Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd
Meirick Davies – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 5 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Brian Jones – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 8 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Tony
Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 8 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Julian Thompson-Hill – Cysylltiad Personol - Eitem 5 ar y Rhaglen. Cofnodion: Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitemau ar y rhaglen - Y Cynghorydd
Meirick Davies –Eitem 5 - oherwydd ei fod yn Gadeirydd Awdurdod Tân Gogledd
Cymru Y Cynghorydd
Julian Thompson-Hill – Eitem 5 – Cyfarwyddwr Data Cymru Cynghorydd Tony
Thomas – Eitem 8 – Cynghorydd Tref y Rhyl a Chynghorydd Sir. Cynghorydd Brian
Jones – Eitem 8 – Aelod o Grŵp Busnes/Cynghorydd Tref y Rhyl a Chynghorydd Sir. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn - (a) cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2018 (copi’n amgaeedig), a (b) cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Hydref 2018 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
a chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 15 Hydref ac 30 Hydref
2018 fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet Arbennig a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2018 ar
chyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Hydref 2018. Materion yn codi - Cabinet Arbennig (15 Hydref 2018) - dywedodd y Cynghorydd Brian Jones fod diwedd y
cyfarfod wedi’i gofnodi fel 6.10pm a’i fod yn teimlo y byddai’n ddoethach
defnyddio’r cloc pedair awr ar hugain er mwyn osgoi unrhyw ddryswch. Cabinet (30 Hydref 2018) – Tudalen 16, Eitem 4 yn y Cofnodion –
Darpariaeth Safle Sipsiwn a Theithwyr – cyflwynodd y Cynghorydd Peter Scott
safbwyntiau busnesau Parc Busnes Llanelwy a oedd wedi gwrthwynebu’r cynnig i
leoli’r safle yn Green-gates Farm East, Llanelwy, gan gyfeirio at dystiolaeth o
aflonyddu, difrod a materion diogelwch a brofwyd yn flaenorol yn y lleoliad
hwnnw. Amlygodd hefyd effaith niweidiol
y cynnig o ran y gallu i gadw busnesau ar y Parc Busnes ac i ddenu busnesau
newydd yno yn y dyfodol. Erfyniodd y
Cynghorydd Scott ar y Cabinet i ddefnyddio unrhyw ddylanwad sydd ganddynt dros
yr ymgynghoriad cyn-cynllunio er mwyn sicrhau na fydd dyfodol Parc Busnes
Llanelwy'n cael ei beryglu. Dywedodd yr Arweinydd y cafodd y Cabinet eu
cynrychioli’n dda gan yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Tony Thomas, mewn
cyfarfodydd cyhoeddus a gyda’r sector busnes mewn perthynas â’r cynigion ac y
byddai'r holl bryderon yn cael eu hystyried.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Thomas ei fod wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Barc Busnes Llanelwy ac
wedi gwrando ar ac ystyried eu safbwyntiau. Dywedodd fod y cam cyn-cynllunio ar
y gweill ac y byddai'n dod i ben ar 25 Tachwedd 2018. PENDERFYNWYD derbyn
a chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 15 Medi 2018 ac 30 Hydref
2018 fel cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD AR BERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 2 – 2018-19 PDF 350 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau
Strategol (copi wedi’i amgáu) yn rhoi diweddariad ar gyflawni Cynllun
Corfforaethol 2017-2022 ar ddiwedd chwarter 2 2018 - 19. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun
Corfforaethol ar ddiwedd chwarter 2 o 2018/19. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i
aelodau ar ddarpariaeth Cynllun Corfforaethol 2017-22 ar ddiwedd Chwarter
2 2018–19 . Roedd
yr adroddiad yn cynnwys tair prif elfen - ·
Crynodeb Gweithredol – yn nodi
cyraeddiadau ac eithriadau allweddol gyda dau ddarn o sylwebaeth ar gyfer pob blaenoriaeth:
·
Adroddiad chwarterol llawn ar
berfformiad a chynnydd y rhaglen – wedi’i gynhyrchu o System Rheoli Perfformiad
Verto ac yn darparu asesiad yn seiliedig ar dystiolaeth o’r sefyllfa bresennol.
·
Crynodeb o’r prosiectau sy’n
cael eu rheoli o dan bob Bwrdd Rhaglen – Cymunedau a’r Amgylchedd a Phobl Ifanc
a Thai. Roedd
perfformiad fel y byddai disgwyl iddo fod ar gam mor gynnar o ystyried yr
amseroedd a bennwyd ar gyfer gwelliannau. Roedd dwy flaenoriaeth wedi’u
hasesu fel rhai ar gyfer gwella, sef Cymunedau Gwydn a Phobl Ifanc, sy’n gofyn
am fwy o fewnbwn gan bartneriaid allanol ac nad ydynt o dan reolaeth
uniongyrchol y Cyngor. Mae’r tair blaenoriaeth arall - Tai, Cymunedau
Wedi'u Cysylltu â’r Amgylchedd yn parhau i fod ar lefel dderbyniol. Roedd cynnydd ar draws y blaenoriaethau wedi’i
asesu fel bod yn dda a rhoddwyd manylion y prosiectau a reolir gan y ddau Fwrdd
Rhaglen gan amlygu'r gwahanol gamau y maent wedi'u cyrraedd. Roedd un prosiect wedi’i
wrthod a’i gau oherwydd nad oedd y Bwrdd yn ystyried y byddai’n cyflawni ei
amcanion, sy'n dangos cadernid y broses asesu. Arweiniodd Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol yr aelodau drwy’r meysydd
blaenoriaeth yn yr adroddiad a thynnodd sylw at sawl maes o arfer da gan
ymhelaethu ar ddatblygiadau’r prosiect mewn meysydd allweddol. Ychwanegodd y Cynghorydd
Thompson-Hill y caiff adroddiadau rheolaidd eu cyflwyno i’r Pwyllgor Craffu fel
rhan o’r broses fonitro er mwyn iddynt ystyried a oes angen ymchwilio ymhellach
i rai meysydd. Wrth
ystyried yr adroddiad, trafododd yr Aelodau’r materion canlynol – ·
o ran y prosiect i ddod a 500 o dai gwag yn ôl
i ddefnydd, ystyriwyd bod 500 yn darged y byddai modd ei gyrraedd ond ei fod er
hynny yn heriol o ystyried lefelau newidiol tai gwag - nodwyd fod cynnydd yn
unol â’r targed. ·
soniodd yr Arweinydd am
bwysigrwydd Cynllun Corfforaethol uchelgeisiol ac roedd yn falch fod y Cyngor
wedi dal gafael ar ei uchelgais ac wedi cynnal momentwm a’r ymrwymiad i
drigolion i lwyddo er gwaethaf yr hinsawdd ariannol – ar ôl gosod y
blaenoriaethau roedd cynnydd da’n cael ei wneud o ran eu cyflawni. ·
nodwyd ymgysylltiad aelodau'r
Cabinet â’r
Byrddau Rhaglen a sefydlwyd i ganolbwyntio ar flaenoriaethau a darpariaeth
prosiectau, ynghyd â'r
crynodeb allweddol o brosiectau ar gyfer gwneud gwelliannau a oedd wedi’u
cynnwys fel atodiad i'r adroddiad - bu peth trafodaeth ar rinweddau cryfhau
cysylltiadau gyda’r rhai nad ydynt yn aelodau o’r cabinet yn ychwanegol at y
monitro rheolaidd gan y Pwyllgor Craffu a’r Adroddiad Gwelliant Blynyddol i’r
Cabinet. Cytunodd
y Prif Weithredwr y byddai’n trafod gyda’r Aelod Arweiniol a fyddai lledaenu
neu ddosbarthu gwybodaeth ymhellach yn ychwanegu gwerth at y broses bresennol. · Pwysleisiodd y Cynghorydd Mark Young bwysigrwydd sicrhau parhad yn y gwaith cynnal a chadw ar y systemau amddiffyn rhag llifogydd presennol, a rhoddwyd sicrwydd bod yr elfen hon yn cael ei hystyried fel busnes arferol, a bod rhaglen o waith cynnal a chadw wedi'i sefydlu - nod y Cynllun Corfforaethol yw gwella’r ddarpariaeth bresennol yn hytrach na delio â materion cynnal a chadw bob dydd. Mewn perthynas â chynlluniau ac astudiaethau amddiffyn rhag llifogydd, nodwyd bod y gwaith yn parhau gyda phartneriaid. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones mewn perthynas â’r adroddiad annibynnol i’r llifogydd yn Ffordd Derwen, Y Rhyl, cadarnhaodd y Cynghorydd Brian ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd a wnaed
yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn rhoi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a gwybodaeth am gynnydd yn
erbyn y strategaeth gyllidol gytunedig. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel
a ganlyn - ·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2018/19 oedd £194.418m (£189.252m yn 2017/18). ·
rhagamcanwyd
gorwariant o £1.292m ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol ·
rhoddwyd
manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd cytunedig gwerth £4.6m gan
gynnwys y rhai hynny a oedd eisoes wedi eu cyflawni gyda’r dybiaeth y byddai
pob effeithlonrwydd/ arbediad yn cael eu cyflawni – byddai unrhyw eithriadau yn
cael eu hadrodd i'r Cabinet lle bo angen. ·
amlygwyd
risgiau ac amrywiadau cyfredol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, a ·
darparwyd
y wybodaeth gyffredinol ddiweddaraf ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf
Tai a’r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol). Soniodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill am y
meysydd risg arferol ond cadarnhaodd na fu fawr o newid yn y ffigyrau ers yr
adroddiad i’r cyfarfod diwethaf. Ychwanegodd y Prif Weithredwr nad oedd yr heriau cysylltiedig â Chludiant Ysgolion a Gwasanaethau Plant
yn unigryw i Sir Ddinbych ac mai'r rheswm y tu ôl iddynt oedd cynnydd mewn galw. Cafwyd sicrwydd fod swyddogion
wedi craffu’n fanwl ar y pwysau hwn y byddai angen delio ag o ochr yn ochr â'r
setliad ariannol gwael ar gyfer 2019/20. Codwyd y materion canlynol yn ystod y drafodaeth – ·
Cyfeiriodd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts at y pwysau ar gludiant ysgol, sef bron £600k, ond yn y
cyd-destun hwn dywedodd fod Cyngor Sir Powys yn gwario oddeutu £68k y diwrnod
(£12.5m y flwyddyn) ar gostau cludiant. ·
Rhoddodd sicrwydd ynghylch
darbodaeth wrth weithredu’r meini prawf cymhwysedd am gludiant ysgol ac
eglurodd elfennau disgresiwn y polisi. Nid oedd yn hyrwyddo
adolygiad o’r elfennau anstatudol gan ei fod yn credu y byddai hynny’n arwain
at effaith arwyddocaol ar ddysgwyr.
Mae’r Cyngor wedi gwneud yr ymdrechion gorau dros y blynyddoedd diwethaf
i ailstrwythuro gwasanaethau gan ganolbwyntio ar wytnwch er mwyn lleihau
cyllidebau heb effeithio ar ddefnyddwyr gwasanaethau, ond mynegwyd pryderon na
fydd efallai’n bosibl fforddio’r amddiffyniad hwnnw yn y dyfodol Mewn ymateb i gwestiynau
ynglŷn â’r
posibilrwydd o gael arian ychwanegol, yn benodol ar gyfer gofal cymdeithasol,
dywedodd y Cynghorydd Thompson-Hill fod £30m ychwanegol wedi'i gynnwys yng
nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal cymdeithasol ar linell y
gyllideb iechyd; roedd awdurdodau lleol yn lobio am beth o'r cyllid hwnnw. O safbwynt clustnodi elfen
ganlyniadol Cyllideb Hydref y DU nid
oedd yn hysbys eto a fyddai’n arwain at unrhyw arian ychwanegol ar gyfer
llywodraeth leol. Disgwylir y cyhoeddiad am y
setliad terfynol ar 19 Rhagfyr. Soniodd yr Aelodau eto am yr anawsterau
gyda chynllunio ariannol y dyfodol yng
ngoleuni'r ansicrwydd ynghylch
cyllidebau a chyhoeddiad hwyr y setliad terfynol. Dywedwyd fod Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru yn dal i lobio Llywodraeth Cymru ar y pwynt hwn ·
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mark
Young at gyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru bod £15m wedi’i glustnodi ar
gyfer datblygiad proffesiynol athrawon, a chadarnhaodd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts ei fod wedi codi’r mater gyda’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty
Williams. Nododd mai ei farn ef, o ystyried bod colli swyddi addysgu'n
bosibilrwydd gwirioneddol, oedd y dylai awdurdodau lleol gael caniatâd i ddosbarthu
cyllid addysg ar sail angen, fyddai’n fwy buddiol i ysgolion na chlustnodi
gwariant yn benodol. Roedd
yr Ysgrifennydd Addysg wedi ymateb drwy ddweud fod undebau’r athrawon yn fodlon
â’r dyraniad ar gyfer hyfforddiant. · mewn ymateb i gwestiynau am gontract cynnal a chadw Pont y Ddraig cafwyd eglurhad am faterion perthnasol i’r gwasanaeth a chostau trwsio ac eglurwyd y byddai angen ail drafod y contract cynnal a chadw er mwyn rhagweld costau’r dyfodol a ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 294 KB Derbyn Rhaglen Gwaith
i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm, a nodi'r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet i’w
hystyried. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar
y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i
diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
DYFARNU GRANT ER MWYN CAFFAEL EIDDO AR RODFA'R GORLLEWIN A SUSSEX STREET YN Y RHYL Ystyried
adroddiad cyfrinachol ar y cyd gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd y Cyngor
ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol a Julian
Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi
wedi’i amgáu) yn ceisio cymeradwyaeth i dderbyn cynnig o gyllid grant gan
Lywodraeth Cymru i gaffael eiddo ar Rodfa’r Gorllewin a Sussex Street yn y
Rhyl. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn cymeradwyo derbyn cyllid grant a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru i brynu
eiddo ar Rodfa'r Gorllewin a Sussex Street yn y Rhyl sef safle hen westy’r
Savoy a Marchnad, Theatr a Gwesty’r Frenhines cyn belled a bo’r caffaeliad
arfaethedig, gan gynnwys unrhyw gostau refeniw rhagarweiniol, yn cael eu
hariannu’n allanol, a (b) chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar
Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorwyr Hugh Evans a Julian Thompson-Hill adroddiad cyfrinachol yn gofyn
am gymeradwyaeth y Cyngor i dderbyn cynnig o arian grant gan Lywodraeth Cymru
ar gyfer caffael eiddo ar Rodfa’r Gorllewin a Sussex Street yn y Rhyl. Roedd
y Cabinet wedi cymeradwyo prynu’r adeiladau yn Ebrill 2018 yn amodol ar gyllid
allanol ar gyfer y costau caffael a dim costau refeniw cysylltiedig i'r Cyngor. Roedd Llywodraeth Cymru yn awr
wedi cadarnhau cyllid grant cychwynnol o £2.5m er mwyn galluogi'r Cyngor i
symud ymlaen gyda'r pryniannau ac ymrwymiad mewn egwyddor i roi £2.5m
ychwanegol i gynorthwyo ag ailddatblygiad y safleoedd. Dywedodd yr Arweinydd fod
ailddatblygiad arfaethedig y safle yn brosiect allweddol yn adfywiad y Rhyl ac
y byddai’n dod ag eiddo adfeiliedig yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol, gan ddarparu
cyfleoedd am swyddi a thwf busnesau, ac ysgogi rhagor o fuddsoddiad sector preifat
yn y dref. Soniodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill am y gwahaniaethau rhwng hyn a’r cynnig gwreiddiol a
ystyriwyd gan y Cabinet ym mis Ebrill 2018 a'r rhesymu y tu ôl i’r bwriad i
gaffael yr holl eiddo fel un eitem yn hytrach nag fel dwy eitem fel y nodwyd yn
flaenorol. Rhoddodd wybodaeth hefyd am fanylion yr arian grant a
gynigiwyd a’r goblygiadau ariannol, ynghyd â’r risgiau sy'n deillio o’r
cynnig. Nododd
y Cabinet fod y cynnig wedi cael cefnogaeth Grŵp Aelodau Ardal y Rhyl a’r
Grŵp Rheoli Asedau, ac roedd y Grŵp Buddsoddiad Strategol hefyd wedi
argymell symud ymlaen â’r
cynnig. Cydnabuwyd
hefyd rinweddau’r cynnig o safbwynt adfywio. Mewn trafodaeth fanwl atebodd
yr Aelodau Arweiniol a’r swyddogion gwestiynau pellach am y risgiau a
ddynodwyd, yr effaith ar adnoddau ariannol, argaeledd arian grant a’r
cytundebau/camau cyfreithiol angenrheidiol i symud ymlaen. Wedi ystyried manteision y
cynnig ac wedi cydnabod y risgiau er mwyn symud ymlaen - PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) Yn cymeradwyo derbyn y cynnig o arian grant gan Lywodraeth Cymru er mwyn
caffael eiddo yn Rhodfa’r Gorllewin a Sussex Streed y Rhyl sy’n cynnwys yr hen
Westy’r Savoy a Theatr, Marchnad a Gwesty’r Frenhines ar yr amod fod y caffael
arfaethedig gan gynnwys unrhyw gostau refeniw cychwynnol cysylltiedig yn cael
eu hariannu’n allanol, a (b) cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith
ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau; Daeth y cyfarfod i ben am 11.22pm. |