Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT SYLW Cadeiriwyd y
cyfarfod gan y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yn
absenoldeb yr arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Hugh
Evans Cofnodion: Y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Arweiniol dros yr
Economi a Llywodraethu Corfforaethol. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 20 Tachwedd 2018 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2018 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2018 i’w cymeradwyo. Materion yn codi – Tudalen 8, Cofnodion Eitem 4 – Cabinet 30
Hydref 2018 (Darpariaeth Safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr) – Roedd y Cynghorydd
Peter Scott yn werthfawrogol o’r arolwg ofalus o’r holl wybodaeth a dderbyniwyd
gan breswylwyr, y gymuned ehangach a’r sector fusnes mewn ymateb i’r
ymgynghoriad rhag-gynllunio ynglŷn â’r cynigion, ac fe edrychai ymlaen at
gyflwyniad yr adroddiad yng Ngwanwyn 2019. Roedd hefyd yn falch fod y Cabinet
yn gwerthfawrogi’r dyfnder teimlad a’r pryderon a gyflwynwyd. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2018 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. |
|
CORFF CYMERADWYO (SAB) DRAENIO CYNALIADWY (SuDS) PDF 334 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol dros Briffyrdd,
Cynllunio a Theithio Cynaliadwy (copi'n amgaeedig), ynghylch y gofyniad
deddfwriaethol i'r Cyngor gynnal rôl Corff Cymeradwyo (SAB) y System Draenio
Cynaliadwy (SuDS), a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddirprwyo pwerau i
swyddogion sefydlu a gweithredu’r SAB. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a)
yn nodi fod
Llywodraeth Cymru wedi dod ag Atodlen 3 ‘Draenio Cynaliadwy’ o Ddeddf Rheoli
Llifogydd a Dŵr 2010 i rym ar 1 Mai 2018, ac y bydd yn ofynnol yn ôl y
Ddeddf i’r Cyngor ddarparu gwasanaeth newydd o 7 Ionawr 2019 ymlaen, ac (b) yn cymeradwyo
dirprwyo pwerau i’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol sefydlu a
gweithredu’r SAB. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones yn manylu ar y gofyniad deddfwriaethol
i'r Cyngor gynnal rôl Corff Cymeradwyo (SAB) y System Draenio Cynaliadwy
(SuDS), ac yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddirprwyo pwerau i swyddogion
sefydlu a gweithredu’r SAB. Byddai
gofyn i'r Cyngor ymgymryd â rôl y SAB o 7 Ionawr 2019 yn dilyn rhoi Atodlen 3
Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 ar waith. Roedd y dull cyfredol o fynd
ati i reoli draenio dŵr wyneb ar gyfer datblygiadau newydd wedi profi’n
broblematig, gyda systemau draenio confensiynol yn aml yn gwaethygu llifogi
mewn mannau eraill. Roedd
y dull Systemau Draenio Cynaliadwy yn anelu at fynd i’r afael â rheoli dŵr
wyneb mewn ffordd wahanol ac o’r herwydd, at leihau’r perygl o lifogydd yn
ehangach. Roedd
Llywodraeth Cymru yn cymryd yn ganiataol y byddai’r gost o sefydlu a gweithredu
swyddogaethau SAB yn cael ei hunan-ariannu. Fodd bynnag, roedd perygl y
byddai’r costau o gyflawni’r swyddogaeth yn uwch na’r ffioedd a dderbyniwyd ar
gyfer ceisiadau a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth SuDS. Er mwyn lleihau’r perygl
hwnnw, y bwriad oedd i ddatblygu SAB cydweithredol rhanbarthol gydag awdurdodau
lleol yn Sir Y Fflint a Wrecsam, a sicrhau fod costau ac incwm y SAB yn cael eu
monitro yn ofalus. Cadarnhawyd
fod ceisiadau SAB yn rhedeg ochr yn ochr â’r broses ceisiadau cynllunio, ac yn
denu ffi ar wahân. Holodd
y Cynghorydd Mark Young ynghylch y peryglon a’r atebolrwydd oedd yn
gysylltiedig â’r rôl. Cadarnhawyd
na fyddai’r rôl SAB yn berthnasol i geisiadau ôl-weithredol ac yn dilyn ei roi
ar waith ar 7 Ionawr 2019 y byddai’r SAB yn ymgymryd â chytundebau cyfreithiol
â datblygwyr er mwyn gwarchod y Cyngor rhag risg ac atebolrwydd yn y dyfodol. Am ei fod yn ddeddfwriaeth
newydd, byddai cyfnod o ddysgu ac arfer, ond dylai’r cyfnod penderfyniad o wyth
wythnos ar geisiadau ddarparu digon o amser i roi’r trefniadau angenrheidiol yn
eu lle i sicrhau gwarchodaeth ddigonol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn nodi fod
Llywodraeth Cymru wedi dod ag Atodlen 3 ‘Draenio Cynaliadwy’ o Ddeddf Rheoli
Llifogydd a Dŵr 2010 i rym ar 1 Mai 2018, ac y bydd yn ofynnol yn ôl y
Ddeddf i’r Cyngor ddarparu gwasanaeth newydd o 7 Ionawr 2019 ymlaen, ac (b) yn cymeradwyo
dirprwyo pwerau i’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol sefydlu a
gweithredu’r SAB. |
|
CYNLLUN COMISIYNU ATAL DIGARTREFEDD / CEFNOGI POBL 2019-22 PDF 373 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod Arweiniol dros Les ac
Annibyniaeth (copi’n amgaeedig), yn ceisio cymeradwyaeth ymlaen llaw i Gynllun
Comisiynu Atal Digartrefedd / Cefnogi Pobl 2019 - 22 drafft, cyn ei gyflwyno
i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol ac i Lywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a)
yn cymeradwyo
drafft Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl / Atal Digartrefedd Sir Ddinbych ar gyfer
2019-22, cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol a
Llywodraeth Cymru fis Ionawr 2019, ac (c) yn cadarnhau ei
fod wedi darllen yr Asesiad o’r Effaith ar Lesiant yn Atodiad 2, ei ddeall a’i
ystyried fel rhan o'i benderfyniad. Cofnodion: Cafwyd
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feely yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar
gyfer Cynllun Comisiynu Atal Digartrefedd / Cefnogi Pobl 2019-22 Sir Ddinbych
cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru. Roedd
gofyn i'r Cyngor gyflwyno Cynllun Comisiynu bob tair blynedd a diweddariad
blynyddol i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol ym mis Ionawr bob blwyddyn. Darparai’r Cynllun Comisiynu
drosolwg o gynlluniau a blaenoriaethau ar gyfer 2019 – 22, yn ymwneud yn bennaf
â datblygiad gwasanaeth wedi’i gomisiynu ar gyfer Cefnogi Pobl. Roedd y Cynllun yn rhan
allweddol o ddarparu yn erbyn y Strategaeth Digartrefedd, gyda ffocws ar
ddatblygu gwasanaeth wedi’i gomisiynu a phum blaenoriaeth eang. Roedd Comisiynu yn rhan bwysig
o’r cynllun ac fe fyddai contractau yn cael eu ailfodelu a’u datblygu yn
barhaus er mwyn eu gwneud yn fwy hyblyg ac wedi eu teilwra at yr angen gyda
ffocws ar atal. Mae
manylion llawn y datblygiad Cefnogi Pobl wedi’i gyllido wedi eu cynnwys o fewn
y Cynllun. Roedd
y Cynllun wedi’i ddatblygu ar ôl ymgynghori'n helaeth ac roedd wedi ei ystyried
gan Bwyllgor Archwilio Partneriaethau pan gafodd ei argymell er cymeradwyaeth. Yn
ystod trafodaeth codwyd yr angen am dai cymdeithasol digonol, ac amlygwyd
achosion yn ymwneud â thai/digartrefedd er mwyn esbonio pwyntiau a phroblemau a
wynebir o'r cyfeiriad hwnnw. Wrth
ymateb i’r materion a godwyd a chwestiynau pellach a gododd o’r adroddiad,
nododd y Cynghorydd Bobby Feely a swyddogion – ·
fod gan y cyngor gyfundrefn
orfodi gadarn yn ei lle o ran tai, yn ogystal â phwerau i fynd i’r afael â
materion yn y sector rhentu preifat, ac y dylai unrhyw bryderon yn y meysydd
hynny gael eu cyfeirio at y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd er mwyn i’w
dîm ddelio â hwy; ·
fod y Tîm Atal Digartrefedd yn
gweithio â’r Tîm Gorfodi Tai er mwyn sicrhau mai landlordiaid cofrestredig yn
unig a ddefnyddir ac i adrodd ar faterion sy’n peri pryder. Roedd cysylltiadau
hefyd yn cael eu magu rhwng prosiectau Cefnogi Pobl wedi’u comisiynu a’r Tîm
Gorfodi Tai er mwyn sicrhau fod tai o safon dda. ·
Ehangwyd ar fentrau a gwaith
cyfredol i ymgysylltu â landlordiaid ag enw da o fewn y sector breifat er mwyn
eu cefnogi i ddarparu cartrefi i unigolion y mae angen llety brys, dros dro neu
barhaol arnynt. ·
fod digartrefedd yn fater
corfforaethol a bod nifer o wasanaethau’r cyngor yn rhan o’r gwaith o fynd i’r
afael â’r mater yn ogystal â’r Tîm Atal Digartrefedd ·
Rhoddwyd cydnabyddiaeth i
effaith polisïau cenedlaethol megis Diwygio'r Gyfundrefn Les, ac adroddwyd ar
fesurau i leihau’r effeithiau hynny ynghyd â mentrau sy’n derbyn cefnogaeth
Llywodraeth Cymru megis Prosiect Tai Yn Gyntaf Sir Ddinbych / Conwy. Roedd Cymorth Cymru yn
cynrychioli’r sector ac yn ymgyrchu ar eu rhan. ·
fod sicrwydd wedi ei ddarparu
na fyddai dyraniad cyllid y flwyddyn nesaf yn cael ei dorri, ond gyda rhybudd
bychan y dylid ymdrechu at arbed arian os oedd modd gwneud hynny. Fodd bynnag,
roedd posib y byddai materion yn codi ynglŷn â newidiadau i ddosbarthiad
grantiau yn y dyfodol ac effaith hynny wedyn ar y rhanbarthau amrywiol. · fod y Cyfrif Refeniw Tai wedi ei glustnodi o gyllid ehangach y cyngor er mwyn ei wario ym maes darparu gwasanaeth ar gyfer tenantiaid. Roedd prosiect cyfredol ar waith er mwyn cyfeirio rhywfaint o’r cyllid hwnnw tuag at ddarparu gwasanaeth ar gyfer llety dros dro ar frys a fyddai’n cael ei berchnogi a’i reoli gan y Cyngor i gynorthwyo wrth fynd i’r afael â phroblem ehangach digartrefedd. Yn ogystal â hyn, roedd y Tîm Atal Digartrefedd yn prydlesu nifer o eiddo gan Dai Cymunedol er mwyn darparu llety i ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
STRATEGAETH CYSYLLTEDD DIGIDOL GOGLEDD CYMRU A RHAGLEN RHWYDWAITH FFIBR LLAWN LLEOL PDF 222 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros yr
Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi’n amgaeedig), yn diweddaru’r Cabinet
ar y gwaith digidol a wnaed hyd yn hyn gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd
Cymru, a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer awdurdodi wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a)
yn mabwysiadu
Strategaeth Cysylltedd Gogledd Cymru, (b) yn cymeradwyo
swyddogaeth Cyngor Sir Ddinbych fel Corff Arweiniol y Prosiect Rhwydweithiau
Ffeibr Cyflawn ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ac yn cydsynio
i’r Cyngor sefydlu Cytundeb Rhwng Awdurdodau addas â’r cyrff eraill sy’n
bartneriaid ar y Prosiect, ac (c) yn rhoi awdurdod
i Gyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a’r Parth Cyhoeddus, mewn ymgynghoriad
â’r Swyddog Adran 151, y Swyddog Monitro a’r Arweinydd, i gytuno ar delerau
terfynol y Cytundeb Rhwng Awdurdodau. Cofnodion: Yn absenoldeb y Cynghorydd Hugh Evans, cafwyd
adroddiad gan y Cynghorydd Richard Mainon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r
Cabinet ynghylch gwaith digidol a gwblhawyd hyd yn hyn gan Fwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) ac yn gofyn am gymeradwyo awdurdodiadau ar
gyfer y gwaith sy’n mynd rhagddo. Roedd BUEGC wedi cymeradwyo Strategaeth Cysylltedd
Digidol ar gyfer y Rhanbarth ac roedd y rhaglen Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol yn
brosiect pwysig tuag at gyflawni’r strategaeth honno. Roedd y Bwrdd wedi cytuno i ddatblygu a
chyflwyno cais rhanbarthol i Gronfa Her Rhaglen Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol
Llywodraeth y DU ac mai Cyngor Sir Ddinbych fyddai’r awdurdod arweiniol ar
gyfer y prosiect. Roedd y cais Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol wedi ei gymeradwyo mewn egwyddor
gan Lywodraeth y DU, ac fel y safai pethau ar y pryd roedd y cynnig yn cynnwys
buddsoddiad o oddeutu £9 miliwn yn y rhanbarth. Byddai’r buddsoddiad yn cael ei gyfeirio tuag at
wella cysylltedd ar draws y sector cyhoeddus gan arwain at welliant ehangach y
rhwydweithiau sy’n gwasanaethu cymunedau. Gofynnwyd i’r Cabinet fabwysiadu’r Strategaeth
Cysylltedd Digidol yn ffurfiol a chymeradwyo rôl y Cyngor wrth gyflenwi’r
prosiect Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol. Amlygodd y Cynghorydd Mainon fanteision y prosiect
fyddai’n gosod rhwydwaith ffibr llawn ledled Gogledd Cymru gan gysylltu hyd at
400 o adeiladau cyhoeddus yn cynnwys ysgolion, llyfrgelloedd, swyddfeydd
llywodraeth leol ac a oedd hefyd yn cynnwys y Bwrdd Iechyd a meddygfeydd teulu. Roedd y prosiect yn dangos cam cadarnhaol
yn nhermau gosod isadeiledd ddigidol y mae dirfawr angen amdano yn y rhanbarth,
ac roedd Sir Ddinbych yn benodol mewn lle da i fanteisio ar hynny gyda 95 o'r
lleoliadau a fyddai’n cael eu diweddaru wedi eu lleoli o fewn y sir. Roedd potensial mawr hefyd am fanteision
ychwanegol i leoliadau eraill fel rhan o’r broses honno. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar
wella cysylltedd y sector cyhoeddus, ac roedd rhaglenni digidol eraill yn gweithio
ochr yn ochr â’r rhaglen hon i fynd i’r afael â gofynion digidol o fewn
sectorau eraill. Ychwanegodd y Swyddog Datblygu’r Economi a Busnes mai’r bwriad oedd cychwyn
ar y prosiect ym Mawrth 2019 i’w gwblhau ym Mawrth 2021. Roedd hon yn amserlen
heriol, ond o ystyried y llwybr caffael a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru, roedd
hyder y cyflawnid hyn. Croesawai’r Cabinet y prosiect, a nododd y
manteision cadarnhaol ar draws y rhanbarth. Mewn ymateb i gwestiynau hysbyswyd y Cabinet – ·
fod
cwmpas posib diweddariadau i adeiladau sector cyhoeddus wedi cael ei fanylu
arno yn y Strategaeth. Fodd bynnag, roedd yr Adran Ddigidol, Diwylliant,
Cyfryngau a Chwaraeon wedi gofyn yn ddiweddar am i safleoedd pellach gael eu
cynnig gyda golwg at ymestyn ffibr llawn ymhellach i ardaloedd gwledig, ac fe
fyddai arolwg yn cael ei gynnal i’r perwyl hwnnw. ·
yn
nhermau partneriaid iechyd, y byddai’r dechnoleg yn eu galluogi i foderneiddio
eu gwasanaethau a magu gwytnwch pellach. Tra y byddai modd iddynt ddewis cynnig
Wi-Fi mewn ardaloedd aros, ni fyddent dan orfod i wneud hynny. Byddai manteision enfawr hefyd i adeiladau
cyhoeddus eraill megis ysgolion a llyfrgelloedd. ·
y
byddai trefniadau craffu yn cael eu cynnal yn lleol yn ystod y cymal hwn ac y
gallai’r prosiect gael ei alw o flaen y Cyngor i’w graffu. Roedd potensial ar
gyfer craffu rhanbarthol ar brosiectau rhanbarthol yn ystod ail gyfnod y Bargen
Twf. Gwahoddwyd cwestiynau hefyd gan aelodau nad
oeddent yn rhan o’r Cabinet, ac ymatebodd y Cynghorydd Mainon a Swyddog
Datblygu’r Economi a Busnes iddynt fel a ganlyn – · mewn perthynas â galwadau am i adeiladau cymunedol eraill weld budd gan y prosiect, cadarnhawyd y gallai dosbarthiad adeiladau cymunedol/trefol llai eraill ar draws y rhanbarth fod ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd a wnaed
yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r
cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y
Cyngor fel a ganlyn - ·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2018/19 oedd £194.418m (£189.252m yn 2017/18) ·
roedd
amcanestyniad o orwariant o £0.964m ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol
·
rhoddwyd
manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £4.6m a gytunwyd arnynt
gan gynnwys y rhai hynny a oedd eisoes wedi eu cyflawni gyda’r dybiaeth y
byddai pob effeithlonrwydd/ arbedion yn cael eu cyflawni – byddai unrhyw
eithriadau yn cael eu hadrodd i'r Cabinet lle bo angen ·
amlygwyd
risgiau ac amrywiadau cyfredol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, a ·
darparwyd
y wybodaeth gyffredinol ddiweddaraf ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf
Tai a’r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol). Codwyd y materion canlynol wrth drafod – ·
Roedd cyllid ar gyfer y codiad
ym mhensiynau athrawon yn cael ei ystyried fel rhan o baratoadau’r gyllideb ar
gyfer y flwyddyn nesaf. Roedd
trafodaethau yn mynd rhagddynt rhwng Llywodraethau’r DU a Chymru mewn perthynas
â hyn, a tra y disgwylid y byddai’r goblygiadau o ran cost yn cael eu hariannu,
ni chafwyd cadarnhad o hynny hyd yma. ·
Holodd y Cynghorydd Arwel
Roberts ynghylch y potensial i glystyrau ysgolion gael mynediad at fudd-daliadau
cyllid cymunedol a godai o ddatblygiadau ffermydd gwynt, ac anogodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts bob clwstwr ysgolion a chyrff eraill i geisio
am gyllid ychwanegol a fyddai o fudd i’w cymunedau. Cadarnhaodd y Cynghorydd
Richard Mainon fod y Cyngor mewn lle da i gynorthwyo a chefnogi unrhyw grwpiau
a ddeuai ymlaen er mwyn rhoi achos da at ei gilydd a chynyddu’r siawns o
lwyddiant wrth geisio mynediad at y cyllid hwnnw. ·
Roedd cyfanswm cyllideb o
£23.813m ar gyfer Ysgol Ffydd newydd Y Rhyl (gwariant o £7.005m hyd yma, ac
amcan gwariant o £8.122m yn 2018/19 a £8.686m yn 2019/20). Roedd yr arian yn
cael ei dalu fesul cyfran trwy gydol cyfnod y contract yn ddibynnol ar ba bryd
y cyflawnwyd camau penodol yn y gwaith adeiladu. ·
Nid oedd unrhyw effaith ariannol
yn codi o benderfyniad y Gweinidog Addysg mewn perthynas ag Ysgol Llanbedr gan
fod y Cyngor wedi parhau i ariannu’r ysgol tra’n disgwyl y penderfyniad ac y
byddai’n parhau i wneud hynny – roedd penderfyniad y Cyngor yn seiliedig ar
leoedd gwag yn hytrach na materion yn ymwneud â chyllid. Bu newid i gòd trefniadaeth yr
ysgol, gwelwyd cynnydd yn nifer y disgyblion, ac ystyrid fod cynnig addysgol yr
ardal yn briodol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet
yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y
strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Ar y pwynt hwn (11.40 am) cymerodd yr aelodau egwyl am
luniaeth. |
|
BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET PDF 281 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sy’n amgaeedig, a nodi'r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Blaenraglen Waith y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nodwyd y byddai’r eitem a ganlyn yn cael ei hychwanegu at y rhaglen
waith ar gyfer mis Mehefin - Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru. PENDERFYNWYD nodi
Blaenraglen Waith y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar
y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i
diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
DYLUNIAD GWASANAETH AILGYLCHU A GWASTRAFF NEWYDD ARFAETHEDIG A GOFYNION ISADEILEDD CYSYLLTIEDIG (DEPO) I ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol dros
Briffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy (copi’n amgaeedig), sy’n manylu
ynghylch canlyniad y modelu a wnaed i nodi’r model gweithredu newydd gorau ar
gyfer gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, a cheisio penderfyniad aelodau ar
addasrwydd y dyluniad gwasanaeth newydd arfaethedig. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a)
yn cadarnhau ei
fod wedi darllen yr Asesiad o’r Effaith ar Lesiant yn Atodiad III, ei ddeall
a’i ystyried fel rhan o'i benderfyniad, (b) yn nodi bod yr
arbedion refeniw y rhagwelir (yn Adran 9 o’r adroddiad) y gellid eu cyflawni
drwy weithredu dewis B o ran dyluniad y gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu a’r
depo, yn fwy nag unrhyw rai eraill o’r dulliau gwasanaeth yr oedd WRAP wedi’u
modelu (Atodiad IV). (c) yn nodi bod y
manteision cymdeithasol a'r goblygiadau ariannol (Adran 9.7 o'r adroddiad) o
ddefnyddio'r trydydd sector ar gyfer casglu tecstilau ac Offer Trydanol ac
Electronig, ac yn argymell y dylid
parhau ac ehangu’r trefniant gyda Menter Gymdeithasol yn Sir Ddinbych ar
gyfer casglu'r deunyddiau hyn, eu hailddefnyddio a’u hailgylchu. (ch) yn cymeradwyo
dyluniad newydd y gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu fel y nodir yn Atodiad II
(A), gan weithredu glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer casglu gwastraff, ar yr
amod y bydd yr arbedion refeniw a ddisgwylir (am y saith blynedd gyntaf) rhwng
£500,000 a £750,000 o leiaf. Bydd tîm cyllid y Cyngor yn archwilio’r arbedion
refeniw a ddisgwylir cyn cyflawni unrhyw gam arwyddocaol o’r prosiect, fel
prynu tir, er enghraifft. (d) yn cymeradwyo’r
Polisi Casglu Gwastraff Cartrefi drafft yn Atodiad II (B) a luniwyd i gefnogi
gweithredu'r gwasanaeth arfaethedig a’i reoleiddio er mwyn cyflawni arbedion
refeniw a thargedau amgylcheddol. (dd) yn nodi bod
Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau £900,000 o gyllid cyfalaf yn 2018/19, £4 miliwn
yn 2019/20 a £3 miliwn arall yn 2020/21 ar gyfer gweithredu trefn casglu
deunydd ailgylchu gan ddidoli ar garreg y drws, ac yn rhoi cyfarwyddyd i’r
Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ymrwymo i wario £900,000 yn
2018/19 yn unol ag amodau a thelerau’r grant, fel y gellir hawlio’r arian yn
llawn. Dylai’r Aelodau nodi’r risg sydd wedi’i amlygu ym mharagraff 13.3 o'r
adroddiad, (e) yn cefnogi Dewis
B (depo canolog) ar gyfer gweithredu’r drefn newydd, ac yn rhoi awdurdod i’r
Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol feithrin cyswllt â’r Pennaeth
Cyfleusterau, Asedau a Thai wrth fynd ati i brynu’r tir sy’n angenrheidiol er
mwyn datblygu’r depo canolog, ar yr amod fod y pris yn rhesymol ac yn
adlewyrchu gwerth presennol tir o’r fath ar y farchnad, (f) yn rhoi caniatâd
i’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol gyflwyno achos busnes
ffurfiol, drwy Bartneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru, yn gofyn
i Lywodraeth Cymru ariannu elfen ychwanegol o Ddewis B (depo canolog), a fyddai’n
gostwng y swm o fenthyca darbodus sydd ei angen fel y nodwyd yn Adran 9.3 o'r
adroddiad, ac (g) yn cymeradwyo
Dewis A (dau safle) fel cynllun wrth gefn, ac yn rhoi awdurdod i’r Pennaeth
Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ddal ati i ddatblygu’r costau a’r
ffynonellau cyllid gyda’r nod o droi at Ddewis A pe na fyddai’r Cyngor yn medru
prynu’r tir sy’n angenrheidiol ar gyfer Dewis B (y dewis a ffefrir). Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Brian Jones, yn manylu ynghylch canlyniad
y modelu a wnaed i nodi’r model gweithredu newydd gorau ar gyfer gwasanaethau
gwastraff ac ailgylchu, ac yn ceisio penderfyniad aelodau ar addasrwydd y
dyluniad gwasanaeth newydd arfaethedig a’r gofynion depo cysylltiedig. Nododd
y Cynghorydd Jones fod y cynnig yn canoli ar welliant amgylcheddol ac roedd
manteision yn cynnwys lleihad yn ôl troed carbon y gwasanaeth, creu mwy o
ailgylchu, a gwella ansawdd deunydd ailgylchadwy. Roedd Llywodraeth Cymru wedi
gosod targed ailgylchu o 70% erbyn 2025, gyda’r disgwyl y byddai’r targed yn
codi i 80% yn y dyfodol; ac roeddent wedi ymrwymo £7.9m tuag at y gwasanaeth
arfaethedig a fyddai’n cael ei ddefnyddio i ddatblygu’r isadeiledd
angenrheidiol i alluogi’r newidiadau i’r gwasanaeth. Byddai’r cynnig hefyd yn
golygu arbedion o £500k o leiaf ac yn creu oddeutu 20 o swyddi. Pe cymeradwyid dyluniad newydd
y gwasanaeth, rhagwelid na fyddai unrhyw newidiadau yn digwydd nes 2020 ar y
cynharaf. Byddai’r
dyluniad gwasanaeth newydd yn golygu y byddai’r mwyafrif o breswylwyr yn newid
i wasanaeth ailgylchu didoli ar garreg y drws wythnosol, a gwasanaeth bob
pedair wythnos ar gyfer gweddill y gwastraff nas gellir ei ailgylchu. Byddai gwasanaeth wythnosol am
ddim ar gyfer casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol (cewynnau a gwastraff
anymataliaeth) yn cael ei gyflwyno ynghyd â gwasanaeth bob pythefnos ar gyfer
dillad ac eitemau trydanol bychain. Roedd y datrysiad mwyaf
manteisiol yn economaidd hefyd yn gofyn am fuddsoddiad mewn isadeiledd depo, ac
amlinellai'r adroddiad y datrysiad depo a ffafrid – Opsiwn B (depo canolog)
gydag Opsiwn A (opsiwn dwy safle) fel cynllun wrth gefn – ac yn cynnig sut y
gellid ariannu’r gofynion hynny. Croesawai’r Cabinet effaith gadarnhaol y cynigion ar yr amgylchedd, ac roedd yn falch o nodi ehangiad y gwasanaeth ailgylchu i annog arferion ecogyfeillgar. Yng ngoleuni’r gallu ailgylchu uwch a fyddai’n cael ei gynnig i breswylwyr, ystyriwyd fod y cynnig i newid i wasanaeth bob pedair wythnos ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn ddigonol ond nodwyd y gellid darparu biniau mwy pe bai hynny yn briodol. Amlygodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts nifer o faterion a godwyd gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau a oedd wedi rhoi gwell eglurder o ran y gwasanaeth newydd arfaethedig yn cynnwys y gost i dai/aelwydydd newydd; y gwasanaeth casglu wythnosol newydd ar gyfer cewynnau; delio a gwastraff anifeiliaid anwes a thrafodaethau ag aelwydydd unigol fesul achos. O ganlyniad i’r adolygiad gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau, roedd y ffioedd arfaethedig am gynhwysyddion bellach wedi cael eu tynnu o’r polisi drafft a byddid yn parhau i ddarparu pob cynhwysydd i aelwydydd yn rhad ac am ddim, yn cynnwys tai yn cael eu hadeiladu o’r newydd. Ystyriai'r Cabinet fod ymgysylltu â’r cyhoedd a strategaeth gyfathrebu effeithiol ac amserol i addysgu a hysbysu preswylwyr ynghylch rhoi’r gwasanaeth newydd ar waith o’r pwys mwyaf, a chafwyd sicrwydd i’r perwyl hwnnw gan y Cynghorydd Brian Jones a’r swyddogion. Nodwyd fod rhai ardaloedd a oedd yn profi’n anodd ymgysylltu â hwy, ond roedd swyddogion yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â'r problemau yn yr ardaloedd hynny cyn rhoi’r prosiect ar waith er mwyn rhoi sylfaen gadarn i’r Cyngor wrth fynd ati i weithredu’r newidiadau. Cydnabuwyd fod rhai achosion penodol lle y byddai gofyn i breswylwyr barhau i ddefnyddio sachau neu lle y byddai angen casgliadau mwy mynych, a bod materion eto i fynd i’r afael â hwy yn nhermau mynediad a thipio anghyfreithlon ayyb. Cafwyd trafodaeth hefyd ar oblygiadau ariannol, a chyfeiriodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill at waith modelu ariannol cadarn a chraffu trwyadl a wnaed ar yr achos busnes gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ... view the full Cofnodion text for item 10. |