Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
MATER O HYSBYSIAD Roedd y
Cynghorydd Richard Mainon yn falch i longyfarch y Tîm Cyfathrebu a Marchnata ar
ennill Gwobr Aur y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus. Roedd
y wobr yn cydnabod rhagoriaeth mewn cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu a
thalodd y Cynghorydd Mainon deyrnged i ymroddiad y tîm, yn arbennig mewn
perthynas â’r cyfathrebu adeg yr eira, gan sicrhau negeseuon clir ac ymdrechion
i gyfathrebu testunau. Estynnodd yr Arweinydd longyfarchiadau’r
Cabinet i’r tîm ar eu llwyddiant haeddiannol. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Datganodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol yn Eitem Rhif 8 ar y
Rhaglen: Fframwaith Contract Rhwydwaith TGCh Ysgolion
am ei fod yn Llywodraethwr ac yn Rhiant. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol yn Eitem Rhif 8 ar y
Rhaglen: Fframwaith Contract Rhwydwaith TGCh Ysgolion am ei fod yn
Llywodraethwr ac yn Rhiant. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Medi 2018 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Medi 2018 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod Cabinet a
gynhaliwyd ar 25 Medi 2018 i’w cymeradwyo. Materion yn Codi – Tudalen 12, Eitem Cofnod 12: Darpariaeth
Safle Sipsiwn a Theithwyr – gofynnodd y Cynghorydd Peter Scott i’r Cabinet
newid eu penderfyniad ynghylch y cynnig i leoli’r safleoedd yn Green-gates Farm
East, Llanelwy a dod o hyd i safle yn sgil yr ymchwydd o wrthwynebiad lleol i’r
cynnig. Cyfeiriodd yr Arweinydd at y drafodaeth
gynhwysfawr ar y pwnc gan ystyried y gwaith roedd y craffu wedi ei wneud a
chadarnhaodd na fyddai'r penderfyniad yn newid. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd
fod y Cabinet wedi gwneud ei benderfyniad ar 15 Hydref 2018 ar ôl i’r
penderfyniad blaenorol gael ei alw i mewn ac nid oedd unrhyw broses fewnol
bellach i newid y penderfyniad hwnnw. Byddai’r safleoedd hynny bellach yn destun ymgynghoriad blaengynllunio a
byddai’r cyhoedd ac eraill yn gallu cyfrannu at y drafodaeth honno fel rhan o’r
broses gynllunio statudol. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Medi 2018 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
UNED CAFFAEL CYDWEITHREDOL PDF 297 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) sy’n ceisio cymeradwyaeth
Cabinet i barhau â’r trefniant caffael cydweithredol presennol â Chyngor Sir y
Fflint am dair blynedd arall. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) ymrwymo i dair
blynedd arall o Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Chyngor Sir y Fflint er mwyn i
Gyngor Sir Ddinbych gynnal gwasanaethau caffael cydweithredol a fydd yn
weithredol ar draws Sir Ddinbych a Sir y Fflint, a (b) bod gan Bennaeth
y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd awdurdod i gymeradwyo ac
ymrwymo i ffurf briodol o gytundeb gyda Chyngor Sir y Fflint. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i
barhau â’r trefniant caffael cydweithredol presennol gyda Chyngor Sir y Fflint
am dair blynedd arall. Cyflwynodd
y Rheolwr Gweithrediadau Cyfreithiol a Chaffael a oedd wedi bod yn y swydd ers
mis Medi 2017. Mae’r
Cabinet wedi cymeradwyo uno gyda Chyngor Sir y Fflint ym mis Mai 2014 i greu
Uned Caffael Cydweithredol gyda Sir Ddinbych yn gyflogwr er mwyn gwireddu nifer
o fendithion gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd ac arbedion maint, gan wella
capasiti a gwydnwch, a chynyddu perthnasoedd gyda chyflenwyr. Daeth y cytundeb i ben ym mis
Gorffennaf 2017 ac roedd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol wedi cytuno ar
estyniad i’r trefniant i alluogi comisiynu archwiliad ar y cyd a adroddwyd i’r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ym mis Mehefin 2018. Er fod yr adroddiad
archwilio wedi bod yn feirniadol, roedd yn hanesyddol i raddau helaeth ac roedd
nifer o’r materion wedi eu datrys yn dilyn penodiad y Rheolwr Gweithrediadau
Cyfreithiol a Chaffael a oedd hefyd wedi cynnig sefydlogrwydd i’r uned. Roedd cynllun gweithredu wedi
ei ddatblygu a rhoddwyd gwybod i’r Cabinet am fesurau i wella materion
llywodraethu oedd heb eu datrys ac annog ymrwymiad corfforaethol a gwleidyddol
i’r gwasanaeth a oedd yn cynnwys cryfhau trefniadau adrodd, craffu a monitro;
alinio strategaeth gaffael y ddau Gyngor, a mewnoli caffael ar y cyd o fewn
diwylliant y ddau Gyngor ar draws pob lefel ac ar lefel wleidyddol. Nodwyd y llwyddwyd i barhau i
gyflwyno’r gwasanaeth er mai dim ond chwarter nifer y gweithwyr fesul £1m o
wariant a argymhellir gan Lywodraeth
Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru sydd yna. Roedd yr uned yn cynnwys
swyddogion cymwys iawn yn gweithio gyda gwasanaethau i sicrhau fod caffael yn
cael eu cynnwys yn llawer cynharwch gan olygu fod pob gwasanaeth yn fwy
cyfarwydd â gofynion. Cydnabu’r
Cynghorydd Thompson-Hill fod angen rhagor o waith ond fod cynnydd cadarnhaol
wedi ei wneud ac roedd buddion go iawn wedi eu cyflawni. Mewn ymateb i gwestiynau,
roedd y Cynghorydd Thompson-Hill a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Adnoddau Dynol a Democrataidd - ·
cadarnhawyd y byddai Archwilio
Mewnol y cynhyrchu adroddiad dilynol yn rhoi manylion y cynnydd yn erbyn y
cynllun gweithredu ar gyfer ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
ym mis Ionawr. Roedd
y cynllun gweithredu yn cynnwys dyddiadau targed ar gyfer cwblhau yn
ddiweddarach yn y flwyddyn a fyddai’n arwain at adroddiad dilynol pellach i’r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i sicrhau cydymffurfiad llawn a chwblhau’r
cynllun gweithredu ac wedyn byddai trefniadau monitro ar gyfer y dyfodol yr
uned yn cael eu cytuno arnynt. ·
cadarnhau penderfyniad y
Cabinet mewn perthynas â’r dewisiadau dros ddarparu gorfodi troseddu
amgylcheddol ynghyd â chyfranogiad yr Uned Caffael Cydweithredol o fewn y broses
honno – yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd Caffael ar y Cyd, roedd cydweithwyr o
Sir y Fflint wedi bod yn agored i drafodaethau yn y dyfodol ar y posibilrwydd o
weithio ar y cyd isranbarthol. ·
hysbyswyd nad oedd y
feirniadaeth yn yr adroddiad yn ymwneud â maint yr uned na nifer y gweithwyr
ond roedd yn canolbwyntio ar sicrhau fod pob gwasanaeth yn ystyried caffael
cydweithredol ar y dechrau gyda chamau manwl i gyflawni'r nod honno ·
eglurwyd, wrth ystyried
arbedion a wireddir yn y dyfodol, er bod rhai arbedion yn hawdd i'w cyfrifo,
roedd yn anodd cyfrifo arbedion caffael eraill ac roedd gwaith yn mynd yn ei
flaen o ran sut i gyflawni'r manylyn hwnnw at ddibenion craffu a monitro yn y
dyfodol · rhoddwyd eglurhad o rôl y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol wrth sicrhau fod prosesau cywir ar waith ac y cyflawnir y cynllun gweithredu ac amlygwyd yr angen i sicrhau mecanwaith priodol ar gyfer monitro yn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a (b) nodi a chytuno
ar y defnydd o arian wrth gefn, tanwariant a ddygwyd ymlaen a rhyddhau arian at
raid, er mwyn helpu i liniaru'r pwysau cyllideb cyffredinol sy'n wynebu'r
Cyngor. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r
cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y
Cyngor fel a ganlyn - ·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2018/19 oedd £194.418m (£189252m yn 2017/18) ·
roedd
amcanestyniad o orwariant o £1.164m ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol
·
rhoddwyd
manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £4.6m a gytunwyd arnynt
gan gynnwys y rhai hynny a oedd eisoes wedi eu cyflawni gyda’r dybiaeth y
byddai pob effeithlonrwydd/ arbedion yn cael eu cyflawni – byddai unrhyw eithriadau
yn cael eu hadrodd i'r Cabinet lle bo angen ·
amlygwyd
risgiau ac amrywiadau cyfredol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, a ·
darparwyd
y wybodaeth gyffredinol ddiweddaraf ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf
Tai a’r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol). Canolbwyntiodd y drafodaeth ar lefel y gorwariant ar gyllidebau
gwasanaethau a phryderon i'r perwyl hwnnw o ystyried symudiad ffigyrau
canlyniad a ragolygwyd. Gofynnwyd i’r Cabinet gytuno ar y defnydd o arian wrth gefn, tanwariant
wedi’i ddwyn ymlaen, a rhyddhau arian at raid i helpu ariannu gorwariant mewn
gwasanaethau. Eglurodd y Prif Weithredwr fod y ffigyrau wedi eu cymell i raddau helaeth
gan bwysau galw na ellid fod wedi ei ragweld ac y byddai'n gweithio gydag uwch
arweinwyr ar fesurau tymor byr o fewn y flwyddyn i leihau gorwariant a byddai
ymgynghori llawn gydag Aelodau Arweiniol ar effaith ehangach y mesurau hynny. Amcangyfrifwyd ar hyn o bryd y byddai gorwariant o
£728,000 ar Wasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol (adroddwyd £98,000 ym mis
Medi) ac roedd prif bwyntiau’r drafodaeth yn cyfeirio at - ·
Cludiant i'r Ysgol – er gwaethaf dyraniad ychwanegol o £300,000
yn dilyn gweithredu’r polisi cludiant diwygiedig, nodwyd pwysau ychwanegol; roedd y pwysau
parhaus newydd ar gyfer 2018/19 yn dod i gyfanswm o £593,000 ac yn cael eu trafod ar hyn o bryd fel
rhan o’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2019/20 ymlaen. Cafwyd
ychydig o drafodaeth ynghylch a fyddai’n well gosod y gyllideb hon o fewn y
Gwasanaethau Addysg a Phlant er mwyn cael rhagor o eglurder ac atebolrwydd er
ei fod yn bwysau a gydnabuwyd a oedd angen ei ddatrys lle bynnag y byddai’n
cael ei osod. Eglurodd
Swyddogion y rhesymeg y tu ôl i’r safbwynt presennol o ystyried fod Addysg a
Gwasanaethau Plant yn cynnal y broses o asesu i bennu a oedd plentyn yn gymwys
i dderbyn cludiant i'r ysgol, ond roedd y trefniant comisiynu ar gyfer y rhai
hynny a oedd yn gymwys ar gyfer cludiant i'r ysgol yn cael ei gynnal gan y
Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol oherwydd yr arbenigedd a’r sgiliau oedd
eu hangen ar gyfer trafod y contractau ysgolion. Byddai Swyddogion yn cyfarfod
i drafod prif achosion y gorwariant, ac wedi hynny byddai’n gyfle da i ystyried
ble fyddai’r lle gorau i osod Cludiant i'r Ysgol. ·
Prosiectau Mawr - mae hyn wedi bod yn broblem dros y
blynyddoedd diwethaf. Roedd y prif reswm ynghylch y diffyg incwm yn ymwneud â faint o waith oedd ai angen a’r ad-daliad a oedd yn dod gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru. Cynigiwyd y dylid ryddhau dyraniad cyllideb o £140,000 o arian at raid a ddaliwyd yn ganolog i leddfu pwysau yn barhaus a dylid cadw £159,000 fel arian wrth gefn i helpu cyllido’r pwysau mewn blynyddoedd i ddod, a’i ryddhau i helpu ariannu pwysau arall yn y gwasanaeth. Eglurwyd nad oedd y swm a fuddsoddwyd yn rhwydwaith priffyrdd Sir Ddinbych o reidrwydd yn ymwneud â’r gwaith a gynhyrchwyd drwy'r Asiantaeth Gefnffyrdd, o ystyried bod contractwyr allanol ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 291 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm, a nodi'r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD Nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau/ diwygiadau canlynol - ·
Ail-lansio
Rhaglen Adfywio’r Rhyl – symudwyd o fis Tachwedd i’r flwyddyn newydd ·
Corff
Cymeradwy Systemau Draenio Cynaliadwy – ychwanegwyd at fis Rhagfyr ·
Adroddiadau
Cyllideb a Chynllun Cyfalaf – i’w ychwanegu ar gyfer mis Ionawr / Chwefror PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel
y’i diffinnir ym Mharagraffau 13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
FFRAMWAITH CONTRACT RHWYDWAITH TGCh YSGOLION Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol
Addysg, Plant a Phobl Ifanc (copi ynghlwm) yn ymwneud â chaffael rhwydweithiau
TGCh ysgolion Sir Ddinbych. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) cadarnhau eu bod
wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau, a (b) chytuno i’r
fframwaith er mwyn i ysgolion gaffael Gwasanaethau TGCh gan gyflenwyr cymeradwy
ac achrededig. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad cyfrinachol yn ymwneud â
chaffael rhwydweithiau TGCh ysgolion Sir Ddinbych. Rhoddwyd
gwybod i'r Cabinet am fwriad ysgolion i gaffael gwasanaethau TGCh o fframwaith
contractau cystadleuol a fyddai’n creu marchnad gaeedig o gyflenwyr cymeradwy
ac achrededig lle gallai ysgolion siopa'n ddiogel. Roedd TGCh Sir Ddinbych wedi
bod yn rhan o’r broses a rhoddwyd eglurhad a chafwyd trafodaeth bellach
ynghylch eu cyfranogiad posibl yn y dyfodol wrth ddarparu gwasanaethau drwy'r
fframwaith honno. Roedd
manylion y broses wedi cael eu cynnwys yn yr adroddiad ac ymatebodd yr Aelod
Arweiniol a’r Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant i gwestiynau i’r perwyl
hwnnw ynghyd â’r gweithredoedd i liniaru’r risgiau a nodwyd, y gwahanol
ddisgwyliadau a gofynion rhwng ysgolion a threfniadau monitro/ llywodraethu
wrth symud ymlaen. Nodwyd
fod caffael cydweithredol wedi ei ystyried ond o ystyried gwahanol ofynion ac
amserlenni contractau presennol, nid oedd unrhyw gynghorau eraill wedi medru
manteisio ar y caffael ar hyn o bryd. Cydnabu’r Cabinet ffafriaeth yr ysgolion i gaffael gwasanaethau TGCh
drwy fframwaith contract a chydnabuwyd bendithion y dull hwnnw o safbwynt
cysondeb, sicrhau ansawdd a gwerth am arian. O ganlyniad - PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a)
yn cadarnhau eu
bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1
yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau, ac (b) yn cytuno i’r
fframwaith er mwyn i ysgolion gaffael Gwasanaethau TGCh gan gyflenwyr cymeradwy
ac achrededig. Daeth y cyfarfod i ben am 11.40 a.m. |