er mwyn galluogi Cyngor Sir Ddinbych, fel un o bartneriaid Bwrdd Strategol Safle Treftadaeth y Byd i gymeradwyo ei gyflwyno i Weinidogion Cymru a’r Adran dros Ddiwylliant Digidol, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad ynghyd â Chynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte er cymeradwyaeth) cyn i Fwrdd Safle Treftadaeth y Byd ei gyflwyno i Weinidogion Cymru a’r Adran dros Ddiwylliant Digidol, y Cyfryngau a Chwaraeon.

 

Y Cyngor oedd un o’r pedwar o brif bartneriaid ar y Bwrdd Strategol (ynghyd â Glandŵr Cymru, Cyngor Swydd Amwythig a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), ac roedd wedi cyfrannu at y Cynllun Rheoli.  Roedd y cynllun yn gosod fframwaith ar gyfer penderfyniadau’r partneriaid ynglŷn â rheoli’r Safle Treftadaeth y Byd a’r cyffiniau.  Dywedodd y Cynghorydd Feeley hefyd fod y Cynllun yn cynnwys camau gweithredu a oedd yn cyfrannu at yr amgylchedd, un o flaenoriaethau’r Cynllun Corfforaethol, a byddai hefyd yn codi proffil y safle i ymwelwyr ac yn rhoi hwb i economi Sir Ddinbych.  Roedd y Cabinet yn gefnogol o’r Cynllun, ac felly –

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cefnogi Cynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte 2019-2029 ac felly bod Cyngor Sir Ddinbych, fel un o bartneriaid Bwrdd Strategol Safle Treftadaeth y Byd, yn medru rhoi cymeradwyaeth i’w gyflwyno i Weinidogion Cymru ac Adran Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol dros Ddiwylliant Digidol, y Cyfryngau a Chwaraeon.

 

 

6.

NEWIDIADAU YNG NGHYFRIFIAD GWYLIAU BLYNYDDOL pdf eicon PDF 208 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Richard Mainon, Aelod Cabinet Arweiniol dros Wasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol (copi ynghlwm) parthed cynigion i symleiddio’r broses o cyfrifo hawliau gwyliau blynyddol a gwyliau banc ar gyfer gweithwyr.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r argymhellion canlynol -

 

 (a)      dylid cofnodi hawl pob gweithiwr i wyliau blynyddol mewn oriau;

 

 (b)      darparu cyfrifiad pro rata o hawl pob gweithiwr rhan-amser i Wyliau Banc ar sail eu horiau gwaith dan gontract, sy’n unol â’r hawl statudol, a

 

 (c)       chael gwared ar y cyfyngiad o gario 5 diwrnod (37 awr) yn unig o wyliau drosodd, a chaniatáu i 10 diwrnod (74 awr) gael eu cario drosodd yn awtomatig.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Richard Mainon yr adroddiad ynglŷn â chynigion i symleiddio’r broses o gyfrifo gwyliau blynyddol a hawliau gweithwyr i wyliau banc, drwy ddefnyddio un o nodweddion y system Adnoddau Dynol, iTrent.

 

Byddai’r newidiadau arfaethedig yn ysgafnhau’r baich ar reolwyr ac yn symleiddio’r broses gan sicrhau fod pob gweithiwr yn cael yr holl wyliau oedd yn ddyledus.  Roedd y newidiadau allweddol yn cynnwys nodi’r gwyliau oedd ar ôl mewn oriau, cyfrifiad pro rata o’r hawl i wyliau banc ar gyfer gweithwyr rhan-amser, a galluogi pobl i gario drosodd hyd at ddeg diwrnod (74 awr) o wyliau’n awtomatig.  Roedd angen newid y polisi presennol er mwyn hwyluso’r prosesau newydd, ac roedd gofyn i’r Cabinet gymeradwyo hynny.

 

Wrth ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion –

 

·         bod y newidiadau’n unol â gweithdrefnau awdurdodau lleol eraill

·         mai deg diwrnod oedd yr uchafswm a ganiateid i bobl gario drosodd mewn blwyddyn

·         trafodwyd y cynigion gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth, mewn cyfarfod rhwng Adnoddau Dynol Corfforaethol ac Undebau Llafur, a chyfarfod o’r Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol

·         nodwyd y pwynt ynglŷn â chynnwys oriau ochr yn ochr â’r diwrnodau yn yr adroddiad, er eglurder.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r argymhellion canlynol –

 

 (a)      dylid cofnodi hawl pob gweithiwr i wyliau blynyddol mewn oriau;

 

 (b)      darparu cyfrifiad pro rata o hawl pob gweithiwr rhan-amser i Wyliau Banc ar sail eu horiau gwaith dan gontract, sy’n unol â’r hawl statudol, a

 

 (c)       chael gwared ar y cyfyngiad o gario 5 diwrnod (37 awr) yn unig o wyliau drosodd, a chaniatáu i 10 diwrnod (74 awr) gael eu cario drosodd yn awtomatig.

 

 

7.

ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2018/19 pdf eicon PDF 277 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Cabinet Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi'n amgaeedig) yn cyflwyno’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft ar gyfer 2018-19 cyn ei gyflwyno i’r Cyngor er cymeradwyaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cadarnhau cynnwys yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft 2018-19.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ynghyd â’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2018-19, cyn ei gyflwyno i’r Cyngor er cymeradwyaeth a’i gyhoeddi yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

 

Hysbyswyd y Cabinet o newidiadau diweddar yn y dulliau adrodd a oedd yn sail ar gyfer y ddogfen dan sylw, yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am chwarter 4 a’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol, a gyflwynid ar wahân fel arfer.  Roedd y ddogfen gyfun yn cynnwys adroddiad ar gynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Corfforaethol, ynghyd â phrosiectau penodol i’w cyflawni yn 2019-2020 ac astudiaethau achos ac enghreifftiau o’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r blaenoriaethau corfforaethol ym mhortffolio ehangach y Cyngor.  Roedd y Pwyllgor Craffu Perfformiad wedi trafod y ddogfen heb godi unrhyw faterion o bwys.

 

Esboniodd Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol ac Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol bod y ddogfen yn dangos mor dda oedd y cynnydd a’r hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn, ond soniont hefyd am gyfleoedd i wella a chymryd camau gweithredu priodol.  Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet yn fanwl, a rhannodd y swyddogion yr holl wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r cynnydd a wnaed o ran pob un o’r blaenoriaethau corfforaethol – er y gwnaethpwyd cynnydd gwerth chweil yn gyffredinol, roedd cyflawni’r targedau perfformiad ar gyfer Pobl Ifanc yn flaenoriaeth o ran gwella.  Rhoes y Prif Weithredwr glod i’r gwaith a wnaethpwyd wrth gyflawni’r Cynllun Corfforaethol, a’r modd y bu i’r aelodau a’r swyddogion gydweithio er budd trigolion y sir.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Cabinet y materion canlynol –

 

·         Clymu Cymunedau – o ran dulliau ymarferol o ehangu rhwydweithiau band eang/ffôn symudol tra chyflym, roedd y Cyngor yn gweithio’n uniongyrchol â darparwyr band eang a chymunedau; roedd ffynonellau cyllid posib yn cael eu hystyried, gan gynnwys arian ffermydd gwynt, er mwyn creu seilwaith digidol ar gyfer cymunedau cefn gwlad. Efallai na châi’r cymunedau hynny eu cynnwys yng nghynllun Llywodraeth Cymru, Cyflymu Cymru, ac roedd cysylltedd hefyd yn un o flaenoriaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

·         Cymunedau Cryf – soniodd y Cynghorydd Bobby Feeley ynglŷn â llwyddiant y Timau Adnoddau Cymunedol wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd yn y gymuned.  Soniodd hefyd am brosiectau i gefnogi gofalwyr, a rhoes longyfarchiadau i’r Cyngor am ennill gwobr gan Wasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru yn ddiweddar, i gydnabod ei fod yn gyflogwr sy’n croesawu gofalwyr.

·         Yr iaith Gymraeg – ar gais y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, cytunodd y swyddogion i gynnwys cyfeiriad yn y ddogfen at y Ganolfan Gymraeg newydd yn Llanelwy, a fyddai’n darparu gwasanaethau i Sir Ddinbych gyfan.

·         Cymunedau Cryf – soniodd y Cynghorydd Tony Thomas y byddai oddeutu £925,000 y flwyddyn ar gael drwy Gronfeydd Buddsoddi Cymunedol Fferm Wynt Clocaenog a Brenig, ac fe gâi manylion yr ardaloedd a fyddai’n elwa eu cadarnhau cyn hir.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mark Young ynglŷn â chydraddoldeb, rhoddwyd sicrwydd fod yno brosiect ar waith i gefnogi cymunedau wrth wneud y ceisiadau cychwynnol am gyllid, er mwyn sicrhau y gallai pob rhan o gymdeithas elwa ar hyn.  Rhoes y Cynghorydd Young longyfarchiadau i Adnoddau Dynol am yr hyfforddiant Cam-drin Domestig, ond dywedodd y gallai llwyddiant y cwrs arwain at gynnydd yn nifer yr achosion a adroddwyd, o ganlyniad i godi ymwybyddiaeth.

·         Clymu Cymunedau – soniodd y Cynghorydd Brian Jones nad oedd cyflwr ffyrdd Sir Ddinbych o reidrwydd cyn waethed â’r hyn a gredai’r cyhoedd, gan ystyried na fu ond mân ddirywiad yn ffyrdd A y Sir a bod ffyrdd B ac C wedi gwella – neilltuwyd cyllid ychwanegol ar gyfer priffyrdd yn y flwyddyn ariannol gyfredol, a byddai newidiadau  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

CYFLWYNO DULL DARPARU AMGEN (MDA) AR GYFER AMRYWIOL WEITHGAREDDAU/ SWYDDOGAETHAU CYSYLLTIEDIG Â HAMDDEN pdf eicon PDF 377 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Bobby Feeley, Aelod Cabinet Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth, a Julian Thompson-Hill, Aelod Cabinet Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Cyngor argymell bod y Cabinet yn cefnogi mabwysiad yr Erthyglau Cymdeithasu ar gyfer Cwmni Masnachu Cyfyngedig Drwy Warant nid er elw arfaethedig yr Awdurdod Lleol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn argymell i’r Cyngor gefnogi mabwysiadu’r Erthyglau Cymdeithas drafft a Chytundeb Aelodau ar gyfer y Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol Cyfyngedig drwy Warant nid er elw fel yr amlinellir yn atodiadau'r adroddiad hwn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r argymhelliad bod y Cyngor o blaid mabwysiadu’r Erthyglau Cwmni drafft ar gyfer y cwmni masnachu awdurdod lleol cyfyngedig drwy warant, nid-er-elw, y bydd y Cyngor yn ei ddefnyddio fel dull gwahanol o ddarparu amryw weithgareddau a swyddogaethau ym maes hamdden.  Roedd yr adroddiad hwn yn gam arall tuag at sefydlu’r Dull Darparu Amgen.

 

Roedd y Cyngor wedi cytuno i greu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol Cyfyngedig drwy Warant ar 30 Mai 2019. Y ddogfen gyfansoddiadol ar gyfer cwmni cyfyngedig drwy warant oedd ei Erthyglau Cwmni a gofrestrwyd i’r cyhoedd eu gweld yn Nhŷ’r Cwmnïau (Erthyglau).  Yr hyn a gynigiwyd oedd mabwysiadu Erthyglau oedd yn seiliedig ar yr Erthyglau Enghreifftiol, gan gynnwys newidiadau yn benodol i ofynion y Dull Darparu Amgen, er mwyn gwarchod y Cyngor a rhoi rheolaeth iddo dros y cwmni.  Yn ogystal â’r Erthyglau, roedd yr adroddiad yn sôn am Gytundeb Aelodau rhwng y Cyngor a’r Dull Darparu Amgen a oedd yn amlinellu nifer o faterion nad oeddent wedi’u cynnwys yn yr Erthyglau.

 

Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democratiaeth y dylid darllen yr Erthyglau Cwmni drafft, yr Erthyglau Enghreifftiol a’r Cytundeb Aelodau drafft gyda’i gilydd, ac y byddai’r rhain i bob pwrpas yn cyfuno i ffurfio cyfansoddiad i’r cwmni newydd.  Rhoes esboniad i’r Aelodau o’r swyddogaethau pennaf a nodwyd yn yr Erthyglau a’r telerau a bennwyd yn y Cytundeb Aelodau.  Byddai’n rhaid diwygio geiriad y dogfennau drafft ymhellach, ac fe roddid esboniad o hynny wrth gyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor fis Gorffennaf, a cheisid awdurdod dirprwyedig i gadarnhau’r dogfennau terfynol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau cafwyd yr ymatebion canlynol gan yr Arweinydd a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democratiaeth –

 

·         yn ogystal â chyflwyno’r cyfrifon yn ffurfiol ddwywaith y flwyddyn, byddai’r Cyngor yn monitro er mwyn sicrhau tryloywder o ran perfformiad ariannol; byddai’n rhaid i’r cwmni ufuddhau i unrhyw gais gan y Cyngor am wybodaeth ariannol

·         wrth drafod a fyddai unrhyw dargedau newydd wedi’u pennu gan y Cyngor yn berthnasol i’r cwmni newydd, soniwyd y byddai gofyn i’r Cyngor ei gytuno â’r cwmni drwy’r cynllun busnes pe byddai’n dymuno pennu targedau penodol i’w cyflawni; o ran adolygu perfformiad, câi manylion y cwmni newydd eu cynnwys yn Adolygiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor, a oedd yn ymdrin â’r holl wasanaethau’r oedd y Cyngor yn gyfrifol amdanynt (gan gynnwys rhai a gomisiynwyd)

·         yn ôl pob tebyg roedd y sail resymegol ar gyfer yr amcan i ‘hyrwyddo swyddi a chryfhau’r economi leol’ wedi’i gynnwys er mwyn rhoi sicrwydd nad oedd bwriad cwtogi ar swyddi, ond yn hytrach eu diogelu a’u hybu, a chydnabod fod cyfleusterau mewn rhai rhannau o’r sir yn allweddol o ran gweithgarwch economaidd ac adfywio

·         gallai pwyllgorau craffu alw i mewn unrhyw faterion ynglŷn â’r cwmni newydd, ac esboniodd y Pennaeth Cyllid y byddai Swyddfa Archwilio Cymru yn archwilio elfennau o berfformiad ariannol y cwmni a gâi eu cynnwys yn natganiad cyfrifon y Cyngor.  Byddai gan y cwmni ei archwilwyr ei hun hefyd

·         mater i’r Cyngor oedd penodi Bwrdd Cyfarwyddwyr, gan fod a wnelo hynny â chyfansoddiad y cwmni newydd, a chyflwynid adroddiad i’r Cyngor ym mis Medi yn ceisio cadarnhad o aelodaeth y Bwrdd.

 

Gan ystyried yr angen i ddarllen yr holl ddogfennau gyda’i gilydd, cytunwyd i ddiwygio’r argymhelliad fel ei fod hefyd yn cynnwys mabwysiadu’r Cytundeb Aelodau.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn argymell i’r Cyngor gefnogi mabwysiadu’r Erthyglau Cymdeithas drafft a Chytundeb Aelodau ar gyfer y Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol Cyfyngedig drwy Warant nid er elw fel yr amlinellwyd yn atodiadau’r adroddiad.

 

Yn y fan hon (11.45 a.m.)  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

STRATEGAETH ARIANNOL TYMOR CANOLIG 2019-23 pdf eicon PDF 292 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn cyflwyno’r fersiwn diweddaraf a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (2019-23) er cymeradwyaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019/23 (Atodiad 1 yn yr adroddiad) a nodi ei gyhoeddiad ar wefan y Cyngor.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a’r fersiwn diweddaraf o Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-23 er cymeradwyaeth.

 

Roedd y Strategaeth yn nodi’r cyd-destun economaidd oedd yn sail ar gyfer tybiaethau cynllunio ariannol a goblygiadau posib i gyllidebau refeniw dros y tair blynedd nesaf.  Roedd hefyd yn nodi sut fyddai’r Cyngor yn ymdrin â sefyllfaoedd cyllidebol ac yn rhoi manylion o feysydd ehangach ariannol y cyngor, gan gynnwys balansau a chronfeydd wrth gefn, buddsoddiadau a benthyciadau, grantiau a gwariant cyfalaf.  Roedd hefyd yn nodi sut fyddai’r Cyngor yn ymdrin ag incwm.  Amlygwyd hefyd swyddogaeth ‘Bwrdd Ail-lunio Cyllideb y Cyngor’ yn y broses gyffredinol, o ran galluogi’r Cyngor i ateb yr heriau yn y dyfodol, yn unol â’r strategaeth.

 

Nododd y Cabinet fod y rhan helaeth o’r ddogfen eisoes wedi’i rannu â’r aelodau mewn amryw weithdai cyllideb, a’u bod yn rhoi rhywfaint o gyd-destun ac esboniad o’r tybiaethau ariannol.  Nodwyd hefyd y byddai angen adolygu’r ddogfen o bryd i’w gilydd a’i diwygio er mwyn adlewyrchu’r wybodaeth ddiweddaraf.  Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan gyfeirio at y gwaith oedd yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru am setliad tair blynedd drwy’r Gymdeithas Llywodraeth Leol.  Mewn ymateb i gwestiynau, esboniodd y Pennaeth Cyllid –

 

·         pe cynhelid Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant byddai’n gyfle i roi sicrwydd i’r holl adrannau sy’n gwario arian cyhoeddus (gan gynnwys gweinyddiaethau datganoledig) o ran eu cyllid am y tair blynedd nesaf, ac yn gyfle i Lywodraeth Cymru wneud yr un fath ar gyfer y meysydd yr oedd yn eu hariannu.

·         bod a wnelo’r Cyllidebau Atodol a gyhoeddwyd yr wythnos o’r blaen â chyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, ac felly y byddai’r grant cyfalaf cyffredinol wedi'i neilltuo yn debygol o gynyddu. Byddai yno hefyd fwy o gyllid ar gyfer gwella ffyrdd, ac efallai i hybu’r economi – byddai’r manylion penodol ynglŷn â chyllid pob awdurdod lleol yn dod cyn hir.  Nid oedd y Strategaeth yn sôn am y cyllid hwn gan nad oedd yn hysbys pan luniwyd y ddogfen.  Croesawodd yr Arweinydd y cyllid ychwanegol gan ddweud fod hyn yn newyddion da i Sir Ddinbych.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019/23 (Atodiad 1 i’r adroddiad) ac yn nodi ei gyhoeddiad ar wefan y Cyngor.

 

 

10.

ADRODDIAD ARIANNOL (ALLDRO ARIANNOL 2018/19) pdf eicon PDF 385 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Corfforaethol (copi’n amgaeedig), yn manylu ar y sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer 2018/19 a sut y bwriedir ymdrin â’r cronfeydd wrth gefn a’r balansau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn nodi’r sefyllfa alldro refeniw derfynol ar gyfer 2018/19;

 

 (b)      cymeradwyo'r driniaeth arfaethedig o gronfeydd a balansau wrth gefn fel y manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1, 2 a 3, a

 

 (c)       nodi manylion y trosglwyddiadau i ac o Gronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd fel y nodwyd yn Atodiad 4.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ar sefyllfa alldro refeniw derfynol 2018/19 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Tywyswyd yr aelodau drwy fanylion yr adroddiad a'r atodiadau.  Yn gryno, y sefyllfa alldro derfynol ar gyllidebau corfforaethol a gwasanaeth (gan gynnwys ysgolion) oedd tanwariant o £1.494 miliwn (0.77% o’r gyllideb refeniw net).  Roedd yr amrywiant ar gyfanswm y gyllideb yn danwariant o £0.481 miliwn.  Amlygwyd y prif feysydd i’w nodi, gan gynnwys gwell sefyllfa ariannol ar gyfer ysgolion (diffyg ariannol net o £0.171 miliwn, i lawr o £0.344 miliwn y llynedd), ynghyd â gwasgfeydd ar Wasanaethau Cymorth Cymunedol, Addysg a Gwasanaethau Plant, a Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd, a thrafodwyd y materion hynny ymhellach yn y cyfarfod.  Cyfeiriwyd at drosglwyddiadau rhwng cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a defnydd bwriadol o gyllid a oedd eisoes wedi’i neilltuo yn y gyllideb neu’i gymeradwyo.  Gan ystyried sefyllfa gyffredinol y gwasanaethau a’r cyllid corfforaethol oedd ar gael, cynigiwyd bod y gwasanaethau yn dwyn ymlaen y tanwariant net a restrwyd fel balansau gwasanaethau ymrwymedig er mwyn helpu i gyflawni strategaeth cyllideb 2018/19 a bodloni ymrwymiadau oedd yn bodoli eisoes.

 

Nododd y Cabinet y sefyllfa alldro, a rhoes y Cynghorydd Richard Mainon glod i reolaeth ariannol ragorol y gwasanaethau.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn nodi’r sefyllfa alldro refeniw derfynol ar gyfer 2018/19;

 

 (b)      cymeradwyo'r driniaeth arfaethedig o gronfeydd a balansau wrth gefn fel y manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1, 2 a 3; a

 

 (c)       nodi manylion y trosglwyddiadau rhwng Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd fel y nodwyd yn Atodiad 4.

 

 

11.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 438 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;

 

 (b)      nodi’r arbedion newydd a nodwyd o fewn y Gwasanaeth Priffyrdd ac Amgylchedd, a

 

 (c)       chymeradwyo dileu’r achos Ardrethi Annomestig Cenedlaethol  fel y nodir yn Atodiad 5 yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad a nodai’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chyllidebau gwasanaethau ar gyfer 2019/20, ynghyd â Llyfr Crynhoi’r Gyllideb 2019/20. Rhoes grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2019/20 oedd £198.538 miliwn (£194.418m yn 2018/19)

·        nodwyd fod angen arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £5.672 miliwn, gan gynnwys arbedion corfforaethol a nodwyd yn 2018/19 (£0.5 miliwn), arbedion ysgolion gwerth 2% (£1.32 miliwn) ac arbedion yn y gwasanaethau (£3.852 miliwn) a oedd yn cynnwys arbedion newydd o £42,000 yn y Gwasanaeth Priffyrdd a’r Amgylchedd.

·        nid oedd amrywiadau i'w hadrodd ar y cam hwn yn y flwyddyn ariannol, ond roedd nifer o risgiau i wasanaethau wedi’u nodi a oedd angen eu monitro'n ofalus.

·        rhoddwyd y wybodaeth gyffredinol ddiweddaraf ynghylch y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a’r Cynllun Cyfalaf Tai; ac

·        argymhellwyd cymeradwyo dileu Ardrethi Annomestig Cenedlaethol.

 

Holodd y Cynghorydd Joan Butterfield ble ellid dod o hyd i fanylion costau lleoliadau yn y sir ar gyfer y Gwasanaethau Oedolion a Phlant, er mwyn sicrhau gwerth am arian.  Esboniwyd fod Llyfr y Gyllideb yn cynnwys crynodeb flynyddol, ond roedd pob gwasanaeth unigol yn monitro lleoliadau penodol, a’r Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol oedd yn gyfrifol am hynny.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;

 

 (b)      nodi’r arbedion newydd a nodwyd o fewn y Gwasanaeth Priffyrdd ac Amgylchedd; a

 

 (c)       chymeradwyo dileu’r achos Ardrethi Annomestig Cenedlaethol fel y nodir yn Atodiad 5 i’r adroddiad.

 

 

12.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 290 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet a nododd yr aelodau eitem ychwanegol at fis Medi ynglŷn â Rheolau Gweithdrefnau Contractau.

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A o’r Ddeddf.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

13.

CYMERADWYO CYTUNDEB GOFAL YN Y CARTREF GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 199 KB

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiadau cyfrinachol) gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Cabinet Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth (copi ynghlwm) ynglŷn a chanlyniad yr ymarfer caffael diweddar ar gyfer Cytundeb Gofal yn y Cartref Gogledd Cymru a chymeradwyo a gwrthod rhai tendrau penodol a ddynodwyd o fewn y adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn cymeradwyo tendrau 23 o gyflenwyr ac yn gwrthod tendrau 2 gyflenwr am y rhesymau y manylir arnynt o fewn yr Adroddiad Argymhellion Dyfarnu Cytundeb Fframwaith (Atodiad 1 yn yr adroddiad), a

 

 (b)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried y Ffurflen Gomisiynu wreiddiol (Atodiad 2 yn yr adroddiad) a’r Asesiad o Effaith ar Les ar gyfer y tendr Gofal Cartref rhanbarthol (Atodiad 3 yn yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad a’r atodiadau cyfrinachol ynglŷn â chanlyniad yr ymarfer caffael ar gyfer Cytundeb Gofal Cartref Gogledd Cymru, a’r argymhelliad y dylid cymeradwyo rhai tendrau penodol a gwrthod rhai eraill.

 

Cyngor Sir Ddinbych fu’n arwain yr ymarfer caffael ar ran y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Hwn oedd yr ail ymarfer caffael a gynhaliwyd ar gyfer y Cytundeb, gan gynnig cyfle arall i dendrwyr er mwyn dod â mwy o ddarparwyr i’r sector gofal.  Darparwyd manylion y drefn gaffael, ac ar sail hynny argymhellwyd derbyn tendrau 23 o ddarparwyr, a gwrthod dau dendr am y rhesymau a nodwyd yn yr atodiad cyfrinachol i’r adroddiad.

 

Bu’r Cabinet yn trafod yr ymarfer caffael diweddaraf a chanlyniad y drefn honno, ynghyd ag argymhellion yr adroddiad a’r rhesymau, ac felly –

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      yn cymeradwyo tendrau 23 o gyflenwyr ac yn gwrthod tendrau 2 gyflenwr am y rhesymau a nodwyd yn yr Adroddiad Argymhellion Dyfarnu Cytundeb Fframwaith (Atodiad 1 i’r adroddiad); a

 

 (b)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried y Ffurflen Gomisiynu wreiddiol (Atodiad 2 i’r adroddiad) a’r Asesiad o Effaith ar Les ar gyfer y tendr Gofal Cartref rhanbarthol (Atodiad 3 i’r adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 [Yn y fan hon, gadawodd y Cynghorydd Richard Mainon y cyfarfod]

 

 

14.

PENODI CONTRACTWYR AR GYFER FFRAMWAITH CYNNAL A CHADW AC AILWAMPIO TAI GWAG

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn rhoi manylion am ganlyniad y broses gaffael ar gyfer y Fframwaith Tai Gwag ac argymell penodi contractwyr.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

 (a)      Penodi’r contractwyr fel yr argymhellir a manylir yn Nhabl 1, paragraff 3 yr adroddiad, sydd wedi cael ei werthuso yn unol â'r fethodoleg sgorio a phwysoli a fanylir o fewn y dogfennau tendro, ar gyfer Fframwaith Tai Gwag yn ôl y telerau a amlinellir o fewn yr adroddiad, ac

 

 (b)      ar gyfer Lot 1 a 2, dim ond pedwar contractwr sydd wedi cael eu dewis a chedwir yr hawl i ddefnyddio Sefydliad Llafur Uniongyrchol y Cyngor ar rai o’r gwaith unedau gwag; y bwriad yw defnyddio Sefydliad Llafur Uniongyrchol mewnol y Cyngor gyda chefnogaeth contractwyr enwebedig.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad cyfrinachol ynglŷn â chanlyniad y broses gaffael ar gyfer y Fframwaith Tai Gwag, a’r argymhellion ynghylch penodi contractwyr.

 

Wrth i denantiaid Gwasanaeth Tai’r Cyngor symud, daeth deuai oddeutu 250 o dai’n wag bob blwyddyn, ac fe gâi’r rheiny eu hadnewyddu yn ôl y safonau newydd ar gyfer eu gosod i denantiaid eraill.  Byddai Fframwaith Tai Gwag yn arbed costau ac amser o wneud gwaith ar dai gwag, ac yn galluogi’r Cyngor i wella’r gwasanaeth a chodi safonau.  Yn dilyn trefn gaffael gystadleuol roedd yn ofynnol i’r Cabinet benderfynu penodi’r contractwyr yn unol â’r telerau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Bu’r Cabinet yn trafod defnyddio is-gontractwyr, gan ystyried yr argymhelliad i benodi dau gwmni o’r tu allan i’r ardal.  Rhoddwyd sicrwydd o ran budd cymunedol a chyflogi gweithwyr lleol, a oedd wedi’u cynnwys yn y polisi caffael a’r broses dendro, a byddai monitro’n parhau yn hynny o beth.  Nodwyd hefyd, ar gyfer Lotiau 1 a 2, mai dim ond pedwar o gontractwyr a ddetholwyd gan mai’r bwriad oedd defnyddio’r Gweithlu mewnol a phenodi contractwyr dethol i’w gefnogi.  Ar sail awgrym gan y Cynghorydd Barry Mellor, cytunodd y swyddogion i ystyried dulliau o liniaru ar broblemau oedd a wnelont â gwylanod wrth adnewyddu tai yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD

 

 (a)      penodi’r contractwyr fel yr argymhellir a manylir yn Nhabl 1, paragraff 3 yr adroddiad, sydd wedi cael ei werthuso yn unol â'r fethodoleg sgorio a phwysoli a fanylir o fewn y dogfennau tendro, ar gyfer Fframwaith Tai Gwag yn ôl y telerau a amlinellir o fewn yr adroddiad; ac

 

 (b)      dethol dim ond pedwar o gontractwyr ar gyfer Lot 1 a 2, a chadw’r yr hawl i ddefnyddio Gweithlu Uniongyrchol y Cyngor ar gyfer rhywfaint o’r gwaith mewn unedau gwag; y bwriad oedd defnyddio Gweithlu mewnol y Cyngor a phenodi contractwyr dethol i’w gefnogi.

 

Soniodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill mai hwn oedd y tro olaf i Richard Weigh, y Pennaeth Cyllid, ddod i gyfarfod y Cabinet, a thalodd deyrnged i’w broffesiynoldeb a’r gwasanaeth gwerthfawr a roes i’r Cyngor am flynyddoedd lawer.  Diolchodd i’r Pennaeth Cyllid ar ran yr aelodau eraill, a dymuno’n dda iddo yn y dyfodol.  

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.50pm.