Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Brian Jones – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Richard Mainon – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 13 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Tony Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Emrys Wynne – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 7 ar y Rhaglen

 

 

Cofnodion:

Cynghorydd Brian Jones – Eitem 5 ar y Rhaglen – Aelod o Grŵp Busnes y Rhyl

Cynghorydd Tony Thomas – Eitem 5 ar y Rhaglen – Aelod/Perchennog Busnes Grŵp BID

Cynghorydd Emrys Wynne – Eitem 7 ar y Rhaglen – aelod o’i deulu wedi’u cyflogi gan y Cyngor.

Cynghorydd Richard Mainon – Eitem 13 ar y Rhaglen – ei ferch wedi’i chyflogi gan Ymddiriedolaeth Castell Bodelwyddan yn y gorffennol.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 387 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2018 (copi’n amgaeedig).  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2018 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2018.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2018 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi.

 

 

5.

ARDAL GWELLA BUSNES Y RHYL pdf eicon PDF 428 KB

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Hugh Evans, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi’n amgaeedig) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ynglŷn â datblygu Ardal Gwella Busnes y Rhyl, ac yn ceisio cymeradwyaeth i’w sefydlu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'u hystyriaethau;

 

(b)       nodi cynnwys y Cynllun Busnes AGB (Atodiad 2) ac argymhelliad y Swyddog nad oes unrhyw sail i roi feto o dan Ddeddfwriaeth AGB Cymru (2005) (Atodiad 3) gan nad yw’n gwrthdaro ag unrhyw bolisïau lleol presennol nac yn gosod baich anghymesur ar fusnesau penodol yn yr ardal;

 

(c)        cytuno i gefnogi sefydlu’r AGB trwy bleidleisio 'o blaid' ym mhleidlais yr AGB mewn perthynas â phob un eiddo ardrethadwy cymwys sydd gan y Cyngor yn yr AGB, a

 

(d)       chytuno i roi awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Pharth Cyhoeddus i fwrw pleidleisiau mewn perthynas â phob eiddo ardrethadwy cymwys sydd gan y Cyngor yn yr AGB.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ar ddatblygiad Ardal Gwella Busnes y Rhyl (AGB) ac yn gofyn i’r aelodau gefnogi sefydliad yr ardal.

 

 Cafwyd ychydig o gefndir yn rhoi manylion am y gwaith gyda'r gymuned fusnes leol i bennu dichonolrwydd AGB yn  Rhyl ynghyd â'r cais i ddatblygu prosesau a materion cyfreithlondeb cysylltiedig â hyn.  Roedd y cam nesaf yn ymwneud â phleidlais bost er mwyn i fusnesau cymwys allu pleidleisio 'dros' neu 'yn erbyn' y cynnig AGB, gan nodi sut y byddai'n gweithredu (incwm arfaethedig, gwariant, yr ardal GB ei hun a mesuryddion perfformiad) a sut y byddai’r ardoll AGB yn cael ei wario.  Bod y Cabinet yn cytuno i gefnogi sefydlu’r AGB trwy bleidleisio 'o blaid' ym mhleidlais yr AGB mewn perthynas â phob un eiddo ardrethol cymwys sydd gan y Cyngor yn yr AGB.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd/eglurodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion -

 

·         y byddai Civica yn casglu’r ardoll ar ran y cwmni AGB a bod trafodaethau ar y gweill mewn perthynas â hyn - nid oedd cost y casglu wedi ei gadarnhau eto ond y cwmni AGB fyddai’n talu’r costau.

·         na fyddai’r gweithgareddau y byddai’r gymuned fusnes yn eu blaenoriaethu yn disodli gwasanaethau presennol y cyngor ond yn hytrach yn ychwanegu gwerth at y gwasanaethau hynny.

·         cafwyd diweddariad ar gynnydd o ran datblygu AGB Prestatyn.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau;

 

(b)       nodi cynnwys y Cynllun Busnes AGB (Atodiad 2) ac argymhelliad y Swyddog nad oes unrhyw sail i roi feto o dan Ddeddfwriaeth AGB Cymru (2005) (Atodiad 3) gan nad yw’n gwrthdaro ag unrhyw bolisïau lleol presennol nac yn gosod baich anghymesur ar fusnesau penodol yn yr ardal;

 

(c)        cytuno i gefnogi sefydlu’r AGB trwy bleidleisio 'o blaid' ym mhleidlais yr AGB mewn perthynas â phob un eiddo ardrethol cymwys sydd gan y Cyngor yn yr AGB, a

 

(d)       cytuno i roi awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi  a’r Parth Cyhoeddus i fwrw pleidleisiau mewn perthynas â phob eiddo ardrethol cymwys sydd gan y Cyngor yn yr AGB.

 

 

6.

AMRYWIO CONTRACTAU CANOLFANNAU AILGYLCHU GWASTRAFF CARTREF CYNGOR SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 384 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy (copi’n amgaeedig) ynglŷn â threfniadau gweithredu tair Canolfan Ailgylchu Gwastraff o’r Cartref y Cyngor yn y dyfodol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cytuno i ymestyn y contract presennol cymaint â dwy flynedd (hyd at 31 Mawrth 2021) gan ganiatáu trydydd flwyddyn wrth gefn (tan 31 Mawrth 2022);

 

(b)       awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i gyflwyno llythyr amrywio Contract i CAD Recycling i ymestyn y contract presennol ddwy flynedd (at 31 Mawrth 2021) gan gynnwys cymal toriad chwe mis yn caniatáu trydydd flwyddyn wrth gefn (at 31 Mawrth 2022).  Mae hyn yn caniatáu’r hyblygrwydd i gaffael gwasanaethau ar unrhyw adeg os yw’r Prosiect Cydweithio yn dod i ben yn gynt na’r disgwyl.  Mae hefyd yn rhoi digon o amser i wneud trefniant newydd, a

 

(c)        bod y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol yn rhoi gwybod am gynnydd a/neu ganlyniadau’r Prosiect Newid ar y cyd i’r Pwyllgor Craffu dim hwyrach na Rhagfyr 2019, ynghyd ag argymhellion ynglŷn â’r dewis a ffafrir ar gyfer comisiynu gwasanaethau HRC i’r dyfodol.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones adroddiad yn ymwneud â threfniadau gweithredu'r dyfodol ar gyfer tair Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref y Cyngor yn Rhuthun, Dinbych a'r Rhyl.

 

Bydd y contract presennol ar gyfer derbyn, cadw, trin a gwaredu gwastraff cartref mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref (CAGC) yn dirwyn i ben ar 31 Mawrth 2019. Argymhellwyd ymestyn y contract am ddwy flynedd arall a chaniatáu trydedd flwyddyn fel blwyddyn wrth gefn er mwyn galluogi’r Cyngor i gymryd rhan mewn ymarfer gyda Rhaglen Newid Cydweithredol WRAP Cymru ac Awdurdodau eraill Gogledd Cymru er mwyn gweld a oes cyfleoedd i wneud arbedion o weithrediadau CAGC ar draws y rhanbarth drwy gyd-gaffael a/neu aildrefnu gwasanaethau.

 

Trafododd y Cabinet gyda’r swyddogion rinweddau’r ymdriniaeth hon a fyddai’n galluogi parhad y contract presennol tra bo trafodaethau ynghylch dichonoldeb cydweithio rhanbarthol ar y gweill.  Byddai ymestyn y contract hefyd yn caniatáu rhagor o drafodaethau ar y model gwastraff newydd.  Y bwriad oedd ymrwymo i drefniant rhanbarthol yn y tymor canolig/hirdymor ar yr amod ei fod yn drefniant ariannol fuddiol.  Rhagwelwyd y byddai ymarferoldeb caffael ar sail ranbarthol yn hysbys o fewn y deuddeng mis cyntaf ac y byddai darpariaeth yn y contract i roi chwe mis o rybudd cyn terfynu’r contract a mynd allan i dendr.  Cynigiodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ddiwygiad i’r argymhelliad er mwyn cynnwys cyfeiriad penodol at y cymal chwe mis o rybudd, a chafodd hynny ei gymeradwy. 

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cytuno i ymestyn y contract presennol o ddwy flynedd (hyd at 31 Mawrth 2021) gan ganiatáu trydedd flwyddyn wrth gefn (tan 31 Mawrth 2022);

 

(b)       Awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i gyflwyno llythyr Amrywio Contract i CAD Recycling yn ymestyn y contract presennol ddwy flynedd (at 31 Mawrth 2021) gan gynnwys cymal toriad chwe mis yn caniatáu trydedd flwyddyn wrth gefn (at 31 Mawrth 2022).  Mae hyn yn caniatáu’r hyblygrwydd i gaffael gwasanaethau ar unrhyw adeg os yw’r Prosiect Cydweithio yn dod i ben yn gynt na’r disgwyl.  Mae hefyd yn rhoi digon o amser i wneud trefniant newydd, a

 

(c)        Bod y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol yn rhoi gwybod am gynnydd a/neu ganlyniadau’r Prosiect Newid ar y cyd i’r Pwyllgor Craffu dim hwyrach na Rhagfyr 2019, ynghyd ag argymhellion ynglŷn â’r dewis a ffefrir ar gyfer comisiynu gwasanaethau HRC i’r dyfodol.

 

 

7.

POLISÏAU CYFLOGAETH pdf eicon PDF 367 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol dros Safonau Corfforaethol (copi’n amgaeedig) yn argymell mabwysiadu nifer o bolisïau cyflogaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo’r polisïau cyflogaeth fel y nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer eu mabwysiadu yn y Cyngor, a

 

(b)       chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (atodiad i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mark Young adroddiad yn argymell mabwysiadu’r pedwar polisi cyflogaeth sydd wedi eu datblygu/hadolygu.  Roedd yr adroddiad yn manylu hefyd ar y ddau bolisi newydd ac yn amlygu newidiadau arfaethedig o fewn y polisïau presennol a'r rhesymau am hynny.  Ymgynghorwyd â’r Undebau ac maent yn fodlon â’r polisïau.

 

Y chwe pholisi yw -

 

(1)  Polisi Amser o’r Gwaith (cyfuniad o’r holl bolisïau sy’n ymwneud ag amser i ffwrdd).

(2)  Polisi Rhianta (cyfuniad o’r polisi mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, rhieni ac absenoldeb rhiant a rennir)

(3)  Polisi Apeliadau Corfforaethol (polisi diwygiedig)

(4)  Polisi Disgresiwn CPLlL a Bandio (polisi diwygiedig)

(5)  Polisi dyletswyddau Wrth Gefn, Ar Alwad a Cysgu i Mewn (Diwygiedig)

(6)  Polisi Mynd a Data Personol o Eiddo CSDd (Newydd)

              

Rhoddodd y Partner Busnes Arweiniol – Sefydliadau, grynodeb byr o bob polisi ac ymatebodd swyddogion i gwestiynau fel a ganlyn:

 

·          nid oedd unrhyw newidiadau arwyddocaol i’r polisïau ac eglurwyd y broses ymgynghori gyda’r undebau a’r aelodau.

·          roedd pawb yr ymgynghorwyd â nhw yn cytuno, nid oedd yr aelodau bellach yn rhan o’r broses apeliadau.

·         gellid talu hyd at bum niwrnod o wyliau gofalwyr bob blwyddyn o dan y polisi hwn, fodd bynnag roedd y polisi o dan adolygiad ar hyn o bryd fel rhan o’r polisi rheoli anghenion gofalwyr a fyddai’n cynnwys elfen o wyliau di-dâl, ac

·         eglurwyd y broses o ran y disgwyliad bod staff rhai adrannau penodol yn gorfod cyflawni dyletswyddau wrth gefn ar gyfer achosion lle byddai o bosib angen galw staff allan.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cymeradwyo’r polisïau cyflogaeth fel y nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer mabwysiadu yn y Cyngor, a

 

(b)       cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (atodiad i’r adroddiad) fel rhan o'u hystyriaethau.

 

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI’R TRYSORLYS 2017/18 pdf eicon PDF 199 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi'n amgaeedig) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ynglŷn â pherfformiad y swyddogaeth rheoli trysorlys ac yn dangos cydymffurfiad y Cyngor â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2017/18.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2017/18 a’i chydymffurfiaeth â’r dangosyddion darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2017/18 (Atodiad 1 yr adroddiad), a

 

(b)       chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi'n amgaeedig) adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar  berfformiad y swyddogaeth rheoli’r trysorlys ac yn dangos cydymffurfiad â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2017/18.

 

Wrth grynhoi'r adroddiad, cyfeiriodd y Cynghorydd Thompson-Hill at bwysigrwydd rheolaeth trysorlys a chyfeiriodd at y cefndir economaidd a'i effaith ar weithgareddau rheoli'r trysorlys.  Amlygodd y prif bwyntiau ar gyfer yr aelodau o ran gweithgaredd benthyca a buddsoddi a chadarnhaodd gydymffurfiad â’r holl ddangosyddion ariannol a osodwyd, gan dywys aelodau drwy’r dangosyddion hynny fel y’u manylir yn Atodiad B, a chadarnhau cymarebau priodol o ran costau ariannu a lefelau benthyca sydd ymhell o fewn y terfynau.   Cafwyd sicrwydd y defnyddir ymgynghorwyr allanol yn ogystal â swyddogion mewnol er mwyn sicrhau y cymerir y camau priodol er budd gorau’r Cyngor a bod diweddariadau rheolaidd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau cadarnhaodd Cynghorydd Thompson-Hill bod yr holl fenthyca ar gyfradd sefydlog drwy gydol cyfnod y benthyciad ac eglurodd hefyd y terfyn awdurdodedig a’r ffin weithredol a osodwyd ar gyfer dyled allanol.  Eglurodd y Pennaeth Cyllid/Swyddog A.151 strwythur aeddfedu benthyca cyfradd sefydlog er mwyn sicrhau lledaeniad rhesymol o aeddfedrwydd dyledion gyda therfyn penodedig o ran faint o ddyled sy’n aeddfedu o fewn cyfnod gosodedig.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi perfformiad swyddogaeth Rheoli’r Trysorlys y Cyngor yn ystod 2017/18 a’i gydymffurfiad â’r dangosyddion darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn adroddiad Rheoli’r Trysorlys Blynyddol 2017/18 (Atodiad 1 yr adroddiad), a

 

(b)       cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'u hystyriaethau.

 

 

9.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 311 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a

 

(b)       chymeradwyo diddymu dyled hanesyddol o £26,481.43.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllid y cytunwyd arni.  Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa ariannol y Cyngor –

 

·        cyllideb refeniw net y Cyngor ar gyfer 2018/19 yw £194.418m (£189.252m yn 2017/18)

·        Rhagwelir y bydd gorwariant o £0.811m ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol

·        nododd arbedion ac effeithiolrwydd a gytunwyd o £4.6m gan gynnwys y rhai a gyflawnwyd eisoes gan dybio y byddai'r holl effeithiolrwydd/ arbedion gwasanaeth yn cael eu darparu - byddai unrhyw eithriadau yn cael eu hadrodd i'r Cabinet os oes angen

·        amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r gwahaniaethau mewn perthynas â meysydd gwasanaeth unigol, a

·        darparwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol).

 

Gofynnwyd hefyd i’r Cabinet gymeradwyo dileu dyled hanesyddol sydd werth £26k yn  ymwneud â grant a                        or-haliwyd a gwaith ar eiddo sy’n dyddio'n ôl i 2011. 

 

Codwyd y materion canlynol wrth drafod –

 

·         Safle Glasdir – fel arfer y contractwr sy’n gyfrifol am gost mân waith atgyweirio (fel rhan o'r contract gwreiddiol) ac roedd y rhan fwyaf o'r gwaith y tynnwyd sylw ato wedi ei gwblhau dros fisoedd yr haf gyda rhywfaint o fan waith yn weddill a cheisiadau am rywfaint o waith ychwanegol wedi’u gwneud – cafwyd eglurhad ar y materion y byddai angen i’r ysgol eu noddi.

·           Mae cynlluniau i wella llwybrau cerdded a beicio i’r ysgol wedi eu hadnabod a bydd y rhain yn cael eu hariannu drwy Leoliadau y Tu Allan i’r Sir Llywodraeth Cymru - roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar y pwysau parhaus ar draws y rhanbarth a chadarnhawyd fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp i ystyried y materion hyn ymhellach.  Cynhyrchwyd adroddiad gan ADSS Cymru a CLlLC a oedd yn amlygu’r goblygiadau o ran costau a chynaladwyedd Gwasanaethau Plant yn y dyfodol, gan gynnwys costau lleoliadau.   Ystyriodd yr aelodau’r heriau sy’n wynebu’r awdurdod o ran diwallu anghenion cymhleth unigolion yn unol â’i ddyletswyddau statudol, a nodwyd na fyddai modd diwallu rhai anghenion penodol heblaw drwy ddarpariaeth arbenigol ar gost uchel dros ben y tu allan i’r sir.   Yr awdurdod fydd yn gyfrifol am y costau hyn ac nid yw’n hawdd darogan niferoedd.

·         Balansau Ysgolion – mae’r sefyllfa wedi sefydlogi fel y rhagwelwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf a rhagwelir cynnydd ym malans y diffyg yn gyffredinol.   Cafodd y sefyllfa ei monitro'n ofalus a gweithiodd swyddogion gyda’r ysgolion er mwyn sicrhau bod cynlluniau adfer cadarn yn eu lle; amlygwyd hefyd gyfrifoldebau rheolaeth ariannol Cyrff Llywodraethu ysgolion,

·         Bu gostyngiad yn y Grant Gwella Addysg gan Lywodraeth Cymru a rhagwelwyd gostau ymadael o £15k – mewn achosion lle daeth arian grant i ben daeth maes gwaith y grant hwnnw hefyd i ben, ond roedd yn rhaid i’r Cyngor dalu rhai costau a gododd yn sgil hynny, er enghraifft diswyddiadau.

·         Priffyrdd - amlygwyd effaith y gostyngiad yn y gwaith a’r ad-daliadau sy’n dod gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru a dywedodd y Cynghorydd Brian Jones y byddai’r swm yn cael ei addasu yn unol â hynny.

·         Arbedion cytunedig – o ran arbedion effeithlonrwydd a gytunwyd ar gyfer 2018/19, tra byddai rhai o’r arbedion hyn o bosibl yn cael effaith ar wasanaethau, ystyriwyd na fyddai effaith arwyddocaol ar ddarpariaeth gwasanaethau - byddai modd gwireddu'r holl arbedion gwyrdd a melyn heb gael effaith niweidiol ar wasanaethau rheng flaen – cytunodd y pennaeth Cyllid y byddai’n edrych a oedd dileu swydd Rheolwr Gwasanaeth (Cyf CSS E001) wedi’i gynnwys yn y gost ar gyfer ailstrwythuro’r Tîm  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 209 KB

Derbyn Blaenraglen Waith y Cabinet sy’n amgaeedig, a nodi'r cynnwys.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nodwyd y byddai’r eitemau a ganlyn yn cael eu hychwanegu at y rhaglen waith -

 

·         Dyfarniad grant ar gyfer caffaeliadau eiddo yn Rhodfa’r Gorllewin a Stryd Sussex yn y Rhyl - Hydref

·         Digartrefedd  - Cynllun Comisiynu Atal/Cefnogi Pobl – Rhagfyr

 

PENDERFYNWYD Nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Ar y pwynt hwn (11.30am) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

11.

DEWISIADAU AR GYFER GORFODAETH TROSEDDAU AMGYLCHEDDOL

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a'r Amgylchedd (copi’n amgaeedig) ynglŷn â’r dewisiadau ar gyfer gorfodi amgylcheddol yn y sir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi’r dewisiadau ar gyfer cyflawni camau gorfodi ar gyfer troseddau amgylcheddol yn yr adroddiad ac awdurdodi swyddogion i symud ymlaen â dewis 3 gyda chydweithwyr caffael i gaffael darparwr gwasanaeth allanol;

 

(b)       cytuno y dylai’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd gytuno ar gynnwys manyleb terfynol darpariaeth gwasanaeth gorfodaeth amgylcheddol ar ôl ystyried y fanyleb drafft gan y Pwyllgor Craffu, a

 

(c)        bydd swyddogion yn parhau i archwilio i’r cyfle i gydweithio yn rhanbarthol neu isranbarthol a rhoi gwybod i'r Pwyllgor Craffu am gynnydd y gwaith mewn chwe mis.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas adroddiad cyfrinachol yn rhoi manylion am opsiynau ar gyfer darparu gorfodaeth amgylcheddol yn y sir.

 

Rhoddwyd rhywfaint o gefndir am y gwasanaeth gorfodi blaenorol a ddarparwyd gan Kingdom Security Ltd a'r dull cydweithredol o daclo troseddau amgylcheddol drwy addysgu/codi ymwybyddiaeth y cyhoedd a glanhau strydoedd effeithiol gan arwain at amgylchedd lleol glanach.  Yn dilyn terfynu contract Kingdom Security Ltd yn gynnar, cwblhawyd gwerthusiad o opsiynau ar gyfer darpariaeth y dyfodol fel y nodwyd yn yr adroddiad.   Argymhellwyd ail-dendro’r contract ar gyfer darparu gorfodaeth mewn perthynas â throseddau amgylcheddol gan barhau i archwilio’r opsiwn o ateb cydweithredol rhanbarthol neu isranbarthol.

 

Ystyriodd y Cabinet y gwerthusiad o’r opsiynau a manteision ac anfanteision opsiynau unigol.  Pwysleisiwyd ar angen am ateb niwtral o ran cost ac eglurder ar y fanyleb ar gyfer darparu'r gwasanaeth, ynghyd â'r angen am fesurau priodol yn y cyfamser.  Mynegwyd ffafriaeth dros weithio rhanbarthol ond o ystyried yr amserlen berthnasol ystyriwyd mai priodol fyddai cefnogi’r opsiwn i ail-dendro er mwyn sicrhau na fyddai oedi gormodol yn narpariaeth gorfodaeth tra byddai ymarferoldeb opsiwn rhanbarthol yn cael ei archwilio.   O ystyried pwysigrwydd y fanyleb ar gyfer darpariaeth y gwasanaeth ac er mwyn i aelodau allu cyfrannu at y broses, cefnogodd y Cabinet gynnig gan y Cynghorydd Richard Mainon bod y fanyleb ddrafft yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor Craffu a chytunwyd hefyd y byddai'r Pwyllgor Craffu yn cael  adroddiad ar gynnydd o ran y cyfle i gydweithio’n rhanbarthol / isranbarthol.

 

 Wrth agor y drafodaeth i rai nad oeddent yn aelod o’r Cabinet mynegwyd pryderon y byddai ail-dendro i gwmni preifat yn achosi’r un problemau a brofwyd o dan y contract blaenorol a’r farn oedd y gellid arfer mwy o reolaeth dros ddarpariaeth y gwasanaeth drwy ddarpariaeth fewnol.   Cyfeiriwyd hefyd at y posibilrwydd o gyfuno'r holl wasanaethau gorfodi ar y stryd, gan gynnwys gorfodaeth parcio.  Soniodd yr Aelod Arweiniol a Phennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd unwaith eto am y goblygiadau sylweddol o ran cost a’r anawsterau recriwtio gyda darpariaeth fewnol  Eglurwyd y byddai manyleb ddiwygiedig ar ofynion y gwasanaeth yn cael ei llunio gan ystyried profiadau’r gorffennol ac adborth a gafwyd ac y byddai aelodau’n cael rhagor o fewnbwn i’r telerau hynny drwy’r broses graffu.  Eglurwyd mai pwrpas y contract fyddai mynd i’r afael â materion amgylcheddol ac nid gweithredu fel modd o gynhyrchu incwm.  Gellir ystyried cyfuno gwasanaethau gorfodi fel rhan o’r ailstrwythuro sydd ar ddod.  Roedd hefyd rywfaint o gefnogaeth dros gydweithio rhanbarthol, boed yn ddarpariaeth fewnol neu allanol, a dywedwyd wrth yr aelodau am y sefyllfa ddiweddaraf o safbwynt diddordeb a thrafodaethau gydag awdurdodau eraill Gogledd  Cymru.  Ni fyddai ymgynghoriad cyhoeddus ar yr opsiynau.   Trafododd yr aelodau hefyd ymgyrch addysgu a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd a’r posibilrwydd o ailgyflwyno’r arwyddion triongl mewn mannau lle mae baw cŵn yn broblem fawr, gyda chyfleoedd yn y dyfodol i weithio gyda gwasanaethau addysg mewn ysgolion.   Cytunodd yr aelodau i ystyried yr opsiynau hyn a hefyd i gysylltu â’r Heddlu o ran y posibilrwydd iddyn nhw gymryd camau gorfodi yn y cyfamser.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       Nodi’r opsiynau yn yr adroddiad ar gyfer camau gorfodi mewn perthynas â throseddau amgylcheddol ac awdurdodi swyddogion i symud ymlaen â dewis 3 gyda chydweithwyr yn yr adran gaffael er mwyn caffael darparwr gwasanaeth allanol;

 

(b)       Cytuno y dylai’r Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd gytuno ar gynnwys manyleb derfynol ar gyfer  darpariaeth gwasanaeth gorfodaeth amgylcheddol ar ôl ystyried y fanyleb ddrafft gan y Pwyllgor Craffu, a

 

(c)        swyddogion i barhau i archwilio’r cyfle i gydweithio yn rhanbarthol neu’n isranbarthol a rhoi gwybod i'r Pwyllgor Craffu am gynnydd  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

DARPARU SAFLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd (copi’n amgaeedig) ynglŷn â chynigion ar gyfer lleoliadau safleoedd preswyl a safleoedd tramwy i Sipsiwn a Theithwyr, ynghyd â materion cysylltiedig o ran cynllunio, ariannu a chyfathrebu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo cynnal ymgynghoriad cyn cynllunio a cheisiadau cynllunio llawn dilynol (gan ystyried canlyniadau’r ymarfer cyn cynllunio) ar gyfer safleoedd preswyl a theithiol Sipsiwn a Theithwyr ar y safle 'Green-gates Farm East' yn y lleoliadau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad, a

 

(b)       chymeradwyo cyflwyno ceisiadau cyllid i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chynigion ar gyfer safleoedd preswyl a/neu Sipsiwn a Theithwyr yn amodol ar roi caniatâd cynllunio yn unol â’r rhaglen a amlinellwyd ym mharagraff 4.11 yr adroddiad.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas adroddiad cyfrinachol am gynigion ar gyfer lleoliad safleoedd sipsiwn a theithwyr preswyl a thramwy i ddiwallu dyletswyddau statudol ynghyd â’r cynllunio, yr ariannu a’r materion cyfathrebu cysylltiedig.

 

Roedd yn ofynnol i Awdurdodau Lleol yng Nghymru gynnal Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr a gwneud darpariaeth os daw’r angen i wneud hynny i’r amlwg.   Yn sgil yr asesiad nodwyd bod angen un safle preswyl parhaol ac un safle tramwy ac mae'r asesiad yn cynnwys gwybodaeth am drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r posibilrwydd o gael safleoedd preswyl a thramwy agos at ei gilydd, gan nodi opsiynau i’w hystyried wrth symud ymlaen.  Cynigiwyd lleoli’r ddau safle yn Fferm Green-gates East ger Llanelwy ac i ymgynghori ar y cynnig hwnnw a chyflwyno ceisiadau ariannu i Lywodraeth Cymru er mwyn datblygu’r cyfleusterau arfaethedig yn amodol ar ganiatâd cynllunio.

 

Roedd y Cabinet yn cydnabod y cyfrifoldebau statudol o ran diwallu’r anghenion a ddynodwyd ac a gydnabyddir yn y gwaith cynhwysfawr a wnaed hyd yma.  Wedi ystyried hyfywedd y safleoedd a ddynodwyd, cefnogodd y Cabinet y cynnig bod y ddau safle’n cael eu lleoli yn Green-gates Farm East ac argymhellwyd camau ar gyfer diwallu’r amserlen ar gyfer gwneud cais am arian grant gan Lywodraeth Cymru.  Nodwyd bod llythyr y Gweinidog (gweler yr atodiad i’r adroddiad) yn darparu peth sicrwydd o ran cyllid ar gyfer y dyfodol.  Ymatebodd y Swyddogion i nifer o faterion a gododd y Cynghorydd Peter Scott ynghylch asesiadau hyfywedd safleoedd penodol a pham yr ystyriwyd bod Fferm Green-gates yn fwy addas na’r safleoedd eraill.   Gofynnodd y Cynghorydd Scott hefyd am sicrwydd y byddai ymgynghori cyhoeddus trylwyr yn digwydd a chadarnhaodd swyddogion y byddai’r broses ymgynghori cyn-cynllunio statudol yn berthnasol.

 

PENDERFYNWYD – bod y Cabinet yn

 

(a)       cymeradwyo cynnal ymgynghoriad cyn-cynllunio a cheisiadau cynllunio llawn dilynol (gan ystyried canlyniadau’r ymarfer cyn-cynllunio) ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr preswyl a thramwy ar y safle 'Green-gates Farm East' yn y lleoliadau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad, a

 

(b)       cymeradwyo cyflwyno ceisiadau cyllid i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chynigion ar gyfer safleoedd preswyl a/neu Sipsiwn a Theithwyr yn amodol ar roi caniatâd cynllunio yn unol â’r rhaglen a amlinellwyd ym mharagraff 4.11 yr adroddiad.

 

Pleidleisiodd Cynghorydd Richard Mainon yn erbyn y penderfyniad uchod.

 

 

13.

CASTELL BODELWYDDAN, BODELWYDDAN

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet o delerau gwerthu’r buddiant rhydd-ddaliadol yng Ngwesty Castell Bodelwyddan a rhan o’r ystâd, yn unol â’r manylion yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD –

 

(a)       dylai’r Cyngor werthu’r cysylltiad rhydd-ddaliad yng Ngwesty Castell Bodelwyddan ar y telerau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad;

 

(b)       dylai’r Cyngor werthu’r cysylltiad rhydd-ddaliad yn eiddo Ymddiriedolaeth Castell Bodelwyddan, (ac eithrio tir ar osod ar denantiaeth amaethyddol, y Porthdy a thir ar gyfer mynediad cyhoeddus) ar y telerau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad;

 

(c)        bod y Cyngor yn cadw’r maes parcio gwair-goncrid, yr ardal chwarae a’r Ffosydd Rhyfel ynghyd â phrydles 125 mlynedd y coetir.  Bydd yr ardaloedd hyn yn cael eu cynnal gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad gyda mynediad cyhoeddus;

 

(d)       bydd tir sydd ar hyn o bryd yn destun tenantiaeth amaethyddol yn cael ei gadw fel rhan o ddaliadaeth tir amaethyddol corfforaethol y Cyngor, a

 

(e)       bydd y porthdy bychan ar derfyn dwyreiniol y stad yn cael ei gadw gan y Cyngor nes ceir adolygiad o'i ddefnydd.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad cyfrinachol yn gofyn bod telerau gwerthu’r buddiant rhydd-ddaliadol yng Ngwesty Castell Bodelwyddan a rhan o’r ystâd ond gan gadw ardaloedd eraill ar gyfer mynediad cyhoeddus, yn cael eu cymeradwyo.

 

Rhoddodd y Cabinet awdurdod i swyddogion gychwyn trafodaethau ar werthiant Castell Bodelwyddan ym mis Gorffennaf 2017 ac roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o’r telerau dros dro y cytunwyd arnynt gyda'r prynwr.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cynigion ar gyfer cadw rhan o’r ystâd gyda’r bwriad o wella a datblygu mynediad cyhoeddus i’r ardaloedd hynny ac i gadw tir a oedd yn destun tenantiaeth amaethyddol, a’r porthdy.   Roedd manylion y goblygiadau ariannol wedi eu nodi yn yr adroddiad ac atebodd yr Aelod Arweiniol a’r Rheolwr Prisio ac Ystadau gwestiynau am y goblygiadau ariannol hynny; effaith y telerau gwerthu arfaethedig ar bob parti cysylltiedig â’r canlyniadau posib, a rheolaeth yr ardaloedd sydd i'w cadw gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad yn amodol ar achos busnes i’r Grŵp Buddsoddi Strategol.   Cytunodd yr aelodau hefyd i geisio darganfod a allai’r cynigion arwain at adfachu arian grant ar gyfer ffosydd  y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

PENDERFYNWYD –

 

(a)       Bod y Cyngor yn gwerthu’r buddiant rhydd-ddaliadol yng Ngwesty Castell Bodelwyddan am £1.2 miliwn ar y telerau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad;

 

(b)       Bod y Cyngor yn gwerthu’r buddiant rhydd-ddaliadol yn eiddo Ymddiriedolaeth Castell Bodelwyddan (ac eithrio tir ar osod ar denantiaeth amaethyddol, y Porthdy a thir ar gyfer mynediad cyhoeddus) am £500,000 ar delerau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad;

 

(c)        Bod y Cyngor yn cadw'r maes parcio a’r tir parc presennol, y lle chwarae a'r ffosydd Rhyfel Byd Cyntaf, ynghyd â phrydles 125 mlynedd ar gyfer y coetir.   Bydd yr ardaloedd hyn yn cael eu rhedeg gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad gyda mynediad cyhoeddus;

 

(d)       bydd tir sydd ar hyn o bryd yn destun tenantiaeth amaethyddol yn cael ei gadw fel rhan o ddaliadaeth tir amaethyddol corfforaethol y Cyngor, a

 

(e)       Bydd y porthdy bychan ar derfyn dwyreiniol y stad yn cael ei gadw gan y Cyngor hyd nes  y gwneir adolygiad o'i ddefnydd.

 

 

14.

TIR YN NHIRIONFA, FFORDD GALLT MELYD, RHUDDLAN

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth i ddiwygio telerau penderfyniad blaenorol y Cabinet ynglŷn â gwerthu’r safle.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       diwygio cyfran canrannol y dderbynneb cyfalaf gros a gafwyd gan y Cyngor fel a nodwyd yn yr adroddiad gan adlewyrchu’r tir glas sy’n cael ei werthu gan ein cyd-werthwr yn rhydd o unrhyw gyfyngiadau gan y Cyngor;

 

(b)       caniatáu ar gyfer cost ychwanegol darparu’r tai fforddiadwy ar y safle oherwydd yr ansicrwydd i’r dyfodol ynglŷn â’r grant tai cymdeithasol i gynorthwyo eu darparu, lleihad yng nghyfran canrannol y Cyngor yn amodol ar gwblhau cytundeb gorswm gyda’r prynwr yn y gwaith papur gwerthu fel a nodwyd yn yr adroddiad;

 

(c)        mae’r cynnig a gafwyd gan y prynwr arfaethedig wedi’i leihau trwy gytundeb i adlewyrchu presenoldeb costau datblygu annormal ar gyfer mynediad priffyrdd, draenio dŵr storm, amodau tir a mannau agored cyhoeddus ar y safle, a

 

(d)       nodi, oherwydd cymhlethdod y gwerthiant, bod angen amryw o ddogfennau ac er y bydd y Cyngor yn rhyddhau’r cyfamod ar y tir coch yn y pen draw ac y bydd y cydwerthwr/prynwr yn galluogi’r Cyngor i sicrhau hawl tramwy dros dir y cydwerthwr, sy’n debygol o fod y tir coch, ond efallai y tir gwyrdd, ac ymdrinnir â’r rhain mewn dogfennau ar wahân ac nid yn y Cytundeb Rhannu Tir.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth i ddiwygio telerau cymeradwyaeth blaenorol y Cabinet perthnasol i werthiant y safle.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am y newidiadau hynny i’r gwerthiant nad oeddent wedi’u cynnwys yng nghymeradwyaeth blaenorol y Cabinet ym mis Ionawr 2017, ynghyd â’r rhesymau y tu ôl i’r newidiadau sy’n angenrheidiol er mwyn symud ymlaen â’r gwerthiant.   Codwyd cwestiynau ynglŷn â nifer y consesiynau a wnaed a gofynnwyd am sicrwydd fod y telerau newydd hyn yn cynrychioli’r opsiwn gorau i’r Cyngor ar gyfer datblygu.  Cadarnhawyd bod y telerau newydd wedi deillio o drafodaethau cymhleth ac estynedig ac yr ystyrir mai’r rhain yw'r opsiynau gorau er mwyn sicrhau’r gwerth a’r manteision gorau i’r naill ochr a’r llall.  Atebodd Swyddogion hefyd gwestiynau gan aelodau lleol, y Cynghorwyr Ann Davies ac Arwel Roberts, yn ymwneud ag elfennau o'r datblygiad arfaethedig - rhai ohonynt y byddai angen rhoi sylw iddynt yn ystod y cam cais cynllunio.

 

PENDERFYNWYD – bod y Cabinet yn

 

(a)        diwygio siâr ganrannol y derbyniad cyfalaf gros a gafwyd gan y Cyngor fel y nodir yn yr adroddiad, gan adlewyrchu’r tir glas sy’n cael ei werthu gan ein cyd-werthwr yn rhydd o unrhyw gyfyngiadau gan y Cyngor;

 

(b)       caniatáu ar gyfer cost ychwanegol darparu’r tai fforddiadwy ar y safle yng ngoleuni’r ansicrwydd sydd ar hyn o bryd ynglŷn â grant tai cymdeithasol i gynorthwyo â’u darpariaeth,  gostyngiad yn siâr ganrannol y Cyngor o’r derbyniad yn amodol ar gwblhau cytundeb gorswm gyda’r prynwr yn y gwaith papur gwerthu, fel sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad;

 

(c)        mae’r cynnig a gafwyd gan y prynwr arfaethedig wedi’i leihau trwy gytundeb i adlewyrchu presenoldeb costau datblygu annormal ar gyfer mynediad priffyrdd, draenio dŵr storm, amodau tir a mannau agored cyhoeddus ar y safle, a

 

(d)       nodi, oherwydd cymhlethdod y gwerthiant, bod angen amryw o ddogfennau ac er y bydd y Cyngor yn rhyddhau’r cyfamod ar y tir coch yn y pen draw ac y bydd y cyd-werthwr/prynwr yn galluogi’r Cyngor i sicrhau hawl tramwy dros dir y cyd-werthwr, sy’n debygol o fod y tir coch, ond efallai'r tir gwyrdd, ymdrinnir â’r rhain mewn dogfennau ar wahân ac nid yn y Cytundeb Rhannu Tir.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.30pm.